Newyddion Ysgol Llanllechid
Sgwennu Stori Aled Hughes
Her i ddisgyblion blynyddoedd Cyfnod Sylfaen ac Allweddol
Fedrwch chi sgwennu stori afaelgar ar thema "Y Llwybr Hud" heb ddefnyddio mwy na 500 gair?
Dyddiau cau: 25 Ionawr 2021
Aled Hughes - llun i Iau 9.00am
Cofiwch mai 3 categori - Cyfnod Sylfaen, sef 5-7 oed, Cyfnod Allweddol 2a, 7-9 oed, Cyfnod Allweddol 2b, 9-11 oed. Telerau ac amodau ar wefan bbc.co.uk/radiocymru
TikTok
Mae Heddlu De Cymru wedi cysylltu heddiw ynglŷn a rhywbeth newydd ar TikTok.
Mae TikTok yn annog defnydwyr i ymateb i film fer- “Megan is Missing”
Dangosir merch 14 oed yn cyfarfod a bachgen ar lein ac mae delweddau o drais rhywiol ac arteithio yn y ffilm.
Er nad yw y ffilm ar gael ar TikTok mae yr Ap yn annog ymateb i’r ffilm.
Yn ôl Heddlu De Cymru mae hwn yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd ymhlith plant ysgol.
Cadwch olwg amdano!
LLAIS OGWEN HYDREF 2020
Taith Moel Faban o Abergwyngregyn
Yng nghanol y cyfnod Covid, sy`n llusgo`n ddi-ildio yn ei flaen, beth allai fod yn well i`r enaid, na cherdded gyda disgyblion hynaf, aeddfed ein hysgol, ar hyd hen lwybr y pererinion, uwchben Traeth Lafan, a rhyfeddu at y golygfeydd godidog! Dyma brofi bryniau melynion y Carneddau ar eu gorau, ac er fod y tywydd yn anwadal, roedd hi`n wefr cael troedio`r llechweddau, a chyrraedd copa Moel Faban! Erbyn hynny, roedd yr wybren yn ddi-gwmwl, a Mynydd Mawr Caergybi i`w weld yn glir yn y pellter. Yn gefndir mawreddog i`r cyfan oll, oedd cadernid yr Elen, Carnedd Llywelyn, yr Ysgolion Duon a Charnedd Dafydd. Gwelsom Gwmpenllafar a`i `heddwch di-ystwr`; y darn barddoniaeth sydd wedi ei hoelio ar gôf a chadw`r disgyblion. Dyma beth yw addysg; dysgu am yr holl enwau a`r cyfoeth sydd wrth eu traed…‘fel y cedwir i`r oesoedd a ddel y glendid a fu’!
Braint yn wir! Pawb ohonom yn teimlo`n ddiogel o dan arweiniad Mr Stephen Jones, cwmni Anelu, a oedd yn llawn gwybodaeth a ffeithiau diddorol. Diwrnod i`w gofio!
Braf hefyd yw dysgu am y Carneddau drwy`r fideo gan Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, a`n Lloer Prysor ni yn serenu ynddo!
Diolch am y Pecynau Prysur
Llawer o ddiolch i Huw o Bartneriaeth Ogwen a ddaeth draw i`n gweld yn cludo rhoddion i rai o`n disgyblion. Fe`u dosbarthwyd i ddisgyblion dosbarth Ms Gwenlli Haf ac roeddent wrth eu boddau – a`r Nadolig wedi cyrraedd yn fuan! Diolch o galon!
Diolch
Llawer iawn o ddioch i deulu`r diweddar Caryl Jones am eu rhodd garedig i Ysgol Llanllechid i gofio am wraig arbennig iawn. Mae gennym i gyd atgofion melys am Caryl, ac anfonwn ein cofion a`n cydymdeimlad dwys at y teulu a`r ffrindiau i gyd. Mawr ddiolch.
Cofion
Anfonwn ein cofion at Mr Alick Macdonald a dymunwn wellhad buan iddo, Cofio at Mrs Macdonald hefyd.
Croeso`n ôl
Croeso cynnes yn ôl i Anti Gillian ac i Mr Ady i`r tîm glanhau. Braf eich cael yn ol yma hefo ni! Diolch I mr Gavin am ei holl waith da diweddar.
Croeso`n ôl
Croeso cynnes yn ôl i Anti Gillian ac i Mr Ady i`r tîm glanhau. Braf eich cael yn ol yma hefo ni! Diolch I mr Gavin am ei holl waith da diweddar.
Ffurflen Rhowch gariad mewn Bocs
Cliciwch yma i lawr lwytho'r daflen wybodaeth a'r ffurflen
Llythyr gwybodaeth
Cliciwch yma i lawr lwytho llythyr gwybodaeth
Mynediad i Ysgol Gynradd Medi 2021
Cliciwch yma i lawr lwytho dogfen Mynediad i Ysgol Gynradd Medi 2021
Llyfr Mawr y Plant
Mae rhai o’r plant ieuengaf wedi bod yn hynod brysur yn darllen ac astudio Llyfr Mawr y Plant. Dyna hwyl a gafwyd yn gwneud ffisig i Wil Cwac Cwac!
Caban Ogwen
Do, cyrhaeddodd y cabanau newydd sbon yn ystod gwyliau’r haf;ac roedd hi’n syndod eu gweld yn hongian yn yr awyr, wrth gael eu cludo i’w lleoliad newydd ym mhen draw’r buarth! Dyma’r ddarpariaeth newydd ar gyfer y Cylch Meithrin, Clwb Cinio a’r Clwb ar ôl Ysgol. Am fwy o fanylion cysylltwch â 07786855333.
Capsiwl Amser
O dan yr hen gabanau pren roedd capsiwl amser wedi ei greu gan ddisgyblion Mr Huw Edward Jones a Ms Hanna Huws ar y 5ed o Fai, 2005, sef dyddiad yr etholiad cenedlaethol, pan gafodd Tony Blair ei ethol am y trydydd tro. Dyna hwyl oedd cael agor y capsiwl a chraffu ar ei gynnwys!
Roedd rhai o’r disgyblion wedi ysgrifennu darnau yn 2005 o dan y teitl “Goriad Fy Nyfodol” oedd yn rhagfynegi beth fyddent yn ei wneud i’r dyfodol. Dyma ddywedodd Hedd Lewis Roberts, disgybl Bl 6 ar y pryd, “Gwelaf fy nheulu yn hapus yn Pesda Roc yn yfad coca cola, bwyta cwn poeth a byrger…Teimlaf handlan drws fy nhŷ yn Ffarm Corbri, lle ydwi’n byw hefo fy ngwraig a fy mhlentyn. Clywaf fy ffrindiau yn Chwarel Penrhyn yn chwerthin, a dwi’n gweithio yno.”
Meddai Lois Eluned Williams, “Dwi’n eistedd hefo fy nheulu yn Dinas Dinlle, yn bwyta sglodion. Gwelaf fy hen ffrind ysgol Zoe, gyda ei phlentyn bach! Mae fy mhlentyn bach i yn chwarae yn y dŵr. Gwelaf fy hun yn teithio yn y car i Ysgol Llanllechid i wethio.”
Wrth edrych i’r dyfodol, meddai Llinos Mai Hughes,
“Dwi dal i fyw yn Pesda efo fy nghariad. Dwi’n byw mewn bwthyn bach hardd a blodeuog, ac mae pwll nofio yn yr ardd.”
Meddai Llinos Bolton,”Gwelaf fy hun yn chwarae rygbi i Fethesda a fi ydi’r capten! Yn y tim hefyd mae Gwenllian, fy ffrind gorau. Dwi yn nyrs i blant yn Ysbyty Gwynedd.”
Y Chwalfa Fawr
Yn ystod gwyliau’r haf cafodd yr hen gabanau, oedd wedi bod yn rhan annatod o’r ysgol ers yr holl flynyddoedd, eu dymchwel. Ac, oedd, roedd hi’n chwalfa fawr!!
Gwellhad Buan
Anfonwn ein cofion at ŵr Mrs Macdonald, Mr Alick Macdonald a dderbyniodd driniaeth yn ddiweddar yn yr ysbyty. Dymunwn wellhad buan hefyd i Mrs Macdonald ac edrychwn ymlaen at eich crosawu yn ôl i’r gwaith yn y gegin yn fuan.
I Gofio’n Annwyl am Ms Lliwen
Ar Fedi 23, roeddem yn cofio am Ms Lliwen, gan fod y diwrnod hwn yn dynodi ei phenblwydd yn ddeugain oed. Anfonwn ein cofion cynhesaf at y teulu i gyd, yn eu hiraeth, o fod wedi colli gwraig ifanc, oedd mor arbennig. Anfonwn ein cofion cynhesaf atoch fel ysgol.
Penodiadau
Croeso cynnes i Mr Llywelyn, sydd yn gweithio fel athro yn yr Adran Iau. Mae’n bleser cael cydweithio hefo Mr Llywelyn! Croeso hefyd i’r cymorthyddion sydd wedi ymuno hefo ni o’r newydd, sef Ms Chloe Simmonds, Mr Iwan Jones a Ms Lois William; y tri ohonynt yn gaffaeliad mawr i’n tîm!
Croeso’n ôl
Croesawn ein disgyblion a’u teuluoedd yn ôl i Ysgol Llanllechid, i wynebu trefniadau tra gwahanol y mis Medi hwn. Rydym yn parhau i weithredu yng nghysgod Covid 19, ac yn ddiolchgar iawn i’r rhieni am eu cydweithrediad parod, wrth i ni ymateb i’r holl ofynion newydd. Croeso cynnes i chi i gyd, a chroeso arbennig i’n disgyblion Meithrin, ac i’r disgyblion hynny sydd wedi trosglwyddo atom ar draws yr ysgol.
Bwydlen Ysgol a Calendr Cinio Ysgol 2020 - 2021
Cliciwch yma i lawr lwytho Bwydlen Ysgol 2020-2021 a Calendr Cinio Ysgol 2020-2021
GWYBODAETH BWYSIG
13.07.20 Dach chi'n nabod rhywun sy' isio dysgu neu wella eu Cymraeg?
Mae 'na gyrsiau newydd yn dechrau ym mis Medi - I gael 50% oddi ar ffî y cwrs, cofrestrwch erbyn diwedd Gorffennaf!
Defnyddiwch y côd disgownt CYW20 pan fyddwch chi'n cofrestru.
Ewch i www.dysgucymraeg.cymru am fwy o wybodaeth ac i gofrestru.
09.07.20 Llythyr
Llythyr Rieni/ofalwyr plant ysgolion Gwynedd
Hunaniaith: Menter Iaith Gwynedd
Gweithdy Gwyddoniaeth Sbarduno CA2
Arbrofi o Adra: Gwneud Roced
Dyma arbrofion y gall plant 7 – 11 oed eu gwneud ar ben eu hunain gan ddefnyddio pethau sydd gan lawer yn y tŷ.
Tîm Chwaraeon Am Oes Meirionnydd - Wythnos 9
Sialens wythnos 9! Ymarferion ffitrwydd gyda Begw ac Enya! Cofiwch ymarfer lot, mae'n ychydig mwy heriol wythnos yma! Pob lwc a phob hwyl
Cynllun Dysgu Adref - Wythnos 11
Cynllun Dysgu Adref - Tymor yr Haf - Wythnos 11
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y Cynllun Dysgu Adref - Wythnos 11
Croeso’n ôl
Bydd Mehefin 29 yn ddiwrnod a fydd yn aros yn y côf am amser maith; hwn yw’r dyddiad y bydd rhai o’n disgyblion yn cael eu croesawu yn ôl atom am y tro cyntaf ers mis Mawrth. Mae’r holl baratoadau erbyn hyn wedi eu cwblhau, a’r cyfan sydd ar ôl rwan yw edrych ymlaen at fore Llun! Croeswn ein bysedd am ddiwrnod heulog! Edrychwn ymlaen hefyd at groesawu Miss Zoe yn ôl yn dilyn ei habsenoldeb mamolaeth.
Gwellhad Buan
Dymuniadau gorau i Effy! Mae’n braf dweud bod Effy yn gwella ar ôl ei llawdriniaeth ddiweddar yn Ysbyty Gwynedd.
Y Cyfnod Clo
Mae’r cyfnod clo yn parhau i lusgo ymlaen, ac er fod Mark Drakeford wedi llacio rhywfaint ar y cyfyngiadau, parhau mae’r angen i ymddwyn yn gyfrifol; cadw pellter a chadw yn lleol, er mwyn cadw`n iach. Ac, er bod y rheolau yn wahanol drost y ffÎn, ynfydrwydd llwyr oedd y golygfeydd ar y teledu yn ddiweddar lle roedd y traethau yn berwi o bobl, a ninnau’n syllu arnynt yn syfrdan! Do, achosodd cael haul crasboeth ddiwedd Fehefin i’r torfeydd ymgasglu, ac nid yr haul yn unig a ddenodd y torfeydd; erys achos ysgytwol George Floyd am byth, ac yn sgil y digwyddiad creulon, a esgorodd ar brotestio byd eang, llithrodd rheolau Covid. (Braf yw nodi bod y protestiadau lleol wedi cael eu trefnu yn ofalus a`r digwyddiadau wedi bod yn llwyddiant, gan barchu rheolau ymbellhau.) A beth am lwyddiant diweddar tÎm pel- droed Lerpwl? Mrs Nerys Tegid wrth ei bodd, a Mrs Rona Williams ddim mor siwr! Yn naturiol, bu dathlu, ac am ennyd, covid19 yn cael ei anghofio! Pwy sydd yn sôn am ail don `dwch?!
Arwyddion o Obaith
Da iawn chi blantos a fu wrthi`n brysur yn gwneud lluniau enfys. Mae torreth ohonynt wedi cael eu gosod ar ffenestri yng nghyntedd Ysbyty Gwynedd i gydnabod gwaith ein gweithwyr allweddol. Mae’n llonni calonnau pawb sy’n mynd a dod, ac yn sicr yn arwydd o obaith. Da iawn chi!
Caredigrwydd
Mae cymaint o garedigrwydd ymysg cymuned yr ysgol a diolchwn i bawb am fod yno yn ein cefnogi. Rydym ninnau yma hefyd, wrth gwrs, i gynnig help llaw. Diolch arbennig i Jake am wneud cacen ac am fynd â hi draw at Anti Heather i sgwar Rachub, gan gadw pellter! Roedd Anti Heather wrth ei bodd! Da iawn ti Jake!
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i Elain Haf Owen, Gruff Beech a Dylan Billington am ddod i’r brig mewn cystadleuaeth ffitrwydd Gwynedd! Llongyfarchiadau gwresog, a daliwch ati i gadw`n heini! Mae`r tystysgrifau ar y ffordd i chi!
Windrush a Dinasyddiaeth
Mehefin 22 oedd diwrnod Cenedlaethol ‘Windrush.’ Roedd y disgyblion wedi rhyfeddu at y ffaith fod hanner miliwn o bobl wedi teithio i Brydain o’r CaribÎ rhwng 1948-1971 ar longau, gydag un o’r llongau hynny yn dwyn yr enw Empire Windrush. Daeth hyn ag atgofion pleserus i ni am yr amser pan aeth rhai o`r disgyblion hynaf o Ysgol Llanllechid i ymweld â Chaerdydd i wethfawrogi a dysgu am gyfraniad pobl y CaribÎ mewn cymunedau. Yn ystod ein taith, cafwyd cyfle i ymweld â chymuned aml ddiwylliannol Trebiwt, a gafodd ei sefydlu cyn cyfnod y Windrush, a chyfle i gyfarfod (â’r diweddar) Betty Campbell, sef arweinydd a phrifathrawes groenddu gyntaf Cymru. Pleser oedd gwrando ar ei storiau difyr. Dywedodd bod pobl o’i chwmpas yn dweud wrthi na fyddai byth llwyddo, oherwydd lliw ei chroen, ond roedd gan Betty Campbell dân yn ei bôl a`r cysyniad o degwch yn ei chalon. Pan feddyliwn am yr ymgyrchoedd diweddar, cofiwn am Betty Campbell fel dynes cyn ei hamser, a ddysgodd ei chyd-ddyn i barchu gwahaniaeth mewn pobl, yn hytrach na`i feirniadu. Gwersi pwysig i’n plantos ni heddiw!
Cefyn Burgess
Mae rhai o blant blwyddyn 3, sef dosbarth Mrs Marian Jones, wedi bod yn brysur yn efelychu gwaith yr artist dawnus Cefyn Burgess, drwy ddarlunio rhai o gapeli’r ardal. Dyma i chi luniau o gapel Carmel a chapel Jeriwsalem.
Diolch
Diolch yn fawr i’r holl staff am eu gwaith caled a`u holl ymdrechion. Dymuniadau gorau i bawb dros yr haf, ac edrychwch ar ôl eich hunain a chadwch yn saff, ac fel sy`n cael ei ddweud yn aml y dyddiau hyn: Daw eto haul ar fryn!
Tîm Chwaraeon Am Oes Meirionnydd - Wythnos 8
Sialens wythnos 8! Amser mabolgampau gyda James a Leighton! Pob hwyl
Cynllun Dysgu Adref - Wythnos 10
Cynllun Dysgu Adref - Tymor yr Haf - Wythnos 10
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y Cynllun Dysgu Adref - Wythnos 10
22.06.2020 Llythyr At Rieni / Gofalwyr Plant Ysgolion Gwynedd
22.06.20 Llythyr At Rieni / Gofalwyr Plant Ysgolion Gwynedd - cliciwch yma
Tîm Chwaraeon Am Oes Meirionnydd - Wythnos 7
Sialens wythnos 7! Ymarferion ffitrwydd gyda Morus o Ysgol Bro Hedd Wyn ac Nia o Ysgol Craig Y Deryn wythnos yma! Phob hwyl i bawb!
Cliciwch yma i weld tudalen Facebook Tîm Chwaraeon Am Oes
Cynllun Dysgu Adref - Wythnos 9
Cynllun Dysgu Adref - Tymor yr Haf - Wythnos 9
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y Cynllun Dysgu Adref - Wythnos 9
Cynllun Dysgu Adref (Saesneg yn unig...)
Picture News pack (attached) to use to support learning for children
Cynllun Dysgu Adref - Wythnos 8
Cynllun Dysgu Adref - Tymor yr Haf - Wythnos 8
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
15.06.20 Llythyr At Rieni/Gofalwyr Plant Ysgolion Gwynedd
15.06.20 Llythyr At Rieni/Gofalwyr Plant Ysgolion Gwynedd
15.06.20 Canllaw I Rieni/Gofalwyr Plant Ysgolion Gwynedd
Cyfres Newydd Stwnsh
HOLIADUR I RHIENI
... yn sgil y penderfyniad i ail-agor ysgolion ar y 29ain o Fehefin
Holwn yn garedig i chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen hon cyn gynted ag y bo modd a dim hwyrach na 10 o’r gloch, ddydd Mawrth 9fed Mehefin.
Llythyr - Y Gweinidog Addysg
Llythyr gan Kirsty Williams AC/AM, Y Gweinidog Addysg
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Adeilad Newydd
Cludo adeilad newydd drwy Maes Bleddyn i Ysgol Llanllechid ar Fehefin 18 a 19.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cynllun Dysgu Adref - Wythnos 6
Cynllun Dysgu Adref - Tymor yr Haf - Wythnos 6
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Cynllun Dysgu Adref Wythnos 6
Llwyddiant yn Eisteddfod T
Roedd Eisteddfod T eleni yn wahanol iawn i`r arfer; Eisteddfod a oedd yn gofyn am sgiliau technolegol o`r radd flaenaf oedd hon, yn ogystal â`r gallu i berfformio i safon uchel! A dyna`n union y llwyddwyd i`w gyflawni gan rai o ddisgyblion Ysgol Llanllechid wrth iddynt ganu Ar hyd y Nos! Llongyfarchiadau gwresog felly i`n grwp Ensemble Lleisiol sef Gwenno, Erin, Seren, Mali, Angharad, Gruff, Casi Gwawr, Elliw a Llinos ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod T. Proses wahanol oedd canu ar eu haelwydydd i ddechrau, cyn trosgwlyddo`r cyfan i ddwylo medrus Mrs Delyth Humphrey, a`u hyfforddodd. Roedd hi`n fraint eich gweld yn ymddangos ar y teledu, a`r gwaith caled wedi dwyn ffrwyth! Da iawn chi! Profiad a hanner! Llongyfarchiadau gwresog!
Cân i gofio am Ms Lliwen
Edrychwn ymlaen fel ysgol at y cyfle i ganu cân Ms Lliwen, ar ôl y cyfnod hwn, a diolch i Mr Griffith Richard Williams, tad Mrs Humphreys, am ysgrifennu`r geiriau teimladwy.
Gwnewch bopeth yn Gymraeg!
Dyna oedd y gân yr oedd disgyblion Ysgol Llanllechid yn awchu i`w chlywed ar Radio Cymru, ar ôl mynd ati i`w dysgu ar gyfer ein cyngerdd Gwyl Ddewi. Mwyniant pur oedd gwrando arni ar raglen Swyn y Sul gyda Sioned Webb. Diolch i Hogiau Llandygai am ein hysbrydoli! Bythol wyrdd!
Cyfnod Cofid
A ninnau fel ysgol yn dal ati i fod yn Ganolfan Warchod yn ystod yr amser od ar y naw yma, diolchir i bawb am eu cymorth a`u hynawsedd. Diolch i chi rieni sy`n gweithio yn Ysbyty Gwynedd ac yn y gymuned am eich gwaith amhrisiadwy ac am eich geiriau caredig a`ch caredigrwydd tuag atom yma. Diolch i chithau hefyd sy`n cerdded ar hyd Lon Fach Odro am ddod i ddweud helo wrthym, drwy`r ffens, gan gadw lled braich a braf yw gweld Mrs Helen Williams yn cerdded am ei dro dyddiol gyda`i mab, Mr Dafydd Williams. Mae`r cyfnod yn parhau i lusgo yn ei flaen, a heulwen gynnes, ddyddiol mis Mai yn lleddfu rhywfaint ar ein caethiwed. Cafwyd cyfnodau o arddio ac eistedd o dan ein coeden geirios hardd odiaeth, yn gwrando ar suo`r gwenyn a`r adar yn pyncio, a hynny o dan awyr ddigwmwl. Mae`n gyfnod i aros ac oedi, a chyfnod sy`n rhoi cyfle i werthfawrogi cyfoeth byd natur o`n cwmpas; a`r cyfan tra pery`r bwgan bygythiol i ddangos ei ddannedd, nepell oddi wrthym.
Dinasyddion Byd-Eang
Ar y pedwerydd ar bymthegfed o Fai, roedd delwedd Google, a ymddangosodd ar ein cyfrifiaduron i gyd, yn golygu llawer i ni yma yn Ysgol Llanllechid. Ydych chi’n cofio’r llun du a gwyn? Gwr ar ei liniau mewn gorsaf drenau yn Harwich, yn derbyn plant bach o Iddewon o Ewrop; plant lle cyfarfyddodd eu rheini â marwolaeth erchyll yn Auschwitz. Llwyddodd Nicholas Winton i achub 669 o blant, o grafangau milain y Natsiaid, yn 1938, drwy drefnu cludiant iddynt ar drenau o Prague i Lundain. Llwyddodd hefyd i ddarganfod llety i bob un ohonynt, ymhell ac agos, gan bobl oedd yn fodlon agor eu cartrefi i gynorthwyo yn yr ymgyrch o sicrhau dyfodol i’r rhai bach hyn.
Fel rhan o raglen waith Dinasyddiaeth Fyd Eang, astudiodd ein disgyblion yr hanes a chael eu cyfareddu, a sylweddoli ar y pryd, fod y gŵr rhyfeddol hwn ar dir y byw; er mewn cwth o oedran. Aethpwyd ati i ddylunio cerdyn penblwydd anferth iddo, o dan arweiniad Ms Hanna Huws, a derbyniodd y disgyblion lythyr diolchgar gan ei ferch.
Meddai Gwydion Rhys, “Mae’r hanes wedi aros hefo fi a gwnaeth argraff fawr arnaf.”
Roedd y disgyblion wedi dotio at y ffaith na wnaeth Nicholas Winton yngan gair am ei weithredoedd am bron i hanner can mlynedd! Roedd y ffordd y bu iddo wneud safiad yn enw daioni; ei ddewder a’i flaengarwch yn ysbrydoli pawb ohonom.
Ychwanegodd Mr Gareth Ffowc Roberts, “Roeddwn yn adnabod Heini Halberstam, un o’r plant a achubwyd gan Nicholas Winton pan oedd yn Athro Mathemateg ym
Mhrifysgol Nottingham yn y chwedegau.”
Cofiwn am Nicholas Winton fel dyn a weithredodd yn erbyn yr holl rwytrau a wynebai, er mwyn helpu ei gyd-ddyn mewn cyfnod o ormes, ffieiddra ac anghyfiawnder.
Croeso
Croesawn Mr Gethin Thomas atom i`r dalgylch fel prifathro ar Ysgolion Penybryn ac Abercaseg. Yn yr un modd, croesawn Mrs Llinos Williams, sy`n cymryd yr awennau yn Ysgolion Tregarth ac Abercaseg. Pob dymuniad da! Dymunwn yn dda hefyd i Mrs Lliwen Jones, sydd ar hyn o bryd ar gyfnod mamolaeth.
Cydymdeimlo
Anfonwn ein cofion a’n cydymdeimlad at Mr a Mrs Dilwyn Pritchard a Mr a Mrs Emlyn Williams, ar eu profedigaeth o golli Mrs Dorothy Williams yn ddiweddar. Cydymdeimlwn hefo teulu Anti Gillian a’r teulu ar golli Mr Islwyn Jones, taid annwyl Cynan. Yn ogystal, cydymdeimlwn â Ms Elen Clwyd Evans ar golli ei nain. Cofion atoch i gyd ac at eich teuluoedd.
Diwydrwydd yn y Cartrefi
Chawrae teg i`n disgyblion am fod wrthi`n ddygn yn eu cartrefi yn cwbwlhau pob math o dasgau! Dyma i chi luniau o rai ohonynt yn dangos eu creadigrwydd:
CYSTADLEUAETH i Gartrefi Gwynedd
Lluniwch boster
'Diolch i Heddlu Gogledd Cymru' am ein cadw'n saff
Rhowch y poster yn ffensest amlwg eich ty
Tynnwch lun ohono a'i anfon i dudalen Facebook Hunaniath
Tîm Chwaraeon Am Oes Meirionnydd - Wythnos 3
Annwyl [ysgol]
Hoffem roi gwybod i chi am lansiad Tu Fas Tu Fewn Sustrans, adnodd am
ddim i helpu rhieni sy’n edrych ar ôl eu plant gartref.
Mae cerdded, beicio a sgwtera’n ffyrdd gwych o gadw’n iach ac yn egnïol yn
gorfforol ac yn feddyliol. Yn ystod y cyfnod hwn, pan fo angen inni aros gartref
ar y cyfan, mae’n anoddach gwneud y gweithgareddau hyn.
Mae Tu Fas Tu Fewn Sustrans yn cynnig syniadau hwyliog ac ysbrydoliaeth i
rieni er mwyn cynnwys gweithgareddau addysgol, iechyd a llesiant yn eu
cartrefi.
Gall rhieni ddefnyddio’r adnoddau trwy gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr
rhieni am ddim. Dros bedair wythnos, byddant yn derbyn fideos,
gweithgareddau ar thema, gemau a heriau wedi’u cynllunio gan ein
swyddogion ysgolion profiadol.
Os ydych chi’n meddwl y gallai’r adnoddau hyn fod yn ddefnyddiol i’ch
disgyblion sy’n cael eu haddysgu gartref, rhowch wybod i rieni amdanynt.
Rhannwch y ddolen gofrestru gyda rhieni a gofalwyr:
www.sustrans.org.uk/campaigns/outside-in/tu-fas-tu-fewn-sustrans/
Mae mwy o wybodaeth ar y wefan
www.sustrans.org.uk/campaigns/outside-in/sustrans-outside-in-information/tu-fas-tu-fewn-sustrans-gwybodaeth/
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag
education@sustrans.org.uk
Dymuniadau gorau gan Sustrans
Cynllun Dysgu Adref - Wythnos 5
Cynllun Dysgu Adref - Tymor yr Haf - Wythnos 5.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Cynllun Dysgu Adref
Tîm Chwaraeon Am Oes Meirionnydd - Wythnos 2
Cystadleuaeth Ffitrwydd Cynradd
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am cystadleuaeth ffitrwydd cynradd
Cynllun Dysgu Adref - Wythnos 4
Cynllun Dysgu Adref - Tymor yr Haf - Wythnos 4.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Cynllun Dysgu Adref
Cystadleuaeth Ffitrwydd Cynradd
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am cystadleuaeth ffitrwydd cynradd
Cliciwch yma am fideos cystadleuaeth ffitrwydd cynradd
CRIW CELF 2020
Adnabod plant a phobl ifanc sy'n disgleirio mewn celf a chrefft?
Pam ddim eu henwebu ar gyfer CRIW CELF 2020
Cynllun Dysgu Selog - Wythnos 3 Tymor yr Haf
DAW ETO HAUL AR FRYN
YMUNWCH Â CYDAG CYNRADD A CYNNAL AR GYFER PROSIECT TYFU BLODYN HAUL 2020
Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2
Dyddiad cychwyn Rhwng
4/05/20 a 8/05/20
Bydd gwobr i’r Blodyn Haul Talaf, y Blodyn Haul â’r mwyaf o betalau a’r Blodyn Haul â’r arwynebedd/diametr mwyaf.
Y tri enillydd i ddewis rhwng gwerth £30 o dalebau iTunes neu Amazon.... Cliciwch yma
Cynllun Dysgu Selog - Wythnos 2 Tymor yr Haf
CYFLENWAD WCW I YSGOLION – misoedd Ebrill a Mai
Yn amlwg, mae’r feirws a’r cyfyngiadau wedi effeithio ar ein gallu i ddosbarthu cylchgrawn WCW a’i ffrindiau.
Dyma egluro felly beth yw ein cynlluniau ar gyfer cyflenwi maes o law.
WCW – y misoedd nesa’
- Oherwydd y feirws corona a’r ffaith fod ysgolion wedi cau, fyddwn ni ddim yn cyhoeddi WCW a’i ffrindiau yn ystod y ddau fis nesa’ (gan ystyried y sefyllfa ar ôl hynny).
- Byddwn yn parhau i baratoi’r deunydd a’r bwriad ydi cyhoeddi rhifynnau arbennig mwy, neu lyfryn, ar ddiwedd hyn i gyd i wneud iawn am y misoedd coll.
Bydd gwybodaeth am eitemau “am ddim” yn y cyfamser yn cael ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol … byddai’n dda petae modd cyfeirio rhieni at y cyfeiriadau isod:
Dilynwch ni am fwy o wybodaeth: Facebook: @cylchgrawnwcw / Twitter: @wcwaiffrindiau / Instagram: @wcw_ai_ffrindiau
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.
Mewn Cymeriad
Lawnsio adnoddau Mewn Cymeriad – Sianel Youtube newydd cliciwch yma
PWYSIG
Rhaglen wrthderfysgaeth Prevent a mesurau diogelu ehangach yn ystod yr Argyfwng COVID
Cynllun Dysgu Selog - Wythnos 1 Tymor yr Haf
ENFYS

Coronafeirws: Llyfr i blant
Ydych chi’n chwilio am lyfr sy’n egluro’r coronafeirws mewn ffordd ddealladwy a syml i blant oedran cynradd? Dyma addasiad Cymraeg Atebol o lyfr gwybodaeth AM DDIM cwmni cyhoeddi Nosy Crow, sydd wedi ei ddarlunio gan ddarlunydd llyfrau Gruffalo, Axel Scheffler.
Cliciwch yma am y llyfr Coronafeirws: Llyfr i blant
Her Cer Amdani
Her i chi blantos!
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Darpariaeth ofal mewn ysgolion i blant i rieni/warcheidwaid sydd yn weithwyr allweddol - Covid-19
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Neges gan Siân Gwenllian AC – Gweinidog Cysgodol Addysg a’r Gymraeg
Gair syml i DDIOLCH O GALON sydd gennyf am bopeth yr ydych yn ei wneud dros ein plant a’n pobl ifanc.
Oherwydd eich gweithredoedd chi yn cadw’r ysgolion ar agor, mae ein gweithwyr allweddol wedi gallu parhau i weithio.
Gwn fod teuluoedd yn gwerthfawrogi yr holl adnoddau ar-lein a’r gefnogaeth sydd ar gael fel bod ein disgyblion yn parhau i ddysgu.
Gwn hefyd eich bod yn gwneud eich gorau glas i ymestyn allan at y disgyblion mwyaf bregus yn y cyfnod hwn gan gynnwys y rhai na fydd yn elwa o gefnogaeth deuluol.
Diolch hefyd am ddarparu prydau bwyd maethlon i blant dros y cyfnod diwethaf ac yn ystod gwyliau’r Pasg – gwasanaeth pwysig iawn.
Dymunaf pob nerth i chi barhau â’ch gwaith pwysig dros y cyfnod pryderus sydd o’n blaenau.
TRAIS YN ERBYN MERCHED,TRAIS DOMESTIG, A THRAIS RHYWIOL
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn awyddus i ni fel adran addysg , rhoi gwybodaeth am fudiadau Cymorth Trais Domestig yng Ngwynedd i bawb sydd yn defnyddio ein gwasanaeth.
Mae yr amser yma yn un peryg iawn o ran y posibilrwydd o drais yn erbyn merched, trais domestig a thrais rhywiol.
Mae teuluoedd yn aros adref drwy’r amser a materion ariannol yn ansicr.
Gofynnir i bob ysgol sydd ar agor, rhoi gwybodaeth i staff ac unigolion sydd yn defnyddio ein gwasanaethau, fod mudiadau cymorth lleol a chenedlaethol yn gweithio fel arfer.
GORWEL Gwynedd 03001112121
Llinell Cymorth Byw Heb Ofn (Live Fear Free Helpline) 08088010800
Cystadleuaeth Llunio Fy Stryd
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Llythyr i Ysgolion gan Y Gweinidog Addysg
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Urdd Gobaith Cymru yn cyhoeddi camau mawr oherwydd Coronafeirws
Oherwydd y sefyllfa bresennol yng Nghymru o ran Coronafeirws, mae Urdd Gobaith Cymru yn cymryd y camau canlynol er mwyn iechyd a lles aelodau, staff a gwirfoddolwyr.
Bydd yr Urdd yn:
- Cau ei dri gwersyll (Llangrannog, Caerdydd a Glan-llyn) i holl weithgareddau preswyl o ddydd Gwener 20 Mawrth 2020 nes bydd rhybudd pellach
- Canslo holl Eisteddfodau lleol a rhanbarthol
- Gohirio Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych tan 2021
- Canslo pob cystadleuaeth chwaraeon cenedlaethol
- Canslo pob gweithgaredd cymunedol nes bydd rhybudd pellach
Bydd Eisteddfod yr Urdd nawr yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych ym mis Mai 2021 ac mae’r Urdd yn trafod yn barhaus gyda’i bartneriaid darlledu, S4C a BBC Radio Cymru, o ran opsiynau i ddathlu doniau’r aelodau ar blatfform gwahanol yn 2020.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am cyhoeddiad camau mawr oherwydd Coronafeirws
Cydymdeimlwn
Anfonwn ein cydymdeimlad dwys at deulu Mrs Mona Macdonald. Bu farw mam Mrs Macdonald yn ysbyty Bryn Beryl yn ddiweddar. Anfonwn ein cofion cynnes at y teulu i gyd. Cydymdeimlwn yn ogystal â Mr Dafydd Wyn Jones, a fu’n gweithio yn Ysgol Llanllechid ddwy flynedd yn ôl gyda disgyblion blwyddyn chwech. Anfonwn ein cofion atoch fel teulu yn Sir Feirionnydd. Gwraig arbennig oedd dy fam Dafydd, a bydd colled aruthrol ar ei hôl. Cofion annwyl.
Brysia Wella
Ar hyn o bryd, mae Ms Lliwen yn Ysbyty Glan Clwyd yn derbyn triniaeth. Cofion cynnes iawn atoch Ms Lliwen gan bawb yn Ysgol Llanllechid. Cynhelir te prynhawn ar brynhawn Sul, Ebrill 19 yn Neuadd Ysgol Llanllechid i godi arian tuag at gronfa Ms Lliwen. Mwy o fanylion i ddilyn!
Ela
Braf yw cael dweud fod Ela Williams yn dda iawn yn dilyn cyfnod byr yn yr ysbyty – gwen ar ei hwyneb bach bob dydd. Da’r hogan!
Bingo Pasg
Cofiwch am ein Bingo Pasg, a gynhelir ar Fawrth 25, yn y Clwb Criced. Diolch yn fawr i`n Cyfeillion am drefnu ac i Sara Roberts am ein cynorthwyo.
Clwb Mentergarwch
Diolch i Ms Gwenlli Haf am ei gwaith yn arwain ein Clwb Mentergarwch. Bu’r aelodau yn brysur yn creu bwyd i’r adar a gorchudd cwyr gwenyn mewn clwb ar ôl ysgol. Gwerthwyd y cynnyrch mewn dim o dro, wrth giat yr ysgol! Diolch i bawb am gefnogi.
Golchi Dwylo
Yng nghanol y storm Coronavirus, pwysleisir yr angen i olchi dwylo ac yna gwneud yn siwr eu bod yn sgleinio fel swllt, o dan y twcan!
Gwyl Ddewi
Bu disgyblion Mrs Bethan Jones yn brysur yn gwneud cawl cennin a fu’n coginio’n araf, braf yn y dosbarth, a’r arogl hyfryd yn treiddio drwy’r ysgol gyfan. Wrth goginio, dysgwyd y dywediad hwn ar y côf: “Gwisg genhinen yn dy gap a gwig hi yn dy galon.” Cafwyd bore cyfan o adloniant oedd yn dathlu ein hunaniaeth a’n Cymreictod. Cafwyd amrywiaeth eang o eitemau ac mae’n anodd crynhoi’r cyfan mewn ychydig eiriau! Adroddodd y disgyblion dorreth o farddoniaeth oedd ar ein tafod leferydd ni, pan oedden ni’n blant,- Soned Y Llwynog ;Fi’n nos fan hyn; Ffarwel i Gwm Penllafar; Gwinllan a Roddwyd; Modryb Elin Ennog; Mwyn y wên sydd o’i mewn hi; Rhwydd Ganwr… Cafwyd gwledd o’n diwylliant ni fel Cymry, a’r rhieni a ffrindiau’r ysgol yn llawn clôd. Dywedodd y Prifardd Ieuan Wyn, “Rhagorol! Roedd y cyfan yn batrwm i ysgolion trwy Gymru!” Diolch i bawb am eu cefnogaeth hael a diolch i’r holl staff am eu hymroddiad, ac i`r athrawon am y gwobrau raffl.
Clocsio
Braf oedd croesawu Tudur Phillips i ddysgu sgil hollol newydd i`n disgyblion. Edrychwn ymlaen at ei wahodd atom eto`n fuan. Mae`n syndod pa mor ffit y mae rhaid i chi fod i glocsio!!
Cliciwch yma am fwy o luniau
Cerdyn Coch i Hiliaeth
Daeth Eryl at ein blwyddyn 6, i gynnal sesiwn ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’. Dyma elusen a sefydlwyd ym mis Ionawr 1996, gan beldroediwr enwog o’r enw Shaka Hislop, gyda`r nôd o waredu hiliaeth o`n tir yn gyfangwbwl. Treuliwyd prynhawn difyr yn y dosabarth yn herio sterioteipio, gan bwysleisio`r angen i hyrwyddo parch a chyfle cyfartal tuag at ein cyd-ddynion, beth bynnag fo eu tras. Un o`r prif themau oedd ddathlu gwahaniaeth, yn hytrach nag edrych ar wahaniaeth mewn modd negyddol. Cafwyd gwersi pwysig ynglŷn â`r angen i ddangos cynhesrwydd a phositifrwydd tuag at un ag oll, a hynny heb fod yn feirniadol. Negeseuon hollbwysig!
Cliciwch yma am fwy o luniau
Ymweliad â Maes Awyr Caernarfon
Fel rhan o`u gwaith thema ar awyrenau, cafodd plant dosbarth Mrs Marian Jones ddiwrnod i’w gofio, pan gawsant fynd i weld yr hen awyrenau yn Amgueddfa Dinas Dinlle. Roedd yn brofiad gwerth chweil cael eistedd yn yr hen awyrenau. Cafwyd croeso gwych gan griw’r Ambiwlans Awyr hefyd, a chawsom wybod pa mor gyflym y mae’r hofrenydd coch yn cyrraedd Ysbyty Gwynedd, Alder Hey a Chaerdydd! Dysgwyd am yr hyn sydd gan y parafeddygon yn y bagiau trwm, a chael cyfle i eistedd yn yr ambiwlans awyr ei hun! Diwrnod gwych! Yn ystod y cyflwyniadau Gwyl Ddewi, lle bu`r plant yn trin a thrafod pob math o gymeriadau o`r ardal, traddodwyd hanes William Ellis Williams, peiriannydd o fri o Rachub. Bydd y gân gyfan i`w chlywed ar gyfrif Trydar yr ysgol yn fuan, ond am rwan, dyma i chi bennilll gyntaf y gan wreiddiol â ysgrifennwyd gan Mrs Marian Jones:
Cliciwch yma am fwy o luniau
Cân William Ellis Williams
“I ffwrdd a ti i chwarae “ oedd geiriau’i fam a’i dad
“Dos i ben Moel Faban i weld mor hardd yw’r wlad”
ond sleifio’n slei wnaeth William
i mewn i’r sied ar garlam
I weithio a phendroni, - a gwirioni!!!
Ar y rhifau, patrymau, syniadau, adeiladau,
Peiriannau, trionglau, problemau, mesuriadau di ri…
Roedd ei ben o’n y cymylau bach gwynion
Yn meddwl a meddwl am syniadau bach gwirion
Roedd y llanc o Dyddyn Canol yn fachgen go wahanol…..
Clwb Hanes
Daeth Mr Dilwyn Pritchard, o Rachub draw i`r ysgol i drwytho disgyblion Bl 3 yn hanes William Ellis Williams. Diolch yn fawr i chi Dilwyn am ein cynorthwyo fel hyn.
Bwydlen Dydd Gŵyl Dewi - 04.03.20
Bwydlen Dydd Gŵyl Dewi
04/03/20
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2012
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2013
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2014
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2015
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2015
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2016
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2017
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2018
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2019
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2020