Archif Newyddion - 2012
Sion Corn yn Llanberis
Bu disgyblion y Dosbarth Derbyn ar y tren yn Llanberis yn gweld Sion Corn. Cliciwch yma i edrych ar y lluniau..
Bocsys y Nadolig
Bu disgyblion yr ysgol yn casglu bocsus y Nadolig i'w gyrru dramor er mwyn sicrhau Nadolig dedwydd i blant bach eraill y byd. Diolch i bawb am gefnogi.
Sioe Nadolig Blwyddyn 1 a 2
Cliciwch yma i weld lluniau Blwyddyn 1 a 2 yn perfformio
Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen
Canlyniadau Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen 2012 - cliciwch yma
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Brysia Adre Leon
Ar yr adeg ysgrifennu hwn, mae Leon yn parhau i fod yn ysbyty Alder Hey. Fel y gwyddoch, mae Leon yn dioddef o gyflwr Nephrotic Syndrome FSGS ac ar hyn o bryd y newyddion da yw fod y tabledi newydd yn gweithio`n dda ac mae`r pwysau gwaed wedi sefydlogi. Ond, wrth gwrs, mae gan Leon bach fynydd i`w ddringo ac rydym i gyd o`i amgylch yn ei gefnogi ac yn ceisio ein gorau i`w gynorthwyo.
Rydym yn mawr obeithio y bydd Leon adref cyn y Nadolig ac y bydd yn teimlo`n ddigon cryf i ddod draw i`n gweld, ac rwy`n gwybod fod Leon yn edrych ymlaen yn fawr i gael dangos y llyfr y mae wedi ei greu tra yn yr ysbyty i`r plant.
Llawer iawn o ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu mewn cymaint o ffyrdd i helpu Leon ac, yn naturiol, rydym yn parhau i wneud hynny. Yr hyn sydd nesaf ar ein agenda yw Bore Coffi Nadolig i Leon, a gynhelir ar Ragfyr 8fed yn y Clwb Criced. Mae`r teulu yn hynod o werthfawrogol ac wedi anfon blodau hyfryd i`r ysgol fel arwydd o ddiolch i bawb yn yr ysgol am eu caredigrwydd. Edrychwn ymlaen yn fawr at gael Leon yn ôl yn nosbarth Mrs Parry Owen pan fydd yn teimlo`n ddigon da – tan hynny dymuniadau gorau i chdi Leon bach.
Croeso`n ôl i LEON! Dyma fo yn mwynhau ei hun hefo`i ffrindiau pan ddaeth i`n gweld dydd Gwener.
|
Bore Coffi Apel Leon
Cynhaliwyd bore coffi er budd apel Leon yn y clwb criced fore Sadwrn Rhagfyr 8ed. Diolch i bawb am gefnogi mor hael a chodi £500 i'r apel. Cliciwch yma i weld y lluniau
Cydymdeimlo
Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at deulu Mrs Mona MacDonald (Anti Mona). Bu farw tad Mrs McDonald yn ddiweddar ac rydym i gyd yn yr ysgol yn anfon ein cofion at y teulu. Yn yr un modd cydymdeimlwn â theulu Mr a Mrs Dafydd Griffiths (Anti Gillian) yn eu profedigaeth o golli Gwyn.
Gwellhad Buan
Rydym yn falch o glywed fod Ms Dianne yn gwella. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ôl yn yr ysgol yn fuan.
Eisteddfod Dyffryn Ogwen
Unwaith eto, cafwyd Eisteddfod lwyddiannus dros ben yn Nyffryn Ogwen a braf oedd gweld cymaint o blant yr ysgol yn cystadlu mewn ystod helaeth o wahanol feysydd; rhai yn canu`n unigol neu`n aelod o barti unsain a cherdd dant a phawb yn aelod o`r côr, a gipiodd y wobr gyntaf! Felly hefyd y llefarwyr; diolch i bawb am fentro ar y llwyfan yn unigol neu fel rhan o`r parti – da iawn chi. Daeth y dawnsio disgo i`r brig a diolch i Ms Awen a Ms Nicola am eich hyfforddi i safon mor uchel – beirniadaeth werth chweil! Roedd y grwp ensemble yn llenwi`r llwyfan ac yn werth eu gweld. Daeth gwobrau lu i’r disgyblion hefyd yn yr adran lenyddol a’r adran gelf a chrefft. Ardderchog wir blant a diolch i bawb fu’n hyfforddi ac yn cefnogi. Wedi`r Eisteddfod, cynhaliwyd cyfarfod arbennig yn yr ysgol i longyfarch y plant ar eu llwyddiannau a chyflwynwyd blodau hyfryd i Mrs Helen Williams i ddiolch iddi am ei gwaith clodwiw yn hyfforddi`r unawdwyr.
Eilir Jones (Ffarmwr Ffowc)
Daeth Eilir Jones draw i`r ysgol i gynnal gweithdy drama gyda disgyblion bl 6. Cafodd y disgyblion fodd i fyw yn sgriptio ac action a chwerthin nes oedd eu hochrau`n brifo !!
Wythnos iach
Roedd wythnos olaf mis Tachwedd yn ‘Wythnos Hybu Iechyd’ yn yr ysgol. Trefnwyd nifer helaeth o weithgareddau i atgoffa’r plant ynglŷn â sut i edrych ar ôl y corff a`r hyn sydd ei angen er mwyn cadw’r corff yn iach. Bu gwahanol ddosbarthiadau yn ymwneud â thorreth o weithgareddau gan gynnwys: trafod egwyddorion Ysgol KIVA sef ymgyrch sydd yn hyrwyddo ysgol ac ethos bositif; crwydro ar deithiau cerdded i ben Moel Faban ac i lawr Nant Ffrancon o Lyn Ogwen. Diolch yn fawr i Morfudd Thomas a Cemlyn Jones am arwain y teithiau hyn. Cafwyd sesiynau chwaraeon ym Mhlas Ffrancon a sesiynau sgipio, a chafodd rhai o’r dosbarthiadau ieuengaf gadw’n iach drwy ymarferion ‘cheerleading’ – diolch i Ms Emma. Cafwyd partion bwyd iach a gwnaethpwyd cibabs ffrwythau godidog; trafodwyd peryglon ysmygu a sicrhawyd fod pob un yn yr ysgol yn deall pwysigrwydd golchi dwylo. Yn ogystal, diolchir i Mr Northam am ddod i mewn atom i`n dysgu am y pwysigrwydd o gadw’n hamgylchfyd yn lân ac yn daclus. Pwysleisiodd Mr Northam pa mor bwysig yw cadw Lôn Fach Odro’n daclus drwy beidio a thaflu sbwriel ar y llawr a chofio defnyddio’r buniau sbwriel ac ail gylchu pob amser.
Perisgop
Mae blwyddyn 5 wedi bod yn creu perisgop sydd yn ymgorffori agweddau o Wyddoniaeth, Technoleg a Rhif. Roedd y disgyblion yn meddwl pwy oedd eu cynulleidfa darged wrth greu poster i farchnata’r perisgop. Entrepreneurs y dyfodol!
Artist
Mae’r artist Anna Pritchard wedi bod yn gweithio gyda dosbarthiadau’r Adran Iau yn ystod yr wythnosau diwethaf yn creu campweithiau celf bendigedig, o furluniau i fodelau 3D. Gwych!
Piggery Pottery
Aeth disgyblion y Dosbarth Derbyn draw i Lanberis yn ddiweddar i greu campweithiau yn ‘Piggery Pottery’. Cawsant amser gwych yn peintio patrymau lliwgar a diddorol ar eu ‘cadw mi gei’ eu hunnain ac roedd gweld yr holl foch bach lliwgar ar silff yn y dosbarth yn olygfa gwerth chweil!
Addysg Ryngwladol Ardderchog
Daeth Ysgol Llanllechid, sydd eisoes wedi ei achredu yn Ysgol Ryngwladol, i’r brig mewn cystadleuaeth Brydeinig ‘Link2Learn’ gan guro 350 Ysgol Ryngwladol arall. Roedd y beirniaid yn canmol safon uchel y gystadleuaeth a dywedodd y trefnydd John Rolfe o’r Cyngor Prydeinig fod safon gwaith Ysgol Llanllechid yn “ardderchog”. Gwahoddwyd Mrs Davies Jones ynghyd ag aelod o`r Llywodraethwyr a phedwar o ddisgyblion i Lundain er mwyn gwneud cyflwyniad o’r gwaith yn adeilad HSBC yn Canary Wharf. Yn ogystal ,roedd siec fawr o £1,500 yn disgwyl amdanynt yno. Diolch yn fawr i Mrs Delyth Jones, Arlun, Nel, Mia a Josh ac i Ms Hanna Huws ein cyd-gysylltydd gweithgar.
![]() |
![]() |
Dywedodd y pennaeth Mrs Gwenan Davies Jones: “Mae’r wobr yn glod i’r ysgol gyfan yn enwedig i’r disgyblion am eu brwdfrydedd ac i’r athrawon a’r cymorthyddion am eu gwreiddioldeb a dyfalbarhad wrth gyflwyno gwahanol agweddau o ddinasyddiaeth fyd-eang. Rydym yn ffyddiog bydd yr addysg eang yma yn rhoi mwy o hyder, uchelgais a chyfleoedd i’n disgyblion yn y dyfodol ac wrth gwrs rydym wrth ein boddau yn cael y cyfle i ddangos fod ardal Dyffryn Ogwen yn medru cynnig addysg ryngwladol cystal ag unrhyw ysgol ym Mhrydain.”
Mrs Davies Jones gydag Arlun, Mia, Nel a Josh |
Mr John Rolfe - Ysgol Ryngwladol Cyngor Prydeinig |
Bocsys y Samariaid
Unwaith eto eleni casglwyd y bocsys yma - diolch i chi rieni am fod mor barod i gefnogi`r ymgyrch.
Cyfarchion y Tymor
Bydd y disgyblion yn ôl yn yr ysgol ar Ionawr 8fed, 2013 a`r staff ar Ionawr 7fed.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i`r holl ddarllenwyr.
Calendr Digwyddiadau
Cliciwch ar y calendr er mwyn gweld beth sy'dd ymlaen yn Nhachwedd a Rhagfyr
Plant mewn Angen
Dyma griw o blant yr ysgol yn eu dillad sbotiog yn arbennig er mwyn helpu plant eraill ar ddiwrnod Plant mewn angen. Fe gawson nhw fwynhau cyngerdd yn y neuadd, ac yn y gynulleidfa fe welwyd sawl un yn debyg iawn i Pudsey! Diolch i bawb am gefnogi.
Seren y sgrin fach
Fe wnaeth Beca Nia argraff fawr ar y llwyfan cenedlaethol nôl yn Eisteddfod Eryri 2012 gyda’i pherfformiad gwefreiddiol o Strempan yn y gân actol. Bellach, mae llais Beca i’w glywed ar gartwn S4C ‘Meic y Marchog’ gan mai hi sydd yn lleisio y cymeriad Efa. Gallwch fwynhau y rhaglen bob bore ar Cyw am 8:00a.m.
![]() |
![]() |
![]() |
Dyma oedd gan Beca i’w ddweud am ei phrofiadau:
“Yr wyf wedi bod yn lwcus iawn cael fy newis i dros leisio cartwn o'r Saesneg i'r Gymraeg gan gwmni Sain. Ffoniodd Sain ar ôl fy ngweld yn perfformio yn y gân actol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri eleni. Roeddwn yn actio Strempan, cawsom drydydd drwy Gymru. Dyma’r gyfres gyntaf o Meic y Marchog i ymddangos ar S4C.
Yr wyf fi yn gwneud llais Efa sef chwaer Meic y Marchog. Yr oeddwn yn mynd i Sain , sydd yn Llandwrog ddwy waith bob wythnos dros yr haf i recordio. Yr wyf wedi mwynhau’r profiad yn FAWR iawn.”
![]() |
![]() |
![]() |
Diolch a Ffarwel
Diolch yn fawr i Mrs Shirley Hartleb am ei holl waith da yn y gegin yn ystod y tymhorau diwethaf a diolch arbennig am ei chymorth parod ar ddiwrnod ein Ffair Hydref. Dymunwn yn dda i Mrs Hartleb i`r dyfodol.
Croeso nôl
Croeso cynnes yn nôl i Mrs Mona Macdonald i`r gegin. Mae`n dda iawn eich gweld yn ôl yn eich gwaith ac yn edrych mor dda. Yn yr un modd, croeso nôl i Ms Rhian Haf.
Gwellhad buan
Anfonwn, fel ysgol, ein dymuniadau gorau am wellhad buan i Leon, Blwyddyn 2, sydd wedi bod yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl ers rhai wythnosau bellach. Mae pawb yn meddwl amdano ac yn edrych ymlaen i’w weld yn ôl yn y dosbarth a diolch i`r rhai ohonoch sydd wedi cyfrannu at apêl Leon Williams.
Nain a Taid
Llongyfarchiadau i Mr A Mrs Gwilym Williams ar ddod yn nain a taid unwaith yn rhagor. Ganed merch fach i Gavin a Kim.
Diolchgarwch yng Nghapel Carmel
Cafodd plant dosbarthiadau Blwyddyn 2 gyda Mrs Parry Owen a Mrs Marian Jones groeso cynnes iawn ar eu hymweliad â Chapel Carmel yn Rachub. Roedd Mrs Helen Williams yno yn dangos sut oedd y capel wedi ei addurno ar gyfer y gwasanaeth Diolchgarwch ac roedd y cyfan yn edrych yn hyfryd. Cafodd y plant grwydro o amgylch y capel, cyn cael mynd i’r Ysgol Sul i gael diod a bisgedi! Diolch yn fawr Mrs Williams am y croeso!
Taith i Lanberis
Cafodd dosbarth Blwyddyn 4, sef dosbarth Mr Stephen Jones, ddiwrnod anturus iawn yn Llanberis yn ddiweddar. Cafwyd cyfle i ymweld â`r Amgueddfa Lechi, ysbyty’r chwarel, tai’r gweithwyr, olwyn ddŵr a’r gweithdy hollti a naddu. Mae’r cyfan yn cyd- fynd â thema’r dosbarth ar Streic Chwarel y
Diwrnod y 60au Bl 5
Mae blwyddyn 5, sef dosbarth Mr Huw Edward Jones,yn astudio cyfnod y 1960au ar hyn o bryd. Fel rhan o’u hastudiaeth cafodd y dosbarth ei droi`n adeilad o`r chwedegau gyda’r plant wedi gwisgo yn ôl ffasiwn y cyfnod. Roedd pob un ohonynt yn werth eu gweld a diolch i chi rieni am fynd i`r fath drafferth i ddilladu eich plant. Yn ogystal ,daethpwyd d ag arteffactau o’r cyfnod i’w dangos e.e. recordiau Elvis, bagiau llaw,pob math o deganau a choginiwyd bwydydd oedd yn boblogiadd yn y cyfnod hwn. Diwrnod a wnaiff aros yn y côf am amser maith! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Diolchgarwch
Cafwyd cyfarfod Diolchgarwch gwerth chweil yn yr ysgol cyn hanner tymor. Roedd neuadd yr ysgol yn orlawn – pawb yn mwynhau gwylio pob dosbarth o`r ieuengaf i`r hynaf yn eu tro yn rhoi cyflwyniadau gwreiddiol a diddorol ar wahanol themau yn gysylltiedig â ‘diolch’. Roedd y cyfan yn fyrlymus, y canu’n hwyliog a’r gynulleidfa’n teimlo eu bod wedi cael gwledd. Diolch i bawb a ddaeth i`n cefnogi.
Cliciwch yma i weld lluniau o'n Gwasanaeth Diolchgarwch.
Taith Dinas Dinlle Bl 6
Astudio arteffactau o’r Ail Ryfel Byd wnaeth Bl6 gyda Mrs Hanna Huws ym Maes Awyr Caernarfon gan ymweld â’r amgueddfa awyrennau hynafol yno. Bu’r disgyblion hefyd yn ffodus o gael cyflwyniad gan Mr Ieuan Thomas am ei atgofion o’r Ail Ryfel Byd, a chan ei fod yn gyn-athro, roedd hefyd yn arbennig o effeithiol wrth esbonio’r gwyddoniaeth o`r ffordd y mae awyren yn aros yn yr awyr. Roedd wrth ei fodd canfod un o deulu Bullock yn ein plith gan ei fod yn perthyn I Aron Fôn. Bonws y trip oedd cael mynd i weld criw Ambiwlans Awyr yn paratoi yr hofrenydd. Llawer o ddiolch i Sally o’r amgueddfa am drefnu hyn i ni.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Gwenyn
Fel rhan o thema Blwyddyn 2 sef Ffrindiau Rwdlan, rydym wedi bod yn dysgu am y gwenyn, a pha mor bwysig ydynt i’r byd. Mae Mrs Sharon Jones a’i mab Iwan yn cadw gwenyn a bu’r ddau yn ddigon caredig i ddod draw i’r ysgol i ddangos yr holl offer pwrpasol sydd ganddynt i gasglu’r mel. Cawsom weld y cychod a’r crwybr a nifer o luniau diddorol, - yn ogystal a chael cyfle i wisgo gwisg arbennig y gwenynwr. P`nawn diddorol iawn! Diolch Mrs Sharon Jones ac Iwan am roi addysg penigamp i`n plant!
Bardd Plant Cymru
Cafodd disgyblion blwyddyn 5 fore difyr iawn yng nghwmni Eurig Salisbury, sef Bardd Plant Cymru. Roedd yr awen yn llifo yn y dosbarth ac fe aethpwyd ati i lunio pennill ar gyfer ein gwasanaeth Diolchgarwch:
Ffrwythau a llysiau yw’r presantau
Rhanwn ni nhw gyda’n ffrindiau
Rhieni, teulu, cartref, dillad
Diolch am blaned sy’n llawn o gariad.
Karate
Mae’r ysgol yn hynod falch o gampau Danny a Jac Jones ym maes Karate. Yn ddiweddar bu’r ddau yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth yn Warrington ac fe ddaeth Danny yn llwyddiannus – ef yn awr yw pencampwr Adran Iau SSKU Prydain 2012. Llongyfarchiadau mawr iddo!
Plas Ffrancon
Mae disgyblion blwyddyn 5 wedi mwynhau cyfres o wersi yng nghwmni Steff ym Mhlas Ffrancon. Daeth y sesiynau I ben gyda hyfforddiant sboncen ac mae llawer o chwaraewyr talentog ymysg y criw. Diolch i Steff am yr holl hyfforddiant.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Arbed Ynni
Daeth Ms Ffion Jones i’r ysgol i siarad gyda’r holl ddisgyblion ynglŷn ag arbed ynni. Cyflwynodd gartwn Sbarci a Fflic a oedd yn cynnwys neges bwysig iawn ynglyn a sut y gallwn helpu i arbed ynni yn yr ysgol.Gwaith y ditectifs ynni sef Criw Sbarci a Fflic yw mynd o amgylch yn llechwraidd i sicrhau fod pawb yn diffodd goleuadau!
Chwaraeon
Bu tim pel rwyd yr ysgol yn cystadlu ym Maes Glas Bangor mewn cystadleuaeth rhwng Ysgolion Arfon. Enillwyd tair gem a chollwyd tair a chafwyd un gem gyfartal. Roedd y cystadlu'n frwdfrydig iawn a diolch i'r tîm -Ella, Maisy, Beca, Mia, Erin, Thalia, Iestyn a Cyle, am chwarae mor dda!
Ffair Hydref
Cafwyd Ffair Hydref lwyddiannus iawn eto eleni yn Ysgol Llanllechid. Daeth nifer fawr o rieni, disgyblion, staff a chyfeillion yr ysgol i fwynhau diwrnod o hwyl a sgwrsio. Bu’r Gymdeithas Rieni’n tu hwnt o brysur unwaith eto, yn trefnu’r cyfan mor drylwyr, dan arweiniad Mrs Iona Robertson a Mrs Lowri Roberts, a llwyddwyd i godi bron i £2000! Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n helpu ac i drigolion yr ardal am eu haelioni a`u cefnogaeth. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Diwrnod Groegaidd
Fel rhan o’u thema ar wlad Groeg, cafodd plant dosbarth Blwyddyn 3 ddiwrnod Groegaidd yn yr ysgol. Roedd y plant wedi gwisgo fel cymeriadau o’r hen chwedlau Groegaidd yn ogystal â fel teithwyr cyfoes ar eu gwyliau yn yr haul! Roedd digon o gerddoriaeth a dawnsfeydd Groegaidd yn cael eu perfformio, yn ogystal a chelfyddyd Groegaidd. Roedd baneri glas a gwyn ymhobman, a gwledd o fwydydd Groegaidd i’w blasu. Dim ond gobeithio na fu’r plant yn torri platiau ar ddiwedd y dydd!!
Teithiau’r Dosbarth Derbyn
Bu’r Dosbarth Derbyn ar eu taith i ganolfanau diddorol iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf fel rhan o’u gwaith ar ‘bobol sy’n ein helpu’. Cawsant groeso mawr ym Meddygfa’r Hen Orsaf gan staff y dderbynfa, yn ogystal a chan y Nyrs, y Meddyg, y Deintydd a’r Ciropodydd. Cawsant brofiadau gwych yn gweld yr adeilad bendigedig, a chael dysgu am yr offer gwych sydd yno. Diolch i bawb am y cyfle!
Roedd croeso cynnes iawn yn eu haros yn yr orsaf dân ym Mangor hefyd, pan gawsant gyfarfod rhai o’r swyddogion tân, a chael mynd i’r injan dân, gwisgo’r hetiau, gweld yr offer a gafael yn y pibellau dŵr anferth. Diolch o galon am y croeso!
Gwefreiddiol!
Aeth disgyblion dosbarthiadau Blwyddyn 2 i grombil y ‘Mynydd Gwefru’ yn Llanberis yn ddiweddar. Syfrdanwyd y plant [a’r oedolion] gan yr holl dwneli a’r peiriannau a oedd yn guddiedig ym mherfeddion y mynydd a cafodd pawb hwyl a sbri yn gwisgo helmedau cochion wrth deithio yn y bws o dan y ddaear! Diwrnod i’w gofio!
Llongyfarchiadau Mawr!
![]() |
Llongyfarchiadau Mawr! Dyma griw Blwyddyn 6 yn ennill gwobr 'Welsh Film of the Year' yng ngwobrau ffilm Zoom |
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2012
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2013
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2014
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2015
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2015
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2016
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2017
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2018
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2019
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2020