Croeso i Ysgol Llanllechid!
Annwyl Rieni/Gwarcheidwaid,
Mae'n bleser o'r mwyaf gennyf gyflwyno'r llawlyfr hwn i'ch sylw gan estyn croeso twymgalon i’ch plentyn i’n hysgol. Os oes gennych blentyn/blant eisoes yma hefo ni yn Ysgol Llanllechid, yr un yw’r croeso a’r cyfarchion!
Yn y llawlyfr, ceisir egluro sut mae ein hysgol yn gweithio wrth sicrhau'r addysg o’r ansawdd orau posibl i'n disgyblion mewn awyrgylch ddeinamig, weithgar a hapus.
Credwn fod angen y gwerthoedd a’r sgiliau â ganlyn wrth ddatblygu i fod yn ddysgwyr llwyddiannus ac yn bersonoliaethau crwn:
• caredigrwydd - y naill at y llall,
• cwrteisi,
• goddefgarwch,
• tegwch a chyfle cyfartal,
• gwybod ystyr y gair parch, a’i ymarfer at eraill o bob lliw a llun, pell ac agos a beth bynnag fo'r hil, rhyw neu’r anabledd a hyrwyddo bywyd iach,
• dyfalbarhad – y gallu i ddal ati, hyd yn oed pan fo sefyllfaoedd yn anodd,
• gwydnwch,
• brwdfrydedd,
• bod yn benderfynol,
• cydweithio a gwrando
• dysgu
• canmol
• gweithio fel tîm
• rhyfeddu at
• creu
• rhoddi cymorth
Gan ein bod yn byw mewn byd technolegol sy’n datblygu ac yn newid yn barhaus, a llawer o swyddi’r dyfodol heb eu creu eto, arfogir y digyblion gyda’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer cymryd rhan ac arwain y gweithlu hwn.
Fe'ch anogir felly, i ymddiddori yn holl weithgareddau'r ysgol; yn ei gwaith ac yn ei gwahanol weithgareddau; yn y gymuned leol ac ar raddfa fyd-eang.
Gyda staff brwdfrydig a gofalgar, sy’n mynnu safonau uchel, gallwn gynnig profiadau penigamp i'r disgyblion yn yr ysbryd fod pob un ohonom yn dysgu ac yn datblygu yn barhaus.
Yr eiddoch,
Gwenan Davies Jones
Pennaeth