Archif Newyddion - 2015
Nadolig Llawen!
Dymuniadau gorau am Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch ac fe`ch gwelwn yn ôl yn Ysgol Llanllechid ar Ionawr 5ed.
Rhaglen Nigel Owens
Cofiwch wylio rhaglen Nigel Owens ar ddiwrnod Nadolig pan fydd rhai o blant Ysgol Llanllechid yn cymryd rhan ac yn egluro`r Nadolig o`u safbwyntiau hwy. Mae naturioldeb y plant yn fendigedig!
Radio Cymru
Dyma syndod a gafwyd pan ffoniodd Sion Corn Ysgol Llanllechid i siarad hefo Deio Wager a Cadi Efa a hynny ar y radio.
Teithio i weld Sioeau Nadolig
Cafodd holl blant y Cyfnod Sylfaen fynd i Ysgol Uwchradd Llangefni i weld sioe Nadolig Cyw. Pawb wedi gwirioni ac yn canmol y sioe.
Bu dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a 2 yn adeilad newydd Pontio yn gweld sioe Melltith y Brenin Lludd. Sioe arall werth ei gweld!
I Neuadd Ogwen aeth Blwyddyn 3 i weld perfformiad Saer y Ser. Unwaith eto, cafodd pawb eu plesio. Braf gallu cerdded i lawr i Stryd Fawr Bethesda a bod hyn i gyd yn digwydd ar ein trothwy.
Sioeau Nadolig Ysgol Llanllechid
Cafwyd pedair sioe Nadolig i gyd:
Un gan y Dosbarth Meithrin a`r Cylch Meithrin o dan arweiniad Ms Evans ac Anti Debbie`r Cylch. Roedd y plant bach hyn yn fendigedig ac yn portreadu drama`r Geni yn anfarwol. Da iawn chi am ddysgu cymaint o ganeuon ac am berfformio mor dda o flaen eich rhieni. Cliciwch yma i weld y lluniau
Cafwyd sioe llawn hwyl gan y dosbarth Derbyn a daethom wyneb yn wyneb â chymeriadau e.e. y pryfaid cop, tylluanod, llygod, ystlumod, sêr, llwynogod a Sion Corn, wrth gwrs! Cliciwch yma i weld y lluniau
Cafwyd sioe wreiddiol arall gan Flynyddoedd 1 a 2: Wyddoch chi fod Sion Corn yn sownd ar y Weiren Wib a Ceridwen yn casglu diarhebion i`w rhoi yn anrheg iddo? A wyddoch chi fod y Llipryn Llwyd a Rodni yn chwilio am waith i dalu am y Nadolig?! Sioe Nadolig wreiddiol a`r neuadd yn llawn hwyl a chwerthin. Cliciwch yma i weld y lluniau
Yn Ysgol Dyffryn Ogwen y llwyfanwyd sioe`r Adran Iau a daeth cynulleidfa luosog ynghyd i wrando ar yr holl berfformiadau. Pedair chwedl a baban oedd y teitl a chafwyd gwledd! Noson gampus a phawb yn canmol!
Diolch
Diolch i Mrs Helen Williams am fod yn ffrind mor dda i Ysgol Llanllechid.
Diolch
Diolch i Ms Leah Jones am dreulio bron i dymor hefo ni ar Brofiad Ysgol. Mae`n chwith yma rwan hebddoch chi Leah! Pob dymuniad da i`r dyfodol!
Diolch
Diolch i Mr Eifion Hughes am ei rodd Nadoligaidd arbennig i Ysgol Llanllechid – gwerthfawrogi`n fawr.
Pili Palas
Aeth y dosbarth Meithrin draw i Bili Palas i gyfarfod y dyn ei hun – Sion Corn! Pawb yn rhyfeddu a gwirioni! Cliciwch yma i weld y lluniau
Castell Penrhyn
Bu Bl 4 yng Nghastell Penrhyn yn dysgu am Nadolig yn oes Fictoria. Cyfle i wisgo dillad o`r cyfnod a throi`r cloc yn ôl. Cliciwch yma i weld y lluniau
Canu Carolau Traddodiadol
Treuliwyd cyfnodau yn ystod dyddiau olaf y tymor yn cyd-ganu carolau traddodiadol a`r plant wrth eu boddau ac yn awyddus i ddweud pa un oedd eu hoff garol: I orwedd mewn preseb, A weliast ti`r ddau a ddaeth gyda`r hwyr? Dawel Nos, O deuwch Ffyddloniaid ac ati.
Radio Cymru
Pleser oedd gwrando ar yr Adran Iau yn canu `I orwedd mewn preseb` mor swynol ar raglen Dylan Jones ar Radio Cymru. Mae pawb yn teimlo ysbryd y Nadolig ar ôl clywed y plantos yn canu!
Gwrandewch ar blant yr Adran Iau yn canu y garol hyfryd I orwedd mewn preseb - cliciwch yma
Cofion
Anfonwn ein cofion at Rhian Haf a dymuniadau gorau am wellad buan iawn oddi wrthym i gyd yn Ysgol Llanllechid.
Eisteddfod Dyffryn Ogwen
Cafwyd chwip o Eisteddfod eleni, a daeth y wobr gyntaf i`r côr, parti unsain, parti llefaru, a`r ensemble offerynnol a`r ail wobr i`r criw dawnsio disgo, ynghŷd â myrdd o wobrau eraill i unigolion dawnus. Llongyfarchiadau hefyd i Efa Glain Jones ar ennill anrhydedd arbennig a derbyn y tlws am y perfformiad cerddorol gorau yn yr Eisteddfod. Diwrnod llwyddiannus dros ben! Llongyfarchiadau i bawb! Dymunaf ddiolch o galon i`r holl blant, staff, cyfeillion a rhieni am eu hegni ac am fod mor barod i gynorthwyo. Cliciwch yma i weld y lluniau
Canlyniadau Eisteddfod
Canlyniadau Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen 2015 - cliciwch yma
Canlyniadau Celf a Chrefft Eisteddfod Dyffryn Ogwen - cliciwch yma
Yn ôl ein harfer, cefnogwyd yr ymgyrch hon a chasglu £299.08 tuag at yr elusen. Diolch i bawb.
Ysgol Werdd
Da iawn i bawb ym Ml 6 am ymgymryd â’r hyfforddiant beicio. Pawb yn gwrando’n astud ac i’w gweld o bell ar y lôn fawr yn eu siacedi llachar; pawb hefyd yn llawn sylweddoli`r angen i wisgo helmed. Hefyd, ar ddydd Llun Tachwedd 23, daeth ‘Doctor Beics’ i’r ysgol i atgyweirio beics unrhyw un oedd angen help. Trodd un gilfach o`r ysgol yn weithdy beics a llwyddwyd i atgywieirio llawer un gan y Tîm Beicio. Byddwch yn llawer saffach ar hyd y lonydd rwan! Diolch i bawb am gymryd rhan a llongyfarchiadau ar dderbyn eich tystysgrifau. Un o`r gweithgareddau a oedd at ddant pawb yn ddiweddar, wrth i ni edrych ar ail-gylchu ac ail-ddefnyddio, oedd y Ffair Gyfnewid Dillad. Egwyddor dda yn cael ei gweithredu`n effeithiol. Cliciwch yma i weld y lluniau. Cliciwch yma i weld lluniau Dr Beics
Sian Williams - Diolch
Diolch i Mrs Sian Williams, mam Sion ac Osian McColin am wneud addurniadau arbennig yn rhodd i`r ysgol. Pob un o lythrennau o`r geiriau `Nadolig Llawen` wedi eu gwnio`n gelfydd.
Caroline Jones – Diolch
Diolch i Mrs Caroline Jones, (mam Noah) am ddod i`r ysgol i helpu gwaith y tîm Menter drwy gynhyrchu torchau Nadoligaidd gwerth eu gweld. Gwerthwyd y torchau yn ystod ein Bore Coffi ac roedd pawb am y cyntaf i`w prynu! Llawer o ddiolch i chi Mrs Jones am eich cyfraniad pwysig i`n gweithgareddau Nadolig. Cliciwch yma i weld y lluniau.
Tŷ`n y Maes
I Dŷ`n y Maes yr aeth Blwyddyn 4 i ddysgu sut i gadw`r corff yn iach a heini drwy gymryd rhan mewn sesiynau Yoga yng Nghaban Eryri, Ty`n y Maes. Bu`r disgyblion yn cael cyfleoedd i symud fel llewpart a phob math o anifeiliad y jyngl. Roedd yr ymweliad hwn wedi bod at ddant pawb ac edrychwn ymlaen at gael ailadrodd hyn i gyd yn fuan. Cliciwch yma i weld y lluniau.
Gweithdy Pontio a Chyngerdd Arbennig
Cafodd y disgyblion weithdy drama heb ei ail yn neuadd ein hysgol gan Iwan Charles, Mared a Gwennan. Llawer o ddiolch i chi am ysbrydoli ein disgyblion ac am ddatblygu eu creadigrwydd. Bydd Ysgol Llanllechid yn ymddangos yn Theatr Bryn Terfel ar Nos Sadwrn, Ebrill 30eg am 7.30p.m. Dewch yn llu! Cliciwch yma i weld y lluniau.
Addurniadau Nadolig
Diwrnod o grwydro gerddi Castell Penrhyn gafodd dosbarth Mrs Rona Williams, a hynny er mwyn gwneud addurniadau Nadolig. Cafwyd gweithdy creadigol o dan y coed a chyfle i greu gyda deunyddiau naturiol y goedwig. Daeth y plant yn ôl i’r ysgol wedi gwneud pob math o addurniadau gan gynnwys sêr bach cywrian wedi eu gwneud o foncyffion. Cliciwch yma i weld y lluniau.
Dringo Eferest - Mr Richard Bale
Rydym i gyd yn adnabod Mr Richard Bale yma yn Ysgol Llanllechid fel tad Aron a Harri. Ond, bellach mae disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn adnabod Mr Bale fel gŵr sydd wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i dîm Achub Mynydd. Felly, fel rhan o waith y dosbarth wrth astudio arwyr yn ein hardal leol, fe ddaeth Mr Bale i siarad gyda'r disgyblion am ei waith yn achub pobl oedd wedi bod mewn trafferthion ar fynyddoedd Eryri, gan ddangos yr offer arbenigol sydd ganddo.
Ond, roedd gan Mr Richard Bale gyfrinach! A dyma hi: Mae Mr Bale wedi dringo i gopa`r mynydd uchaf yn y byd! Ydi wir, heb air o gelwyddau! Dyna i chi beth ydi arwr! Treuliwyd orig ddifyr yn gwrando arno`n trafod yr antur honno ac roedd gweld y lluniau a'r golygfeydd ysblennydd yn brofiad hollol unigryw i'r disgyblion. Hefyd, cafwyd cyfle i chwarae rôl ac ystyried sut y buasent yn goroesi`r tywydd garw ar lethrau Eferest. Rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Bale am brynhawn fydd yn aros yn y côf am amser maith.
Cliciwch yma i weld y lluniau
Bore Coffi Nadolig
Diolch yn fawr i bawb a fentrodd allan drwy ryferthwy`r storom i gefnogi ein Bore Coffi ar ddechrau Rhagfyr eleni! Cafwyd cefnogaeth anhygoel a llwyddwyd i godi £670 i gronfa`r ysgol. Mae gennym bwyllgor effeithiol iawn sy`n fodlon trefnu pob math o weithgareddau i helpu Ysgol Llanllechid. Diolch i chi ac i bawb a helpodd. Rydych yn gwybod pwyd ydych chi! Diolch o galon! Mae`r arian a godir yn cael ei sianelu yn ôl i`r plant ac yn ein cynorthwo mewn cymaint o wahanol ffyrdd.
Braf hefyd oedd gweld stondin Siop Ogwen yn bresennol gyda dewis da o lyfrau Cymraeg i blant! Cliciwch yma i weld y lluniau.
Ysgol Iach
Bu rhai o’n disgyblion ym Mwyty Dylan’s ym Mhorthaethwy, gan gymryd rhan mewn cynllun FLAG Gwynedd a Môn. Pwrpas y cynllun yw dysgu am y maeth sydd mewn bwyd y môr a chefnogi ein cymunedau pysgota lleol. Cafwyd araith gan Dylan Evans, Llysgenhad Bwyd y Môr ac yna cyfle i wylio ffilmiau byr am fywydau pysgotwyr a dysgu am wahanol brosiectau ynglŷn â sut i bysgota mewn ffordd sy’n gynaliadwy. Cafwyd amser da a chafodd Hanna, Ariel ac Anti Wendy ginio blasus ar ôl dysgu llawer, cyn dychwelyd i’r ysgol. A beth oedd ar y fwydlen? Wel, amrywiaeth o fwyd môr, wrth gwrs! Diolch i Anti Wendy am ei chymorth. Cliciwch yma i weld y lluniau.
Diarhebion Noddedig
Fel rhan o’n gwaith Siarter Iaith, mae pawb yn yr ysgol wedi bod wrthi fel lladd nadredd yn dysgu diarhebion! Felly os ydych yn cerdded ar hyd goridoriau Ysgol Llanllechid fe glywch: Nid aur yw popeth melyn; I’r pant y rhed y dŵr; Deuparth gwaith yw ei ddechrau; Un wennol ni wna wanwyn; Un celwydd yn dad i gant a.y.b. Ac mae hyd yn oed ein plant bach Meithrin wedi llwyddo i ddysgu rhai, ac maent werth eu clywed! Diolch i chi rieni am fod mor barod i gefnogi’r disgyblion gyda’n Diarhebion Noddedig. Gwerthfawrogir yn fawr. Cliciwch yma i weld y fideos.
Piggery Pottery
Aeth y Dosbarth Derbyn i ‘Piggery Pottery’ unwaith eto eleni, a dychwelyd i’r ysgol yn hynod falch o’u campweithiau crochenyddol!
Archfarchnad
Diolch i Lisa am y croeso yn siop Tesco, Bangor yn ddiweddar. Cafwyd cyfleoedd i flasu pob math o fwydydd i gyd-fynd â thema’r dosbarth sef ‘Bwyd Byd-eang’ ac ym mysg yr holl weithgareddau amrywiol, cafodd pob un gyfle i bobi bara a rhyfeddu at effaith y burum! Cliciwch yma i weld y lluniau.
Clwb Yr Henoed
Do, daeth aelodau o Glwb yr Henoed i`r ysgol yn ôl eu harfer, i wrando ar ein disgyblion yn eu morio hi! Cyflwynwyd caneuon ein sioeau Nadolig, gan gynnwys carolau traddodiadol megis, I Orwedd Mewn Preseb. Diolch hefyd i rai o ddosbarthiadau`r Cyfnod Sylfaen am adrodd ribidires o ddiarhebion. Braf iawn oedd gweld ein cyfeillion unwaith yn rhagor eleni cyn y Nadolig a diolch i chi fel Clwb am eich rhodd garedig i`r ysgol. Diolch arbennig i Anti Gillian, Anti Carol a Ms Leanne am baratoi`r wledd ar eu cyfer. Cliciwch yma i weld y lluniau.
Gwasnaethau Boreol
Daeth y Parchedig John Pritchard i`r ysgol i gynnal gwasanaethau boreol. Cyflwynwyd llinell amser Y Beibl mewn ffordd ddiddorol iawn. Yn ystod y cyflwyniad, cafwyd cyfle i ddysgu`r dyddiadau â ganlyn: 1588 – William Morgan yn cyfieithu`r Beibl i`r Gymraeg; Beibl John Davies yn 1620; Y Beibl Cymraeg Newydd 1988; Y Beibl Cymraeg Newydd diwygiedig 2004; Beibl.net 2015 Arfon Jones. I goroni`r cyfan, cyflwynodd ein gweinidog gopi o`r Beibl.net newydd yn anrheg i`r ysgol, a bydd o fudd garw i ni yn ein gwasanaethau boreol. Diolch o galon! Hefyd, cafwyd gwasaneth boreol llawn miri gan gwmni Ephapha yn ddiweddar i ychwanegu at ein harlwy.
Mynydd Gwefru
Aeth dosbarthiadau Mrs M. Jones a Mrs Parry-Owen i grombil mynydd yn Llanberis i ddysgu am drydan. Dyna wefr oedd cael sefyll wrth ymyl y tyrbein dur, a’r ddaear yn crynu o dan draed! Pawb yn ffurfio cylch wedyn, gan adeiladu cylched go iawn! Mae dysgu trwy brofiadau uniongyrchol fel hyn yn sicrhau y bydd y profiadau yma yn aros yn y côf am byth! (Gobeithio!!) Fel parhad i`w gwaith, cafodd y dosbarthiadau hyn fynd ar daith i Techniquest, Wrecsam. Diwrnod anturus yn llawn o arbrofion diddorol ar y thema trydan. Cliciwch yma i weld y lluniau.
Archifdy
Cafodd dosbarthiadau Mrs Parry Owen a Mrs Marian Jones ymweliad gan swyddogion o’r Archifdy yng Nghaernarfon. Sut ddiwrnod oedd yn wynebu plentyn bach yn y dyddiau heb drydan? Dim cyfrifiadur nag ‘I-Pad’, dim ffôn nag ‘Xbox? Ond roedd pethau’n waeth fyth i`r oedolion; dim peiriant golchi na phopty, dim radio na char. Dyna hwyl oedd cael gwisgo yn nillad yr hen ddyddiau a smalio gwneud tân, tostio’r bara, glanhau’r carped a smwddio dillad! Tybed pa oes oedd orau!? Cliciwch yma i weld y lluniau.
Saer y Ser Bl 3
Cafodd Dosbarth Mrs Bethan Jones fynd i Neuadd Ogwen i wylio cynhyrchiad diddorol Theatr Y Fran Wen, ‘Saer y Ser’. Lwcus ydan ni fod Neuadd Ogwen ar ein trothwy!
Gwersi Gymnasteg
Diolch i Mr Haydn Davies am fod mor barod i ddod i mewn i`r ysgol i gynnal gwersi enghreifftiol i`r disgyblion. Pawb wrth eu boddau!
Gwersi Hoci
Diolch i Nicky Ashcroft am gynnal gwersi hoci i Flynydoedd 5 a 6 yn ddiweddar.
Cheryl Parry
Gweithgaredd arall oedd yn plesio oedd ymweliad Cheryl Parry, nyrs o Ysbyty Gwynedd a chwaer Ms Leanne, wrth gwrs! Daeth i ddosbarth Mrs Llinos Wilson i siarad am ei phrofiadau fel nyrs ac i ddangos y gwahanol offer y mae yn ei ddefnyddio yn ei gwaith o ddydd i ddydd. Diolch i chi am ddod draw a brysiwch yma eto`n fuan!
Diwrnod Ysgol Iach
Dyma ddiwrnod iach a bythgofiadwy gafodd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn nosbarth Mr Huw Jones. Toc ar ôl 9 o'r gloch y bore fe ddaeth Mr Keith Squires o ganolfan Ty'n y Maes gyda llu o ffrwythau a llysiau ynghyd ac ambell beiriant o'r gegin. Roedd yn werth gweld llygaid y disgyblion wrth syllu ar yr arfaeth a osodwyd ar y bwrdd - betys, moron, cyraints duon, afalau, orennau, ynghyd ag aloe vera, dwr cneuen coco ac iogwrt gwrth fiotig. Aeth Keith ati i defnyddio peiriannau amrywiol i gymysgu y cynnyrch maethlon ac roedd yn hyfryd gweld y plant yn barod i flasu gan ddilyn anogaeth Adam - "dwi'n barod i drio!". Yn wir, roedd yn werth trio y cymysgeddau gan eu bod mor flasus! Yna, aeth Keith ati i gynnal sesiwn ioga gyda'r plant gan greu naws hyfryd o ymlaciol o fewn y dosbarth, a'r plant yn cynhyrchu siapiau ee crocodeil, sffincs, llew, coeden a mynydd.
Ar ôl i Keith adael, bu'r plant yn defnyddio eu sgiliau mathemategol gan ymdrin a thaenlen 'excel'. Roedd gofyn iddynt greu fformiwla ar gyfer taenlen siop ffrwythau a llysiau ac fe lwyddodd y plant i ddelio â chyllidebu. Diwrnod i'w gofio a phawb yn teimlo'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol! Diolch arbennig i Keith am ei natur hynaws ac am agor ein llygaid i ddiodydd a choginio iachus a maethlon. Cliciwch yma i weld y lluniau.
Canlyniadau Eisteddfod
Canlyniadau Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen 2015 - cliciwch yma
Canlyniadau Celf a Chrefft Eisteddfod Dyffryn Ogwen - cliciwch yma
Cystadlaethau Llwyfan Eisteddfod Dyffryn Ogwen
Cliciwch yma i weld y lluniau (Mwy o luniau i ddilyn)
Buddugwyr Celf a Chrefft Eisteddfod Dyffryn Ogwen
Llongyfarchiadau!
Cliciwch yma i weld y lluniau
Geiriau Sioe Nadolig
Cliciwch yma i ddysgu'r geiriau
Bore Coffi Nadolig
![]() |
|
Bore Coffi Nadolig - cliciwch yma | Hysbyseb |
Plant Mewn Angen
£299.08 oedd y cyfanswm! Diolch yn fawr i bawb am fod mor barod i gyfrannu.
Apel Bocsys Esgidiau / T4U
Diolch i bawb sydd eisioes wedi dod â bocsys esgidiau yn llawn o anrhegion i ni. Dyddiad olaf ar gyfer casglu’r bocsys yw Dydd Llun, Tachwedd 23, 2015. Diolch i bawb.
Beicio a Doctor Beics
Da iawn i bawb ym Ml 6 am ymgymryd â’r hyfforddiant beicio. Pawb yn gwrando’n astud ac i’w gweld o bell ar y lôn fawr yn eu siacedi llachar.
Dydd Llun Tcahwedd 23, bydd ‘Doctor Beics’ yn dod i’r ysgol i atgyweirio beics unrhyw un sydd eisiau help. Felly, os yw eich beic angen sylw – dewch â fo i Ysgol Llanllechid!
O’r Fferm i’r Fforc
Bu dosbarth Mrs Bethan Jones yn Tesco, Bangor yn dysgu o ble mae bwyd yn dod a chafodd pob un gyfle i bobi bara a rhyfeddu at effaith y burum!
Gwerthu’r Pabi Coch a Chofio
Bu’r ymgyrch yn llwyddiant wrth i ni gyd ymdawelu a chofio.
Disgybl Dyfeisgar
Aelodau o'r corff Llywodraethol yn cyfarfod Aron o flwyddyn pump sydd yn ddisgybl dyfeisgar. Dyma'i ddyfais diweddaraf sydd yn dangos effaith gwthiad ar wrthrych y tu fewn i'r botel ddwr!
Cydymdeimlo
Cydymdeimlwn yn ddwys gyda theulu y diweddar Gwynfor ap Ifor. Fe’i cofiwn yn dda fel rhiant a Llywodraethwr yn Ysgol Llanllechid a chofiwn am ei ddoniau a’i allu. Cofiwn amdano hefyd fel awdur yr englyn hwn i Ysgol Llanllechid:
Mwynhewch y mannau uchel, - rhagorwch
A gyrrwch y gorwel;
Awchwch y dasg aruchel
A diliau aur mannau’r mêl.
Anfonwn ein cofion cynnes at y teulu oll yn eu colled a’u galar o golli cymeriad unigryw a Phrifardd dawnus.
Gwasanaeth Diolchgarwch
Llongyfarchiadau i bob dosbarth , o’r Cylch Meithrin i Fl 6 ar berfformio’n raenus yn ystod ein cyflwyniadau Diolchgarwch yn neuadd ein hysgol. Diolch i chi rieni a chyfeillion yr ysgol am droi i mewn atom. Roedd neuadd ein hysgol unwaith eto, o dan ei sang. Cafwyd adborth arbennig o dda gan ein rhieni ar safon ein perfformiadau a phawb yn dotio at y côr mawr yn ei morio hi!
Wedi hyn , ar y dydd Sul canlynol, aeth rhai o’n disgyblion draw i gapel Carmel ar gyfer gwasanaeth diolchgarwch arbennig o dan arweiniad Helen Williams a llywyddiaeth Elin Mair Jones. Unwaith eto eleni, braint oedd i Mrs Davies Jones dderbyn gwahoddiad i fynd draw yno. Cafwyd gwledd, ac roedd hi mor braf gweld aelodau’r Dwylo Prysur, sef disgyblion yn eu harddegau yn dal ati, ac yn cyflwyno eu gwaith gydag arddeliad. Rhaid canmol ein plantos ni hefyd, a diolch yn fawr i Daniel am ddod ymlaen i’r sedd fawr i egluro’r cylched ddŵr mewn ffordd mor glir ac i Cadi Efa am egluro o ble mae llaefrith yn dod. Diolch i’r holl blant, o’r ieuengaf i’r hynaf, am eu gwaith ac i Mr Godfrey Northam, Ms Maggie Bryn, Mrs Helen Roberts, Mrs Wendy Jones, Mrs Anne Marie Jones, Mr Gwilym Evans a Ms Mari Rowlinson am eu haddysgu. Daliwch ati! Rydych oll yn llusernau llachar yn yr ardal!
Yn ogystal, cafodd disgyblion dosbarthiadau Mrs Parry Owen a Mrs Marian Jones fynd draw i Gapel Carmel er mwyn gweld y capel yn ei ogoniant yn dilyn y Gwasnaeth Diolchgarwch ac roedd yn werth ei weld! Cafwyd croeso bendigedig unwaith eto gan Mrs Helen Williams. Diolch o waelod calon Mrs Williams! Cliciwch yma i weld y lluniau
Haf Bach Mihangel
Gan fod yr hîn yn parhau mor annaturiol o fwyn, achubwyd ar bob cyfle i fynd allan i`r awyr agored i ddygu am ein hamgylchfyd. Cafodd dosbarth Mrs Rona Williams fodd i fyw ar daith gerdded ddiddorol dros ben gan dramwyo drwy Gae Rhosydd, Lôn Goed ac ardal Talysarn cyn ei throi hi nôl drwy bentref Rachub. A`r arweinyddion? Neb llai na Mr Ben Stammers ac Udit! Dyma beth oedd addysg, cyfle i ddysgu enwau`r coed ac astudio eu dail allan yn yr awyr agored a sylwi mewn difrif ar eu lliwiau godidog eleni. Mae pawb wedi clywed am lefydd dros y dŵr sy`n ogoneddus yn yr Hydref. Does dim angen mynd yno o gwbwl! Dewch i Rachub!!
Parti'r Llipryn Llwyd
Peidiwch a dweud wrth bawb, ond Ms Nicola oedd ein Llipryn Llwyd eleni ac actiodd y rhan yn berffaith! Doedd gan blantos bach y dosbarth Meithrin ddim syniad mai hi oedd y Llipryn ac roedd gweld eu llygiad bach yn pefrio yn gwneud ein gwaith ni`n fraint! Cliciwch yma i weld y lluniau
Bore Coffi Nadolig
Os gwelwch yn dda, wnewch chi gofio`r dyddiad yma: Rhagfyr 5ed! Dyma pryd y cynhelir ein Bore Coffi blynyddol, a bydd Sion Corn yn siwr o alw! Dewch yn llu i`r Clwb Criced erbyn 10 o`r gloch.
Paid Cyffwrdd Dweud
Unwaith eto, cafwyd cyflwyniad oedd yn atgoffa`r disgyblion i fod yn ofalus ac i ddweud “na” wrth gyffuriau ac alcohol. Cliciwch yma i weld y lluniau
Siop Ogwen
Mae Ysgol Llanllechid yn gwneud pob ymdrech i gefnogi Siop Ogwen ar y Stryd Fawr drwy werthu nwyddau Masnach Deg yno a phrynu ein llyfrau darllen Cymraeg oddi yno! Hefyd, does yna unlle gwell i wneud ein siopa Nadolig!
Coed Meurig
Coed Meurig oedd cyrchfan dosbarth Mrs Bethan Jones ac yno yr aethant yn llawen a chael croeso cynnes gan Dafydd a Fiona Cadwaladr. Rydym mor ffodus o`n hardal a mannau fel hyn, sydd mor gyfoethog o ran profiadau addysgu, ar ein trothwy. Diolch! Cliciwch yma i weld y lluniau
Cyngor Ysgol
Ew! Mae gennym ni Gyngor Ysgol da! Diolch am drefnu pob math o bethau i`n helpu fel ysgol, ac am eich cyflwyniadau clodwiw! Mae eich cyfraniad i Ysgol Llanllechid yn wych! Diolch i Mr Huw Edward Jones am eich arwain, ac i swyddogion y pwyllgor am fod mor drylwyr eu trefniadau. Cliciwch yma i weld y lluniau
Cadw Cymru’n daclus
Diolch i`r Grŵp Gwyrdd am ein harwain a sicrhau ein bod i gyd yn cefnogi ymgyrch ‘Cadw Cymru’n Daclus’. Bu rhai o`r plant hynaf yn tacluso’r ardal leol drwy gasglu sbwriel o amgylch Maes Bleddyn, Plas Ffrancon, ar hyd Lon Bach Odro ac wrth ymyl y llecyn a elwir yn Llyn Corddi. Sawl bag o sbwriel? Ugain! Anhygoel! Braf oedd cyd-weithio gyda`r tîm Balchder Bro.
India
Daeth Sera, sy`n perthyn i Harri a Cai, i ddosbarth Mrs Parry Owen gyda dwy ffrind o’r India! Cafwyd cyflwyniad diddorol am y wlad ryfeddol hon. Diolch yn fawr am ddod i mewn atom a diolch i chi am rannu`r ffeithiau diddorol drwy gyfrwng technoleg. Cliciwch yma i weld y lluniau
Cân dosbarth Mrs Marian Jones
Pa ffordd well i ddysgu am odli nag ysgrifennu cân ar y cyd fel dosbarth, a dyma ffrwyth llafur y dosbarth hwn:
Mae’n dosbarth ni
Yn llawn hwyl a sbri!
Alanna, Tianna ac Indi-anna
Sydd wrth eu boddau’n bwyta banana!
Mae Bobi, Keaton a Catrin Sion,
Ar ben y bwrdd yn canu cân!
Mae Llŷr a Llŷr a Jessica
Yn lliwio map o Affrica.
A Matthew, Cian, Harri a Ben
Yn adeiladu tý mawr pren!
Erin, Erin, Nel a Nel
Sy’n dawnsio’n wirion dan ambarel
Mae Emma, Seren, Lucas ac Ina
Yn chwerthin yn hurt fel pedwar hyena!
Mae Mali a Cadi yn edrych yn syn…..
“Mae Gwilym a Mia a Lucie mewn bin!”
Os ydych chi eisiau hwyl a sbri
Dewch draw yn syth i’n dosbarth ni!
Ffrwd y Foel
Cliciwch yma i weld y fideo
Ffarwel a Diolch
Ffarweliwn a diolchwn i Samantha Edwards ar ei gwaith da yn Ysgol Llanllechid. Diolchwn am bum mlynedd o wasanaeth i`n hysgol ar y tîm glanhau. Diolch i chi am weithio`n dawel a hapus a phob dymuniad da i chi i`r dyfodol.
Ffair Hydref
Unwaith eto eleni, roedd Ffair Hydref Ysgol Llanllechid yn un i’w chofio, ac yn llwyddiant ysgubol. Tywynnodd yr haul ar hyd y dydd a chafwyd awyr lachar las. Welsoch chi lun y Ffair ar raglen Heno S4C? Diolch i Elin Fflur am ei chefnogaeth ac am ddod draw i agor y Ffair i ni. Pleser oedd gwrando hefyd ar Fand Pres Llanrug o dan arweinyddiaeth Mr Paul Hughes. Cafwyd cefnogaeth yr ardal a diolchwn i chi am fod mor barod i gefnogi Ysgol Llanllechid pob amser.
Hoffwn ddiolch hefyd i’r Pwyllgor gweithgar am eu holl waith di-flinio yn trefnu a pharatoi at y diwrnod mawr. Codwyd cyfanswm o £1,500 tuag at gronfa’r ysgol a bydd cyfran o’r arian yn cael ei wario fel cyfraniadau tuag at deithiau addysgol.
Cynhelir Bore Coffi Nadolig ar Rhagfyr 5ed yn Nghlwb Criced, Bethesda. Wnewch chi roi’r dyddiad yn eich dyddiadur os gwelwch yn dda?
Diolch o galon i bob un ohonoch.
Ysgol Iach
Rydym yn parhau gyda`n gwaith Ysgol Iach, ac yn sgil hyn cafodd pob un o`r disgyblion gyfle i reidio sgwteri o amgylch yr iard nes oeddent yn chwys domen! Pob un mewn helmed, a phob un yn gwisgo padiau penglin a phenelin! Roedd yr athrawon a`r cymorthyddion hefyd wrth eu boddau! Ond, beth ddigwyddodd i Mr Stephen Jones `dwch!!
Cliciwch yma i weld y lluniau
Ysgol Werdd
Mae`r Criw Gwyrdd wrthi`n ddygn ar eu prosiectau ac yn plisoma ein defnydd o drydan yn ddyddiol! Cliciwch yma i weld y lluniau
Ail-achrediad Gwobr Ysgol Ryngwladol 2015-2018
Pleser yw cyhoeddi fod Ysgol Llanllechid wedi derbyn ail-achrediad y Cyngor Prydeinig: Ysgolion Rhyngwladol am ei gwaith arloesol yn y maes hwn. Canmolodd y Cyngor Prydeinig ein portffolio cynhwysfawr a`r partneriaethau sydd wedi eu sefydlu rhwng Jamaica, China ac India. Llongyfarchiadau i bawb yn yr ysgol am eu gwaith caled ac ar y llwyddiant arbennig hwn.
Llongyfarchiadau
Llongyfarchaidau calonogol i Ms Kathryn a Mr Ramji Nyirend ar enedigaeth merch fach yn ddiweddar, sef Evie Rae, - chwaer fach i Mia. Pob dymuniad da i`r teulu oll.
Ymwelydd o Sbaen!
Daeth ymwelydd o Sbaen i'r ysgol yn ddiweddar. Roedd Carlos Manuel Sanchez wedi clywed am waith Ysgol Llanllechid ym maes gwrth fwlio ac yn awyddus i gael dysgu mwy am ein rhaglen gwrthfwlio KIVA, sy`n hannu o`r Ffindir.Treuliodd y diwrnod gyda disgyblion blynyddoedd 5 a 6 gan ymuno mewn gweithgareddau amrywiol. Gohebydd ar gyfer cylchgrawn misol yw Carlos; cylchgrawn sydd â chynulleidfa o dair miliwn o ddarllenwyr. Fe fydd erthygl am ei ymweliad ag ysgol Llanllechid yn ymddangos yn ystod y mis nesaf ac fe wnawn ei osod ar ein gwefan pan ddaw i law. Diolch i Mr Huw Edward Jones am gyd-gordio`r cyfan.
Parc Cenedlaethol Eryri
Fe ddaeth Mr Hywyn Williams o Barc Cenedlaethol Eryri i gyflwyno gwybodaeth am y Parc i`r disgyblion blynyddoedd hynaf. Dechreuodd ei sgwrs hynod o ddifyr trwy holi'r plant am eu lle arbennig hwy, gan mai dyna yw Eryri, - lle arbennig. Siaradodd am waith wardeiniaid y Parc, y sialensau sydd yn eu hwynebu a'r pleser o gael gweithio a byw mewn lle mor odidog. Yn ogystal, cyflwynwyd llyfrynnau ac adnoddau bendigedig i blant. Difyr dros ben!
Tatws Bryn
“Tatws, tatws drwy`u crwyn, tatws, tatws dryw`u crwyn!!” Roedd digonedd o datws blasus i`w gweld ar Fferm Tatws Bryn a llwyth o lysiau o bob math. Roedd y Dosbarth Derbyn wedi dotio gweld yr holl lysiau ffres sydd mor llesol i bawb! Diolch i chi Chris am y croeso cynnes a hefyd am y bocs o lysiau i gael dod yn nôl i`r ysgol. A chanlyniad y cyfan? Cawl llysiau gorau erioed! Cliciwch yma i weld y lluniau
Lon Bach Odro
Dyma i chi enw sydd yn ein swyno, a mynd ar ei hyd am dro fu hanes rhai o blant y Cyfnod Sylfaen yn ddiweddar. Cafwyd cyfle i hel mwayr duon a sylwi ar fyd natur yn ei ogoniant. Lle braf. Mae plant yr ysgol hefyd wedi bod wrthi yn brysur yn casglu sbwriel ac yn dymuno atgoffa pawb i roi`r sbwriel yn y bin!
Parchedig John Pritchard
Dyna wledd a gafwyd pan ddaeth y Parchedig John Pritchard i gynnal gwasanaeth boreol i ni.
Awdures
Llongyfarchiadau i Anwen Roberts, mam Llion ac Efa Celyn ar ei champ yn ysgrifennu llyfr! Talent a hanner! Enw`r llyfr yw Monster Diaries ac mae ar werth yn Siop Ogwen – mynnwch eich copi!
Sain a Goleuni
Bu blwyddyn 4 ar daith i`r Wylfa er mwyn dysgu mwy am Sain a Goleuni. Dwirnod llwyddiannus. Cliciwch yma i weld y lluniau
Myfyrwraig
Croesawn ein myfyrwraig, Leah Haf Roberts o Goleg Prifysgol Bangor i`n plith a dymunwn yn dda iddi gyda`i gwaith yn Ysgol Llanllechid.
Disgo Cylch Bangor/Ogwen - cliciwch yma
Gweddiwn
O Dad! Diolch am ddechrau blwyddyn ysgol arall a diolch am gael dod yn ôl at ein gilydd fel un teulu mawr. Helpa ni i gofio a meddwl am ein cyd-ddynion ymhell ac agos. Helpa ni i ddeall ein gilydd a dathlu’r hyn sy’n wahanol. Meddyliwn am y ffoaduriaid sy’n cael eu herlyn ac sy’n ffoi am eu bywydau oherwydd anghyfiawnder. Helpa arweinwyr y gwledydd i gymodi a deall y gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n gyfiawn ac anghyfiawn.
Rho i ni nerth a’r gallu i ddefnyddio ein doniau i helpu eraill ble bynnag y bônt yn y byd.
Yn enw Iesu Grist,
Amen.
Croeso
Croeso’n ôl i holl ddisgyblion, staff a rhieni Ysgol Llanllechid ar ddechrau blwyddyn addysgol newydd sbon danlli arall! Rydym yn estyn croeso arbennig i blant bach newydd y Dosbarth Meithrin, - pob un wedi setlo’n ardderchog, ac yn mwynhau cwmni eu cyfeillion newydd.
Ffarwelio
Ar ddiwedd y flwyddyn addysgol cafwyd cyfarfod arbennig yn y neuadd i ddiolch a ffarwelio gyda Mrs Hanna Huws, ar ôl deuddeng mlynedd o wasanaeth amrhisiadwy i Ysgol Llanllechid. Cyfranodd mewn meysydd ar draws y cwricwlwm, ac i fywyd yr ysgol yn gyffredinol, a hynny pob tro gydag arddeliad ac i’r safon uchaf posib. Bu’n bleser cyd-weithio hefo gwraig mor ddeallus a thalentog a dymunwn yn dda iawn iddi yn ei chylch newydd. Gan mai i’r Mudiad Heddwch y bydd Mrs Huws yn gweithio iddo, byddwn yn parhau i fod mewn cysylltiad agos. Diolch Mrs Huws.
Dau faban newydd!
Llongyfarchiadau i Mrs Dianne Jones a’r teulu, a Ms Holly Rowe a’r teulu, - y ddwy wedi cael ychwanegiad i`w teuluoedd yn ystod gwyliau’r haf! Ganed Mila i Holly a Craig, a Becca i Dianne ac Andrew. Dymuniadau gorau oddi wrth bawb yn Ysgol Llanllechid!
Cydymdeimlo
Gyda thristwch y cydymdeimlwn â theulu’r diweddar Charlotte Speddy. Cofiwn yn annwyl am Charlotte fel merch ifanc arbennig oedd wedi llwyddo i oresgyn cymaint yn ei bywyd, cyn i`r diwedd ddod mor arswydus o sydyn. Cofiwn am ei gwen fach ddireidus a`i phersonoliaeth hapus ac roedd ei ffrindiau i gyd, yn naturiol, fel ei theulu, yn meddwl y byd ohoni. Buom yn ffodus o gael ei chymorth yn Ysgol Llanllechid yn ystod tymor yr haf eleni pan ddaeth yma ar brofiad gwaith i helpu yn y dosbarth Meithrin. Roedd hi`n bleser ei chael yma yn rhan o`n tim. Yn wir, roedd wrth ei bodd yn y dosbarth hwn, yn enwedig o ystyried fod Caitlin fach yno! Anfonwn ein cofion cynnes at y teulu oll yn eu galar o golli un a oedd mor arbennig.
Gwobr Addysg Awyr Agored
Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol Llanllechid ar lwyddo i ennill y Wobr Arian ym maes Addysg Awyr Agored. Mae hyn yn benllanw ar waith y flwyddyn flaenorol ac yn tystio i`r holl sgiliau amrywiol y mae`r disgyblion yn eu caffael drwy`r arlwy eang o weithgareddau a gynhelir yn flynyddol – canwio, mynydda, dringo, cyfeiriannu, hwylio, sgiliau cadw`n heini yn y goedwig a.y.y.b Derbyniwyd tarian wydr hardd fel cofnod. Diolch i Mr H.E. Jones am gyd-gordio`r gwaith.
Ymwelwyr o’r India
Braint oedd cael croesawu Avantika a Gita i Ysgol Llanllechid o Kullu, gogledd India, sef ardal yr Himalayas. Dwy wraig arbennig sydd wedi dysgu cymaint i ni am eu harferion a`u traddodiadau yw Avantika a Gita. Yn ystod yr wythnos gyntaf roedd pob un o`n dosbarthiadau yn ymwneud â gwahanol agwedd o`r wlad ryfeddol hon ac roedd arogleuon perlysiau a chyri yn treiddio i bob twll a chornel! Erbyn hyn, mae pawb yn Ysgol Llanllechid yn gwybod sut i wneud rhai symudiadau yoga ac yn gwybod sut i fyfyrio. Bydd yr holl luniau yn ymddangos ar ein gwefan yn fuan. Dyma beth yw addysg ar ei orau!
Cliciwch yma i weld y lluniau
Eisteddfod Llangollen
Fel rhan o`n rhaglen Addysg Byd, cafodd dosabrth Mrs Parry Owen (Bl 2) gyfle i graffu ar ddiwylliannau o bedwar ban byd drwy gyfrwng dawns Yn Eisteddfod Llangollen. Gwelwyd dawnsfeydd o bob lliw a llun a chafodd y disgyblion gyfle i ymuno gyda rhai o`r rhyddmau ecsotig. Diwrnod lle dysgwyd llawer a diwrnod a fydd yn aros yn y côf am amser maith.
Cliciwch yma i weld y lluniau
Fferm y Foel
Bu`r Dosbarth Meithrin yn Fferm y Foel, Brynsiencyn ar ddiwedd tymor yr haf. Cafwyd tywydd bendigedig a chafwyd cyfle i fwydo`r anifeiliaid a mynd am reid ar y trelar oeddd yn cael ei dynnu gan y tractor mawr coch!
Ffair Hydref
Unwaith eto eleni, cynhelir ein Ffair Hydref ar Fedi 26. Os ydych yn dymuno cyfrannu mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â`r ysgol, os gwelwch yn dda. Buasem wrth ein boddau yn derbyn cacennau, picls, taffi triog, bric à brac, teganau, llyfrau a.y.b. Llawer o ddiolch i`n pwyllgor gweithgar am eu gwaith caled yn trefnu. Croeso cynnes i bawb ac edrychwn ymlaen at ddiwrnod llwyddiannus arall.
Sioe Bypedau Rwdlan
Roedd hon yn sioe anhygoel gan Cwmni Cortyn ac edrychwn ymlaen at gael eich croesau yn ôl yn fuan. Roedd wynebau`r disgyblion ieuengaf yn werth eu gweld.
Royal Oak
Llawer iawn o ddiolch i Mrs Alison Jones o`r Royal Oak, Rachub am y rhodd o £50 i`r ysgol. Gwerthfawrogwn hyn yn fawr a diolchwn i gwsmeriaid y Royal Oak yn am eu cefnogaeth i Ysgol Llanllechid.
Disgo`r Haf
Diolch i`r Gymdeithas Rhieni/Athrawon am eu gwaith yn trefnu`r Disgo Haf yn y Clwb Criced. Roedd hi`n gyda`r nos braf a phawb yn mwynhau eistedd allan yn yr heulwen. Codwyd £400 tuag at Gronfa`r Ysgol, sy`n swm anrhydeddus iawn. Diolch i`r Pwyllgor, i chi rieni am eich presenoldeb a`ch cefnogaeth ac i`r Clwb Criced.
Meddwl am ein Cyd-Ddynion
Mae Ysgol Llanllechid yn awyddus i helpu ein cyd-ddyn drwy chwarae rhan fach yn yr ymgyrch i gynorthwyo`r ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd cyfandir Ewrop, drwy gasglu bwydydd ynghyd. Os ydych yn awyddus i`n helpu, rydym yn gofyn yn garedig am y canlynol os gwelwch yn dda: reis, blawd (dim pasta), olew, tuniau tomatos, nionod a llefrith sydd ddim yn suro. Diolch i chi rhagblaen am eich cydweithrediad a diolchwn i Mrs Catrin Wager, mam Deio a Nedw am gydgordio hyn.
Babi newydd
Llongyfarchiadau gwresog i Ms Angharad a Mr Elfed Williams ar achlysur genedigaeth Steffan Gwern. Mae’n siwr bod Tomos Jac a Philip, y ddau frawd mawr, hefyd, wrth eu boddau!
Gwella
Peth braf yw cael dweud bod Miss Haf yn parhau i wella ar ôl ei llawdriniaeth, a bod Mr Rhys Parry Owen hefyd yn gwella ar ôl ei gyfnod yntau yn yr ysbyty. Cofion cynnes atoch eich dau.
Croeso`n ôl
Croeso`n ôl i Mrs Davies Jones yn dilyn ei hymweliad â`r India, a godre mynyddoedd yr Himalaya.
Yr Wyddfa
Cyrhaeddodd Bl6 gopa’r Wyddfa mewn dwy awr a thri chwarter gan brofi unwaith eto y manteision o fod yn ysgol iach a chadw’n heini wrth redeg o amgylch y trac yn rheolaidd. Cafwyd tywydd braf ac roedd pawb yn falch o fod wedi cyflanwi’r her yn llwyddiannus. Diolch yn fawr i Cemlyn a Morfudd am ein tywys yn ddiogel unwaith eto ac i Stephen Jones, Rhian Jones a Gwen Swann am eu gofal trylwyr o`r disgyblion.
Bonjour o Fl 6
Rydym wrthi’n dysgu Ffrangeg fel fflamia i baratoi at Ysgol Dyffryn Ogwen, gan ffarwelio ag Ysgol Llanllechid wrth ddweud “Au revoir et merci beaucoup!”
Cwpan y Byd
Cafodd plant Blwyddyn 4 gyfle i ymweld â`r Weiren Wib ac i weld Cwpan Rygbi’r Byd yn cael ei arddangos yno. Roedd y Cwpan, sef cwpan Webb Ellis ar daith o amgylch Cymru, a cafodd y plant dynnu eu lluniau gyda’r cwpan a chyda cyn-chwaraewr Cymru, Rupert Moon. Cawsant hefyd ymarfer eu sgiliau rygbi gydag aelodau o dim rygbi Bethesda! Braint yn wir! Diolch i gôr Ysgol Dyffryn Ogwen am yr adloniant. P`nawn bythgofiadwy!
Croesawu Rhieni a`n Disgyblion Newydd
Braint oedd croesawu ein plantos bach newydd a`u rheini i`r ysgol yn ddiweddar. Edrychwn ymlaen at gael gweithio hefo chi mewn partneriaeth llwyddiannus o fis Medi ymlaen.
Blasu Bwyd Môr
Cafodd dosbarth Mrs Parry-Owen wledd go iawn un bore, pan ddaeth Rachel a Dylan draw o brosiect F.L.A.G i sôn am bysgota cynaliadwy.
Ar ôl dysgu am y gor-bysgota a llygredd, cafodd pawb flasu bwyd môr wedi ei goginio o`u blaenau yn y dosbarth ac roedd yr arogl yn tynnu dŵr o`r dannedd! Roedd y bwrlwm yn denu ambell aelod arall o staff at y drws, yn y gobaith o gael tamaid!
Da iawn chi blant am roi cynnig ar flasu pob dim, ac am lyfu'r platiau'n lân!!
Diwrnod Brasil
Cafodd dosbarth Mrs Rona Williams ddiwrnod Carnifal Brasil yn yr ysgol yn ddiweddar, pan gafodd pawb y cyfle [gan gynnwys Mrs Rona Williams ei hun, wrth gwrs!] i wisgo gwisgoedd lliwgar fel pobl carnifal Rio! Roeddent i gyd wedi gwneud mygydau amryliw, ac yn cael gwledda ar fwydydd ecsotig, gan gynnwys ffrwythau a choctels a oedd wedi eu creu gan amwrywiaeth o ffrwythau lliwgar! Bu dawnsio brwdfrydig i fiwsig Brasil, a chwarae offerynnau soniarus ar hyd y coridoriau! Hefyd, cafwyd cyfle i efelychu gwaith Celf lliwgar yr artist Romero Britto. Diwrnod ardderchog!
Mabolgampau
Cynhaliwyd Mabolgampau’r Cyfnod Sylfaen a‘r Adran Iau ar ddau brynhawn braf ym Mis Mehefin. Diolch i’r nifer helaeth o rieni a ddaeth i’n cefnogi yn ystod y ddau ddiwrnod. Roedd y plant ar eu gorau, a nifer helaeth ohonynt yn llwyddo i gael sticeri! Diolch yn fawr i Mr a Mrs Scott, perchnogion Siop y Post, Rachub am eu rhodd o boteli dŵr i’r plant.
Diwrnod Tsieiniaidd Dosb Meithrin
Cafodd plant y Dosbarth Meithrin hwyl yn creu crefftau Tsineaidd yn eu gwisgoedd traddodiadol. Roedd yn werth gweld eu dreigiau a’u hetiau lliwgar, - pob un o’r plant wrth eu boddau ac yn llwyddo i egluro`n dda i ni pam eu bod yn ymwneud â`r gweithgareddau hyn. Da iawn chi blantos!
Bl 3 Bwyty Groegiadd
Fel rhan o’r thema ‘Teithio`, cafodd dosbarth Mrs Bethan Jones brynhawn bendigedig, braf a heulog yn dysgu am y wlad arbennig Groeg yr wythnos diwethaf, drwy flasu ychydig o`r diwylliant a chael profiadau uniongyrchol gwerth chweil. Cafwyd croeso twymgalon gan berchnogion y Bwyty Groegaidd ym Mangor Uchaf ac roeddent wedi paratoi gwledd fendigedig i ni o hwmws, olewydd, reis mewn dail gwinwydd a llawer iawn mwy! Bu pob un yn dysgu ychydig eiriau o`r iaith a holwyd cwestiynau treiddgar am y wlad gan grybwyll ychydig am ye economi bresennol. Cyn ffarwelio, dysgwyd daws Roegaidd gyda`n cyfeillion yn ein harwain ac wrth gwrs roedd hi`n hanfodol taflu ambell i blat cyn ei throi hi am y bws! Prynhawn bendigedig a chyfle gwych i ddysgu!
Bl2 Coedwig
Roedd diwrnod diddorol wedi ei drefnu gan Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llanberis ar gyfer dosbarth Mrs Parry-Owen. Taith, a stori ar y tren yn olrhain hanes diddorol yr ardal. Cwis, a thaith gerdded dan arweiniad Mr Osbourne Jones, lle cawsom ddysgu am y planhigion meddyginiaethol sydd i'w gweld yn ein coedwigoedd a`n gwrychoedd – rhyfeddodau natur yn wir. Roedd golygfeydd godidog i bob cyfeiriad wrth i ni ddringo uwchben yr hen ysbyty a wyddoch chi mai yno y treialwyd y peiriant pelydr-x cyntaf? Mae rhywun yn dysgu rhywbeth newydd pob dydd, tydi! Dysgwyd hefyd am ynni'r dŵr a pheirianneg yr hen chwarel, yr inclein ac olwyn Blondin. Diwrnod rhyfeddol!
Sŵ Môr
Aeth disgyblion Dosbarth Derbyn i Sŵ Môr Môn ym Mrynsiencyn yn ddiweddar fel rhan o`u thema, cyn cael prynhawn delfrydol ar draeth Benllech. Diolch yn fawr i Mr Derfel Owen am ei wasnaeth di-flino i Ysgol Llanllechid.
Sioe Amaethyddol
Llongyfarchiadau i`r holl blant a gafodd lwyddiant yn Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen eleni. Llongyfarchiadau arbennig iawn i Ceirion Jones o ddosbarth Blwyddyn 1 a lwyddodd i ennill Cwpan Wendy Eccles am y llun gorau yn yr holl sioe! Da iawn ti Ceirion – llun hyfryd o’r glöyn byw! [LLUN]
Criced
Rhiad cofnodi fod ein timau criced wedi mwynhau llwyddiant yn ystod y tymor cricedeto eleni. Cafodd tim blwyddyn 4 gem gystadleuol a chyfartal yn erbyn ysgol y Garnedd. Yna daeth y tim bechgyn hŷn yn ail yn y twrnament dalgylchol ,tra'r aeth y tim merched un cam ymhellach; nhw oedd buddugwyr y rownd derfynol. Ymlaen a thÎm y merched i Bwllheli wedyn lle cafwyd lwyddiant pellach a gwahoddiad i gymryd rhan mewn twrnament gogledd Cymru yn Llaneurgain. Llongyfarchiadau i'r cwbl a diolch i Mr Stephen Jones am rannu ei ddoniau a'i sgiliau yn y maes drwy hyfforddi'r chwaraewyr ifanc i safon mor ragorol. Diolch hefyd i mrs Fiona Cadwaladr am ei chymorth parod.
Cynllunwyr y dyfodol?
Mae disgyblion blynyddoedd 4 a 5 wedi bod yn brysur yn creu reidiau ffair amrywiol ym maes Dylunio a Thechnoleg a bu`r disgyblion yn brysur yn torri, llifio, uno, cysylltu'r gwifrau i greu cylchedau a pheintio. Cofiwyd y rheol euraidd – mesur ddwy waith a thorri unwaith! Roedd yn dda gweld y cwbl yn troelli yn llwyddiannus gan roi gwefr i'r cynllunwyr ifanc.
Cwm Idwal
Cafodd disgyblion Dosbarth Mr Stephen Jones daith gerdded fendigedig drwy Ddyffryn Ogwen dan arweiniad yr arweinyddion mynydd profiadol Mr Cemlyn Jones a Mrs Morfudd Thomas. Ar ddiwrnod hyfryd o haf cafwyd cyfle i werthfawrogi eu hardal ar ei orau, gan rythu ar y mynyddoedd mawreddog a'r planhigion yn eu gogoniant. Profiad bythgofiadwy arall i'r disgyblion ym maes antur awyr agored.
Ymwelwyr o Ganada a Chyngerdd Cerddoriaeth Clasurol
Croesawyd ffrindiau o Ganada i'r ysgol ynghyd a'u tywysydd lleol Mr Idwal Jones. Roedd y merched yn llawn hanesion difyr ac roedd y drafodaeth o gymharu dau ddiwylliant gwahanol yn hynod ddiddorol ac addysgiadol. Cafwyd gwledd y bore hwn yn neuadd ein hysgol, wedi ei drefnu gan ddwy athrawes offerynnol, sef Ms Sioned Webb a Ms Nicki Pierce, dwy sy'n rhoi eu hamser a'u doniau i hyfforddi ein disgyblion. Fe chwaraeodd y ddwy ddeuawd o gerddoriaeth clasurol gan rai o'n prif gyfansoddwyr - Sioned ar y piano a Nicki ar y soddgrwth. Wrth gwrs fe berfformiodd ein disgyblion, sy`n rhan o`n cerddorfa, nifer o ddarnau i blesio'r gynulleidfa. Roedd y safon yn ardderchog ac fe wnaeth y cyfan gryn argraff ar ein hymwelwyr o Ganada. I goroni'r cwbl cafodd ein hymwelwyr o Ganada wefr bellach pan berfformiodd criw ifanc Mrs Marian Jones eu caneuon traddodiadol.. Bore i'w gofio!
Mr Arwyn Oliver
Braint ac anrhydedd yn wir oedd cael y cyfle i groesawu cyn bennaeth Ysgol Llanllechid, Mr Arwyn Oliver i`n plith. Cafwyd amser gwerth chweil yn ei gwmni yn dysgu am ei daith i wersyll yng nghysgod mynydd Everest yng ngwlad Nepal. Rydym yn gyfarwydd â'r newyddion trist sydd wedi dod o'r wlad hon dros y misoedd diwethaf a llwyddodd Mr Oliver i roi blas i'r plant o ddiwylliant, hinsawdd a thirwedd y wlad, gan sôn ymhellach am y dinistr sydd bellach wedi llorio rhai o'r adeiladau a'r pentrefi a welwyd yn ei sleidiau. Roedd ein plantos yn llawn diddordeb a chafwyd cwestiynau lu. Diolch am brynhawn mor ddiddorol Mr Oliver a brysiwch draw i`n gweld eto yn fuan!
Athletau yr Urdd
Bu aelodau yr Urdd yn cystadlu ar lefel Cylch a Sirol yn Nhreborth. Cafodd nifer helaeth o`r disgyblion lwyddiant a diolch i Mr Stephen Jones am roi ei amser i hyfforddi a goruchwylio'r plant.
Noson Talentau Lleol
Cafodd disgyblion yr ysgol wahoddiad i gymryd rhan yn y noson arbennig hon a gynhaliwyd yng Nghlwb Criced a Bowlio Bethesda. Fe ganodd y côr yn llawn afiaith, a chafwyd perfformiadau unigol arbennig gan ein cantores o flwyddyn 4 - Efa Glain Jones, a'r offerynwraig pres Cerys Elen o flwyddyn 5. Noson i'w chofio a diolch i Mr Huw Edward Jones ac i Mr Derfel Roberts am y gwahoddiad.
Cyngor Ysgol
Mae'r Cyngor Ysgol yn cymryd eu rôl o ddifrif fel cynrychiolwyr eu cyfoedion. Rhan o'u cyfrifoldebau yw adrodd yn ôl i'r Corff Llywodraethol ac fe ddaeth cynrychiolaeth dda ohonynt i drafod eu gwaith diweddar gyda'r Llywodraethwyr. Mae gerddi yr ysgol yn ffynnu a'r llysiau yn eu hanterth, ac fe gawsant ganmoliaeth pellach am drefnu y diwrnod 'Gwyllt a Gwallgo' i godi arian at dynged yr eliffant yn yr Affrig, a drefnwyd ar y cyd gyda dosbarth Mrs Marian Jones.
Gwyliau Haf
Dymuniadau gorau am haf hirfelyn tesog ac fe`ch gwelwn yn ôl yn yr ysgol ar Fedi`r ail.
Cydymdeimlo â Rhian Haf
Anfonwn, fel ysgol, ein cydymdeimlad dwysaf at Ms Rhian Haf a’r teulu, yn dilyn colli tad a thaid hoffus. Nid yw Ms Haf ei hun wedi bod yn dda iawn yn ddiweddar, felly brysiwch wella Ms Haf; mae pawb yn cofio atoch.
Cofion
Anfonwn ein cofion at deulu Mrs Parry Owen yn ogystal.
Llongyfarchiadau
Dymunwn longyfarch Mrs Llinos Wilson ar ei phenodiad fel Arweinydd y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Llanllechid. Pob dymuniad da i chi Mrs Wilson a llongyfarchiadau gwresog!
Charlotte Speddy
Dymunwn yn dda i Charlotte Speddy, a dreuliodd gyfnod ar brofiad gwaith yn Ysgol Llanllechid, fel rhan o’i chwrs gyda Choleg Menai. Pob lwc i ti i`r dyfodol, Charlotte.
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerffili
Gwych o beth, eto eleni, oedd gweld un o ddisgyblion Ysgol Llanllechid ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd! Daeth Efa Glain yn ail yn y gystadleuaeth Unawd i flynyddoedd 3 a 4, ac roedd hi’n canu’n fel eos! Da iawn ti, Efa Glain! Mae dyfodol disglair o dy flaen! Hefyd, gwelwyd gwaith celf 3D Ithel Temple Morris yn aml ar raglen yr Eisteddfod ar S4C, gan ei fod yntau wedi cael y wobr gyntaf! Rhaid nodi hefyd i ni sylwi ar un o’n cyn-ddisgyblion, sef Gwydion Rhys,Blwyddyn 7 Ysgol Dyffryn Ogwen, yn rhoi perfformiad ysbrydoledig ar y soddgrwth, ac yn llwyddo i gael y drydedd wobr. Llongyfarchiadau i chi i gyd am ddod â chlôd i`ch ysgolion a`ch ardal! Cliciwch yma i weld y lluniau
Côr Glanaethwy
Llongyfarchiadau i Efa Lois, sy`n aelod o Gôr Glanaethwy, ar y profiad anhygoel o ymddangos ar lwyfan BGT! Perfformiad gwefreiddiol.
Y Sŵ
Cafodd dosbarth Mrs Marian Jones ddiwrnod gwych yn Sŵ Fynyddig Bae Colwyn yn ddiweddar fel rhan o`u astudiaethau ar anifeiliaid. Gwelwyd gant a mil o greaduriaid diddorol, gan gynnwys aligetor anferth cwbwl lonydd, llewpard yr eira a’r panda coch. Cawsom hwyl a sbri yn gwylio sioe y pengwiniaid a’r morloi, - yn ogystal a chael picnic yn yr haul! Cliciwch yma i weld y lluniau
Capel Carmel
Mae gan Ysgol Llanllechid bartneriaeth gref gyda Capel Carmel ac rydym yn bachu ar bob cyfle i fynd yno i drysori yr arlwy a gynigir yno. Y tro hwn, gwelwyd arddangosfa Gelf hynod o eiddo`r plantos bach ac aelodau o`r Grŵp Dwylo Prysur, oedd yn cael ei arddangos yno, yn dilyn y Gymanfa. Yn ôl yr arfer, cafwyd croeso cynnes gan Mrs Helen Williams, a chyfle i gyd- ganu hoff emynau! Diolch, Mrs Williams am gael gweld y capel a’r gwaith celf bendigedig a llongyfarchiadau i chi ar arwain y cyfan, ac am eich holl waith di-flino.
Blaen y Nant
Cafodd dosbarth Mrs Rona Williams dreulio amser hynod, yn un o`r mannau mwyaf rhyfeddol a hardd yn y byd, sef, fferm Blaen y Nant, gyda Mr Gwyn Tomos, taid Llyr a Jac Roberts. A`r diben? Cael profiad uniogyrchol o ddysgu am fywyd ar fferm fynyddig a dysgu am flwyddyn ym mywyd y ffermwr. Cafodd y disgyblion fôr o wybodaeth gan Mr Tomos a dysgu am arferion cefn gwlad ynghŷd â dysgu geirfa draddodiadol sydd, os nad ydym yn ofalus, yn edwino o`n tir. Cliciwch yma i weld y lluniau
Taith gerdded Cwm Idwal
Aeth disgyblion dosbarth Mr Huw Jones ar daith gerdded heriol, dan ofal dau arweinydd dringo mynydd profiadol sef, Mr Cemlyn Jones a Mrs Morfudd Thomas. Rydym yn ffodus iawn o gael cydweithio gyda’r cerddwyr profiadol hyn, sydd wedi teithio ar hyd a lled y byd gan gynnwys base camp Everest. Aeth y disgyblion ar daith o amgylch llyn Idwal, cyn cerdded yn ôl ar hyd y ffordd Rufeinig tuag at yr ysgol. Diwrnod bythgofiadwy, llawn hanes a golygfeydd ysblennydd. Cliciwch yma i weld y lluniau
Cynan
Mae Cynan, o ddosbarth Mrs Bethan Jones, wedi profi ei fod yn dipyn o arwr yn ddiweddar. Yn anffodus, ar hyn o bryd, mae tad Cynan yn treulio cryn amser yn yr ysbyty ac fel ysgol, anfonwn ein cofion ato. Un noswaith, pan oedd Cynan yn y tŷ ar ei ben ei hun gyda`i fam, aeth ei fam yn wael. Bu Cynan wrthi ei orau yn cynorthwyo ei fam a thra oedd ei fam yn anymwybodol, llwyddodd i ffonio ei daid a`i nain , Valerie ac Islwyn Jones i ofyn am help. Wrth lwc, roedd yn gwybod yn iawn beth oedd y rhif, a chafwyd cymorth mewn dim o dro! Da iawn Cynan! Rwyt ti`n arwr! Cliciwch yma i weld y lluniau
Addysg Awyr Agored: Wal Ddringo a Chyfeiriannu
Aeth disgyblion blynyddoedd 5 a 6 i barc Padarn, Llanberis i gymryd rhan yn yr Wyl Gyfeiriannu i ysgolion Gwynedd, ac yn ystod yr wythnosau diwethaf, maent wedi bod yn hogi eu sgiliau darllen map o amgylch yr ysgol.Yn ystod yr wythnos hon, bu pob aelod o flynyddoedd 4, 5 a 6 yn ymweld â chanolfan ddringo Indefatigable. Mae llawer un yn dilyn ôl troed eu cyn-ddisgybl, Ioan Doyle! Cliciwch yma i weld y lluniau
Canolfan Arddio
Aeth disgyblion dosbarth Meithrin, yn llawn brwydfrydedd, i Ganolfan arddio Fron Goch yn ddiweddar. Cafwyd hwyl yn arsylwi ar y planhigion ac offer garddio gwahanol a dysgu gweithio fel grwp wrth blanu, a chyn ei throi hi am y bws, cwbwlhawyd helfa drysor! Prynwyd llawer o blanhigion i`r ysgol i ychwanegu at ein casgliad! Diolch ‘Fron Goch’ am y croeso! Cliciwch yma i weld y lluniau
Gweithgareddau Chwarae
Mae pawb o`r plantos wedi bod yn mwynhau sesiynau chwarae amrywiol yn ystod amseroedd chwarae a chinio yn ddiweddar, drwy ddatblygu sgiliau creadigol. Mae`r sesiynau yn parhau a braf yw gweld yr holl chwarae dychmygol yn ystod ny diwrnodau braf diweddar. Cliciwch yma i weld y lluniau
Diwrnod Cerddoriaeth y BBC
Fel rhan o ddathliadau diwrnod Cerddoriaeth y BBC ar Fehefin 5ed, roedd Radio Cymru yn anelu i bontio dros 7000 o filltiroedd, sef y pellter mwyaf erioed rhwng pobl yn canu deuawd, wedi’i ardystio gan Guinness World Records. Roedd y ddeuawd arbennig hon rhwng Caerdydd a Phatagonia. Yn ymuno gyda Shân Cothi yn Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd, roedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a chôr unedig yn cynnwys aelodau o wahanol gorau, tra yn ymuno gydag Andres Evans ym Mhatagonia roedd aelodau o Gôr Ysgol Gerdd y Gaiman. Felly, fe ymunodd Ysgol Llanllechid yn yr hwyl gyda 200 o ddisgyblion yn canu Calon Lân yn angerddol yn neuadd yr ysgol. I goroni`r cyfan, canodd Tybed allwn ni hawlio rhan o'r record byd newydd?!
Diwrnod Gwyllt a Gwallgo – Crafangau a Chynffonau
Fel y gwyddoch,mae dosbarth Mrs Marian Jones, fel rhan o`u gwaith thema, wedi bod yn astudio`r eliffant â`r disgyblion ar bigau`r drain eisiau tynnu sylw pawb at y creulondeb tuag at yr eliffantod, druan. Penderfynwyd ar ffordd ymlaen drwy gyd-weithio hefo`r Cyngor Ysgol a chynhaliwd diwrnod Gwyllt a Gwallgo gan gefnogi achos ac ymgyrch WWF. O ganlyniad, daeth pawb i`r ysgol yn edrych fel anifail gwyllt ar ddydd Gwener ar ddechrau Mehefin! Os ydych yn gallu meddwl am wahnaol anifeiliaid gwyllt, gallaf eich sicrhau eu bod yn Ysgol Llanllechid y diwrnod hwnnw! Diolch i Ms Nicola, Ms Sara, Mr Tomos ac i Fiona Sherlock am fod mor garedig a gadael i ni gael `benthyg!’ ei phaent pwrpasol ac am roi o`i hamser i`n cynorthywo i beintio wynebau`r disgyblion.
Yn ystod y prynhawn, rhwng cawodydd, aeth y plant i Sgwar Rachub i dynnu sylw`r trigolion tuag at y creulondeb hwn sy`n digwydd ym myd yr eliffant. Roedd hwn yn gyfle euraidd i`r plant gael cario eu baneri a dangos eu posteri trawiadol wrth fynegi eu hanfodlonrwydd. Cerddodd y disgyblion yn eu gwisgoedd, drwy`r strydoedd yn llafarganu ac yn taro eu hofferynnau er mwyn sicrhau fod pawb yn clywed ac yn deall eu neges. Diolch i aelodau o`r cyhoedd a wrandawodd ac a gyfranodd tuag at yr achos da hwn. Mae`r ffilm a grewyd yn werth ei gweld! Cliciwch yma i weld y lluniau (dod yn fuan)
Cydymdeimlo â Mrs Lyn Ellis
Cydymdeimlwn â Mrs Lyn ar ei phrofedigaeth lem o golli ei mam yn ddiweddar. Anfonwn ein cofion cynnes atoch fel ysgol ar adeg anodd i chi fel teulu.
Cofion
Anfonwn ein cofion hefyd at Ms Rhian Haf, a dymunwn wellhad llwyr a buan i chi.
Dymuniadau gorau
Dymuniadau gorau i Ms Medi Davies yn ei swydd newydd a phob lwc i`r dyfodol.
Llongyfarchiadau!
Llongyfarchiadau i Ithel Temple Morris ar ei gamp yn ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym maes Celf a Chrefft. Llongyfarchiadau i ti ar dy gampwaith, Ithel. Ar y llwyfan, rhaid i ni longyfarch Efa Glain ar ennill y wobr gytntaf ar yr unawd cerdd dant. Da iawn ti Efa a phob lwc i ti yng Nghaerffili! Daeth ein parti unsain a`r gerddorfa yn drydydd yn yr Eisteddfod Sir.
Diolch
Diolch i Mr Brynmor Jones am helpu`r disgyblion i arddio. Mae gerddi`r Cyfnod Sylfaen yn edrych yn fendigedig rwan. Diolch yn fawr.
Planhigion a mwy o blanhigion!
Aeth rhai o ddigyblion y Cyfnod Sylfaen gyda Mrs Marian Jones i Ganolfan Moelyci i ddysgu mwy am blanhigion. Cafwyd croeso gwerth chweil a chafwyd cyfle euraidd i ddatblygu sgiliau plannu a chwynnu! Hefyd, yn ystod y bore, cafwyd cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai creadigol ar y thema tyfu, lle cafodd pob un gyfle i wrando ar gerddoriaeth, peintio murluniau, creu dawnsfeydd ac ymlwybro drwy`r caeau gan arsylwi a labelu cant a mil o bethau diddorol. Yna, ar ôl eu picnic, aeth y dosbarth draw i Dreborth i Erddi Botaneg y Brifysgol lle cawsant weld planhigion rhyfeddol sy’n bwyta pryfed! Bu pob un yn syllu ar y Gwybedfagl enwog, gan ryfeddu ato`n cau am y morgrug! Roedd y cactus anferth â`r coed bananas hefyd yn ffefrynnau gan bawb.
Cyngor Ysgol
Mae aelodau o’r Cyngor Ysgol wedi llwyddo i gael grant o £500 ar gyfer creu a datblygu ein gerddi. Diolch i Mr Ben Stammers a’i gydweithwyr am helpu’r disgyblion i blannu pob math o flodau a phlanhigion. Yn wir, mae hyn wedi harddu tu allan i’r ysgol ac mae’n bleser cerdded i fyny at y brif fynedfa drwy’r enfys o liwiau! Diolch i Mr Huw Edward Jones am gydgordio`r cyfan.
Becws Cae Groes a Phost Rachub
Cafodd dosbarth Mrs Rona Williams brynhawn anturus yn crwydro’r ardal leol. Aethant i‘r Becws yng Nghae’r Groes at Mr a Mrs Gwyn Williams, lle cawsant weld y cacennau cri yn cael eu crasu. Ar ôl y crasu a’r blasu, aethant draw i Siop y Post yn Rachub at Mr a Mrs Scott i brynu stampiau a phostio llythyrau. Diolch i drigolion yr ardal am eu croeso wrth i ni fynd allan ar ein teithiau cerdded yn ein siacedi llachar o amgylch yr ardal.
Glanllyn
Aeth criw mentrus ac anturus o flwyddyn 5, unwaith eto i Glanllyn i fwynhau tridiau o weithgareddau awyr agored ger Llyn Tegid. Cawsant brofiadau bythgofiadwy, gan gynnwys, ceufadu, adeiladu rafft, y cwrs rhaffau, cyfeiriannu a chanwio. Bws tawel iawn oedd yn dychwelyd i Blas Ffrancon ar y prynhawn dydd Gwener! Diolchwn i’r aelodau staff, sef Mr Huw Edward Jones, Ms Sara a Ms Nicola am eu gofal o`r disgyblion yn ystod yr ymweliad.
Y criw yn profi fod eu rafft wedi llwyddo i arnofio! Cliciwch yma i weld y lluniau
Ras am Fywyd
Roeddem yn falch iawn o gael cefnogi dwy o’n cyn ddisgyblion sydd bellach yn Ysgol Dyffryn Ogwen sef, Mia Richards ac Ella Baker. Roedd y ddwy wedi trefnu ‘Ras am Fywyd’ i holl ysgolion y dalgylch, gan godi arian tuag at elusen cancr. Aeth disgyblion blwyddyn 5 a 6 i gymryd rhan yn y ras, a braf iawn cael adrodd fod Idwal Temple Morris wedi dod yn fuddudol yn ras y bechgyn, a Mared Morris wedi dod yn drydydd yn ras y genod. Llongyfarchiadau i bawb gymrodd ran, gan helpu i godi arian i achos sydd mor agos at galonnau pob yr un ohonom.
Cerdyn Coch i Hiliaeth
Cafodd blwyddyn 5 fore difyr dros ben yng nghwmni Noam Devey yn trafod hiliaeth, yn gysylltiedig â’r ymgyrch ‘dangoswch gerdyn coch i hiliaeth’. Roedd Noam yn trafod yr anhegwch sydd wedi digwydd i garfannau penodol o bobl yn y gorffennol gan helpu’r plant i ddiffinio beth yw hiliaeth mewn gwirionedd. Yn ogystal, roedd yn eu harfogi gyda’r iaith briodol fel eu bod â`r sgiliau i ymateb i sefyllfaeodd real a all godi, yn anffodus, o bryd i`w gilydd, heddiw. Diolch yn fawr iddo am ymdrin â mater mor sensitif mewn modd mor ddiddorol i’r plant. A chofiwch bob amser: `Dangoswch Gerdyn Coch i Hiliaeth!’
Cerddorfa
Fel rhan o`n cwricwlwm Cerddoriaeth, aeth dosbarth Mrs Parry Owen i`r Gadeirlan ym Mangor i gyngerdd arbennig iawn – Chamberfest - i ddathlu cerddoriaeth Johann Sebestian Bach. Diddanwyd disgyblion y Cyfnod Sylfaen gan Ensemble Cymru a fu chwarae darnau enwog a chantata gan Bach a dysgwyd Jesu, Joy of Man`s Desiring a chafwyd cyfle i`w chyd-ganu gyda Chôr Siambr y Brifysgol ar ddiwedd y bore. Llwyddodd y dosbarth i ennill CD o gerddoriaeth Pedr a`r Blaidd.
Gweithdy Golau – Jack Simone
Diolch i dad Jack Simone – cafodd Bl 3 amser gwerth chweil yn Neuadd Ogwen yn cymryd rhan mewn gweithdy golau. Tywyllwyd yr holl le a llwyddwyd i greu patrymau gyda thortsus oedd yn gelfyddyd ynddo`i hun. Diolch i Mr Simone ac i bob rhiant sy`n fodlon ein cynorthwyo fel hyn.
Eliffantod
Mae dosbarth Mrs Marian Jones wedi bod yn astudio eliffantod, ac am greaduriaid diddorol i`w hastudio. Maent wedi bod yn ymchwilio ac yn gwybod fod yr eliffanfod yn byw hyd nes eu bod yn 70 neu hŷn; mai`r mamoth blewog oedd eu hen deidiau; mae`r ysguthrau wedi eu gwneud o ifori, ac mae ganddynt bedwar dant ac mae un yr un maint â bricsen! Mae eliffantod yn gallu nofio, crio, chwarae a chwerthin ac mae ganddynt gôf anhygoel! Maent yn garedig iawn gyda`u teuluoedd a`u ffrindiau ac maent yn helpu anifeiliaid sydd yn sâl. Ond, wyddoch chi fod tua cant o eliffantod yn cael eu lladd yn ddyddiol. Ffaith gwbwl anghredadwy. Mae`r dosbarth am ddechrau ymgyrch arbennig i gynorthwyo i achub yr eliffantod ac mae gwaith diddorol dros ben ar droed! Mwy i ddilyn yn y rhifyn nesaf!
Gwobr Addysg Byd a Dinasyddiaeth Fyd Eang
Mae pob math o weithgareddau diddordol ar droed wrth i ni droi ein golygon at yr Inadia. Diolch i Mrs Huws am ei gwaith caled yn arwain ac yn casglu`r holl dystiolaeth ynghyd ar gyfer yr achrediad.
Traws Gwlad y Faenol
Bu dros fil o ddisgyblion ysgolion cynradd yr ardaloedd hyn yn cymryd rhan yn y ras draws gwlad. Roedd o ddisgyblion o`n hysgol ni yn cymryd rhan. Llongyfarchiadau a da iawn chi, pob un ohonoch.
Noswaith o Ddawns
Aeth criw o ddisgyblion blwyddyn 6 i’r Galeri yng Nghaernarfon i gymryd rhan yn y ‘Noswaith o Ddawns’ – noson o ddawnsfeydd amrywiol gan ddisgyblion cynradd ac uwchradd y sir. Perfformiodd ein criw y ddawns ddisgo yn egniol, creadigol a llawn bwrlwm. Diolch yn fawr iawn i Miss Nicola a Miss Sara am eu hyfforddi, i Mr Stephen Jones am ei waith ac i’r rhieni am eu cefnogaeth yn ystod y noson. Llongyfarchiadau i Begw, Boe-Celyn, Esme, Efa, Lauren, Caitlin, Emma, Ila, Lottie a Gemma!
Rygbi’r Urdd
Fe fu tim rygbi yr ysgol yn cystadlu yng nghystadleuaeth rygbi’r sir yn ddiweddar ar gaeau Clwb Rygbi Caernarfon. Llwyddodd y tim i gyrraedd y rownd gyn derfynol gan gystadlu’n frwdfrydig. Llongyfarchiadau i Boe Celyn, Erin Harney, Begw, Gethin Saynor, Jac Griffiths, Harry, Elis, Louis a Joseph. Diolch yn fawr i’r rhieni am eu cefnogaeth ar y noson
.
Bingo Pasg
Llawer o ddiolch i`n Cyfeillion am drefnu`r Bingo unwaith yn rhagor.Cafwyd noson i`w chofio! Diolch arbennig i mr derek Griffiths am alw`r rhifau mewn ffordd hwyliog ac i bawb a gyfrannodd wyau Pasg a gwobrau i`r raffl. Gwanethpwyd elw o £400. Diolchir hefyd i Mr a Mrs Diwlyn Owen a Mrs Jean Hughes am eu cymorth parod dros yr holl flynyddoedd.
Tyrd am dro Co`
Am braf oedd cael crwydro o amgylch Caernarfon a chymharu Rachub a Chaernarfon fel rhan o`n gwaith Daearyddol. Dyna fu hanes dosbarth Mrs Bethan Jones yn ddiweddar!
Plas Menai
Bu disgyblion Blwyddyn 4 ym Mhlas Menai yn mwynhau gweithgareddau amrywiol gyda Mr Stephen Jones. Cafwyd diwrnod anturus lle roedd y digyblion yn dilyn llwybrau ac yn ateb cwestiynau rhifedd penodol a oedd yn hogi eu sgiliau rhesymu a datrys problemau yn yr awyr agored.
Archifdy
Cafodd dosbarthiadau Mr HE Jones a Mr S Jones gyflwyniadau gan Gwena Williams ar oes y Tuduriaid.
Diwrnod Trwynau Coch
Cafwyd sbort a sbri ar ddiwrnod Trwynau Coch a llwyddwyd i godi £206.61 tuag at yr achos da hwn.
Brechdanau Wy a Berw`r Dŵr
Bu disgyblion y Dosbarth Meithrin yn hynod brysur yn berwi wyau ac yn paratoi brechdanau blasus – ŵy a berw`r dŵr – digon i dynnu dwr o`r dannedd!
Cyfrinach Porthamel
Wyddoch chi beth? Mae yna goedwig fach yn cuddio ar lannau`r Fenai, ac mae`n gyfrinach! Doedd neb ohonom yn gwybod am fodolaeth y goedwig fach yma, hyd nes y daeth Mr Ben Stammers, tad Mabon, yma i`n goleuo! A`r hyn sy`n rhyfeddod yw, mai yn y goedwig fach yma mae`r tlywyth teg a`r wiwerod coch yn byw! Roedd Mrs Bethan Jones a`i dosbarth wedi dotio at y lle, a threuliwyd diwrnod cyfan yng nghanol heulwen mis Ebrill yn synnu a rhyfeddu at y gwahanol gynefinoedd a`r cuddfannau, ac at yr anifeiliad bach sy`n byw nepell oddi wrthym, yn ddistaw bach. Dysgwyd llawer ac mae`n deg dweud fod amryw ohonom erbyn hyn wedi mynd draw am dro i Borthamel i weld y rhyfeddodau!
Dosbarth Derbyn
Mae aelodau o`r dosbarth Derbyn wrth eu boddau yn mynd i`r sesiynau chwaraeon wythnosol ym Mhlas Ffrancon y dyddiau hyn!
Cylchlythyr T. Llew Jones Mai 2015 - cliciwch yma
Eisiau siarad Cymraeg adref efo'ch plant ond ddim yn gwybod lle i ddechrau? - cliciwch yma
Cydymdeimlo
Anfonwn ein cofion a’n cydymdeimlad at deulu Dora a fu’n ddisgybl yn Ysgol Llanllechid. Bu farw Dora yn ddiweddar ac rydym wedi cysylltu â’r teulu i’w cefnogi yn ystod yr amser trist yma. Mae gwefan wedi ei sefydlu er côf am Dora o’r enw www.dorarainbow.com.
Caitlin yn rhyfeddu at weld yr eclipse drwy wydr tywyll diogel, cyn mynd ati i wneud camera twll pin a’i weld ben i waered.
Daeth y disgyblion ag atgofion teuluol ac arteffactau yn fyw i’r dosbarth yn eu cyflwyniadau am yr Ail Ryfel Byd. Dyma Lauren yn son am hanes hynod perthynas dewr iddi.
Yr Ysgol yn Arwain
Gwahoddwyd Ysgol Llanllechid i gynhadledd genedlaethol yng Nghanolfan y Mileniwm, er mwyn cyflwyno gwaith cydraddoldeb y disgyblion a strwythurau cefnogol yr ysgol. Cafwyd ymateb gwresog i gyflwyniad Llanllechid gyda Chyfarwyddwraig Cyngor Hil Cymru, Uzo Iwobi yn canmol yr ysgol am “ddatblygu dinasyddion cyflawn sydd â dealltwriaeth o bwysigrwydd gweithio ag eraill.”
Cafwyd Taj Mahal hyfryd yn rhodd o’n hysgol bartner yn India wedi iddynt glywed fod Bl 4& 5 yn astudio Saith o Ryfeddodau’r Byd. Rhyfeddod yn wir yn ei fawredd gwyn ond cofiwn hefyd un o ryfeddodau mwy diweddar y byd sef y we, sy’n ein caniatáu i gyfathrebu efo’n ffrindiau yn India.
Dymuniadau gorau
Dymuniadau gorau i Ms Medi Davies yn ei swydd newydd a phob lwc i`r dyfodol.
Diolch
Diolch i Mr Brynmor Jones am helpu`r disgyblion i arddio. Mae gerddi`r Cyfnod Sylfaen yn edrych yn fendigedig rwan. Diolch yn fawr.
Cyngor Ysgol
Mae aelodau o’r Cyngor Ysgol wedi llwyddo i gael grant o £500 ar gyfer creu a datblygu ein gerddi. Diolch i Mr Ben Stammers a’i gydweithwyr am helpu’r disgyblion i blannu pob math o flodau a phlanhigion. Yn wir, mae hyn wedi harddu tu allan i’r ysgol ac mae’n bleser cerdded i fyny at y brif fynedfa drwy’r enfys o liwiau! Diolch i Mr Huw Edward Jones am gydgordio`r cyfan.
Becws Cae Groes a Phost Rachub
Cafodd dosbarth Mrs Rona Williams brynhawn anturus yn crwydro’r ardal leol. Aethant i‘r Becws yng Nghae’r Groes at Mr a Mrs Gwyn Williams, lle cawsant weld y cacennau cri yn cael eu crasu. Ar ôl y crasu a’r blasu, aethant draw i Siop y Post yn Rachub at Mr a Mrs Scott i brynu stampiau a phostio llythyrau. Diolch i drigolion yr ardal am eu croeso wrth i ni fynd allan ar ein teithiau cerdded yn ein siacedi llachar o amgylch yr ardal.
Glanllyn
Aeth criw mentrus ac anturus o flwyddyn 5, unwaith eto i Glanllyn i fwynhau tridiau o weithgareddau awyr agored ger Llyn Tegid. Cawsant brofiadau bythgofiadwy, gan gynnwys, ceufadu, adeiladu rafft, y cwrs rhaffau, cyfeiriannu a chanwio. Bws tawel iawn oedd yn dychwelyd i Blas Ffrancon ar y prynhawn dydd Gwener! Diolchwn i’r aelodau staff, sef Mr Huw Edward Jones, Ms Sara a Ms Nicola am eu gofal o`r disgyblion yn ystod yr ymweliad.
Y criw yn profi fod eu rafft wedi llwyddo i arnofio!
Ras am Fywyd
Roeddem yn falch iawn o gael cefnogi dwy o’n cyn ddisgyblion sydd bellach yn Ysgol Dyffryn Ogwen sef, Mia Richards ac Ella Baker. Roedd y ddwy wedi trefnu ‘Ras am Fywyd’ i holl ysgolion y dalgylch, gan godi arian tuag at elusen cancr. Aeth disgyblion blwyddyn 5 a 6 i gymryd rhan yn y ras, a braf iawn cael adrodd fod Idwal Temple Morris wedi dod yn fuddudol yn ras y bechgyn, a Mared Morris wedi dod yn drydydd yn ras y genod. Llongyfarchiadau i bawb gymrodd ran, gan helpu i godi arian i achos sydd mor agos at galonnau pob yr un ohonom.
Cerdyn Coch i Hiliaeth
Cafodd blwyddyn 5 fore difyr dros ben yng nghwmni Noam Devey yn trafod hiliaeth, yn gysylltiedig â’r ymgyrch ‘dangoswch gerdyn coch i hiliaeth’. Roedd Noam yn trafod yr anhegwch sydd wedi digwydd i garfannau penodol o bobl yn y gorffennol gan helpu’r plant i ddiffinio beth yw hiliaeth mewn gwirionedd. Yn ogystal, roedd yn eu harfogi gyda’r iaith briodol fel eu bod â`r sgiliau i ymateb i sefyllfaeodd real a all godi, yn anffodus, o bryd i`w gilydd, heddiw. Diolch yn fawr iddo am ymdrin â mater mor sensitif mewn modd mor ddiddorol i’r plant. A chofiwch bob amser: `Dangoswch Gerdyn Coch i Hiliaeth!’
Eliffantod
Mae dosbarth Mrs Marian Jones wedi bod yn astudio eliffantod, ac am greaduriaid diddorol i`w hastudio. Maent wedi bod yn ymchwilio ac yn gwybod fod yr eliffanfod yn byw hyd nes eu bod yn 70 neu hŷn; mai`r mamoth blewog oedd eu hen deidiau; mae`r ysguthrau wedi eu gwneud o ifori, ac mae ganddynt bedwar dant ac mae un yr un maint â bricsen! Mae eliffantod yn gallu nofio, crio, chwarae a chwerthin ac mae ganddynt gôf anhygoel! Maent yn garedig iawn gyda`u teuluoedd a`u ffrindiau ac maent yn helpu anifeiliaid sydd yn sâl. Ond, wyddoch chi fod tua cant o eliffantod yn cael eu lladd yn ddyddiol. Ffaith gwbwl anghredadwy. Mae`r dosbarth am ddechrau ymgyrch arbennig i gynorthwyo i achub yr eliffantod ac mae gwaith diddorol dros ben ar droed! Mwy i ddilyn yn y rhifyn nesaf!
Gwobr Addysg Byd a Dinasyddiaeth Fyd Eang
Mae pob math o weithgareddau diddordol ar droed wrth i ni droi ein golygon at yr Inadia. Diolch i Mrs Huws am ei gwaith caled yn arwain ac yn casglu`r holl dystiolaeth ynghyd ar gyfer yr achrediad.
Traws Gwlad y Faenol
Bu dros fil o ddisgyblion ysgolion cynradd yr ardaloedd hyn yn cymryd rhan yn y ras draws gwlad. Roedd o ddisgyblion o`n hysgol ni yn cymryd rhan. Llongyfarchiadau a da iawn chi, pob un ohonoch.
Rygbi’r Urdd
Fe fu tim rygbi yr ysgol yn cystadlu yng nghystadleuaeth rygbi’r sir yn ddiweddar ar gaeau Clwb Rygbi Caernarfon. Llwyddodd y tim i gyrraedd y rownd gyn derfynol gan gystadlu’n frwdfrydig. Llongyfarchiadau i Boe Celyn, Erin Harney, Begw, Gethin Saynor, Jac Griffiths, Harry, Elis, Louis a Joseph. Diolch yn fawr i’r rhieni am eu cefnogaeth ar y noson.
Brechdanau Wy a Berw`r Dŵr
Bu disgyblion y Dosbarth Meithrin yn hynod brysur yn berwi wyau ac yn paratoi brechdanau blasus – ŵy a berw`r dŵr – digon i dynnu dwr o`r dannedd!
Cyfrinach Porthamel
Wyddoch chi beth? Mae yna goedwig fach yn cuddio ar lannau`r Fenai, ac mae`n gyfrinach! Doedd neb ohonom yn gwybod am fodolaeth y goedwig fach yma, hyd nes y daeth Mr Ben Stammers, tad Mabon, yma i`n goleuo! A`r hyn sy`n rhyfeddod yw, mai yn y goedwig fach yma mae`r tlywyth teg a`r wiwerod coch yn byw! Roedd Mrs Bethan Jones a`i dosbarth wedi dotio at y lle, a threuliwyd diwrnod cyfan yng nghanol heulwen mis Ebrill yn synnu a rhyfeddu at y gwahanol gynefinoedd a`r cuddfannau, ac at yr anifeiliad bach sy`n byw nepell oddi wrthym, yn ddistaw bach. Dysgwyd llawer ac mae`n deg dweud fod amryw ohonom erbyn hyn wedi mynd draw am dro i Borthamel i weld y rhyfeddodau!
Dosbarth Derbyn
Mae aelodau o`r dosbarth Derbyn wrth eu boddau yn mynd i`r sesiynau chwaraeon wythnosol ym Mhlas Ffrancon y dyddiau hyn!
Sioe Harri Tudur
Cafodd disgyblion blynyddoedd 4 a 5 brynhawn bendigedig yn dysgu am hanes y brenin Tuduraidd Harri Tudur a`r cysylltiad a Phenmynydd. Sioe un dyn oedd hon, a Danny Grehan oedd yr actor oedd yn actio'r brenin enwog. Roedd y sioe yn rhan o waith thematig y dosbarth wrth astudio cyfnod y Tuduriaid. Cafodd y plant ymuno yn yr actio a holl fwrlwm y cyflwyniad. Dyma ddull oedd yn sicr yn eu helpu i gofio yr holl hanes!
Cydymdeimlo â Mrs Lyn Ellis
Cydymdeimlwn â Mrs Lyn ar ei phrofedigaeth lem o golli ei mam yn ddiweddar. Anfonwn ein cofion cynnes atoch fel ysgol ar adeg anodd i chi fel teulu.
Cofion
Anfonwn ein cofion hefyd at Ms Rhian Haf, a dymunwn wellhad llwyr a buan i chi.
Bingo Pasg
Llawer o ddiolch i`n Cyfeillion am drefnu`r Bingo unwaith yn rhagor.Cafwyd noson i`w chofio! Diolch arbennig i mr derek Griffiths am alw`r rhifau mewn ffordd hwyliog ac i bawb a gyfrannodd wyau Pasg a gwobrau i`r raffl. Gwanethpwyd elw o £400. Diolchir hefyd i Mr a Mrs Diwlyn Owen a Mrs Jean Hughes am eu cymorth parod dros yr holl flynyddoedd.
Plas Menai
Bu disgyblion Blwyddyn 4 ym Mhlas Menai yn mwynhau gweithgareddau amrywiol gyda Mr Stephen Jones. Cafwyd diwrnod anturus lle roedd y digyblion yn dilyn llwybrau ac yn ateb cwestiynau rhifedd penodol a oedd yn hogi eu sgiliau rhesymu a datrys problemau yn yr awyr agored.
Diwrnod Trwynau Coch
Cafwyd sbort a sbri ar ddiwrnod Trwynau Coch a llwyddwyd i godi £206.61 tuag at yr achos da hwn.
Gweithdy Golau – Jack Simone
Diolch i dad Jack Simone – cafodd Bl 3 amser gwerth chweil yn Neuadd Ogwen yn cymryd rhan mewn gweithdy golau. Tywyllwyd yr holl le a llwyddwyd i greu patrymau gyda thortsus oedd yn gelfyddyd ynddo`i hun. Diolch i Mr Simone ac i bob rhiant sy`n fodlon ein cynorthwyo fel hyn.
Archifdy
Cafodd dosbarthiadau Mr HE Jones a Mr S Jones gyflwyniadau gan Gwena Williams ar oes y Tuduriaid.
Planhigion a mwy o blanhigion!
Aeth rhai o ddigyblion y Cyfnod Sylfaen gyda Mrs Marian Jones i Ganolfan Moelyci i ddysgu mwy am blanhigion. Cafwyd croeso gwerth chweil a chafwyd cyfle euraidd i ddatblygu sgiliau plannu a chwynnu! Hefyd, yn ystod y bore, cafwyd cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai creadigol ar y thema tyfu, lle cafodd pob un gyfle i wrando ar gerddoriaeth, peintio murluniau, creu dawnsfeydd ac ymlwybro drwy`r caeau gan arsylwi a labelu cant a mil o bethau diddorol. Yna, ar ôl eu picnic, aeth y dosbarth draw i Dreborth i Erddi Botaneg y Brifysgol lle cawsant weld planhigion rhyfeddol sy’n bwyta pryfed! Bu pob un yn syllu ar y Gwybedfagl enwog, gan ryfeddu ato`n cau am y morgrug! Roedd y cactus anferth â`r coed bananas hefyd yn ffefrynnau gan bawb.
Llongyfarchiadau!
Llongyfarchiadau i Ithel Temple Morris ar ei gamp yn ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym maes Celf a Chrefft. Llongyfarchiadau i ti ar dy gampwaith, Ithel. Ar y llwyfan, rhaid i ni longyfarch Efa Glain ar ennill y wobr gytntaf ar yr unawd cerdd dant. Da iawn ti Efa a phob lwc i ti yng Nghaerffili! Daeth ein parti unsain a`r gerddorfa yn drydydd yn yr Eisteddfod Sir.
Cerddorfa
Fel rhan o`n cwricwlwm Cerddoriaeth, aeth dosbarth Mrs Parry Owen i`r Gadeirlan ym Mangor i gyngerdd arbennig iawn – Chamberfest - i ddathlu cerddoriaeth Johann Sebestian Bach. Diddanwyd disgyblion y Cyfnod Sylfaen gan Ensemble Cymru a fu chwarae darnau enwog a chantata gan Bach a dysgwyd Jesu, Joy of Man`s Desiring a chafwyd cyfle i`w chyd-ganu gyda Chôr Siambr y Brifysgol ar ddiwedd y bore. Llwyddodd y dosbarth i ennill CD o gerddoriaeth Pedr a`r Blaidd.
Noswaith o Ddawns
Aeth criw o ddisgyblion blwyddyn 6 i’r Galeri yng Nghaernarfon i gymryd rhan yn y ‘Noswaith o Ddawns’ – noson o ddawnsfeydd amrywiol gan ddisgyblion cynradd ac uwchradd y sir. Perfformiodd ein criw y ddawns ddisgo yn egniol, creadigol a llawn bwrlwm. Diolch yn fawr iawn i Miss Nicola a Miss Sara am eu hyfforddi, i Mr Stephen Jones am ei waith ac i’r rhieni am eu cefnogaeth yn ystod y noson. Llongyfarchiadau i Begw, Boe-Celyn, Esme, Efa, Lauren, Caitlin, Emma, Ila, Lottie a Gemma!
Tyrd am dro Co`
Am braf oedd cael crwydro o amgylch Caernarfon a chymharu Rachub a Chaernarfon fel rhan o`n gwaith Daearyddol. Dyna fu hanes dosbarth Mrs Bethan Jones yn ddiweddar!
Penblwydd Hapus
Penblwydd Hapus i Mrs Bethan Jones! Gobeithio i chi fwynhau eich penblwydd arbennig!
Eisteddfod Cylch yr Urdd
Diolch o galon i’r holl blant, staff a rhieni am fod mor barod i ddod i Eisteddfod yr Urdd. Unwaith eto, daeth ein disgyblion a chlod aruthrol i’r ysgol a llongyfarchwn pob un ohonynt – boed eu perfformiad yn y rhagbrofion neu ar y llwyfan. Da iawn chi blantos! Diolch yn fawr iawn hefyd i bawb a’u hyfforddodd i safon mor uchel a diolch i Ysgol Tregarth am eu gwaith da yn trefnu`r cyfan.
Unawd Bl 2 ac iau |
3ydd - Mari Watcyn Roberts |
Unawd Bl 3 a 4 |
1af – Efa Glain Jones |
Parti Unsain Bl 6 ac iau |
1af – Parti Ellie |
Côr Bl 6 ac iau |
2ail – Cor Aron Bale |
Unawd Llinynnol Bl 6 ac iau |
2ail – Begw Evans |
Unawd Pres Bl 6 ac iau |
2il – Cerys Elen |
Ensemble Offerynnol Bl 6 ac iau |
3ydd – Parti Mari Fflur |
Cerddorfa/Band Bl 6 ac iau |
1af - Parti Ellie |
Unawd Cerdd Dant Bl 3 a 4 |
1af – Efa Glain Jones |
Llefaru Unigol Bl 2 ac iau |
2ail – Seren Roberts |
Llefaru Unigol Bl 3 a 4 |
3ydd – Madeleine Sinfield |
Ymgom Bl 6 ac iau |
1af – Parti Begw Angharad |
Canlyniadau Celf a Chrefft yr Urdd:
Gwaith Lluniadu 2D Bl.2 ac iau/ 2d Artwork |
2il – Leusa Morris |
Gwaith Creadigol 2D Bl 3 a 4/Creative 2D |
3ydd – Elsie Owen |
Gwaith Creadigol 2D Bl 5 a 6/ Creative 2D |
2il – Ithel Temple Morris |
Gwaith Creadigol 3D BL. 3 a 4/ Creative 3D |
2il – Idris Temple Morris |
Gwaith Creadigol 3D Bl 6 ac iau A.A/Creative 3D |
1af – Ithel Temple Morris |
Argraffu Bl 3 a 4/ Printing |
3ydd – Elan Rees |
Graffeg Cyfrifadurol Bl 2 ac iau/ Computer Graphics |
3ydd – Ffion Tipton |
Agraffu/ Addurno ar fabrig 5/6/ Printing on fabrics |
3ydd- Idwal Temple Morris |
Argraffu/ Addurno ar ffabrig Bl 3 a 4/ Printing on fabrics |
1af – Idris Temple Morris |
Gwaith Creadigol 3D Tecstiliau Bl 5 a 6/Creative Textiles 3D |
1af – Efa Lois Burgess |
Print Monocrom BL 2 ac iau/Monochrome print |
1af – Joe Pole |
Print Lliw Bl 2 ac iau/Colour print |
1af – Leusa Morris |
Cyfres o brintiau lliwBl 2 ac iau/ Set of colour print |
1af – Joe Pole |
Gemwaith Bl 3 a 4// Jewellery |
2il – Idris Temple Morris |
Gemwaith Bl 5 a 6/ Jewellery |
3ydd – Ithel Temple Morris |
Dawnsio Disgo
Llongyfarchiadau i`r Grwp Dawnsio Disgo ar ddod yn ail yn y Steddfod Symudol a diolch o galon i Ms Nicola a Ms Sara am eu hyfforddi.
Antur Awyr Agored
A ninnau’n astudio’r Ail Ryfel Byd, doedd dim modd gwell i werthfawrogi dycnwch ein milwyr Cymreig na mentro i Blas Menai ar ddechrau Mis Mawrth am gyffro ar y dŵr. Bu Bl6 yn fentrus a deheuig iawn wrth rwyfo’u canwiau yn erbyn llif y Fenai gyda gwynt yn chwipio’r tonnau i gyfeiriad arall. Cafwyd canmoliaeth uchel o ddewrder a brwdfrydedd y disgyblion gan yr hyfforddwr a ategwyd gan ddiolchiadau twymgalon y disgyblion.
Galeri Llanllechid
Bu’n anrhydedd cael agor galeri o waith Bl6 yn Ysgol Llanllechid, wrth i deuluoedd a’r gymuned fentro draw i edmygu’r gwaith ac yn wir i greu campweithiau eu hunain. Ysbrydolwyd y disgyblion gan artistiaid lu o Gymru a thramor ac roedd eu gwaith yn ddigon o ryfeddod, gan gynnwys lanterni Tsieineaidd a baentiwyd i ddathlu Blwyddyn Newydd y Ddafad. I gyd-fynd â’r Galeri cynhaliwyd Caffi Masnach Deg ac roedd y ffrwythau, gyda`r labeli arbennig, yn flasus dros ben.
Anwen Burgess
Bendithiwyd Ysgol Llanllechid gan rieni talentog iawn ac yn eu plith yr artist Anwen Burgess a ddaeth i rannu ei doniau gyda Bl6. Roedd y disgyblion wedi gwefreiddio wrth wylio a gwrando, gan ddotio at eu llwyddiant yn portreadu, ar ôl yr arweiniad a gawsant ganddi. Diolch yn fawr i Anwen Burgess ar ran y dosbarth i gyd.
Hanes Rachub Ers Talwm
Wel, dyna sbort a gawsom yng nghwmni Mrs Helen Williams, Mrs Gwenda Jones a Mrs Vera Parry. Pleser pur oedd gwarndo arnynt yn dwyn i gôf eu hen atgofion am y fro. Cawsom fwyniant pur yn eu cwmni, a dysgu pob math o bethau, gan gynnwys sut i ddawnsio`r foxtrot a`r waltz! Diolch i Mrs Marian Jones am drefnu, ac i Mrs Wendy Jones a Ms Leanne am ddarparu`r baned orau erioed ar ddiwedd y prynhawn!
Taith o amgylch Rachub
Cafodd Dosbarth Blwyddyn 3 fynd ar daith gyda Mrs Bethan Jones o gwmpas y pentref a chael eu tywys gan Mrs Helen Williams sy`n gwybod am bob twll a chornel yn Rachub. Roedd Mrs Williams yn gallu dangos i’r plant ble ‘roedd siop Madam Chips a neuadd John ‘P’, - ble roedd llawer o bobol yn mynd i ddawnsio a chael benthyca gwisgoedd ar gyfer actio mewn dramau. Diolch i Mrs Williams am yr holl wybodaeth am hanes Rachub! Mae`n plant ni wedi cael cyfoeth yn eich cwmni.
Llyfrgell
Mae criw o fechgyn Bl 6 yn mwynhau bod yn rhan o brosiect darllen Uwch Gynghrair Darllen. Cawsant hwyl yn mynd i lyfrgell Bethesda, yn ogystal a darllen amrywiaeth o lyfrau, cylchgronnau ac erthyglau am beldroed.
Partneriaeth Ogwen
Bu`r disgyblion canlynol yn cymryd rhan yn y cyngerdd Gwyl Ddewi, a gynhaliwyd yn Neuadd Ogwen Mari Watcyn, Seren a Ffion Tipton .Da iawn chi.
Dydd Gwyl Dewi
Cafwyd gwledd o liwiau gwyrdd, coch a gwyn yn neuadd ein hysgol ar ddechrau Mawrth pan gafodd pob un o`n disgyblion y cyfle i gymryd rhan yn eon cyflwyniadau Gwyl Ddewi. Roedd pob copa walltog ar ei orau, a sain ystod eang o farddoniaethyn cael ei adrodd ar gôf gan bob dosbarth yn ei dro, megis Y lLwynog gan R.Williams Parry, Yr Wylan fach Adnebydd a Hon gan T.H. Parry-Williams. Cawsom Wyl Ddewi i`w gofio a diolchaf i`r holl blant am roi o`u gorau; i chi rieni am fod mor barod i`w cefnogi ac i`r holl staff am eu gwaith caled a diolch i Mr Huw Edward Jones am ei waith di-flino yn cyfeilio i`r cyfan oll.
Gweithy Trydan i`r Cyfnod Sylfaen
Cafodd plant bach y Cyfnod Sylfaen fodd i fyw yn dysgu am drydan mewn gweithdai hynod ddiddorol yn ddiweddar. Roedd pob un yn dangos diddordeb ac yn gwrando`n astud.
Gwobr Aur
Llongyfarchiadau i Mr Stephen Jones a`r Criw Gwyrdd ar ennill Gwobr Aur Ysgolion Gwyrdd Gwynedd a Môn.
KIVA
Mae ein rhaglen gwrth fwlio yn mynd o nerth, o dan arweiniad Mr Huw Edward Jones a bu Elis, Begw, Lauren ac Emma ym Mhrifysgol Bangor gyda Mr Jonesyn yn cyflwyno ac yn dathlu ein llwyddiannau, gan rannu arfer dda i gynulleidfa eang.
Llongyfarchiadau!
Llongyfarchiadau i Ms Lynne Ellis ar ei dyweddiad gyda Mathew Parry.
Yr Hwyaden Fach Hyll!
Aeth holl ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen i Neuadd Ogwen i wylio perfformiad o’r ‘Hwyaden Fach Hyll’. Mor braf oedd y croeso yn Neuadd Ogwen, - gyda gofod arbennig i’r plant gael eistedd yn agos at yr actorion, a chael eu gweld yn canu amrywiol offerynnau cerdd, ac ymateb i’r lliwiau a’r cysgodion ar y waliau oedd yn creu awyrgylch y gwahanol dymhorau. Roedd y stori’n apelio’n fawr, a’r actorion yn hudo’r plant i fyd ffantasi. Roedd pob plentyn wedi ei swyno, ac yn canolbwyntio’n llwyr! Mae’n fendigedig cael cyfle i weld perfformiad fel hyn yn ein neuadd leol. Diolch, Neuadd Ogwen!
Y Celtiaid
Er ei bod hi`n diwrnod rhynllyd, cafodd Bl 3 fodd i fyw mewn gweithdai Celtaidd yn Wrecsam! Y gwir amdani yw, mai nhw oedd y Celtiaid, a chawsant fynd yn ol mewn peiriant amser i fyw a phrofi bywyd fel yr oedd hi yn ystod oes yr hen Geltiaid!
Gweld Celf y Byd
Bu Bl6 yn Lerpwl yn edrych a rhyfeddu at waith celf Ewropeaidd drwy’r oesoedd, yng Ngaleri Walker, yn ogystal â gweld celfyddyd o bob cyfandir yn Amgueddfa`r Byd. Dywedodd Esme: “Roedd yn anhygoel gweld y lluniau hyfryd a chlywed am eu hanes, yn ogystal â dysgu sgiliau darlunio.” Ychwanegodd Emma: “Mwynheais ddarlunio arteffactau hynod oedd wedi eu llunio ar draws y byd ac roedd o`n ddiwrnod i`w gofio!”
Santes Dwynwen
Roedd yr ysgol yn fôr o goch a phinc, swsus yn cael eu chwythu i bob cyfeiriad, a chardiau cywrain cariadus yn cael eu hanfon yn y dirgel! Roedd hwyl fawr yn yr ysgol ar ddiwrnod Santes y Cariadon, a phawb yn mwynhau clywed y chwedl ardderchog yn cael ei hadrodd unwaith eto.
Archarwyr
Cafodd plant dosbarth Mrs Marian Jones ‘Ddiwrnod Archarwyr’ yn ddiweddar, pan oedd pob un wedi gwisgo fel ei hoff archarwr neu gymeriad o stori’r archarwyr. Cafwyd cryn amrywiaeth o Superman i`r Hylc heb son am gymeriadau gwreiddiol Mrs Marian Jones: Pry Cry, Gwibnain, Ceri a Huw, Cen Dau Ben ynghyd a chymeriadau hoffus Llyfr mawr y Plant.
Post Rachub
Aeth plant dosbarth Mrs Marian Jones am dro i’r post yn Rachub, ar ol bod wrthi`n ddygn yn cyfansoddi llythyron er mwyn eu postio i’w rhieni. Cafodd y rhieni syrpreis hyfryd y bore canlynol! Diolch i Mr Ian Scott am ei gymorth parod pob amser.
Anrheg o’r India
Cafwyd syrpreis braf ar y diwrnod cyntaf ar ôl dychwelyd i’r ysgol wrth dderbyn pecyn o’r India. Ynddo roedd sgarffiau gwlân wedi ei gwehyddu’n gyda phatrymau cain fel anrheg o’n hysgol bartner newydd yn India. Mae ein cyfeillion fel ninnau yn byw yn uchel yn y mynyddoedd. Rydym yn dysgu mwy amdanynt bob dydd, yn cysylltu a nhw yn aml a chael holi a dysgu am adeiladau diddorol fel y Taj Mahal.
Te Bach Cymreig
Cafodd plant dosbarth Rona Williams hwyl fawr yn paratoi te bach Cymreig,- llestri gorau, te blasus a phawb wedi bod wrthi`n creu y cacennau cri. Roedd yr arogl yn y dosbarth yn tynnu dwr o`r dannedd!
Parti Pyjamas
Daeth plant y dosbarth Meithrin i`r ysgol yn gwisgo eu dillad nos, gan afael yn sownd yn eu hoff dedi, fel rhan o`u thema. Cafwyd amser bendigedig a llwyddwyd i ddysgu hwiangerddi a chaneuon i suo`r teganau medal i gysgu`n sownd!
Gweriniaeth Siec
Braint oedd croesawu ymwelwyr o Weriniaeth Siec atom i edrych ar arferion da yn ein Cyfnod Sylfaen. Roeddent wedi gwirioni gyda`r holl waith celf a byddwn yn postio bwndel o enghreifftiau i`r Weriniaeth yn fuan er mwyn iddynt gael arddangos ymdrechion plant bach Dyffryn Ogwen mewn Oriel yno.
Llongyfarchiadau!
Llongyfarchiadau i ddisgyblion blwyddyn 3 a Mrs Bethan Jones ar ennill gwobrau anhygoel o hamperi bwydydd iach gan Tesco Caernaerfon. Bu`r disgyblion wrthi`n ddyfal yn creu gwaith Celf ac roeddent wedi gwirioni`n lan pan glywsant mai nhw oedd yn fuddugol! Da iawn chi!
Blwyddyn Newydd Dda!
Blwyddyn Newydd Dda i`r holl ddarllenwyr! Dyma`r plantos wedi creu afalau calennig yn nosbarth Mrs Parry Owen!
Cydymdeimlo
Cydymdeimlwn â theulu Ms Leanne yn eu profedigaeth o golli nain annwyl, Mrs Annie Parry ar ddechrau`r flwyddyn. Derbyniwch ein cydymdeimlad llwyraf fel ysgol.
Yn yr un modd, cydymdeimlwn â Ms Rachel a Ms Medi. Bu farw eu modryb, sef Mrs Bethan Jones cyn y Nadolig. Cofion atoch i gyd fel teulu.
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i ddau o`n cyn-ddisgyblion, sy`n bresennol yn ddisgyblion yn Ysgol Dyffryn Ogwen, ar gael cynnig lle yn Rhydychen; Gwynfor Rowlinson yng Ngholeg yr Iesu a Bethan Hughes ym Merton. Gwych!
Pencampwyr Cystadleuaeth Tesco
Llongyfarchiadau i ddosbarth Mrs Bethan Jones ar ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth hon!
Llwyddiant ym Myd Chwaraeon
Llongyfarchiadau i Emma Hughes are i llwyddiant ym maes criced. Cafodd Emma ei dyfarnu fel y bowliwr gorau yn y tim o dan 12 ym Mangor. Llongyfarchiadau i Ila Clark ar dderbyn ei gwobr efydd mewn gymnasteg a Louis Revilles ar dderbyn gwregys felen mewn bocsio cicio.
Ben Dant
Llongyfarchiadau i Gwen, William, Daniel a Gwion ar ymddangos ar raglen Ben Dant ym mis Rhagfyr.
Clwb yr Henoed
Croesawyd aelodau o Glwb yr Henoed i’r ysgol yn ôl ein harfer, ac unwaith eto cawsant wledd; adloniant gan y plant yn ogystal â lluniaeth Nadoligaidd. Trist yw meddwl am farwolaeth disymwth Mr Twm Morgan, a ganodd unawd, sef carol, i ni yn ystod y bore hwn. Bydd yr atgof hwn yn aros yn ein côf am amser maith. Anfonwn ein cofion annwyl at y teulu yn eu hiraeth o golli gŵr bonheddig arbennig iawn.
Bore Coffi Nadolig
Diolch i bwyllgor y clwb am gael cynnal ein Bore Coffi Nadoligaidd eto yn y Clwb Criced a diolch o galon i`r Pwyllgor Cyfeillion Ysgol Llanllechid am eu gwaith di-flino. Mae eich holl ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi`n fawr. Rhaid canmol Sion Corn am ei ffordd hamddenol gyda`r plant; roedd hi`n fraint clywed y sgyrsiau difyr. Diolch hefyd i chi rieni a ffrindiau`r ysgol am ddod draw i`n cefnogi. Gwnaethpwyd elw o £521.16 i gronfa`r ysgol , sy`n tystio i lwyddiant y bore!
Siwmperi Nadolig
Yn ystod mis Rhagfyr, daeth llawer o`r disgyblion i`r ysgol yn gwisgo siwmperi Nadoligaidd ac anfonwyd cyfraniad i elusen Achub y Plant.
Pili Palas
Ar ddydd Mawrth, Rhagfyr 9fed, cafodd plant y Dosbarth Meithrin fynd ar drip i Bili Palas i gael cwrdd â’r dyn ei hun – Siôn Corn! Cafodd pawb gyfle i ddweud wrtho eu bod wedi bod yn blant bach da. Cawsant hefyd gyfle i gwrdd â rhai o’r anifeiliaid a thrychfilod yn ogystal a chael chwarae yn yr ardal deganau meddal, cyn dychwelyd i’r ysgol yn y bws mawr gwyrdd gyda Mr Derfel Ownes! Trip gwerth chweil, a diolch i staff Pili Palas am y croeso.
Sioe Nadolig y Dosbarth Meithrin a’r Cylch Meithrin
Braf oedd gweld y neuadd yn llawn yn ystod sioe Nadolig y Dosbarth Meithrin a’r Ysgol Feithrin. Cawsant wledd wrth wrando ar y plant ifanc yn perfformio ‘Stori’r Geni’. Roeddent wedi dysgu casgliad da o ganeuon amrywiol ac yn edrych yn ddigon o sioe yn eu gwisgoedd crand. Yn wir, roedd naws y Nadolig yn sicr yn bresennol y bore hwnnw.
Cyngerdd Nadolig y Dosbarth Derbyn
Yn nosbarth Mrs Wilson, yr hyn oedd yn achosi problem oedd fod y seren druan wedi colli ei sglein! A wyddoch chi beth?! Gwaith blinedig y ceirw oedd chwilio`n ddyfal am y sglein ym mhob twll a chornel! Yr hen dylwyth teg, o waelod yr ardd, oedd ar fai. Yn ystod y perfformiad, cafwyd gornest ddawnsio lle`r oedd y tylwyth teg a’r ceirw yn dawnsio yn erbyn ei gilydd, yn union fel yn ‘’Strictly Come Dancing’’. Sion Corn ddaeth i achub y dydd, gyda’i symudiadau anhygoel! Wedi hyn, cafodd pawb Nadolig yn llawn ‘sglein a sbri!
Cyngerdd Nadolig Dosbarthiadau Blynyddoedd 1 a 2
Wedi i Siôn Corn gael ei herwgipio gan griw o bobl Oes y Cerrig, a’i gadw mewn ogof yn Llanddona gyda’r gwrachod a’r pryfed cop, yn ffodus iawn roedd William Ellis Williams yn hedfan ei awyren ar y traeth hwnnw am y tro cyntaf erioed! Gyda chymorth Sian Owen Tŷ’n y Fawnog (a llawer o gymeriadau adnabyddus eraill), llwyddodd William i achub Siôn Corn, ac achub y Nadolig i blant y byd! Roedd y plant yn actio ac yn canu’n werth chweil! Diolch i’r rhieni am eu cymorth gyda’r gwisgoedd.
Pws mewn Bŵts
Aeth disgyblion y Dosbarth Derbyn a Blynyddoedd 1 a 2 i’r Galeri Caernarfon i weld pantomeim ‘Pws Mewn Bwts’. Roedd hi`n sioe ardderchog gyda Martyn Geraint gyda pob un o`r cast ar eu gorau. Braf oedd gweld pob un o’r plant yn chwerthin nes oedd eu hochrau yn brifo!
Pip y Pengwin
Pip y Pengwin – dyna oedd teitl sioe Nadolig yr adran iau eleni, yn dilyn hynt a helynt Pip druan wrth iddo geisio canfod ei ffordd yn ôl at ei ffrindiau yn Antarctica. Ar ôl dioddef casineb y Warden yn Sw Rachub cafodd Pip gymorth gan ei ffrind Sam i ddianc o’r sw. Ym Methesda sylwodd Pip ar y criw rygbi a’r wifren wib, cyn mentro draw i Sbaen i ganol y senoritas a’r matadors. Yn olaf, gyda chymorth Sion Corn fe arweiniodd y sled yn ddiogel i Antarctica lle daeth Pip o hyd i’w deulu. Diolch i’r plant am drio eu gorau glas yn ystod yr ymarferion ac yn enwedig ar noson y cyflwyniad. Cafodd y gynulleidfa wledd yn eu gwylio a diolch yn ogystal i’r rhieni am baratoi gwisgoedd mor fendigedig ac am bob air o gefnogaeth a chanmoliaeth; llawer un yn dweud mai hon oedd y sioe orau eto! Diolch i Mr Alun Llwyd am gael defnyddio Ysgol Dyffryn Ogwen er mwyn i ni gael llwyfanu`r perfformiad.
Panto Patagonia
Braf iawn yw cael cerdded i lawr i Stryd Fawr Bethesda a chael mynd i Neuad Ogwen, i fwynhau sioe. Mae`n adnodd anhygoel i`r Dyffryn ac yn un y byddwn yn sicr yn manteisio llawer arno fel ysgol. Aeth disgyblion yr Adran Iau i Neuadd Ogwen i fwynhau cyflwyniad cwmni Mega o `Patagonia.` Roedd y panto yn un byrlymus ac egniol ac roedd y plant wedi mwynhau anturiaethau’r cymeriadau yn fawr.
Tren Sion Corn
Cafodd y dosbarth Derbyn drip i’w gofio wrth fynd i ymweld â Sion Corn yn Llanberis. Roedd gan Sion Corn sach fawr yn llawn o anrhegion i’r plant da sydd yn y dosbarth.
Sioe Nadolig Cyw
Ar ddiwrnod olaf y tymor aeth y Dosbarth Meithrin i Langefni i wylio sioe ‘Nadolig Llawen Cyw’. Cafodd pob un fodd i fyw yn mwynhau perfformiadau`r mor leidr enwog, Ben Dant, y ferch fach ddireidus Igam Ogam, Tara Tan Toc, Radli Migins o gyfres Llan-ar-Gollen, ac wrth gwrs, eu hoff gymeriad, Cyw ei hun!
Ffilm Affricanaidd
A dyma ni, unwaith yn rhagor, yn bachu ar y cyfle i fynd draw i Neuadd Ogwen..Roedd hi`n brynhawn Gwener rhynllyd ym Mis Rhagfyr pan aeth disgyblion Mrs Bethan Jones yno i wylio ffilm oedd a neges gyfoes iddi. Roedd y ffilm, ‘Khumba,’ yn rhan o Wyl ffilmiau Affricanaidd Cymru, ac yn olrhain hanes sebra o’r un enw. Roedd Khumba druan yn cael ei erlid gan ei gyfoedion ofergoelus oherwydd ei fod yn hanner streipiog. Negeseuon amlwg y ffilm oedd dewrder, gobaith, dathlu a pharchu unigolion sy`n wahanol. Negeseuon pwysig sy`n clymu`n berffaith a`n rhaglenni Addysg Byd.
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2012
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2013
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2014
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2015
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2015
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2016
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2017
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2018
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2019
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2020