Archif Newyddion - 2016
Cylch Meithrin
Bu plant bach y Cylch Meithrin am dro draw i gapel Carmel, lle cawsant groeso mawr gan Mrs Helen Williams.
Cliciwch yma i weld lluniau
Diwrnod Cymru
Dydd Llun nesaf, sef Tachwedd28 trefnwyd ymweliad gan Anni Llŷn (Bardd Plant Cymru) a Tudur Phillips.
Cliciwch yma i weld y llythyr
Eisteddfod Dyffryn Ogwen
Llongyfarchiadau i`r disgyblion ar eu llwyddiannau lu yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen a llongyfarchiadau arbennig i Gruffydd Beech ar ennill y cwpan am y perfformiad gorau drwy`r Eisteddfod yn yr adran llefaru. Diolch i bawb a ddaeth i`r Eisteddfod i gefnogi`r disgyblion, a diolch arbennig i bawb a fu`n brysur yn hyfforddi ac yn cynorthwyo mewn cymaint o wahanol ffyrdd.
Cliciwch yma i weld rhestr o'r canlyniadau
Cliciwch yma i weld lluniau
Mrs Brenda Wyn Jones
Daeth yr awdures Mrs Brenda Wyn Jones, Tregarth draw i sgwrsio gyda disgyblion Mrs Marian Jones yn ddiweddar, a threuliwyd prynhawn tu hwnt o ddifyr yn ei chwmni. Roedd y plant eisiau gwybod yn benodol am hanes y Côr Merched enwog a deithiodd Prydain yng nghyfnod y Streic Fawr yn codi arian i helpu teuluoedd y streicwyr,- a phwy well i ddweud yr hanes wrthynt na Mrs Brenda Wyn Jones! Nain Mrs Jones, sef Mary Ellen Parry, oedd yn arwain y côr, a chafwyd gwybod yr hanes i gyd! Roedd y plant wedi dysgu geiriau cân Gwynfor ap Ifor, ‘Strydoedd Bethesda,’ a ffurfiwyd côr! A wyddoch chi pwy oedd yr arweinydd? Mrs Brenda Wyn Jones siwr iawn, - yn union fel y gwnaeth ei nain! Diolch am brynhawn gwerth chweil!
Strydoedd Bethesda
Wrth gerdded un diwrnod drwy strydoedd Bethesda
Yng nghysgod y creigiau a`r poncydd mor brudd
Fe welais chwarelwr ym machlud ei ddyddiau
Yn cyfri`r gaeafau ar derfyn y dydd.
Ni chedwyd ei enw yn llyfrau`r haneswyr
Wrth lusgo o`r chwarel a`i fywyd ar drai,
Mae`r llwch ar ei `sgyfaint o greigiau`r canrifoedd
A neb eisiau gofyn ar bwy oedd y bai…
Y Pwdin Nadolig!
Oeddech chi`n gwybod fod Pwdin Dolig anferth wedi dod i Fethesda yn y flwyddyn 1901?! Do, bu Blwyddyn 4 yn ymchwilio i hanes y ‘Pwdin ‘Dolig Anferthol’ hwn a ddaeth i`r ardal yn ystod cyfnod y Streic Fawr. Bu llawer o holi a stilio, cyn mynd ati i E-bostio Dr J. E. Hughes er mwyn dysgu mwy am y digwyddiad hanesyddol arbennig. Yna, cafwyd cyfle i chwilota yn yr Archifdy, a darganfod erthygl yn yr Herald Gymraeg yn sôn am y pwdin yn cyrraedd ‘stesion’ Bethesda mewn 27 cist fawr, - a’r cyfan yn pwyso dros dair tunnell! Roedd y pwdin wedi ei bacio’n daclus mewn tuniau o un, dau a thri phwys, - gyda’r cyfarwyddiadau wedi eu cofnodi’n daclus ar bob tun. Rhodd gan gwmni John Hill a’i fab, Ashton under Lyne, oedd y pwdin. Roedd rheolwr eu cwmni wedi clywed am y streic fawr ac eisiau gwneud rhywbeth i helpu trigolion Bethesda, a pha ffordd well na chreu`r pwdin Nadolig arbennig hwn! Bu’r plant yn ymchwilio ar y We i geisio darganfod mwy o wybodaeth, ac o ganlyniad, cysylltwyd â Hill’s Bakery. Dychmygwch y syndod a gafwyd pan dderbyniwyd llythyr gan Hill`s Bakery yn dweud mai hen, hen daid y perchennog presennol oedd John Hill, a`i bod yn gwybod am y stroi hon! Mae`r cwmni am gynnwys ein llythyr ar eu gwefan y Nadolig hwn. Felly, mae`r cysylltiad wedi ail agor, dros ganrif yn ddiweddarch! Dyma beth yw addysg go iawn – gwersi hanes perthnasol am y gymuned leol a chyndeidiau ein disgyblion!
Addurno ffenest Siop Ogwen
Mae rhai o`r disgyblion hynaf wrthi`n brysur yn paratoi gwaith Celf er mwyn addurno ffenest y siop hon, a beth dybiwch chi fydd i`w weld yno`n fuan?! Pwdin `Dolig!
Noson Stwff a Straeon y Chwarel
Cynhaliwyd noson hynod ddiddorol yn ein hysgol yn ddiweddar ar y cyd gydag aelodau o Gôr Meibion y Penrhyn. Pwrpas y noson oedd hel pob math o `stwff` at ei gilydd, gan gynnwys recordiadau o drigolion yr ardal yn hel atgofion am fywyd yn ystod oes aur y chwareli. Bu`r disgyblion wrthi`n brysur yn croesawu`r ymwlewyr, sgwrsio a gwarndo ar eu straeon, sganio, cofnodi ar fapiau ac wrth gwrs yn gweini panad i bawb. Mae`r weithgaredd hon yn rhan o brosiect Llwybr Llechi Eryri a bydd y `stwff` a gasglwyd at ei gilydd yn cael ei osod ar ap ffôn, a fydd yn gydymaith i deithwyr wrth iddynt grwydro ar lwybrau drwy bentrefi Rachub, Llanllechid a Bethesda. Diolch yn fawr i Sian Shakespear am ei chymorth ac i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y noson. Gweler y lluniau ar ein gwefan.
Dr Ed Rowe
Rydym yn ffodus fel ysgol fod gennym rieni sydd yn barod i gyfrannu eu harbenigedd i gyfoethogi addysg ein plant. Yn ôl yn y Gwanwyn fe ddaeth Ms Karen Rowe, mam Ursula i’r dosbarth i sôn am ei gwaith yn Kenya a rhannau eraill o`r Affrig. Y mis hwn fe ddaeth tad Ursula, Dr Ed Rowe i siarad gyda’r disgyblion am Wyddoniaeth pridd gan ein bod wedi bod yn astudio planhigion a chynefinoedd. Cafwyd prynhawn difyr dros ben a’r dosbarth yn byrlymu wrth arbrofi gyda graddfa pH. Yn dilyn yr ymweliad, bu’r disgyblion yn ysgrifennu cyfarwyddiadau manwl er mwyn mynd ati yn y dyfodol i lunio arbrawf tebyg. Diolch eto i Dr Rowe am roi ei amser ac am sbarduno gwyddonwyr y dyfodol!
Canolfan Llyn Brenig
Fel rhan o waith y dosbarth ar ynni, daeth Arfona Evans o Ganolfan Llyn Brenig i wneud cyflwyniad ar Arbed Ynni i ddisgyblion dosbarth Mrs Tegid. Canolfan i ymwelwyr yw Llyn Brenig a ariennir gan Ddŵr Cymru. Yn ystod y sgwrs, bu Arfona yn trafod y gylched ddwr a phwysleisio yr angen i arbed dwr. Yn ogystal, cafodd y disgyblion gyfle i wisgo i fyny fel cymeriadau i hyrwyddo gwaredu sbwriel mewn modd cyfrifol. Ei chenadwri oedd: rhowch sbwriel yr ystafell ymolchi a’r gegin yn y bin, ac nid i lawr y draen, lle mae’n achosi problemau. Yn sgil hyn, trefnwyd taith ddifyr i ganolfan Llyn Brenig.
Oriel Môn
Orielau yw thema disgyblion blwyddyn 6 yr hanner tymor hwn, ac roedd pawb yn llawn cyffro wrth fynd ar ymweliad ag Oriel Mon i astudio gwaith yr artistiaid Charles Tunnicliffe a Kyffin Williams. Cafwyd bore prysur o greu dan arweiniad Ms Anna Pritchard. Mae disgyblion Ysgol Llanllechid yn hynod ffodus o gael eu dysgu gan Ms Anna Pritchard ac mae’n werth gweld y gwaith Celf sy’n cael ei gynhyrchu. Diolch Ms Anna am gyfoethogi profiadau’r disgyblion yn yr Oriel yn yr un modd.
Coginio
Braint oedd croesawu Mr Guillano Malvasi a`i wraig, Mrs Olwena Malvasi, sy`n daid i Hana a Harri i goginio bwydydd Eidalaidd i ddisgyblion dosbarthiadau Mrs Llinos Wilson a Mrs Rona Williams. Mae Guillano yn enedigol o`r Eidal a chawsom hanesion difyr am sut y daeth i Gymru a`i blentyndod yn yr Eidal. Roedd wedi coginio llond sosban anferth o sbageti bolonês ac wedi paratoi ‘antipasti’ i ddod i`r ysgol. Yn ôl y plant, hwn oedd y bolonês gorau ‘rioed ! Cyn i`r sesiwn ddod i ben, dysgwyd beth oedd lliwiau’r faner a sut i gyfri i ddeg mewn Eidaleg. Grazie Guillano!
Roedd arogl hyfryd yn yr ysgol am yr eildro yr wythnos diwethaf pan ddaeth Anti Gillian i ddysgu’r plant sut i wneud bara brith traddodiadol. Roedd rhiad amseru a mesur yn ofalus ac roedd y plantos i gyd wedi eu plesio ac yn llyfu eu gweflau! Mae pawb yn yr ysgol wrth eu boddau gyda bara brith Anti Gillian!!
Piggery Pottery
Cafwyd taith flynyddol fendigedig i Piggery Pottery i`r dosbarth Derbyn, a phawb wedi cael cyfle i addurno`r moch yn eu ffyrdd di-hafal eu hunain! Gwelwyd moch o bob lliw dan haul!!
Castell Penrhyn
I Gastell Penrhyn yr aeth dosbarth Mrs Parry Owen i grwydro o amgylch y gerddi a dysgu enwau`r gwahanol goed, cyn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol. Bu`r disgyblion yn dawnsio, astudio teganau o`r oes Fictoria, gwneud addurniadau mewn dull origami a chreu llygod bach, gan ddefnyddio siwgr eisin!
Balchder Bro
Diolchwn i griw Balchder Bro Bethesda am ddod atom i gasglu sbwriel yn y gymuned eto eleni. Casglwyd 21 o fagiau du yn ystod y bore wrth grwydro ar hyd Lon Bach Odro, o amgylch Maes Bleddyn a Phlas Ffrancon. Mae criw gwyrdd Ysgol Llanllechid yn gofyn yn garedig i bawb roi sbwriel yn y bin pob amser! Diolch!
Gymnasteg
Llongyfarchiadau i Erin Griffiths, Elsie Owen a Madeleine Sinfield am eu perfformiadau yng nghystadleuaeth Gymnasteg yr Urdd yn ddiweddar ym Mhenygroes. Cafwyd perfformiadau o safon uchel iawn. Da iawn chi ferched!
Clwb Pelrhwyd
Llawer iawn o ddiolch i Ms Sioned Sturrs am gynnal Clwb Pelrhwyd i`n disgyblion hynaf yn wythnosol ar ôl ysgol. Mae`r clwb hwn yn mynd o nerth i nerth, a byddwn yn mynd ati i drefnu twrnament i`r plant yn y flwyddyn newydd.
Caneuon Sioe Nadolig 2016
Geiriau y caneuon - cliciwch yma
I glywed y caneuon:
Cân 1 - cliciwch yma
Arglwydd P - cliciwch yma
Bwyd digon o fwyd - cliciwch yma
Deffra - cliciwch yma
Dewch at eich gilydd - cliciwch yma
I'r gad - cliciwch yma
Mae'r nadolig ar y gorwel - cliciwch yma
Mae'r wlad hon yn eiddo i - cliciwch yma
Mr Puw - cliciwch yma
Pan fydd hi'n - cliciwch yma
Plwm Pwdin - cliciwch yma
Annwyl Santa - cliciwch yma
Eisteddfod Dyffryn Ogwen
Llongyfarchiadau i`r holl blant a fu`n cystadlu yn yr eisteddfod eto eleni - ar y llwyfan ac yn yr adran Celf a Chrefft.
Derbyniwyd gwobrau lu i`r ysgol. Llongyfarchiadau i bawb am eu holl ymdrechion. Da iawn wir! Cliciwch yma i weld y canlyniadau.
Dymunaf ddiolch o galon i’r holl blant, staff a rhieni am fod mor barod i ddod i’r Eisteddfod dydd Sadwrn diwethaf. Unwaith eto, daeth ein disgyblion a chlod aruthrol i’r ysgol a llongyfarchwn bob un ohonynt. Diolch yn fawr hefyd i bawb a’u hyfforddodd i safon mor uchel. Llongyfarchiadau hefyd i bawb are u llwyddiant ym maes Celf a Chrefft a Llenyddiaeth. Cafwyd Eisteddfod i`w chofio. Diolch o galon i bob un ohonoch. Gweler y canlyniadau ac ewch draw i`n gwefan yn y dyddiau nesaf am fwy o wybodaeth. Diolch i bawb!
Plant Mewn Angen
Cafwyd diwrnod o hwyl a`r cyfanswm eleni oedd £224.80. Diolch yn fawr i bawb am fod mor barod i gyfrannu.
Cliciwch yma i weld y lluniau
Apel Bocsys Esgidiau /T4U
Diolch hefyd i bawb sydd wedi dod â bocs esgidiau yn llawn o anrhegion i`r ysgol ar gyfer yr apêl hwn. Derbyniwyd dros 43 o focsys. Gwych!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cofiwch am y Bore Coffi Nadolig ar Rhagfyr 3ydd yn Neuadd Ogwen, Bethesda. Buasem wrth ein boddau cael cacennau i’w gwerthu. Gadewch i ni wybod os ydych ar gael i`n helpu ar y bore!
Apêl Pabi 2016
Diolch am eich cefnogaeth gyda`r ymgyrch hon hefyd. Casglwyd £261.26 a derbyniodd yr ysgol dystysgrif.
Bardd Plant Cymru Bl 2-6
Dydd Llun nesaf, sef Tachwedd 28, bydd Anni Llyn (Bardd Plant Cymru ) a Tudur Phillips S4C yn ymweld â`r ysgol.
Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau ar gyfer y disgyblion, gan gynnwys clocsio, twmpath ac adrodd storiau. Edrychwn ymlaen at ddiwrnod llawn hwyl a bwrlwm! Cliciwch yma i weld lluniau
Tachwedd 23 - Noson Siopa Hwyr ym Methesda
Mae hi'n noson `Siopa Hwyr` ym Methesda (Tachwedd 23) a bydd nifer o'r busnesau ar agor tan 8 o`r gloch, yn cynnwys y Crochendy newydd, Siop Ogwen, Fitzpatricks ac O Law i Law. Mae Marchnad Ogwen yn cynnig adloniant Nadoligaidd gyda`r Boncathod yn diddanu yn Neuadd Ogwen hefyd. Bydd yn noson i'w chofio!
Cliciwch yma am wybodaeth
Bethan Billington
Llongyfarchiadau i Bethan Billington ar ennill cymaint o wobrau yn nofio ac yn mynd ar gefn beic! Da iawn!
Rygbi Eryri
Llongyfarchiadau i Jac Roberts, Osian Moore, Thomas Barker a Harrison Hinds ar ael eu dewis i gynrychioli carfan rygbi Eryri ‘dan 11eg yn 2016 - 2017. Mae hon yn dipyn o gamp gan fod y garfan wedi ei dewis gan chwaraewyr o Eryri gyfan.
Cydymdeimlo
Cydymdeimlwn gyda theuluoedd y diweddar Lorna Williams a`r diweddar Jodie Roberts yn fawr. Ffarweliwn a`r ddau ohoynynt yn llawer rhy gynnar. Anfonwn ein cofion annwyl atoch fel teulueodd ar adeg hynod o anodd.
Profedigaeth
Ar nodyn trist arall, cafodd yr ardal gyfan ei hysgwyd, pan glywyd am farwolaeth ddisymwth Mr Raymond Tugwell. Cofiwn am Mr Tugwell fel gŵr cymwynasgar oedd bob amser yn barod i helpu a meddwl am eraill. Ar hyd ei fywyd bu`n hynod weithgar yn codi arian at amrywiol elusennau a chofiwn am yr holl waith da a gyflawnodd. Bydd yn chwith i`r ardal gyfan ar ei ôl ac anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Ann a`r teulu oll yn eu hiraeth.
Codi tatws
Yn ystod tymor yr Haf bu blwyddyn 4 wrthi’n brysur yn plannu hen datws yng ngardd yr ysgol. Bu cyfleoedd i chwynnu a phalu a phawb yn chwys domen! Yna, cyn hanner tymor yr Hydref buom yn codi’r tatws! Ac am gwnd! Ar ddydd Gwener olaf cyn yr hanner tymor cafwyd profi`r cyfan drwy goginio cawl tatws a chennin yn y dosbarth. Pa ffordd well o gloi`r hanner tymor hwn!
Diwrnod y chwedegau
Thema dosbarth Mrs Tegid oedd y chwedegau yn ystod yr hanner tymor hwn a bu`r disgyblion yn dysgu am Dryweryn a chysylltiad Lerpwl â`r hanes. Cafwyd taith anturus i Lerpwl a chyfle i ymweld ag amgueddfa`r Beatles ac ati. Cafwyd diwrnod o readru gwaith yr hanner tymor yn y dosbarth a phawb wedi rhyfeddu at swmp y gwaith a gyflawnwyd!
Cliciwch yma i weld y lluniau
Llanberis
Fel rhan o waith Blwyddyn 4, sef dosbarth Mrs Marian Jones am y chwareli, aeth y dosbarth i Lanberis am y diwrnod, gan alw yn gyntaf yn ysbyty’r chwarel. Gwelwyd rhyfeddodau yno, yn ogystal â dysgu am y damweiniau erchyll a ddigwyddai yn ein chwareli llechi ers talwm. Yna ymlaen i chwarel Glyn Vivian, lle gwelsom nofwyr tanddwr yn ymddangos ar wyneb y llyn!. Treulio’r pnawn, wedyn, yn yr Amgueddfa Lechi lle cafwyd profiadau lu, - o ffilmiau, a sgyrsiau i weld yr olwyn ddŵr enfawr a thŷ o gyfnod y Streic Fawr. Dyma rai o gerddi`r disgyblion â ysbrydolwyd gan y profiad o ryfeddu at y nofwyr tanddwr ym mhwll tywyll y chwarel wrth gofio am yr oes â fu:
O Dan y Dŵr
Disgyn yn araf i lyn y chwarel ..
Clywed ysbryd chwarelwyr yn taro`r cŷn.
Clywed swn anadlu trwm
Nofio, nofio drwy’r twneli tywyll
Ofn, ofn y dŵr lliw glas y nos
Chwilio, chwilio am sgerbydau’r chwarelwyr
Gweld dim…
Dim ond clywed lleisiau llwglyd yn canu calon lân.
Mari Watcyn
O Dan y Dŵr
Disgyn yn araf i lyn y chwarel ….
Chwilio am bethau yn y tywyllwch.
Gwrando ar ysbrydion y chwarelwyr,….
Teimlo’r llechi pigog a miniog!
Edrych ar y swigod mawr….
Clywed y cynion a’r morthwylion blinedig yn curo a churo yn ddi-baid,
A lleisiau swynol y chwarelwyr yn canu calon lân.
Gweld sgerbydau diliw yr hen chwarelwyr yn hollti a naddu.
A gwrando ar ysbrydion y penaethiaid cas yn gweiddi ar y chwarelwyr druan.
Erbyn hyn mae’r cyfan yn bell, bell, bell o dan y dŵr du …..!
Elan Jones
Cliciwch yma i weld y lluniau
Cadw`n Heini
Fel rhan o’n thema daeth Mr Ross Roberts sef tad Evie a Harri i siarad gyda dosbarthiadau Mrs Williams, Mrs Bethan Jones a Mrs Llinos Wilson am bwysigrwydd cadw’n heini. Ar ôl sgwrs ddifyr, cafwyd sesiwn cadw’n heini. Roedd Mr Roberts wedi dod a llawer o adnoddau diddorol er mwyn galluogi`r disgyblion i fesur curiad calon cyn ac ar ôl ymarfer yn ogystal ag adnoddau i fesur pa mor heini a chryf oedd pawb! Cafwyd bore prysur iawn nes oedd bochau coch fel tomatos gan bob un!! Diolch yn fawr Mr Roberts!
Gweithdy Gwyddoniaeth
Braint oedd croesawu Dr Dylan Jones o`r Adran Wyddoniaeth o Brifysgol Bangor i ymweld â`r ysgol. Bu`n egluro swyddogaeth y gwahanol organnau mewn ffordd ddifyr a diddorol. Roedd o wedi dotio at wybodaeth y disgyblion! Diolch Dr Jones.
Beicio
Does dim dwywaith fod llwyddiannau y beicwyr yn Rio wedi ysbyrdoli llawer gan gynnwys y Cymry Owain Doull a Becky James. Fe welsom yn Rio fod angen bod yn ofalus ar y ffyrdd, ac yn flynyddol mae disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Llanllechid yn derbyn hyfforddiant beicio. Bu’r criw egniol wrthi am ddiwrnod cyfan yn datblygu eu sgiliau dan oruchwyliaeth Ifan, Paul a Steve gan basio eu lefel 1 a 2. Llongyfarchiadau i bawb gymerodd ran ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn teithio yn ddiogel gyda’r helmed ar eich pen o amgylch ffyrdd Dyffryn Ogwen o hyn ymlaen!
Bwystfilod bychan
Daeth Rosanna Robinson o Brifysgol Bangor gyda llu o fwystfilod bychan i ysgogi diddordeb disgyblion blwyddyn 6. Cafwyd prynhawn difyr o astudio drwy ddefnyddio meicrosgopau ac allweddau ynhgyd a chreu bwystfilod eu hunain gyda Selena – myfyrwraig o’r Brifysgol. Rydym yn ddiolchgar am y cyswllt agos sydd gennym â’r brifysgol. Diolch am ysbrydoli y disgyblion unwaith eto.
Ymweliad gan yr Uchel Sirydd
Cafwyd y fraint o groesawu Peter Harlech Jones, Uchel Sirydd Gwynedd i`r ysgol i siarad gyda rhai o`r disgyblion am ein systemau gwrth-fwlio. Cadeirwyd y cyfarfod gan Mr Huw Edward Jones a bu`r plant yn byrlymu siarad a thrafod yr agwedd hon. Diolch yn fawr iawn am alw draw i`n gweld ac am roi cydnabyddiaeth i ni o`r gwaith da.
Cystadleuaeth i Ddisgyblion
Cliciwch yma am wybodaeth
Bwytewch, Mwynhewch a Byddwch Lawen
Cliciwch yma am wybodaeth
Llwyddiant am ysgrifennu Cerdyn Post
Cynhaliwyd cystadleuaeth ysgrifennu cerdyn post i ysgolion Gwynedd gan y Gwasnaeth Llyfrgell ac Ysgol Llanllechid ddaeth yn fuddugol!
Llongyfarchiadau mawr i Ffion Meredith, Blwyddyn 5 ar ddod i`r brig. Bydd yn derbyn pecyn Roald Dahl fel gwobr am ei llwyddiant. Hefyd, bydd yr ysgol yn derbyn sioe ‘Dychmygwch’ gan gwmni Mewn Cymeriad fel gwobr ehangach am ymdrechion yr ysgol! Da iawn chi blant a daliwch ati!
Stwff a Straeon am y Chwarel
Cynhelir noson yn Ysgol Llanllechid yfory sef 9/11/2016 am 6.30p.m. ar y cyd hefo Côr Meibion y Penrhyn. Bwriad y noson yw i drigolion yr ardal rannu hanesion am yr oes a fu. Felly, mae croeso cynnes i bawb ddod draw i Ysgol Llanllechid i ymuno yn yr hwyl ac i siarad neu wrando ar atgofion pobl o`r ardal. Croeso cynnes i bawb!
Cliciwch yma i weld y lluniau
Nofio
Daeth yr amser i ddisgyblion Blwyddyn 4, sef dosbarth Mrs Marian Jones, ddechrau ar gyfres o wersi nofio. Hwy li chi i gyd!
Bocsys T4U
Os gwelwch yn dda gawn ni`r Bocsys Esgidiau erbyn Tachwedd 14 os ydych yn dymuno cymryd rhan yn yr ymgyrch hon. Llawer o ddiolch.
Ysgol Werdd
Diolch yn fawr i griw Balchder Bro Bethesda am fod mor barod i ddod atom i gasglu sbwriel yn y gymued. Llwyddwyd i gasglu 21 bag du mewn awr wrth grwydro ar hyd Lon Bach Odro, Maes Bleddyn a Phlas Ffrancon. Da iawn yn wir! Mae`r plant yn gofyn yn garedig i bawb i roi sbwriel yn y bin pob amser, os gwelwch yn dda.
Darllen Mawr Direidus
Llongyfarchaidau i`r canlynol ar eu llwyddiant gyda`r Sialens Ddarllen yr Haf.
1. Gwenno Llwyd Beech
2. Bethan Billington
3. Afra Haider
4. Seren Hinchliffe
5. Elan Morris
6. Leusa Morris
7. Elsa Wyn Roberts
8. Ursula Rowe
9. Madeleine Sinfield
10. Gruffudd Beech
11. Dylan Billington
12. Zain Haider
13. Harri Hinchliffe
14. Matthew Hughes
15. Catrin Haf Jones
16. Erin Jones
17. Mia Lois Griffith
18. Catrin Sian Jones
19. Chenai Chikanza
20. Mali Haf Hughes
21. Cadi Efa Hughes
22. Charlie Glyn Roberts
23. Cian Wyn Roberts
24. Osian Jones
25. William Hugh Jones
26. Hana Pierce Jones
27. Hari Vaughan Jones
Golyga hyn fod y disgyblion wedi llwyddo i ymweld â’r llyfrgell o leiaf 3 gwaith yn ystod gwyliau’r haf ac wedi llwyddo i ddarllen o leiaf naw o lyfrau dros y cyfnod.
Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd!
Cystadleuaeth
Cyfle i ennill sioe ‘Dychmygwch’ Roald Dahl i'r ysgol!
Cliciwch yma fam fwy o wybodaeth
Rhannu Arfer Dda: KiVa
Aeth pedwar o ddisgyblion blwyddyn chwech, sef Philip, Danial, Cerys ac Abbie i gynhadledd hyfforddiant ym Mhrifysgol Bangor er mwyn rhannu yr hyn y mae Ysgol Llanllechid yn ei wneud ym maes gwrth-fwlio. Roedd yr hyfforddiant ar gyfer athrawon yn bendodol; rhai o`r tu draw i Glawdd Offa oedd â diddordeb mewn mabwysiadu y rhaglen KiVa. Fe fu’r plant, dan arweiniad Mr Huw Edward Jones, yn egluro yr hyn a wneir yn y gwersi KiVa, a thu hwnt i amser gwersi, yn Ysgol Llanllechid. Siaradodd y plant yn glir a hyderus drwy gyfrwng y Saesneg wrth sôn am sut i adnabod sefyllfaoedd o fwlio; y rhannau gwahanol sy`n codi mewn sefyllfaoedd o`r fath, gan gynnwys y rhai hynny sy`n edrych a gweld, ac yn gwenud dim am y peth! Trafodwyd hefyd sut i ymdopi â seibrfwlio. Diolch i’r plant am ddangos y fath aeddfedrwydd a sensitifrwydd wrth gyflwyno, ac roedd yr adborth gan yr hyfforddeion yn gynnes a chanmoladwy.
Adroddiad Carlos Manuel Sánchez - cliciwch yma
NSPCC
Cliciwch yma i ehangu'r llun
|
Llythyr i Rieni: Stwff a Straeon y Chwarel
Cliciwch yma i weld yr llythyr
Her Stori Fer Aled Hughes, BBC Radio Cymru
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cliciwch yma i lawrlwytho'r ffurflen gais
Cliciwch yma i weld y Telerau ac Amodau
Hwyl Fawr a Diolch
Anrhegwyd Ms Fiona Sherlock yn neuadd yr ysgol gan ddweud diolch wrthi am ei gwaith da yn arwain y Clwb ar ôl Ysgol a’r Clwb Gwyliau. Diolch Fiona a phob dymuniad da i’r dyfodol yn Nhafarn Llangollen.
Diolch am y Ffair
Roedd Ffair Hydref yr ysgol yn llwyddiant ysgubol o’r dechrau i’r diwedd er gwaethaf y ffaith fod y gwynt yn chwyrlio! Llongyfarchiadau i Ariel Lichtenstein a Chelsey Morris ar ymddangos ar raglen Heno S4C yn hysbysebu ein Ffair mewn ffordd mor glir a llawen! Diolch i bawb a wnaeth gynorthwyo mewn unrhyw ffordd, ac yn enwedig felly ein pwyllgor gweithgar. Gwnaethpwyd elw o dros £1,300, sy’n swm anrhydeddus. Bydd yr arian yn ddefnyddiol iawn ar gyfer cynorthwyo gyda ein teithiau addysgol i’r dyfodol. Mae’n braf gweld cefnogaeth gref gan bob un ohonoch a thrigolion yr ardal mor barod i helpu ein hysgol.
Diolch yn fawr i chi i gyd. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Coedwig Eithinog
Aeth disgyblion blwyddyn 6 ar hynt y bwystfilod bychan sydd yn byw yng Ngwarchodfa Eithinog, Bangor. Dan arweiniad Mr Ben Stammers cafwyd hyd i lawer o fwystfilod bychan ee y Tarian Bryf, Sboncyn y gwair, Llyffant y Sboncyn a phlanhigion amrywiol ee Gorfanhadlen a’r Pen galed. Roedd hyn yn wrthgyferbyniad i’r bwystfilod ddarganfuwyd ar gaeau yr ysgol ar ddechrau’r gwaith ymchwil. Rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Stammers – sydd yn riant yn yr ysgol wrth gwrs, ac yn arbennigwr yn ei faes, sydd bob tro yn barod ei gymwynas a’i gyngor. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Tŷ Mawr Wybrnant
Aeth disgyblion blwyddyn 6 i Dŷ Mawr Wybrnant i ddysgu mwy am hanes a gwaith yr Esgob William Morgan. Ond yr hyn wnaeth y profiad yn unigryw oedd y ffaith eu bod wedi cael mwynhau yr hanes ar ffurf sioe gan yr actor Llion Williams. Bu’r disgyblion yn cyfrannu yn frwdfrydig i’r sioe gan gymryd rhannau blaenllaw ee yn actio fel Harri VIII ac Edmwnd Prys. Roedd ymateb bywiog y disgyblion yn dyst i’r ffaith fod Llion Williams wedi cyflwyno’r hanes mewn modd mor ddiddorol gan gynnwys canu a rapio ar y cyd! Ar ôl y sioe cawsant daith o amgylch cartref William Morgan gan ryfeddu at y Beiblau gwreiddiol oedd yn 500 oed. Taith gofiadwy, a da oedd clywed rhai o’r plant yn gweiddi “George” wrth weld yr actor adnabyddus! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Taith y Llwybr Llechi
Aeth dosbarth Mrs Marian Jones ar daith ddiddorol yn ddiweddar gan ddilyn y llwybr llechi. Arweinwyd y daith gan Anita Daimond, a chawsom gychwyn yn hen safle Chwarel Pantdreiniog lle cawsom wybod am y gwaith prysur oedd yn arfer bod yno yn ystod Oes Fictoria. Cafwyd sgyrsiau difyr gyda chyfeillion ar y ffordd, a chlywyd fel y cafodd un gŵr lleol ddamwain fawr, sef syrthio i waelod y twll anferth, pan oedd yn ddim ond deuddeg oed ! Yna, ymlwybro drwy fferm Cae Gymro, a’r Ffridd i Moel Faban, lle cafwyd wneud gweithgareddau Celf difyr gyda’r llechi. Mae nifer fawr o chwareli bychain ar y Foel. Ymlaen wedyn i Chwarel Bryn gan ryfeddu at yr olygfa fendigedig ar hyd y ffordd. Roedd hi’n amser mynd adref erbyn i ni gyrraedd yn ôl yn yr ysgol, a phawb wedi blino’n lân! Diolch Anita am ddiwrnod gwerth chweil!
Diolch hefyd i Mrs Karen Williams am roi lluniau o Chwarel Pantdreiniog i ni ac am rannu ei hatgofion. Disgrifiodd Mrs Karen Williams y lle yn y saithdegau, pan oedd hi’n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Ogwen a daeth y cyfan yn fyw i’n disgyblion. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Parchedig John Pritchard
Braint pob amser yw gwahodd y Parchedig John Pritchard i’n gwasanaethau boreol. Roedd y plant yn glustiau i gyd wrth ddysgu am y wyrth Troi’r Dŵr yn Win ac am sut i weddio.
Rhoddwyd croeso hefyd i Parchedig Christina McCree o Eglwys Glan Ogwen.
Daeth PC Maldwyn Williams i`r ysgol i ddysgu`r plant am sut i ymddwyn yn gall a chyfrifol a sut i gadw`n ddiogel. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Ymweliad a’g Amgueddfa Beatles, Lerpwl
Fel rhan o’r gwaith dosbarth ar y chwedegau aeth plant blwyddyn 5 ar ymweliad ag Amgueddfa Beatles yn Lerpwl. Yn gyntaf, teithiwyd ar hyd llwybr y Beatles gan glywed yr hanes ar ffonau clust pwrpasol. Roedd posib ymweld â’r Clwb Cavern a blasu bywyd yn y chwedegau drwy pob math o arteffactau e.e piano wen John Lennon a gitar Paul Mc Cartney. Cawsom gyfle i wneud gweithgareddau fel creu Celf Pop, gwisgo’n amryliw fel y Beatles, cyfansoddi ar biano llawr anferth a chanu caneuon fel ‘Yellow Submarine’ ac ‘Octopus Garden in the sky’. I gloi’r diwrnod aethpwyd i’r Pier Head i wylio ffilm Fab 4D. Dyma brofiad gwefreiddiol; nid yn unig oedd y cadeiriau yn symud ond roedd dwr yn chwistrellu arnom o’r tywyllwch! I goroni’r diwrnod cawsom ymlwybro ar hyd y Mersi gan wylio’r cychod! Cyfle gwych iawn i brofi bywyd yn y chwedegau! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Adnoddau am y Corff
Llawer o ddiolch i Mr Robert Hughes am gael benthyg adnoddau arbennig ar gyfer disgyblion Bl 2 a 3! Dyma Mathew ac Erin yn edrych ar ôl ein sgerbwd!
Stwff Straeon y Chwarel
Cofiwch am y noson ‘Stwff a Straeon y Chwarel’ a gynhelir yn Ysgol Llanllechid rhwng 6.30pm – 7.30pm ar Dachwedd 9fed, 2016. Noson ar y cyd â Chôr Meibion y Penrhyn yw hon. Rydym yn gwahodd unrhyw un o’r ardal i droi i mewn atom i drin a thrafod atgofion am y canlynol:
- Bywyd yn y cartref a’r chwarel
- Enwau lleoedd
- Dywediadau a llysenwau
- Traddodiadau ac arferion
- Cymdeithasu a hamddena
Edrychwn ymlaen yn eiddgar at glywed eich straeon. Dewch i mewn atom am baned a sgwrs. Braint fydd cael rhoi rhai o’ch atgofion ar gôf a chadw! Dyma rai o`r eirfa ydym ni yn eu dysgu yn yr ysgol: bargan, clwt, rybelwr, swpar chwarel, crawan, gwythien, caniad corn, ponc, cwt tân, Jerry M, caban, cŷn, tun bwyd, ffustion, hollti a naddu..
Cwmni Anelu
Diolch yn fawr i Mr Stephen Jones am arwain ein disgyblion hynaf ar deithiau cerdded o amgylch yr ardal leol. Pa ffordd well i’r plant ddod i adnabod eu cynefin a’u cymdogaeth. Diolch yn fawr.
Tatws Bryn – llysiau i bawb
Yng nghanol mis Medi aeth dosbarth Derbyn i ymweld â Fferm Bryn Hafod-y-Wern, Llanllechid i weld sut mae Chris Jones yn tyfu ei lysiau o hadau. Mae pob math o lysiau ar gael yma – e.e. betys, broccoli, bresych, blodfresych, tatws, rwdins, corn melys a llu o rai eraill.. Diolch i Chris Jones am ei rodd o focs o lysiau i`r ysgol. Bu`r plant wrthi`n ddyfal yn gwneud cawl blasus allan o`r cyfan. Mae Chris yn gwerthu`r bocsys yma i drigolion yr ardal a phawb yn brolio pa mor ffres yw ei gynnyrch! Edrychwn ymlaen at yr ymweliad nesaf a diolch i chi am eich croeso! Ewch i wefan tatwsbryn@yahoo.com i gael gwybod mwy.
Revolting Rhymers |
|
![]() Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
|
Lansio Ynni Ogwen
Mae Ysgol Llanllechid ynghyd a'r gymuned leol yn falch iawn o gael bod ynghlwm a'r fenter newydd gyffrous leol Ynni Ogwen. Eisoes mae Mrs Meleri Davies wedi bod yn siarad gyda'r holl ddisgyblion yn y neuadd, ac ar fore Llun Gorffennaf 11eg aeth dau aelod o'r grwp gwyrdd sef William a Gwion i'r lawnsiad. Dymuniadau gorau i bawb sydd ynghlwm.
Menter yr ifanc
Yn ddiweddar bu disgyblion blwyddyn 4 yn cymryd rhan mewn ymgyrch sef Menter yr Ifanc. Daeth Mr Griffiths o Menter yr Ifanc at y plant am dair sesiwn, oedd yn canolbwyntio ar greu busnes. Bu’r plant yn trafod pwysigrwydd cyfathrebu, pobl, cyfrifoldebau, safle a rhwydwaith gyflenwi wrth gynllunio cwmni. Y cam olaf oedd ymchwilio a dylunio cartonau sudd ffrwythau ar gyfer eu cwmni hwy gan ymgorffori`r hyn oll a ddysgwyd.
Noson Wobrwyo Chwaraeon Ysgolion Gwynedd a Mon
Braint i’r ysgol oedd cael ymuno a chôr Ysgol Dyffryn Ogwen a Chôr Ysgol Penybryn i gymryd rhan yn ystod y noson wobrwyo chwaraeon ysgolion Gwynedd a Môn. Fe aeth cynrychiolaeth o flwyddyn pump i’r noson yng nghanolfan tennis Caernarfon i ganu Sosban Fach a Rhedeg i Paris, ac roedd digon o forio canu caneuon a chysylltiad agos a byd y campau. Diolch I Mr Hefin Evans – pennaeth yr adran gerddoriaeth yn Ysgol Dyffryn Ogwen am y gwahoddiad ac i’r rhieni am sicrhau fod y plant yn gallu bod yn bresennol a`n diolch arferol i Mr Huw Edward Jones.
Rhyd Ddu 2016
Unwaith eto eleni aeth disgyblion blwyddyn 6 i ganolfan awyr agored Rhyd Ddu i ddatblygu eu sgiliau ym maes awyr agored. Ar y diwrnod cyntaf cafwyd taith hyfryd o amgylch Llyn y Dywarchen gan g;ywed yr hen chwedl boblogaidd gan ein arweinydd Mr Cemlyn Jones. Roedd pob un disgybl wedi cael esgidiau cerdded addas a dillad I atal glaw a chadw’r cynhesrwydd. Y disgyblion eu hunain oedd yn paratoi eu pecynnau bwyd yn y ganolfan, a chafwyd spwer blasus dros ben. Ar ol codi`n blygeiniol ar yr ail ddiwrnod, fe gychwynodd y criw am gopa’r Wyddfa ac ar ol tair awr a chwarter roeddent ar y copa! Criw arbennig o dda oeddent eto eleni, a llawer o ddiolch i;r staff am eu hamser a’u gofal ynghyd a Mr Cemlyn Jones a Mrs Morfudd Thomas am arwain yr holl fenter.
Cystadleuaeth Gymnastics Eryri Cynradd 2016
Llythyr - cliciwch yma
Mwy o fanylion - cliciwch yma
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Trawsgwlad Faenol
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Prynhawn Agored
Diolch i bawb a ddaeth i Ysgol Llanllechid i gefnogi ein prynhawn agored. Bu`n brynhawn braf a chafwyd cyfle i weld y plant yn ymwneud a`u gwahanol dasgau. Cafwyd cyfle hefyd i bori drwy hen lyfrau log o`r flwyddyn 1905 ymlaen. Braf oedd cael cyfle i gymdeithasu a sylwi ar yr holl newidiadau ym myd addysg. Roedd y baned werth ei chael gan Ms Leanne , Anti Wendy ac Anti Gillian cyn i bawb ei throi hi am adref! Cliciwch yma i weld y lluniau
Cystadleuaeth Cyfeiriannu Rhyng Siriol
Llongyfarchiadau i Cai Wyn ac Idwal Temple Morris ar eu llwyddiant yn cyfeiriannu o amgylch y Plas ym Machynlleth yn ddiweddar. Daethant yn bedwerydd mewn cystadleuaeth wrth gystadlu yn erbyn Siroedd Caerfyrddin a Gwynedd ac rydym yn falch iawn ohonynt. Diolch i Mrs Jen Temple Morris a Mrs Ceri Davies am gludo'r hogiau i Fachynlleth.
Mabolgampau'r Urdd
Canlyniadau Mabolgampau'r Urdd - cliciwch yma
Gweithdy Hedd Wyn
Bu`n fraint cael ymweld â Phlas Tanybwlch i fod yn rhan o weithdy arbennig ar gyfer coffau canmwlyddiant Hedd Wyn. Cafwyd cyfarfchiad gan Paul Hughes, sef datgeinydd y corn gwlad, a derbyniwyd cerdd gan y Prifardd Guto Dafydd. Cafwyd boddhad mawr yn gwrando ar Aled a Dafydd, Cowbois Rhos Botwnnog a Haf Llewelyn yr awures yn darllen o`i nofel hyfryd: Cyn Diffodd y Sêr. Yn ogystal â hyn, cafwyd gweithdy creadigol gan Siwan Llynor a gweithdy gan y Ffiwsiliwyr Cymreig.
Gwybodaeth Brechu Plant Cymru Rhag y Ffliw
Llythyr - cliciwch yma
Gwybodaeth - cliciwch yma
Ffarwelio â Mrs Heather Williams
Ar ôl cyfnod o ddwy flynedd ar hugain o wasanaeth i Ysgol Llanllechid, ffarweliwyd a Mrs Heather Williams mewn gwasanaeth arbennig yn neuadd ein hysgol. Cafwyd cyfle i hel atgofion, a bu`r plant yn morio canu i Anti Heather cyn i ni gyflwyno anrhegion mewn seremoni arbennig. Roedd Llyr a Bobi Jac wrth eu boddau cael tynnu lluniau hefo Anti Heather! Diolchwn i Heather am ei chyfraniad a`i gwaith caled i Ysgol Llanllechid dros yr holl flynyddoedd. Rydym yn gwybod na fyddwch yn cadw`n ddieithr o hyn ymlaen. Pob dymuniad da i chi yn eich swydd newydd.
Cliciwch yma i weld y lluniau
Bedydd
Aeth disgyblion dosbarth Mrs Parry Owen draw i gapel Carmel ac yno cafwyd bedydd yng nghwmni Mrs Helen Williams. Profiad a hanner. Diolch am y croeso ac am yr addysg. Cliciwch yma i weld y lluniau
Rhagoriaeth yn Ysgol Llanllechid
Mae’n fraint gennym gyhoeddi fod Ysgol Llanllechid wedi derbyn adroddiad arbennig o dda gan arolygwyr ESTYN ym mis Mawrth eleni a daethpwyd i`r casgliad fod agweddau o ragoriaeth yn ein hysgol, sy`n adlewyrchu`r profiadau deinamig a`r safonau uchel. Mae`r adroddiad yn tystio i ymdrechion ein disgyblion; ymroddiad yr holl staff, cefnogaeth ein rhieni ac arweiniad ein Llywodraethwyr.
Dywed yr adroddiad fod safonau’r ysgol yn y Cyfnod Sylfaen yn y 25% uchaf drwy Gymru ym maes llythrennedd a mathemateg yn ystod y dair blynedd diwethaf. Yn yr un modd, yn yr Adran Iau, mae perfformiad yr ysgol mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth yn y 25% uchaf, ac yn uchel ym maes Llythrennedd, yn ystod yr un cyfnod.
Dywedir fod darpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygu agweddau ysbrydol a diwylliannol yn gadarn iawn a chanmolwyd ein gwasanaethau a’n sesiynau cyd-addoli yn fawr.
Barnwyd fod y ffordd y mae`r ysgol yn hyrwyddo gofal a lles y disgyblion yn rhagorol.
O ran arweinyddiaeth, dywedir fod arweinyddiaeth y Pennaeth a`r tîm rheoli yn flaengar a chadarn ac yn gosod cyfeiriad strategol clir i ddatblygiad yr ysgol.
Nodwyd fod gan yr ysgol ystod dda o bartneriaethau strategol sy’n ehangu profiadau dysgu’r disgyblion yn llwyddiannus ac sy’n cael effaith arwyddocaol ar eu deilliannau a’u safonau.
Wrth ystyried gwerth am arian, mae’r ysgol yn rhoi gwerth da am arian, yn nhermau deilliannau disgyblion ac ansawdd y ddarpariaeth.
Dywedodd Mr Walter Williams, Cadeirydd y Llywodraethwyr,
“Mae hwn yn adroddiad y gall pob un o randdeiliaid Ysgol Llanllechid ymfalchio ynddo. Ar ran y Llywodraethwyr a`r rhieni, dymunaf longyfarch a diolch i`r brifathrawes a`i staff i gyd am eu holl waith caled a`u hymroddiad. Llongyfarchiadau gwresog ar adroddiad mor dda ac am gyrraedd y safonau uchel.”
Llongyfarchiadau i Gylch Meithrin Llanllechid
Mae Cylch Meitrhin Llanllechid wedi derbyn adroddiad arbennig o dda gan ESTYN!
Dywed yr adroddiad fod,
“Cylch Meithrin Llanllechid yn darparu cwricwlwm effeithiol ac mae’n adlewyrchu ethos y Cyfnod Sylfaen yn dda. Mae’r profiadau dysgu yn targedu anghenion a diddordebau’r plant yn llwyddiannus”
“Mae’r arweinydd yn cynllunio’r cwricwlwm ac mae’r staff yn chwarae rhan weithredol gyda’u syniadau a’u mewnbwn yn ddyddiol”
“Mae’r staff yn rheolil ymddygiad plant yn dda iawn”.
“Mae’r arweinydd yn rheoli addysgu a dysgu’n dda ac mae’r disglwyliadau yn uchel”.
“Mae’r arweinyddiaeth yn gadarn”.
“Mae’r cyswllt gyda’r ysgol yn gadarn iawn”
“Yn sgil y ddarpariaeth, y staff diwyd, y pwyllgor rheoli cefnogol a’r arweinyddiaeth bwrpasol, mae’r lleoliad yn darparu gwerth da iawn am arian”.
Llongyfarchiadau gwresog i Mrs Debbie Griffiths ar ei harweinyddiaeth ac i weddill y staff am eu gwaith caled. Llwyddiant yn wir!
Lynne Edwards
Daeth cwmwl tywyll a thon o dristwch dros yr ardal yn ddiweddar, a phawb yn ceisio dygymod â cholled teulu Mr a Mrs Dafydd Griffiths, Dylan, Liam, a Sion bach, sydd ym Mlwyddyn 3, ac sy'n 7 oed. Bu farw mam Sion yn dawel yn ysbyty Walton ar ddydd Sul, Mai 29 yn dilyn llawdriniaethau. Gedy fwlch anferth ar ei hol, nid yn unig ar yr aelwyd, ond yn yr ardal gyfan. Roedd Lynne, neu Cockles, i'w ffrindiau, yn gymeriad dymunol, hwyliog a chlen oedd pob amser yn barod ei gwen a'i sgwrs. Ac, er fod ei hangladd wedi ei gynnal ar Fehefin 7fed, mae'n dal i fod yn anodd credu ein bod wedi colli Lynne. Gobeithiwn yn wir y bydd y teulu a'i holl gydnabod a'i ffrindiau yn cael nerth i wynebu'r dyddiau a'r wythnosau nesaf, ac yn llwyddo i gael rhywfaint o gysur wrth hel atgofion amdani a chofio'r amseroedd da.....A gwyddom fod y gynghanedd: "Cledd a mîn yw colli mam" yn boenus o wir ar adeg fel hon.
Llongyfarchiadau
Llongyfarchwn Ffion Mai Jones a`i gŵr Dewi ar enedigaeth yr hogyn bach delia a welsoch erioed - Gruff Lloyd Jones! Edrychwn ymlaen at gael ei weld yn fuan!
Y Ci Defaid
Rhwydd gamwr hawdd ei gymell – i’r mynydd
A’r mannau anghysbell;
Hel a didol diadell
Yw camp hwn yn y cwm pell.
Thomas Richards, Wern, Llanfrothen 1948
Ar ôl bod wrthi`n arlunio`r darlun bendigedig o`r ci defaid, gan efelychu arddull Kyffin Williams, a dysgu`r englyn ar y côf, aeth dosbarth Mrs Marian Jones i wylio taid Erin Jones, Mr Kevin Eccles yn dangos ei ddoniau gyda`i gwn defaid. Roedd Jess a Cadi ar eu gorau, - y ddwy yn gwrando’n astud ar y cyfarwyddiadau. Rhyfeddod oedd deall sut oedd un ast yn dysgu oddi wrth y llall. Roedd Erin yn falch o gael dangos ei dafad hi i weddill y plant, sef yr unig ddafad ddu yn y cae! Diolch yn fawr iawn i Kevin a Wendy Eccles am y croeso, ac am drwytho ein plant mewn sgiliau cefn gwlad.
Cliciwch yma i weld y lluniau
Taith Addysgol i Landudno
Aeth dosbarth Mrs Tegid ar daith i Landudno yn ddiweddar, ac un o`r uchafbwyntiau oedd dod wyneb yn wyneb â Blodwen! Pwy ydi Blodwen? medde chi! Wel, mae stori Blodwen yn un rhyfeddol! Roedd hi`n trigo ar lethrau`r Gogarth yn amaethu dros bum mil o flynyddoedd yn ôl, ac mae`r gwybodusion wedi gallu darganfod llawer am ei hanes a`i ffordd o fyw, yn yr oes bellenig honno. Rydym wedi dysgu ei bod rhwng 55 a 65 pan fu farw, a chladdwyd mochyn hefo hi yn y bedd! Roedd Blodwen oddeutu pum troedfedd a dengys ei breichiau ei bod wedi arfer cario nwyddau trwm. Hefyd, yn ddiddorol iawn, gellid dweud mai`r rheswm iddi farw oedd y ffaith ei bod yn dioddef o gancr y fron... Cafwyd cyfle i ymweld â nifer o atyniadau yn ystod y dydd, ac oedd, roedd hi`n ddiwrnod braf o haf! Pawb wedi mwynhau a dysgu llawer! Cliciwch yma i weld y lluniau
Plannu tatws
Diolch i Idris, Idwal a Marged Temple Morris, Fferm Tan y Garth, Gerlan, am gasglu tail gwartheg i ni ar gyfer plannu tatws. Disgwyliwn yn eiddgar at gael gweld ffrwyth ein llafur!
Neges bwysicaf PC Williams oedd: Peidiwch â chael eich dylanwadu gan bobl eraill sy`n eich arwain ar gyfeiliorn. Digon gwir! Trafodwyd cyffuriau a`u heffaith ar unigolion a`u teuluoedd. Gwers bwysig iawn.
Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd !
Aeth dosbarth Mrs Parry-Owen i warchodfa natur yr RSPB Llandudno. Cafwyd croeso cynnes a diwrnod hynod ddiddorol wrth i`r plant chwilota am drychfilod a chreaduriaid bach yn y pyllau, a dysgu am adar a chynefinoedd. Braf oedd cael dweud ein bod ninnau hefyd yn croesawu’r adar yn ôl a bod gwennol y bondo yn brysur wibio unwaith eto uwchben ffenestr ein dosbarth! Braf croesawu mis y mel! Cliciwch yma i weld y lluniau
Dysgu am Kenya
Afonydd Cymru a'r byd oedd maes astudiaeth y disgyblion hynaf yn ystod yr hanner tymor hwn. Braint oedd croesawu Karen Brock, sef mam Ursula, sydd wedi treulio amser yn byw yng ngogledd yr Affrig. Croesawyd Mrs Brock i'r dosbarth i siarad gyda'r plant a soniodd am fywyd ar y fferm gan ganolbwyntio ar ffrind iddi oedd yn gweithio fel ffermwraig; dynes arbennig o'r enw Mary. Roedd Mary yn gofalu am ei theulu ac yn gweithio`n galed yn tyfu bwyd ar y fferm. Pan oedd yr hîn yn ffarfriol roedd y cnwd yn lluosog, ond stori hollol wahanol oedd hi mewn sychder. Cawsom fore bendigedig yng nghwmni Karen ac roedd yn agoriad llygad cael cymharu Cymru a Kenya.
Cyfeiriannu
Mae tymor yr haf yn gyfle i'r disgyblion hynaf gael datblygu eu sgiliau cyfeiriannu ar dir yr ysgol ac yna oddiar dir yr ysgol. Mae'r disgyblion yn ffodus o gael cymryd rhan mewn gwyl gyfeiriannu yn lleol ar dir Parc Padarn yn Llanberis. Eleni, fe aeth disgyblion blwyddyn 6 i Lanberis ac fe gawsant hwyl dda ar deithio o amgylch y parc yn chwilio am y baneri penodol. Fe lwyddodd dau bar i orffen yn y deg uchaf sef Idwal, Cai Wyn, Sam a Danial ac aeth Sam, Idwal, Osian Davies a Cai Wyn i'r rownd nesaf yng Nglynllifon. Fe lwyddodd Idwal a Cai i ddod yn ail allan o'r holl ysgolion ac fe fyddant yn mynd trwodd i'r rownd nesaf ym Machynlleth. Da iawn i bawb am lwyddo, a diolch hefyd i fam Idwal am gludo'r pedwar i Lynllifon.
Cwrwgl
Ar fore hyfryd o haf, daeth Mr Haydn Davies a'i gwrwgl ar iard yr ysgol. Magwyd Mr Davies yn Sir Aberteifi. Soniodd wrth y plant am ei ddyddiau yn rhwyfo ar yr Afon Teifi yn ei gwrwgl arbennig wedi ei wneud o'r goeden onnen a'r gollen ynghyd a calico a bitumen. Dyma oedd ei gwrwgl personol ef - y cwrwgl yr oedd ef yn ei defnyddio i bysgota a dal eogiaid. Cawsom glywed am lawer o'i anturiaethau difyr yn y cwrwgl, ac ambell gyfrinach hefyd!! Diolch i Mr Davies am ei sgwrs ddiddorol dros ben ac am roi'r cyfle i'r plant gael profiad gwerth chweil. Cliciwch yma i weld y lluniau
Fron Goch
Bu`r dosbarth Meithrin yng nghanolfan Arddio Fron Goch. Roedd y disgyblion wrth eu boddau yn dysgu am dyfiant blodau, perlysiau, ffrwythau a llysiau. Cafwyd llawer o hadau a phlanhigion yn y Ganolfan a bu`r plant bach yn eu plannu yng ngerddi`r ysgol. Cliciwch yma i weld y lluniau
Llyfrgell Cenedlaethol
Dewiswyd Ysgol Llanllechid gan y Llyfrgell Genedlaethol i gymryd rhan mewn prosiect arloesol sef er mwyn creu adnodd digidol cyffrous yn seiliedig ar thema arbennig. Oherwydd fod Ysgol Llanllechid wedi ei lleoli mewn ardal hanesyddol ac unigryw, penderfynodd disgyblion Blwyddyn 6 greu adnodd digidol yn seiliedig ar yr ardal leol drwy animeiddio, sganio a ffilmio. Edrychwn ymlaen at gael ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol draw yn Aberystwyth i ddathlu lansiad yr adnodd digidol!
Cyfeiriannu
Llongyfarchiadau i ddisgyblion blwyddyn 6 ar eu llwyddiant yn cyfeiriannu ym Mharc Padarn, Llanberis. Llongyfarchiadau arbennig i Sam, Osian,Cai Wyn a Idwal ar lwyddo i fynd ymlaen i’r rownd nesaf.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cyngor Ysgol
Da iawn i’r Cyngor Ysgol am drefnu’r weithgaredd sgipio noddedig hefo’r plant, rhieni a’r Llywodraethwyr. Casglwyd £234.31 tuag at Ymchwil y Galon.
Eisteddfod Sir yr Urdd
Llongyfarchiadau gwresog i’n parti Cerdd Dant. Camp a hanner oedd llwyddo i gael y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Sir. Da iawn chi! Rydym yn falch iawn ohonoch! Llongyfarchiadau hefyd i’r parti Unsain a gafodd y drydedd wobr. Yn serennu, unwaith eto eleni y mae Efa Glain! A chyntaf yw’r wobr a gafodd hithau yn Eisteddfod y Sir am ganu Cerdd Dant. Pob lwc i chi yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yr un yw ein llongyfarchion i Idris ac Idwal am ddod i’r brig ym maes Celf a Chrefft.
Croeso’n ôl
Croesawn Ms Rhian Haf yn ôl i`n plith a felly hefyd Ms Angharad a Ms Holly. Croeso nôl hefyd i Mrs McDonald i`r gegin.
Priodas Arian
Llongyfarchiadu mawr i Mrs Rhian Jones a’i gŵr, Mr Gerallt Jones ar ddathlu eu priodas arian. Ymlaen rwan am y 25 nesaf!
Dyweddio
Llongyfarchiadau i Martha Parry-Owen ar ei dyweddiad â Mark yn ddiweddar.
Rhannu Arfer Dda: KiVa
Aeth pedwar o ddisgyblion blwyddyn chwech, sef Philip, Danial, Cerys ac Abbie i gynhadledd hyfforddiant ym Mhrifysgol Bangor er mwyn rhannu yr hyn y mae Ysgol Llanllechid yn ei wneud ym maes gwrth-fwlio. Roedd yr hyfforddiant ar gyfer athrawon yn bendodol; rhai o`r tu draw i Glawdd Offa oedd â diddordeb mewn mabwysiadu y rhaglen KiVa. Fe fu’r plant, dan arweiniad Mr Huw Edward Jones, yn egluro yr hyn a wneir yn y gwersi KiVa, a thu hwnt i amser gwersi, yn Ysgol Llanllechid. Siaradodd y plant yn glir a hyderus drwy gyfrwng y Saesneg wrth sôn am sut i adnabod sefyllfaoedd o fwlio; y rhannau gwahanol sy`n codi mewn sefyllfaoedd o`r fath, gan gynnwys y rhai hynny sy`n edrych a gweld, ac yn gwenud dim am y peth! Trafodwyd hefyd sut i ymdopi â seibrfwlio. Diolch i’r plant am ddangos y fath aeddfedrwydd a sensitifrwydd wrth gyflwyno, ac roedd yr adborth gan yr hyfforddeion yn gynnes a chanmoladwy.
Adroddiad Carlos Manuel Sánchez - cliciwch yma
Yr hîn yn cynhesu!
Aeth dosbarth Mrs Parry-Owen i warchodfa natur yr RSPB, Llandudno. Cafwyd croeso cynnes a diwrnod hynod ddiddorol wrth chwilota am drychfilod a chreaduriaid bach yn y pyllau, a dysgu am adar a chynefinoedd. Braf oedd cael dweud ein bod ninnau hefyd yn croesawu’r adar yn ôl, a bod gwennol y bondo yn brysur wibio unwaith eto uwchben ffenestr ein dosbarth! Tydi`n braf croesawu mis y mel, `dwch! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cwmni Da
Daeth dau o aelodau Cwmni Da i’r ysgol yn ddiweddar i gynnal Gweithdy Drama gyda disgyblion blwyddyn 4 a 5. Cafwyd gweithdy cyffrous a bywiog. Cafodd y disgyblion gyfleon i ymateb yn ddramatig i wahanol sefyllfaoedd. Cafwyd sesiwn cynhesu i fyny bywiog oedd yn canolbwyntio ar ddangos rheolaeth wrth ddilyn cyfarwyddiadau amrywiol. Yna cafodd y disgyblion gyfleon i chwarae rôl a datblygu sgiliau cymeriadau. Roedd pwyslais bob amser ar wella ac amrywio’r perfformiad. Diolch am brofiad gwahanol ac unigryw. Braf iawn oedd croesawu Elin Gwyn yn ôl i’w hen ysgol!
Becws Cae’r Groes
Tro dosbarth Mrs Williams oedd ymlwybro draw i Fecws Cae’r Groes y tro yma er mwyn cael blasu`r cynnyrch lleol! Diolch i Fecws Cae`r Groes am y cacennau cri blasus, - fe`u rhannwyd ymysg y teuluoedd. Cwestiwn i chi! Dyfalwch faint o gacennau cri sydd yn cael eu cynhyrchu yn ddyddiol yn y Becws! Ateb: Ugain mil! Pan yn siopa, mynnwch gacennau cri Becws Cae`r Groes, Rachub!
Ynni Ogwen
Rydym wrth ein boddau cael cyd-weithio gydag Ynni Ogwen, a braint yn wir oedd cael croesawu Meleri , mam Lloer a Gwydion atom i roi cyflwyniad a ysbrydolodd ein disgyblion i gyd yn neuadd yr ysgol, ar ein diwrnod Ysgol Werdd. Er mwyn diolch i`r siaradwyr, cafwyd cyfle i gyd-ganu rhai o`n hen ffefrynnau e.e. Defaid William Morgan, Rownd yr Horn, Clychau Aberdyfi, Ar lan y mor a`i donnau ac adrodd ein hoff farddoniaeth gan gynnwys: Ffarwel i Gwm Penllafar.
Glanllyn
Aeth criw egnïol ac anturus o flwyddyn 5, unwaith eto i Glynllyn i fwynhau tridiau o heulwen braf a gweithgareddau awyr agored ar lan llyn Tegid. Cawsant brofiadau bythgofiadwy, gan gynnwys dringo, bowlio deg, nofio, y cwrs rhaffau uchel, saethyddiaeth, cyfeiriannu, taith o amgylch Llyn Tegid a chanŵio! Roedd y disgyblion wedi blino’n lân erbyn iddynt ddychwelyd ar y prynhawn dydd Gwener! Diolch i’r holl staff am eu gofal o’r disgyblion yn ystod yr ymweliad. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Noswaith o Ddawns
Daeth dyddiad Noswaith o Ddawns y Galeri i`r fei unwaith eto, a`r plant werth eu gweld yn eu dillad dawnsio lliwgar. Y dawnswyr y tro hwn oedd Efa, Tiah, Kayla, Ellie, Ella, Erin, Megan, Hanna, Leni, William, Osian Jones, Aron, Maia a Mali. Roedd y ddawns ei hun yn gymysgedd o ‘ddisgo’ a dawnsio stryd’ a phawb yn cydsymud yn osgeiddig! Diolch yn fawr i Miss Nicola a Miss Sara am hyfforddi’r plant i safon mor uchel! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Ras Moel Wnion
Roedd dydd Sadwrn Ebrill 23, sef diwrnod Ras Moel Wnion, yn llwyddiant ysgubol! Daeth cant a phedwar o redwyr i Ysgol Llanllechid o ardal eang a phob un ohonynt wedi llwyddo i redeg i ben Moel Wnion ac yn ôl i Ysgol Llanllechid.Ynghyd â hyn, cafwyd rasus i’r plant ar gae’r ysgol o dan ofal Mr Stephen Jones. Cafwyd diwrnod bendigedig, awyr las ac awyrgylch braf a phopeth yn rhedeg fel cloc. Diolch arbennig i Dr Ross Robert (tad Evie a Harri) am ei waith caled yn trefnu ac i Mr Stephen Jones (tad Danial a Dafydd), Cadeirydd y Pwyllgor Rhieni/Athrawon am ei waith.Yn wir, diolch i holl aelodau’r Gymdeithas Rhieni /Athrawon a phawb a weithiodd yn galed yng nghegin yr ysgol, sef Anti Gillian, Anti Carol, Caroline Jones, Iona Robertson, Lowri Roberts ac Emma Roberts. Roedd yr holl gacennau a’r cawl cennin yn hynod flasus a’r rhedwyr a phawb arall yn llowcio’r cyfan, gan lyfu eu gweflau! Diwrnod hynod o lwyddiannus! Ac, fel unrhywbeth sy’n llwyddiant ysgubol, melys moes mwy! Felly cofiwch edrych allan am y dyddiad y flwyddyn nesaf! Meddai Gwyn Williams, un o’r rhedwyr, “Diolch am drefnu ras fythgofiadwy, wedi ei threfnu yn dda gyda phawb yn tynnu hefo’i gilydd i wneud campwaith llwyddiannus.” Braf iawn gweld yr ysgol yn cydweithio mor effeithiol hefo aelodau’r gymuned fel hyn, a chyfraniad ein rhieni yn allweddol i’n llwyddiant. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Owain Glyndwr - Ymarferion
Wrth i gôr yr ysgol baratoi at gyngerdd mawreddog Pontio fe ddaeth Mr Bryner Jones i’r ysgol i sôn am hanes Owain Glyndwr. Roedd y côr yn canu cân am Owain Glyndwr allan o’r sioe gerdd ‘Y Mab Darogan’ gan Penri Roberts, Linda Gittins a Derek Williams. Felly roedd yn fendigedig cael ychydig o hanes Owain Glyndwr er mwyn tanio dealltwriaeth y plant o eiriau’r gân a’i neges. Diolch i Mr Bryner Jones am ei sgwrs ddifyr.
Grace, Elan, Maia, Hanna a Megan yng nghwmni Mr Bryner Jones ac Mrs Enid Griffiths.
Tesco
Aeth dosbarth Mrs Rona Williams i Tesco yn ddiweddar i ddilyn taith ein bwyd ‘O’r Fferm i’r Fforc’. Cafodd pawb gyfle i flasu bwydydd iach, gwneud bara, dysgu am wahanol gaws, a bwydydd mor. Cafodd pawb lond bag o nwyddau i fynd adref yn ogystal a llond bbocs o nwyddau iach i’r ysgol!
Taith i’r Sŵ
Aeth dosbarth Mrs Marian Jones i’r Sw Fynyddig ym Mae Colwyn, er mwyn cael astudio anifeiliaid fel rhan o’u thema. Gyda phelydrau haul ddechrau Mai yn eu hanterth, cafodd y plant weld llu o anifeiliaid, - rhai nad oeddent wedi eu gweld erioed o’r blaen, fel y Panda Coch swil a’r aderyn hyfryd o Affrica, sef y Drudwy Ysblennydd yn ei amryliw blu a`i wisg o liwiau llachar! Dotiodd y plant at y neidr anferthol, y teigrod hardd a`r mwnciod bywiog. Diwrnod gwerth chweil! Cliciwch yma i weld y lluniau
Y Llyfrgell Genedlaethol
Mae disgyblion Blwyddyn 6 yn brysur yn cyd-weithio gyda`r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac yn casglu henebion ynghyd ar gyfer eu rhoi ar gôf a chadw.
Penblwydd Hapus
Penblwydd Hapus i Anti Gillian oddi wrthym i gyd yn Ysgol Llanllechid! Mwynhewch y dathlu a`ch penblwydd arbennig! Llongyfarchiadau hefyd ar ddod yn nain i William Ellis! Cyfle arall i fagu a sbwylio!
Diolch
Diolch i Mrs Ffion Mai Jones am dreulio cyfnod hefo ni yn Ysgol Llanllechid. Dymuniadau gorau dros yr wythnosau a`r misoedd nesaf, a chofia ddod â`r bychan i`n gweld!
Eisteddfod Cylch yr Urdd
Cafwyd Eisteddfod Cylch hynod lwyddiannus. Dyma nhw`r canlyniadau:
Enw | Cystadleuaeth | Safle |
Gwenno Beech | Unawd Bl2 a Iau | 1 |
Lois Jones | Unawd Bl 3/ 4 | 1 |
Erin Griffiths | Unawd Bl 5/ 6 | 2 |
Mari Bullock | Unawd Bl 5/ 6 | 3 |
Lois & Efa | Deuawd Bl 5/ 6 | 1 |
Parti Unsain | Parti Cain | 1 |
Côr | Côr Ysgol Llanllechid | 2 |
Mared Morris | Unawd Alaw Werin | 2 |
Mari Bullock | Piano | 3 |
Gwenno Beech | Unawd Cerdd Dant | 2 |
Efa Glain Jones | Unawd Cerdd Dant Bl 5/6 | 1 |
Parti Cerdd Dant | Parti Ysgol Llanllechid | 1 |
Seren Roberts | Llefaru Bl2 ac Iau | 2 |
Chenai Chicanza | Llefaru Bl 3 / 4 | 2 |
Diolch yn fawr i Mr Huw Edward Jones, Mrs Marian Jones, Mrs Nerys Tegid, Mrs Menai Williams a Mrs Helen Williams am eu gwaith ac i Miss Elin Lloyd Griffiths am gyfeilio i`r côr.
Cyngerdd Dydd Gwyl Ddewi yng Nghastell Penrhyn
Bu`n fraint cael rhannu llwyfan gyda Chôr Rygbi Gogledd Cymru yn Nghastell Penrhyn ar ddiwrnod ein nawdd sant. Diolch yn fawr i Mr a Mrs Bevan am y gwahoddiad. Bu`n brofiad bendigedig i`n disgyblion. Llongyfarchiadau i Gwydion Rhys ar safon ei berfformiadau ar y soddgrwth! Anhygoel Gwydion! Rydym yn falch o gael dweud dy fod yn un o`n cyn-ddisgyblion!
Cliciwch yma i weld y lluniau
Te Bach Cymreig Dosbarth Mrs Rona Williams
Bu`r disgyblion yn brysur yn gwneud cacennau cri! Be ` well?! Cacen gri a phaned!
Cliciwch yma i weld y lluniau
Capel Carmel a Thaith o Amgylch Rachub
Diolch i Mrs Helen Williams am y croeso cynnes, pan aeth dosbarth Mrs Wilson i ymweld â chapel Carmel yn ddiweddar. Cawsant ddysgu am nodweddion y capel a`r holl weithgareddau gwahanol sydd yn cael eu cynnal yno. Cafwyd cyfle i graffu ar y Beibl mawr, sefyll yn y pulpud ac eistedd yn y sedd fawr. Y diwrnod canlynol, tro dosbarth Mrs Bethan Jones oedd hi i gael eu tywys o amgylch Rachub, gan Mrs Helen Williams. Cafwyd taith gerdded llawn hanesion, a`r disgyblion yn cael cyfle euraidd i ddysgu am eu hardal leol. Diolch i Mrs Helen Williams!
Ymweliad Prifardd
Braint oedd cael croesawu y Prifardd Ieuan Wyn at y dosbarthiadau hynaf. Bu trafod brwd ar bontydd yr ardal – eu henwau a`u lleoliadau. Dyma beth oedd addysg werth chweil; cael dysgu am yr hyn sydd wrth eu traed a dysgu am hanes, er mwyn ei gadw ar gôf a chadw, i`r cenedlaethau sydd i ddod. Diolch yn fawr.
Cliciwch yma i weld y lluniau
Dr J.Elwyn Hughes
Braint arall oedd croesawu Dr J.Elwyn Hughes i`n plith, wrth i ni wrando`n astud ar ei anerchiad i`r disgyblion hynaf ar y Rhyfel Mawr a`i ddylanwad ar Ddyffryn Ogwen a thrigolion yr ardal. Cafwyd gwrandawiad astud, a`r disgyblion wedi eu cyfareddu gyda`r holl hanesion difyr. Diolch o galon i chi am ddod atom ac am rannu o`ch fynnon wybodaeth ddi-waelod.
Cliciwch yma i weld y lluniau
Diwrnod y Llyfr
Cafwyd môr o liw a`r plantos i gyd yn werth eu gweld – pob un wedi gwisgo yn debyg i`w hoff gymeriad!
Cyngerdd Gwyl Ddewi yng Nghastell Penrhyn
Cyngerdd yn dechrau am 7.30y.h.
Bod yn y castell erbyn 6.45y.h.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Meilyr Owen - Cadw'n Iach
Cliciwch yma i weld y lluniau
Priodas a Phrofedigaeth
Roedd digwyddiadau mis Rhagfyr yn nheulu Cynan, yn dorcalonnus a dirdynnol. Ar ddydd Sadwrn Rhagfyr 12fed, priododd mam a tad Cynan sef Tracy a Geraint Jones yn ward Alaw, ond, cwta ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, ffarweliodd Geraint â’r fuchedd hon. Daeth cynulleidfa gref ynghyd i’r gwasanaeth angladdol yn yr amlosgfa ym Mangor a thraddodwyd teyrnged rymys i’r diweddar Geraint Jones gan ei frawd, Lesley. Cydymdeimlwn o waelod calon gyda Cynan, Tracy Jones, Valerie ac Islwyn Jones, Lesley a Gethin Jones a Dafydd a Gillian Griffith a’r teulu oll yn eu colled a’u galar o golli gŵr, tad, mab a chyfaill mor arbennig.
Cydymdeimlo â Chyn Athrawes
Anfonwn ein cofion cynhesaf at Mrs Eirian Jones, Jenifer, Alison a`u teuluoedd yn eu profedigaeth lem o golli gŵr, tad a thaid arbennig iawn, sef y diweddar Dr Robert Jones. Bu`n fraint cael gwrando ar ei ferched yn talu teyrnged i`w tad yn ystod y gwasnaeth angladdol yng nghapel Bereia Newydd ym Mangor; gŵr amryddawn, yng ngwir ystyr y gair. Roedd ganddo ddiddordebau lu, ac roedd meddwl am eraill ar frig ei agenda. Anfonwn ein cofion cynnes atoch oddi wrthym i gyd fel ysgol Eirian. Yn sicr, byddwch yn ein meddyliau yn ystod yr wythnosau a`r misoedd sydd i ddod.
Cydymdeimlo ag un o`n Llywodraethwyr
Anfonwn ein cofion a`n cydymdeimlad at Mr a Mrs Godfrey Northam; bu farw chwaer Mr Northam yn ddiweddar.
Plas Tan y Bwlch a Phortmeirion
Cafodd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 ddiwrnod yn dysgu am ddau ffigwr adnabyddus yn hanes Cymru – sef Clough Williams Ellis a Hedd Wyn. Ym Mhortmeirion cafodd y plant daith o amgylch y pentref unigryw hwn gan ddysgu am hoffterau y pensaer Clough Williams Ellis a’i freuddwyd o greu lleoliad yn cyfuno gwahanol arddulliau a thraddodiadau. Ym Mhlas Tany Bwlch cafodd y disgyblion ddysgu am hanes bardd y gadair ddu. Ar hyn o bryd mae buddsoddi mawr yn digwydd yn yr Ysgwrn a bydd yr Ysgwrn yn ail agor i`r cyhoedd ar ei newydd wedd y flwyddyn nesaf. Cafwyd cyfle i astudio arteffatctau o’r cartref ynghŷd â gweld copi maint llawn o’r gadair gan werthfawrogi gwaith ei chynllunydd, a hanai o wlad Belg. Cliciwch yma i weld y lluniau
Archifdy
Diolch unwaith eto i ffrind da yr ysgol sef Gwenda o’r archifdy am ddod i ddangos arteffactau o’r Ail Ryfel Byd gan gynnwys mygydau nwy, llyfrau dogni, helmedau a llawer mwy. Mae’r plant wedi ymgolli yn yr hanes erchyll hwn, sy`n rhan o`n hanes,ac roedd eu brwdfrydedd yn amlwg wrth wrando ar y cwestiynau doeth a ofynwyd. Gweler llythyr diddorol â astudiwyd gan y plant ac a ysgrifenwyd gan ….am y bom a ddisgynodd ar Gaellwyngrydd. Cliciwch yma i weld y lluniau
Dinas Dinlle a Chastell Caernarfon
Bu disgyblion blynyddoedd 5 a 6 ar daith i fwynhau gweithdy yn amgueddfa’r Royal Welch Fusiliers yng nghastell Caernarfon, lle roedd Jerry yn eu tywys trwy agweddau o’r Ail Ryfel Byd, ynghŷd â dangos y gwahanol arteffactau. Yn ogystal, cawsant gyfle i orywmdeithaio fel milwyr y catrawd gan ddilyn cyfarwyddiadau yr arweinydd are u hunion! Yna, maes awyr Dinas Dinlle oedd y gyrchfan a chafwyd amser da yn yr amgueddfa awyrennau tra`n astudio rhai o’r awyrennau fu’n hedfan yn ystod y rhyfel a gweld mwy o arteffactau. Roedd y disgyblion wedi eu cyfareddu yn eistedd wrth y llyw ac yn cael cyfle i deimlo fel peilotiaid go iawn! Diolch i Dave am y croeso ac am yr anrheg arbennig o fodel awyren wrth i ni ymadael. Bendigedig! Cliciwch yma i weld y lluniau
Newyddion 9 a Radio Cymru
Welsoch chi ddosbarth Mr Huw Edward Jones ar Newyddion 9 yn ddiweddar? Fe wyddoch fod Ysgol Llanllechid yn ymwneud â`r rhaglen gwrth fwlio o`r Ffindir sef KIVA ers pedair blynedd bellach ac, yn sgil hyn, wedi derbyn sylw rhyngwladol. Daeth ein gwaith da i glustiau rhaglen Newyddion 9 ar S4C a Radio Cymru a daethant draw i arsylwi ar wers yn nosbarth Mr Jones. Roedd yn hyfryd gweld y plant yn cymryd rhan mor frwdfrydig a naturiol gan siarad yn ddoeth gyda’r gohebydd newyddion, Dafydd Gwyn. Da iawn chi blantos!
Cyngor Ysgol
Mae’r Cyngor Ysgol yn parhau i weithio yn frwdfrydig y tymor hwn. Eisoes maent wedi trefnu disgo Santes Dwynwen a chystadleuaeth creu poster ar gyfer annog plant i yfed dŵr yn y dosbarth a lalwer mwy.
Siarter Iaith a Chadair i Erin!
Aeth disgyblion blwyddyn 6 i Ganolfan Tennis Arfon i fwynhau prynhawn yng nghwmni cyflwynwyr sioe Tag S4C. Ar ôl canu nifer o ganeuon, cafwyd cyfle i ymuno mewn gemau a chafwyd cystadlaethau. Roeddem yn hynod falch o Erin Robertson! O`r holl blant oedd yno, Erin enillodd y gystadleuaeth am gwblhau limerig. Cafodd ei chadeirio o flaen yr holl blant mewn seremoni arbennig!
Wrecsam – Celtiaid Bl 3
Cafodd dosbarth Mrs Bethan Jones ddiwrnod arbennig ym mhentref y Celtiaid yn Wrecsam wythnos diwethaf. Ar ôl cyfarfod Angharad i gael hanes Culhwch ac Olwen, gwisgwyd fel Celtiaid er mwyn ymuno â llwyth Angharad. Tiwnig a siol oedd y dillad ac roedd yn amhosib adnabod y plantos gan fod eu wynebau wedi eu peintio`n las! Roedd golwg ffyrnig a brawychus ar bawb; pob un yn barod i ddychryn y gelyn! Ond, doedd dim cyfle i ymlacio, gan fod rhaid gweithio fel lladd nadroedd drwy’r dydd! Beth oedd ar y gweill? Gwehyddu, dylunio tarian, gwneud potiau clai, adeiladu tŷ crwm gyda dwb, cyn ymarfer taflu gwaywffon at darged yn barod i ymladd y Rhufeiniaid rhyfelgar! Cafwyd diwrnod prysur, hwyliog ac arbennig iawn gyda llawer o Geltiaid blinedig iawn yn cyrraedd yn ôl i Rachub.
“Mi wnes i fwynhau adeiladu wal i’r tŷ crwm gyda dwb sef dŵr,tail, gwair a chlai.” Elan Jones
“Roeddwn i yn meddwl fod y diwrnod yn ardderchog, y gorau, oherwydd rydw i wedi dysgu sut i wehyddu dillad Celtaidd” Chenai.
Cliciwch yma i weld y lluniau
Santes Dwynwen
Roedd hwn yn ddiwrnod arbennig, - pawb yn gwisgo coch neu binc, ac yn cael mwynhau disgo hwyliog yn y neuadd! A stori Santes Dwynwen yn werth ei chlywed! Diolch i`r Cyngor Ysgol am drefnu. Cliciwch yma i weld y lluniau
Gwasanaeth Tân
Daeth o`r Gwasnaeth Tan draw i sgwrsio am ddiogelwch yn y cartref ac atgoffa`r plant am beryglon sy`n llechu yn ein cartrefi. Felly, cofiwch ddiffodd eich tacla trydanol cyn mynd i gysgu!
Cliciwch yma i weld y lluniau
`Drwg’ Neuadd Ogwen
Cafodd Blynyddoedd 1 a 2 fynd i Neuadd Ogwen i wylio sioe arbennig gan Gwmni Bara Caws, sef ‘Drwg’. Roedd yn gyflwyniad llawn hiwmor am Rhita Gawr, ac roedd y cyfan yn hynod weledol , gyda set hyfryd, pypedau doniol a stori dda! Roedd y plant i gyd wrth eu boddau’n ymuno yn yr hwyl drwy ddawnsio a chanu.
Castell Beaumaris Bl 4
Cliciwch yma i weld y lluniau
Diwrnod Pyjamas Meithrin
Beth sy’n digwydd yn y Dosbarth Meithrin? Mae pawb wedi dod i’r ysgol yn eu pyjamas! Dyna hwyl ydi gwneud thema ‘Pan af i gysgu’!
Arwyr
Mae Dosbarth Mrs Marian Jones yn sôn am arwyr ac archarwyr yn ystod yr hanner tymor hwn. Un diwrnod gwisgodd pawb fel arwyr a chael hwyl yn creu sioeau ar y cyfrifiadur! Ond wnewch chi byth goelio pwy ddaeth i`r dosbarth yr wythnos diwethaf! Owain Glyndwr ei hun gyda`i faner a`i gleddyf. Atebodd Owain Glyndwr holl gwestiynau`r disgyblion, a phawb yn rhyfeddu at ei hanes. Dysgwyd hefyd am gerdd Iolo Goch sydd yn canu clodydd Sycharth a`r gerddi o amgylch:
Popty llawn poptu i’r llys,
Perllan, gwinllan ger gwenllys;
Melin deg ar ddifreg ddŵr,
A’i glomendy gloyw maendwr;
Pysgodlyn, cudduglyn cau,
A fo rhaid i fwrw rhwydau;
Amlaf lle, nid er ymliw,
Penhwyaid a gwyniaid gwiw,
A’i dir bwrdd a’i adar byw,
Peunod, crehyrod hoywryw;
Dolydd glân gwyran a gwair,
Ydau mewn caeau cywair,
Parc cwning ein pôr cenedl,
Erydr a meirch hydr, mawr chwedl;
Gerllaw’r llys, gorlliwio’r llall,
Y pawr ceirw mewn parc arall;
Ei gaith a wna pob gwaith gwiw,
Cyfreidiau cyfar ydiw,
Dwyn blaendrwyth cwrw Amwythig,
Gwirodau bragodau brig,
Pob llyn, bara gwyn a gwin,
A’i gig a’i dân i’w gegin.
Tim Peldroed Cymru
Oherwydd bod tȉm peldroed Cymru wedi cael llwyddiant ysgubol yn ddiweddar, mae dosbarth Mrs Marian Jones wedi bod yn astudio data am ein harwyr cenedlaethol. A chwarae teg i mr Meilyr Owen, daeth draw i`r dosbarth i sgwrsio gyda’r plant am ‘gapiau’ cenedlaethol, ac am y modd mae peldroedwyr yn ymarfer. Yna, cafwyd sesiwn sgiliau ardderchog ganddo, ac roedd Ina, ei wyres, wedi gwirioni gweld taid yn y dosbarth! Diolch yn fawr Meilyr! Ffordd arbennig o dda o dreulio ein diwrnod Ysgol Iach.
Cyngerdd Santes Dwynwen
Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi ein cyngerdd Santes Dwynen. Cafwyd pleser dibendraw yn gwrando ar ein disgyblion sy`n cael gwersi offerynnol yn yr ysgol yn perfformio; ein côr a rhai o ddisgyblion bl 2. Diolch i`n cerddorion: Mrs Sioned Webb Jones a Mr Huw Edward Jones am eu hymdrechion ac i bawb a ddaeth draw i`n cefnogi. Diolch hefyd i Ms Leanne, Anti Wendy, Anti Gillian, Anti Carol, am eu cymorth ac am y bara brith a`r bisgedi siap calon bendigedig!
Gwahoddiad i Lansiad Ynni Ogwen Cyf
Fel y gwyddoch, mae Partneriaeth Ogwen wedi bod yn datblygu cynllun Hydro cymunedol arloesol ar Afon Ogwen ers tua 2 flynedd. Cynllun cymunedol pur yw hwn. Cynllun rydym eisiau i’r gymuned ei berchnogi ac elwa ohono. Ysgrifennaf felly i’ch gwahodd yn gynnes i lansiad Ynni Ogwen Cyf yn Neuadd Ogwen ar y 27ain o Chwefror am 2 o’r gloch cliciwch yma i ddarllen y llythyr neu cliciwch yma i weld y poster
Dyddiad ar gyfer eich dyddiadur!
Ar Ddydd Sadwrn, Ebrill 23ain 2016 ar y cyd â chlwb rhedeg Eryri Harriers, byddwn yn cynnal Ras Moel Wnion (Moel Wnion fell race) yn yr ysgol. Caiff rasys i ddisgyblion hŷn a disgyblion Iau eu cynnal a bydd yr holl arian gaiff ei godi yn mynd tuag at yr ysgol. Mae’r CRHA wedi cytuno i helpu gyda`r trefniadau. Buasem yn hynod falch o gael gymorth rhieni ar y diwrnod yn ogystal.
Gallwch gynorthwyo mewn sawl ffordd, o helpu gyda parcio ceir, rhoi pobl mewn trefn, cadw amser, a darparu teisennau ar gyfer y rhedwyr! Mae hyn yn gyfle rhagorol i godi arian tuag at yr ysgol felly y gobaith yw gweld cymaint ohonoch a bo modd, (naill ai’n cymryd rhan neu’n cefnogi aelodau o’ch teulu).
Ceir tudalen gweplyfr ble gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y digwyddiad. (https://www.facebook.com/rasmoelwnion) neu gallwch gysylltu â threfnydd y ras sef: Mr Ross Roberts (tad Evie a Harry) ar 07834818553 neu ross.roberts@bangor.ac.uk am fanylion pellach.
Priodas a Phrofedigaeth
Roedd digwyddiadau mis Rhagfyr yn nheulu Cynan, yn dorcalonnus a dirdynnol. Ar ddydd Sadwrn Rhagfyr 12fed, priododd mam a tad Cynan sef Tracey a Geraint Jones yn ward Alaw, ond cwta ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, ffarweliodd Geraint â’r fuchedd hon. Daeth cynulleidfa gref ynghyd i’r gwasanaeth angladdol yn yr amlosgfa ym Mangor a thraddodwyd teyrnged rymys i’r diweddar Geraint Jones gan ei frawd, Lesley. Cydymdeimlwn o waelod calon gyda Cynan, Tracey Jones, Valerie a Islwyn Jones a’r teulu oll yn eu colled a’u galar o golli gŵr, tad, mab a chyfaill mor arbennig.
Sioe Tag
Cliciwch yma am fwy o fanylion
Gwobr Aur
Llongyfarchiadau i Ysgol Llanllechid ar ennill tystysgrif Gwobr Aur, Siarter Iaith.
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2012
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2013
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2014
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2015
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2015
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2016
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2017
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2018
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2019
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2020