Archif Newyddion - 2014

ENGLYN - Y Nadolig
Drwy ryndod hir gysgodion – awn heno
Yn hieni a phrydlon
Ar daith yng nghwmni’r doethion
At wresog lu’r llety llon.
Mr Dilwyn Owen

line

LONDIS
Aeth dosbarthiadau Mrs Marian Jones a Mrs Rona Williams draw i LONDIS er mwyn cael dysgu mwy am y ffordd y mae’r siop yn gweithio. Cawsom groeso bendigedig gan Mr Johnny Thomas, y rheolwr a’r staff, ac roedden nhw’n fwy na bodlon ateb yr holl gwestiynau a baratowyd gan y plant. Cawsom grwydro o amgylch y siop, dysgu am y lle storio yn y cefn, sut mae’r bwyd yn cyrraedd, a dysgu bod wyau Pasg yn cyrraedd y siop yn ystod gwyliau’r Nadolig! Cafodd pob un o`r plant ffrwyth a diod cyn troi yn ôl am yr ysgol! Diolch i bawb yn LONDIS am y croeso!

linePiggery Pottery
Piggery PotteryYn ddiweddar fe aeth dosbarth Mrs Wilson i Piggery Pottery.Yno, cafodd pob un gyfle i ddewis moch arbennig, cyn eu peintio yn bob lliw dan haul. Diolch unwaith yn rhagor i Barbra, Piggery Pottery am ei chroeso a`i chymorth.

 



lineDyn Tân
Fe fu dosbarth Mrs Wilson yn lwcus iawn yn ddiweddar yn cael ymwelydd i’r dosbarth. Dyn tân lleol yw Mr Owain ac roedd ganddo neges bwysig i`w rannu hefo ni. Cafodd pawb yn y dosbarth gyfle i ddysgu am yr hyn sy’n beryglus yn y tŷ ac am bethau sy’n gallu achosi tân. Ei neges bwysig oedd, os oes unrhyw un yn gweld matsus neu leitar, peidiwch a’u cyffwrdd, ewch i ddweud wrth oedoyn.

Mwy o luniau

line TESCO
Aeth dosbarth Mrs Bethan Jones i archfarchnad Tesco Caernarfon, a chafodd y plant brofiadau lu! Cawsant fynd o amgylch y siop yn chwilio am lysiau sy’n cael eu tyfu ym Mhrydain a thu hwnt ac yna eu defnyddio i wneud cawl llysiau blasus! Cawsant fara ffres gyda’r cawl. Roedd gweld y pygod yn cael eu di-berfeddu yn destun o ryfeddod i bawb! Diolch yn fawr i Mr David Griffiths y rheolwr, gŵr sy’n wreiddiol o Rachub!

 

lineEisteddfod Dyffryn Ogwen

Llongyfarchiadau i bawb o’r ysgol a fu’n cystadlu yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen eleni. Cafwyd llwyddiant ysgubol yn yr holl gystadlaethau, o’r celf i’r canu i’r llefaru i’r ysgrifennu i’r dawnsio disco! Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n gweithio’n galed i hyfforddi’r plant ac i Mrs Jane Parry, Mrs Helen Williams a Mrs Menai Williams. Cliciwch yma am restr o ganlyniadau Ysgol Llanllechid.

Mwy o luniau

lineY Ddawns Flodau

Plant o ddosbarth Blwyddyn 2 oedd yn perfformio`r Ddawns Flodau yn Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen eleni. Roedd pob un o`r dawnswyr ifanc, ysgafndroed yn werth eu gweld ar lwyfan Neuadd Ogwen. Diolch i Ms Rhian Haf a Mr Tomos Morris am eu hyfforddi. Llongyfarchiadau hefyd i Eurgain Jones ar ei champ!

 

Mwy o luniau

line
Hanes William Ellis Williams [1881-1962]
Mab i chwarelwr oedd William Ellis Williams, a dreuliodd ei blentyndod yn byw yn Nhyddyn Canol, Rachub. Roedd ganddo ddiddordeb hynod mewn Mathemateg, a graddiodd yn y pwnc ym Mhrifysgol Bangor ym 1901. Yn ddiweddarch,ymddiddorodd ym maes peirianneg ac awyrennau, a dywedir iddo adeiladu rhannau o beiriannau awyren yn ei sied yn Nhyddyn Canol, cyn mynd â nhw draw i’r Brifysgol ym Mangor. Adeiladodd ei awyren gyntaf, ‘Bamboo Bird’ yn 1910, ond ni chafwyd lwyddiant. Rhoddodd gynnig arall arni yn 1913 ar draeth Llanddona, ac roedd honno’n gampwaith! Daeth y gŵr o Dyddyn Canol yn enw pwysig iawn yn yn y byd adeiladu awyrennau yn dilyn hyn, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn cofio amdano! Mae ein disgyblion Cyfnod Sylfaen wedi cael eu swyno gyda`r hanes hwn, diolch i ymchwil Mrs Marian Jones. Llifodd yr awen, a`r canlyniad oedd i`n Côr Plant Bach ganu cân hollol wreiddiol, a gyfansoddwyd gan Mrs Jones, yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen eleni. Dyma beth yw Cwricwlwm Cymreig ar ei orau!

Dyma hi`r gan wreiddiol a dyma`r plantos bach yn ei chanu gydag arddeliad!

line Becws Cae Groes
Am groeso gwresog a gawsom ym Mecws Cae Groes, trysor o adnodd yn ein pentref. Roedd ogla’r bara’n crasu yn ein hudo tua’r fangre wrth i ni fynd i ddysgu am gymysgeddau anghildroadwy a solid, hylif a nwy mewn awyrgylch cartrefol braf. Ac eto, hylendid oedd ar frig yr agenda wrth i ni wisgo ein capiau glas i orchuddio gwallt a chlustiau a hyd yn oed locsyn Mr Philip Russell, y rheolwr hylendid. Diolch i’r perchnogion Mr a Mrs Gwyn a Marian Williams a hefyd i’r rheolwr Mr Geraint Jones am ddarparu cyfle dysgu euraidd ar y safle ac am y cyfle hael i flasu eich cynnyrch rhagorol. Bydd ciw o blant Llanllechid am brynu mwy o gacennau cri a mins peis erbyn y Nadolig - amheuthun yn wir. Mae’r llythyron gwerthfawrogol yn y post i chi!

plant

 

 

Mwynhau’r croeso a chael blasu danteithion Becws Cae Groes

 

 

 

 

lineCorddi
Roedd yn rhaid parhau gyda’r traddodiad mentergarwch wrth gorddi menyn i fynd gyda’r danteithion. Cafwyd diwrnod o hwyl gwyddonol blasus wrth i ni amseru’r corddi menyn. Wrth reswm ar ôl cynhyrchu’r fath gynnyrch o safon rhaid oedd ei flasu hefyd gyda jam organig cartref wedi ei wneud gyda siwgr Masnach Deg.

 

line Mentergarwch yn y Gymuned
Fel y gwyr y rhieni eisoes, mae cael prynu nwyddau’r Clwb Menter yn rhan o fywyd Ysgol Llanllechid ers blynyddoedd. Ond, her newydd sbon felly oedd cael ymestyn y farchnad i’r gymuned ehangach drwy Siop Ogwen. Diolch yn fawr iawn i Meleri Davies am ei chroeso a’i harweiniad i’r entrepreneurs ifanc wrth iddynt fentro i’r siop i drafod prisiau, pecynnu a chyflwyniad eu nwyddau. Llawer cleniach na’r Mr Siwgr yna! Ac am siop braf yw Siop Ogwen ar Stryd Fawr, Bethesda! Mae’n anrhydedd cael rhannu gofod yn y siop gyda nwyddau hardd crefftwyr proffesiynol. Gobeithio y bydd pawb yn tyrru i’r siop i gefnogi’r entrepreneuriaid lleol, boed yn hen neu yn ifanc. Neges gan aelodau o`r Clwb Menter sy`n gynhyrchwyr calonnau lafant persawrus o ddefnydd Masnach Deg: Prynwch yn lleol er mwyn i’r ardal a’i mentrau lwyddo… diolch :)


plant

 

Gyda Meleri Davies yn Siop Ogwen mae Emma, Ila ac Esme yn cynrychioli Clwb Menter Ysgol Llanllechid.

 

 

 


line Beicwyr
Mae Bl6 wedi cael cyfle i ddod yn feicwyr hyderus wrth gael arweiniad a gwersi beicio ar dir yr ysgol ac ar y lon fawr. Diolch yn fawr i Aled am arwain y criw gan bob un o Fl 6 sydd wedi dysgu gwersi pwysig ar sut i gadw’n ddiogel.

 

line Hanfodion y Byd
Diolch i Mr Wright, daearegydd a ddaeth i rannu ei wybodaeth helaeth ar greigiau gyda’r dosbarth. Roedd yn brofiad rhyfeddol gafael yn y creigiau amrywiol a hynafol o berfeddion a chrombil y ddaear neu wedi eu creu gan losgfynyddoedd diweddar. Sôn am wneud i rywun deimlo’n fychan wrth sylweddoli oed y byd ac ystod y bydysawd. Cafwyd hwyl hefyd yn creu daeargrynfeydd a gwahanol ffrwydriadau. Gadawodd yr arbenigwr sawl cyw daearegydd ar ei ôl.

 

line

Nodyn Atgoffa i Rieni - cliciwch yma

 

line

Canlyniadau Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen 2014

 

Cliciwch yma i gael rhestr o'r canlyniadau

line

Digwyddiadau

nadolig

 

 

 

Calendr o ddigwyddiadau Rhagfyr - cliciwch yma

 

 

 

 

 

Sgio i Lawr y Llethrau

Teithiodd Cian McLeod a Ollie Teasdale Blwyddyn 3,Ysgol Llanllechid i Langrannog yn ddiweddar i gynrychioli'r ysgol mewn Pencampwriaeth Sgio Ysgolion Cymru. Cafodd y ddau ddisgybl gyfle i sgio cwrs hynod o serth oedd yn 100metr o hyd. Y gamp oedd teithio i lawr mor sydyn â phosib gan symud yn chwim rhwng y giatiau. Her a hanner!


Llongyfarchiadau i'r ddau ar eu llwyddiant; Ollie yn bumed allan o wythfed a Cian yn chweched allan o ddeg. Da iawn nhw!

line
Sbarci a Fflic

Llongyfarchiadau i Griw Sbarci a Fflic sydd wedi llwyddo i arbed 12.5% o ynni yn ystod 2013 - 2014

line

Penblwydd Hapus!
Penblwydd hapus arbennig i Tomos Morris!

line

Hwyl Fawr!
Diolch i Anti Carol am ei gwaith yn y gegin. Dydi Anti Carol ddim yn mynd yn bell; mae`n dal hefo ni yn sicrhau fod yr ysgol yn parhau i sgleinio fel swllt!

line

Archfarchnad
plantCafodd dosbarth Blwyddyn 2 groeso arbennig yn archfarchnad yng Nghaernarfon. Cafodd pawb weld sut oedd y gweithwyr yn y cefndir yn trin y pysgod a gwneud y bara. Roedd arogl o`r torthau yn crasu yn codi blys ar bawb a chafodd y plant mo`i siomi; bwytaodd pob un frechdan ffres oedd newydd ddod allan o`r popty! Blasus dros ben a gwers goginio heb ei hail!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

line

Segontiwm
plantAeth plant dosbarth Mrs Angharad Parry Owen ar ymweliad â Segontiwm Caernarfon yn ddiweddar fel rhan o`u hastudiaeth ar y Rhufeiniad. Cawsant gyfle i wisgo fel milwyr Rhufeinig a chrwydro o amgylch muriau’r hen gaer. Diolch i Mr Trystan Jones am gyflwyno cymaint o wybodaeth i’r plant am ein hen, hen hanes.

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

 

line

Diwrnod T.Llew Jones
plantBu pob dosbarth yn dathlu bywyd a gwaith T.Llew Jones ar ddydd arbennig yr awdur. Bu`r disgyblion yn dysgu ei farddoniaethac yn gwrando`n astud ar ei storiau. Cafwyd gweithgareddau amrywiol ym mhob dosbarth ac yn nosbarth Mrs Rona Williams roedd llond y lle o fôr ladron mileinig! Pob un yn debyg i Barti Ddu o Gasnewy` Bach!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

line

Oriel Môn
plant

Cafodd plant dosbarth Mrs Bethan Jones amser da iawn yn Oriel Môn gyda mam efa Lois ac Efa Fflur, Anwen Burgess. Roedd y gweithdy Celf yn werth chweil a llwyddwyd i gwbwlhau portreadau bendigedig. A wir i chi mae`n bosib adnabod y disgyblion o`r portreadau! Dyna sgil!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

 

 

line

Archifdy
Bywyd cwbwl wahanol oedd hi heb drydan, ynte! Mae`n anodd i`n plant bach ddirnad y fath fywyd y dyddiau hyn, yn enwedig o ystyried eu bod yn cael eu magu mewn cyfnod lle mae bri yn cael ei roi ar bob math o sgriniau – boed hi`n sgrin fawr neu fach! Pleser felly oedd gwahodd ein ffrindiau draw o`r Archifdy i sgwrsio â disgyblion Mrs Parry Owen ac egluro sut fywyd oedd hi go iawn yn ein bythynod ers talwm ..cannwyll wêr; tecell ar y tân; fforc fawr i ddal tafell o fara o flaen tanllwyth o dân i wneud tôst; llechi gleision ar lawr y gegin; ffedog fras; haearn swmddio yn y tân i`w boethi, megin i ennyn fflamau yn y fawnen frwd a.y.y.b Yn ogystal, rhyfeddod i`r plant oedd dysgu am arferion diwrnod golchi ers talwm, – tydi`r oes wedi newid `dwch!

 

line

Diolchgarwch
Cafwyd amrywiol themau yn ein cyflwyniadau diolchgarwch eleni eto a`r disgyblion yn morio canu! Braf oedd gweld neuadd yr ysgol o dan ei sang a chefnogaeth ein rhieni yn werth y byd! Cafwyd gwledd – o`r plant lleiaf un yn y dosbarth Meithrin hyd at y plant hynaf ym Mlwyddyn 6. Bore gwerth chweil a diolch i bawb!

 

line

Diolchgarwch Capel Carmel
Ar noswaith braf o Hydref, cafodd Mrs Davies Jones y cyfle unwaith yn rhagor i fynd draw i Gapel Carmel i siarad hefo`r plant. Gan ein bod yn cofio`r Rhyfel Mawr eleni, trafodwyd y gair pwysig; Heddwch. Yna, cafodd pawb yn y gynulleidfa eu cyfareddu pan ddarllenodd Gwydion Rhys hynt a helynt y tri brawd a adawodd eu cynefin, sef yr ardal hon, a`i throi hi tuag at y Rhyfel Mawr. Diolch am ddarllen mor ystyrlon Gwydion. Unwaith eto eleni, roedd safon perfformiadau`r plant yn werth chweil a braint yw gweld ein pobl ifanc; ein cyn-ddisgyblion, yn parhau yn ffyddlon i`r achos ac yn cymryd rhan mor ddeheuig mewn nifer o wahanol ffyrdd gan gynnwys canu deulais. Diolch hefyd i aelod o`n staff ni, Ms Elin Mair am arwain y cyfan. Yn ogystal, mae ein diolch diffuant yn mynd i Mrs Helen Williams am barhau i fod yr un mor frwdfrydig ag erioed yn arwain y cyfan gan gyflwyno trysorau i`n hieuenctid. Rhaid nodi hefyd y gwaith arbennig a welwyd ar furiau Capel Carmel – gwerth ei weld, sef ffrwyth llafur aelodau`r Dwylo Prysur. Mae`r profiadau a gaiff y plant a`r bobl ifanc yn amhrisiadwy o dan arweinaid Mrs Helen Williams a`i thïm a diolch am y cyfle euraidd i gyd-weithio mor agos hefo chi fel capel.

 

line

Coginio
Mae`r sesiynau coginio yn parhau i fynd o nerth i nerth a danteithion lu yn cael eu creu.

 

line

Panto yn yr Ysgol
plant

Diolch yn fawr i Mrs Anwen Morgan, mam Daniel a Dafydd, cafodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen brynhawn i’w gofio pan ddaeth ‘ Gweithdy Panto ’ o Venue Cymru i`n hysgol yn arbennig i ddysgu`r plant am sgiliau actio! Cafwyd p`nawn hwyliog a phawb wrth eu boddau yn cael colur a gwisgo i fyny mewn gwisgoedd o bob math! Roedd hi`n hynod anodd adnabod rhai o`r plant; cymaint oedd y trawsnewidiad! Prynhawn i`w gofio!

 

 

 

line

Disgo’r Urdd
Aeth criw egniol i ddawnsio yn nisgo a drefnwyd gan yr Urdd yn Ysgol Tryfan ar ddiwedd mis Hydref. Cafwyd noson llawn hwyl a phawb yn mwynhau yr arlwy gyffrous o gerddoriaeth amrywiol. Diolch i bawb o’r staff oedd yn helpu ar y noson.

 

line

Gweithdy Rocedi
plantMae dosbarthiadau Mr Huw Edward Jones a Mr Steohen Jones yn astudio’r planedau yr hanner tymor hwn a daeth cyfaill o`r Brifysgol i gynnal diwrnod o weithgareddau yn ymwneud â`’r bydysawd i`w diddanu!

Yn ystod y bore fe aeth holl ddisgyblion yr ysgol i`r neuadd a chael cyfle yn llythrennol i ddysgu a gwibio o amgylch y planedau drwy gyfrwng y sbectols 3D! Oedd, roedd pob copa walltog yn gwisg un!

Yn ystod y prynhawn fe fu disgyblion blynyddoed 4 a 5 yn creu rocedi ar iard yr ysgol, cyn eu lansio i’r entrychion a daeth rhai o`r rhieni ac aelodau o`r Llywodraethywr i ymuno yn yr hwyl! Dywedodd Sam: “ Dyma`r diwrnod gorau dwi wedi ei gael yn Ysgol Llanllechid ac mi gofiaf y diwrnod yma am byth!”

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

 

Heini

heini plant

Daeth ‘Heini’ [Karen Elli] – seren y rhaglen o’r un enw (Cyw S4C) i’r ysgol yn ddiweddar i gynnal sesiynau dawns a chadw’n heini gyda disgyblion yr holl ddosbarthiadau. Cafodd pawb hwyl a sbri yn y neuadd a phob un erbyn y diwedd yn chwysu chwartiau!

line

Llond Trol o Ddiolch
Cafwyd Ffair Hydref lwyddianus iawn unwaith eto eleni. Daeth cannoedd o bobol draw i brynu pob math o bethau diddorol oddi ar y stondinau amrywiol, a gwnaethpwyd elw anhygoel o dros £2,000!  Diolch o waelod calon i’r rhieni a chyfeillion yr ysgol am yr holl waith caled; mae gennym bwyllgor hynod effeithiol, sy`n gweithio`n ddi-flino er lles yr ysgol. Diolch hefyd i bobl yr ardal am fod mor barod i`n cynorthwyo a`n cefnogi.

  • Mawr yw ein diolch i Trystan o Cyw S4C am adael Caerdydd am 6 a.m. er mwyn cael ymuno hefo ni yn yr hwyl.
  • Diolch o galon hefyd i seindorf Llanrug ac i Mr Paul Hughes am fod mor barod i ddod i`n helpu.
  • Diolch i Mrs Angharad Llwyd a`i chydweithwyr Lynwen Haf a Lowri Gwynne o Salon Rownd a Rownd – gwych!
  • Diolch i Sam Tan a`i ffrind
  • Diolch i`r Frigad Dân
  • Diolch i`r Bysgwyr o`r Clwb Gitars: Cerys Elen, Abilgail, Meleri Parry a Mari Bullock
  • Diolch i bawb a wirfoddolodd mewn unrhyw ffordd a diolch arbennig iawn i`n holl noddwyr
  • DIOLCH I BAWB

Cliciwch yma i weld y lluniau

line

Glynllifon
geneth
Aeth dosbarthiadau Mrs Marian Jones a Mrs Rona Williams i barc Glynllifon yn ddiweddar er mwyn cael y profiad o gerdded drwy’r coedwigoedd. Roedd yn ddiwrnod diddorol – gweld coed anferthol, plasdy mawr, llwybrau natur, cael stori Cilmyn Troed Ddu – cyn cael ein gwlychu yn wlyb domen gan gawod drom! Nol i`r ysgol ychydig yn gynt oedd hi felly`r diwrnod hwn! Beth yw`r dywediad? Bwrw fel o grwc?! Cliciwch yma i weld y lluniau

 

 

line
Llanberis/Castell Penrhyn
Aeth dosbarth Mrs Parry Owen i’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis i ddysgu am fywyd pobl gyffredin ers talwm. Yna aethant i Gastell Penrhyn i gael gweld sut oedd pobl gyfoethog yn byw. Y fath wahaniaeth!

 

 

 

 

line
Lôn Fach Odro
plant
Rydym mor ffodus yn Ysgol Llanllechid fod gennym adnodd addysgol rhagorol ar garreg ein drws! Mae Lôn Fach Odro yn lwybr bendigedig i ddysgu am goed, aeron, drain, anifeiliaid, Ffrwd y Foel a chant a mil o bethau eraill. Bu dosbarthiadau Mrs Marian Jones a Mrs Rona Williams yn troedio’r llwybr yn ddiweddar i ddysgu am fyd natur yr ardal a diddorol sylwi ar yr holl newidiadau wrth i`r tywydd ddechrau troi.

Cliciwch yma i weld y lluniau

 

line
Coginio
Bu dosbarth Mrs Wilson yn brysur yn coginio’n ddiweddar er mwyn cael blasu bwydydd o wahanol wledydd. Cafwyd pitsas, popadoms, paella a iogwrt mint nes bod pawb yn llawn dop!

line
Llipryn Llwyd yn ymddangos!
parti

 

Roedd cryn gyffro yn ein Dosbarth Meithrin pan ymddangosodd y Llipryn Llwyd, ie wir, y dyn ei hun, yn y dosbarth! Cafodd groeso twymgalon gan y plant a phob un yn trio codi ei galon! Roedd wrth ei fodd yn y dosbarth, meddai o, dipyn gwell na`r gors, ei gartref!! Cafwyd parti bendigedig lle roedd y disgyblion wedi bod yn brysur yn darparu brechdanau wy ac ati! Roedd wynebau`r plant lleiaf yn bictiwr! Cliciwch yma i weld y lluniau



line
Gelli Gyffwrdd
Aeth y ‘Grwp Bach’ ar daith i Gelli Gyffwrdd, yn ddiweddar i fwynhau addysg awyr agored a chael cyfleoedd i gyd-chwarae a chyd-weithio i  greu adeiladu a chuddfanau diddorol. Diwrnod gwerth chweil a chyfle i ddysgu adnabod coed yng nghwmni Mrs Tegid a Mrs Lyn Cliciwch yma i weld y lluniau

 

line
Eithinog
plantProfiad gwych oedd cael chwilio ac adnabod trychfilod yn Eithinog o dan arweiniad Mr Ben Stammers. Mae Eithinog yn safle arbennig a gadwyd rhag datblygwyr tai, fel gwarchodfa natur Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae’r amrywiaeth rhywogaethau yn hynod ddiddorol i Fl 6 sydd wrthi’n astudio trychfilod ac ni chewch neb gwell na Mr Stammers i ddysgu am y cyfoeth naturiol sydd ar y safle. Cliciwch yma i weld y lluniau

line
Mosgitos
Yn ogystal cafwyd cyflwyniad arbenigol am fosgitos gan Mrs Lesley Hughes, sydd wedi astudio’r creaduriaid hynod yma ac yn drysorfa o wybodaeth ddefnyddiol am y gelyn yma yn y gwledydd tlotaf. Ond efallai erbyn 2050 bydd yna fosgitos sy’n cario malaria ym Mhrydain hefyd, felly roedd pawb yn awyddus iawn i helpu atal mosgitos rhag cario clefydau heintus. Diolch yn fawr i chi Mrs Hughes.

line

Celf a Chadw’n Heini

Roedd yna antur arall yn disgwyl Bl6 yng Nghastell Penrhyn. Cawsom helfa drysor i chwilio am luniau nodedig gan gynnwys un o Chwarel Penrhyn a rhai o gaeau siwgr a chaethweision yn Jamaica. Fel ysgol iach nid oeddem am fethu’r cyfle i gadw’n heini hefyd a chafwyd hwyl garw ar yr offer cadw’n heini yn y coed. Diolch  i mam Gethin, Rhian, ac i Marylin am estyn croeso arbennig i ni. Cliciwch yma i weld y lluniau

line
Dim Byd S4C

Bu Gwydion Eryri a Cadi Efa yn cael eu ffilmio ar gyfer y rhaglen deledu Dim Byd yn ddiweddar! Pedair oed yw`r ddau ac roeddent yn actorion naturiol! Cliciwch yma i weld y lluniau

 

 

 

 

line
Rownd a Rownd
Llongyfarchiadau i Gwenno Llwyd sy`n ymddangos yn gyson ar raglen Rownd a Rownd. Actores arall brofiadol!

line
Taith i Jodrell Bank
criw o blantAeth disgyblion blynyddoedd 5a 6 i Jodrell Bank ger Macclesfield i ddysgu mwy am gysawd yr  haul, a chael gweld y telesgop sydd yn astudio'r bydysawd yno. Cafodd y plant brofiadau bendigedig yno yn gweld y planedau a chlystyrau sêr mewn pabell arbennig, cael mynd yn agos at y telesgop anferthol, ac ymchwilio i weld sut y gellid glanio cerbyd yn ddiogel ar blaned Mawrth. Diwrnod i'w gofio! Cliciwch yma i weld y lluniau

line
Cyngor Ysgol
Mae'r Cyngor Ysgol am eleni wedi cael ei ethol a llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu dewis yn dilyn trafodaethau byrlymus yn y dosbarth. Y cynrychiolwyr am eleni yw Joseph ac Erin (blwyddyn 6), Cerys a Mared (blwyddyn 5), Jac ac Ellie ( blwyddyn 4), Cai ac Elan (blwyddyn 3) a Ffion ac Eban (blwyddyn 2).

line

Gwobr Efydd
Llongyfarchiadau i'r disgyblion hynaf ar eu holl waith a sicrhau fod Ysgol Llanllechid wedi ennill Gwobr Efydd Ysgolion Awyr Agored am 2013-14. Cafodd y disgyblion brofiadau bendigedig gan gynnwys dringo,  mynydda, ymweld â chanolfan Rhyd Ddu, taith natur i Eithinog ac amrywiol weithgareddau dŵr ym Mhlas Menai a Chanolfan Conwy. Da iawn chi!

Croeso
Croeso’n ôl i bawb i Ysgol Llanllechid i gychwyn ar flwyddyn ddiddorol arall! Estynnwn groeso arbennig i blant y Dosbarth Meithrin, sy’n mynychu’r ysgol am y tro cyntaf. Mae pob un ohonynt wedi setlo’n ardderchog erbyn hyn!


line
Babi newydd!
Llongyfarchiadau i Miss Awen ar enedigaeth Ollie Glyn yn ystod gwyliau’r haf. Bu draw i’n gweld yn yr ysgol yn barod, ac mae Ollie’n ddigon o’r sioe!

line
Dyweddio
Llongyfarchiadau i Miss Kathryn ar ei dyweddiad yn ystod yr haf. Roedd y ddau mewn tŷ bwyta mewn ogof anhygoel ym Mecsico ar y pryd!!

line
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i’n cyn ddisgyblion i gyd, - y rhai a fu’n llwyddianus mewn arholiadau a’r rhai sydd wedi cychwyn mewn swyddi amrywiol. Da iawn bawb!

line
Nain!

Llongyfarchiadau i Mrs Mona MacDonald ar ddod yn nain unwaith eto. Ganed merch fach i Emma, sef Awel Haf. Pob dymuniad da i’r teulu bach!

 

 

 

 

line
Croeso’n ôl!
Croeso’n ôl i Mrs Margaret Jones i’r ysgol wedi cyfnod o salwch. Mae’n braf ei gweld yn ôl yn y gegin ac yn edrych mor dda.

line
Diolch
Derbyniwyd rhoddion hael i’r ysgol yn ddiweddar. Cafwyd rhodd gan Mrs Pearl Midwinter,Trefor a Heddwyn a’r teulu er côf am eu mam, Mrs Jean Morris, - cymeriad tu hwnt o annwyl a hoffus, a fu’n gweithio am flynyddoedd yn y gegin yn ystod y chwedegau a`r saithdegau. Gwerthfawrogir y rhodd yn fawr.

Diolch hefyd i Mrs Alison Jones am rodd o’r Royal Oak.

line
Cydymdeimlo
Gyda thristwch y clywsom y newyddion am golli dwy o gyn aelodau o staff Ysgol Llanllechid. Yn ystod yr haf bu farw Mrs Dyddgu Owens, Rhiwlas, a fu’n dysgu yma am sawl blwyddyn. Mae llawer yn ei chofio am ei gwybodaeth arbennig am fyd natur, - yn arbennig adar. Cydymdeimlwn â Mr Derfel Owens a’r teulu yn eu profedigaeth.

Hefyd, ar ddiwedd yr Haf, bu farw Mrs Ettie Evans, a fu hefyd yn gweithio yn Ysgol Llanllechid. Cofir amdani fel aelod annwyl o staff y gegin am nifer o flynyddoedd. Cydymdeimlwn â Mr Evans a’r teulu, ac yn arbennig Martha, Elis a Begw ar golli nain annwyl.

line
Dadorchuddio Cofeb Y Cymru
Cafodd Ysgol Llanllechid sylw rhyngwladol yn ystod yr haf, wrth i un o ddisgyblion yr ysgol, Gwydion Rhys, gymryd rhan yn seremoni dadorchuddio Cofeb y Cymry yn Langemark, Fflandrys. Cafodd Gwydion ei ddewis oherwydd perthynas arbennig yr ysgol â Chôr Rygbi Gogledd Cymru, sef côr swyddogol y Cofio. Ei waith oedd darllen hanes tri brawd o Ddyffryn Ogwen a fu’n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd cannoedd o bobl yn y seremoni, gan gynnwys nifer o wleidyddion Cymreig a’r Prif Weinidog, Carwyn Jones. Teithiodd sawl un o Ddyffryn Ogwen draw i’w gefnogi, gan gynnwys ffrindiau Gwydion o’r ysgol, Cerwyn ac Elin Roberts, Mrs Davies Jones a chyn-athrawon yr ysgol: Mrs Mary Jones a Mrs Eirian Jones.

Ar ddiwedd y seremoni, cafodd Gwydion ei gyfweld gan nifer o ddarlledwyr, gan gynnwys Gerallt Pennant (Heno), Dei Tomos (BBC Radio Cymru) a chriw Dechrau Canu, Dechrau Canmol, a oedd yno’n ffilmio rhaglen ar gyfer Sul y Cofio.

Y noson honno, roedd Gwydion ar y llwyfan eto – y tro yma yn canu’r soddgrwth yng nghyngerdd y Côr yn Eglwys Langemark, a gafodd ei hail-adeiladu ar ôl cael ei difrodi’n llwyr yn ystod y Rhyfel. Y tro hwn cafodd rannu llwyfan efo Roy Noble, Rhys Meirion, Dylan Cernyw a’r côr.

Dywedodd Gwydion: “Roedd yn anrhydedd cael cynrychioli Ysgol Llanllechid a chael fy nghyfweld gan gymaint o bobl. Bydd y profiad yn fythgofiadwy!”

[Darlleniad Gwydion Rhys, Fflandrys, Awst 2014]

Rydw i’n falch iawn o fod yma heddiw yn cynrychioli Ysgol Llanllechid, ysgol gynradd sydd wedi ei lleoli ar gyrion pentre’ Bethesda yng Ngwynedd.

Ryw filltir o’r ysgol y mae Tyddyn Dicwm, Tregarth. Yno ar ddechrau’r ugeinfed ganrif yr oedd John Richard ac Elizabeth Ellen Jones yn byw. Roedd ganddyn nhw saith o blant – pump o hogiau a dwy ferch. Pan ddaeth y Rhyfel, roedd Dei, yn bedair ar ddeg oed, yn rhy ifanc i ymladd. Arhosodd Wil gartref i ffermio gyda’i dad ac ymunodd y tri arall â’r fyddin. Dic, Jac a Tom oedden nhw – neu, i roi eu henwau llawn iddyn nhw, Richard Jones, John Foulkes Jones a Thomas Richardson Jones.

Roedd Jac yn lwcus. Mi gafodd o ddod adre’. Roedd o’n beiriannydd modur da iawn, a bu’n gwasanaethu fel gyrrwr lori rhwng 1915 ac 1919. Ar ddiwedd y Rhyfel, daeth yn ôl i ardal Bethesda, lle bu’n cadw’r efail ym mhentre’ Llandygai.

Hanes gwahanol oedd i Dic a Tom. Yn Lerpwl roedd y ddau’n byw pan ymunon nhw â’r King’s Liverpool Regiment, Dic efo’r nawfed bataliwn a Tom efo’r trydydd bataliwn ar ddeg. Er bod Dic rai blynyddoedd yn hŷn na Tom, dilyn yr un llwybr a wnaeth y ddau ar ôl gadael Bethesda i chwilio am waith. Gweithiodd y ddau i ddechrau yn siop ddillad Allanson’s Linen Drapers ym Mhenbedw cyn symud i weithio yn Lerpwl.

Roedd Dic, fel llawer o bobl y cyfnod, yn berson crefyddol iawn. Yn ei lythyrau adref, byddai’n aml yn cyfeirio at weddïo a rhoi ei ffydd yn Nuw, a thrwy’r cyfan roedd yn gobeithio am weld diwedd buan i’r rhyfela.

Ymunodd Tom â’r fyddin yn Rhagfyr 1915, ac aeth i Ffrainc yng Ngorffennaf 1916. Gŵr ifanc deallus, siriol, tyner a gobeithiol oedd o. Yn Ionawr 1917 cafodd ei benodi yn swyddog negesau i’r Capten John Hunter, ac roedd gan hwnnw feddwl mawr ohono. Cafodd Tom ei ladd ym mrwydr Arras ar ddydd Llun y Pasg 1917, yn ddim ond pedair ar hugain oed. Ychydig dros flwyddyn ar ôl hynny, ar yr wythfed ar hugain o Awst, 1918, lladdwyd ei frawd hynaf, Dic, ym mrwydr Cambrai. Roedd o’n dri deg a thair.

Mi ddywedais i ar y dechrau fy mod i yma heddiw yn cynrychioli Ysgol Llanllechid. Mae ’na ryw ddau gant a hanner o ddisgyblion yn yr ysgol, a dim ond un ydw i. Dau ydi Dic a Tom, Tyddyn Dicwm, ond maen nhw’n cynrychioli’r pedwar deg mil o Gymry a aeth i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac na ddaethant yn ôl. Drwy gofio heddiw am Dic a Tom, gobeithio y cawn ni gofio hefyd am y lleill. Diolch amdanyn nhw i gyd, a heddwch i’w llwch.

Cliciwch yma i weld y lluniau

line
Dim Byd
Braf oedd cael croesawu Sion ac Aled o raglen Dim Byd (S4C) atom. Cafodd Cadi a Gwydion eu ffilmio! Edrychwn ymlaen at gael eu gweld yn fuan ar S4C.

line
Rownd a Rownd
Llongyfarchiadau i Gwenno, dosbarth Mrs Wilson, sydd yn ymddangos ar raglen Rownd a Rownd! Actores o fri!

Croeso’n ôl
Croeso’n ôl i’r ysgol i Ms Elen Evans, wedi iddi dreulio cyfnod ar famolaeth yn edrych ar ôl Abner Clwyd; brawd bach newydd Cain. Braf eich gweld yn ôl Ms Evans!

line
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i Carwyn a Sophia Hughes ar eu priodas yn Eglwys Jeriwsalem. Mae Carwyn yn fab i Anti Gillian. Pob dymuniad da i`r ddau dyfodol.

line

Cyngerdd Pontio

Hoffem ategu fod Mari Bullock, Swyn Owen, Mared Morris a Cerys Elen wedi bod yn chwarae`r gitar yn y cyngerdd hwn yng nghapel Jeriwsalem tra oedd disgyblion o`r Cyfnod Sylfaen yn canu. Cliciwch yma i weld y lluniau

line

Sŵ Bae Colwyn

Cafodd dosbarthiadau Blynyddoedd 1 a 2 amser ardderchog ar eu hymweliad â Sŵ Bae Colwyn yn ddiweddar. Roedd y plant i gyd wedi gwirioni’n lân ar yr holl anifeiliaid, yn enwedig y crocodeil anferthol, y panda coch ac, ar ôl bod yn astudio cymaint ar Lyfr Mawr y Plant gwelwyd, Ifan Twrci Tena! Cliciwch yma i weld y lluniau

line

Disgo’r Haf

Diolch i ‘n Cymdeithas Rieni/Athrawon am drefnu noson ‘Disgo’r Haf’ yn y Clwb Criced. Syniad gwych a noson lwyddiannus! Cafodd y plant fodd i fyw yno, ac roedd nifer o weithgareddau amrywiol wedi eu trefnu ar eu cyfer. Diolch o waelod calon i bawb a fu`n cynorthwyo. Diolch hefyd i gwmni  Bangor Roofing am gael benthyg yr offer disgo am ddim!

line

Fferm y Foel

Cafodd y Dosbarth Meithrin ddiwrnod gwerth chweil ar eu hymweliad â Fferm y Foel yn Sir Fôn. Roedd y plantos bach wrth eu boddau’n gweld yr anifeiliaid, yn chwarae ac yn crwydro drwy’r caeau. Diwrnod da!

line

Carnifal

BRASIL!! Gwyddom yn iawn am y dathliadau a’r hwyl sy’n digwydd yno dros gyfnod Cwpan y Byd! Ond yn wir, yn nosbarth Mrs Rona Williams, roedd carnifal go iawn yn digwydd, - un nas gwelwyd ei debyg ar draeth Copacabana erioed! Roedd y plant wedi creu mygydau o bob math, plu pinc ymhobman a drymiau ‘swmba’ yn atseinio drwy’r coridorau! Ymlwybrodd yr orymdaith ymlaen wedyn i sgwar Rachub, ac roedd pobol y pentref wedi cael gwledd, yn enwedig wrth weld Mrs Rona Williams ei hun yn ei gwisg anhygoel! Diwrnod i`w gofio! Cliciwch yma i weld y lluniau

line

Cyngerdd soddgrwth

Bu’r disgyblion sy’n cael gwersi soddgrwth yn yr ysgol gan Ms Nikki Pierce yn  perfformio i weddill yr ysgol mewn cyngerdd yn y neuadd. Roedd y safon yn arbennig o uchel, a’r  darnau cerddorol yn rhai oedd yn difyrru holl blant yr ysgol. Da iawn chi i gyd!

line

Cyfeiriannu

Dros yr wythnosau diwethaf mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 wedi bod yn mwynhau gwersi cyfeiriannu. Mae’r hyfforddiant cychwynol wedi bod ar dir yr ysgol gyda’r plant yn llwyddo i ddeall sut mae dysgu darllen map yn gywir ac adnabod symbolau a`r allwedd. Y cam nesaf oedd defnyddio’r sgiliau hyn y tu allan i’r ysgol ac aeth y disgyblion i Lanberis i fwynhau bore o gyfeiriannu. Diolch i Olly a Helena Burrows am gydlynnu’r cwbl.
Cliciwch yma i weld y lluniau

line

Rhyd Ddu a Chopa`r Wyddfa

Yng nghanol mis Mehefin a glywsoch chi nodau peraidd ein hanthem genedlaethol ar awelon Eryri?! Disgyblion hynaf Ysgol Llanllechid oedd wrthi yn canu ar gopa’r Wyddfa i ddathlu eu llwyddiant! Roedd y golygfeydd yn fythgofiadwy ar ddiwrnod clir o haf. Anghofiwn ni fyth wên lydan Llinos Freeman; y cyntaf i gyrraedd Hafod Eryri! Cyn noswylio yn Nhy`r Ysgol, cafwyd amser i ddatrys problemau gyda gemau hwylio, gwlyb; gwrando ar chwedlau o’r ardal; ymchwilio i fywyd gwyllt y goedwig a’r nentydd a dysgu sgiliau domestig megis golchi a sychu llestri. Mawr yw ein diolch i Cemlyn a Morfudd am ein harwain a braf clywed eu canmoliaeth am ymddygiad bonheddig y disgyblion.

line

Ymwelwyr o Ganada
Diolch i Mr Idwal Jones am drefnu fod ymwelwyr o Ganada a`r Amerig yn dod i`r ysgol. Roedd y disgyblion wrth eu boddau yn eu dysgu am Gymru a`r iaith Gymraeg. Cafwyd hwyl yn canu ac yn cymharu nodiadau. Derbyniodd yr ysgol lyfr arbennig yn llawn o gemau buarth ganddynt ac mae rhain yn ategu`n arwyddocaol at ein casgliad!
Cliciwch yma i weld y lluniau

line

Hyfforddiant Urdd Sant Ioan

Cafodd y disgyblion hynaf hyfforddiant mewn Cymorth Cyntaf gan wasanaeth ambiwlans Sant Ioan yn ddiweddar. Cliciwch yma i weld y lluniau

line

I Forio ar y Fenai

Hwylfyrddio a rhwyfo caiac ar y Fenai! Oes na ddim diwedd ar dalentau'r disgyblion hynaf `ma dwch? Roeddent werth eu gweld yn hwylio'n osgeidddig ar y Fenai ac roedd brwdfrydedd y disgyblion yn amlwg gyda Josh Davies yn dweud mai hwn oedd un o ddyddiau mwyaf bythgofiadwy ei fywyd! Danfonwyd neges i dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad hefyd! Cliciwch yma i weld y lluniau

line

Annette Bryn Pari

Ein braint fel disgyblion a staff yma yn Ysgol Llanllechid oedd cael croesawu yr hynod dalentog Annette Bryn Parry atom am fore. Siaradodd Annette, yn ei ffordd annwyl a dihymongar, am ei phrofiadau yn chwarae’r piano, gan gyfeilio i rai o’r cantorion enwocaf mewn neuaddau led-led y byd. Perfformiodd alawon cymreig o flaen yr ysgol gyfan a`r gân enwog o`r ffilm ‘Frozen’, gyda’r plant wrth eu boddau yn ymuno yn y gytgan. Bore a chyngerdd bythgofiadwy! Diolch yn fawr Annette. Mae Ysgol Llanllechid wedi gwneud ffrind newydd! Cliciwch yma i weld y lluniau

line

Dadorchuddio Cofeb y Cymru yn Fflandrys

Mae côr yr ysgol wedi bod yn hynod o ffodus cael cyfle i ganu gyda Chôr Meibion y Penrhyn yng Nghapel Jeriwsalem yn ddiweddar.  Wedi hynny, cafwyd cyfle i ganu i aelodau o gôr arall, sef Côr Rygbi Gogledd Cymru yn y Clwb Rygbi ym Mangor. Yr haf yma, bydd aelodau o Gôr Rygbi Gogledd Cymru yn teithio i Fflandrys i goffau Hedd Wyn a`r  rhai a gollodd eu bywydau yn y rhyfel byd cyntaf.  Rydym yn hynod ffodus fod disgybl o`r ysgol, sef Gwydion Rhys, wedi ei ddewis i chwarae`r soddgrwth ac i ddarllen yn ystod y seremoniau a gynhelir yn Ypres ym mis Awst a bydd yn rhannu llwyfan gyda gwahanol artistiaid gan gynnwys Roy Noble, Dylan Cernyw a Rhys Meirion. Llongyfarchiadau i chdi Gwydion Rhys! Diolch i Mr a Mrs Alwyn Bevan am y cyfleoedd. Cliciwch yma i weld y lluniau

line

Chwedlau o Gymru

Cafodd y disgyblion y fraint o wrando ar amrywiol chwedlau o Gymru gan gwmni drama yn neuadd yr ysgol gan gynnwys: Dinas Emrys, Blodeuwedd a Dinas Bran. Diddorol ac addysgiadol dros ben!

line

Criced

Cafwyd ddiwrnod o gystadlu brwdfrydig ar gae criced Bethesda, sydd ar riniog ein drws, yng nghystadleuaeth criced y dalgylch.  Llwyddodd tîm y merched i ennill eu cystadleuaeth hwy  - gwych!  Colli o un rhediad yn unig  yn y rownd derfynol oedd hanes y bechgyn. Anlwcus hogia ond da iawn chi!  Diolch i Neil Williams o glwb criced Pwllheli am y sesiynau hyfforddi.  Cliciwch yma i weld y lluniau

line

Athletau’r Urdd

Cafwyd sawl perfformiad arbennig yng nghystadleuaeth mabolgampau’r Urdd. Aeth Idwal a Cai Wyn o flwyddyn 4 ac Erin o flwyddyn 6 ymlaen i gystadlu ym mabolgampau’r rhanbarth - da iawn chi! Daeth Erin yn drydydd yn y gystadleuaeth taflu'r waywffon - llongyfarchiadau! Diolch yn fawr i'r Urdd am drefnu.

line

Ioan Doyle

Pob tro yr oeddem yn gweld Ioan Doyle yn yr ardal, roeddem yn swnian arno i ddod yn ôl i`w hen ysgol i`n gweld! Ac felly y bu hi! Yn ystod mis Mehefin, cawsom y fraint o`i groesawu, a ninnau yn ei gofio`n iawn yn ddisgybl yma! Ysbrydolodd Ioan ein disgyblion drwy siarad am ei waith ar y teledu ac am ei dalent yn dringo ac yn wir, ar ddiwedd y prynhawn, dywedodd ambell un o`r plant hynaf eu bod yn awyddus i ddilyn ôl ei droed! Diolch i Ioan am ei wên a`i gyfraniad gwerthfawr i fywyd a gwaith ein hysgol.
Cliciwch yma i weld y lluniau

line

Archie

Braf oedd cael croesawu Barry 'Archie' Jones o fand Celt i'r ysgol. Cafodd dosbarth Mr Stephen Jones brynhawn i'w gofio wrth wrando arno’n perfformio ambell gân, gan gynnwys yr enwog ’Un Funud Fach.’ Mae Archie yn gyn-ddisgybl i ni yma yn Ysgol Llanllechid ac roedd y disgyblion yn gwarndo`n eiddgar arno`n adrodd hanesion am sut yr oedd Ysgol Llanllechid pan oedd yma`n ddisgybl. Braf hefyd oedd cael dysgu am gefndir diddorol y band. Yr hyn a wnaiff aros yn y côf am amser maith oedd cael canu ein hanthem  i gyfeiliant Archie ar y gitar! Pleser pur oedd cael treulio prynhawn yng nghwmni Archie. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl atom yn fuan! Cliciwch yma i weld y lluniau

line


Sioe Amaethyddol

Llongyfarchiadau i’r holl blant a gafodd wobrau yn Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen eto eleni. Roedd eich gwaith celf a chrefft yn werth i’w weld ym mhrif babell y sioe. Diolch hefyd i’r gymdeithas rieni  a’r holl gyfeillion a fu’n brysur tu hwnt yn gweithio ar stondin Ysgol Llanllechid ar gae’r sioe. Mae eich holl ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi. Cliciwch yma i weld y lluniau

line

Yr Ail Ryfel Byd

Braint oedd croesawu dau o`n ffrindiau, sef Mr a Mrs Elwyn Edwards o Borthaethwy i drafod yr ail Ryfel Byd hefo`r plant hynaf. Yr hyn oedd yn arbennig am y profiad oedd fod Mr Edwards wedi bod yn filwr yn y rhyfel ac felly yn gallu siarad yn huawdl am y profiad. Dyma beth yw addysg ar ei orau! Diolch o waelod calon i chi am ddod dros y bont atom a diolch am ateb yr holl gwestiynau. Roedd y plant wedi cael modd i fyw! Cliciwch yma i weld y lluniau

line

Dymuniadau Gorau

Dymuniadau gorau am haul a hwyl i bawb dros yr haf. Diwrnod cyntaf Tymor yr Hydref yw Medi 2il, 2014

 

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
plant y gan actolLlongyfarchiadau i’r Gan Actol ar eu perfformiad yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Bala. Perfformiodd y plant eu gorau glas; roedd eu brwdfrydedd yn heintus a diolch i`r holl rieni a ffrindiau’r ysgol am eu cefnogaeth! Da iawn – pob un ohonynt. Y newyddion da yw fod Elis Evans wedi cael ei ddewis a’i anrhegu fel y perfformiwr gorau o’r holl ganeuon actol a ymddangosodd ar lwyfan y Genedlaethol. Mae hyn yn gryn anrhydedd, ac ar ran holl gymuned Dyffryn Ogwen, llongyfarchwn Elis o waelod calon.

Da aiwn hefyd i Gwydion Rhys ar gystadlu yn y gystadleuaeth unawd llinynnol a`r unawd cerdd dant.

Llongyfarchaidau gwresog i Idris ar gyrraedd y brig! Braf oedd gweld ei gampwaith yn y babell Gelf, – gwaith peintio sidan bendigedig! Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line

Llongyfarchiadau i`n cyn-ddisgyblion

Llongyfarchiadau i`n cyn- ddisgyblion a ddaeth i`r brig yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Llongyfarchwn Martha, Beca Nia a Buddug, ar eu llwyddiant gyda chystadlaethau ysgrifenedig/celf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Llongyfarchiadau yn ogystal i Buddug, Owain, Sophie a Martha a gafodd y wobr gyntaf ar yr ymgom. Da iawn chi ddisgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen!


line

Cyngerdd Ysgol Dyffryn Ogwen
Llongyfarchiadau i Ysgol Dyffryn Ogwen ar gynnal cyngerdd i godi arian tuag at ymchwil cancr Macmillan. Diolch am y gwahoddiad i gymryd rhan yno gyda gweddill ysgolion y dalgylch. Cafwyd noson werth chweil a braf gweld yr amrywiaeth o eitemau. Cafwyd cyfle i berfformio ein Can Actol: Llyfr Mawr y Plant a braf gweld pob plentyn yn perffformio`n egniol ac yn edrych yn werth chweil yn eu gwisgoedd!

line

Cyngerdd Pontio
plant yn canuCafwyd cyfle i gymryd rhan mewn cyngerdd arbennig a drefnwyd ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Pontio yng nghapel mawredddog Jeriwsalem ym Methesda a chawsom rannu llwyfan gydag amrywiol artistiaid. Canodd plant bach Adran Babanod/Cyfnod Sylfaen yr hen ffrefrynnau sef Hen Feic Peniffarddin a.y.b. ac yn cyfeilio iddynt ar y gitar oedd Cerys Elen, Swyn, Mari a Mared sydd wedi hogi eu sgiliau yn ein Clwb Gitars wythnosol. I gloi ein rhan ni, cafodd y Gan Actol weld golau dydd unwaith yn rhagor a phawb yn gartrefol braf yn trio eu gorau. Cyflwynodd Mr Neville Hughes y tlws yr actor gorau i Elis Evans – braint ac anrhydedd iddo gael ei derbyn yn ei gymuned ei hun o flaen ei gyfeillion a`i berthyn. Cafwyd cyngerdd gwerth chweil unwaith yn rhagor a diolch i chi rieni am fod mor barod eich cefnogaeth. Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line

Cyngerdd Ysgol Llanllechid gyda Chôr Rygbi Gogledd Cymru
Bydd plant o`r Adran Babanod/Cyfnod Sylfaen a`r Adran Iau yn perfformio mewn cyngerdd arbennig yn yr ysgol a gynhelir ar Orffennaf 2il gyda Chôr Rygbi Gogledd Cymru. Dewch yn llu!

line

Cae`r Graig
plant y gan actol

 

Bu`r ymweliad â fferm Cae`r Graig, Rhydyclafdy yn un llwyddiannus iawn. Diolch i`r hen Gwyndaf am addysgu`r plant am draddodiadau cefn gwlad. Dyma beth yw addysg go iawn!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

 

 

line


Plas Mawr
plant y gan actolAeth dosbarth Mr Huw Edward Jones i Gonwy i Blas Mawr i ddysgu mwy am hanes y tuduriaid. Rhyfeddodd pawb at bensaerniaeth y tŷ hynafol gan wirioni ar y profiad uniongyrchol o gael dysgu sut oedd pobl yn byw yn yr oes hon.

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

line

Ymchwil gan Flwyddyn 6 – Yr ail Ryfel Byd

Ar ôl darllen am hanes trist Ann Frank, teimlwn syndod fod y fath gasineb at yr Iddewon wedi bodoli a thristwch nad oedd mwy o bobl wedi gwrthwynebu hiliaeth y Natsïaid. Yna dysgom am ŵr ifanc o Lundain o’r enw Nicholas Winton a achubodd 669 o blant Iddewig o Tsiecoslofacia cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd. Gelwir ef y “Schindler Prydeinig”. Roedd wedi codi ein calonnau fod dyn ifanc cyffredin, pan welodd y peryg i’r Iddewon, wedi gweithredu mor arwrol. Ei wraig ddaeth o hyd i’r dystiolaeth mewn hen lyfr cofnodi a bu dathlu mawr pan ddaeth y plant a achubwyd i wybod o’r diwedd pwy oedd yn gyfrifol am eu hachub; y rhan fwyaf ohonynt wedi colli gweddill eu teuluoedd yng ngharchardai angau ffiaidd Hitler. Nid oedd Nicholas Winton yn gweld ei hun yn arwr, dim ond yn berson cyffredin, oedd wedi gweithredu pan welodd yr angen.
Cafodd y plant y syniad i ymchwilio i weld os oedd y gwr oedrannus, erbyn hyn, yn dal yn fyw. Cafwyd cryn syndod pan ddarganfuwyd ei fod yn dathlu ei ben-blwydd yn 105 eleni! Penderfynodd y disgyblion ddanfon neges ato. Roeddem am ddiolch iddo am ein hysbrydoli ac am roi gobaith i ni y byddem ninnau hefyd yn gweithredu i helpu pan fo sefyllfaoedd yn ein herbyn. Cafodd clamp o garden gennym a neges bersonol gan bob un ohonom. Dychmygwch ein syndod o dderbyn ateb yn ôl gan ei ferch yn dweud ei fod wedi ei blesio’n fawr gyda’n neges a’i fod wedi hongian ein cerdyn lliwgar yn ei ystafell! Os ydych am ddysgu mwy am y dyn cyffredin ond anghyffredin yma mae’r llyfr “If it’s not impossible…” gan Barbara Winton yn esbonio mwy a newydd gael ei lansio yng Ngŵyl y Gelli.

syr nicholas winton
Syr Nicholas Winton, y “Schindler Prydeinig” a achubodd 669 o blant rhag yr Holocost yn dal ei garden diolch a phen-blwydd hapus 105 iddo gan ddisgyblion Ysgol Llanllechid.

 

line


Siarter Iaith
Bu rhai o`n disgyblion yn cymryd rhan mewn digwyddiad arbennig sef Cyfrifiad Siarter Iaith Gwynedd ym Mhabell Gwynedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala. Cafodd Cerwyn, Elin a Gwydion Rhys hwyl yn cymryd rhan mewn gem glapio gyda gweddill ysgolion y dalgylch. Mae ein disgyblion wedi bod wrthi `n brysur yn creu, casglu a ffilmio`r gemau chwaraeon buarth gwreiddiol e.e. Moch Coch/Dyn y Lleuad/Bobo Drwg a.y.y.b


Croeso’n ôl Miss Holly
Mae’n braf cael croesawu Miss Holly’n ôl i’n hysgol wedi cyfnod ar famolaeth. Mae’n siwr ei bod yn anodd gadael Grace fach, ond mae croeso bendigedig yn eich aros gan blant y Dosbarth Derbyn!

line

Profiad Gwaith
Diolch am gael cwmni Delyth Lloyd Hughes a fu yma`n arsylwi a phob lwc i`r dyfodol!

line

Rygbi Coleg Menai Bl 5 a 6

plantMae gan dîm rygbi Cymru ddyfodol addawol iawn yn dilyn perfformiadau arbennig blynyddoedd 5 a 6 ar gaeau Clwb Rygbi Bethesda yng nghystadleuaeth rygbi tag ysgolion Ogwen yn ddiweddar. Cafwyd perfformiadau brwdfrydig gyda safon y chwarae yn uchel iawn. Da iawn chi am lwyddo i dderbyn dau gwpan!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line

Rygbi 5/6 Urdd

plantCafwyd perfformiadau arbennig yng nghystadleuaeth Rygbi Rhanbarth Eryri yr Urdd ar gaeau Clwb Rygbi Caernarfon yn ddiweddar. Llwyddodd Ysgol Llanllechid i guro Ysgol Bontnewydd 4-1; Ysgol y Gelli 5 -3 a chyfartal yn erbyn Ysgol Cymreau 3-3 ond er hyn, ni lwyddwyd i fynd i`r rownd derfynol y tro hwn o drwch blewyn! Da iawn Jac, Owain, Eilir, Erin, Ryan, Iestyn, Aaron a Sion am gydweithio’n wych gan wisgo crys rygbi’r ysgol â balchder! Diolch i’r Urdd am drefnu.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line

Bl 2 Nofio
Mae hi’n gyfnod cyffrous iawn ar ddisgyblion Bl 2 ar hyn o bryd oherwydd eu bod yn dechrau ar gyfres o wersi nofio wythnosol. Mae pawb wrth eu boddau yn y pwll, ac yn manteisio i’r eithaf ar gael dysgu sgiliau holl bwysig!

line

Bl 2 Parc Meurig

plantRydym mor lwcus o`r ardal leol, sy`n cynnig pob math o gyfleoedd i ysbrydoli ein plant ac mae`r llwybrau newydd Llyfr Mawr y Plant ym Mharc Meurig yn ddigon o sioe, ac yn syniad ardderchog! Cafodd ein disgyblion fodd i fyw yn crwydro arnynt tra`n cael cyfle i ddysgu enwau`r coed a phlanhigion. Diolch i asiantaeth Cyfoeth Naturiol Cymru am ein cynorthwyo ac roedd y nythod bach a adeiladwyd ar gyfer y wiwerod yn ddigon o sioe ar ddiwedd y prynhawn!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 



line

Cyngerdd Soddgrwth
Cafwyd cyngerdd Soddgrwth arbennig o safonol yn neuadd yr ysgol gan y criw sy’n dysgu’r soddgrwth o dan arweiniad Ms Nicky Pierce a chafodd yr artistiaid talentog sawl encore gan y gynulleidfa! Roedd Gwydion Rhys, Abigail Greenough, Ellie Ball, Hanna Durrant, Abigail Pritchard ac Ayla Roberts yn werth eu clywed. Da iawn chi blantos!

line

Noson Bingo!

plantLlawer iawn o ddiolch i bob un ohonoch a ddaeth i’r Bingo Pasg yng Nghlwb Criced/Bowlio Bethesda. Roedd hi’n braf eich gweld i gyd a braf oedd gweld cymaint o’n cyn-ddisgyblion wedi dod i’n cefnogi. Diolch yn fawr i holl aelodau`r pwyllgor gweithgar o dan arweiniad Lowri Roberts a Iona Robertson am eich gwaith caled ac i bawb a gynorthwyodd yn ystod y noson. Gwnaethpwyd elw o £444.45, sy’n swm anrhydeddus! Diolch yn fawr i Mr Dilwyn Owen am alw’r rhifau mewn ffordd broffesiynol ac i Mrs Eurwen Owen am werthu’r tocynnau. Diolch hefyd i Mr Dewi Roberts, cadeirydd y Clwb Criced/Bowlio ac i Bwyllgor y Clwb Criced/Bowlio, Bethesda.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line

Diolch yn fawr

plantDymunwn ddiolch yn fawr i Mrs Lynne Morris am flynyddoedd o wasnaeth fel arweinydd Cylch Meithrin Llanllechid. Cafwyd cyfle i ddiolch yn swyddogol i Lynne mewn cyfarfod arbennig a gynhaliwyd yn yr ysgol ar ddiwedd tymor y gwanwyn. Dymuniadau gorau i chi Lynn yn eich swydd newydd a diolch yn fawr i chi.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line

Canolfan Conwy

plantCafodd disgyblion blwyddyn 5 ddiwrnod o antur a hwyl yng Nghanolfan Conwy cyn y Pasg. Buont yn adeiladu llochesi, rhostio danteithion ac yn chwysu chwartiau ar y cwrs rhaffau; addysg awyr agored ar ei orau! Diolch i rieni`r ysgol, Sid ac Emma Sinfield am ein harwain ac i Jack yr hyfforddwr am sicrhau profiadau lu a diwrnod bythgofiadwy i'r criw. Llongyfarchiadau i`r ysgol ar dderbyn Gwobr Awyr Agored, hefyd.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line

Pencampwr!
Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at gael gweld gwaith celf Idris Temple Morris yn cael ei arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala. Dyfarnwyd y wobr gyntaf iddo. Llongyfarchiadau gwresog!

Eisteddfod Cylch yr Urdd
plantLlongyfarchiadau i`r canlynol ar eu llwyddiant:
Hanna Jones 3ydd – Llefaru Bl 2 ac iau
Cerys Elen 1af – Unawd Pres Bl 6 ac iau
Gwydion Rhys- 1af Unawd Llinynnol Bl 6 ac iau, 3ydd – Alaw Werin Bl 6 ac iau , 2il - Unawd piano Bl 6 ac iau , 2il Unawd Cerdd Dant Bl 5 a 6
Efa Glain 1af – Unawd Bl 3 a 4, 1af Unawd Cerdd Dant Bl 3 a 4
Elin Roberts 3ydd – Unawd Llinynnol Bl 6 ac iau
Ensemble offerynnol - 3ydd
Cerddorfa/band - 2il
Grwp dawnsio disgo yn - 2il

Cliciwch yma i weld mwy o luniau
line


Eisteddfod Sir

Llongyfarchiadau gwresog i aelodau’r Gân Actol ar eu llwyddiant ysgubol. Roedd y beirniad, Rhian Parry yn llawn canmoliaeth ac yn cyfeirio at y Gân Actol fel “chwip o Gân Actol” a’u bod “wedi taro deuddeg” a “rydych wedi ticio’r bocsys i gyd”. Cafwyd perfformiad gwirioneddol wefreiddiol, oedd yn gampwaith, a’r plant i gyd ar eu gorau. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at gael gweld y cyfan ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Bala ar ddydd Llun, Mai 26. Mae’r ffaith ein bod yn mynd ymlaen i’r Eisteddfod Genedlaethol eto eleni yn destun balchder i ni gyd. Diolch i bawb sydd wedi helpu mewn cymaint o wahanol ffyrdd i sicrhau fod y plant yn perfformio i safon mor uchel. Diolch i bawb am eu cymorth gyda phob elfen o’r Gan Actol, gan fod tim o bobl wedi gweithio’n galed mewn amrywiol ffyrdd i sicrhau’r llwyddiant hwn.

Cafodd Gwydion Rhys (blwyddyn 6) ddiwrnod i’w gofio hefyd gan ennill y wobr gyntaf ar yr unawd cerdd dant a’r unawd llinynnol yn chwarae ei soddgrwth a chafodd yr ail wobr am chwarae`r piano.

Llongyfarchiadau yn ogystal i Cerys Elen ar ennill y drydedd wobr yn chwarae’r cornet.
Dymuniadau gorau i Gwydion a chriw y gan actol yn y Bala dirion deg! Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line


Noswaith o Ddawns llun
dawnsAeth criw o ddisgyblion blwyddyn 4 i`r Galeri yng Nghaernarfon i gymryd rhan yn y ‘Noswaith o Ddawns’ - noson o ddawnsfeydd amrywiol eu naws gan ddisgyblion cynradd ac uwchradd y sir. Fe berfformiodd ein criw y ddawns ddisgo yn egniol a llawn bwrlwm. Diolch yn fawr i Miss Nicola am eu hyfforddi ac i Miss Sara am helpu, ac i’r rhieni am ddod i’w cefnogi. Llongyfarchiadau i`r criw ar ennill yr ail wobr yn yr Eisteddfod Symudol yn ogystal.
line


Yr Ysgwrn, Canolfan Endowain a Chapel Salem

“Anrhydedd” meddai Eilir o Fl6 Ysgol Llanllechid oedd cael mynd i ymweld â’r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, yn ogystal â chapel Salem, Cefncymerau, lle peintiwyd llun enwog Sydney Curnow Vosper.

ysgwrn
Cafwyd croeso cynnes gan nai Hedd Wyn, Gerald Williams ac roedd hi`n fraint yn wir cael troedio llwybrau`r ardal ac ymweld a`i hen gartref. Roedd yn brofiad gwefreiddiol cael dysgu am y cadeiriau mawreddog a`r enwog ‘Gadair Ddu’ neu`r orsedd, fel oedd Mr Williams yn ei galw. Diolch arbennig hefyd i Mr a Mrs Alwyn Bevan ac aelodau o Gôr Rygbi Gogledd Cymru am hwyluso’r daith ac am fod yno hefyd i’n croesawu. Pleser o’r mwyaf oedd cael cyd-ganu englynion coffa Hedd Wyn, R. Williams Parry ym mro ei febyd. Yna, ymlaen i Ganolfan Endowain ac anrhydedd yn wir oedd cael canmoliaeth mor uchel i Fl6 gan Mr Iscoed Williams. Diolch iddo am ddod atom i`r Ganolfan ac am ei sgwrs ddiddorol. Yna, teithiwyd ar hyd ffordd yr arfordir gan sylwi ar y golygfeydd ysblennydd, gweld cip ar gastell Harlech cyn cyrraedd Capel Salem. Diolch i Miss Catherine Richards, aelod prin ond triw i’r capel am ei chyflwyniad eglur a death hanes llun capel Salem yn fyw! Diolch yn wir am bobl fel Mr Williams a Miss Richards sydd mor barod i ddehongli ein hanes a’n hetifeddiaeth i’r genhedlaeth iau. ‘Amen’ yn wir i eiriau Eilir. Roedd yn ‘anrhydedd’ i ni oll. Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line


Dydd Gwyl Dewi Sant

dewiUnwaith eto, llwyddwyd i godi`r tô a chafwyd cyngerdd gwerth chweil yn neuadd yr ysgol i ddathlu dydd ein nawddsant! Da iawn chi blant am ddysgu`r torreth o farddoniaeth ac ati ar y côf – bydd hyn gennych ar gof a chadw am weddil eich hoes. Cafodd y cyngerdd ei ffilmio ac mae`r DVD ar gael yn awr! Diolch yn fawr i chi rieni ac aelodau`r gymuned am ddod i`n cefnogi.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau



line


Celf a chrefft yr Urdd
Daeth llu o wobrau i’r ysgol ym maes Celf a Chrefft - 33 i gyd! Llongyfarchiadau i bob un ohonoch.
Cliciwch yma
am y manylion llawn.
line

 

Ymweld â’r llyfrgell
Aeth plant dosbarth Mrs Rona Williams am dro i lyfrgell Bethesda.Cafwyd croeso bendigedig gan y staff, a bu’r plant yn ddigon ffodus o gael y cyfle i wrando ar storiau Llyfr Mawr y Plant. Roedd pawb wrth eu boddau, gan fod Llyfr Mawr y Plant yn gryn ffefryn gan blant Bl 1 a 2 Ysgol Llanllechid. Gobeithio y bydd pawb yn defnyddio eu cardiau aelodaeth ac yn mynychu`r llyfrgell yn rheolaidd o hyn ymlaen!

line

 

Coginio
coginio


Bu dosbarth Blwyddyn 3 yn astudio bwydydd o wahanol wledydd, ac yn wythnosol, mae pawb yn son am yr arogl hyfryd sy’n llenwi’r corridor uchaf! O’r Paella, y Croque Monsieur a’r pizzas i’r crempogau a’r cawl cennin!! MMMM! Plant lwcus!

 



line

 

Gala nofio cylch Bangor/Ogwen
bachgenFe fu tim nofio yr ysgol yn cymryd rhan yn y gala nofio ar gyfer ysgolion lleol yr ardal dan arweiniad ein cydlynydd Addysg Gorfforol – Mr Stephen Jones. Fe gawsant hwyl dda iawn arni – pawb yn trio eu gorau glas.

Fe ddaeth y canlynol i’r tri uchaf:
Leni Ceirios - 2ail a 3ydd
Boe Celyn - 3ydd a 3ydd
Cai Wyn - 3ydd a 1af
Louis - 3ydd
Osian Moore - 3ydd

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line

 

Dod a Hanes yn Fyw
Roedd pawb wrthi’n dysgu’n frwd yn ystod ein diwrnod arteffactau o’r Ail Ryfel Byd. Cafwyd gymaint o amrywiaeth gan gynnwys: mygydau nwy babi ac oedolyn, dillad milwrol, ffotograffau teuluol, cardiau adnabod, llyfrau dogni bwyd, darnau o arfau ac awyrennau, arteffactau o deulu un fu’n adeiladu’r bont enwog dros yr afon Kwai, yn ogystal â dagr trawiadol o’r Dwyrain Canol. Ar ôl cyflwyniadau slic cafwyd digonedd o gyfle i ymchwilio ymhellach. Diolch i bawb, yn deulu a chymdogion, fu’n cyfrannu i’r diwrnod addysgiadol a chofiadwy iawn.

line


Bendant
Cafodd y disgyblion canlynol eu dewis i ymuno gyda`r rhaglen Cy war S4C sef Bendant: William Jones, Cian Mcleod, Gwen Isaac, Daniel Jones, William Roberts, Maia Sturrs, Erin Griffiths a Gwion Pritchard. Llongyfarchiadau i chi!

line


Ffarwel a diolch

Diolch i Ms Anna Morewood a dreuliodd gyfnod hefo ni ar Ymarfer Dysgu yn nosbarth Mrs Wilson; bu`n fraint cael dy gwmni a phob dymuniad da i`r dyfodol. Diolch hefyd i Ms Molly Corfield am ei gwasanaeth hithau a phob dymuniad da yn Ysgol Pendalar.

Eisteddfod yr Urdd
Cliciwch yma i weld canlyniadau yr Eisteddfod Cylch ar 08.03.14

line

Llongyfarchiadau

Llongyfarchiadau i Anti Carol ar ddod yn Nain. Ganwyd hogyn bach i`r teulu o`r enw Cian Dewi.

line


Brysiwch wella

Dymuniadau gorau i Anti Gillian – gobeithio y bydd y droed yn well yn fuan a brysiwch nôl atom!!

line

Parti i`r Brenin

Troedwyd yn ôl mewn hanes wrth i blant y Dosbarth Derbyn gynnal diwrnod parti i’r ‘Brenin Dau Flewyn’ yn eu castell yn y dosbarth. Bu pawb wrthi`n ddyfal yn creu cawl cig a llysiau ar gyfer y wledd cyn dawnsio yn eu gwisgoedd bendigedig. Cliciwch yma i weld y lluniau.

line

Llwyddiant Galeri Llechid

Y cam cyntaf oedd ymweld â`r Galeri Walker yn Lerpwl. Wedi hynny, penderfynwyd creu galeri yn Ysgol Llanllechid ac roedd dylanwad Van Gogh, Matisse, Kandinsky a Pollock, yn ogystal ag artistiaid lleol yn amlwg yng Ngaleri Llechid ar yr ugeinfed o Fawrth 2014. Blwyddyn 6 oedd yn gyfrifol am yr arddangosfa ac nid lluniau yn unig a edmygwyd gan rieni a ffrindiau’r ysgol. Roedd yno gampweithiau o glai, cyflwyniadau am artistiaid ar gyfrifiadur, cyfle i wneud gwaith artistig digidol rhyngweithiol a chyfle i’r rhieni ymlacio gan ddarlunio gwrthrychau amrywiol gan beintio mewn arddull Tsieineaidd. Ac i gystadlu gyda’r enfys o liwiau, roedd yna wledd o ffrwythau a llysiau iach. Roedd yn brynhawn hyfryd o gefnogaeth i’r disgyblion a chwmnïaeth hwyliog i gymuned yr ysgol. Llongyfarchiadau i Fl6 ar eu llwyddiant! Cliciwch yma i weld y lluniau.

line

Buddug-oliaeth
Llwyddiant ysgubol oedd ymweliad Buddug ag Ysgol Llanllechid wrth iddi gyffroi’r dorf i wrthryfela yn erbyn y Rhufeiniaid. Mewn un wers cawsom hanes, actio, daearyddiaeth a hwyl wrth ddysgu am gorwynt o arwres yn ein hanes, sef Buddug (Boudicca i’r Rhufeinwyr).

line

Diwrnod Celtaidd
Cafodd Blwyddyn 3 ‘ddiwrnod Celtaidd’ yn y dosbarth ac roedd pawb wedi eu gwisgo fel yr hen Geltiaid gan beintio’u hwynebau’n batrymau glas cyrliog. Roedd y ‘gel’ yn eu gwalltiau yn gwneud iddyn nhw edrych yn ddychrynllyd o ffyrnig, yn enwedig pan oeddent yn smalio cwffio gan ddefnyddio’r tariannau gwych a grewyd! Roedd y bisgedi ceirch yn hynod flasus hefyd!

line

Stwnsh
Daeth criw ‘Stwnsh’ [S4C] i’r ysgol yn ddiweddar er mwyn hyrwyddo rhaglenni Cymraeg ar gyfer plant 7-11, - a dyna i chi hwyl a gafwyd! Roedd y cyflwynwyr, sef Anni Llŷn a Lois Cernyw yn llawn bywyd wrth chwarae pob math o driciau a gemau gyda’r plant a’r athrawon a Chware teg i Mr Stephen Jones am dderbyn y slepjan gyda gwen! I weld y lluniau, cliciwch yma!
line

CYW S4C
Edrychwn ymlaen at gael gweld rhai o`n disgbyblion yn cymryd rhan yn rhaglen BENDANT yn ystod tymor yr haf.

line


Hei hogiau bach!

Daeth yr actorion Catrin Mara a Dyfrig Evans i ddarllen storiau yn Gymraeg ac yn Saesneg i’r plant hynaf. Cafodd y plant flas mawr ar y llyfrau a’r perfformiadau ac mae llawer wedi ymweld â`r llyfrgell ym Methesda er mwyn cael benthyg y llyfrau. Cliciwch yma i weld lluniau.

line

Oriel Môn
I Oriel Môn, Llangefni yr aeth y dosbarth Derbyn a chael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau celf dan arweiniad yr artist lleol, mam Efa Lois a Mali Fflur sef Anwen Burgess. Cafodd y plant brofiadau bendigedig gan gynnwys gweld darluniau Kyffin Williams a dysgu am dirluniau. Cliciwch yma i weld lluniau!
line

Diwrnod crempog
‘Os gwelwch chi’n dda ga’i grempog?’ Dyna oedd y gân ar y diwrnod arbennig hwn! Roedd crempogau lu ym mhob dosbarth, - pawb yn gweithio’n galed yn cymysgu a phawb wrth eu boddau’n bochio bwyta!
line

Diwrnod y llyfr
Unwaith eto eleni, daeth pawb i’r ysgol wedi gwisgo fel eu hoff gymeriadau o fyd y llyfrau! Cafwyd diwrnod yn gwrando ar wahanol straeon a phawb yn cael cyfle i drafod eu hoff lyfrau. Mrs Williams a enillodd wobr y staff! Roedd hi wedi ymweld â`r ysgol yn syth o lwyfan SisterAct! Cliciwch yma i weld lluniau!

line

Te Cymreig
Fel rhan o’r thema ar Gymru, cafodd dosbarth Mrs Rona Williams ‘de Cymreig’ yn y dosbarth. Bu`r plant wrthi`n brysur yn gwneud cacennau cri cyn gosod y llieiniau, y llestri te a`r llefrith ar y byrddau! Roedd hi`n hyfryd gweld y plant bach yn mwyhau eu paned ym mygiau`r athrawon ond sh! peidiwch a dweud wrthynt! Cliciwch yma i weld y lluniau.
line

Gŵyl Ddewi
Cynhaliwyd cyngerdd Gŵyl Ddewi yn neuadd yr ysgol ar Fawrth 7fed. Cafwyd gwledd eto eleni a phob plentyn o 3 oed hyd at 11 oed yn rhoi o`i orau. Cafwyd cyflwyniadau amrywiol a phob dosbarth yn dangos eu doniau yn eu gwisgoedd Cymrieg. Diolch i chi rieni a ffrindiau`r ysgol am ddod i`n cefnogi. Diolch i Mrs Macdonald a chriw y gegin am y cinio cig oen blasus a`r bara brith! I weld lluniau - cliciwch yma!

Llongyfarchiadau!
Llongyfarchiadau i Mrs MacDonald ar ddod yn Nain unwaith yn rhagor! Edrychwn ymlaen i gael gweld Alffi bach yn fuan.

line


Y Royal Oak
lady

 

 

Llawer o ddiolch i bawb yn Y Royal Oak am y rhodd i Ysgol Llanllechid. Fe`u gwerthfawrogir yn fawr.

 

 

 

 


line


Brysiwch Wella!
Dymuniadau gorau i Mrs Margaret Jones a gobeithio bod eich llaw yn gwella. Hefyd, dymunwn wellhad llwyr a buan i Mrs Ann Parry, nain Ms Leanne.
line


Dringo a Defaid
Braint oedd gweld dau o`n cyn ddisgyblion ar S4C yn ddiweddar ar y rhaglen Dringo a Defaid. Llongyfarchiadau gwresog i Ioan Doyle a David Emlyn Williams. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Ioan Doyle yn ôl i`w hen ysgol, pan fydd wedi dod yn ôl o`r Ariannin! Mae`r ddau ohonoch yn ysbrydoliaeth i`n disgyblion ni heddiw!
line


Santes Dwynwen a`r Clwb Menter
Daeth pawb i’r ysgol ar y dydd Gwener, cyn Dydd Santes Dwynwen wedi eu gwisgo mewn dillad coch neu binc, er mwyn cofio am y Santes hynod hon. Bu’r holl ddosbarthiadau yn gwneud pob math o weithgareddau i ddathlu’r diwrnod, a chafodd sawl un gerdyn annisgwyl yn cyfarch mewn ffordd ddifyr e.e. “Dwi `di groni hefo chdi!” Diolch i`r holl rieni a brynodd gardiau gan y disgyblion a diolch i aelodau o`r Clwb Menter am eu creu! Cliciwch yma i weld y lluniau

line


Ysgol Iach
dawnsioCafwyd wythnos o ganolbwyntio ar iechyd, a chadw’n iach yn ddiweddar, a bu pob dosbarth yn cynnal gweithgareddau’n seiliedig ar bethau’n amrywio o gadw’n heini, bwyta’n iach i ddysgu am y corff a dawnsio’r Swmba! Diolch i`r Cyngor Ysgol am ymwneud â`r trefniadau; i Emma Williams ac Alison Williams am ddod i gynnal y sesiynau, ac i’r rhieni dewr a ddaeth i ymuno yn yr hwyl hefyd ar ôl ysgol! Cliciwch yma i weld y lluniau


line

Meithrin – Plas Ffrancon
Tro’r Dosbarth Meithrin yw hi ar hyn o bryd i fynychu sesiynau chwaraeon ym Mhlas Ffrancon. Mae’n antur enfawr i’r plant bach, ac maent yn mwynhau pob eiliad! Diolch i staff Plas Ffrancon am fod mor barod i`n cynorthwyo bob amser. Cliciwch yma i weld y lluniau
line


Post Rachub
Aeth disgyblion Blwyddyn 1 am dro i Siop y Post yn Rachub. Fel rhan o`u gwaith Llythrennedd a Rhifedd, bu`r disgyblion yn ysgrifennu llythyr i’w rhieni i ddiolch am y Nadolig bendigedig a gawsant cyn dysgu ysgrifennu eu cyfeiriad ar yr amlen. Yna, cafodd pob un brynu stamp i`w roi ar yr amlenni yn Y post gan Mr Ian Scott. Diolch am y cydweithio hapus sydd yn bodoli rhwng yr ysgol a’r siop pob amser. Cliciwch yma i weld y lluniau
line

Archarwyr
plant mewn gwisg ffansi‘Archarwyr’ yw thema dosbarth Mrs Marian Jones ar hyn o bryd, ac yn ddiweddar, daeth y disgyblion i’r ysgol wedi eu gwisgo fel eu hoff archarwyr. Roedd yn ddoniol iawn gweld Spiderman a Batman (Mrs Marian Jones a Mr Tomos Morris) yn crwydro’r coridorau! Cafwyd diwrnod gwych yn creu sioeau lliwgar ar yr ` I-pads’ a`r plant wrth eu boddau yng nghanol yr holl gyffro! Cliciwch yma i weld y lluniau


line

Sioe Harri Tudur
Aethpwyd yn ôl mewn hanes wrth i flwyddyn 3 a 4 wrando ar gyflwyniad arbennig o Sioe Harri Tudur. Cliciwch yma i weld y lluniau
line

Bl 3 – Taith i Wrecsam
I bentref y Celtiaid yn Wrecsam yr aeth Bl 3 ar eu hynt, i ddysgu mwy am y Celtiaid. Cafodd pob un o`r disgyblion eu troi`n gymeriadau Celtaidd am y diwrnod a chael patrymau cywrain ar eu hwynebau a newid i`r hen ddillad. Beth wedyn? Wel, cyfle i wehyddu a gwneud potiau ac yn goron ar y cyfan, adeiladu tŷ Celtaidd! Cliciwch yma i weld y lluniau
line


Blwyddyn 4 Techniquest
‘Y Synhwyrau’ yw thema dosbarth Mr Stephen Jones ar hyn o bryd ac fel rhan o’r thema, cafodd y dosbarth ddiwrnod prysur yng Nghanolfan Techniquest, yn Wrecsam. Bu’r plant yn dysgu am am olau a sain a sut mae’r rhain yn teithio. Cafwyd cyfle i greu pob math o seiniau gan ddefnyddio offer diddorol a chael defnyddio paneli solar bach wrth ddysgu am ynni adnewyddadwy. Diwrnod gwerth chweil! Cliciwch yma i weld y lluniau
line

Amgueddfa Lechi
plantI`r Amgueddfa Lechi yn Llanberis yr aeth dosbarthiadau Mrs Parry Owen a Mrs Rona Williams. A dyna gymeriad oedd Anti Margiad! Hi oedd yr un a ddysgodd pob un ynglŷn â sut i olchi ers talwm – cyn bod sôn am beiriant golchi dillad! “Ond,” meddai`r plant “Fedrwn ni ddim golchi heb sebon!” Aethpwyd ati`n ddeheuig wedyn i wneud sebon, ac am arogl hyfryd! Wrth grwydro o amgylch yr amgueddfa daethpwyd wyneb yn wyneb â chwarelwr profiadol oedd yn brysur yn hollti a naddu. Cyn troi am adref, cafwyd cyfle i weld olwyn ddŵr anferthol. Diwrnod bendigedig a chyfle i`r disgyblion ddysgu am eu treftadaeth, wrth i lawer sôn am eu teidiau a`u cyn-deidiau yn gweithio yn Chwarel y Penrhyn. Cliciwch yma i weld y lluniau
line

Bl 2 Y Fari Lwyd
Mae dosbarthiadau Blwyddyn 2 wedi bod yn gweithio ar draddodiadau Cymru. Amser i`r Fari Lwyd ymddangos! Daeth cnoc enfawr ar ddrysau`r dosbarthiadau, ac yn sydyn, roedd penglog lliwgar yr hen Fari, yn cael ei thywys gan Mrs Parry Owen, yn cyrraedd gyda fflud o blant o’i chwmpas yn canu ac yn dawnsio ac yn gofyn am galennig! Golygfa werth chweil! Cliciwch yma i weld y lluniau
line

Gweld y byd mewn Galerïau
2 blentynGaleri yw thema Bl6 a`r gyrchfan y tro hwn oedd Lerpwl i astudio celf yn y Walker Gallery. Roedd y disgyblion wedi ymgolli yn y gelf gan ddatblygu eu chwaeth mewn gwaith creadigol o’r canol oesoedd crefyddol i waith haniaethol modern. Roedd rhywbeth i blesio pawb ac ymateb a brwdfrydedd Dewi Roberts yn crisialu’r profiad: “Mae hwn yn le da i bobl gyda dychymyg. Rwy’n gwneud straeon yn fy mhen wrth weld y lluniau”.

I ddilyn aethom yn ein blaenau i’r World Museum gerllaw gan ymgolli ym myd creadigol yr arteffactau o’r Affrig, Asia, America, a Oceania. Yna, i goroni’r cyfan cawsom hwyl yn gafael a chwarae gydag arteffactau o bedwar ban byd gan gynnwys gwisgo ponchos hardd a masgiau, gwneud pwls a chael siarad â phenglogau!! Cliciwch yma i weld y lluniau
line

Biwmares/Bwyty Eastern Origin
plant yn bwytaAeth y Dosbarth Derbyn i dref Biwmares er mwyn ymweld â’r castell. Er ei bod yn ddiwrnod rhynllyd, cafodd y plant hwyl yn cerdded o amgylch yr adeilad hynafol. Yna, aeth y criw ar eu taith i fwyty Chineaidd yr Eastern Origin ym Mangor, lle cawsant flasu pob math o fwydydd, yn ogystal â gweld cyflwyniad lliwgar o ‘Ddawns y Llew’. Diolch yn fawr i’r staff am y croeso twymgalon! Cliciwch yma i weld y lluniau


line

Kung Hei Fat Choy!

Blwyddyn Newydd Dda i`r holl ddarllenwyr! Bu`r ysgol yn dathlu blwyddyn newydd Tseina gyda llond trol o weithgareddau amrywiol, lliwgar! Un o`r uchafbwyntiau oedd gwrando ar sŵn y drwm yn diasbedain drwy`r holl ysgol a`r ddraig enfawr yn ymdroelli o un dosbarth i`r llall! Diolch i Ms Hanna Huws, ceidwad y ddraig! Ymhlith yr holl weithgareddau, bu tri cogydd o flwyddyn 5 yn coginio nwdls a saws oren o dan arweiniad Mrs Rhian Jones; gwirioneddol fendigedig! Diolch i Lauren, Boe a Joseph am y wledd! Cliciwch yma i weld y lluniau
line

Fu’s
Fel rhan o thema’r dosbarth aeth disgyblion blwyddyn 5 i fwyty Tsieineaidd Fu’s yng Nghaernarfon. Cawsant wylio y cogydd yn paratoi y bwyd yn y wok drom gan ddysgu pa gynhwysion oedd yn rhan o’r wledd. Ar ôl bod yn y gegin yn gwylio, roedd y wledd ar y bwrdd yn werth chweil a buan y diflanodd y reis, y saws a’r spring rolls!! Cliciwch yma i weld y lluniau

Blwyddyn Newydd Dda!
Blwyddyn Newydd Dda i bawb!

line

Y Fari Lwyd
Cafodd Dosbarth Mrs Parry Owen hwyl fawr yn mynd o amgylch y dosbarthiadau i gyd yn gofyn am galennig ac yn canu cān i ddymuno Blwyddyn Newydd Newydd Dda i bawb yn yr ysgol. Cliciwch yma i weld y lluniau
line

Dosbarth Derbyn – Sion Corn Llanberis

Aeth disgyblion y Dosbarth Derbyn i Lanberis i weld Sion Corn ar ddiwedd y tymor diwethaf. Roedd y disgyblion wrth eu boddau yn cael mynd ar y tren bach! A phwy oedd yno`n disgwyl amdanynt yn eiddgar, ond Sion Corn ei hun! Roedd pawb wedi gwirioni`n derbyn yr anrhegion gwych ganddo! Diolch i bawb! Cliciwch yma i weld y lluniau

line


Dosbarth Meithrin - Pili Palas
Cafodd y Dosbarth Meithrin hwyl a sbri ym Mhili Palas cyn y Nadolig yn gweld yr holl anifeiliaid diddorol. Y ffefryn oedd y mochyn cwta a`r python trwchus oedd yn troelli o amgylch y boncyff. Aeth pob disgybl i weld Sion Corn cyn ei throi hi yn ôl am yr ysgol. Cliciwch yma i weld y lluniau

line


Mynydd Gwefru
I Fynydd Gwefru yr aeth dosbarth Mrs Parry Owen fel rhan o`u gwaith ar drydan a goleuni. Cawsant brofiad bythgofiadwy, sef, mynd i grombil y mynydd mawr yn eu hetiau caled! Syfrdanwyd y dosbarth gan faint yr holl dwneli a’r holl beiriannau! Cliciwch yma i weld y lluniau

line

Partion Nadolig
Cafodd pob dosbarth barti Nadolig gwerth chweil eto eleni, gydag ymweliad gan Sion Corn pob tro! Roedd o wedi cofio am anrheg i bob un o’r plant a chafodd gyfle i sgwrsio gyda phob un yn ei ffordd ddihafal ei hun! Cliciwch yma i weld y lluniau
line


Sioeau Nadolig
Yr Adran Iau

Roedd neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen yn orlawn ar noson sioe Nadolig yr Adran Iau a oedd fel un Gān Actol fawr! Roedd Dr Who yn teithio drwy wahanol gyfnodau mewn amser er mwyn ceisio darganfod gwir ystyr y Nadolig. Aeth i gyfnod yr hen chwedlau, a’r Chwedegau gan gyfarfod a chewri, llygod, y Beatles, mods a rocers cyn cyrraedd golygfa’r preseb ym Methlehem. Roedd yr actio a’r canu yn fendigedig yn ôl yr arfer, a sawl deigryn yn cael ei golli wrth glywed anthem De Affrica yn cael ei pherfformio mor wych i gofio am Nelson Mandela. Diolch i bawb a anfonodd gardiau ac e byst i Ysgol Llanllechid yn llongyfarch y disgyblion ar eu perfformiadau. Diolch i Mr Alun LLwyd am gael defnyddio Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen ar gyfer llwyfanu`r sioe. Cliciwch yma i weld y lluniau

Halibalŵ!
Aeth dosbarthiadau Blynyddoedd 1 a 2 a ni i Wlad yr Halibalŵ eleni, lle’r oedd Siôn Corn ar goll, wedi gwrthdrawiad â thardis Dr Hŵ fry yn yr awyr ar Noswyl Nadolig! Gyda’i geirw, ei gorrachod a chymorth Huw Bob Lliw, llwyddodd Siôn Corn i ddarganfod y cyfrinair hud oedd ei angen er mwyn cysylltu â Dr Hŵ drachefn. Roedd rhaid iddo ddatrys nifer o gliwiau a goresgyn anawsterau ar ei ffordd, yn enwedig pan ddaeth y gwrachod, y Bobli Woblis, y Bwlis, a’r Jeli Welis i’r golwg! Roedd y plant yn canu, actio a dawnsio’n ardderchog, a chafodd y rhieni eu synnu fod disgyblion mor ifanc yn perfformio mor hyderus ar y llwyfan! Gwledd yn wir! Cliciwch yma i weld y lluniau


Côr Ysgol Llanllechid a Chôr Rygbi Gogledd Cymru
Aeth côr yr ysgol i Landudno i Egwlys St Ioan, ar noson stormus cyn y Nadolig, i berfformio gyda Chôr Rygbi Gogledd Cymru. Gwahoddwyd y disgyblion gan Mrs Glena Bevan, aelod o Gôr Rygbi Gogledd Cymru. Roedd yr Eglwys o dan ei sang ac ysbryd y Nadolig yn llifo wrth i`r plant swyno`r gynulleidfa wrth ganu am stori`r Geni. Bydd hon yn noson a fydd yn aros yn y côf am amser maith. Cliciwch yma i weld y lluniau

Clwb yr Henoed
Croesawyd aelodau o Glwb yr Henoed i’r ysgol ychydig ddyddiau cyn diwedd y tymor, a chawsant y cyfle i glywed plant o bob oed yn canu rhai o ganeuon o`r sioeau Nadolig. Diddanwyd ein cyfeillion ymhellach gan y disgyblion sy`n derbyn gwersi ar y piano gan Mrs Sioned Webb ac roeddent werth eu gweld a phawb yn synnu eu bod wedi gwenud cymaint o gynnydd mewn un tymor! Roedd staff y gegin wedi bod wrthi`n ddiwyd yn paratoi danteithion ac roedd pawb yn canmol mins peis a bara brith Anti Mona! Diolch i bawb! Cliciwch yma i weld y lluniau


line

Sioe Cyw

plant sioe cyw


Aeth dosbarthiadau`r Cyfnod Sylfaen i Langefni i weld perfformiad o ‘Sioe Nadolig Cyw’. Braf oedd cyfarfod y gwahanol gymeriadau poblogaidd oddi ar y teledu, yn arbennig Dona Direidi a Cyw ei hun wrth gwrs!
line

Swmba
Cofiwch rieni ddod i ymuno hefo ni ar brynhawn Ionawr 24 i ddawnsio`r Swmba. Diolch arbennig i am ein harwain. Diolch i Mr Ian Scott, Post Rachub am yr afalau. Cliciwch yma i weld y lluniau
line

Gweld y byd mewn Galerïau
Galeri yw thema Bl6 a buom ar daith i Lerpwl i astudio celf yn y Walker Gallery. Roedd y disgyblion wedi ymgolli yn y celfyddyd gan ddatblygu eu chwaeth mewn gwaith creadigol o’r canol oesoedd crefyddol i waith haniaethol modern. Roedd rhywbeth i blesio pawb ac ymateb a brwdfrydedd Dewi Roberts yn crisialu’r profiad: “Mae hwn yn le da i bobl gyda dychymyg! Rwy’n gwneud straeon yn fy mhen wrth weld y lluniau”.
I ddilyn aethom yn ein blaenau i’r World Museum gerllaw gan ymgolli ym myd creadigol yr arteffactau o’r Affrig, Asia, America, a Oceania. Yna, i goroni’r cyfan cawsom hwyl yn gafael a chwarae gydag arteffactau o bedwar ban byd gan gynnwys gwisgo ponchos hardd a masgiau, gwneud pwls a chael siarad â phenglogau!! Cliciwch yma i weld y lluniau