Archif Newyddion - 2013
Canu o flaen Aelodau Clwb yr Henoed
Bu disgyblion Ysgol Llanllechid yn canu o flaen Aelodau Clwb yr Henoed, gan ganu caneuon o'r sioeau Nadolig.Cliciwch yma i weld y lluniau
Canu gyda Chor Rygbi Gogledd Cymru
Cliciwch yma i weld Cor Ysgol Llanllechid yn canu gyda Chor Rygbi Gogledd Cymru
Cofion Cynnes
Anfonwn ein cofion cynnes at Sion Guto, un o`n cyn-ddisgyblion hoff, a dymunwn yn dda iddo i`r dyfodol – gobeithio na fydd rhaid aros yn rhy hir am y driniaeth.
Dymuniadau gorau i Nell Medi Hughes (dosbarth Meithrin). Mae Nell wedi cael triniaeth fawr yn yr ysbyty yn ddiweddar ac yn disgwyl am yr apwyntiad nesaf.
Cofion gorau at Gwilym Williams, gŵr Anti Heather a gafodd ddamwain car.
Cydymdeimlwn ā theulu Mrs Marian Jones yn eu profedigaeth o golli modryb.
Ymweliad Bl 1 a 2 â Londis
‘Yr Archfarchnad’ yw thema dosbarthiadau Mrs Rona Williams a Mrs Marian Jones ar hyn o bryd a chawsom ymweld â siop LONDIS, Bethesda. Cafwyd croeso gwych gan Mr J. Thomas a’r holl staff. Roedd y disgyblion wedi cael cyfle i greu holiaduron cyn mynd i`r siop a chafodd Mr Thomas gyfle i ateb cant o mil o gwestiynau diddorol! Diolch yn fawr i Mr Thomas a’r criw am roi danteithion a ffrwythau i bob un o’r disgyblion a diolch am y croeso cynnes!
Bl 5 i’r Mynydd Gwefru
Thema’r dosbarth yr hanner tymor hwn yw ynni ac fel sbardun i’r gwaith aeth disgyblion blwyddyn 5 ar daith i Mynydd Gwefru Llanberis. Mae’r pwerdy hwn yn enghraifft arbennig o greu ynni adnewyddadwy, ac fe aeth y disgyblion, gan wisgo eu helmedau melyn, i grombil y mynydd i weld y chwe tyrbin. Roedd y disgyblion wedi eu cyfareddu gyda’r holl broses. Yn dilyn hyn, aethant ar daith gerdded i weld llyn Peris a chastell Dolbadarn a oedd yn sefyll yn urddasol uwchben y llyn, - gwrthgyferbyniad llwyr i’r dechnoleg fodern sydd yn cuddio tu mewn i’r mynydd, – ond eto yn dal i sefyll! Cliciwch yma i weld y lluniau
Blwyddyn 5 – Coleg Llandrillo
Aeth y disgyblion i’r Ganolfan Ynni Adnewyddadwy sydd yng Ngholeg Llandrillo. Wrth edrych allan drwy’r ffenestr yn y coleg gellir gweld y fferm wynt sydd yn y mor gerllaw. Tra’n y coleg bu’r plant yn arbrofi gyda thrybinau gwynt ac yn ymchwilio i weld faint o lafnau oedd yn creu y mwyaf o ynni. Y brif wers oedd dysgu am y dulliau diweddaraf o greu ynni mewn modd adnewyddadwy. Cliciwch yma i weld y lluniau
Eisteddfod Dyffryn Ogwen
Llongyfarchiadau i’r holl blant a fu’n cystadlu mor wych yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen eleni. Roedd pawb mor falch o weld llwyddiant y disgyblion ar y llwyfan, yn llenyddol ac yn yr adran gelf a chrefft. Coronwyd y cyfan ar ddiwedd y dydd gyda pherfformiad o’r safon uchaf gan gôr yr ysgol a threfniant Mr Huw E. Jones o`r ‘Golomen Wen’. Roeddent yn llwyr haeddu`r wobr gyntaf. Diolch i bawb fu’n hyfforddi a’r paratoi a diolch arbennig i Mrs Helen Williams a Mrs Menai Williams a mrs Jane Parry am fod mor barod i helpu`r ysgol. Diolch hefyd i Mrs Sioned Webb am ddysgu`r disgyblion i chwarae`r piano; mae`r disgyblion yn chware gyda dwy law yn barod, a dim ond newydd ddechrau ar y gwersi y maent! Cliciwch yma i weld y lluniau
Ymweliadau’r Dosbarth Derbyn
Hoffai y dosbarth Derbyn ddiolch o waelod calon am y croeso a gawsant yn Londis a Meddygfa’r Hen Orsaf. Bu`r dosbarth yn astudio`r bwydydd iach y mae Londis yn ei werthu ac yna yn dysgu am waith doctor, nyrs a deintydd yn y feddygfa. Mae plant dosbarth Mrs Wilson yn blant iach iawn! Ar y daith flynyddol i Piggery Pottery bu’r plant yn brysur yn peintio ac yn addurno`r moch. Roedd pawb wedi cael hwyl a sbri a phob mochyn yn edrych yn wahanol iawn i`w gilydd!
Plant Mewn Angen
Roedd sbort a sbri yn yr ysgol unwaith eto eleni ar ddiwrnod ‘Plant Mewn Angen.’ Roedd pawb wedi gwisgo dillad smotiog, pyjamas neu wisg ffansi i ddod i’r ysgol, a llwyddwyd i godi dros £300. Roedd yn hyfryd gweld y ‘bysgwyr ’yn codi cymaint o arian, [sef Cerys Elen, Mari, a Swyn] drwy ddiddori’r rhieni wrth y drws, yn ogystal a’r plant yn y gwasanaeth gyda’u gitars swynol! Diolch yn fawr i bawb! Cliciwch yma i weld y lluniau
Cae’r Groes
![]() |
|
Te traddodiadol ar ôl corddi
menyn blasus ym Ml 6 |
Bl6 efo Mr Geraint Jones yn cael blasu bwyd hyfryd popty Cae Groes |
Aeth llythyron pwysig iawn o Ysgol Llanllechid i Fecws Cae’r Groes. Roedd Blwyddyn 6 yn ddiolchgar iawn i’r perchnogion Mr a Mrs Williams am ganiatad i ymweld ā’r safle ac i Mr Geraint Jones am yr addysg werthfawr iawn a gawsant am bobi ac am fentergarwch. Yn ogystal a chael gweld bara’n profi ac yn crasu, cafwyd cyfle i ddysgu sut i ddylino toes, i baratoi mins peis ac i ddilyn taith teisennau cri drwy’r becws. Cafodd pob disgybl deisen gri i ddod nôl i’r ysgol! Doedd dim amdani felly ond gwneud …menyn! Bu Bl 6 yn brysur yn corddi menyn i fwyta gyda’u teisennau cri. Roedd yn rhyfeddol o flasus, yn wir y deisen gri a’r menyn gorau a flasom erioed! Mae yn ein mysg bellach lawer o ddarpar entrepeneuriaid. Diolch am yr ysbrydoliaeth gan fecws llwyddiannus Rachub.
Cofio’r Cymry
Bu Mr Meurig Rees o Gôr Rygbi Gogledd Cymru yn ymweld ā ni i gyflwyno cefndir ei daith egniol ar gefn beic i wlad Fflandrys er mwyn codi arian at gofeb o ddraig goch, i gofio’r rhai a fu farw yn y Rhyfel Mawr. Cofiwn am y bardd Hedd Wyn, a fu farw yn Fflandrys, ac mae ei farddoniaeth yn parhau yn fyw ac yn atsain yn Ysgol Llanllechid hyd heddiw!
Mae côr Ysgol Llanllechid wedi cael gwahoddiad i ganu gyda Chôr Rygbi Gogledd Cymru yn eglwys St Ioan, Llandudno ar Ragfyr 18 am 8 o`r gloch – cofiwch ddod draw i`n cefnogi!
Tocynnau ar werth yn yr ysgol.
Bore Coffi Nadolig
Cynhaliwyd Bore Coffi Nadolig Ysgol Llanllechid yn y Clwb Criced, eto eleni. Roedd llu o stondinau, mins peis, anrhegion ac ymweliad arbennig gan Sion Corn ei hun! Diolch i Mrs Lowri Roberts, Mrs Iona Robertson, aelodau`r pwyllgor a’r llu cyfeillion am eu cymorth a’u gwaith di-flino fel arfer. Cliciwch yma i weld y lluniau
Ymweliad y Dosbarth Meithrin â Chapel Carmel
Cafodd plant y dosbarth Meithrin fynd am dro i Gapel Carmel, er mwyn iddynt gael gwarndo ar stori`r Nadolig. Diolch i Mrs Williams unwaith eto am y croeso twymgalon ac am gerdded yr ail filltir i ni unwaith yn rhagor.
Sioeau Nadolig
Cynhelir pedwar cyngerdd Nadolig eto eleni ac mae sioe y dosbarth Meithrin eisoes wedi ei chynnal am eni Crist. Felly hefyd sioe y dosbarth Derbyn – Trwyn Coll Rudolff: roedd yr hen Rudolff wedi colli ei drwyn ac yn methu helpu Sion Corn. Wrth fynd ati i chwilio`n ddyfal am y trwyn, daethant wyneb yn wyneb ā`r teganau, pengwins, dynion eira, eirth a`r goeden Nadolig!
Cafodd pawb eu gwefreiddio hefyd yn gwrando ar sioe arbennig Gwlad yr Halibalw gan flynyddoedd 1 a 2 ac roedd eu dillad lliwgar yn werth eu gweld – diolch i chi rieni am eu creu! Da iawn chi blant bach ar berfformiadau gwerth chweil a fydd yn aros yn y côf am amser maith.
Cliciwch yma i weld lluniau o'r Dosbarth Meithrin
Cliciwch yma i weld lluniau o'r Dosbarth Derbyn
Cliciwch yma i weld lluniau o Blwyddyn 1 a 2
Cliciwch yma i weld Sioe yr Adran Iau - Trafferth y Tardis
neu cliciwch yma i weld lluniau y sioeau i gyd
Cinio Nadolig
Cafwyd cinio Nadolig penigamp gan Mrs Macdonald a phawb sy`n gweithio yn y gegin. Gwirioneddol flasus! Diolch yn fawr! Cliciwch yma i weld y lluniau
Dymuna Gwenan Davies Jones a phawb yn Ysgol Llanllechid Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.
Dyweddïad
Llongyfarchiadau mawr i Ms Angharad Efans, Bethesda ar ei dyweddiad ag Elfed o Rhiwlas. Pob dymuniad da gan bawb ohonom yn yr ysgol! (Diolch i Elfed hefyd am ei gyfraniad hael i Ffair yr ysgol)
Beicio
Gan fod beicio mor bwysig i ni fel ysgol iach ac ysgol werdd, cafodd dosbarth Blwyddyn 6 gyfle i wella eu sgiliau ac ymgeisio am dystysgrif diogelwch beicio ar y lôn. Bu’n brofiad gwych ac yn gyfle i atgoffa pawb am bwysigrwydd gwisgo helmed bob amser. Cliciwch yma i weld y lluniau
Roedd disgyblion Ysgol Llanllechid wedi dotio at gael athrawes o`r ucheldir yng ngorllewin yr India yn eu dosbarthiadau. Cafodd pob dosbarth ddigonedd o gyfle i`w holio`n dwll! Edrychwn ymlaen at ddatblygu`r cysylltiad hwn ymhellach a chael cyfleoedd i ddysgu mwy am y teigrod a’r te ac ati!
Y disgyblion wedi mwynhau dysgu gan Mrs Renee, sy’n dysgu yn yr India.
Diolch i Mr Ben Stammers am gloriannu ein haddysg am drychfilod gyda chyflwyniad diddorol tu hwnt am drychfilod a chynefinoedd.
Bang! Crash! Lafa!
Cafwyd bore hynod o ddiddorol wrth i Mr Wright gyflwyno rhyfeddodau llosgfynyddoedd i`r disgyblion. Roedd ganddo amrywiaeth o greigiau i`w dangos a lludw o’r enwog losgfynydd yng Ngwlad yr Iâ. Dangosodd fideos o ffrwydradau y bu’n agos atynt ac, o ganlyniad, mae nifer o’r dosbarth bellach a’u bryd ar fod yn ddaearegwyr! Bu dosbarth Blwyddyn 1 yn gwneud llosgfynyddoedd diddorol hefyd, gyda Mrs Rona Williams ac roeddent wrth eu gweld!
Diolchgarwch
Daeth cynulleidfa ardderchog o rieni a ffrindiau`r ysgol ynghyd i neuadd yr ysgol ar fore ola’r tymor i weld ein cyflwyniadau Diolchgarwch. Roedd pob dosbarth, yn ei dro, yn cael cyfle i ddiddanu`r gynulleidfa. Roedd yr arlwy yn cynnwys caneuon, darlleniadau, deialogau, cerddoriaeth greadigol/ offerynnol, dywediadau, ystod o farddoniaeth a llawer mwy! Roedd yn gyfle gwych i rieni a`n cyfeillion weld yr ysgol ar ei gorau. Braint hefyd oedd cael bod yn bresennol yng ngwasanaeth diolchgarwch Capel Carmel. Cafwyd gwasanaeth i`w gofio, a braf iawn gweld yr holl blant yn cymryd rhan; braf hefyd oedd gweld ieuenctid y fro yn dal ati ac yn gwneud eu gwaith i safon uchel. Clod i Mrs Helen Williams a`i thîm. Yn sgil hyn hefyd, dymunwn ymddeoliad hapus i`r Parch Geraint Hughes. Cliciwch yma i weld y lluniau
Cymdeithas y Chwiorydd
Bu Blwyddyn 5 a 6, sef dosbarthiadau Mr Huw Edward Jones a Mrs Hanna Huws, yn diddanu Cymdeithas Chwiorydd y Capeli lleol ar nos Iau, Hydref 10ed a daeth cynulleidfa gref ynghyd i neuadd yr ysgol. Cyflwynwyd pob math o eitemau, yn seiliedig ar y thema dŵr ac roedd yn hyfryd cael cyfraniadau yn ogystal gan Aziliz Kervegant a Beca Nia, sef dwy o’n cyn ddisgyblion. Diolch hefyd i Gwydion Rhys am chwarae ei soddgrwth i gyfeiliant ei dad, Mr Stephen Rees. Trawsnewidwyd ein Ffreutur yn fwyty 5 seren a chafwyd lluniaeth cyn ei throi hi am adref! Diolch i Ms Leanne ac Anti Gillian am y cymorth parod a`r bara brith ac i Mrs Macdonald am y bisgedi. Cliciwch yma i weld y lluniau
FFilmio
Ymddangosodd Mr Huw Edward Jones a`i ddosbarth ar Newyddion 9, S4C yn ddiweddar. Roedd yr ysgol wedi ei dewis i arddangos gwers ar gadw`n heini fel rhan o ymgyrch cadw`n iach gan y Cynulliad.
Rhodd
Diolch y fawr iawn i Mrs Stella Davies, Bronnydd am y rhodd a dderbyniwyd ganddi er côf am ei gwr, Wyn. Bu cysylltiad hir ganddi â’r ysgol, cysylltiad sy’n parhau o hyd, gan fod ei hwyr a’i hwyresau’n ddisgyblion yma ac roedd yn braf ei gweld yn cefnogi’r teulu yn ein gwasanaeth Diolchgarwch.
Diolch
Diolch yn fawr i Mr a Mrs H Roberts, Corbri a Mrs Shirley Roberts am eu rhoddion caredig o ddwy soffa gyfforddus i’r ysgol.
Diwrnod T. Llew Jones
Yn ol ein harfer, dathlwyd diwrnod T Llew Jones. Roedd gweithgareddau amrywiol yn cael eu cynnal ym mhob dosbarth gan gynnwys darllen storiau, dysgu cerddi, coginio bisgedi ac yn wir, aeth y Dosbarth Meithrin i ‘ddawnsio gyda’r dail’ ar hyd Lon Fach Odro!
Cymdeithas Chwiorydd y Capel
Bu Blwyddyn 5 a 6 yn diddanu Cymdeithas Chwiorydd y Capel Lleol ar nos Iau, Hydref 10. Cyflwynwyd pob math o eitemau a chafwyd cyfle i gael paned a chacen cyn ei throi hi am adref! Noson dda!
Cliciwch yma i weld y lluniau
Ffair Fawr Ysgol Llanllechid
Mae Ysgol Llanllechid yn hynod o ffodus yn eu rhieni a’u cymuned. Codwyd dros £2,200 i Gronfa`r ysgol sy`n swm anhygoel. Llawer o ddiolch i’r Gymdeithas Rhieni Athrawon o dan arweiniad Mrs Lowri Roberts a Mrs Iona Robertson am eu gwaith diflino, unwaith yn rhagor eleni.
Cafodd y plant, rhieni a ffrindiau’r ysgol fodd i fyw yn prynu a gwerthu a mwynhau Band Porthaethwy a’r holl ddigwyddiadau eraill, heb anghofio ein salon gwallt newydd sbon! Roedd yn ddigwyddiad hapus, sy’n gwneud i ni werthfawrogi cynhesrwydd a haelioni pobl yr ardal. Diolch i bawb. Cliciwch yma i weld y lluniau
Bu disgyblion yr ysgol ar lu o deithiau ac ymweliadau ar gychwyn y tymor newydd:
Eithinog
“Astudiwch y pethau bychain ,” yw arwyddair Bl 6 y tymor hwn wrth iddynt fynd ar eu gliniau i ymchwilio i gynefinoedd amrywiol , gan gynnwys yr ardd a chaeau’r ysgol a`r llwyni cyfagos. Ond antur go iawn i’r gwyllt oedd cael ein tywys gan Mr Ben Stammers a Rheon Roberts yn Eithinog.
Roedd yna gyfoeth o greaduriaid bychain a chyfleoedd i chwilota a chofnodi pob math o fioamrywiaeth gyda rhwydi, potiau sugno a chrafwr digidol. Diolch yn fawr iddynt ac i`r Ymddiriedolaeth Natur Cymru am eu gwaith yn diogelu ein cynefinoedd gwyllt er mwyn I ni gael dysgu.
Lerpwl
Aeth Blwyddyn 5 unwaith eto, ar eu taith arbennig i Lerpwl fel rhan o’u gwaith ar y 60au. Roedd pawb wedi gwisgo dillad y cyfnod a chafwyd ymweliad ag Amgueddfa’r Beatles. Yn y llun gwelwn rai o’r plant a’r staff yn mwynhau eu hunain yn Albert Dock. Cliciwch yma i weld y lluniau
Teithiau Cerdded
Cafodd Blwyddyn 4 fynd ar daith gerdded yng nghwmni Cemlyn a Morfudd i ben Moel Wnion, Gyrn a Moel Faban yn ddiweddar, a disgyblion Blwyddyn 3 i ben Moel Faban a Moel Wnion. Roeddynt yn deithiau cofiadwy ac roedd hanesion Cemlyn am yr ardal leol yn ddifyr dros ben, yn enwedig hanes y ‘Garreg Canan.’. Cliciwch yma i weld y lluniau
Camau tua’r copa
Am braf cael y cyfle i grwydro’n mynyddoedd a dyna wir oedd y profiad a gafodd Bl 5 a 6 wrth groesi o Abergwyngregyn heibio’r rheadr yn ôl am Ysgol Llanllechid. Diolch yn fawr i Cemlyn a Morfudd fu’n ein harwain. Mae Bl 6 eisioes yn edrych ymlaen at goncro’r Wyddfa`r flwyddyn nesaf. Cliciwch yma i weld y lluniau
Gelli Gyffwrdd
Aeth dosbarthiadau Blynyddoedd 1 a 2 i Gelli Gyffwrdd yn ddiweddar i adeiladu cuddfannau ac astudio bywyd y goedwig yn ogystal â defnyddio’u synhwyrau. Cafodd pawb hwyl arbennig ac roedd y plant i gyd wedi blino’n lân. Cliciwch yma i weld y lluniau
Ymweliad Dewi Pws
Cafodd disgyblion blwyddyn 5 fore bendigedig yng nghwmni Dewi Pws a Mared Huws o gynllun Pontio. Profiad gwerthfawr oedd gwrando ar sawl stori a cherddi digri yn null unigryw Dewi Pws, ond mae’n siwr mai’r uchafbwynt oedd ei glywed yn canu ‘Mae rhywun wedi dwyn fy nhrwyn!’ Creodd y disgyblion gerdd yn sôn am eu dymuniadau a’u dyheadau i`r dyfodol.
Addysg Gorfforol
Mae’r Dosbarth Derbyn yn mwynhau mynychu Plas Ffrancon yn wythnosol ar hyn o bryd a Blynyddoedd 3 a 4 yn cael hwyl yn eu gwersi nofio ym Mangor.
Drymio Affricanaidd
Daeth Sidiki Dembele a`i wraig i gynnal gweithdai ‘Drymio Affricanaidd’ am ddiwrnod cyfan yn yr ysgol. Roedd ganddo nifer helaeth o ddrymiau a chafodd pob plentyn gyfle i gadw rhythm mewn dull bythgofiadwy! Diwrnod gwych! Cliciwch yma i weld y lluniau
RSPB Bl 3 a 4
Mae`r daith addysgiadol hon bob amser yn llwyddiant ac yn cynnig llu o brofiadau gwahanol i`r disgyblion. Unwaith eto, cafwyd diwrnod arbennig o ddiddorol yn RSPB, Conwy. Rhyfeddodd y disgyblion at ogoniant byd natur a gwelwyd torreth o anifeiliad gan gynnwys deg Creyr Glas yn sefyll gyda’i gilydd a’u pennau yn eu plu a sawl madfall yn cuddio dan y cerrig heb sôn am y myrdd brogaod!
Gwersi Offerynnol
Mae nifer helaeth o ddisgyblion wedi manteisio eto eleni ar y gwersi offerynnol a geir yn yr ysgol, - offerynnau chwyth, pres, llinynnol, clwb gitars, yn ogystal a gwersi piano am y tro cyntaf eleni dan ofal Mrs Sioned Webb.
Carys Ofalus
Dyna hyfryd oedd cael ymweliad gan y gath enfawr Carys Ofalus! Roedd plant y Dosbarth Derbyn wrth eu boddau’n dysgu am reolau’r ffordd fawr wrth gael stori gan Carys!
Ephapha
Cafwyd hwyl a sbri gyda grwp Ephapha yn y gwasanaeth boreol, yn sgwrsio ac yn canu.
Cydymdeimlo
Cydymdeimlwn yn ddwys â theulu Ms Rhian Haf yn eu profedigaeth fawr. Bu farw mam Ms Haf, Mrs Mary Louise Roberts yn ddiweddar. Cofiwn amdani fel gwraig hynaws a gedy fwlch mawr ar ei hol. Anfonwn ein cofion cywiraf at y teulu oll.
Ffair Ysgol 2013
Cliciwch yma i weld lluniau Ffair Ysgol 2013
Croeso
Croeso nôl i bawb a chroeso arbennig i`n plant bach newydd sydd eisoes wedi ymgartrefu yma yn ein plith.
Llongyfarchion!
Llongyfarchiadau i dri aelod o staff a gafodd haf i’w gofio eleni! Priododd Mr Stephen Jones (athro blwyddyn 3 a 4) ag Anona, ac mae’r ddau wedi ymgartrefu yn Llanddaniel, Ynys Môn erbyn hyn. Pob dymuniad da i’r ddau.
Ganed mab i Ms. Elen Evans a Gareth sef Abner Clwyd, a merch i Ms. Holly Rowe a Craig sef Grace Emily!
Llongyfarchiadau gwresog i`n cyn ddisgyblion hefyd ar eu llwyddiannau mewn gwahanol arholiadau. Dymuniadau gorau i chi i gyd yn eich meysydd newydd ac i`r dyfodol.
Cydymdeimlo
Cydymdeimlwn yn ddwys â theulu Ms Rhian Haf yn eu profedigaeth fawr. Bu farw mam Ms Haf, Mrs Mary Louise Roberts yn ddiweddar. Cofiwn amdani fel gwraig hynaws a gedy fwlch mawr ar ei hol. Anfonwn ein cofion cywiraf at y teulu oll.
Bl 6 ar Heno S4C
Diolch i wahoddiad Mr a Mrs Alwyn Bevan, cafodd Bl 6 Ysgol Llanllechid yr anrhydedd o fod yn osgordd i feicwyr dewr ar eu taith yr holl ffordd i Fflandrys. Uchelgais Côr Rygbi Gogledd Cymru yw codi arian ar gyfer cofeb Gymreig i dalu teyrnged i’r holl Gymry a laddwyd yn Fflandrys yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Wrth gwrs, yr enwocaf ohonynt oedd Hedd Wyn a bu’r disgyblion yn adrodd un o’i gerddi gan ddymuno`n dda i`r beicwyr wrth ymadael. Yn eu mysg roedd Gerallt Pennant a gwelwyd y disgyblion ar raglen Heno, S4C. Erbyn hyn mae`r disgyblion yn edrych ymlaen yn eiddgar at gael mynd i`r Ysgwrn i ddysgu mwy am yr hanes. Diolch i Mrs Bevan, Mrs Sian Rees ac i Mrs Sandra Owen (Sandra Llan) am y croeso cynnes yn y Clwb Rygbi.
![]() |
Rhai o`r beicwyr arwrol ar eu ffordd i Fflandrys. Yn cadw cwmni iddynt yn y llun mae disgyblion bl 6 Ysgol Llanllechid, Mrs Gwenan Davies Jones a`r cyflwynydd Gerallt Pennant. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Croeso Ysgol Iach
Diolch i ddisgyblion Bl6 a groesawodd y rhieni a`r plant bach newydd gyda ffrwythau a llysiau ffres o ardd organig fel rhan o’n hymgyrch Ysgol Iach.
![]() |
Mrs Davies Jones a’r disgyblion yn rhannu eu nwyddau iach |
Taith i Foelfre
![]() |
Rhai o ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen yn mwynhau eu hunain yn Moelfre. |
Cliciwch yma i weld bwrlwm diwrrnod olaf y tymor.
Gwyliau hapus i bawb.
Plas Menai
Cliciwch yma i weld disgyblion blwyddyn 4 ym Mhlas Menai.
Sioe Gwlad y Rwla
Aeth y Dosbarth Derbyn, yn ogystal a dosbarthiadau Blynyddoedd 1 a 2 i Neuadd JP i Fangor i wylio sioe ‘ Cerdyn Post o Wlad y Rwla’. Roedd pawb wrth eu boddau’n gwylio ‘r Llipryn Llwyd, Dewin Dwl a Rala Rwdins ac yn dychryn pan oedd Strempan gas yn gweiddi nerth esgyrn ei phen!
Taith i Sŵ Môr Môn
Bu’r Dosbarth Derbyn yn ymweld â’r Sŵ Fôr ym Mrynsiencyn i ddysgu am wahanol greaduriaid y môr. Cafwyd hwyl garw yn gwylio y pysgodyn blaidd a’i ddannedd mawr miniog yn dod yn nes ac yn nes tuag at y gwydr ac roedd y plantos yn sgrechian!! Gwelsom amrywiol bysgod, - rhai mawr a bach, hir a byr, tew a thenau, lliwgar a rhai â chuddliw a oedd yn cuddio yng nghanol y gwymon! Fe fuom hefyd yn cerdded ger yr afon Menai ble buom yn casglu pob math o gregyn, cerrig glan y môr, gwymon a chrancod bach. Mae’r dosbarth yn ogleuo fel traeth bellach!! Diwrnod da a thrip i’w gofio. Cliciwch yma i weld y lluniau
Buddugwyr Sioe Dyffryn Ogwen
Cafodd Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen dywydd gwerth chweil eleni a phenderfynodd nifer fawr o ddisgyblion Ysgol Llanllechid gystadlu ar y llu o weithgareddau oedd ar gael. Cafwyd gwobrau lawer yn y cystadlaethau rasus yn y bore a nifer helaeth hefyd, yn y cystadlaethau Celf a Chrefft ac mae`r arlunwaith yn creu arddangosfa hyfryd yn yr ysgol. Llongyfarchiadau i bawb! Cliciwch yma i weld y lluniau
Croesawu rhieni newydd
Cafodd nifer fawr o ddarpar rieni a disgyblion b`nawn i’w gofio pan ddaethant i’r ‘Cyfarfod Croeso’ yn yr ysgol. Tra roedd y rhieni yn mwynhau paned, sgwrs a chyflwyniad gan Mrs Davies Jones yn y neuadd, roedd y plant yn cael chwarae a gwneud pob math o weithgareddau diddorol yn y dosbarth, gyda’u cyfeillion newydd ac roedd pawb wedi mwynhau’r diwrnod yn fawr! Edrychwn ymlaen i’ch croesawu i gyd ym mis Medi!
Gweithdy Celf gan Theatr y Fran Wen
Yn dilyn ymweliad dosbarthiadau Blwyddyn 2 â Chanolfan Conwy i wylio’r sioe wych ‘Gwyn’, cafwyd gweithdy Celf yn yr ysgol fel dilyniant i’r cyfan. Cafodd y plant weithio gyda Mirain Fflur i greu arteffactau oedd yn gysylltiedig â’r sioe, fel pom-poms, llyfrau bach, rhubannau a phob math o bethau i addurno brigau gwynion! Roedd y cyfan yn edrych yn creu arddangosfa werth ei gweld!
Profiad gwaith
Roedd yn braf cael croesawu dau o’n cyn ddisgyblion yn ôl i’r ysgol ar wythnos o brofiad gwaith. Roedd Owen Pickering a Megan Macey yn rhoi help llaw yn y gwahanol ddosbarthiadau, yn ogystal â gyda mabolgampau`r Cyfnod Sylfaen a chwaraeon o bob math. Pob lwc i’r ddau yn y dyfodol a diolch am ddod yma i`n helpu.
Mabolgampau Cyfnod Sylfaen
Cafwyd tywydd ardderchog ar gyfer Mabolgampau’r Cyfnod Sylfaen. Roedd yn braf cael croesawu plant y Cylch Meithrin atom i gymryd rhan yn y cystadlu hefyd. Diolch i’r dorf enfawr o rieni a ddaeth i gefnogi’r plant a diolch arbennig i Mr a Mrs Scott, ‘Siop y Post’, Rachub am eu rhodd hael o boteli dŵr i’r plant i gyd!! Cliciwch yma i weld y lluniau
Bl 4 Gerddi Botaneg Treborth
Cafodd plant Bl 4 ddiwrnod gwych yn y Gerddi Botaneg yn Nhreborth yn ddiweddar. Cawsant gyfle i wneud pob math o weithgareddau o astudio’r dail a’r coed i weld offerynnau cerdd oedd wedi eu gwneud o bren o amrywiaeth o goed. Yr uchafbwynt mae’n debyg oedd cael coginio piza bob un, - allan yn yr awyr agored! Bendigedig!
Diwrnod Sbaenaidd!
Castanets, ...fflamenco...matadors....beth sy’n digwydd yn nosbarth Mrs Rona Williams? Wel, Blwyddyn 3 sy’n cael diwrnod Sbaeneg wrth gwrs! Nid yn unig y plant oedd wedi eu gwisgo’n drawiadol, ond roedd Mrs Williams fel seniorita ddireidus yn dawnsio yn ei ffrog fflamenco liwgar! Oedd, roedd hwyl a sbri, cerddoriaeth a chelf , [diolch i’r artist Ms Anna Pritchard], danteithion o bob math, a’r ystafell wedi ei haddurno â baneri lliwgar Sbaen! O LE!!! Cliciwch yma i weld y lluniau
Mabolgampau Adran Iau
O’r diwedd, cafwyd diwrnod heulog braf i gynnal Mabolgampau’r plant hynaf! Daeth criw da i wylio’r rasus a champau, ac roedd y cystadlu mor frwd ag erioed! Diolch i`r rhieni am fod mor barod i gymryd rhan. Enillwyr ras y tadau oedd: 1af:Mark Jones,2il: Terry Williams,3ydd: Ben Stammers a ras y mamau oedd 1af: Katie Jones, 2il:Anwen Roberts,3ydd:Emma Sinfield. Cliciwch yma i weld y lluniau
Capteiniaid y tri tim.
Twrnament Criced
Llongyfarchiadau i gricedwyr Ysgol Llanllechid a’u hyfforddwr Mr Stephen Jones a gafodd lwyddiant yng ‘ Nghystadleuaeth Griced Ogwen’ a gynhaliwyd ar gae’r Clwb Criced ym Methesda. Colli yn y rownd derfynol oedd hanes y genethod ond llwyddodd Bechgyn Blwyddyn 5 i ddod yn fuddugol yn y rownd derfynol yn erbyn Bechgyn Bl 6! Roedd yn gystadleuaeth agos iawn a chafodd Bechgyn Bl 5 fynd i gystadlu yng nghystadleuaeth ysgolion Gwynedd ym Mhwllheli, ac ennill un o’u tair gem! Da iawn hogia! Daliwch ati! . Cliciwch yma i weld y lluniau
Camau brieision i’r Copa
Bu criw heini ac uchelgeisiol Bl 6 yn Rhyd Ddu am ddeuddydd yn dringo i gopa’r Wyddfa ac i wneud gwaith maes wrth ymchwilio am drychfilod yn y corsydd a’r nentydd. Cawsant eu harwain gan Cemlyn a Morfudd a mawr yw ein diolch iddynt am dywys disgyblion Llanllechid mor ddiogel a diddan ar hyd ein llwybrau treftadaeth. Roedd y trip cyfan yn wych, yn gyfle i dyfu fyny wrth fod yn annibynnol a... ie yn wir... golchi llestri! Roedd hefyd yn gyfle i dorri pob record gan gyrraedd y copa mewn llai na 3 awr! Llongyfarchiadau i bawb. Cliciwch yma i weld y lluniau
Ditectifs yn Ysgol Dyffryn Ogwen
Roedd cyffro mawr wrth fynd i gael gwersi Gwyddoniaeth fforensig yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Roedd rhith ddihuryn wedi bod wrthi yn poenydio Mr Dewi Gwyn a champ disgyblion Bl 6, gyda holl ddisgyblion Bl6 eraill y fro, oedd canfod pwy fu wrthi. Diolch i bawb am ddiwrnod o hwyl a chydweithio wrth baratoi ar gyfer yr uwchradd. Cliciwch yma i weld y lluniau
Pili Palas
Trychfilod a chreaduriaid bychan oedd wrth wraidd diddordeb disgyblion Bl6 wrth ymweld â Pili Palas a chael tarantiwla mawr blewog yn crwydro ar gledr eu llaw. Cawsom atebion i’n holl gwestiynau gan Gavin a diolch i bawb am fod mor barod i adael i ni ddod yn agos i’r creaduriaid; gan gynnwys neidr ac igiwana yn ogystal â chreaduriaid y buarth ac wrth gwrs llond paradwys o bili-palas. Cliciwch yma i weld y lluniau
Pencampwyr
Mae disgyblion blwyddyn 5 yn astudio y thema 'Pencampwyr' yr hanner tymor hwn. Ar ddechrau'r cyfnod astudio fe ddaeth Carwyn Lloyd Williams i'r dosbarth i rannu ei brofiadau fel pencampwr ym maes criced a rygbi. Mae'r plant yn hen gyfarwydd efo gweld Carwyn ym Mhlas Ffrancon ac fe gawsant fore difyr yn ei gwestiynu am sut i baratoi ar gyfer cystadlu, pa fwydydd sydd orau a sut brofiad oedd cynrychioli Cymru. Yn ogystal fe gafodd y plant ymarfer ychydig ar eu sgiliau criced a dysgu sut i ymestyn y corff yn iawn. Pwy a wyr? Efallai fod pencampwyr y dyfodol yn eu mysg!
Carwyn gyda’r bechgyn wedi hysbrydoli!
Sesiynau ffitrwydd
Fel rhan o'r thema 'Pencampwyr', mae disgyblion blwyddyn 5 wedi bod yn gweithio yn galed ym Mhlas Ffrancon gan gael sesiynau cylchdro. Dyma gyfle i ymarfer pob cyhyr yn y corff gan gylchdroi o amgylch y neuadd yn gwneud tasgau amrywiol. Diolch hefyd i Elaine am roi gwybodaeth i'r plant am y gwahanol grwpiau cyhyrau sydd yn y corff.
Elaine yn ymestyn efo’r criw ar ol gweithio’n galed!
Cyngor Ysgol
Mae'r Cyngor Ysgol wedi cyfarfod ymellach gyda'r Corff Llywodraethwyr i drafod sut i gyrraedd a gofynion Awdurdod Addysg Gwynedd o ran y Siarter Iaith. Yn ogystal fe ddaeth Mr Dafydd Cadwaladr i siarad gyda'r Cyngor am y manteision o siarad Cymraeg ym myd busnes. Diolch o galon iddo am ei sgwrs ddifyr gan obeithio y bydd yn ysbrydoli disgyblion yr ysgol ym maes mentergarwch. Yn ogystal daeth Mrs Jane Parry i siarad am ei chefndir hi - yn byw yn wreiddiol yn Llundain ac yna yn symud i’r ardal hon i astudio ym Mrhifysgol Bangor. Bellach mae Mrs Parry yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn mwyhau y diwylliant Cymreig gyda’i theulu. Diolch i hithau hefyd am rannu ei hanes.
Mr Dafydd Cadwaladr gyda’r Cyngor Ysgol.
Mrs Jane Parry gyda’r Cyngor Ysgol.
Cerddorion o fri
Cafodd yr ysgol gyfan ei gwefreiddio gan offerynwyr hynod dalentog. Roedd un ohonynt yn gyn ddisgybl Ysgol Llanllechid sef Sian Mererid Jones. Gyda’i ffrind Lois a’i hyfforddwr Mrs Jane Parry cawsom gyngerdd a swynodd pawb yn y neuadd - Siân ar yr obo, Lois ar y clarinét a Mrs Parry ar y piano. Rydym yn hynod ffodus o arbenigrwydd Mrs Parry yn hyfforddi ein hofferynwyr chwyth yn Ysgol Llanllechid ac roedd yn wych i’r plant gael gweld ffrwyth yr holl lafur wrth wrando ar Siân a Lois. Yn ogystal cawsom gyngerdd gan y rhai sy’n chwarae’r sielo yn yr ysgol sef Abigail, Gwydion, Aziliz a Thalia. Unwaith eto cafodd y gynulleidfa wledd wrth wrando ar berfformiadau o safon uchel iawn ac fe gafodd pawb ymuno i ddawnsio wrth iddynt chwarae La Cucaracha i gloi. Diolch i Nicki Pearce am eu hyfforddi hwy, a phwy a ŵyr efallai fod offerynwyr talentog y dyfodol yn eistedd yn y neuadd wedi cael eu hysbrydoli.
Lois, Mrs Jane Parry a Sian.
![]() |
![]() |
Gwydion, Nicki, Aziliz, Thalia ac Abigail |
Canolfan Conwy
Cafodd disgyblion blwyddyn 1 brynhawn bendigedig yn hwylio ar y Fenai. Fe fuodd rhai yn llywio’r gwch o dan Bont Britannia. Edrychwch ar y lluniau o’r morwyr ifanc! Cliciwch yma i weld y lluniau
Eisteddfod Llangollen
Mwynhaodd disgyblion blwyddyn 2 fwrlwm arbennig Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. . Cliciwch yma i weld y lluniau
Huw Williams
Daeth y cerddor amryddawn Huw Wwilimas i chwarae rhai o offerynnau traddodiadol Cymru megis y pib a’r delyn deires. Cafodd y plant eu cyfareddu gyda’i ddoniolwch a’i gerddoriaeth yn enwedig pan oedd yn chwarae tri offeryn ar unwaith! I goroni’r cwbl cafwyd dawns werin a phawb yn ymuno! Cliciwch yma i weld y lluniau
Anna Pritchard
![]() |
![]() |
Mae’r artist Anna Pritchard wedi bod yn gweithio gyda disgyblion blwyddyn 3 a 4 ers y Pasg. Bu disgyblion blwyddyn 3 yn edrych ar waith Picasso yn sgil eu gwaith thema ar Sbaen. Yn ogystal mae wedi bod yn edrych ar chwedlau Rhys a Meinir a Branwen. Diolch o galon idi am ei gwaith arbennig ac am roi cymaint o fwynhad i’r disgyblion.
Ffarwel i griw arbennig blwyddyn 6 a phob hwyl iddynt i gyd yn yr ysgol uwchradd.
Mabolgampau'r Urdd Gogledd Cymru
Llongyfarchiadau mawr i Beca Nia ar ddod yn drydydd yn y ras rhedeg ym Mabolgampau'r Urdd Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mae Colwyn. Mae Beca yn redwraig o fri ac nid dyma'r tro cyntaf iddi fwynhau llwyddiant yng nghystadlaethau'r Urdd. Tybed os mai Beca yw Jessica Ennis y dyfodol?!
Cydymdeimlo
Daeth profedigaethau i ran rhai o`n cyn-ddisgyblion: anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at deulu Sara a Darren Williams ar golli eu tad yn ddiweddar mewn damwain. Yn yr un modd, cydymdeimlwm â theulu Liam Twigge. Bu farw ei dad, William Twigge yn ystod mis Mai. Anfonwn ein cofion cynnes at y ddau deulu.
Profiad Gwaith
Llawer o ddiolch i Ms Emma a Ms Lorraine am dreulio cyfnod hefo ni yn yr ysgol ar brofiad gwaith yn y dosbarth Meithrin. Bu`n braf iawn cael eich cwmni a diolch i chi am fod mor barod i`n helpu mewn cymaint o wahanol ffyrdd.
Athro Llanw
Llawer o ddiolch i Mr Rheon Jones am dreulio cyfnod gyda ni yma yn yr Adran Cyfnod Sylfaen. Bu`n braf croesawu Rheon (cyn-ddisgybl) yn ôl atom a diolch iddo am ysbrydoli`r disgyblion gyda`i waith. Pob dymuniad da yn y swydd newydd yn Ysgol Maelgwn.
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
Llongyfarchiadau mawr i Beca Nia ar ei llwyddiant ysgubol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd drwy gyrraedd y llwyfan ac ennill y trydydd safle yn chwarae’r obo. Roedd yn fendeigedig gweld Beca yn perfformio mor swynol a diolch i Mrs Jane Parry am ei hyfforddi ac i Ms Sian Jones hefyd.
Yn ogystal, fe berfformiodd Beca gyda’i ffrindiau Aziliz Kervegant a Gwydion Rhys yn y gystadleuaeth ensemble lleisiol gan ganu i safon uchel iawn. Yn yr un modd hefyd, roedd llais cyfoethog Aziliz wrth iddi gystadlu ar yr unawd yn werth chweil. Llongyfarchiadau gwresog i`r tri ar eu llwyddiant ac am berfformiadau mor safonol yn y rhagbrofion.
Ym maes Celf a Chrefft daeth Idwal ac Ithel Temple Morris i`r brig – llongyfarchiadau gwresog i chwithau! Cliciwch yma i weld y lluniau
Glanllyn
Eleni aeth 22 o ddisgyblion blwyddyn 5 i Glanllyn yng nghwmni Mr Huw Edward Jones,Miss Angharad a Miss Awen. Cafodd y disgyblion lu o brofiadau cofiadwy yn cynnwys y cwrs rhaffau, dringo wal ac adeiladu rafft. Roedd y mwyafrif yn drist o adael Glanllyn ond eto yn edrych ymlaen at weld eu teuluoedd ar ôl dwy noson oddi cartref. Ac unwaith eto roedd y bwyd yng Nglanllyn yn fendigedig! Diolch i'r plant am fod yn griw mor frwdfrydig a mentrus! Cliciwch yma i weld y lluniau ... a dyma fwy o luniau
Taith Blwyddyn Un
Fel rhan o`r gwaith thema, aeth dosbarth Mrs Bethan Jones a Mrs Nerys Tegid ar ymweliad â Gorsaf Bad Achub Biwmares a Moelfre. Gwelwyd Bad Achub Biwmares yn cael ei lansio a gwnaeth y morwyr gylch yn y dŵr i gyfarch y plant cyn mynd ar alwad! Profiad bythgofiadwy! Cafwyd sgwrs ddiddorol am ddiogelwch yn y dŵr a phawb yn gwrando`n astud! Wedi hyn, bu pawb wrthi`n brysur yn casglu crancod, cregyn a gwymon. Oherwydd y tywydd braf, cafwyd cyfle i badlo yn y môr a mwynhau`r picnic a’r lolis iâ. Diwrnod gwerth chweil! Cliciwch yma i weld y lluniau
Y Tuduriaid ac Achos Llys Anne Boleyn
Wedi iddynt ddysgu am Cochwilan a Phlas Mawr Conwy, bu disgyblion blwyddyn 5 yn rhoddi sylw penodol i fywyd Harri VIII a'i ail wraig Anne Boleyn. Yn dilyn cyfnod o astudiaeth fanwl a gwaith ymchwil gan y plant fe aethont ati i gynnal achos llys i weld os oedd Anne yn euog neu`n ddi-euog o fod yn anffyddlon i'r brenin.Roedd y plant wedi dod yn gyfarwydd â threfn llys barn gan ddysgu am dermau megis erlyniad, rheithgor, barnwr a chyfreithwyr. Roedd rhai o'r plant yn action`r prif gymeriadau dan sylw sef Harri, Anne, Thomas Cromwell a Christopher Smeaton. Roedd Harri wedi ymgynghori yn fanwl gyda'r erlyniad ac Anne wedi cael cyngor gan ei thim o gyfreithwyr. Ar ôl cwestiynu gofalus a heriol gan yr erlyniad a'r amddiffyn fe aeth y rheithgor ymlaen i drafod eu penderfyniad. Daethont i'r casgliad fod Anne yn ddi-euog! Tybed sut fuasai hanes wedi bod yn wahanol petai'r un dyfarniad wedi digwydd 500 mlynedd yn ol?!
Erin (y barnwr) ar y chwith ac Elin (Anne Boleyn) |
Yr erlyniad (Cerwyn a Gwydion) |
Y Rheithgor |
Cyngor Ysgol
Cafodd y Cyngor Ysgol a chynrychiolaeth o'r Corff Llywodraethol gyfarfod i drafod Siarter Iaith Gwynedd a'r Ysgol Iach. Roedd gan ddisgyblion y Cyngor nifer o syniadau da ac roedd yn bleser clywed criw mor ifanc yn gallu trafod mor aeddfed. Diolch i bawb am eu hymroddiad i'r ddwy fenter yma ac ymlaen a'r gwaith!
Y Cyngor Ysgol gyda Mr Godfrey Northam, Mr Walter Williams (Cadeirydd y Corff Llywodraethol) a Mrs Lesley Hughes.
Clwb Menter, Hanner Marathon ac Elusen
Ni fydd ardal Rachub yn brin o fentergarwch yn y blynyddoedd i ddod a barnu o’r dyfeisgarwch a’r dyfalbarhad a welir yn y Clwb Menter yn Ysgol Llanllechid. Mae’r gweithgareddau’n eang yn cynnwys gwerthu hysbysebion drwy gyflwyno cylchgrawn, plannu blodau i’w gwerthu ar achlysuron arbennig, creu nwyddau drwy wnïo neu fodelu, a chynhyrchu cardiau arbennig iawn. Bwriad y Clwb yw meithrin sgiliau ac ymagwedd o fentergarwch gyda’r gobaith y bydd rhai o’r disgyblion yn magu digon o hyder i ddechrau busnesau eu hunain mewn unrhyw faes yn y dyfodol neu yn defnyddio’u sgiliau codi arian er budd y gymuned neu elusennau sy’n helpu’r pell a’r agos.
Esiampl wych o greu elw ar gyfer achos da oedd y ffair a drefnwyd gan y Clwb Menter a phawb ym Mlwyddyn 6 i godi arian at apel ‘Northern Lights’. Dewiswyd yr elusen, sy’n rhoi ysbaid o wyliau i blant sy’n ddifrifol sâl, oherwydd bod dau athro (Mr Huw Jones a Mr Stephen Jones) yn rhedeg hanner marathon i gefnogi’r achos. Penderfynwyd yn y Clwb Menter y buasai ganddynt y sgiliau a’r brwdfrydedd i gefnogi’r ymgyrch codi arian. Buddsoddodd y Clwb o £10.49 ar gyfer gwobrau, gan wneud i’w harian ymestyn yn llawer pellach wrth ddanfon llythyr o apêl at y rhieni yn gofyn am gymorth gyda nwyddau, ffrwythau, teisennau ayb yn ogystal ag ychydig o arian i’w plant i wario yn y ffair. Wrth gwrs, gyda rhieni mor gefnogol â rhai Ysgol Llanllechid, roeddynt yn fwy na parod i hel pethau ar gyfer y ffair.
Cafwyd diwrnod gwych yn wir wrth i athrawon dewr, Mr Stephen Jones a Mrs Nerys Tegid wynebu’r disgyblion oedd yn anelu tuag atynt gyda gynnau dwr neu yn sgorio goliau ar yr iard.. Yna, drwy gydol y prynhawn daeth pob dosbarth yn ei dro i wario eu ceiniogau ar y stondinau diddorol gan gynnwys stondin hud, gwneud origami, helfa drysor, dweud jôcs, plethu gwallt, yn ogystal â rhai gwerthu megis ffrwythau ffres, dip lwcus, diodydd, teisennau, dillad a theganau. I goroni’r cyfan roedd yna sioe bypedau i ddiddanu’r disgyblion ar ôl prynhawn o wario.
A’r elw - wel o tua £10 o fuddsoddiad enillwyd dros £440 i’r elusen! Ac mewn geiriau mathemateg busnes - ie yn wir £430 o elw! Wfft i chi’r unigolion uchelgeisiol ymffrostgar ar yr ‘Apprentice’ sy’n cystadlu am elw personol. Mae gan Ysgol Llanllechid entrepreneuriaid ifanc sy’n llawer mwy llewyrchus! Maent yn llwyddo i godi arian wrth gynnig mwynhad i’w cwsmeriaid ac maent yn serennu am y rheswm syml eu bod yn cyfathrebu’n dda, yn cydweithio’n effeithiol mewn tîm, yn greadigol,ac yn meddwl am eraill.
Cliciwch yma i weld y lluniau
‘Gwyn’ yn Nghanolfan Conwy
Cafodd dosbarthiadau Blwyddyn 2 amser gwych yn ddiweddar pan gawsant fynd i weld cyflwyniad theatrig, llawn dychymyg gan Gwmni Theatr y Fran Wen yng Nghanolfan Conwy, Ynys Môn. Cafwyd ymateb bendigedig gan y plant i berfformiad gwefreiddiol o'r ddrama 'Gwyn' gan y cwmni. Yna, cafodd y plant hwyl fawr yn mynd am dro yng ngerddi Plas Newydd a chael picnic a chwarae o gwmpas y coed.
Llongyfarchiadau i Miss Emma a Mr Sichon ar eu priodas yng ngwlad Tai yn ddiweddar. Pob dymuniadau da i`r cwpwl i`r dyfodol.
Penblwydd Hapus!
Penblwydd hapus arbennig i Mrs Wilson a Mr Huw Edward Jones!
Taith Bl 1 i Treborth/Moelyci
Plannu, garddio a gofalu am blanhigion...dyna mae disgyblion Blwyddyn 1 (Dosbarth Mrs Bethan Jones a Mrs Nerys Tegid) wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar. Cawsant ymweld â chanolfan blanhigion arbennig iawn ym Meithrinfeydd y Brifysgol yn Nhreborth, lle roedd pob math o blanhigion gwahanol - o’r ‘Venus Fly Trap’ i goed fananas! Roedd y plant wrth eu boddau yn gweld y rhyfeddodau! Yn y p`nawn, cawsant fynd i blannu a garddio ym Moelyci. Cliciwch yma i weld y lluniau
Taith Bl 4 i Gastell a Charchar Beaumaris
Cafodd Blwyddyn 4 (dosbarth Mr Stephen Jones)hwyl a sbri yn ystod eu hymweliad â Chastell Beaumaris. Treuliwyd orig ddifyr yn crwydro oddi fewn i`w furiau gan synnu a rhyfeddu yr adeilad hanesyddol. Wedi hyn aethpwyd o amgylch y dref gan gofnodi ac arsylwi ar ei nodweddion cyn treulio gweddill yr amser yn y carchar, a sôn am garchar! Roedd y plant yn llawn diddordeb wrth wrando ar sut oedd pobol yn cael eu cosbi ers talwm ac yn synnu yn enfawr at yr hyn oedd yn digwydd i rai pobl am droseddau bychain iawn! Taith addysgol a fu`n gryn agoriad llygad! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Bl 6 Cynulliad
Mae Blwyddyn 6 (dosbarth MS Hanna Huws) yn edrych ar eu cyfleoedd a’u cyfrifoldebau yn y byd mawr a thu hwnt er mwyn gwneud eu marc ar gymdeithas. Gall yr ardal ymfalchïo yn y criw o ddinasyddion blaengar yn Llanllechid sydd wedi dewis pob math o achosion i ymgyrchu drostynt i`r dyfodol. Mae gan unigolion yn eu plith fwriad i daclo tlodi, wella ysbytai, datrys argyfwng ffermio, sicrhau parhad y Gymraeg, mynnu hawliau plant, hyrwyddo heddwch, amddiffyn anifeiliaid, gwarchod yr amgylchedd, rhoi cerdyn coch i hiliaeth mewn pêl-droed, annog ffitrwydd, a lleihau'r pwysau gwaith ar bobl ifanc. Ble gwell felly i ddechrau ar eu hymgyrchoedd nag ar ymweliad i ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn y swyddfa fawreddog yn Llandudno. Yno cafwyd croeso cynnes a… miliwn o bunnoedd! Do wir… ond i’w cyllido ar gyfer anghenion Cymru. Profiadau gwerthfawr i ddinasyddion blaengar ifanc ardal Ogwen!
Dosbarth Derbyn - Oriel Môn a Phlas Newydd
Cafodd y Dosbarth Derbyn (Dosbarth Mrs Wilson) amser arbennig o dda ar ymweliad ag Oriel Môn yn Llangefni pan gawsant fynychu gweithdy Celf o dan ofal yr artist [a mam Efa Lois] Anwen Burgess. Bu`r disgyblion yn efelychu arddull Stephen John Owen gan ddefnyddio pasteli, creonau a phaent dyfrlliw. Yn ystod y prynhawn aethant draw i Blas Newydd i gerdded ar hyd y llwybrau natur ac edrych am arwyddion y Gwanwyn. Cliciwch yma i weld y lluniau
Nofio a Phlas Ffrancon
Y tymor yma, dosbarthiadau Bl 2 (dosbarth Mrs Marian Jones) sy’n cael y cyfle i fynd i’r pwll nofio ym Mangor ac am wersi sgiliau pel ym Mhlas Ffrancon. Mae ‘na hen edrych ymlaen pob wythnos!

Bl 4 Ymweliad â Fferm
Roedd hi`n un o`r diwrnodau braf hynny o Wanwyn, sydd wedi bod mor brin eleni, pan aeth blwyddyn 4 ar eu taith i fferm Cae`r Graig, Efailnewydd. Cawsant groeso brwd gan Gwyndaf Jones a fu`n eu haddysgu am bwysigrwydd ffermio a chadwraeth. Bu`r diwrnod yn gyfoethog o brofiadau a c roedd hi`n bleser gweld y plant yn llawn brwdfrydedd yn cerdded o amgylch gyda`u clipfyrddau! Mae Gwyndaf wedi llwyddo i droi un o`r beudai yn ystafell ddosbarth a chafwyd gwers yno yng nghanol yr holl greiriau amaethyddol o`r oes a fu. Cyn mynd adref cafodd y plant gyfle i grwydro drwy’r caeau a sylwi ar y cloddiau eithinog gan dyfalu enwau’r caeau. Diwrnod i`w gofio. Diolch am y croeso. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Bl 3 Traeth Cemlyn
Aeth disgyblion Bl 3 (Mrs Rona Williams) i Warchodfa Natur Traeth Cemlyn, Ynys Môn am y diwrnod, lle cawsant astudio bywyd gwyllt y glannau yng nghwmni Mr Ben Stammers (tad Charmaine a Mabon). Cawsant gyfle i chwilota ar y traeth a chasglu pob math o wymon, cerrig a chregyn a dysgu adnabod adar y môr a`u cynefinoedd. Bu cryn drafod a chwestiynu wrth sylwi ar effaith y llanw ar y tirwedd. Diwrnod gwerth chweil yn yr awyr agored! Diolch Mr Stammers! Cliciwch yma i weld y lluniau
Rygbi
Llongyfarchiadau i`r canlynol ar eu perfformiad yng Nghlwb Rygbi Caernarfon yn ddiwedddar: Erin, Jac a Danny Jones, Caio, Guto, Owain, Iestyn, Sion, Josh Dignam, Tommy, Sam, Aaron a Dewi Cliciwch yma i weld y lluniau
Traws Gwlad
Cynhaliwyd ras draws gwlad yr Urdd ar Stad y Faenol yn ddiweddar ac yn cymryd rhan o `n hysgol ni oedd y canlynol: Thalia, Melanie, Maisy (3ydd), Mared, Mari, Swyn, Boe, Lauren, Lottie, Esme, Iestyn, Aron F ac Aaron P. Llongyfarchiadau gwresog i chi.
Plas Mawr
Y tymor hwn mae disgyblion blwyddyn 5 (dosbarth Mr Jones) yn astudio cyfnod y Tuduriaid, ac yng nghanol mis Ebrill aeth y dosbarth yn ôl mewn amser i dy Tuduriadd Plas Mawr yng Nghonwy. Cawsont gerdded o amgylch y tŷ gan weld beth oedd natur tai y cyfnod hwn. Roedd arogl y bwyd ffres yn y gegin yn llenwi’r ffroenau tra roedd eraill yn rhyfeddu at y patrymau cywrain ar y to. Sylwodd eraill ar bensaerniaeth nodedig y tai. Diolch i’r staff am y croeso ac am eu gwybodaeth toreithiog. Cliciwch yma i weld y lluniau
Archifdy Caernarfon
Er mwyn dysgu mwy am gyfnod y Tuduriaid daeth Ms Gwenda Williams o Archifdy Caernarfon i’r ysgol. Reodd ganddi arteffactau diddorol i’w dangos gan gynnwys yr esgidiau a ddefnyddid cyn welingtons, llestri bwyta a dillad y cyfnod. Roedd Elin a Cerwyn yn edrych yn grand iawn yn y dillad! Cliciwch yma i weld y lluniau
James and the Giant Peach
Cafodd disgyblion blwyddyn 5 a 6 fynd i theatr Venue Cymru yn Llandudno i weld cynhrychiad o nofel Roald Dahl James and the Giant Peach. Roedd yn sioe arbennig iawn ac roedd dehongliad y cwmni cynhyrchu yn hynod glyfar ac yn plesio’r gynulleidfa ifanc yn fawr. Ac i goroni’r cwbl cafwyd picnic ar y prom yn Llandudno! Cliciwch yma i weld y lluniau
Dosbarth Meithrin Pili Palas
Aeth saith o oedolion a llond lle o blant i ymweld â Pili Palas. Un o`r uchafwbwyntiau oedd cael gafael mewn malwod mawr Affricanaidd a nadroedd a phryfaid pric. Roedd pawb yn troedio`n hynod ofalus rhag sathru ar y pili palod amryliw yn y tŷ trofannol! Ar ôl cael picnic yn yr heulwen cafwyd cyfle i chwarae ar yr offer dringo. Diwrnod gwerth chweil! Cliciwch yma i weld y lluniau
Sgipio
Fe drefnodd y Cyngor Ysgol ddiwnrod sgipio fel rhan o ymgyrch yr Ysgol Iach. Bu’r disgyblion yn sgipio yn egniol yn barhaol drwy’r dydd, a diolch i’r Cyngor Ysgol am drefnu’r cwbl. Cliciwch yma i weld y lluniau
Daeth Rhian a Tayera o elusen Childline i siarad gyda disgyblion blwyddyn 5 a 6. Cafwyd gweithdai diddorol i ddilyn gyda’r disgyblion yn ymateb a chyfrannu yn aeddfed.
Casgliad Gwyl Ddewi
Roedd Ysgol Llanllechid l yn falch o gael cefnogi Gethin Jeffreys a Carwyn Evans, dau o hogia lleol a chyn-ddisgyblion, sydd am fentro cystadlu ym ‘Marathon Llundain’ eleni. Maent yn rhedeg er mwyn codi arian tuag at elusen yn ymwneud â ‘Cystic Fibrosis’, er côf am ein cyn-ddisgybl hoff ac annwyl,- Gavin Bolton. Braf oedd cael y cyfle i gyfrannu £150 i’r gronfa yn sgil y casgliad a wnaethpwyd ar ddiwedd ein cyngerdd Gwyl Ddewi. Cliciwch yma i weld y lluniau
Cinio Gŵyl Ddewi
Diolch i Mrs Macdonald a chriw y gegin am weinyddu cinio cig oen arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi – blasus tu hwnt!
Diddanu Aelodau o Gymdeithas y Capeli
Daeth aelodau o Gymdeithas Capeli’r ofalaeth draw i Ysgol Llanllechid i ddathlu Gwyl Ddewi eto eleni a diolch i`r Parchedig Geraint Hughes am ei eiriau caredig. Cafodd y gynulleidfa eu diddanu gan blant yr ysgol yn perfformio amrywiaeth o eitemau,- canu, llefaru, unawd offerynnol, ensemble lleisiol yn ogystal a sioe gan rai o blant Bl 2 yn seiliedig ar y cymeriad Madam Chips o Rachub. Cafwyd cyfle am baned, cacen a sgwrs ar ddiwedd y noson ac roedd nifer o’r gynulleidfa’n sôn pa mor braf oedd clywed plant yn adrodd hen benillion ac englynion; canu caneuon traddodiadol, a dysgu am eu hardal. Noson hwyliog iawn. Diolch i bawb a diolch i`r aelodau am y casgliad o £89 i`r ysgol.
Cliciwch yma i weld y lluniau
Bingo Pasg
Roedd y Clwb Criced dan ei sang unwaith eto ar noson Bingo’r Pasg; noson a drefnwyd gan y Gymdeithas Rieni/Athrawon dan ofal Mrs Lowri Roberts a Mrs Iona Robertson. Roedd gwobrau o wyau siocled blasus i’w gweld ym mhobman a Mr Dilwyn Owen, unwaith eto oedd yn galw’r rhifau yn ei ffordd ddihafal ei hun! Gwych!
Eisteddfod Sir
Llongyfarchiadau i bawb fu’n cystadlu yn Eisteddfod Sir yr Urdd yn Neuadd PJ. Fe wnaeth pob unigolyn ei orau yn enw’r ysgol ac hoffem ddiolch I’r rhieni am gefnogi ar ddiwrnod mor gyffrous! Roedd gweld y plant yn ymuno gyda gweddill plant Eryri yn Neuadd Powis I wylio’r gem rygbi fawr (tra’n aros yn eiddgar i gael mynd ar y llwyfan) yn fythgofiadwy! Llongyfarchiadau I’r côr cerdd dant (ail), Thalia Liechstenstein (trydydd gyda’r soddgrwth), y gerddorfa dan arweiniad medrus Jane Parry (trydydd), Erin Grifiths (trydydd am lefaru dan 7 oed). Pob dymuniad da I Beca Nia (unawd chwythbrennau ac ensemble lleisiol), Aziliz Kervegant (unawd blwyddyn 5 a 6 ac ensemble lleisiol, ac ail ar yr unawd cerdd dant dan 12oed) a Gwydion Rhys (ensemble lleisiol) yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro ym mis Mai. Cliciwch yma i weld y lluniau
Celf a Chrefft yr Urdd y Sir
Cliciwch yma i weld y canlyniadau
Eisteddfod Symudol
Llongyfarchiadau mawr i’r grwp dawnsio disgo ar eu perfformiad yn yr Eisteddfod Symudol. Roedd eu hegni yn heintus a braf gweld y criw i gyd yn mwynhau. Ond ni fuasai hyn wedi bod yn bosib heb Miss Nicola a Miss Awen yn eu hyfforddi. Llongyfarchiadau gwresog!
Taith y Dosbarth Derbyn
Cafodd plant bach y Dosbarth Derbyn ddiwrnod anturus iawn yn ddiweddar wrth ymweld â Chastell Caernarfon a Beddgelert. ‘Cestyll’ yw thema`r tymor ac maent wedi eu cyfareddu wrth wrando ar Mrs Wilson yn darllen stori Gelert! Diwrnod llawn bwrwlm; does ryfedd fod nifer ohonynt yn gysglyd iawn ar y ffordd adref yn y bws! Cliciwch yma i weld y lluniau
Taith Blwyddyn 2
Cafodd disgyblion Bl 2 ddiwrnod bendigedig yn yr awyr agored yn RSPB, Conwy. Roedd cyffro mawr pan gafodd y plant gyfle i wneud gwahanol weithgareddau fel astudio cynefinoedd, adnabod adar, darganfod creaduriaid oedd yn byw yn y pyllau, chwarae gemau, dysgu am wahanol bryfed, yn ogystal â mynd am dro ar hyd y llwybrau bendigedig! Diolch i bawb am eu cymorth , yn enwedig Aran a Gwenno ein cyn-disgyblion, sydd ar brofiad gwaith yn yr ysgol. Cliciwch yma i weld y lluniau
Taith Bl 3 a 4
Bu dosbarthiadau Bl 3 a 4 yn `Techniquest’ yn Wrecsam. Roedd yn brofiad gwych. Cafwyd digonedd o amser i arbrofi, chwarae, holi, dysgu am bob agwedd o Wyddoniaeth, yn ogystal a chymryd rhan mewn amrywiol weithdai. Cliciwch yma i weld y lluniau
Noswaith o Ddawns
Rhaid llongyfarch y criw dawnsio disgo ar eu perfformiad grymus yn y Galeri, Caernarfon yn ystod y Noswaith o Ddawns. Diolch i Ms Awen a Ms Nicola am eu gofal ohonoch.
Sioe Bypedau
Daeth cwmni pypedau ‘Treasure Trove’ draw i’r ysgol i diddanu`r holl ysgol ar ddiwedd y tymor. Chwedlau Aesop oedd o dan sylw ac roedd yr holl ddisgyblion wedi deal y gwersi yn y storiau i`r dim! Cliciwch yma i weld y lluniau
Gweithdy Cyfrfiadurol
Cafodd disgyblion Mr Stephen Jones weithdy prysur iawn wrth iddynt gydweithio gydag arlunydd o'r enw Ian Jackson. Mae Ian yn hen law ar ddefnyddio rhaglen 'Microsoft Paint' er mwyn paratoi'r darluniau ar gyfer ei lyfrau. Aeth y disgyblion ati’n hyderus i ddefnyddio rhaglen 'Paint' er mwyn creu cymeriadau hwyliog a chreadigol ar gyfer eu storïau. Cyflwynodd bl 4 eu campweithiau yn y neuadd i`r ysgol gyfan. Cliciwch yma i weld y lluniau
Diwrnod Trwynau Coch
Cafwyd p`nawn o hwyl yn y neuadd ar ddiwrnod y Trwynau Coch. Roedd pawb werth eu gweld yn eu gwisgoedd lliwgar. Cafwyd cyfle hefyd i ddysgu am blant bach ar gyfandir yr Affrig sydd heb ddŵr glân a`r problemau sy`n codi yn sgil hynny.
Plannu coed
Bu disgyblion blwyddyn 5 yn plannu coed ger y clwb rygbi ym Methesda. Diolch i Gyngor Cefn Gwlad am drefnu’r digwyddiad. Roedd y plantos yn edrych yn weithgar iawn yn eu welingtons a da iawn nhw am feddwl am eu hamgylchfyd. Cawsont y fraint yn ogystal o gael cyfarfod Rupert Moon, sef cyn fewnwr Llanelli a Chymru. Cliciwch yma i weld y lluniau
Piano newydd!
Mae yna biano newydd yn Ysgol Llanllechid – a do bu’n rhaid ffarwelio â’r piano roddodd wasaneth mor ffyddlon ers agoriad yr ysgol nôl ym 1954. Mae yna swn tipyn gwahanol yn dod o’r iforis y dyddiau hyn yn neuadd yr ygol ac rydym i gyd wedi gwirioni! Cliciwch yma i weld y lluniau
Entrepreneuriaid y dyfodol
Gwelwyd y Clwb Menter yn mynd o nerth i nerth gan lwyddo gwneud elw eto wrth blannu, tyfu, ail-botio ac yna gwerthu basgedi o flodau i’r cyhoedd. Da iawn chi. Edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld sut fyddwch yn buddsoddi’r £30 ar gyfer eich menter yn Nhymor yr Haf.
Rhai o ddisgyblion Bl6 fu’n datblygu mentergarwch a’u sgiliau fel gwerthwyr.
Wythnos Wyddoniaeth
Fel rhan o wythnos wyddonieth 2013 bu cyfle gwych i ddisgyblion blwyddyn 3 fynychu digwyddiad yn Adran Seicoleg y brifysgol ym Mangor. Roedd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad rhyngweithiol gan yr arbenigwr ar faeth Dr Stephanie Mathews yn ogystal â gweithgareddau hwyliog ac addysgol gan staff o'r adran seicoleg. Cafodd y plant flasu amrywiaeth o ffrwythau, llysiau a diodydd iachus ac roedd y plant wrth eu boddau yn cael gwylio clipiau fideo o'r "food dudes" a darganfod mai'r cyfnod iachaf mewn hanes oedd cyfnod yr ail ryfel byd ! Cafwyd cyfle i chwarae gemau dyfalu a gwisgo 'pedometer' . Roedd y disgyblion yn hynod hapus pan gawsant lond bocs o nwyddau yn rhad ac am ddim oedd yn cynnwys crys t, mwg a châs pensiliau! Cliciwch yma i weld y lluniau
Croeso’n ôl i Miss Dianne
Mae’n braf iawn cael croesawu Miss Dianne yn ôl i’n plith ar ol iddi fod yn sâl am rai misoedd. Mae pawb mor falch o’i gweld yn yr ysgol unwaith eto! Croeso cynnes yn ôl Ms Dianne.
Cyngerdd Leon/Côr Gogledd Cymru
Cafwyd cyngerdd arbennig yn Ysgol Dyffryn Ogwen er mwyn casglu arian tuag at gronfa apêl Leon Williams. Roedd Côr Gogledd Cymru, dan arweiniad Mr Geraint Roberts yn cymryd rhan flaenllaw yn y cyngerdd oherwydd bod Gwyndaf Williams, taid Leon, yn aelod o’r côr. Agorwyd y noson gan blant Blwyddyn 2 yn perfformio cyflwyniad grymus yn seiliedig ar un o hen gymeriadau Caellwyngrydd, Rachub o`r ganrif ddiwethaf, sef Madam Chips yn ogystal â William Morgan a`r bardd William Gruffydd, Henbarc. Perfformiodd y plant yn wych, a gwerthfawrogwyd sgript wreiddiol Mrs Marian Jones gan y gynulleidfa. Cyflwyniad cerddorol oedd gan blant yr Adran Iau a chafwyd amrywiaeth o ganeuon bywiog a’r rheiny yn cael eu perfformio i safon uchel o dan arweiniad Mr Huw Edward Jones. Diolch i bawb a fu’n helpu yn ystod y noson fythgofiadwy hon. Codwyd £500 tuag at Apêl Leon. Cliciwch yma i weld y lluniau
Diwrnod Tsieniaidd
Roedd Ysgol Llanllechid yn fôr o liw unwaith eto eleni wrth ddathlu Blwyddyn Newydd y Tseiniaid. Mae hi’n flwyddyn y neidr erbyn hyn a daeth y plant i’r ysgol wedi eu gwisgo yn lliwiau baner China a chawsant gyfle i wneud pob math o grefftau yn ystod y diwrnod, yn ogystal a rhyfeddu at y ddraig liwgar yn dawnsio o amgylch yr ysgol!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Eisteddfod yr Urdd (Cylch Bangor/Ogwen)
Cafwyd Eisteddfod i`w chofio a diolch i holl staff Ysgol Llanllechid am ddod i`r Eisteddfod a chynorthwyo yn ystod y dydd. Diolch hefyd i`r Gymdeithas Rieni/Athrawon am gynnal cyfarfodydd i ymwneud â`r trefniadau ac am weithio mor galed yn y gegin. Diolch i Mr Huw E. Jones am ei waith trefnu.
Bu cryn brysurdeb. Dyma Mrs Helen Williams yn hyfforddi`r unawdwyr!
Cliciwch yma am restr o ganlyniadau llwyfan a chelf a chrefft
Daeth y criw dawnsio disgo yn ail yn y gystadleuaeth Dawnsio Disgo, gyda diolch mawr i Miss Awen a Miss Nicola am eu hyfforddi.
Addurno llechi/Parc Meurig
Bu plant Blwyddyn 5 yn cael helpu i gynllunio arwyddion arbennig i’w gosod ym Mharc Meurig fel rhan o gynllun i greu llwybrau sy’n seiliedig ar storiau Llyfr Mawr y Plant. Mae’n brofiad bendigedig cael bod yn rhan o’r fath gynllun!
Clwb Gitar
Dyma rai o aelodau’r Clwb Gitar yn ymarfer eu caneuon - allan yn yr heulwen am unwaith! Maent yn cyfarfod ar ôl ysgol pob dydd Mawrth, - yn gwneud digon o sŵn, ond yn cael llawer o hwyl! Diolch i Mrs Marian Jones am eu hyfforddi.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cyngerdd Gwyl Ddewi
Cafwyd awr a hanner o gyngerdd yn neuadd yr ysgol ar fore Mawrth y cyntaf a bu`r holl blant o`r Meithrin i`r plant hynaf yn cymryd rhan.Braf oedd gwrando ar y disgyblion yn adrodd llu o englynion ac ati! Diolch i`r holl rieni a ffrindiau`r ysgol am ddod i`n cefnogi
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Diwrnod Santes Dwynwen
Bu pawb yn yr ysgol yn dathlu Dydd Santes Dwynwen. Daeth y plant i’r ysgol yn gwisgo dillad coch a threfnwyd disgo arbennig o dda ar eu cyfer gan aelodau’r Cyngor Ysgol a Mr Huw Edward Jones. Roeddent wedi bod yn brysur iawn yn addurno’r neuadd yn hyfryd ac yn paratoi diodydd i bob un o’r plant ac ar ddiwedd y dydd cafodd pawb gyfle i wneud cerdyn i’w gariad! Diolch i Mrs Rachel Morgan am roddi rhoddion o oleuadau disgo i`r ysgol. Cliciwch yma i weld y lluniau
Cyngerdd Leon
Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi Cyngerdd Ysgol Llanllechid a Chôr Rygbi Gogledd Cymru yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Cyngerdd oedd hwn i godi arian at Apêl Leon. Cewch fwy o fanylion yn y rhifyn nesaf.
Ms Evans a Ms Dianne
Dymunwn adferiad buan i Miss Dianne a fu’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar. Gwellhad buan i chi Miss Dianne oddi wrth bawb yn yr ysgol. Rydym i gyd yn cofio atoch ac yn gobeithio eich gweld yn fuan. Mae’n braf iawn gweld Ms Elen Evans yn ôl yn yr ysgol wedi cyfnod o salwch. Croeso’n ôl Miss Evans!
PC Dewi Tomos
Cawsom ymweliad gan P.C. Dewi Tomos unwaith eto, - y tro hwn i addysgu plant i am beryglon meddyginiaethau ‘pobol eraill’. Mae gan P.C.Tomos ffordd arbennig o gyflwyno’i neges pob amser, ac mae’r plant yn deall y geiriau ‘Paid cyffwrdd -Dweud’
Cyflwyniad dramatig ‘Hei Hogia Bach’
Daeth yr actorion Catrin Mara a Dyfrig Evans i’r ysgol gyda’r sioe ‘Hei Hogia Bach’, - sioe a drefnwyd gan y Gwasanaeth Llyfrgell. Cyflwyniadau ar ddetholiad o lyfrau oedd ganddynt i’r plant hŷn, yn ogystal a stori a chân i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen. Roedd pawb wedi eu plesio. Perfformiadau gwerth chweil!
Techniquest
Bu Mr Gwilym Evans o gwmni Techniquest yn treulio diwrnod gyda Blynyddoedd 5 a 6. Roedd offer gwyddonol a mathemategol gwych ganddo ac roedd pawb wrth eu boddau’n cymryd rhan yn y gweithgareddau, gan ddysgu llawer drwy feddwl a datrys problemau.
Fforestydd Trofannol
Bu Blynyddoedd 3 a 4 yn ffodus iawn o gael gweithdy diddorol gan Esyllt Davies, Swyddog Eco Ysgolion. Cafodd y disgyblion ddysgu am bwysigrwydd y Fforestydd Trofannol ac am yr holl greaduriaid sy’n byw yno.
Gwasanaeth
Diolch i’r Parchedig Jennifer Hood, y Ciwrad am ddod draw i’r ysgol unwaith eto i gynnal gwasanaeth boreol. Bu nifer o’r disgyblion yn ei chynorthwyo i drosglwyddo neges am bwysigrwydd bod yn ddiolchgar wrth y bobol sy’n ein helpu.
Bore Coffi Cylch Meithrin Llanllechid
Cynhaliwyd y Bore Coffi yn ddiweddar a chafwyd cefnogaeth dda gan y rhieni. Llawer o ddiolch i bawb a ddaeth i`n cefnogi. Mwy o`r hanes tro nesaf!
Cyngherddau Nadolig
Cafwyd tri cyngerdd Nadolig gwych gan blant yr ysgol eto eleni. Roedd y dosbarthiadau Meithrin a Derbyn wedi dysgu llu o ganeuon a sgriptiau wrth berfformio sioe am lythyr Sion Corn. Roedd y plant yn werth i’w gweld mewn gwisgoedd bendigedig, - llwyfan lliwgar dros ben! ‘Taith Madam Chips i Wlad y Rwla’ oedd sioe Blynyddoedd 1 a 2, ac roedd y perfformiad yma’n werth chweil hefyd, yn llawn canu a dawnsio a hwyl a sbri, gyda dros saith deg o blant!
Aeth yr Adran Iau i Ysgol Dyffryn Ogwen i berfformio eu sioe Culhwch ac Olwen, - ac am sioe oedd honno! Roedd y neuadd fawr yn orlawn, a pawb yn mwynhau cyflwyniad gwych gan yr holl blant! Diolch i bawb am eu cymorth yn enwedig i’r rhieni am ofalu am yr holl wisgoedd!
Tren Sion Corn
Cafodd plant y Dosbarth Derbyn daith ardderchog i Llanberis, er mwyn mynd ar y tren o amgylch y llyn i weld Sion Corn. Roedd pawb yn hapus iawn, - pob plentyn yn dychwelyd gydag anrheg gwerth chweil!
Croeso’n ôl!
Mae’n bleser cael gweld dau wyneb cyfarwydd yn ol yn ein plith, ar ol cyfnod digon annodd. Mae Mrs MacDonald wedi dychwelyd i’r gegin, a Leon yn dod i’n gweld yn achlysurol er mwyn cael chwarae gyda’i ffrindiau.
Bore Coffi
Cafwyd Bore Coffi hwyliog iawn yn y Clwb Criced yn ddiweddar. Trefnwyd y cyfan gan Gymdeithas Rieni yr ysgol, dan arweiniad Mrs Iona Robertson a Mrs Lowri Roberts. Roedd digon o stondinau yno, a phawb yn mwynhau’r awyrgylch Nadoligaidd yn enwedig pan ymddangosodd Sion Corn ei hun. Roedd yr elw y tro hwn yn mynd tuag at apel Leon Williams, Maes Bleddyn.
Caroline/mam Gethin – addurniadau Nadolig
Diolch yn fawr i Mrs Caroline Jones [mam Reece] am ddod i’r ysgol i ddysgu plant Blwyddyn 6 sut i wneud addurniadau bwrdd bendigedig ar gyfer y Nadolig. Roedd yr addurniadau hardd ar werth, wedyn, yn y Bore Coffi. Diolch yn fawr hefyd i Ms M Bibby am ddod at flwyddyn 2 i wneud addurniadau Nadolig, ac yn wir, am ddod i wrando ar blant yn darllen Saesneg yn gyson ar hyd y flwyddyn.
Gwasanaeth a Christingle Jenny’r Ciwrad
Cawsom wasanaeth boreol diddorol gan y Ciwrad Jenny o Eglwys Glan Ogwen, yn esbonio arwyddocad y Christingle i’r disgyblion. Yna cafodd dosbarth Blwyddyn 3 gyfle i wneud oren Christingle pob un yng nghwmni Jenny.
Partion Nadolig/cinio Nadolig
Cafwyd partion Nadolig gwych eto eleni, - rhai yn yr ysgol a rhai ym Mhlas Ffrancon, - a Sion Corn yn cyrraedd gyda llond sach o anrhegion pob tro. Roedd y cinio Nadolig eto y Nadolig hwn yn flasus iawn, - diolch i Mrs MacDonald a’i staff. Diolch i bawb fu’n ymwneud a’r partion i gyd!
Byd y Llan
Cyhoeddwyd rhifyn hwyliog o bapur newydd yr ysgol, sef ‘Byd y Llan’ ar ddiwedd y tymor. Ynddo cawn wybod am yr holl brofiadau difyr a gwerthfawr mae disgyblion yr ysgol wedi’u cael yn ystod y tymor. Mae’n bapur gwerth chweil, - a diolch i’r holl ddisgyblion sy’n aelodau o’r clwb newyddiadura am y campwaith.
Clwb yr Henoed.
Unwaith eto, braf oedd cael croesawu aelodau o Glwb yr Henoed atom am ychydig o adloniant a thamaid i’w fwyta. Cawsant gyflwyniadau bendigedig gan y plant, ac roedd pawb wrth eu boddau.
Warws Werdd
Cafodd dosbarth Blwyddyn 4 gyfle i ymweld â safle ail gylchu Warws Werdd yng Nghibyn, Caernarfon yn ddiweddar. Roedd y disgyblion yn brysur iawn wrth ddidoli amrywiaeth o ddillad lliwgar gyda’r gweithwyr. Mae’r ysgol yn cydweithio gyda Warws Werdd er mwyn hyrwyddo’r ymgyrch ail gylchu dillad.
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2012
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2013
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2014
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2015
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2015
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2016
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2017
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2018
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2019
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2020