Archif Newyddion - 2017
Muddy Mountain School Project (Saesneg yn unig...)
I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma
Ysgrifenwyr o Fri
Llongyfarchiadau i`r disgyblion a ddaeth i`r brig gyda chystadlaethau llenyddiaeth Eisteddfod Dyffryn Ogwen - ysgrifennu cerdd a stori. Ysgol Llanllechid gipiodd y gwobrau i gyd! Diolch i`r Prifardd Ieuan Wyn am y beirniadaethau. Mae`n anrhydedd i`n disgyblion gael sylw craff prifardd, s`yn ysgogi ac annog ein disgyblion i ddal ati i ysgrifennu.
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Yr Iaith Gymraeg
Yn ddiweddar, mae`r disgyblion wedi bod yn astudio hanes yr Iaith Gymraeg ac yn dysgu am yr holl ergydion sydd wedi dod i`w rhan ar hyd y blynyddoedd. Bu cryn drafod y ffaith mai, yn ôl y Cyfrifiad yn 2011; 562,000 o bobl oedd yn siarad Cymraeg, sef 19% o`r boblogaeth. Fel y gwyddom, y nôd erbyn 2050 yw sicrhau fod miliwn o bobl yn siarad Cymraeg! Wrth astudio ein hiaith, dysgwyd fod y Gymraeg yn deillio o`r Frythoneg, ac mae`n perthyn yn agos iawn i`r Gernyweg a`r Llydaweg.
Erbyn hyn, rydym yn ymwybodol iawn o`r Ddedf Uno 1536, a`i diben, sef: gwneud Cymru yn rhan o Loegr, gan ddiystyru diwylliant Cymru a`i hiaith yn gyfangwbwl. Wrth reswm, cafodd y ddeddf hon effaith bellgyrhaeddol ar y Cymry. Ond, daeth tro ar fyd yn 1588, pan gyfieithodd yr Esgob William Morgan y Beibl i`r Gymraeg. Er gwaethaf hyn, daeth ergyd arall, a hynny ar ffurf tri bargyfreithiwr: Johnson, Lingen a Symons. Gwnaethant arolwg ar Gymru gan deithio drwy`r wlad a chraffu ar yr ysgolion a`r ysgolion sul. Ymddangosodd eu hadroddiad mewn llyfrau gleision ar ddiwrnod Ffwl Ebrill 1847 ac fe`i hadwaenwyd, fel y gwyddom, yn Frad y Llyfrau Glesion. Un o`r ergydion nesaf? Wel, y Welsh Not, a chafodd y sytem hon ei chyflwyno yn 1850, a gwyddom yn dda am yr hanes hwnnw. Diolch byth am bobl fel Syr Ifan ab Owen Edwards a welodd yr anghyfiawnder ac a sefydlodd Urdd Gobaith Cymru yn 1922. Mae`r dyddiad, 1939 hefyd yn un gwerth i`w gofio, sef, y flwyddyn y sefydlwyd yr ysgol Gymraeg gyntaf yng Nghymru. Dim ond megis codi cwr y llen ydan ni wedi llwyddo i`w wneud hyd yma; mae llawer mwy na hyn i`n hanes wrth gwrs, ond rydym yn cael blas garw yn ymbalfalu a thyrchio i mewn i`n gorffennol. Cyn cloi, rhaid crybwyll yr actor Llion Williams a ddaeth draw i`n hysgolion ac a wnaeth argraff ar y plant a`r athrawon fel ei gilydd drwy ei actio medrus a chyflwyno perfformiad a fydd yn aros yn y côf am byth!
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!
Dymuniadau gorau i un ac oll am Nadolig dedwydd a phob dymuniad da ar gyfer 2018 am flwyddyn newydd hapus a heddychlon.
Ffair Lyfrau
Diolch i bawb am ddod draw i gefnogi`r Ffair a diolch i Siop Ogwen am fod mor barod i ddod draw gyda`u stondin. Chewch chi ddim byd gwell na llyfr Cymraeg o Siop Ogwen yn anrheg Nadolig!
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Plant Mewn Angen a Bocsys Nadolig
Diolch yn fawr i bawb am gefnogi Plant Mewn Angen. Codwyd £328.71 at yr achos da hwn. Bu`r disgyblion hefyd yn brysur yn llenwi bocsys Nadolig. Diolch i bawb.
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Canolfan Grefftau Rhuthun
Aeth disgyblion blwyddyn 6 i Ganolfan Grefft Rhuthun i weld gwaith celf llawer o grefftwyr, gan gynnwys gwaith brodwaith, crochenwaith, darluniau a thecstiliau. Roedd yr Oriel yn ffau ddifyr, llawn ysbrydoliaeth! Cafwyd cyfle i weithio mewn gwahanol gyfryngau gan gynnwys clai, tecstiliau a phaent a diolch i Kate a Donna am weithio gyda’r plant ar eu campweithiau. Clamp o ddiolch hefyd i Mrs Anna Griffiths, ein hartist am ei doniau!
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Blwyddyn Derbyn - Ymweliad Carys Ofalus
Fel rhan o’n thema Pelydru a Thywynnu daeth Carys Ofalus i’r ysgol i ddysgu’r plantos am bwysigrwydd gwrando a gwylio wrth groesi’r lon. Cath ydy Carys a chafodd y plant y stori drist fel y bu i Carys frifo ei chynffon am nad oedd wedi pwyllo a chymryd gofal wrth groesi’r lon. Cafodd y plant hefyd gyfle i weld a gwisgo dillad fflwroleuol sydd yn adlewyrchu ac yn eu helpu i gadw’n ddiogel wrth gerdded gan ei bod yn tywyllu’n fuan.
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Eisteddfod Dyffryn Ogwen
Un o brif ddigwyddiadau ar ein calendr yma yn Ysgol Llanllechid yw Eisteddfod Dyffryn Ogwen! Unwaith eto eleni, fe heidiodd plant yr ysgol draw i Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen i gystadlu. Daeth cant a mil o wobrau i`n hysgol a llongyfarchiadau i bob copa walltog fu ar y llwyfan, o`r ieuengaf i`r hynaf. Yr un yw ein llongyfarchion i’r rhai gafodd lwyddiant gyda gwaith celf a chrefft a llenyddiaeth. Diolch i bawb fu’n hyfforddi a diolch arbennig i Mrs Helen Williams, ac i Mrs Menai Williams a ddaeth i gyfeilio i’n côr buddugol! Gweler gwefan Ysgol Llanllechid am fwy o fanylion: ysgolllanllechid.org
Cliciwch yma i weld y canlyniadau
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Actio, Canu a Dawnsio
Cafodd disgyblion Blwyddyn 5 y fraint o gymryd rhan yn yr agoriad swyddogol Llwybr Llechi Eryri yn Neuadd Ogwen yn ddiweddar. Roedd yn ddigwyddiad pwysig iawn, gydag enwogion fel Dafydd Wigley a Rhys Mwyn, ymysg eraill, yn siaradwyr gwadd; cwmni teledu yn recordio’r holl gyffro, a dwy o’n disgyblion, sef Chenai a Mari Watcyn yn cael eu cyfweld gan Gerallt Pennant ar gyfer rhaglen HENO.
Bu’r plant yn gysylltiedig â’r prosiect ers tua blwyddyn, a chafwyd cyd-weithio gwych rhwng yr ysgol â Ms Anita Daimond, y Swyddog Cyswllt Ysgolion. Roedd y cyfan wedi’i glymu’n hwylus gyda thema’r dosbarth ar y pryd, sef hanes lleol, a chyfnod Streic y Penrhyn ac mae`r gwaith wedi cael cydnabyddiaeth gan ESTYN fel arfer Rhagorol yn un o`u cyhoeddiadau diweddar. Roedd y disgyblion wedi bod yn astudio hanes Côr Merched Bethesda yn y cyfnod, - sef y côr a deithiodd ar hyd a lled Prydain yn cynnal cyngherddau i godi arian i deuluoedd y streicwyr. Roeddent yn perfformio sioe gerdd wefreiddiol am yr hanes. Lluniwyd y sgript, gan Mrs Marian Jones, oedd yn seiliedig ar wybodaeth wreiddiol a gafwyd gan Mrs Brenda Wyn Jones, gan mai nain Mrs B.W Jones oedd Mary Ellen Parry, arweinyddes y côr! Wrth gwrs, cafwyd perfformiadau bendigedig gan y plant ar lwyfan Neuadd Ogwen, - canu gwych ac actio ardderchog! Roedd yn brofiad hyfryd i bawb! Diolch i Mrs Marian Jones a Mr Huw Edward Jones. Diolch hefyd i Dilwyn Llwyd am ein cynorthwyo gyda`r trefniadau yn Neuadd Ogwen ac i Gor y Penrhyn am gael benthyg y piano.
Y Brodyr Gregory
Wel! Dyna amser braf a gawsom yn y neuadd yng nghwmni`r Brodyr Gregory a Sian Beca o Rownd a Rownd. Digon o hwyl a sbri a wynebau ein plantos yn werth eu gweld! Cafwyd caneuon doniol ac actio gwych, a hynny hefyd gan aelodau o`r staff! Da iawn Ms Katherine a Ms Anna am ymuno yn yr hwyl! Sioe oedd hon am bwysigrwydd ailgylchu, ac edrych ar ôl ein hamgylchedd, a throsglwyddwyd negeseuon pwysig drwy'r perffromiadau pwerus! Diolch o galon am alw draw yn Ysgol Llanllechid!
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Gwobrau Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt Prydain 2017
Enillydd categori Dan 12: Oliver Teasdale, Ysgol Llanllechid. Ym mis Mai 2017, ymwelodd Ollie ag Ynys Sgogwm, oddi ar Arfordir Sir Benfro, gyda’i Dad am wythnos o wylio adar a ffotograffiaeth. Tra’n eistedd mewn man cudd, sylwodd Ollie ar aderyn pâl yn dod allan o’i wâl, ond roedd wedi ei guddio gan gludlys oedd yn tyfu o amgylch. Gan ymateb yn chwim, llwyddodd Ollie i dynnu lluniau o’r aderyn pâl. Mae’r gystadleuaeth genedlaethol hon yn dathlu pryderthwch ac amrywiaeth bywyd gwyllt Prydain. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo, oedd yn cael ei chyflwyno gan arlywydd yr RSPB a’r cyflwynydd teledu, Miranda Krestovnikoff yn y Mall Galleries, Llundain ar 8fed Tachwedd 2017. Ceir gwybodaeth bellach yn www.bwpawards.org.Ymddangosodd darlun Ollie yn y Sunday Times. Mae pawb ohonom yn Ysgol Llanllechid yn dymunod`n dda ac yn llongyfarch Ollie i`r cymylau ar ei lwyddiant!
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Diolch yn Fawr
Diolch yn fawr iawn i`r Dr Elwyn Hughes am adnoddau gwerth chweil ar ein cyfer yn Ysgol Llanllechid. Adnoddau o`r Ganolfan Astudiaethau Iaith ydynt ac mae perlau yn eu mysg. Diolchwn yn fawr am yr holl adnoddau defnyddiol hyn.
Llythyr Dafydd
Un bore ym mis Tachwedd, atebodd Ms Leanne y ffôn, a phwy oedd y pen arall ond Mr John Glyn, ewythr Dafydd a Danial Jones! Ymateb oedd Mr Glyn i lythyr oedd wedi cael ei anfon ato gan Dafydd, yn gofyn iddo ymweld â’r ysgol yn rhinwedd ei swydd fel cyfarwyddwr ar raglen Byd Adar, Iolo Williams. Diolch yn fawr i Daniel am ysgrifennu`r llythyr! O ganlyniad i`r llythyr, cawsom gyflwyniad bendigedig yn neuadd yr ysgol gan Mr Glyn ar arferion ein hadar a’u cynefinoedd. Diolch yn fawr am ddod draw atom, a chofion cynnes at Lowri a`r plantos!
Diolch yn Fawr
Diolch yn fawr iawn i`r Dr Elwyn Hughes am adnoddau gwerth chweil ar ein cyfer yn Ysgol Llanllechid. Adnoddau o`r Ganolfan Astudiaethau Iaith ydynt ac mae perlau yn eu mysg. Diolchwn yn fawr am yr holl adnoddau defnyddiol hyn.
Gwobrau Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt Prydain 2017
Enillydd category Dan 12: Oliver Teasdale, Ysgol Llanllechid
Yn mis Mai 2017, ymwelodd Ollie ag Ynys Sgogwm, oddi ar Arfordir Sir Benfro, gyda’i Dad am wythnos o wylio adar a ffotograffiaeth a gwelsant bob math o adar gwhanol yn ystod yr wythnos. Ymhlith y rhain roedd: aderyn drycin, aderyn drycin Manaw, cynffonwen, hebog tramor, gwylog, gwalch y penwaig a’r aderyn pâl.
Roedd llawer o adar pâl allan ar y môr, ond roedd braidd yn gynnar yn y tymor iddynt fod ar y lan yn paratoi ar gyfer y tymor nythu i ddod. Fodd bynnag, daeth rhai adar ar y lan, gan fynd i`w gwâl, eraill yn crwydro tu allan i`w gwâl am gyfnodau byr, cyn dychwelyd at y gweddill allan ar y tonau.
Tra’n eistedd mewn man cudd, sylwodd Ollie ar aderyn pâl yn dod allan o’i wâl, ond roedd wedi ei guddio gan gludlys oedd yn tyfu o amgylch. Gan ymateb yn chwim, llwyddodd Ollie i dynnu lluniau o’r aderyn pâl. Gwnaeth y darlun argraff fawr ar ei Dad; yn wir, roedd ychydig yn eiddigeddus, ond yn rhyfeddu at yr ennyd mewn amser a …. Ollie ar gamera!
Penderfynodd tad Ollie anfon y llun at Wobrau Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt Prydain o dan y gystadleuaeth categori dan 12. Mae’r gystadleuaeth genedlaethol hon yn dathlu pryderthwch ac amrywiaeth bywyd gwyllt Prydain. Dychmygwch ein llawenydd pam y bu inni ganfod fod Ollie wedi dod yn fuddugol yn y categori hwn!
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo, oedd yn cael ei chyflwyno gan arlywydd yr RSPB a’r cyflwynydd teledu, Miranda Krestovnikoff yn y Mall Galleries, Llundain ar 8fed Tachwedd 2017.
Bu Ollie yn sgwrsio gyda llawer o ffotograffwyr bywyd gwyllt gorau Prydain, y noson honno, cyn derbyn ei wobr. Roedd hi`n noson arbennig iawn!
Ceir gwybodaeth bellach yn www.bwpawards.org
Ymddangosodd darlun Ollie yn y Sunday Times, a galwyd y darlun yn PEEK-A-BOO. Chwiliwch yn rhifyn Tachwedd 5ed ac ewch i dudalen dud 27.
Mae pawb ohonom yn Ysgol LLanllehcid yn dymunod`n dda ac yn llongyfarch Ollie i`r cymylau ar ei lwyddiant!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Y Brodyr Gregory
Wel! Dyna amser braf a gawsom yn y neuadd yng nghwmni`r Brodyr Gregory a Sian Beca o Rownd a Rownd. Digon o hwyl a sbri a wynebau ein plantos yn werth eu gweld! Cafwyd caneuon doniol ac actio gwych, a hynny hefyd gan aelodau o`r staff! Da iawn Ms Katherine a Ms Anna am ymuno yn yr hwyl! Sioe oedd hon am bwysigrwydd ailgylchu, ac edrych ar ôl ein hamgylchedd, a throsglwyddwyd negeseuon pwysig drwy'r perffromiadau pwerus! Diolch o galon am alw draw yn Ysgol Llanllechid!
Am ragor o luniau cliciwch yma
Dyma`r rhaglen ar gyfer dathlu agoriad Llwybr Llechi Eryri a dathliadau 50 mlynedd o Gymdeithas Eryri - cliciwch yma
Am yr agoriad - cliciwch yma
Am yr rhaglen - cliciwch yma
Hwyl Calan Gaeaf i'r Teulu
I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma
Ffair Wybodaeth ADYaCh
Croeso i Rieni, Athrawon a Llywodraethwyr Ysgolion Cynradd ac Uwchradd
I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma
Ffarwelio a Chroesawu
Dymuniadau da a diolch i Ms Holly a Ms Elin Mair. Braf cael dweud fod y ddwy wedi dechrau ar eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi, ar ôl derbyn profiadau lu yn Ysgol Llanllechid dros y blynyddoedd. Pob dymuniad da i chi eich dwy. Mae`r ddwy yn dilyn ôl troed Ms Ceri, sydd erbyn hyn, yn gweithio fel athrawes yn Ysgol Rhiwlas. Cofion atoch Ms Ceri! Dymuniadau da a diolch hefyd i Mrs Rhian Jones, sydd wedi dychwelyd i weithio yn y chwarel – ond y tro hwn i fwyty Blondin ym myd y Weiren Wib! Edrychwn ymlaen at gael dod draw yn fuan am bryd o fwyd blasus Rhian! Gwelwyd y bwyty yn ddiweddar ar raglen Heno ac mae`n edrych yn anhygoel! Croeso cynnes i Ms Lliwen a Ms Thelma, sydd eisioes wedi setlo hefo ni yn arbennig o dda.
Ffair Ysgol Llanllechid
Roedd Ffair Hydref yr ysgol ddiwedd mis Medi yn llwyddiant ysgubol o’r dechrau i’r diwedd, er gwaethaf y gawod drom! Pleser ac anrhydedd mawr oedd cael Deian a Loli i agor y FFair, ac roedd ciw hir o blant yn aros yn amyneddgar ar gyfer derbyn y posteri ac, wrth gwrs, eu llofnodion! Ychwanegodd Sarah Louise a’r Band, a’r Dawnswyr Morus at awyrgylch y prynhawn – hyfryd dros ben!
Cafwyd cefnogaeth aruthrol gan yr ardal gyfan, a diolchwn i chi i gyd am fod mor barod i gefnogi Ysgol Llanllechid, blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae eich caredigrwyd a`ch haelioni fel ardal destun rhyfeddod dro ar ol tro aq gwerthfawrogir y cyfan yn fawr iawn. Diolch arbennig i’r Pwyllgor gweithgar am eu holl waith diflino wrth drefnu a pharatoi ar gyfer y diwrnod mawr ac i bawb a fu’n helpu yn y gegin ac ar y stondinau amrywiol.
Gwnaethpwyd elw o dros £1,800, sy’n swm anrhydeddus i’w ychwanegu at gronfa’r ysgol. Bydd yr arian yn ddefnyddiol iawn ar gyfer cynorthwyo gyda’n teithiau addysgol yn y dyfodol. Diolch yn fawr unwaith eto i bob un ohonoch.
Cliciwch yma i weld y lluniau
Priodas
Llongyfarchwn Ms Anna a Dewi, ei gŵr ar eu priodas yn ddiweddar. Cafwyd dathliad hyfryd ym Mhortmeirion a`r briodferch a`r briodfab yn edrych yn hynod o hardd. Pob dymuniad da i chi eich dau i`r dyfodol.
Dosbarth Meithrin
Erbyn hyn, mae ein plant Meithrin wedi hen setlo yn yr ysgol a braf eu gweld wrthi`n ddiwyd yn ymwneud â`r gwahanol dasgau ac yn paratoi at y cyflwyniad Diolchgarwch, a gynhelir ar Hydref 27. Croeso cynnes i bawb!
Capel Carmel
Unwaith eto eleni, braint yn wir oedd cael mynd draw i Gapel Carmel i`r Gwasnaeth Diolchgarwch i ryfeddu at ddoniau ein plant bach a gwerthfawrogi cyfranaid y disgyblion sy`n eu harddegau, sef y Clwb Dwylo Prysur. Braf eich gweld pob un a llongyfarchion am eich holl lwyddiannau mewn amrywiol feysydd. Yn ôl yr arfer, roedd capel Carmel wedi ei addurno`n hyfryd ac yn werth ei weld. Braf hefyd gwrando ar y plant yn canu ein hoff emyn diolchgarwch, sydd wedi cael ei ddysgu ar y cyd rhwng yr ysgol sul a`r ysgol sef:
O diolch i`r Iesu,
O diolch i Dduw
Am ffrwythau y ddaear
I`n cadw yn fyw ;
Am fwyd ac am ddillad,
Am deulu a thân,
Am gartref a chapel
Ac adnod a chân.
Am nerth ac am iechyd
I chwarae yn rhydd,
Diolchwn i`r Iesu
Yn ddidwyll bob dydd;
Meddyliwn am eraill
Sy`n arw eu byw,
A chofiwn amdanynt
Wrth ddiolch i Dduw
Diolch arbennig iawn i Mrs Helen Williams a`i thîm: Mrs Wendy Jones, Mrs Helen Roberts, Mr Northam, Mrs Ann Marie Jones a Mrs Magi Bryn am eu holl ymroddiad a`i gwaith caled. Diolch hefyd i Mari Rowlinson am ei chymorth hithau. A chofiwch fod yna Ysgol Sul gref i blant o oedran 3+ yng Nghapel Carmel, sy`n cyfarfod pob dydd Sul o 10.30 – 11.30a.m. lle caiff plant gyfleoedd i ganu, cymryd rhan mewn sioeau, creu gwaith Celf a.y.b. Cofiwch hefyd am Ysgol Sul Capel Jeriwsalem (10 – 11 a.m) lle mae nifer helaeth o`n disgyblion yn mynychu.
Parchedig John Pritchard
Diolch i`r Parchedig John Pritchard am ddod draw i`n hysgol i gynnal gwasnaethau boreol. Cyflwynwyd nifer o straeon, ac roedd y plant yn glustiau i gyd, yn enwedig wrth wrando ar stori Samuel ac Eli.
Coed Eithinog
Fel rhan o'r thema am fwystfilod bychan cafodd disgyblion blwyddyn 6 froe difyr dros ben yng Nghoed Eithinog yng nghwmni Mr Ben Stammers, tad Mabon. Cafwyd hyd i lawer o fwystfilod bychan, a'r plant yn dysgu cymaint, diolch i arbenigedd Mr Stammers.
Moel Wnion
Aeth disgyblion blwyddyn 6 ar daith gerdded fendigedig i gopa Moel Wnion gyda Mr Stephen Jones, tad Dafydd a Daniel o Gwmni Anelu a Mr Cemlyn Jones. Ar ddiwrnod sych a heulog, cafwyd golygfeydd godidog a chyfle i ddysgu llawer am enwau a hanes ein hardal leol. Cyn dychwelyd, achubwyd ar y cyfle i fynd i ben Moel Faban, yn ogystal. Dyma griw o blant egniol a heini fydd yn llwyddo i gerdded yr Wyddfa yn nhymor yr haf y flwyddyn nesaf, yn llawn brwdfrydedd!
Beicio
Mae beicio ar hyd ein lonydd yn un o'r ffyrdd gorau a mwyaf pleserus o gadw'n iach, ond wrth gwrs rhaid bod yn ddiogel. Yn ystod y mis bu disgyblion blwyddyn 6 yn perffeithio eu sgiliau beicio ar hyd y lonydd lleol gan ddysgu am dermau megis safle cynradd a safle eilaidd. Diolch i'r hyfforddeion.
KiVa
Daeth dwy aelod o staff KiVa o'r Ffindir i ymweld ag Ysgol Llanllechid, gan edrych ar y ffordd barchus a bonheddig y mae ein disgyblion yn ymddwyn tuag y naill a`r llall. Gwelwyd hefyd sut ydym yn gweithredu'r cynllun KIVA, gwrth-fwlio yma. Cafwyd prynhawn difyr a`r disgyblion yn llwyddo i drafod yn dreiddgar a sensitif.
Taith Natur
Cafodd dosbarthiadau Mrs Marian Jones, Mrs Bethan Jones a Mrs Nerys Tegid ddiwrnod hyfryd yn astudio coed a ffrwythau’r Hydref mewn dau leoliad ar Ynys Môn. Yn y bore, cawsom grwydro gerddi a choedwig Plas Newydd, gan ddysgu am y coed, yn ogystal â bod ddigon ffodus i weld gwiwerod coch yn crwydro’u cynefin naturiol. Yn y p`nawn cawsom gwmni’r naturiaethwr enwog [a tad Mabon], Mr Ben Stammers. Cawsom ein tywys i goedwig Borthamel, a chael dysgu am bob math o greaduriaid a phlanhigion gwyllt. Rhyfeddwyd pawb gan ei wybodaeth; diolch yn fawr Mr Stammers am ein goleuo i gyd!
Cliciwch yma i weld y lluniau
Taith Dosbarth Derbyn
I gydfynd gyda`r thema Blasus a‘r gân ‘Tu ôl i’r dorth mae’r blawd’, cafodd blwyddyn Derbyn drip i Melin Llynnon yn Llanddeusant i weld sut mae grawn yn cael ei falu a’i droi yn flawd. Tra roedd Rhys yno yn adrodd hanes y felin a sut roedd y melinydd yn malu grawn wrth un ciwed o blant, aeth y criw arall gyda Sam i ymweld â thai crynion y Celtiaid, er mwyn dysgu sut roedd pobl yn ffermio flynyddoedd yn ôl. Cafwyd cyfle hefyd i ymweld ag adfeilion hen fecws Llynnon. Cafwyd diwrnod arbennig o dda, a diolch i Ms Llinos Parry am fynd i`r safleoedd hyn y dydd Sadwrn blaenorol, i sicrhau llwyddiant y daith.
Cafodd Dosbarth Derbyn hefyd daith i archfarchnad ym Mangor i ddysgu mwy am fwydydd.
Taith Blwyddyn 1
Bu dosbarth Mrs Rona Williams yng Nglynllifon a Chastell Penrhyn yn dysgu am gynefinoedd a`r goedwig. Bu gwrando astud ar chwedl Cimlyn Troed Ddu a chafodd pawb gyfle i adrodd a chofnodi`r stori hon yn ôl yn yr ysgol. Cafwyd cyfle i grwydro o amgylch gerddi Castell Penrhyn.
Nofio a Plas Ffrancon
Ar hyn o bryd, mae dosbarth Mr Stephen Jones yn nofio ac yn cael hwyl dda arni. Mae dosbarth Mrs Marian Jones yn cael hwyl hefyd ym Mhlas Ffrancon yn datblygu sgiliau pel. Diolch i staff Plas Ffrancon am eu cymorth.
Lansiad Mis Hanes Pobl Dduon 2017
Dydd Sadwrn 30 Medi
I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma
Dysgwch Gymraeg Efo Ni
![]() |
![]() |
![]() |
Bethesda |
Llanberis |
Bangor |
Bara Caws
Dim Byd Ynni - Rhestr o Dyddiadau - cliciwch yma
Datganiad ir Wasg - Dim Byd Ynni - cliciwch yma
Childhood Influenza Vaccination (Saesneg yn unig...)
I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma
Mynediad i Ysgol Gynradd Medi 2018
I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma
Haf hapus!
Haf hapus i bob un ohonoch a bydd y disgyblion yn ol yn yr ysgol ar Fedi 5ed!
Sioe Dyffryn Ogwen
Daeth llu o wobrau i`r ysgol ym maes Celf a Chrefft. Llongyfarchiadau i bawb a fu`n cymryd rhan ac i bawb a fu`n ddigon ffodus i gael gwobr!
Ffarwelio
Ffarweliwyd â 40 o ddisgyblion yr haf hwn mewn cyfarfod arbennig ar ddiwrnod olaf y tymor. Cafwyd cyfarfod arbennig iawn, a`r disgyblion yn cyfrannu`n ddoeth ac yn aeddfed. Pob dymuniad da i bob un ohonoch y nein cylchoedd newydd.
Avantika
Braint oedd bod yn nghwmni Avantika Sherma, prifathrawes o`r India yn ystod wythnos olaf y tymor! Cafwyd profiadau campus yn ei chwmni, ac ategodd ei hymweliad yn arwyddocaol tuag at ein rhagleni Addysg Byd Eang.
Llyfr Rysetiau
Mae cyfeillion yr ysgol yn awyddus i gynhyrchu llyfr ryseitiau arbennig i Ysgol Llanllechid. Os oes gennych rysait yr hoffech ei rhannu a fuasech cystal ag e bostio Angharad Llwyd Beech ar angharadllwyd@hotmail.com pan gewch gyfle. Diolch yn fawr.
Glynllifon
Aeth blwydyn 4 i Glynllifon er mwyn dysgu am bobol sy’n gweithio gydag anifeiliaid, a bywyd cefn gwlad. Cafwyd cyfle i bysgota, ac i weld adar a chwn hela yn cael eu hyfforddi. Dysgwyd am anifeiliaid fel y wiwer goch, tylluanod, ffesantod, dyfrgwn a phob math o greaduriaid. Diwrnod gwerth chweil!
Clwb Hanes Rachub
Cafodd dosbarth blwydyn 4 wahoddiad gan Glwb Hanes Rachub i roi cyflwyniad i’r aelodau ar yr hyn a ddysgwyd yn eu dosbarth am eu hanes lleol. Bu dros 30 o ddisgyblion yn brysur iawn yn canu ac yn actio hanesion a seiliwyd ar fywydau cymeriadau arbennig o’r ardal, sef Madam Chips, Robat Jôs Gwich, William Morgan, William Griffith Hen Barc a William Ellis Williams. Roedd y plant ar eu gorau, a’r gynulleidfa wedi gwirioni. Diolch i bawb a diolch i Mrs Marian Jones am ei gwaith.
Athletau
Llongyfarchiadau i dim ras gyfnewid yr ysgol sef Efa, Tiah, Madeline ac Ella ar ddod i’r brig yng nghystadleuaeth Eryri. Llongyfarchiadau yn ogystal i Madeline ar ennill y wobr gyntaf yn y ras traws gwlad i ferched blwyddyn 5 yn y Faenol yn ddiweddar. Rydym yn falch iawn ohonoch i gyd!
Noson ffilm
Braf oedd gweld neuadd yr ysgol yn orlawn ar gyfer dau ddangosiad o ffilmiau fel rhan o waith bendigedig cyfeillion yr ysgol. Rydym bob tro yn ddiolchgar i’r cyfeillion am eu gwaith yn codi arian ar gyfer yr ysgol ac roedd y syniad diweddaraf hwn yn boblogaidd iawn gyda’r disgyblion. Ac yn ôl pob sôn, roedd y popcorn yn flasus iawn hefyd!
Mrs Helen Williams
![]() |
![]() |
Mae gennym feddwl mawr o Mrs Helen Williams yn Ysgol Llanllechid. Mae hi’n berson arbennig iawn ac yn halen y ddaear. Ond mae’n debyg fod gan Mrs Williams dipyn o feddwl o blant yr ysgol hefyd, oherwydd cafodd disgyblion y dosbarth derbyn ymweliad yn ddiweddar gan Mrs Williams. A wyddoch chi be? Roedd ganddi fasged yn ei dwylo yn llawn o dedis bach oedd Mrs Williams wedi eu gweu ar gyfer y plant. Roedd pob tedi wedi cymryd rhyw awr i Mrs Williams eu gweu – tipyn o ymdrech a’r cyfan oherwydd ei bod wedi ei swyno gan gyfraniadau y plant mewn cyngherddau yn ystod y flwyddyn. Roedd yr hol lblant yn ddiolchgar iddi, ac un wedi mynd i gryn drafferth i ysgrifennu cerdyn diolch arbennig yn ôl i Mrs Williams. Oedd wir, roedd Ela Lois Williams wedi ysgrifennu cerdyn hyfryd i Mrs Williams a’r ysgrifen arbennig yn lliwiau’r rhuban oedd o amgylch gwddw y tedi. Diolch i Mrs Williams am fod mor garedig ac i Ela am ei ymdrech gampus.
Eisteddfod Llangollen
Ar ddiwrnod chwilboeth o hâf aeth disgyblion blynyddoedd 2 a 3 i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i gael blas ar ddiwylliant a cherddoriaeth y byd. Cawsant sesiwn ddifyr yn gwrando ar gerddoriaeth o Peru gan ryfeddu at yr offerynnau traddodiaol sydd yn cael eu chwarae yno. Yn ogystal roeddent wedi dotio ar y breichledau hyfryd a arddangoswyd gan frodorion o India. Roedd eraill wedi rhyfeddu gyda’r tylluanod a’r holl ddawnsio, a chael cyfarfod plant o ysgolion eraill! Ond mae’n siwr mai un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd cael mwynhau’r hufen ia blasus yn y gwres tanbaid!
Llyn Brenig
Bu disgyblion blynyddoedd 2 a 3 ar daith arbennig i Llyn Brenig yn dysgu llawer am fyd natur. Buont yn trochi yn y pwll yn chwilio am bryfetach, gan edrych yn ofalus drwy’r meicrosgôp, yn ogystal a cherdded o amgylch y llyn. Cawsant sesiwn hefyd yn dysgu am ailgylchu a pha mor bwysig yw’r ymdrech honno er mwyn gwarchod ein byd a’r amgylchedd.
Rhieni newydd
Cafwyd prynhawn bendigedig ar ddechrau mis Mehefin wrth i’r ysgol groesawu disgyblion y dyfodol a’u rhieni. Roedd y neuadd yn orlawn a chafwyd prynhawn difyr o rannu gwybodaeth am yr ysgol gan Mrs Davies Jones yn ogystal a straeon gan y disgyblion. Bu’r plant bach yn brysur yn chwarae ac yn peintio, ac roeddent yn ddigon o sioe! Croeso cynnes atom i Ysgol Llanllechid.
Yr Wyddfa
Gan ddilyn yr arferiad blynyddol, fe lwyddodd disgyblion blwyddyn 6 i gyrraedd copa’r Wyddfa dan arweiniad Cemlyn Jones a Morfudd Thomas. Roedd y disgyblion yn wych – yn llwyddo i gyrraedd y copa gan ymfalchio yn eu sgiliau o weithio fel tîm. Diolch i Mr Huw Edward Jones a Mr Stephen Jones am sicrhau profiadau bendigedig i’r plant, a llongyfarchiadau i Mrs Davies Jones ac i Miss Nicola ar eu camp hwythau o gyrraedd y copa gyda`r plantos!
Cydymdeimlo
Gyda thristwch mawr y derbyniodd yr ysgol y newyddion ysgytwol am farwolaeth Mr Dylan Richard Rowlands, sef tad Dion, sydd yn ddisgybl ym Mlwyddyn 2. Mae ein cofion anwylaf tuag atoch chi fel teulu yn ystod yr amser anodd hwn.
Côr Ysgol Llanllechid yn y Galeri, Caernarfon
Bu côr Ysgol Llanllehcid yn perfformio mewn cyngerdd arbennig yn y Galeri, Caernarfon gan ddilyn thema`r Mabinogi ar gân gydag artistiaid eraill yn cynnwys Côr Ieuenctid Môn, Côr Siambr William Mathias a Mair Tomos Ifans yn storiwraig. Diolch i Mr Huw Edward Jones am ei waith yn hyffordidi`r côr i safon mor uchel. Cafwyd noson fendigedig a’r côr yn perfformio dwy gân yn llawn arddeliad gyda chyfeiliant arbennig Mrs Ann Peters Jones. Diolch i Mrs Sioned Webb ac i Mr arfon Gwilym am eu rhodd garedig i Ysgol Llanllechid. Diolch i’n rhieni bendigedig am bob cymorth, ac i’r plant fel arfer am roi eu gorau glas.
Gwyl Gyfeiriannu Pencampwriaeth Gwynedd
Llongyfarchiadau i Jack Thomas a Gwion Pritchard ar ddod yn ail yn y bencampwriaeth hon, ac i William ac Ursula ar ddod yn bumed. Camp yn wir, a braf gweld ein disgyblion yn serennu!
Llyfr Coginio
Mae cyfeillion yr ysgol yn awyddus i gynhyrchu llyfr ryseitiau arbennig i Ysgol Llanllechid. Os oes gennych rysait yr hoffech ei rhannu a fuasech cystal ag e bostio Angharad Llwyd Beech ar angharadllwyd@hotmail.com cyn gynted a bo modd. Diolch yn fawr.
Canlyniadau Sioe Dyffryn Ogwen
Bu`r ysgol yn brysur yn cefnogi`r Adran Celf a Chrefft Sioe Dyffryn ogwen a diolchir i bawb a fu`n arwain yn enwedig Anna Pritchard, sy`n seren!
Cliciwch yma i weld y canlyniadau
Mabinogi Ar Gân
I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma
Bwydlen 2016 - 17
I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma
Ras Ieuenctid Yr Wyddfa
Poster Ras Ieuenctid Yr Wyddfa - cliciwch yma
Pellter Ras Ieuenctid Yr Wyddfa - cliciwch yma
Ffurflen Cofrestru Ras Ieuenctid Yr Wyddfa - cliciwch yma
Athletau
Amser: 5:30-7yh
Oedran: 5-12 oed
Pris: £2.50 pob sesiwn
Lleoliad: Trac Athletau Treborth
I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma
Cartref Marbryn Caernarfon
Dydd Iau 25ain fe aeth dosbarth Mrs Rona Williams i ymweld a chartef yr henoed yng Nghaernarfon. Cafwyd croeso cynnes iawn gan y staff a’r trigolion. Bu cyfle i’r plant sgwrsio a chymdeithasu yn opgystal a chanu caneuon traddodiadol o dan arweiniad Mrs Ann Hopcyn, sydd yn ymweld a’r cartref yn wythnosol. Fe baratowyd gwledd ar ein cyfer ac roedd y plant wrth ei bodd yn cael helpu i weini’r bwyd. Braf oedd gweld y plant a’r trigolion yn mwynhau cwmni ei gilydd. Diolch yn fawr am y croeso a diolch i Mr Michael Downey, ein myfyriwr, am drefnu`r daith i ni.
Caerdydd
Y daith orau eto! Bythgofiadwy! Bendigedig! Dyna rai o eiriau disgyblion blwyddyn 6 wrth iddynt drafod eu hamser ar y daith breswyl i Gaerdydd. Unwaith eto, mae gennym achos i fod yn falch iawn o`n disgyblion. Nid ar chwarae bach mae mynd â phlant ar daith i Gaerdydd, yn enwedig yn y dyddiau sydd ohoni, a rhaid eu canmol i`r cymylau am eu hymddygiad boneddigaidd, aeddfed, sy`n glod i`n staff gofalgar ac i chi`r rhieni. Diolch i Anti Wendy a Ms Leanne am drefnu`r daith ac i Mr Huw Jones am arwain gyda chymorth Mr Stephen Jones, Ms Nicola a Ms Angharad. Diolch yn fawr. Gobeithio eich bod i gyd yn cael cyfle i edrych ar ein gwefan.
Am ragor o luniau cliciwch yma
Dymuniadau Da
Diolch a dymuniadau da i Dianne Jones oddi wrthym i gyd yn Ysgol Llanllechid.
Pob Lwc!
Dymuniadau da yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Taf Elai i Gwenno Beech, Lois ac Efa Jones yn ogystal â Chenai Chicanza, Mari Watcyn, Ffion Tipton, Hanna Jones a Seren Mai. Rydym yn falch iawn ohonoch gan eich bod yn ein cynrychioli ni i gyd yn yr Eisteddfod!
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau gwresog i Gwenno Llwyd Beech ar ei champ! Ail am ganu cerdd dant yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Men y Bont! Rydym i gyd yn falch iawn ohonat, Gwenno! Braf cael enillydd cenedlaethol yn ein hysgol! Da iawn i bawb o Adran yr Urdd Dyffryn Ogwen ar eu perfformiadau hwythau yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Am ragor o luniau cliciwch yma
Ymweliad dosbarth Mrs Tegid â Gelli Gyffwrdd
Yn ddiweddar fel rhan o’u gwaith Gwyddoniaeth ar Grymoedd bu disgyblion blwyddyn 5 ar daith i Barc Hamdden Gelli Gyffwrdd ym Mhentir. Daeth perchennog y Parc, Mr Bristow atom am yr awr gyntaf i’n tywys o gwmpas y parc yn trafod rôl grymoedd yng ngwaith y parc. Cawsom sgwrs ddifyr am sut oedd grym dynol yn gwneud i’r Rolarcostar y Ddraig werdd weithio. Yn ogystal soniodd am sut oedd y syniadau’r chwarelwr flynyddoedd maith yn ôl i symud glô a llechi yn cael ei ddefnyddio yn effeithiol yn y parc. Hefyd soniodd am ddull y parc o ddefnyddio ynni glân fel dŵr glaw a ynni’r haul yn llwyddiannus yno. Roedd y plant wedi rhyfeddu ac yn awyddus iawn i holi mwy. Cafodd y disgyblion gyfle wedyn i fynd ar eu hoff atyniadau. Mae’n siwr mai’r reid ddŵr newydd, y solar sleid a’r certiau bach oedd yr atyniadau mwyaf poblogaidd. Diolch arbennig i Miss Gwen ac Adie am wneud y trip yn un llwyddiannus a hwyliog iawn.
Am ragor o luniau cliciwch yma
Y Weiren Wîb
Tydi`n anfarwol fod yr ysgol wedi ei lleoli mewn lle hyfryd sydd nepell oddi wrth gyfoeth o adnoddau naturiol! Bu`n brofiad gwych i`r disgyblion gerdded o`r ysgol i weld y Weiren Wîb! Daeth dau gynrychiolydd o’r tîm yno atom i drafod y weiren. Dysgodd y plant ffeithiau rhyfeddol o ddiddorol fel cyflymdra uchaf y weiren fawr oedd 126 mya a’r weiren fach oedd 40 mya. Yn ogystal, trafodwyd bod unigolion ysgafn yn gorfod cael pwysau ychwanegol arnynt! Hefyd, gwelwyd sut oedd gwrthiant aer ar ffurf hwyl yn helpu i arafu’r weiren. Dan arweiniad gofalus Lliwen Jones, cawsom daith gerdded ddifyr yno ac yn ôl ar hyd peth o Lon las Ogwen. Dull arbennig o ddod i adnabod ein hardal leol. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at deithiau cerdded tebyg yn yr ardal
Am ragor o luniau cliciwch yma
Gwasnaeth Boreol
Diolch i`r Parchedig John Pritchard am ddod draw yn gyson i`r ysgol i gynnal gwasnaethau boreol.
Mabolgampau Bangor Ogwen
Llongyfarchiadau i’r canlynol ar eu llwyddiant ym mabolgampau’r Urdd:
Ras unigol 100m Bl 5 a 6.
Ras Unigol Bechgyn 100m Bl 5 a 6 - Jac Simone 3ydd
Ras Unigol Merched 100m Bl 5 a 6— Ella Bassinger 2il
Ras Unigol 600m Bl 5 a 6— Madeleine Sinfield 1af
Ras Gyfnewid Merched (4x 100m) Bl 5 a 6— 1af
Naid Hir Merched Bl 5 a 6—Madeleine Sinfield 3ydd
Taflu Pel Bechgyn Bl 5 a 6—Thomas Baker 3ydd
Ras Unigol 600m Bl 3 a 4—Ffion Tipton 3ydd
Naid Hir Merched Bl 3 a 4—Mia Williams 3ydd
Paid Cyffwrdd Dweud!
Cafwyd sesiwn hynod o lwyddiannus am beryglon cyffuriau a gwahanol sylweddau gan Libby a Stuart yn neuadd yr ysgol a dysgwyd gwersi pwysig.
Am ragor o luniau cliciwch yma
Llyfrgellydd
Braint oedd cael croesawu Nia Gruffydd o`r llyfrgell yng Ngahernarfon i ddarllen a chyflwyno storiau i`r gwahanol ddosbarthiadau yn y Cyfnod Sylfaen. Swynwyd y plantos a chafodd Nia wrandwaiad astud iawn.
Gig Gwilym Bowen Rhys
Gan fod Michael Downey yn fyfyriwr yn Ysgol LLanllechid ar y funud, trefnodd syrpreis a hanner i ni yn ddiweddar! Braint oedd croesawu y talentog Gwilym Bowen Rhys i`r ysgol i berfformio i`n disgyblion – ac am berffromiadau a gawsom! Roedd hwn yn brynhawn a fydd yn aros yn y côf am amser maith; prynhawn llawn asbri a`r disgyblion yn ymuno i ganu`r hen ffefrynnnau - Defaid William Morgan, Bys Meri Ann ac roedd hi`n werth clywed yr anthem genedlaethol yn cael ei chanu gydag arddeliad ar ddiwedd y prynhawn. Dyma ddywedodd Gwilym Bowen Rhys wrthym wrth adael:
“Pleser oedd canu hefo`r plant,- mae nhw`n gantorion gwych ac angerddol! Gobeithio y caf y cyfle i ddychwelyd pan fyddaf yn byw dafliad carreg i fwrdd yn fuan!” Diolch i chi Syr! Gwerth chweil!
Am ragor o luniau cliciwch yma
Dosbarth Ms Llinos Parry
Ni fuasai Anti Wendy wedi gallu trefnu gwell diwrnod i blant bach y Cyfnod Sylfaen i fynd ar drip i Pili Palas! Gyda’r haul yn tywynnu, roedd hen edrych ymlaen at gael gweld pa ryfeddodau fyddai yn ein disgwyl yno! Chawsom ni ddim ein siomi! Fel rhan o’n thema, Symud, mae dosbarth Derbyn wedi bod yn dysgu sut mae gwahanol wrthrychau, pobl ac anifeiliaid yn symud. Roedd y plantos wrth eu boddau’n arsylwi ar y gwahanol greaduriaid a’u cynefinoedd wrth iddnt gael eu tywys o baradwys trofannol byd yr ieir bach yr haf a’r adar egsotig, cyn ymlwybro drwy lecynnau llwyd-dywyll y pryfetach!
Am ragor o liniau cliciwch yma
Dosbarth Mrs Cranham
Ar ddydd Mercher, 10fed o Fai, roedd hi’n ddiwrnod llawn cyffro yn nosbarth Blwyddyn 1. Roedd y diwrnod mawr wedi cyrraedd o`r diwedd! Diwrnod priodas Alena a Harry! Hynny yw, ein gwasanaeth cyfeillgarwch. Ers tro bu’r plant yn paratoi ar gyfer y briodas ac yn dysgu am y ddefod. Yn ein dillad gorau a’r haul yn tywynnu’n braf, cerddodd pawb ohonom i Gapel Carmel. Roedd y drysau lled y pen ar agor a Mrs Helen Williams yno i’n croesawu! Cafodd pawb eu dangos i’w seddi gan y tywyswyr, ac roedd y priodfab a Wil, ei was priodas yn y Set Fawr. Canodd Mrs Williams yr ymdeithgan yn dawel ar yr organ, ynghyd a’n grwp o blant ar yr offerynnau taro. Cafodd Alena ei harwain gan Cara a Talia, ei morwynion a’i ffrind Charlie. Yna, bu’r gwasanaeth o dan ofalaeth Mrs Cranham. Fe gafodd dau emyn eu canu yn fyrlymus gyda Mrs Helen Williams ar yr organ. Yna, cafwyd gwledd arbennig yn y festri, oedd wedi cael ei haddurno â blodau hardd gan Mrs Williams. Yn y prynhawn, cawsom wledd eto yng ngardd yr ysgol, sef danteithion oedd wedi eu pobi gan Ms Rhian a’r plant. Diwrnod da! Diolch i bawb!
Sealand Newydd
Braint oedd croesawu dau athro o Sealand Newydd i Ysgol Llanllechid i gael rhannu arferion da ein hysgol gyda hwy. Y maes tro hwn oedd ethos, sef sut i sefydlu ethos gadarnhaol, gynhaliol. Treuliodd ein hymwlewyr ran o`r bore yn nosbarth Mr Huw Edward Jones yn edrych ar arferion da.
Diwrnod o Hwyl i gofio am y diweddar Raymond Tugwell
Llongyfarchiadau i bawb o`r gymuned a weithiodd yn galed ar gyfer y diwrnod arbennig hwn yn y Clwb Criced.
Am ragor o luniau cliciwch yma
Diwrnod o Hwyl i gofio am y diweddar Raymond Tugwell
Llongyfarchiadau i bawb o`r gymuned a weithiodd yn galed ar gyfer y diwrnod arbennig hwn yn y Clwb Criced.
Gwyliau Hanner Tymor
Mae`r ysgol yn cau prynhawn yfory ar gyfer wythnos o wyliau hanner tymor – gan obeithio y bydd yr haul yn parhau i dywynnu!
Dymuniadau Da
Dymuniadau da yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Taf Elai yr wythnos nesaf i Gwenno Beech, Lois ac Efa Jones. Rydym yn falch iawn ohonoch gan eich bod yn ein cynrychioli ni i gyd!
Cynulliad Cymru
Bu disgyblion blwyddyn 6 yn dysgu mwy am Gynulliad Cymru gyda diolch i Ann Williams o swyddfa'r Cynulliad ym Mae Colwyn. Cafwyd sesiwn difyr dros ben yn dysgu am gyfrifoldebau'r sefydliad, ei hanes a sut mae'n gweithredu. Ar ddiwedd y sesiwn cafwyd maniffesto gan bleidiau dychmygol gyda phob disgybl yn llefaru datganiad perthnasol - llawer o syniadau doethach yn siwr na'r hyn glywir gan ein gwleidyddion y dyddiau hyn!!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Sut i gadw eich hun yn iach yn feddyliol
5 Awgrym Llesol i Wella Eich Lles Meddyliol
Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth
Ar ôl y cawodydd diweddar, gwenodd yr haul ar Foel Wnion ar Ebrill 29, a daeth 64 o redwyr i Ysgol Llanllechid i gymryd rhan yn y ras flynyddol hon. Cafwyd diwrnod arbennig iawn, oedd wedi ei drefnu yn fanwl gan Dr Ross Roberts. Diolch arbennig iawn i Dr Roberts am ei holl waith caled. Cychwynodd y rhedwyr o Danybwlch, wrth giat Pont Hwfa gan redeg i gopa Moel Wnion, ac yna yn ôl i`r ysgol.
Llongyfarchwn yr holl redwyr a nodwn rhai o`r cyflymaf: Chris Richards, Becki Law, Sam Orton, Ruth Metcalfe, Russell Owen, Ali Thomas, Derek Weaver, John Morris, Gemma Moore ac Ann-Marie Jones.
Llongyfarchiadau gwresog i Mr Ady Jones, sy`n aelod o staff Ysgol Llanllechid, ar ei gamp yntau. Llwyddodd i redeg Ras Meol Wnion mewn 62 munud a chododd swm sylweddol o arian i gronfa`r ysgol a llongyfarchwn Mr Ady yn fawr.
Diolchwn hefyd i aelodau o`r Pwyllgor, o dan gadeiryddiaeth Mrs Angharad Llwyd Beech, am eu gwaith hwythau yn ymwneud â rhai o`r trefniadau.
Rhaid canmol criw gweithgar y gegin a diolch i Anti Gillian a’i thîm. Roedd y cawl cennin yn hynod flasus!
Nid ydym yn anghofio`r rhieni a fu`n brysur yn gwneud cacennau i ni hefyd! Gwerthwyd y cyfan mewn byr amser. Byddwn yn diolch i chi yn unigol!
I goroni`r cyfan, cafwyd rasus plant ar y cae wedi eu trefnu gan Mr Stephen Jones. Roedd y cae wedi ei osod fel stadiwm athletau a'r plant yn cwblhau cylchdro cyfan cyn cwblhau. Yn ogystal roedd yn wych gweld cynifer o blant wedi ymgasglu i redeg. Y tri uchaf yn y ras i blant blwyddyn 2 ac iau oedd Gruff, Mabon a Cafan; y pedwar uchaf yn y ras blwyddyn 3 a 4 oedd Erin, Bethan a Hari; a'r tri uchaf yn y ras blynyddoedd 5 a 6 oedd Madeleine, Gwion ac Adam. Llongyfarchiadau hefyd i Giorgio a ddaeth yn fuddugol yn y ras i flynyddoedd 7-9.
Diolch i LONDIS, Bethesda am eu cyfraniadau i`r gegin a diolch am eu cefnogaeth ar hyd y flwyddyn. Diolch i SIOP CROCHENDY Bethesda am eu rhoddion caredig ac am greu gwobrau yn bendodol i`r ras.
Diolch hefyd i aelodau o`r gymuned am fod mor barod i helpu hefo`r rhedwyr ar y mynydd. Yn wir, diolch i chi gyd am sicrhau diwrnod mor llwyddiannus.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Noson Talentau Ogwen
Llongyfarchiadau i William Roberts ar ennill gwobr anrhydeddus wrth ennill y brif wobr am ganu Dwy Law yn Erfyn. Gwych William! Edrychwn ymlaen at gael clywed mwy o dy hanes yn fuan William.
Gwobr gan yr Uchel Sirydd
Dyma lun o Mr Huw Edward Jones gyda rhai o`n disgyblion yn derbyn tystysgrif am greu amgylchedd ddysgu ddiogel a chyfeillgar yn yr ysgol.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i Efa Glain ar gael ei dewis i berfformio`r prif gymeriad, mewn ffilm fer gan gynhyrchiadau Ie Ie, a fydd yn ymddangos ar S4C yn fuan. Da iawn chdi Efa Glain!
Diolch Mrs Willimas
Llawer o ddiolch i Mrs Helen Williams am ddod i`r ysgol i gyflwyno rhodd i bob un o ddisgyblion y Dosbarth Meithrin. Mae`r bwnis bach y Pasg yn werth eu gweld a bu Mrs Williams wrthi am oriau yn eu gwau! Dyma i chi beth yw caredigrwydd! A pha ffordd well o ddweud Pasg Hapus wrth ein disgyblion ieuengaf! Diolch o galon Mrs Williams!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Parchedig John Pritchard
Llawer o ddiolch i`r Parchedig John Pritchard am ddod i mewn atom i gynnal gwasnaethau boreol. Diolch i chithau am eich cymwynasgarwch.
Ymweliad yr Archifdy
Yn ddiweddar daeth Dilwyn Williams o Wasanaeth Addysg Archifau a Amgueddfeydd Gwynedd at ddosbarth Mrs Tegid i sôn wrthym am dai Tuduriadd. Cafwyd cyflwyniad diddorol dros ben a sonwyd am dai Tuduraidd lleol fel Cochwillan. Adeiladwyd Cochwillan gan William ap Gruffydd o deulu`r Penrhyn ac roedd y tŷ yn enwog am ei grandrwydd a’i letygarwch. Cafodd y disgyblion gyfle hefyd i edrych ar arteffactau Tuduraidd.
Plas Mawr
Aeth blwyddyn pump yn ddiweddar i Blas Mawr, Conwy i ymweld a Tŷ Tuduraidd sydd wedi ei ail- adeiladau. Cawsom groeso gan actores oedd yn efelychu Dorothy, gwraig Robert Wynn perchennog gwreiddiol Plas Mawr. Cawsom ein harwain o gwmpas y tŷ ganddi a chael ymdeimlad o fywyd Tuduraidd. Roedd y tŷ wedi eu addurno’n grand gyda’r rhosyn Tuduraidd a nenfydau addurniedig a cherfluniau o rownd y byd. Cafodd y disgyblion gyfloen i wisgo mewn gwisgoedd Tuduraidd a chwarae gemau Tuduraidd. Daeth yr ymweliad a chyfnod y Tuduraidd yn fyw yng nghôf y plant.
Glanllyn
Tri diwrnod o hwyl a sbri a gafwyd yn ddiweddar yng Nglanllyn yn heulwen dechrau Ebrill. Cafwyd profiadau lu gan gynnwys, dringo waliau, adeiladau rafftiau, cyfeiriannau, neuadd chwaraeon, canwïo, bowlio deg, saethyddiaeth disgo a nofio. Roedd staff y gweithgareddau yn gyfeillgar dros ben a staff y gegin yn ein bwydo…. Gwledd bob dydd! Roedd y plant yn ymddwyn yn arbennig o dda gyda’i gilydd. Profiad penigamp o gyd-weithio a chymdeithasu. Diolch arbennig i Miss Gwen, Mr Downey a Miss Rachel am ei wneud yn dri diwrnod hwyliog dros ben. Cofiwch edrych ar safwe’r ysgol i weld yr holl luniau!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Bethan Gwanas
Aeth Derek, Chelsey, Ursula a Gwion i Neuadd Ogwen hefo Ms Rachel i gymryd rhan mewn gweithdy creadigol er mwyn creu chwedlau gyda Bethan Gwanas. Cafwyd diwrnod difyr, llawn creadigrwydd.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Dosbarth Derbyn – Ymweliad â Storiel ym Mangor
Peidiwch â synnu os welwch chi blantos dosbarth Derbyn Ysgol Llanllechid yn mynd o gwmpas eu pethau’n ysgeintio dail te ar hyd y lle wrth helpu efo’r glanhau adref! Chewch chi ddim byd gwell i godi llwch o’r llawr! Dyna oedd un o’r ffeithiau rhyfeddol ddysgwyd mewn gweithdy glanhau a phurdeb yn y Storiel ym Mangor. Fel rhan o’n thema Llanast yn y Llaid, aeth y dosbarth i weld sut oedd pobl yn arfer glanhau`r ty a golchi dillad ers talwm.
Cafodd un grwp o blant gyflwyniad i hanes golchi dillad a chael gweld hen luniau lleol o bobl wrth eu gwaith yn glanhau ac yn golchi tra roedd grwp arall yn brysur fel lladd nadroedd yn gweini yn nhy Mrs Edwards! Er mwyn gweini, roedd yn rhaid gwisgo i fyny yn gyntaf; ffedog a chap wen gafodd y genethod, a’r hogiau mewn coleri gwyn, gwasgod a chap stabl.
Roedd yn rhaid i rai osod y tân yn y parlwr, eraill yn gorfod defnyddio brwsh plu i godi’r llwch a’r gwe pry copyn. Cafodd rhai y gwaith o guro’r matiau, eraill yn sgwrio byrddau tra bu ambell un wrthi’n glanhau’r llestri pres gyda lemwn a finagr nes eu bod yn sgleinio fel swllt newydd. Ond yn yr olchfa roedd yr hwyl, gyda chriw yn llenwi’r twb golchi â dwr yn gyntaf, cyn sgwrio’r dillad yn wynnach na gwyn, gyda sebon gwyrdd ar y bwrdd sgwrio, ac yna eu troi gyda’r doli yn y twb. Pegiau pren traddodiadol wedyn i ddal y dillad gwynion yn eu lle ar y lein ddillad!
Digon yw dweud fod y plant wedi hen ymlâdd ar y ffordd adre, wedi p`nawn caled yn gweini, fel yr oedd pethau ers talwm.
Urdd Gobaith Cymru - Sir
Llongyfarchiadau i'r canlynol:
Canlyniadau Urdd - Sir |
||
Enw |
Safle |
Cystadleuaeth |
Gwenno Beech |
1af |
Unawd Bl 2 |
Efa Glain Jones |
3ydd |
Unawd Bl 5 a 6 |
Lois a Efa Glain Jones |
2il |
Deuawd Bl 6 |
Celf a Chrefft Urdd - Sir |
||
Idris John Temple Morris |
1af |
Argraffu/Addurno ar Ffabrig Bl 5 a 6 |
Grwp Gruffydd |
1af |
Gwaith Creadigol 2D |
Hari Vaughan Jones |
3ydd |
Gwaith Lluniadu 2D Bl 2 |
Eban Pritchard |
2il |
Gwaith Lluniadu 2D Bl 3 a 4 |
Idris John Temple Morris |
1af |
Gwaith Lluniadu 2D Bl 3 – 6 (AA) |
Margiad Temple Morris |
2il |
Gwaith Creadigol 2D Bl 2 ac iau |
Grwp Hana |
3ydd |
Gwaith Creadigol 2D Bl 3 a 4 |
Idris John Temple Morris |
1af |
Gwaith Creadigol 2D Bl 3-6 (AA) |
Grwp Elan |
2il |
Gwaith Creadigol 3D Bl 3 a 4 |
Idris John Temple Morris |
1af |
Gwaith Craedigol 3D Bl 3-6 (AA) |
Gwobr Uchel Siryf Gwynedd
Braint oedd cael derbyn gwobr gan Y Bonheddwr Peter Harlech Jones, sef Uwch Siryf Gwynedd am y gwaith y mae Ysgol Llanllechid wedi ei wneud yn taclo bwlio a chreu amgylchedd ddysgu ddiogel a chyfeillgar. Roedd hefyd yn gydnabyddiaeth o'r rhaglen KiVa yn yr ysgol - sef ein rhaglen gwrth fwlio, a bellach mae`r ysgol wedi cael llawer o gyfleoedd i readru`r arferion da gydag ysgolion eraill a chyda athrawon led-led Prydain mewn gwahanol fforymau. Mae`r rhaglen yn cydnabod mai gwan yw pob bwli, a`r unig ffordd y mae`n cael cryfder yw pan fo eraill yn gwrando a chefnogi neu`n dewis gwneud dim! Mae Ysgol Llanllechid wedi cydweithio mewn partneriaeth agos gyda Phrifysgol Bangor dros gyfnod o bum mlynedd ar yr agweddau hyn, a hoffem gydnabod cymorth arbennig Dr. Suzy Clarkson a'r Athro Judy Hutchings.
Yn y llun mae cynrychiolwyr o'r Cyngor Ysgol sef Maia, Ellie, Derek a William gyda'r Uwch Siryf Peter Harlech Jones a Mr Huw Edward Jones, sy`n arwain y gwaith yn yr ysgol.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Canlyniadau Eisteddfod Sir yr Urdd
Llongyfarchiadau gwresog i Gwenno ar ennill dwy wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Sir! Camp a hanner! Edrychwn ymlaen at gael y cyfle i gefnogi Gwenno yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym mis Mai.
Llongyfarchiadau hefyd i Efa Glain ar ennill y drydedd wobr ar yr unawd Blwyddyn 5 a 6. Llongyfarchiadau hefyd i Lois ac Efa ar ennill yr ail wobr am ganu deuawd. Da iawn chi!
Hefyd, canodd y parti Cerdd Dant yn soniarus a llongyfarchion iddynt ar ennill yr ail wobr.
Rygbi
Llongyfarchiadau i Tim Rygbi sef Tomos Baker, Harri Thomas, Jac Roberts, Adam Williams, Harrison Hinds, Cian Davies, Ariel Lichtenstein, Gwion Pritchard a Osian Moore ar ddodd yn ail yng nghystadleuaeth Rygbi Ysgolion Eyri. Llongyfarchiadau gwresog! Diolch i Mr cStephen Jones am eu hyfforddi. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Dawnsio Disgo
Llongyfarchiadau i`r tîm Dawnsio Disgo ar berfformio mor dda ac ennill y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Symudol. Llongyfarchiadau hefyd are u perfformiad yn yr eisteddfod Sir a dymunwn yn dda iddynt yn y Noswaith o Ddawns yn y Galeri nos yfory! Diolch i Ms Nicola am eu hyfforddi i safon mor dda! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Bingo Pasg
Llawer iawn o ddiolch i bawb a ddaeth i`r pwyllgor i`n cefnogi. Diolch am eich rhoddion o wyau Pasg a photeli ar gyfer y raffl. Cofiwch y dyddiad: Ebrill 5ed yn y Clwb Criced. Croeso cynnes i bawb!
Ysgol yn Cau
Bydd yr ysgol yn cau y dydd Gwener hwn. Dymunaf Basg Hapus i chwi i gyd gan ddiolch am eich cefnogaeth a`ch cymorth ar hyd y tymor. Dyddiad cyntaf y tymor newydd yw Ebrill 24.
Dymuniadau Da
Dymuniadau da i Mrs Alison Halliday yn ei chylch newydd ar ôl y Pasg - bu`n braf cael cydweithio hefo chi Mrs Halliday a phob dymuniad da i Mrs Lliwen Jones ar ei hantur newydd!
Canlyniadau Celf a Chrefft
Canlyniadau Celf a Chrefft |
||
Enw |
Safle |
Cystadleuaeth |
Grwp Elan |
1af |
Gwaith Creadigol 3D Bl 3 a 4 (Grwp) |
Grwp Chenai |
2il |
Gwaith Creadigol 3D Bl 3 a 4 (Grwp) |
Mari Roberts |
1af |
Argraffu/Addurno ar Ffabrig Bl 3 a 4 |
Mari Roberts |
1af |
Argraffu Bl 3 a 4 |
Chenai Chicanza |
2il |
Graffeg Cyfrifadurol Bl 3 a 4 |
Chenai Chicanza |
2il |
Penwisg Bl 6 ac iau |
Eban Pritchard |
2il |
Gwaith Lluniadu 2D Bl 3 a 4 |
Eban Pritchard |
2il |
Ffotograffeg/Graffeg Cyfriadurol Bl 6 a iau |
Elan Jones |
3ydd |
Graffeg Cyfrifadurol Bl 3 a 4 |
Grwp Hana |
1af |
Gwaith Creadigol 2D Bl 3 a 4 (Grwp) |
Mali Fflur Burgess |
3ydd |
Gwaith Lluniadu 2D Bl 3 a 4 |
Catrin Sian Jones |
3ydd |
Gwaith Lluniadu 2D Bl 2 ac iau |
Grwp Gruffydd |
1af |
Gwaith Creadigol Tecstiliau Bl 2 ac iau (Grwp) |
Grwp Gwenno |
2il |
Gwaith Creadigol 2D Bl 2 ac iau (Grwp) |
Grwp Nansi |
2il |
Gwaith Creadigol 2D Bl 3 a 4 (Grwp) |
Grwp Noa Gwern |
3ydd |
Gwaith Creadigol 2D Bl 2 ac iau (Grwp) |
Tomos Owain |
2il |
Gwaith Lluniadu 2D Bl 2 ac iau |
Elsie Owen |
1af |
Gwaith Creadigol 3D Bl 5 a 6 |
Ffion Jordan |
2il |
Gwaith Creadigol 2D Bl 3 a 4 (Unigol) |
Gwen Isaac |
1af |
Gwaith Lluniadu 2D Bl 5 a 6 |
Hari Vaughan Jones |
1af |
Gwaith Lluniadu 2D Bl 2 ac iau |
Idris John Temple Morris |
1af |
Gwaith Creadigol 3D Bl 3 – 6 (AA) |
Grace Williams |
1af |
Graffeg Cyfriadurol Bl 5a 6 |
Margiad Ann Temple Morris |
1af |
Argraffu/Addurno ar Ffabrig Bl 2 ac Iau |
Idris John Temple Morris |
1af |
Gwaith Creadigol 2D Bl 3 – 6 (AA) |
Idris John Temple Morris |
1af |
Gwaith Lluniadu 2D Bl 3-6 (AA) |
Margiad Ann Temple Morris |
1af |
Gwaith Creadigol 2D Bl 2 ac Iau (unigol) |
Idris John Temple Morris |
1af |
Argraffu/Addurno ar Ffabrig Bl 5 a 6 |
Dawnsio Disgo
Llongyfarchiadau i'r criw Dawnsio Disgo ar ennill y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Symudol.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Chwaraeon Gwyliau Pasg
Cliciwch yma i weld y poster
Canlyniadau Urdd
I ddarllen llythyr gan y pennaeth - cliciwch yma
Canlyniadau Urdd |
||
Enw |
Safle |
Cystadleuaeth |
Gwenno Beech |
1af |
Unwad Bl 2 ac Iau |
Mari Roberts |
2il |
Unawd Bl 3 a 4 |
Lois Jones |
1af |
Unawd Bl 5 a 6 |
Efa Jones |
2il |
Unawd Bl 5 a 6 |
Lois a Efa Jones |
1af |
Deuawd Bl 6 ac iau |
Parti Leni |
3ydd |
Parti Unsain Bl 6 ac iau |
Parti Chenai |
2il |
Côr Bl 6 ac iau |
Parti Efa Glain |
2il |
Ensemble Offerynnol Bl 6 ac iau |
Gwenno Beech |
1af |
Unawd Cerdd Dant Bl 2 ac iau |
Efa Glain Jones |
2il |
Unawd Cerdd Dant Bl 5 a 6 |
Lois a Efa Glain Jones |
1af |
Deuawd Cerdd Dant Bl 6 ac Iau |
Gruffydd Beech |
1af |
Llrfaru Unigol Bl 2 ac Iau |
Chenai Chicanza |
1af |
Llefaru Unigol Bl 3 a 4 |
Parti Cerdd Dant |
1af |
Parti Cerdd Dant |
Dawnsio Disgo |
1af |
Dawnsio Disgo dan 12 |
Ymwchil Hanes Ysgol Llanllechid
Bethesda yn oes y chwarel - cliciwch yma
Y dyddiau cynnar #2 - cliciwch yma
Disgwyliad bywyd chwarelwr #2 - cliciwch yma
Cysylltiad rhwng adre ar chwarel - y tun bwyd fersiwn #2 - cliciwch yma
Canu a diwylliant #2 - cliciwch yma
Canu a chodi arian i gefnogi'r Streic Fawr #2 - cliciwch yma
Baban Bach
Llongyfarchiadau i Ms Elen Evans ar enedigaeth ei baban bach – Erin; chwaer fach i Cain ac Abner. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at gael ei chyfarfod yn fuan!
Ffarwel
FFarweliwn a diolchwn i Ms Nerys Philips am ei gwaith fel cymhorthydd yn Ysgol Llanllechid. Dymuniadau gorau i chi i`r dyfodol Ms Philips.
Machu Pichu
Ar ddydd Mercher, 15 fed o Chwefror, cawsom y pleser o groesawu Mrs Menna Jones, nain Hari a Hana, at ddosbarth Mrs Nerys Tegid i sôn am ei hymweliad diweddar gyda`r safle anhygoel Machu Pichu ym Mheriw! Mae`n debyg i Machu Pichu gael ei adeiladu gan Pachacuti Inca Yupanqui, sef y nawfed ymeradwr o lwyth yr Inca! Mae`r lleoliad, sydd 7,970troedfedd (2,430m), uwchben lefel y môr, ar ochor ddwyreiniol yr Andes, ac yn ôl Mrs Menna Jones, mae`n cael ei adnabod fel un o`r mannau archeolegol mwyaf enwog yn y byd i gyd! Roedd y plant wedi rhyfeddu at allu’r Incas i greu pentref mewn lleoliad mor bellennig ac anghysbell. Cafwyd cyfle i drafod hen, hen ffordd o fyw, ac ystyried bywyd ar y copaon uchel, wrth feddwl am “hen bethau anghofiedig teulu dyn”. Diolch i chi Mrs Jones am ysbrydoli ein disgyblion! Dydi sgiliau athrawes dda byth yn mynd yn angof!!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Mordeithio
Cafwyd gwers Ddaearyddiaeth heb ei hail gan Mrs Gwen Hughes, wrth iddi sôn am y gwahanol fordeithiau y bu arnynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Soniodd Mrs Hughes am dorreth o wahanol wledydd ar draws y byd, gan gynnwys Abu Dhabi a`r Burj Khalifa. Trafodwyd y pyramidiau a`r hieroglyphics, cyn dysgu am ganal y Panama. Rhyfeddwyd Mrs Hughes at wybodaeth gyffredinol y disgyblion a’r cwestiynau treiddgar yr oeddynt wedi eu paratoi ar gyfer yr ymweliad. P`nawn diddorol, addysgiadol arall! Diolch yn fawr.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Hyfforddiant Llysgenhadon Chwaraeon Efydd Gwynedd
Ar ddydd Iau 3ydd o Hydref bu dau gynrychiolydd o`r ysgol, sef Boe Celyn Jones a Gethin Owen o blwyddyn 5 ar gwrs hyfforddi ar gyfer Llysgenhadon yng Nghanolfan Hamdden Caernarfon. Cafodd y ddau gyflwyniad oedd yn eu dysgu am gemau amrywiol. Mae`r Llysgenhadon eisoes yn defnyddio eu sgiliau newydd drwy arwain grwpiau o blant i bwysleisio pwysigrwydd gwagle ac ati. Cawsant gyfle hefyd i ddysgu am bwysigrwydd diogelwch yn ystod y gweithgareddau ffitrwydd.
Dosbarth Derbyn
Doedd Morus y Gwynt ac Ifan y Glaw, heb son am ryw ffluwch o eira, ddim am darfu ar hwyl Dydd Mawrth Ynyd o wneud crempogau! Cafodd y plant i gyd gyfle i fesur a chymysgu’r cynhwysion yn dda ac yna gwylio Miss Rachel yn chwysu chwartiau uwchben y badell ffrio’n creu platiad ar blatiad o grempogau melyn euraidd i’r plantos eu claddu. Cafwyd gwledd go iawn! Bu’n gyfle da i’r plant ymarfer canu Modryb Elin Ennog ar gyfer ein gwasanaeth Dydd Gwyl Ddewi .
Daeth y plant i’r ysgol ar Fawrth y 1af yn edrych yn ddigon o sioe wedi eu gwiso’n mewn cyfuniad o wisg traddodiadol Gymreig , lliwiau baner Cymru a gwisg y timau peldroed a rygbi cenedlaethol ar gyfer dathlu dydd ein nawdd sant. Cafwyd perfformiad gwerth chweil gan y plantos yn y gwasanaeth Dydd Gwyl Ddewi.
Ymweliad ESTYN
Bu Mr Kevin Davies, arolygwr ESTYN, yn edrych ar arferion rhagorol yr ysgol yn y meysydd Daearyddiaeth a Hanes yn ddiweddar. Bydd yr arferion hyn yn cael eu rhannu gydag ysgolion led led Cymru.
Taith y Llwybr Llechi
Mae Ysgol Llanllechid wedi bod yn gysylltiedig â`r Llwybr Llechi Eryri, fydd yn agor ym mis Hydref 2017. Chwiliwch ar y we am fwy o wybodaeth! Cafodd dosbarth Mrs Marian Jones wahoddiad i fynd i Amgueddfa Llanberis i gymryd rhan mewn diwrnod o weithgareddau amrywiol a diddorol. Roedd hyn yn benllanw ar brosiect a wnaethpwyd ar hanes lleol, ac roedd yn braf cael ymuno â thair o ysgolion cynradd eraill y sir, - pob un o wahanol ardaloedd y llechi. Yr uchafbwynt i blant Llanllechid oedd cael perfformio sioe gerdd wreiddiol a oedd yn seiliedig ar hanes Côr Merched y Streic. Ac am sioe ydi hon! Diolch i Mrs Marian Jones am hyfforddi`r plant ac am y sgriptio gwreiddiol. Roedd y gynulleidfa wedi gwirioni ar ôl gweld y fath sioe, - rhai, hyd yn oed, yn eu dagrau! Da iawn eto, blantos!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cwmni’r Fran Wen
Cafodd dosbarthiadau Mrs Marian Jones a Mrs Nerys Tegid wylio perfformiad theatrig gwych gan ‘Gwmni’r Fran Wen’.’ Sigl di Gwt’ oedd teitl y sioe, ac roedd yn canolbwyntio ar hynt a helynt teuluoedd o ffoaduriaid gan ystyried safbwyntiau gwahanol. Ar ddiwedd y perfformiad cafwyd sgwrs rhwng yr actorion a’r disgyblion, ac roedd hyn yn cyfoethogi’r profiad i bawb. Roedd y plant yn ymateb yn arbennig ar lafar ac mewn llun drwy gynhyrchu gwaith Celf, gan drafod y perfformiad gyda’r actorion! Profiad hyfryd!
Karate
Diolch i gwmni Shukokai a ddaeth i`r ysgol i roi blas i`r disgyblion o wersi Karate, fel rhan o`n darpariaeth ysgol iach. Diolch i Andy Plumb, Ffion Parry ac Emily Hall am eu cyfraniad.
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Bingo Pasg
Cofiwch am ein Bingo Pasg yn y clwb Criced ar Ebrill 5ed. Dewch yn llu!
Gwyl Ddewi
Cafwyd diwrnod llawn bwrlwm lle cafodd y disgyblion gyfleoedd i goginio bwydydd Cymreig e.e. cawl cennin, cacennau cri a.y.b a dysgu am Ddewi Sant. Ond, yr hyn fydd yn aros yn y côf am amser maith fydd perfformiadau grymus y disgyblion! Tro plant bach y Cylch Meithrin oedd hi gyntaf, a chofiwch mai dwy flwydd oed oedd y mwyafrif ohonynt! Pob un yn canu nerth esgyrn ei ben ac yn ddigon o sioe! Roedd y safon wedi ei osod, a chawsom ni ddim ein siomi wrth i ni wrando ar gyflwyniadau pob dosbarth wedyn o`r hynaf i`r lleiaf. Dyna chi beth oedd canu! A`r gwahanol ddosbarthiadau yn canu fel eosiaid! Diwrnod i`w gofio – diolch i bawb; i`r holl staff am eu gwaith da, ac yn enwedig i Mr Huw Jones am gyfeilio i`r cyfan mor ddawnus, yn ei ffordd ddiymhongar ei hun. Diolch i chithau rieni a ffrindiau`r ysgol am eich cymorth a`ch cefnogaeth.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Diwrnod Rhyngwladol
Ar Chwefror 15ed cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol wedi ei drefnu gan y Cyngor Ysgol. Roedd pob dosbarth wedi cael gwlad benodol i`w hastudio ac roedd yn hyfryd gweld y disgyblion wedi mynd i gymaint o drafferth i wisgo dillad yn ymwneud â’r gwleydd hyn. Roeddent yn llawn bwrlwm wrth drafod y gwledydd ac roedd pob mathau o weithgareddau yn digwydd yn y dosbarthiadau. Yn ogystal, cafwyd sesiynau karate egniol yn y neuadd a’r disgyblion yn gwrando yn dda ar y Sensei. Diolch i’r Cyngor Ysgol am drefnu ac am helpu i godi £190 tua at Ysgol Goffa Alec Jones yn Ghana, yn sgîl ymweliad gan Mrs D Jones â`r ysgol yn ddiweddar.
Y Senoritas o Sbaen yn werth eu gweld!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Athletwyr
Mae gan Ysgol Llanllechid athletwyr talentog! Cafwyd perfformiadau arbennig gan Ella, Leni – Ceirios, Efa, Tiah, Adam, Harrison, Jac, Leon, Ceirion a Gwion yng nghystadleuaeth athletau ‘Sportshall UK’ yng nghanolfan hamdden Arfon yn ddiweddar. Da iawn chi am gydweithio fel tîm a chystadlu’n frwdfrydig dros ben! Llwyddodd y tîm i gipio’r drydedd wobr – oedd yn gryn gamp! Ardderchog! Diolch Mr Stephen Jones am arwain y maes hwn i safon mor uchel.
Gorymdaith Gwyl Dewi
Cliciwch yma i weld y poster
Cliciwch yma i ddarllen y llythyr
Ysgolion Heddwch
Cliciwch yma i weld y poster
Sesiwn Stori yn Neuadd Ogwen - dewch yn llu!
Cliciwch yma i weld y poster
Llwybr Llechi Eryri
Bu Ysgol Llanllechid yn cymryd rhan yn y prosiect Llwybr Llechi Eryri yn ddiweddar. Cliciwch yma i weld y poster
Gweithdy Karate
Cynhaliwyd gweithdy Karate yn yr ysgol fel rhan o`n gwaith cadw`n iach a heini! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Gweithgareddau i'r Teulu
Cliciwch yma i weld y poster
Pa wlad oedd eich gwlad chi?
Cafwyd hwyl a sbri yn yr ysgol pan glustnodwyd un wald i bob dosbarth gan y Cyngor Ysgol. Cafodd y disgyblion gyfle i astudio eu gwlad arbennig a dysgu pob math o ffeithiau diddorol amdani. Yn y neuadd, cafodd pob dosbarth gyfle i adrodd yn ol i weddill y dosbarthiadau a rhannu yr hyn a ddysgwyd. Yn ddiweddar, daeth Mrs Jones i`r ysgol i drafod Ghana gyda`r disgyblion. Eglurodd sut y bu iddi hi a`i diweddar wr sefydlu ysgol yn Ghana o`r newydd. Roedd y Cyngor Ysgol yn awyddus i godi arian i helpu`r ysgol hon. A dyna a wnaethpwyd! Cafwyd diwrnod llawn bwrlwm a phawb wedi gwisgo mewn dillad oedd yn gysylltiedig a`u gwledydd a phob un yn lliwgar dros ben! Diolch i`r rhieni am fod mor barod i`n cynorthwyo ac i bawb yn yr ysgol am sicrhau diwrnod mor hwyliog! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
POB PLENTYN YN AELOD LLYFRGELL YN 2017!
Cliciwch yma i weld y poster
Ysgol Llanllechid yn serennu
Darllenwch yr adroddiad yma! - Adroddiad Estyn Rhagfyr 2016
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i Anti Gillian a Dafydd Griffiths ar ddod yn hen nain a taid! Ganed merch fach i Liam a Lucy, a`i henw yw Elliw. Mwynhewch y magu!
Anfon cofion
Anfonwn ein cofion at ferch Ms Sian, Awen, sydd wedi bod mewn damwain car yn ddiweddar. Rydym mor falch o gael dweud ei bod yn gwella ar ôl y llawdrinaieth.
Disgo Santes Dwynwen
Roedd calonnau coch i`w gweld ar bob cwr o`r neuadd ac roedd y gerddoriaeth yn diasbedain dros bob man yn ystod ein disgo Santes Dwynwen! Cafodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen gyfle i ddangos eu doniau i ddechrau, ac yna daeth disgyblion yr Adran Iau yn ôl i`r ysgol ar gyfer eu disgo hwy! Diolch i`r ddau Mr Jones am fod yn DJs a diolch arbennig i`r Cyfeillion am ein helpu. Hon oedd y weithgaredd gyntaf i`r gadeiryddes newydd, Mrs Angharad Llwyd Beech i ymhel â hi, ac aeth popeth yn ei flaen yn hollol ddidramgwydd. Diolchwn iddi ac i aelodau`r Pwyllgor am eu cymorth a`u cenfogaeth. Cofiwn hefyd am ein cyn-gadeiryddes Mrs Lowri Roberts ac am ei chyfraniad arbennig hithau, ers y cyfnod pan oedd Buddug yma hefo ni yn ddisgybl. Pwy all anghofio am gyfraniad Mrs Iona Robertson hefyd! Ni does modd newi pawn yn fan hyn – ond yr un yw`r diolch i chi i gyd. Bu`r disgo yn llwyddiant ysgubol! Yn ddiau, caiff ei ail-adrodd yn fuan! (Priodol hefyd yw diolch i Anwen Jones a Ceri Isaac am eu gwaith di-flino hwythau yn trefnu`r Bore Coffi.) Braf cael dweud mai Ms Leanne ac Anti Wendy yw`r ysgrifenyddion newydd!
‘State or Slate?’
Noson lansio prosiect celf gan Walker & Bromwich
15 Chwefror 2017
6:30pm
Y Bar, Neuadd Ogwen, Bethesda
Hoffai’r artistiaid Walker & Bromwich eich gwahodd i ymuno â nhw ar y 15 Chwefror yn Neuadd Ogwen er mwyn clywed mwy am brosiect celf cyffrous newydd.
Bwriad ‘State or Slate?’ ydi talu teyrnged i Streic Fawr y Penrhyn drwy roi presenoldeb cadarn ac amlwg i’r hanes yng Nghastell Penrhyn - ac mae angen eich cymorth i wneud hyn.
Rydym yn chwilio am bobl:
• Gyda gwybodaeth dda o hanes y streic
• I ymchwilio i syniadau Newydd
• I gymryd rhan mewn pared agoriadol cyffrous
• Sydd yn gallu gwnio.
Ymunwch â Zoe a Neil ac artist lleol Rebecca Hardy-Griffith am baned a sgwrs i glywed mwy am y prosiect a sut gallwch gyfrannu.
Am fwy o wybodaeth gallwch gysylltu gyda Rebecca drwy e-bost: rfhardy@hotmail.co.uk
Edrychwn ymlaen i’ch gweld.
Dyddiadau i`ch Dyddiaduron
Cofiwch am ein Bingo Pasg a gynhelir ar Ebrill 5ed yn y clwb Criced. Diolchir i`r clwb Criced am fod mor barod eu cymwynas. Cofiwch hefyd am ein Ras Moel Wnion ar Ebrill 29. Croeso cynnes i bawb!
Ymweliad dosbarth Mrs Tegid â bwyty Tsieiniadd Fu’s yng Nghaernarfon
Fel rhan o waith y dosbarth ar ‘Y byd rhyfeddol ‘ ac i gyd-fynd gyda dathliad Blwyddyn Newydd Tsieiniaidd, aethpwyd `am dro` i fwyty Fu`s. Cafodd y disgyblion gyfle i weld y reis a’r cyw iar melys a chwere yn cael ei goginio mewn wok chwilboeth! I ddilyn, cafwyd gwers ar sut i ddefnyddio chop sticks a chyfle i ddal pen y milwyr terracotta a dysgu am eu hanes. Cliciwch yma i weld lluniau
Castell Caernarfon a Dolbadarn
Fel rhan o’n thema Chwedlau’r Ddraig, cychwynodd y dosbarth Derbyn ar fore digon llwm yr olwg, ar antur i Gaernarfon er mwyn cael syniad o sut oedd pobl yn byw mewn castell. Cafwyd cyfle i wylio ffilm am freuddwyd Macsen Wledig a sut y bu i gaer gael ei sefydlu yng Nghaernarfon, cyn mynd i fusnesu ymhob twll a chornel! Roedd angen cryn egni wrth gerdded yr holl risiau troellog a mynd lawr i ddyfnderoedd ambell selar! Cafwyd cinio yno, a chyfle i wisgo coron y brenin Edward y 1af, cyn symud ymlaen am Llanberis ac ymweld â chastell Dolbadarn. Roedd y plant wrth eu boddau yn clywed sut bu i Llywelyn ein Llyw Olaf garcharu ei frawd Owain Goch yn y gorthwr am ugain mlynedd. Cafodd y plant ryddid i ymchwilio i weld lle oedd y neuadd a’r ddau dŵr arall oedd yn rhan o’r castell gwreiddiol, cyn cael tynnu eu lluniau ar risiau y gorthwr! Yr un fu taith disgyblion Mrs Marian Jones, wrth iddynt astudio Oes y Tywysogion mewn manylder. Cliciwch yma i weld lluniau
Ymweliad Mr Deri Tomos â dosbarth Blwyddyn 1
Yn ddiweddar, fe fu disgyblion Ms Cranham a Ms Jones yn ffodus iawn o gyfarfod ymwelydd arbennig o`r enw Mr Deri Tomos i drafod Deinosoriaid a daeth Mr Tomos a phob math o arteffactau ar gyfer cynnal sgwrs am ffosiliau gyda’r dosbarth! Uchelgeisiol iawn i blant mor ifanc, medde chi! Dim o gwbwl! Llwyddwyd i gyfareddu`r disgyblion drwy ddysgu llawer am sut mae ffosiliau yn cael eu creu cyn mynd ati i greu ffosiliau eu hunain! Hyfryd! Diolch i chi Mr Deri Tomos am fod yn ffrind mor dda i`r ysgol, ac am fod mor barod i`n helpu.
Mr Alun Pritchard a Lesotho
Braint oedd cael cwmni Mr Alun Pritchard at ddosbarthiadau Mr Huw Jones a Mr Stephen Jones pan ddaeth i gyflwyno ei atgofion am ei gyfnod yn Lesotho. Yn 2003 aeth Mr Pritchard i Lesotho – sef y wlad fechan sydd wedi ei amgylchynu gan ei chymydog De Affrica. Mae Cymru wedi gefeillio gyda Lesotho a dolen arbennig rhwng y ddwy wlad yn dilyn y cyswllt cyntaf nôl ym 1985. Dangosodd lawer o ffotograffau o’i ymweliad ynghyd â nifer o arteffactau ee gwisg draddodiadol, het Basotho ac ysgub. Roedd y plant wrth eu boddau yn gwrando ar ei straeon a’i natur hyfryd o gyflwyno. Gwnaeth argraff fawr arnynt wrth rannu nifer o straeon ee pan soniodd am wraig y tŷ pridd a`r tô gwellt oedd yn rhyfeddu fod dyn gwyn wedi aros yn ei chartref; gwraig oedd yn teimlo`n ansicr os oedd ei chartref yn ddigon da i’r ymwelydd o Gymru fach, a Mr Pritchard yn teimlo`n ddiymhongar yn ei chwmni wrth ryfeddu at ei chroeso twymgalon gyda`i hadnoddau prin. Diolch o galon Mr Pritchard am brynhawn arbennig ac am gael y cyfle i ddysgu cymaint am wlad mor ddiddorol. Cliciwch yma i weld lluniau
Mr Eli Lichtenstein a’r Holocaust
Ar ddiwrnod coffa yr Holocaust daeth Mr Eli Lichtenstein i ddosbarth blwyddyn 6 i drafod hanes ei deulu yn dianc o orthrwm a chreulondeb y Natsiaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cynhaliwyd sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’r plant wedi paratoi nifer o gwestiynau treiddgar rhag blaen. Dysgodd y plant lawer wrth wrando ar ei atebion gan gyflwyno eu barn hwythau ar y cyfnod erchyll hwn mewn hanes, yn ogystal â gwneud cymhariaeth gyda systemau llym apartheid yn Ne Affrica. Diolch i Mr Lichtenstein am fore mor ddiddorol, gan wneud i bawb sylweddoli mor greulon y gall dyn fod at ei gyd-ddyn. Dysgwyd gwersi pwysig ynglŷn â`r angen i gyd-weithio a pharchu ein cyd-ddynion beth bynnag fo eu hîl a`u diwyllaint. Hefyd, cafwyd cyfnod yn trafod effaith y cyfnod erchyll hwn mewn hanes; cyfnod s`yn dangos yn glir beth yw canlyniad creulondeb, amharch a gormes un genedl dros genhedloedd eraill.
Mrs Helen Holland a Môn ar Lwy
Er mwyn dysgu am entrepeneriaeth, gwahoddwyd Mrs Helen Holland draw i`r ysgol i ddysgu`r disgyblion hyn ynglŷn â sut i sefydlu busnes. Bellach mae llwyddiant Môn ar Lwy ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol ac rydym yn Ysgol Llanllechid yn ymfalchio yn llwyddiant Mrs Holland a’i theulu, a hithau wrth gwrs yn wriag o Fethesda! Ar ddiwedd y cyflwyniad, rhoddodd Mrs Helen Holland rodd i Jess, sydd ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Alder Hey. Diolch am eich caredigrwydd Mrs Holland ac am gael cyfle i flasu eich campweithiau! Cliciwch yma i weld lluniau
Mrs Dilys Jones a’r ysgol a sefydlodd yn Ghana
Fel y gwelwch o ddarllen hanes blwyddyn 6 mae gogwydd rhyngwladol a daearyddol yn perthyn i’r thema y tymor hwn. Ac fe barahaodd y thema hwnnw pan ddaeth Mrs Dilys Jones, gwraig yn wreiddiol o Fethesda, a modryb i Mr Stephen Jones, sef athro blwyddyn 6, i siarad am ei phrofiadau yn byw yn Ghana, Gorllenwin Affrica. Tra’n byw ac yn gweithio yn Ghana sefydlodd Mrs Jones a’i gŵr Mr Alec Jones ysgol i’r plant lleol gan nad oedd y fath adeilad na’r addysg yn bodoli ar eu cyfer. Bellach mae 750 o blant yn mynychu’r ysgol sydd wedi cael ei henwi ar ôl ei diweddar ŵr - Mr Alec Jones. Soniodd am fywyd yn Ghana a’r pwyslais ar ailgylchu er mwyn byw ee creu tegannau allan o boteli coffi a fflip fflops. Yr hyn oedd yn amlwg oedd fod y plant – er nad oes ganddynt hanner yr hyn sydd gennym ni, yn blant mor hapus a dyfeisgar. Diolch i Mrs Jones, am brynhawn mor arbennig ac mae ein hedmygedd ni yn fawr tuag atoch.
Diolch a Ffarwel
Ar ddiwedd y tymor, cafwyd cyfle i ddiolch i Mrs Angaharad Parry Owen am bum mlynedd a`r hugain o wasanaeth clodwid i Ysgol Llanllechid. Cyflwynwyd llu o anrhegion i Mrs Parry Owen yn neuadd yr ysgol i ddiolch iddi am ei gwaith a`i gwasanaeth i Ysgol Llanllechid. Dymunwn bob dymuniad da i chi yn ystod y bennod newydd yn eich hanes ac i`r dyfodol.
Sioe Nadolig – Cynllwyn Canslo’r Nadolig
Cafodd y gynulleidfa gref yn Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen eu cludo mewn amser yn ôl i ddechrau’r ganrif ddiwethaf ar y noson hon ym mis Rhagfyr. Dosbarthiadau Mrs Marian Jones, Mrs Nerys Tegid, Mr Stephen Jones a Mr Huw Jones oedd yn perffromio, ac roedd hon yn sioe wreiddiol, wefreiddiol, wedi ei seilio yng nghyfnod Streic Chwarel y Penrhyn yn y flwyddyn 1901.
Dilyn hynt a helynt un teulu penodol oedd yr edau oedd yn gwau drwy`r cyfan, ac roedd hi`n ofynnol i`r teulu bach hwnnw feddwl sut i oresgyn sefyllfaoedd anodd, heriol oedd yn eu hwynebu; sefyllfaoedd real o`r cyfnod – ee y ferch hynaf yn canu yn y côr merched gan deithio ar hyd a lled Prydain er mwyn codi arian; y tad yn symud i dde Cymru er mwyn chwilio am waith yn y pyllau glo; a’r ferch oedd yn cwrdd â ffrindiau newydd mewn ysgol newydd ac yn gorfod symud i`r ysgol honno oherwydd y sefyllfaoedd oedd yn codi. Ac yn gysgod ar y cyfan oll roedd gorchymyn ffug yr Arglwydd Penrhyn i ganslo’r Nadolig.
Cafwyd perffomriadau arbennig gan yr holl blant – yn geirio yn glir ac yn actio a chanu hyd eithaf eu gallu! Gwelwyd disgyblion oedd wedi dechrau yn Ysgol Llanllechid yn dair mlwydd oed, â dim gafael ar yr iaith Gymraeg, yn perfformio yn hollol huawdl yn yr iaith.
Noson wefreiddiol yn wir, a chymaint o bobl yn cysylltu gyda`r ysgol i ganmol y safon. Diolch i’r staff a`r plant am eu gwaith caled ac i`r rhieni am eu cymorth a`u cefnogaeth. Bydd y sioe hon yn aros yn ein côf am amser maith, a pha ffordd well o ddysgu`r disgyblion am eu hanes nag actio`r cymeriadau, a throedio ar hyd eu llwybrau. Wrth gwrs, roedd y sgript a geiriau`r caneuon yn gwbwl wreiddiol! Dyna beth yw dawn!
Cyngerdd Nadolig y Cylch Meithrin
Roedd y rhieni wedi dotio clywed a gweld y plantos bach yn perfformio, ac roedd pawb yn synnu a rhyfeddu wrth weld plant mor ifanc yn cofio eu geiriau wrth lefaru, ac yn ei morio hi! Diolch i Anti Debbie a`i thîm am fod mor weithgar ac am eu gwaith caled.
Cyngerdd Nadolig Dosbarth Meithrin
Tro`r Dosbarth Meithrin oedd hi wedyn, llond llwyfan ohonyn nhw, yn trio eu gorau glas, ac yn edrych yn ddigon o ryfeddod yn eu gwisgoedd! Diolch i Ms Hâf a`i thîm am y wledd!
Cyngerdd Nadolig Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1
Bu dosbarthiadau Ms Elen Evans a Mrs Parry Owen yn torchi llewis er mwyn perfformio o flaen llond neuadd o rieni a chyfeillion yr ysgol. Gwledd arall! Cliciwch yma i weld lluniau
Cyflwyniad Drama`r Geni
I gapel Carmel aeth dosbarthiadau Mrs Wilson, Mrs Williams a Mrs Bethan Jones i actio stori`r Geni, a chanu carolau traddodiadol a llwyddwyd i greu naws Nadoligaidd hyfryd. Diolch i Mrs Helen Williams am ei chefnogaeth ac am ei chymorth parod pob amser.
Gwasanethau Boreol
Diolch i`r Parchedig John Pritchard am ddod i mewn atom yn rheolaidd ar gyfer cynnal gwasnaethau boreol, a diolch hefyd i Morgan am ddod yma i ddarllen storiau o`r Beibl yn y gwahanol ddosbarthiadau.
Gweithgareddau Amrywiol
Cafwyd torreth o weithgareddau amrywiol; gormod o lawer i ni eu rhestru yma, ond digon yw dweud i`r disgyblion gael ystod helaeth o wahanol brofiadau yn ystod bwrwlm y Nadolig.
Taith i Ynys Môn
Cafodd dosbarth Mrs Marian Jones fore hynod greadigol pan aethant i ‘Weithdy Crefftau Nadolig’ yn Oriel Môn, Llangefni. Bu’r disgyblion yn brysur iawn drwy’r bore yn creu pob math o addurniadau lliwgar a deniadol. Yna, yn y p`nawn, aethpwyd ati i ymhél â gweithgareddau map yng ngerddi Plas Newydd. Roedd rhaid dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus a darllen y map yn gywir er mwyn cwblhau’r daith ar hyd y llwybr. Gwelsom ryfeddodau lu, yn ogystal â golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri.
Cyfarfod Sion Corn
Diwrnod i’w gofio oedd dydd Iau yr 8fed o Ragfyr i blant y dosbarth Derbyn! Dyma’r diwrnod pan aeth y plant ar y trên i weld Sion Corn! Cafwyd taith yn gyntaf ar hyd llyn Padarn yn Llanberis, ac wrth i’r trên nesau at yr Orsaf a oedd wedi haddurno’n Nadoligaidd, dechreuodd y plant gyffroi a chanu “ Pwy sy’n dwad dros y bryn?” ac yno’n wir, roedd Sion Corn yn aros i’w cyfarch. Roedd y plant wedi gwirioni cyfarfod Sion Corn, a oedd yn hynod o glên a charedig!
Yng nghanol yr holl rialtwch, cafodd pob disgybl gyfle i gyfarfod Sion Corn yn yr ysgol, gwledda a dawnsio yn y partion, ac wedi hynny, daeth yn ddiwedd tymor yn chwap, a chyfle i drefnu Nadolig ar ein haelwydydd! Cliciwch yma i weld lluniau
Dathlu ein Cymreictod
Braint oedd croesawu Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn atom ynghyd a`i chymar, Tudur. Cafwyd diwrnod o farddoni, chwarae gemau geiriol a dysgu sut i glocsio! Brwdfrydedd a bwrwlm yn wir! Diolch o galon!
Pantomeim Blodeuwedd
Pleser pur oedd cael mynd i Pontio i fwynhau pantomeim Blodeuwedd!
Bore Coffi Nadolig
Diolch yn fawr i`r Pwyllgor ac i bawb a ddaeth i gefnogi`r Bore Coffi yn Neuadd Ogwen. Byddwn yn trefnu Ras Moel Wnion y tymor hwn a`r Bingo Pasg blynyddol ar ddiwedd y tymor. Diolch i bawb sy`n gweithio`n galed i gefnogi`r ysgol mewn cymaint o wahanol ffyrdd er budd ein disgyblion.
Sut i newid eich Cyflenwr Ynni
Cliciwch yma i weld y ddogfen
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2012
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2013
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2014
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2015
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2015
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2016
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2017
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2018
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2019
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2020