Archif Newyddion - 2018
Mins Peis
Bu dosbarthiadau Blwyddyn 0 ac 1 yn brysur yn gwneud mins peis. A blasus iawn oedden nhw hefyd!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Clwb yr Henoed
Braint oedd croesawu Clwb yr Henoed i Ysgol Llanllechid i gael eu diddanu gan ein plantos. Cafwyd cyngerdd yn neuadd yr ysgol a`r plant yn morio canu. Diolch i Anti Gillian am y bara brith bendigedig ar gyfer y te, a diolch hefyd i Ms Leanne am y caenau blasus! Pawb wedi mwynhau – diolch i bawb!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cyngerdd Nadolig
Cafwyd cyngherddau lu! Cyngerdd Dosbarth Meithrin a`r Cylch Meithrin; Cyngerdd Bl o ac 1; Cyngerdd Blwyddyn 2; Cyngerdd Bl 3 a Chyngerdd y disgyblion hyn yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Diolch i Mr Alun Llwyd am gael defnyddio neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen. Cafwyd cyngerdd heb ei ail, gyda Mrs Delyth Humhreys yn arwain y plant, a Mrs Sioned Webb yn cyfeilio i`r cyfan. Diolch i bawb am eich sylwadau positif. Yn sicr, bydd y cyngerdd hwn yn aros yn ein côf am amser maith.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Y Llew a’r Crydd
Aeth Blynyddoedd 0 a 1 i Pontio i weld sioe Y Llew a’r Crydd, oedd yn cyfoethogi iaith y disgyblion. Cafodd pawb gyfle i eistedd mewn tipî.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Gwyn Thomas, Blaen y Nant
Pleser oedd croesawu Mr Gwyn Thomas a ddaeth draw i’r ysgol at ddosbarthiadau Mrs Rona Williams, Ms Kate Mithan, Ms Elen Clwyd Evans a Mrs Ffion Jones, i sôn am gig organig. Mae Mr Thomas yn ffermio ym Mlaen y Nant, yn Nant Ffrancon ac mae’r cig mae’n gynyrchu yn flasus dros ben! Cafodd y plant gig oen, gafr a byrgyrs porc. Mynnwch gig o Fferm Blaen y Nant y Nadolig yma!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cyngerdd dosbarth Mrs Wison
Roedd Mr Gwyn a`i deulu am ddathlu eu Nadolig olaf fel Ceidwad y Goleudy. Ond, fe ddaeth yr hen adar direidus i ddwyn eu coeden Nadolig, addurniadau, cinio a`u anrhegion. Diolch i`r drefn daeth eu ffrindiau: Capten Twm Sion Jac, Capten Madog, Capten Wil Amer a Chapten Fflat Huw Puw i achub y Nadolig!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Y Geni
Bu`r dosbarth Meithrin ynghyd a phlant bach y Cylch Meithrin yn cyflwyno drama`r geni I ni yn neuadd yr ysgol. Llongyfarchiadau i bob un ohonoch am eich perfformiadau. Roedd y cyfan yn wych!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Parti Dosbarth Meithrin
Cafodd y dosbarth Meithrin barti bwydydd iach. Diolch I bawb am eu cyfraniadau.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Sion Corn
Aeth disgyblion y dosbarth Derbyn i weld Sion Corn i Lanberis, gan deithio ar reilffordd Llyn Padarn, cyn mynd i mewn i`r groto i gael anrhegion gan Sion Corn.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Plac Dannedd
Fel rhan o`u gwaith Gwybodaeth a Dealltwriaeth o`r byd, bu dosbarthiadau blynyddoedd Derbyn ac 1 yn brysur yn arbrofi i weld pa mor lan oedd eu dannedd!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cerddorfa Ysgol Llanllechid
Dyma`r gerddorfa yn brysur yn ymarfer tuag at y Cyngerdd Nadolig!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cinio Nadolig
Cafwyd cinio Nadolig campus, gwell na`r un gwesty, yr wythnos diwethaf! Diolch yn fawr i staff y gegin ac i Anti Gillian ac Anti Carol am eu holl waith da. Diolch hefyd i Mr Gavin am ei holl waith da yntau - gwerthfawrogir y cyfan yn fawr.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Robotiaid Caellwyngrydd
Robotiaid oedd thema dosbarth Blwyddyn 3 yn ystod y tymor, ac wrth gwrs, roedd rhaid eu cynnwys, rhywsut, yn y sioe Nadolig!
Roedd y sioe yn cychwyn gydag eitemau cerddorol gan Harri Bale ar y corn a Lili, Jago, Alena, a Cara ar y ffidl, - gwych iawn! Yna daeth yr athrawes ac arweinyddes côr Blwyddyn 3 ar y llwyfan [Erin Williams], a chychwyn arwain y disgyblion i ganu pedair o’u hoff ganeuon, sef ‘Calon Lân’, ‘Cosi sicelele Affrica’, ‘Y deryn du’ a ‘Cân y Diarhebion’. ond roedd rhyw sŵn rhyfedd yn dod o gyfeiriad y piano!. Wedi i’r plant adael y llwyfan, dychwelodd Gruff a Jago at y piano er mwyn nôl eu siwmperi, ond fe’u dychrynwyd yn arw pan sbonciodd robot bach hoffus [Harri Bale] tuag atynt, gan ddweud ei fod ar goll mewn amser! Roedd ei beiriant amser wedi torri, felly galwyd ar Wil Wisgars [Wil Pritchard] i’w helpu ei drwsio. Yn anffodus, tra ‘roedd y pedwar yn teithio drwy amser, torrodd y peiriant , - ac yn hytrach na mynd ymlaen i’r flwyddyn 3998, aeth pawb yn ôl mewn amser!
Roedd Rachub a Llanllechid yn edrych yn rhyfedd iawn, - dim Ysgol Llanllechid, dim Maes Bleddyn na Llwyn Bedw! Daeth y pedwar ar draws criw o blant oedd yn dychwelyd i’r ysgol ar ôl bod adref yn cael cinio [Elis, Talia, Isabel, Cara, Charlie, Osian,], ac yn fuan iawn dysgodd y pedwar mai CAELLWYNGRYDD yw’r enw ar allt Rachub, ac nid Stryd Fawr! Sylweddolwyd fod nifer fawr o siopau yng Nhaellwyngrydd ers talwm hefyd, a cawsant gyfarfod holl berchnogion y siopau [Megan Wyn, Megan Cook, Lili, Isla, Alena, Erin, Elin, Caitlin, Abi a Llŷr]. Aeth y pedwar cymeriad i Ysgol Rachub wedyn, lle’roedd yr athro [Raffi Simone] yn barod gyda’i gansen! Roedd beirdd a cherddorion yn ymweld â’r ysgol y diwrnod hwnnw, sef Alaw Llechid [cyfansoddwr y gerddoriaeth i ‘Wele Gwawriodd’ y garol enwog]. Carwyn Williams oedd yn actio’r cymeriad. Charlie Glyn oedd yn actio William Griffith Hen Barc, [awdur ‘Defaid William Morgan’], a Ned Wager oedd Benjamin Thomas [awdur ‘Molianwn’].
Ond roedd gwrachod a chorrachod drwg yn trigo yn yr ardal, a daeth y rhain i wneud cymaint o lanast yn y pentref a’r ysgol, fel y bu raid i’r athro eu hel o’r pentref! Ond dywedodd y criw drygionus [Emily Williams, Harry Roberts, Cai Roberts, Emily Griffiths, Llinos Morris a Mia Williams] eu bod am fynd a’r enw Caellwyngrydd hefo nhw, a’i gladdu wrth giat Moel Faban!
Wrth lwc, roedd y pedwar cymeriad gwreiddiol wedi clywed hyn i gyd, ac yn gwybod, erbyn hyn, pam nad oedd neb yn defnyddio’r enw Caellwyngrydd! Felly, i ffwrdd a nhw yn y peiriant amser i 2018, a thyllu wrth giat y mynydd a darganfod yr arwydd! Yna aeth y robot bach yn ei flaen i 3998, - yn ôl i’w ddosbarth yn Ysgol Llanllechid. Cafodd groeso arbannig gan y robotiaid i gyd ac yn ogystal, cafodd wybod fod pob robot yn defnyddio’r gair Caellwyngrydd, yn ogystal â chanu ‘Wele Gwawriodd’, ‘Molianwn’ a ‘Defaid William Morgan’!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Sioe Blwyddyn Derbyn a Bl 1
Braint oedd cael gweld drama`r Geni wedi ei chyflwyno gan ein plant bach Cyfnod Sylfaen yng Nghapel Carmel. Cawsom ein gwefreiddio gan naturioldeb y plant ac roedd hi`n bleser gweld pob un copa walltog yn morio canu ac yn trio eu gorau! Dyma berfformiadau a fydd yn aros yn y cof am amser maith. Diolch i Mrs Williams am gyfeilio i`r cyfan ac am fod mor barod i groesawu`r holl blant i gapel Carmel.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Dysgu am waith trydanwyr lleol
Diolch yn fawr iawn i tad Catrin, SionWyn Morris a Bob Hughes am ddod at ddosbarth blwyddyn 2 sef dosbarth Mrs Wilson. Cawsant gyfle i ddysgu am waith trydanwr, dysgu am eu hoffer a dysgu am beryglon trydan. Diolch i Sion a Bob am ddod atom! Prynhawn arbennig o dda!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Can Mair
Pantomeim Nadolig
Aeth yr Adran Iau i gyd i Landudno i fyd hudolus pantomeim Sinderela! Diolch i gyfeillion Ysgol Llanllechid am dalu am y cludiant.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Grŵp offerynnol
Ffurfiwyd grŵp offerynnol gan rai o ddisgyblion Blwyddyn 3 ar gyfer Eisteddfod Dyffryn Ogwen. Roedd Gruff, Wil, Erin, Megan, Lili, Elin, Elis, Jago, Cara wrth eu boddau’n gweithio ar eu trefniant hwy o’r gân ‘Heno Heno’, ac yn ymarfer ar eu pennau eu hunain yn aml iawn! Roedd xylophones, offer taro a feiolinau yn y grŵp, ac roedd eu perfformiad yn yr eisteddfod yn wych ac yn llawn haeddu’r wobr gyntaf! Da iawn wir!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Techniquest
Aeth dosbarth Blwyddyn 3 draw i Wrecsam yn ddiweddar, er mwyn cymryd rhan mewn gweithdai diddorol a datrys problemau yng Nghanolfan Techniquest. Yn y weithgaredd gyntaf, roedd y dosbarth yn gwahanu’n chwe grŵp, ac roedd gan bob grŵp rywfaint o offer syml ar eu byrddau fel siswrn, papur, llinyn, tâp selo, a phedair balŵn.. Roedd pob grŵp yn cael un ŵy [heb ei ferwi!!], ac roedd rhaid adeiladu rhywbeth gyda’r offer a fyddai’n gwarchod yr ŵy petai’n cael ei ollwng o uchder. Y gamp fawr oedd cael ŵy cyfan ar ddiwedd y cyfnod! Wel, - roedd yr ystafell yn fwrlwm o drafod, cytuno, anghytuno, rhesymu, arbrofi, dyfalu, rhagfynegi, a gwirioni! Ar ddiwedd y cyfnod, llwyddodd pedwar o’r chwe grŵp i beidio cracio’r wyau, a dim ond crac bychan iawn oedd yn y ddau ŵy arall! Canlyniad gwych yn ôl swyddogion Techniquest!
Gweithdy ‘rheoli’ ar y cyfrifiadur oedd y weithgaredd arall. Roedd y plant yn dysgu codio ar y cyfrifiadur er mwyn gallu gwneud i long fach lego [a adeiladwyd ganddynt] symud a dilyn y cyfarwyddiadau. Roedd rhaid dilyn cyfarwyddiadau manwl er mwyn adeiladu’r llong yn gywir, a’i chysylltu i’r cyfrifiadur ei hun. Roedd gwên enfawr ar wyneb pob un o’r plant pan oedd eu llong fach hwy’n symud nôl a mlaen!
Roedd llawer mwy i’w weld ac i’w wneud yn Techniquest hefyd, gan fod nifer o ystafelloedd yn llawn o offer gwyddonol diddorol ar gael er mwyn i’r plant arbrofi â nhw, ac roedd yn andros o sbort cael ymlwybro drwy’r ddrysfa ddrychau!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Mr Barry ‘Archie’ Jones
Braint oedd cael croesawu Mr Barry ‘Archie’ Jones o fand Celt i’n hysgol! Roedd y disgyblion yn gwrando’n eiddgar ar hanes cefndir diddorol y band ac ar hanesion amdano fel cyn-ddisgybl yn Ysgol Llanllechid! Cafodd dosbarth Mr Stephen Jones fodd i fyw wrth wrando ar Archie yn perfformio ambell glasur gan gynnwys yr enwog ‘Un Funud Fach’ a chael dysgu sut i chwarae ein hanthem ar yr ukelele. Pleser pur oedd cael treulio amser yng nghwmni Archie. Wyddoch chi beth? Mi gawson ni anrheg arbennig i`r ysgol! A`r anrheg oedd ukelele a llun y ddraig goch arni, wedi ei harwyddo gan `Archie` ei hun.. Dyna i chi beth ydi dyn caredig a thalentog dros ben! Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl atom unwaith eto yn fuan.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Castell Penrhyn
Aeth dosbarth Mrs Wilson draw i Gastell Penrhyn i gymryd rhan mewn gweithdai Nadoligaidd.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Canu yn Ysbyty Gwynedd
Bu rhai o ddisgyblion dosbarth Mr Stephen Jones yn diddanu cleifion yn Ysbyty Gwynedd ar brynhawniau yn nechrau Rhagfyr. Cafwyd cyfle i ganu rai o ganeuon y Sioe Nadolig a`r gynulleidfa wrth eu boddau. Diolch i Mrs Delyth Humphreys am eu hyfforddi.
(Saesneg yn unig)
Please can you pass on our thanks to all involved with the choir visiting the renal unit last week. There have been numerous positive comments and the visit by the children turned out to be a real morale boost for both patients and staff.
Two gentlemen in particular, stated how beautiful it was to hear the children sing, in fact, they both commented that it had made their Christmas and it would be something that they would remember and treasure. “delightful” .
Kind regards
Wishing you all a Merry Christmas.
Alison.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Pantomeim Branwen
Aeth dosbarth Mrs Wilson i Theatr Pontio i fwynhau sioe Pantomeim Branwen Ferch Llyr. Dyma yw un o storiau mwyaf adnabyddus Pedair Cainc y Mabinogi. Mae'n debyg mai rhai o`n hoff gymeriadau yw Bendigeidfran y cawr, ei chwaer hardd Branwen, a'r hanner brawd dieflig Efnisien. Cofiwn am Bendigeidfran yn eistedd ar graig Harlech, yn syllu allan dros y mor; Matholwch, brenin Iwerddon yn hwylio'r Mor Celtaidd i chwilio am wraig; Llys Aberffraw yn cynnal neithior y briodas; ymgyrch y Cymry yn Iwerddon; ac wrth gwrs bedd Branwen ar lan afon Alaw ar Ynys Mon. Diolch yn fawr i Gyfeillion Ysgol Llanllechid am dalu costau`r bysiau.
PC Owain Edwards
Diolch i PC Owain Edwards am ddod draw i Ysgol Llanllechid i drafod gwahanol agweddau ar sut i gadw`n iach hefo`n disgyblion gan gynnwys: diolgewlch ar y we, ymddygiad gwrth gymdeithasol, peryglon ysmygu ac agweddau eraill ar sut i gadw`n iach.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Ffair Lyfrau
Cynhaliwyd ein Ffair Lyfrau flynyddol a diolchwn o galon i Meleri Davies am ddod a llyfrau Cymraeg i ni eu gwerthu o Siop Ogwen – lle da iawn am anrhegion Nadolig! Rydym yn ffodus iawn o’n rhieni ac mae’n werth darllen y llyfr `Codi Llais`, lle mae Meleri wedi ysgrifennu pennod ynddo, mynnwch gopi! Diolch i bawb a ddaeth i’r ysgol i gefnogi’r Ffair Lyfrau!
Dawnsio Disgo
Llongyfarchiadau enfawr i’r Criwiau Dawnsio Disgo. Dyfarnwyd y wobr gyntaf i ddisgyblion Blwyddyn 6 a’r ail wobr i ddisgyblion Bl 4. Da iawn chi! Diolch arbennig i Mia Blwyddyn 6 am eich hyfforddi a diolch hefyd i Ms Katherine am yr holl waith da!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Gwobrau Ysgrifennu
Llongyfarchiadau gwresog i’r canlynol ar ennill y gwobrau â ganlyn yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen ym maes llenyddiaeth.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Bocsys Nadolig
Casglwyd 44 o focsys ynghyd ar gyfer yr ymgyrch T4U. Bydd y bocsys Nadolig yn cael eu cludo i Ddwyrain Ewrop a byddant yn cael eu dosbarthu yna. Diolch i bawb a fu’n brysur yn llenwi’r bocsys gan rannu ewyllys da ar drothwy cyfnod y Nadolig.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Pawen Lawen ar Ddiwrnod Plant Mewn Angen
Godwyd £504 eleni yn ystod ein diwrnod Plant Mewn Angen, sy’n glod i chi fel rhieni a gwarcheidwaid am gefnogi`r elusen hon. Cafwyd gweithgareddau amrywiol, a’r uchafbwynt heb amheuaeth, oedd taflu sbwnjus gwlyb at Mr Ady! Cafwyd sbort a sbri drwy’r dydd ac mae’r lluniau sydd ar ein gwefan yn tystio i hynny, does ond angen edrych ar wynebau’r plantos! Diwrnod llwyddiannus! Diolch i`r Cyngor Ysgol am eu trefniadau a da iawn pawb ohonoch.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Torchau Nadolig
Llawer o ddiolch i Mrs Caroline Jones am ddod i mewn i ddosbarth Blwyddyn 6 i gynnal gweithdy creu torchau Nadolig. Yn gyntaf, bu rhaid i rai o’r plant fynd i Bron Arfon, ty Anti Wendy i held dail a chelyn o’r gwrychoedd, cyn eu defnyddio yn haenau yn y torchau. Fel rhan o’n gwaith Mentergarwch, gwerthwyd pob torch am £5, a gwnaethpwyd elw. Diolch o galon i dad a mam Noah, Mrs Stephen Jones a Mrs Caroline Jones am ddod atom i ddysgu’r sgil newydd sbon i’n disgyblion.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Daearegydd brwdfrydig a phrofiadol
Pleser unwaith eto oedd cael croesawu Daearegydd brwdfrydig a phrofiadol i’n hysgol i rannu ei wybodaeth helaeth am greigiau a llosgfynyddoedd! Roedd yn brofiad anhygoel cael gafael ar greigiau amrywiol a hynafol o grombil y ddaear. Mwynhaodd y disgyblion wylio clipiau fidio o losgfynyddoedd yn ffrwydro draw yng Ngwlad yr Iâ a daeth y gweithdy yn fyw wrth i’r disgyblion greu llosgfynyddoedd a ffrwydriadau eu hunain! Diolch Mr Wright.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Ffair Nadolig Ysgol Llanllechid
Ffair Nadolig - Diolch yn Fawr
Diolch anferthol i bawb ohonoch am Ffair Nadolig wrth chweil! Roedd hi’n bleser bod yno yng nghanol yr holl brysurdeb a’r bwrlwm. Diolchwn i bawb a weithiodd mor galed i sicrhau y Ffair Nadolig orau eto! Gwnaethpwyd elw o £1584.00 i gronfa`r ysgol.
Syniad Anti Gillian oedd cynnal y Ffair Nadolig ar nos Wener yn hytrach nag ar fore Sadwrn a bu’n llwyddiant am y tro cyntaf llynedd. Os oedd hi’n llwyddiant y llynedd, roedd hi’n llwyddiant ysgubol eleni! Daeth tyrfa ynghyd i’n cefnogi a chafwyd blas ar ysbryd yr wyl gan Ynyr Llwyd, ewythr Gwenno a Gruff Beech, a fu’n canu a’n diddanu gydag amrywiaeth o ganeuon a charolau. Diolch i Mr Stephen Jones, ein swyddog Technegol am ymwneud â’r ochor honno, a chafwyd canu cynulleidafol a Mr Walter Williams a Mrs Angharad Llwyd wrth y llyw. Diolch i’r holl stondinwyr am ddod draw: Mr Neville Hughes yn gwerthu’r Jam, Mrs Linda Pritchard ac Elin yn gwerthu Crefftau How Get; Mrs Fiona Sherlock,Sioned Glyn, Siop Ogwen yn gwerthu llyfrau Cymraeg penigamp. Diolch i bawb a fu wrthi’n gwneud cacennau, ac i bawb a fu’n gweithio’n ddygn yn y gegin; roedd y baps twrci yn fendigedig! Diolch arbennig i’n corachod, Ms Haf a Mrs Tegid am eu cymorth parod. Cafwyd awyrgylch braf a chyfle i bob un ddechrau meddwl am siopa ar gyfer y Nadolig. Diolch hefyd i Siop Londis am y holl fins peis ac i Popty Bakery. Codwyd £1584.00 i gronfa’r ysgol sy’n swm anhygoel. Diolch i bawb.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cliciwch yma i weld Llwyddiant Celf a Chrefft
Cliciwch yma i weld Llwyddiant Llenyddiaeth
Llefaru Meithrin
1af – Erin Môn - Ysgol Llanllechid
Unawd Meithrin
1af - Gruff Rhys - Ysgol Llanllechid
2il - Celt Madog - Ysgol Llanllechid
Llefaru Derbyn
1af - Eban Roberts - Ysgol Llanllechid
2ail - Elsi Mererid Allsup - Ysgol Llanllechid
3ydd - Alfie Muldoon- Ysgol Llanllechid
Unawd Derbyn
1af – Ela Grace - Ysgol Llanllechid
2il – Elsi Mererid Allsup - Ysgol Llanllechid
Cydradd 3ydd – Lili Herbert-Ysgol Llanllechid
Llefaru Blwyddyn 1
1af – Lili Mair Williams - Ysgol Llanllechid
2il – Mali Haf Hughes - Ysgol Llanllechid
3ydd – Mared Llywelyn Williams -Ysgol Llanllechid
Unawd Blwyddyn 1.
1af – Lili Mair Williams - Ysgol Llanllechid
2il – Efan James - Ysgol Llanllechid
3ydd – Catrin Haf - Ysgol Llanllechid
Llefaru Blwyddyn 2.
1af - Catrin Morris - Ysgol Llanllechid
2il – Medi Haf - Ysgol Llanllechid
3ydd – Elen Dafydd - Ysgol Llanllechid
Unawd Blwyddyn 2
1af – Elenya D'Amora - Ysgol Llanllechid
2il – Nest Durrent - Ysgol Llanllechid
Cydradd 3ydd – Elliw Parri Williams - Ysgol Llanllechid
Llefaru Blynyddoedd 3 a 4.
1af – Gwenno Beech - Ysgol Llanllechid
2il – Gruff Beech - Ysgol Llanllechid
Cydradd 3ydd - Llinos Ball - Ysgol Llanllechid a Cadi Efa Huws - Ysgol Llanllechid
Unawd Blynyddoedd 3 a 4.
1af – Gwenno Beech - Ysgol Llanllechid
2il – Gruff Beech - Ysgol Llanllechid
Cydradd 3ydd - Angharad Ball - Ysgol Llanllechid a Llefaru Blynyddoedd 5 a 6
1af – Mali Fflur - Ysgol Llanllechid
Cydradd 3ydd – Chenai Chikanza - Ysgol Llanllechid a
Unawd Alaw Werin Blwyddyn 6 ac iau.
1af – Gwenno Beech - Ysgol Llanllechid
Unawd Blynyddoedd 5 a 6.
1af – Mia Williams - Ysgol Llanllechid
Cydradd 2il – Chenai Chikanza a Mari Roberts - Ysgol Llanllechid
Parti Llefaru Ysgol Gynradd.
1af – Parti blwyddyn 5 a 6 Ysgol Llanllechid
Unawd Offerynnol Blwyddyn 6 ac iau
2ail - Elliw Davies - Ysol Llanlechid
3ydd – Leusa Morris - Ysgol Llanllechid
Grwp Offerynnol Blwyddyn 6 a iau
1af - Grwp Gruff - Ysgol Llanllechid
Cydradd 2il - Seren ac Erin - Ysgol Llanllechid a Carwyn ac Isla - Ysgol Llanllechid
Parti Unsain Blwyddyn 6 ac iau.
1af – Parti Blwyddyn 4 a 5 Ysgol Llanllechid
3ydd – Parti Blwyddyn 6 Ysgol Llanllechid
Unawd Cerdd Dant
1af - Gwenno Beech - Ysgol Llanllechid
Parti Cerdd Dant
1af - Parti Blwyddyn 6 Ysgol Llanllechid
2il - Parti Blwyddyn 4 a 5 Ysgol Llanllechid
Côr Blwyddyn 6 ac iau
1af – Côr Ysgol Llanllechid
Grwp Dawnsio Disgo Blwyddyn 6 ac iau
1af - Grwp Ffion - Ysgol Llanllechid
2il - Grwp Cadi - Ysgol Llanllechid
Tarian Perfformiad Gorau
Chenai Chikanza - Ysgol Llanllechid
Llenyddiaeth Ysgolion Cynradd y Dalgylch Stori
1af – Tili Roberts Jones - Ysgol Llanllechid
2il – Eban Pritchard - Ysgol Llanllechid
3ydd – Elan Jones - Ysgol Llanllechid
Barddoniaeth
1af – Eban Pritchard - Ysgol Llanllechid
2il – Ffion Tipton - Ysgol Llanllechid
3ydd – Hana Jones - Ysgol Llanllechid
Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen
Diwrnod Plant Mewn Angen
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Pawen Lawen Ysgol Llanllechid
Plant Cymru yn torri targed Pawen Lawen BBC Radio Cymru
Mae disgyblion ysgol ar hyd a lled Cymru wedi helpu cyflwynydd BBC Radio Cymru, Aled Hughes i gasglu dros 10,000 pawen lawen (high five) fel rhan o ymgyrch Plant Mewn Angen.
Fe osododd Aled Hughes darged i ysgolion Cymru i anfon 10,000 pawen lawen digidol ar gyfryngau cymdeithasol at ei raglen ddyddiol ar Radio Cymru – ac wythnos cyn diwrnod Plant Mewn Angen mae o wedi cyrraedd y nod. Ers lansio’r ymgyrch ym mis Hydref, mae wedi dal dychymyg disgyblion Cymru ac ymhellach, gan chwalu'r targed gwreiddiol. Erbyn hyn mae 97 o ysgolion a chymdeithasau, gan gynnwys rhai ym Mhatagonia, Seland Newydd a Fietnam, wedi casglu 10,682 pawen lawen gyda’r cyfanswm yn dal i dyfu! Mae cyfle i’ch ysgol chi ymuno yn yr hwyl a helpu tîm Aled gyrraedd eu targed newydd o 15,000 cyn diwrnod Plant Mewn Angen ar Dachwedd 16. Y cwbl sydd ei angen yw ffilmio disgyblion yn gwneud cadwyn pawen lawen ac anfon y fideo at Radio Cymru gan ddefnyddio’r hashnod #PawenLawen
Rhwng Tachwedd 12-15 bydd Aled ar daith Pawen Lawen yn casglu arian ac yn ymweld â 36 o ysgolion yn y Rhondda, Casnewydd, Llangadfan, Wrecsam a Deiniolen ac mae’n edrych ymlaen at ymweld â’r ardaloedd.
Diwrnod Ysgol Eco
Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn yn ystod ein diwrnod Ysgol Eco, a chafodd yr holl blant gyfle i gyfnewid llyfrau neu ddillad, gan gyfrannu tuag at y Groes Goch. Cyflwynwyd siec o £186.08 i Mr Dafydd Beech o’r Groes Goch. Bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i gynorthwyo pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd yn ddiweddar. Llawer o ddiolch i bawb a wnaeth gefnogi’r ymgyrch hon a diolch i’r Grwp Eco am drefnu.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cwmni Fran Wen
Croesawyd Cwmni’r Fran Wen yma yr wythnos hon i ddiddanu Bl 0 ac 1 gyda’r Sioe Twrw Dan a Dicw i`w dysgu am gyfeillgarwch a pharch.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Bocsys Esgidiau Nadolig
Mae Ysgol Llanllechid, unwaith yn rhagor yn cymryd rhan yn yr ymgyrch Bocsys Esgidiau T4U. (Taflenni wedi eu dosbarthu) Diwrnod olaf casglu`r bocsys 19/11/2018
Ffair Lyfrau
Cynhelir Ffair Lyfrau flynyddol ar Dachwedd14. Bydd llyfrau Cymraeg o Siop Ogwen a llyfrau Saesneg (Book People) ar werth o 2.30 – 4.30pm yn ystod y prynhawn.
Lon Fach Odro
Aeth disgyblion Blwyddyn 3 am dro ar hyd Lon Fach Odro i graffu ar y mwsog, brwyn, rhedyn a`r rhisgl a llawer mwy!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Aeth dosbarth Mrs Marian Jones draw i ddysgu am ac i efelychu gwaith Tunnicliffe, yr arlunydd oedd wedi arbenigo mewn darlunio bywyd gwyllt. Treuliodd y rhan helaethaf o`i oes ym Malltraeth ar Ynys Môn.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Daeth pob un o dddisgyblion Derbyn a Blwyddyn 1 a`u tedis i`r ysgol er mwyn bod yn rhan o Barti bwyd Iach!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Meilir Sion
Braint ac anrhydedd oedd croesawu Meilir Sion i Ysgol Llanllechid i gynnal gweithdy ysgrifennu creadigol gyda`r disgyblion. “ Dwi wir wedi mwynhau cynnal sesiwn ysgrifennu yn yr ysgol ac wedi chwerthin oherwydd eich hiwmor hyfryd!”
Rhagoriaeth Mewn Teithio Cynaliadwy
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Pentre Peryglon
Bu plant Blwyddyn 6 ar daith addysgiadol i Bentre Peryglon yn ddiweddar, sef canolfan addysgiadol sydd wed ei hadeiladu'n bwrpasol i roi gwybodaeth hanfodol i blant a phobl ifanc ar wahanol agweddau o ddiogelwch. Mwynhaodd y disgyblion ddysgu am ddiogelwch yn y cartref, allan ar y ffordd a hefyd ar y traeth tra’n helpu ‘K-os’ yr estron! Profiadau bythgofiadwy a phwysig dros ben!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Trefnwyd gŵyl rygbi arbennig i blant o flynyddoedd 5 a 6 y dalgylch ar gaeau rygbi Dol Ddafydd, Clwb Rygbi Bethesda yn ddiweddar. Mwynhaodd y disgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi amrywiol ac egnïol cyn mynd ati i chwarae’n gystadleuol. Llawer o ddiolch i Rhys Jones, swyddog HWB rygbi Ysgol Dyffryn Ogwen am drefnu’r ŵyl ac i ddisgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen am helpu gyda’r dyfarnu. Braf oedd gweld y caeau yn llawn a’r plant yn eu helfen!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Fe ddysgom lawer pan ddaeth aelod o’r frigâd dân i’r ysgol yn ddiweddar. Neges i bawb: cofiwch wneud yn siwr fod eich larwm tân yn gweithio!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cyngerdd Diolchgarwch Syfrdanol
Dyna wledd y cawson bore ‘ma!!! Arbennig - wedi mwynhau yn arw. Mae ‘na daletau enfawr yn yr ysgol - yn blant ac athrawon. Diolch i bob un ohonoch am eich gwaith caled, mae plantos ysgol Llanllechid yn lwcus iawn!
Diolch calon,
Annwen (Mam Elliw, bl.2)
Gwasanaeth Diolchgarwch Ysgol Llanllechid – Mor braf cael dod i`r ysgol i weld a chlywed y plant yn cyflwyno eu Gwasnaeth Diolchgarwch. Canu ardderchog! Diolch am yr holl ymdrech a diolch am y gwahoddiad i ddod atoch.
John Pritchard (Gweinidog Capel Carmel)
Yn ddiweddar daeth Eurgain Prysor, cyn ddisgybl o ysgol Capel Celyn yn ystod y chwedegau i sgwrsio gyda disgyblion blwyddyn 4 a 5. Eurgain a’i dau frawd oedd rhai o ddisgyblion olaf yr ysgol cyn i`r cwm gael ei foddi. Roedd ganddi atgofion byw o fynd i Lerpwl i brotestio yn erbyn y boddi, a phobl Lerpwl yn poeri a thaflu tomatos arni!
Roedd hi`n wefreiddiol gwrando ar Eurgain yn hel atgofion. Soniodd fel yr oedd yr ysgol yn deulu bach gyda phlant o dair oed hyd at un ar ddeg blwydd oed o dan yr unto, yn yr un dosbarth. Cynheswyd yr ystafell honno gyda tanllwyth o dan mawr ac roedd hi`n gynnes, glyd yno, gyda`r desgiau i gyd o flaen y tân. Nid oedd neuadd yno i wneud ymarfer corff, ond roedd yr athrawes yn un dda am fynd a`r plant allan ar deithiau byd natur. Oherwydd hyn, roedd gwybodaeth y disgyblion o`u cynefin a`r coed a`r blodau yn drylwyr, ac wedi aros yn y cof.
Ar Orffennaf 25, 1961, cynhaliwyd y cyfarfod olaf yn y capel a chafodd pob disgybl anrheg o Feibl fel anrheg i gofio am yr achlysur trist.
Roedd hi`n fraint ac yn anrhydedd cael cyfarfod Eurgian Prysor a diolch o galon am ddod draw ac am ddod a hanes y cyfnod hwn mor fyw i`n disgyblion.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Golchi Dwylo
Bu plant y Cyfnod Sylfaen yn brysur yn dysgu sut i olchi eu dwylo yn lân!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Y Chwedegau
Cafodd dosbarthiadau Mrs Bethan Jones, Mrs Tegid a Ms Gwenlli Haf fodd i fyw yn ystod diwrnod y Chwedegau yn yr ysgol. Pob math o weithgareddau diddorol yn digwydd drwy`r dydd a`r athrawon a`r plant fel ei gilydd yn edrych yn ddigon o sioe yng ngwisgoedd lliwgar y cyfnod cyffrous hwnnw.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Darllenwyr o Fri
Dyma restr o`n disgyblion sydd wedi llwyddo i gwbwlhau Sialens Ddarllen yr Haf sef Dyfeiswyr Direidi, sy`n golygu beu bod wedi llwyddo i ddarllen o leiaf naw llyfr yn ystod gwyliau`r haf.
1. Barrett, Ursula
2. Haider, Afra
3. Haider, Zain
4. Hughes, Moli
5. Jones, Seirian Rhodd
6. Morris, Elan
7. Morris, Leusa
8. Roberts, Evie
9. Roberts, Harry
10. Mia Lois Griffith
11. Deio Wager
12. Nedw Wager
13. Elin Edwards
14. Dylan Billington
15. Bethan Billington
16. Anna Isaac
17. Eban Wyn Roberts
18. Elsa Wyn
19. Elys Wyn Roberts
20. Celt Hughes
21. Nanw Hughes
22. Ifan Hughes
23. Sofia Roque-Nunes
24. Catrin Sian Jones
25. Jayden Carson
Camau i'w cymryd: Problemau cyflenwi Epipen® - cliciwch yma
Y Fedal Gee
Daeth anrhydedd a chlod arbennig i un o ffrindiau annwyl Ysgol Llanllechid. Ar ddiwedd Medi eleni derbyniodd Mrs Helen Williams y Fedal Gee mewn seremoni a gynhaliwyd yng nghapel Seilo, Eglwys Unedig Gymraeg, Llandudno. Croesawyd y gynulleidfa i’r oedfa arbennig hon gan Aled Davies, a’r Parchedig Dylan Rhys Parry oedd yn gyfrifol am defosiwn agoriadol gydag aelodau Ysgol Sul Seilo. Gwyddom am ddawn ac ymroddiad Mrs Helen Williams i’r Ysgol Sul yng Nghapel Carmel ers un mlynedd a thrigain, sy’n wasanaeth eithriadol i’r gymuned yn Nyffryn Ogwen. Gwyddom hefyd am ei gwaith gyda ieuenctid y fro, ac mae’n glod aruthrol i Mrs Williams fod cymaint yn mynychu’r Clwb Dwylo Prysur pob nos Wener. Gwyddom hefyd am ei diwydrwydd cyffredinol yng Nghapel Carmel, a chyda grwpiau eraill sy’n cyfarfod yno. Llongyfarchiadau gwresog i chi Mrs Helen Williams a diolch ar ran pawb yn Ysgol Llanllechid am eich gwasanaeth unigryw i genedlaethau o blant yr ardal. Mae ein hedmygedd yn fawr tuag atoch.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Bingo Haf
Diolch i bawb a ddaeth draw i’r Clwb Criced i gefnogi ein Bingo Haf. Cafwyd noson lwyddiannus. Diolch i’r pwyllgor ac i bawb a wnaeth helpu mewn unrhyw ffordd. Gwnaethpwyd elw o £268.35 i gronfa’r ysgol.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Priodas Hapus
Llongyfarchiadau gwresog i un o gyn-ddisgyblion Ysgol Llanllechid, a merch ieuengaf Mr a Mrs Ron Jones ar ei phriodas ar draethell braf yng Nghanada. Priododd Laura Jones gyda Tom Appleby ar Ynys Gallianno yn ystod mis Awst pan ddaeth y teulu ynghyd i ddathlu. Newyddion hyfryd a braf cael gweld y lluniau bendigedig. Pob dymuniad da i’r ddau ohonoch i’r dyfodol oddi wrthym i gyd yn Ysgol Llanllechid.
Priodas arall
Llongyfarchwn Martha Parry Owen, merch Mr a Mrs Parry Owen ar ei phriodas hithau yn ystod yr haf. Pob dymuniad da i’r pâr ifanc a phob hapusrwydd i’r dyfodol.
Er côf am Mrs Jean Williams
Derbyniodd Ysgol Llanllechid rodd garedig gan deulu’r diweddar Mrs Jean Williams, oedd yn gyfaill i Ysgol Llnallechid. Llawer o ddiolch i Ms Elen Williams am ddod atom i gyflwyno’r rhodd ar ran y teulu. Mae rhoddion fel hyn i’r ysgol yn werthfawr iawn. Diolch o galon.
Tafarn y Bull
Mawr yw ein diolch i gwsmeriaid Tafarn y Bul am siec o £200 i Ysgol Llanllechid. Diolch yn fawr am eich caredigrwydd.
Cofion
Anfonwn ein cofion at deulu Mrs Macdonald. Rydym i gyd yn meddwl amdanoch ac yn cofio atoch.
Cegin Ers Talwm
Yn ddiweddar bu disgyblion Blwyddyn Dau yn lwcus iawn o gael cwmni Mrs Gwenda Williams o’r Archifdy. Dysgodd y plant am yr hyn oedd i`w weld yn nhai`r chwarelwyr ers talwm e.e. doli a twb, megin, a thecell hen ffasiwn. Cafwyd cyfle i wisgo i fyny – gwasgod, a chap stabal i`r hogiau a ffedog a chap ffril i`r genod! Digon o sioe! Cafwyd cyfle hefyd i gymharu ddoe a heddiw a dysgu am fyd heb drydan. Prynhawn difyr dros ben. Diolch yn fawr Gwenda.
Gweithdy Mathemateg a Gwyddoniaeth
I`r Galeri yng Nghaernarfon yr aeth dosbarth Mrs Marian Jones i gymryd rhan mewn gweithdy Mathemateg llawn swigod! Dysgwyd gwersi pwysig e.e. ei bod hi`n hanfodol mentro a pheidio a bod ofn gwneud camgymeriadau ac mai dyfal donc biau hi!
Pentre Peryglon
Bu plant dosabrth Mr Stephen Jones ar daith addysgiadol i Bentre Peryglon, sef canolfan addysgol sydd wedi'i hadeiladu'n bwrpasol i roi gwybodaeth hanfodol i blant a phobl ifanc ar wahanol agweddau o ddiogelwch gyda trydan ac ati. Dysgodd y disgyblion sut i gadw eu hunain yn ddiogel yn y cartref, wrth groesi`r lôn a hefyd ar y traeth. Gwersi pwysig.
Cliciwch ymai weld mwy o luniau
Plas Newydd ac Oriel Môn
Aeth disgyblion Blwyddyn 3 draw i Blas Newydd, Ynys Môn er mwyn chwilio am wiwerod coch a gwneud gwaith map. Gwelwyd un wiwer goch yn sboncio`n chwim o gangen i gangen, a chafwyd cyfle i ddatblygu sgiliau map drwy gofnodi`r llwybrau a’r gerddi. Oriel Môn oedd y gyrchfan ar ôl hyn i astudio darluniau Charles Tunnicliffe, a chael cyfle i argraffu gwaith eu hunain. Diwrnod ardderchog!
Ymweliad ag Amgueddfa’r Beatles yn Lerpwl
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Ffair Hydref
Diolch o waelod calon i bawb a weithiodd mor galed eleni i sicrhau Ffair Ysgol lwyddiannus iawn. Gwelwyd tîm anhygoel o bobl clên a charedig yn gweithio eu gorau glas i sicrhau y fath lwyddiant. Roedd cymaint ohonoch yn fodlon rhoi eich amser prin ar ddydd Sadwrn i gynorthwyo Ysgol Llanllechid, ac mae`n dyled a`n diolch yn fawr i chi un ac oll.
Cafwyd cefnogaeth anhygoel a chymorth heb ei ail gennych fel rhieni a ffrindiau`r ysgol mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Yn y lle cyntaf, diolch yn fawr i bawb sy`n mynychu`r cyfarfodydd ac i chi a fu`n rhoi`r cynlluniau yn eu lle ar gyfer y diwrnod mawr. Mae gwaith pob aelod o`r pwyllgor i`w ganmol, ac mae`n deg dweud na fyddai ein Cymdeithas Rhieni/Athrawon yn llwyddo heb eich ymroddiad a`ch gwaith caled.
Diolch i bawb a weithiodd mor galed yn y gegin - rydych yn gwybod pwy ydych chi! Pawb am y cyntaf i brynu`r cacenau hufen a`r byns! Roedd pawb wedi gwirioni hefo`r holl ddanteithion, a mawr yw ein diolch i bob un ohonoch am sicrhau gwledd i bawb a ddaeth draw. (Anodd i mi ddechrau eich henwi i gyd!) Felly hefyd, y barbeciw! Syniad gwych a chinio blasus! Diolch yn fawr.
Diolch i`r holl stondinwyr am sicrhau bargeinion lu ac i bawb oedd yn gyfrifol am gemau allan ar yr iard gan gynnwys y castell bownsio! Peintwyd wynebau mewn modd creadigol iawn a bu`r cyfan yn llwyddiant!
Un o`r uchafbwyntiau, yn sicr, oedd ein canwr, sydd wedi ymgartrefu yn Rachub, Gwilym Bowen Rhys. Hyfryd oedd clywed yr holl ganeuon gwerin a thraddodiadol yn byrlymu fel pwll y môr, chwedl un o`n rhieni y bore yma! Hyfryd iawn! Rydym mor ffodus o gael cyswllt mor agos gyda Gwilym Bowen Rhys, sy`n gymaint o athrylith yn ei faes.
Diolch hefyd i`n ffrindiau o Rownd a Rownd! Braf oedd cael sgwrsio gyda Tomi Llywelyn (Robbie) a Leusa Gwenllian (Kylie) a braf iawn i`r plant oedd cael cyfnod yng nghwmni eu harwyr! Diolch o galon!
Diolch i`r pwyllgor am gael y syniad o olchi ceir! Wel bendigedig! Car pawb yn sgleinio fel swllt!
Diolch i ddisgyblion Blwyddyn 6 ac i Mr Geriant Jones, Cwmni Ogwen Moblie Valeting am hyn!
Roedd y croeso hefyd yn frwd wrth giat yr ysgol, a llinell hir o bobl yn aros i ddod i mewn a phrynu`r raffls!
Fel y gwelwch, prynhawn i`w gofio a`r haul yn gwenu arnom eleni!
Mae`n fraint cael teimlo cynhesrwydd a haelioni pobl yr ardal yn rhoi`r fath gefnogaeth i Ysgol Llanllechid, a`r cyfan er budd ein plantos! Yr elw oedd: £2,094.28 sy`n swm anhygoel!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Ffair Hydref
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Healthy Family Challenge (Saesneg yn unig)
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Bingo Haf
Diolch i bawb a ddaeth draw i’r Clwb Criced i gefnogi ein Bingo Haf. Cafwyd noson lwyddiannus. Diolch i’r pwyllgor ac i bawb a wnaeth helpu mewn unrhyw ffordd. Gwnaethpwyd elw o £268.35 i gronfa’r ysgol.
Beicio Noddedig
Dyma noswaith lwyddiannus dros ben! Diolch i’n Pwyllgor Rhieni/Athrawon am eu holl waith da ac i bawb a helpodd mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Cafwyd amser bendigedig yn yr heulwen yn cadw’n iach a phawb wrth eu boddau yn mynd drwy’r twnel tywyll i Dregarth ac yn ôl.
Mabolgampau CA2
Diolch i Mr Stephen Jones am drefnu’r Mabolgampau. Cafwyd prynhawn eithriadol o dda ac amrywiaeth eang o rasys o bob math.
Ras am Fywyd
Diolch i Ysgol Dyffryn Ogwen am drefnu’r ras arbennig hon ar gyfer Bl 5 a 6.
Cyfarwyddwr Addysg
Daeth Mr Garem Jackson, y Cyfarwyddwr Addysg a Dr Diane Jones, Swyddog Addysg draw i Ysgol Llanllechid yn ddiweddar. Cafwyd cyfle i agor ein cyntedd ar ei newydd wedd yn swyddogol a chafwyd cyfle i graffu ar furlun yr ardal a sylwi ar gyfoeth enwau’r mynyddoedd lleol. Diolch arbennig i Ms Anna Pritchard am greu y fath gampwaith gyda’n plantos. Mae ein cyntedd newydd werth ei weld, ac erioed wedi edrych cystal! Braint oedd cael dangos gwaith ein hysgol, fel Ysgol Arweiniol Greadigol. Bu’r cyfnod yn y neuadd gyda phawb yn canu ac yn adrodd barddoniaeth yn llwyddiant ysgubol hefyd. Diolch i’r disgyblion am fod mor arbennig ac i’r holl staff am eu gwaith.
Carnifal Ysgol Llanllechid
Ar y dydd Mercher olaf cafwyd Carnifal Ysgol Llanllechid a bydd y diwrnod hwn yn aros yn y côf am amser maith! Gobeithio y cewch flas yn edrych ar luniau o`r diwrnod!
Taith Magi Ann a Selog
Awst 22
Popdy, Bangor
10 y bore
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Pictiwrs Popdy Popcorn
Cyfres Deian a Loli
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Llongyfarchiadau i ddisgyblion Blwyddyn 6 ar eu camp yn cyrraedd copa`r Wyddfa. Llawer o ddiolch i Mr Stephen Jones o gwmni Anelu am ei arweiniad a`i ofal dros y plant ar hyd y daith. Ein diolch arferol hefyd i Mr Cemlyn Jones. Cafwyd taith lwyddiannus a phawb wedi cael gwefr yn cyrraedd y copa.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Mabolgampau Cyfnod Sylfaen
Cafwyd prynhawn godidog a daeth nifer enfawr o reini a ffrindiau`r ysgol i`n cefnogi. Llawer o ddiolch i bawb.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Castell Conwy a Chastell Dolwyddelan
Aeth blynyddoedd 3 a 4 i gastell Conwy a chastell Dolwyddelan i ddysgu am ormes, ac oes y cestyll.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Llangollen
Roedd dosbarthiadau Mrs Wilson a Mrs Rona Williams wrth eu boddau yn LLangoillen yn cyfarfod pobl o wahanol ddiwylliannau ar draws y byd. Diwrnod bendigedig!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Bu dosbarth Mrs Stephen Jones yn Nglynllifon yn dysgu am fywyd cefn gwlad ac am wahanol syniadau ynglŷn â sut i warchod yr amgylchedd. Pawb yn canmol!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Sialens Ddarllen yr Haf 2018
Ymunwch am ddim yn eich llyfrgell leol
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Gwilym Bowen Rhys
Braint oedd croesawu Gwilym Bowen Rhys a’i fand rhyngwladol i Ysgol Llanllechid i berfformio i ac hefo’r plant. Treulwyd orig ddifyr dros ben yn dysgu caneuon newydd o groesdoriad o wahanol wledydd gan gynnwys Sweden, Ffrainc, Yr Almaen, Venezuela ac Irac. Roedd y cerddorion wedi eu cyfareddu gan frwdfrydedd ac egni’r disgyblion.
Dyma rai o’u hargraffiadau:
“I am really happy to be here with all this amount of love and respect. My heart is beating very fast. The music we created is great!” Amman from Basara, Irac
“Hello to you all and a huge Merci from a French musician. I love your beautiful mountains, lakes and valleys, as well as the songs your people write about it. It is a real pleasure to share our music. Merci beaucoup!” Sami
“Hello and thank you for the lovely music we had together. Hugs and kisses from Sweden” Ronja Gafstriom
“Hello!” This is Rahul Nair from India. “I loved this school completely. It was one of my most memorable experiences ever! Cheers to music! Lots of love from India”
“You are all wonderful singers with sun in your heart!” Yanika Germany
“Thank you for this beautiful energy. Hope to see you all in a few years around the world singing together!” Ray Venezuela
“Roedd o’n bleser cael dod yma i ganu yn eich ysgol brydferth. Diolch o galon am y croeso cynnes. Plant clyfar a cherddorol ac athrawon caredig” Liam Richard
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Diolch i Ben Stammers am ei rodd o set o encyclopaediau am fywyd gwyllt i Ysgol Llanllechid. Rhodd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru oedd hon. Diolch o galon!
Grwp Maeth Ysgol Llanllechid
Cynhaliwyd y Grwp Maeth gyda Cara Lewis, Swyddog Technegol Arlwyaeth Gwynedd. Bu’r disgyblion yn penderfynu pa fwydydd yr hoffent ei gael ar ddiwrnodau arbennig yn yr ysgol! Da iawn chi aelodau’r grwp am drafod mor synhwyrol.
Bu Ann, Swyddog Addysg y Cynulliad draw yn Ysgol Llanllechid yn cynnal gweithdy gyda blwyddyn 6, gan egluro beth yw pwrpas y Senedd ym Mae Caerdydd.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Daeth gwobrau lu i’r ysgol yn y cyystadlaethau Celf a Chreff. Da iawn chi blantos am gefnogi’r sioe.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Gwnaeth yr actor Llion Williams gymaint o argraff arnom pan ddaeth i gyflwyno ei sioe ‘Taith yr Iaith’, fel y penderfynom ei wahodd yn ôl yma i Ysgol Llanllechid i ni gael lledaenu’r neges! Diolch yn fawr am godi ymwybyddiaeth y disgyblion am eu hetifeddiaeth a’u treftadaeth.
Mae Parlwr Hufen Iâ arbennig wedi agor yn y dosbarth Derbyn! Bron mor dda â Môn ar Lwy!!!
Rapio
Mae blwyddyn 6 wedi bod yn brysur yn rapio hefo Mrs Marian Jones. Bydd y fideos yn ymddangos yn fuan!
Y Weiren Wib
Braint ac anrhydedd i aelodau o gôr yr ysgol oedd cael canu hefo Mike Peters o’r Alarm a Chôr Meibion y Penrhyn mewn lleoliad anhygoel, sef yng nghrombil Chwarel y Penrhyn! Roedd hi’n agoriad llygad cael bod yn y Zip World Rocks, gwrando ar grwpiau a gweld yr unigolyn yn llithro ar draws y wifren wîb cyn i’r parasiwt agor! Noson i’w chofio! Diddorol fyddai clywed barn cyn-deidiau`r plant am y digwyddiad. Yn sicr, daeth tro ar fyd.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Capel Carmel
Unwaith eto, cawsom y pleser o fynd draw i Gapel Carmel a chael croeso cynnes gan Mrs Helen Williams. Y tro yma y dosbarth Derbyn aeth draw am dro a chafodd pob un o’r plant bach gyfle i adrodd yr adnod “Duw Cariad yw” yn y pulpud. Dysgwyd llawer o diolchwn i Mrs Helen Williams am ei chroeso cynnes a’i charedigrwydd.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
P’nawn Agored
Cafwyd prynhawn agored llwyddiannus a bu’r plant bach, a fydd yn dechrau hefo ni ym mis Medi, yn chwarae’n hapus yn nosbarth Ms Rhian Haf. Edrychwn ymlaen at eu croesawu ar Fedi 4ydd, sef dyddiad cyntaf y tymor i’r holl blant (Dyddiad cyntaf i’r athrawon yw Medi 3ydd)
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cymdeithas Rhieni/Athrawon
Mae’r Gymdeithas hon yn mynd o nerth i nerth dan gadeiryddiaeth Angharad Llwyd Beech. Mae dwy weithgaredd ar y gweill sef beicio noddedig ar Orffennaf 6ed a bingo ar ddiwedd y tymor, ar Orffennaf 18, yn y Clwb Criced. Rydym mor ffodus o’n Cymdeithas Rhieni/Athrawon. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf maent wedi prynu pob math o bethau i Ysgol Llanllechid gan gynnwys llyfrau, adnoddau a chyfrannu tuag at gost tripiau. Diolch o waelod calon i bob un ohonoch sy`n ymdrechu, ac s`yn gweithio`n galed yn cefnogi Ysgol Llanllechid.
Sioe Na, Nel!
Yn yr heulwen braf cerddodd 134 o ddisgyblion i Neuadd Ogwen i weld y Sioe Na, Nel! A chawson nhw ddim eu siomi! Cerddodd pawb yn ôl i’r ysgol wedyn, a chyfarch hwn a’r llall ar Lon Bach Odro! Tydan ni’n lwcus fod Neuadd Ogwen mor agos!
Cyfeiriannu
Cafodd disgyblion blwyddyn 6 ddiwrnod o hwyl yn cystadlu yng nghystadleuaeth cyfeiriannu ym Mharc Padarn, Llanberis yn ddiweddar. Bu’r criw yn brysur yn ymarfer eu sgiliau darllen map a datrys problemau. Llongyfarchiadau i Cian, Cai, Afra ac Osian. Aeth y disgyblion hyn ymlaen i gystadlu ym mhencampwriaeth Gwynedd yng Nglynllifon. Llongyfarchiadau fîl i Cian McLeod a Cai Jones (blwyddyn 6) ar ddod yn ail yn y bencampwriaeth hon. Aeth y ddau ymlaen i gystadlu ym mhencampwriaeth Gogledd Cymru draw yn Llanidloes! Camp yn wir! Ardderchog hogia! Braf yw gweld ein disgyblion yn serennu fel hyn!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Criced
Diolch o galon i Sam Painter, Criced Cymru, am ddod draw i gynnal sesiynau hyfforddi criced yn ystod y tymor. Mwynhaodd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 y sesiynau yn fawr iawn. Choeliwch chi byth, ond glaw oedd y gelyn, yn ystod y gystadleuaeth yn anffodus. Edrychwn ymlaen at gystadlu eto`r flwyddyn nesaf!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Ras Draws Gwlad
Cynhaliwyd ras draws gwlad yr Urdd ar Stad y Faenol yn ddiweddar. Roedd y canlynol yn cymryd rhan o`n hysgol ni: Dylan Billington, Gwydion Eryri, Gwilym Vierra, Seren Roberts, Bethan Billington, Seren Hinchliffe a Madeleine Sinfield. Llongyfarchiadau gwresog i chi. Daeth Bethan o flwyddyn 5 yn ail allan o 72 o redwyr. Anhygoel! Daliwch ati, bawb ohonoch!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Glynllifon
Cafodd dosbarth blwyddyn 5, sef dosbarth Mr Stephen Jones ddiwrnod anhygoel yng Nglynllifon yn ddiweddar wrth iddynt ddysgu am fyd amaeth a chefn gwlad. Cafwyd cyfle i bysgota, ac i weld adar a chwn hela yn cael eu hyfforddi. Dysgwyd am anifeiliaid megis y wiwer goch, tylluanod a ffesantod ac am waith heddlu cefn gwlad. Cafodd disgyblion blwyddyn 5 yr anrhydedd o enwi tylluanod Mr John Islwyn Jones yn ystod eu hymweliad â Glan Llyn yn ddiweddar. Dyna i chi anrhydedd! Enwyd y tylluanod yn Dafydd a Llywelyn, ar ôl ein tywysogion. A chredwch chi byth pwy oedd yno yn aros amdanom yng Nglynllifon?! Ia wir, neb llai na Dafydd a Llywelyn! Diwrnod gwerth chweil!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Noson Ffilm
26/6/18
Babanod
‘Secret Life of Pets’
3.00– 5.00pm
Adran Iau
‘The Greatest Showman’
3.15—5.00pm
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
LLwyddiant Adran yr Urdd Bro Dyffryn Ogwen
Llwyddodd Adran Bro Dyffryn Ogwen i gipio dwy wobr ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed dros yr hanner tymor. Daethant yn fuddugol ar y Côr Adran Bl.6 ac Iau, ac yn drydydd ar y Parti Unsain i Adrannau Bl.6 ac iau. Roedd hanner o aelodau’r côr yn ddisgyblion o Ysgol Llanllechid, sef Chenai Chicanza, Mari Watcyn, Seren Roberts, Gwenno Beech, Gruffudd Beech, Medi Tipton, Ffion Tipton, Llinos Ball ac Angharad Ball. Llongyfarchaidau fîl i chi am roi Dyffryn Ogwen ar y map yn yr Eisteddfod Genedlaethol!
Ras yr Iaith 2018
4ydd o Orffennaf ym Mangor
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Gwerthu Planhigion
Bu disgyblion Dobarth Mrs Wilson, sef blwyddyn 2 yn brysur yn tyfu pob math o blanhigion ac ar ddiwedd yr hanner tymor daeth y rhieni i`w prynu. Diolch i chi rieni am fod mor hael eich cyfraniadau!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Ysgol Arweiniol Greadigol
Fel rhan o`n gwaith ym maes creadigrwydd, ail gynlluniodd y disgyblion hynaf ein cyntedd gyda help Ms Anna ac mae`n werth ei weld. Bydd agoriad swyddogol cyn diwedd tymor yr haf. Welwch chi`r nodau clustiau yn ffermydd Tan y Bwlch, Corbri, Fferm y Bryn, Tan y Garth a Corbri? Welwch chi`r llwynog o`r soned enwog? Welwch chi fedd R.W.Parry ym mynwent Coetmor? Welwch chi`r ffatri sanau a`r merched wrthi`n brysur yn eu creu ar gyfer y milwyr o Fethesda ar adeg y Rhyfel Byd Cyntaf? Dyma ffordd eithriadol o dda o ddysgu am ein hanes a`n tarddodiadau lleol.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Bachgen Bach Toes
Bu dosbarth mrs Williams, sef plant bach Blwyddyn 1 yn brysur yn ysgrifennu ac yn creu y `bachgen bach toes`.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Deinosoriaid
Bu dosbarth Mrs Williams hefyd yn mesur hyd y deinasoriaid allan yn yr awyr iach.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Sioe Ail Ryfel Byd
Gweithgaredd arall oedd yn tynnu sylw’r plant at hanes eu teidiau a’u cyndeidiau oedd y sioe “Glenys y Siop”. Bu’r plant yn gwisgo i fyny ac yn actio’r gwahanol gymeriadau oedd yn mynd i’r siop gyda’r llyfrau dogn. Roedd hi’n rhyfeddod llwyr i’r disgyblion sylweddoli faint o fwyd oedd ar gael i bara am wythnos gyfan. Sonwyd hefyd am effaith yr ail ryfel byd ar wahanol rannau o Gymru ac “Abertawe’n fflam”. Diolch i’r actores Anwen Carlisle am ein diddanu a’n dysgu.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Criced
Bu disgyblion Blwyddyn 6 yn ymarfer eu sgiliau criced gyda Sam Painter. Diolch Sam.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Plannu Tatws
Diolch i Mrs Tegid am ddysgu’r plant sut i blannu tatws. Edrychwn ymlaen at gael eu blasu cyn gwyliau’r haf. Diolch i Mr Tegid hefyd am ddod draw i wneud dipyn o waith caib a rhaw i’n cynorthwyo. Rhaid cofio hefyd am fam a tad Idris a Margiad a mam ac tad Leusa a Elan am ddod â tail i ni. Help mawr!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Blodau Haul
Mae blodau haul dosbarth Mrs Wilson yn tyfu ac yn tyfu a’r plant yn brysur yn eu mesur yn wythnosol.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Buddugoliaeth! Ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
Llongyfarchiadau gwresog i Idris John Temple Morris ar ennill y wobr gyntaf am greu gwaith creadigol. Ardderchog Idris!
Llongyfarchiadau Mr Stephen Jones o Glanllyn
LLongyfarchiadau gwresog i Mr a Mrs Stephen Jones. Ganed merch fach, Loti Grug iddynt ar 14/05/2018. Pawb wedi gwirioni!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Dyma’r plant yn Glanllyn yn dymuno’n dda i Mr Jones a’i deulu.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Gymnasteg
Ar lannau’r afon Ferswy, yn cystadlu mewn cystadleuaeth gymnasteg, bu Erin yn llwyddiannus iawn wrth gynrychioli Eryri.
Dyma’r canlyniadau:
4ydd am weithgareddau ar y llawr
2il am weithgareddau ar y bocs
1af i dîm Erin
2il wobr am y cystadleuydd gorau ar y diwrnod.
Derbyniodd Erin nifer o dlysau hardd a tharian arbennig.
Llongyfarchiadau gwresog i ti! Olympics ryw ddiwrnod Erin!
Llongyfarchiadau brwd hefyd i Catrin ar ei llwyddiant ym maes gymnasteg. Da iawn ti Catrin!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Deinasoriaid Difyr
Llongyfarchiadau i ddosbarth Mrs Rona Williams am greu campweithiau. Mae’r deinosoriaid erbyn hyn yn creu arddangosfa werth chweil yn y dosbarth. Da iawn chi blantos! Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Plas Ffrancon
Dyma nhw ein plant bach Blwyddyn Derbyn sy’n mynd i Blas Ffrancon yn wythnosol.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Amgueddfa Wyddonol
Aeth dosbarth Mrs Rona Williams i amgueddfa arbennig ym Mhentraeth i ddysgu am ffosiliau
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Pypedau
Daeth Leah Griffiths i gynnal gweithdy pypedau hefo dosbarth Mrs Llinos Wilson. Creuwyd cymeriadau chwedlau cymreig lleol yn greadigol iawn. Da iawn chi blantos!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Noson Ffilm
Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi’r noson ffilm. Popeth wedi mynd yn arbennig o dda!
Ffilm Neuadd Ogwen
Bu disgyblion Bl 5 a Bl 6 yn Neuadd Ogwen ar fore Gwener, Mai 11eg yn gwylio ffilm Copa Patagonia. Braf oedd gweld Ioan Doyle, ein cyn-ddisgybl yn serennu hefo Eric Jones; y ddau yn ddringwyr o fri!
Brechdanau Wy
Bu’r plant bach Meithrin yn brysur yn gwneud brechdanau wy.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Chwilio Am Seren
S4C - Junior Eurovision
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Dawnsio Disgo
Dyma`r dawnswyr a ymddangosodd yn y Noswaith o Ddawns yn y Galeri, Caernarfon: Gwenno, Effy,Cadi Efa, Llinos ac Angahard. Diolch i Ms Nicola a Ms Lliwen am eu gwaith ac i`r rheini am eu cefnogaeth.
Yr Ysgwrn, Llyn Celyn a Byd Mari Jones
Yn ddiweddar, bu disgyblion blwyddyn pedwar ar drip bythgofiadwy i’r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn a chael y fraint o gyfarfod Gerald, cyn symud ymlaen i Fyd Mari Jones yn y Bala yn y prynhawn. Roedd y tywydd o`n plaid, oedd yn gryn newid, ar ôl yr holl eira mawr a`r rhew! Cafwyd pleser pur yn edrych allan drwy ffenest y bws ar y ffordd i Sir Feirionnydd a sylwi ar brydferthwch y wlad a`r coed yn dechrau deilio, cyn cyrraedd y llecyn rhyfeddol hwn yng nghwmwd Prysor. Bu cyfle i`r disgyblion adrodd rhai o englynion Hedd Wyn megis:
Ei aberth nid a heibio, - ei wyneb
Annwyl nid a`n ango
Er i`r Almaen ystaenio
Ei dwrn dur yn ei waed o
A hefyd un o`n hoff gerddi:
Dim ond lleuad borffor
Ar fîn y mynydd llwm
A swn hen afon Prysor
Yn canu yn y cwm.
Roedd hi`n wefreiddiol cael y cyfle i ddysgu am ddoniau`r bardd a hanes y gadair ddu. Dysgwyd hefyd am elfennau o erchyllderau`r cyfnod arwydus hwn yn ein hanes; cyfnod a gafodd effaith andwyol ar ein teuluoedd, ein hiaith a`n diwylliant a`r colledion trwm drwyddi draw. Ac, fe`n sobrwyd wrth ddysgu am golledion Trawsfynydd, a phentrefi tebyg yng nghefn gwlad Cymru.
Ymlaen â`r cart, heibio i Lyn Celyn, a dyma i chi wers hanes arall sy`n holl bwysig ei bod ar gôf a chadw ein ieuenctid. Anodd credu….boddi cwm cyfan. Cofiwn fod Mr Walter Williams wedi ei eni yn y cwm hwn ac mae Mr Williams bob amser yn barod i`n helpu fel ysgol i ateb cwestiynau`r disgyblion ar y digwyddiad ac wedi dysgu llawer ffaith ddiddorol i ni. Oeddech chi`n gwybod mai ar Awst 1af, 1957 y pasiodd y senedd yn Llundain fesur i ganiatau boddi Cwm Tryweryn? Yn y cyfnod hwn trefnwyd rali “ Cadw Tryweryn” a gorymdeithiodd dros 4,000 o bobl drwy strydoedd Y Bala i ddangos eu gwrthwynebiad. Aeth cymuned gyfan dan y don gan gynnwys deuddeg fferm, ysgol, swyddfa bost, capel a`r fynwent. A`r gost ariannol yn £20 miliwn. A`r gost i`r ardal, wrth gwrs, yn anfesuradwy.
Ydy`r rhigwm bach yma yn canu cloch?
Ffarwel i blwyf Llanycil
A`r Bala`n dirion deg
Ffarwel fy annwyl gariad
Nid wyf yn enwi neb
Rwy`n mynd i wlad y Saeson
A`m calon fel y drwm
I ganu o flaen y delyn aur
Ac i ddawnsio o flaen y drwm.
Llanycil oedd y gyrchfan a Byd Mari Jones oedd y lleoliad. Dysgwyd am ymdrech lew Mari Jones i gynilo ei harian prin a theithio o Lanfihangel-y- Pennant i’r Bala i brynu Beibl gan Thomas Charles. Roedd cwisiau, gemau cyfrifadurol, ffilmiau a gweithgareddau amrywiol yno i ddiddanu’r disgyblion a phob un wrth eu boddau. Diwrnod arbennig a fydd yn aros yn y côf am byth, gobeithio.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Swigod a Sbri
Aeth plant bach y dosbarth Derbyn i gael gweithdy swigod i Barc Y Faenol a dyna amser braf a gafwyd yn creu swigod o bob lliw a llun drwy`r bore! Yn y prynhawn, cafwyd dro ddifyr gan sylwi ar y gwahanol anifeiliaid cyn dychwelyd i`r ysgol ar y bws deulawr glas! Pawb wrth eu boddau!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Ymgyrch Beicio i`r Ysgol
144! Dyma faint o blant deithiodd i’r ysgol ar feic neu sgwter ar ddydd Iau, Ebrill 26ain! Pam meddai chi? Bu’r ysgol yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth y Big Pedal am y tro cyntaf eleni, ymgyrch sy’n ceisio hyrwyddo teithiau iach ac egnïol. Roedd aelodau o’r Grŵp Gwyrdd yn cofnodi’r sawl oedd yn teithio i’r ysgol ar feic neu sgwter yn ddyddiol er mwyn cymharu gydag ysgolion eraill yn y Deyrnas Unedig. Llongyfarchiadau i ddosbarth Mrs Wilson, pencampwyr yr ysgol! Gan ein bod yn Ysgol Iach ac yn Ysgol Werdd, roedd y gystadleuaeth yn gyfle arbennig i atgoffa’r disgyblion a’r rhieni am bwysigrwydd cadw’n heini a’r effaith bositif mae teithiau o’r fath yn ei gael ar yr amgylchedd. Yn sgil hyn, gwahoddwyd yr ysgol i ymddangos ar raglen FFIT Cymru, gyda’r cyflwynydd S4C enwog, Lisa Gwilym yn ymuno â’r plant mewn sesiynau datblygu sgiliau beicio a sgwtera o dan arweiniad Gwen Thomas, swyddog teithiau iach Sustrans. Diolch o galon i bawb am gefnogi’r ymgyrch gan obeithio y bydd y plant yn parhau i feicio neu sgwtera i’r ysgol! Diolch hefyd i Gwmni Da am ddod draw i’n hysgol er mwyn lledaenu’r negeseuon pwysig o ran iechyd a ffitrwydd! Diolch hefyd i Mr Stephen Jones am gydgordio`r cyfan.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Ras Moel Wnion
Roedd dydd Sadwrn diwethaf, sef diwrnod Ras Moel Wnion yn llwyddiant ysgubol!
Daeth 52 o redwyr i Ysgol Llanllechid o ardal eang a phob un ohonynt wedi llwyddo i redeg i ben Moel Wnion.
Ynghyd â hyn, cafwyd rasus i’r plant ar gae’r ysgol o dan ofal Mr Stephen Jones.
Cafwyd diwrnod bendigedig, awyr las ac awyrgylch braf a phopeth yn rhedeg fel cloc.
Diolch arbennig i Dr Ross Robert (tad Evie a Harri) am ei waith caled yn trefnu ac i`r pwyllgor am yr holl waith da.
Yn wir, diolch i holl aelodau’r Gymdeithas Rhieni /Athrawon a phawb a weithiodd yn galed yng nghegin yr ysgol, yn enwedig Anti Gillian, oedd newydd ddod allan o`r ysbyty. Roedd yr holl gacenau a’r cawl cennin yn hynod flasus, a’r rhedwyr a phawb arall yn llowcio’r cyfan!
Braf iawn gweld yr ysgol yn cydweithio mor effeithiol hefo aelodau’r gymuned fel hyn a chyfraniad rhieni yn allweddol i’n llwyddiant.
Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi.
Cliciwch yma i weld sylwadau rhai o`r rhedwyr
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
FFIT CYMRU
Sialens Wythnos Teithiau Iach
Ebrill 23 – Ebrill 27, 2018
Llongyfarchiadau i ddosbarth Mrs Wilson – PENCAMPWYR sialens y Big Pedal/Wythnos teithiau iach Ysgol Llanllechid! Diolch i bawb am gefnogi! Cofiwch barhau i ddod a’ch beiciau neu eich sgwters i’r ysgol. Mae’n cael effaith hynod bositif ar yr amgylchedd ac mae’n ffordd effeithiol iawn o gadw’n iach! Gwych Ysgol Llanllechid!
Canlyniadau - cliciwch yma
Mwy o wybodaeth - cliciwch yma
Chwarel Pantdreiniog, Bethesda
Bu dosbarthiadau Bl.3 a 4 yn ymchwilio drwy astudio hen luniau ac yn trafod y newid a fu yn safle Pantdreiniog dros 200 mlynedd yn ôl. Aethpwyd am dro i weld y safle presennol, sy`n wrthgyferbyniad llwyr o`r hyn a fu. Erbyn heddiw, mae`n lle tawel, gwyrdd, a heddychlon iawn. Craffwyd ar ddarluniau o’r lle ym 1825, pan oedd y lle’n llawn o adeiladau, siediau o bob math, trên ar gledrau, a gweithwyr prysur ymhobman. Yn y lluniau roedd pobl bwysig e.e swyddogion y chwarel mewn siwtiau crand, yn ogystal â’r gweithwyr cyffredin. Mae lluniau o’r safle yn y 70au yn dangos twll anferthol, gyda sbwriel wedi ei daflu iddo. Roedd y plant wedi synnu fod cannoedd o hen geir rhydlyd wedi eu taflu yng nghanol pob math o sbwriel i’r twll enfawr! Lle llwm tywyll a pheryglus wedi ei weddnewid!
Aled Hughes
Daeth Aled Hughes i Ysgol Llanllechid i gyfweld rhai o`n digyblion hynaf. Bydd yr eitem yn cael ei darlledu ar raglen ar Radio Cymru am 9.20a.m. dydd Iau yr wythnos hon.
Dydd Sadwrn 21af Ebrill
Cofestru o 11.30am
Cychwyn y Ras:1pm
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Mae llaw y Gaeaf oer
Yn cloi pob nant a llyn
A bysedd bach y coed
I gyd mewn menyg gwyn.
Llongyfarchiadau a Dymuniadau Da
Llongyfarchwn Mr Huw Edward Jones ar gael ei benodi`n brifathro Ysgol Henblas, Llangristiolus ar Ynys Môn. Bydd Mr Jones yn dechrau ar ei ddyletswyddau newydd ar ôl y Pasg. Mae holl gymuned Ysgol Llanllechid yn hynod ffodus o fod wedi derbyn gwasanaeth arbennig ac unigryw Huw Edward Jones, a hynny ers ugain mlynedd bellach. Daeth Mr Jones i Ysgol Llanllechid fel myfyriwr o Goleg Prifysgol Bangor, a bu`r ysgol yn ddigon ffodus i`w apwyntio fel athro i addysgu`r disgyblion hynaf. Datblygodd i fod yn aelod o`r Tim Rheoli, cyn cael ei apwyntio yn Ddirprwy Bennaeth yn 2012. O`r cychwyn cyntaf, gwnaeth ei farc yn yr ysgol; yn boblogaidd gyda`r staff a`r disgyblion fel ei gilydd, tra`n cyflawni ei holl ddyletswyddau i safon gadarn, ragorol. Wrth reswm, bydd yn chwith iawn i ni yma yn Ysgol Llanllechid, ac i ardal Dyffryn Ogwen. Ar ran holl gymuned yr ysgol, diolchwn o waelod calon i Mr Jones, a dymunwn bob llwyddiant a hapusrwydd iddo yn ei waith fel Pennaeth yn ei gylch newydd.
Dawnsio Sir yr Urdd
Llongyfarchiadau i bob un ohonoch a aeth i Gricieth i gymryd rhan yn y gystadleuaeth a llongyfarchiadau i chi. Diolch i Ms Nicola a Ms Rachel am eu gwaith yn hyfforddi`r disgyblion. Da iawn chi!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Gweithgareddau i Deuluoedd
Hwyl efo Wyau!
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Calon Lan
Celf A Chrefft 2018
Enw | Cystadleuaeth | Safle |
Lloer Prysor Davies | Gwaith LLuniadu 2D Bl 2 ac iau | 2il |
Elliw Gwen | Gwaith LLuniadu 2D bl 3 &4 | 1af |
Sion Dafydd | Gwaith Lluniadu 2d Bl 3& 4 | 2il |
Margiad Ann Morris | Gwaith Creadigol 2D Bl 2 ac iau | 2il |
Idwal Temple Morris | Gwaith Creadigol 2D Bl 3 a 4 | 1af |
Efa Hardy Griffiths | Gwaith Creadigol 2D bl 3& 4 | 1af |
Idris Temple Morris | Gwaith Creadigol 2D | 1af |
Tomos Owain | Print Lliw Bl 3 & 4 | 3ydd |
Margiad Ann Morris | Argraffu / Adurno ar Ffabrig Bl 2 ac iau | 1af |
Idris John Temple Morris | Argraffu / Addurno ar Ffabrig Bl 5 & 6 | 2il |
Margiad Ann Temple Morris | Gwaith Creadigol 2D Tecstilau | 1af |
Margiad Ann Temple Morris | Gwaith Creadigol 3D Bl 2 ac iau | 1af |
Idris John Temple Morris | Gwaith Creadigol 3D Bl 3-6 | 1af |
Efa Hardy Griffiths | Gemwaith | 1af |
Bing Bong
Gweithdy Arbed Ynni
Bu rhai o`r disgyblion hynaf yn cymryd rhan mewn gweithdy hynod ddiddorol yn seiliedig ar arbed ynni yn y cartref. Bu’r disgyblion yn dysgu am wahanol ffyrdd o ynysu’r cartref, gan fynd ati i gyfrifo’r arbedion. Cafodd y disgyblion gyfle i gynllunio cartrefi ar gyfer y dyfodol gyda’r syniad o arbed ynni a gwarchod yr amgylchedd, a chynlluniwyd cartrefi diddorol dros ben, i ddweud y lleiaf! Wyddoch chi fod modd arbed bron i £90 y flwyddyn wrth droi’r thermostat i lawr 1 °C ?! Os oes angen cyngor arnoch ar sut i arbed ynni yn eich cartref, dewch draw at flwyddyn 5, dosbarth Mr Stephen Jones i holi!
Diwrnod Racedi
AM DDIM I plant/teuluoedd Arfon ar Dydd Sul Mawrth 25.
Os ydych angen mwy o wybodaeth gofynnwch am Hannah Hughes ar:
HannahMediHughes@gwynedd.llyw.cymru
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Bingo Pasg
Mawrth 14 2018
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Ymweliad ag Amgueddfa Beatles, Lerpwl
Fel rhan o’r gwaith ar y chwedegau aeth dosbarth Mr Stephen Jones ar ymweliad ag Amgueddfa Beatles yn Lerpwl. Roedd hi`n brofiad a hanner teithio ar hyd llwybr y Beatles, gan wrando’n astud ar yr hanes drwy ddefnyddio ffonau clust pwrpasol. Anhygoel oedd cael ymweld â’r ‘Cavern Club’ a blasu bywyd yn y chwedegau drwy weithgareddau megis gwisgo gwisgoedd amryliw a chreu Celf Pop! Mwynhaodd y disgyblion floeddio clasuron megis ‘Yellow Submarine’ a ‘Hey Jude’ tra’n cael cyfle i gyfansoddi. Cyfle gwych i brofi bywyd yn y chwedegau!
Halen Môn
Fel rhan o'u gwaith gwyddoniaeth, bu disgyblion blwyddyn 6 yn ymweld â chwmni Halen Môn gan ddysgu sut maent yn creu halen. Bu'r disgyblion yn arsylwi pa ddeunyddiau sydd yn hydoddi ac yn creu toddiant e.e. siwgwr a halen, a pha ddeunyddiau sydd ddim yn hydoddi ac felly yn creu cymysgedd. Dysgodd y plant fod posib hidlo y cymysgeddau ond nad oedd yn bosib hidlo'r toddiant. A dyma'r broses sydd yn digwydd yn Halen Môn - mae'r dwr môr yn cael ei anweddu yn y crisialydd sydd yn arwain at swmp yr halen yn ffurfio. Diolch i Eluned am ein tywys ac am yr hanesion difyr - gan gynnwys dysgu fod y Mor Marw yn cynnwys 30% o halen o gymharu a 3% o halen sydd yn y môr o amgylch Cymru. Ond hyd yn oed gyda 3%, mae cwmni Halen Môn yn fusnes llwyddiannus sydd yn ffynnu ac yn allforio halen i bedwar ban byd.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Grwp Hip-Hop, Stryd a Disgo
Ar nos Fercher, Mawrth 7fed aeth criw o ddisgyblion Ysgol LLanllechid i ddawnsio yn yr Eisteddfod Ddawns. Llongyfarchion gwresog i: Elizabeth, Madeleine, Ffion Haf, Ffion Meredith, Grace, Elsie, Lowri, Afra, Beca, Lois, Gwenno, Cadi Efa, Llinos, Angharad ac Effy.
Llawer iawn o ddiolch i Ms Nicola am eu hyfforddi a hefyd i Ms Rachel am yr holl gymorth. Cafwyd llwyddiant ysgubol; dyfarnwyd y wobr gyntaf a`r ail i Ysgol Llanllechid.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Eira Mawrth 8fed
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Myfyrwraig
Mae`n bleser croesawu myfyrwraig arall atom o Brifysgol Bangor, sef Gwenlli Haf. Mawr obeithiwn y byddi yn hapus iawn yn ein plith Ms Haf. Mae Ms Sian Evans yn parhau yma hefo ni, ac yn gwneud gwaith da ym Mlwyddyn 2, o dan arweiniad Mrs Wilson.
Ysgol Greadigol Arweiniol
Yn sgil derbyn grant, mae`r ysgol bellach wedi dechrau ar y gwaith o greu campweithiau creadigol gyda Mrs Anna Gruffydd.
Eisteddfod yr Urdd
Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol Llanllechid ar eu perfformiadau,eu hynawsedd a’u hymddygiad yn Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen dydd Sadwrn diwethaf.
Dyma’r disgyblion a ddaeth i’r brig. Llongyfarchiadau i bawb am gystadlu a llongyfarchion gwresog i’r rhai a ddaeth i’r brig. Diolch i bawb a fu`n eu hyfforddi gan gynnwys Mrs Helen Williams, Mrs Menai Willams, Mrs Marian Jones a Mr Huw Edward Jones
Canlyniadau Eisteddfod yr Urdd Ysgol Llanllechid |
||
Gruffydd Beech | 1af/1st | Unwad Bl 2 ac Iau |
Lois Jones | 3ydd/3rd | Unawd Bl 5 a 6 |
Gwenno Beech | 1af/ 1st | Unawd Cerdd Dant Bl 3 & 4 |
Parti Afra | 1af / 1st | Parti Cerdd Dant |
Parti Mali | 2il/ 2nd | Parti Cerdd Dant |
Grwp Llefaru Ayesha | 3ydd/ 3rd | Parti Llefaru |
Côr Grace/ Grace’s Choir | 2il/ 2nd | Côr Bl 6 |
Gruffydd Beech | 1af / 1st | Llefaru Unigol Bl2 ac Iau |
Catrin Morris | 3ydd/ 3rd | Llefaru Unigol Bl 2 |
Seren Roberts | 1af/ 1st | Llefaru Unigol Bl 3& 4 |
Gwenno Beech | 2il /2nd | Llefaru Unigol Bl 3 a 4 |
Mali Burgess Williams | 3ydd/ 3rd | Llefaru Unigol Bl 3&4 |
Chenai Chicanza | 1af/1st | Llefaru Unigol Bl5 a 6 |
Madelaine Sinfield | 3ydd/ 3rd | Llefaru Unigol Bl 5 a 6 |
Cliciwch yma i weld lluniau
Diwrnod Golchi
Cafodd dosbarth Mrs Williams amser bendigedig yn dysgu am arferion gwaith tŷ yn yr oes o`r blaen. Roedd pawb wedi dychryn wrth feddwl am yr holl lafur caled yn enwedig wrth sgwrio a golchi.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Meithrin Capel Carmel
Diolch i Mrs Helen Williams am roi croeso cynnes i blant dosbarth Meithrin a dosbarth Blwyddyn 1 a fu yng Nghapel Carmel yn astudio nodweddion y capel. Diolch i Mrs Williams am fod mor barod i gerdded yr ail filltir bob amser.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Diogelwch Tân
Daeth dynion tân o Fangor i siarad hefo dosbarth Mrs Wilson am ddiogelwch tân. Rhyfeddodd pob un at yr injan dân a chafwyd cyfle i ddefnyddio`r bibell i chwistrellu dwr yn union yr un fath a`r dynion tân go iawn. Ond, wyddoch chi beth! Cafwyd galwad frys, a bu rhaid i`r dynion tân ei miglo hi oddi `ma`n reit handi!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Te prynhawn
Roedd y te prynhawn yn llwyddiant ysgubol. Dosbarth Mrs Williams oedd y gwesteion a dosbarth Mrs Wilson oedd y gwahoddedigion! Cafwyd te gwerth chweil ac adloniant i ddilyn. Diolch i Ms Evans am ddysgu`r plant i ddawnsio gwerin! Diolch i Anti Gillian am y bara brith!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Sbwriel a Gwastraff
Mae ein Grwp Gwyrdd, o dan arweiniad Mr Stephen Jones, wedi bod yn goleuo pawb ar sut i edrych ar ôl yr amgylchedd ac yn ein sobri i gyd wrth i ni sywleddoli pa mor ddi-fater ydan ni yn taflu sbwriel i bob man, heb sylweddoli fod llawer o`r sbwriel yma yn cael ei olchi i`r nentydd, afonydd ac i`r môr. Gwyddom yn dda pa mor drychinebus yw effaith hynny ar fywyd gwyllt, a daeth hyn yn fyw i ni hefyd wrth edrych ar raglen David Attenborough.
Mae`r Grwp Gwyrdd yn trio eu gorau glas i sicrhau fod tiroedd yr ysgol yn parhau i fod yn lân a thaclus, felly hefyd Lon Bach Odro a Llyn Corddi ac, fel y gwyddoch, bu cynrychiolaeth o`r ysgol yn brysur yn casglu sbwriel o amgylch Maes Bleddyn gyda chriw Balchder Bro, a bu hynny`n llwyddiant ysgubol! Ond, ni allwn laesu dwylo!
Wrth astudio hyn ymhellach, daethpwyd o hyd i ffaith ddifrifol: ar Ionawr 29 eleni, roedd naw ar hugain o forfilod yn stryffaglio ar lannau Môr y Gogledd. Yn anffodus, bu farw llawer ohonynt, a beth sydd wedi dod i`r amlwg yw fod stumogau`r morfilod hyn a fu farw yn llawn o blastig, gan gynnwys rhwyd bysgota 13m o hyd; plastig o geir a.y.y.b Ffaith eironig: stumogau llawn yn achosi llwgu.
Neges arall gan y Grwp Gwyrdd yw mai nid darnau mawr o blastig sy`n achosi problemau; mae`r darnau mân e.e. y darnau sydd mewn past dannedd hefyd yn creu dinistr difrifol i`r gadwyn fwyd.
Oeddech chi`n gwybod ein bod fel gwlad yn ceisio dygymod â`r ffaith fod China bellach wedi gwrthod derbyn sbwriel a phlastig gennym? Ers cryn amser, rydym wedi bod yn anfon 500,000 tunnell o wastraff i China bob blwyddyn ar gyfer ei ail-gylchu. Oherwydd hyn, mae`n gryn sialens i`r awdurdodau feddwl am ateb arall, ac mae ein Grwp Gwyrdd ni wedi bod yn llawn syniadau. A`r neges glir ganddynt yw: os gwelwch yn dda, peidiwch a chynhyrchu cymaint o sbwriel, ail-gylchwch, defnyddiwch lai o blasting a chofiwch am y biniau! Diolch yn fawr!
Monitoriaid Ynni - cliciwch yma
Jonsi a`r Ambiwlans Awyr
Yn dilyn ymweliad dosbarthiadau Blynyddoedd 3 a 4 â Maes Awyr Caernarfon yn Ninas Dinlle, daeth Mr Eifion Jones [Jonsi], Swyddog Marchnata’r Ambiwlans Awyr i sgwrsio gyda’r disgyblion, ac ateb eu cwestiynau yn ei ddull hwyliog ei hun. Roedd y plant eisoes wedi gweld yr hofrennydd, yn ogystal â chael sgwrs gydag un o’r parafeddygon. Yr hyn sydd wedi rhoi syndod i bawb yw mai dibynnu ar roddion ac ewyllys da y mae`r gwasanaeth pwysig hwn am arian. Anhygoel! Penderfynodd y plant eu bod eisiau gwneud rhywbeth i helpu’r achos, felly, dyma nhw’n penderfynu agor siop! Y disgyblion eu hunain a drefnodd y cyfan, - stondinau, sgwâr cant, peintio ewinedd, tatŵs, llyfrau, a channoedd o gacennau! Dyma i chi `Lais y Plentyn` a rei orau! Roedd Jonsi wrth ei fodd yn derbyn siec o £300 tuag at yr Ambiwlans Awyr! Ardderchog blantos! Diolch arbennig hefyd i Mr a gyfrannodd yn hael at ymdrechion ein plant. Mae Mr Gerallt Williams yn sylweddoli yn fwy na neb pa mor hanfodol yw`r gwasanaeth hwn gan iddo gael ei gludo i Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar mewn ambiwlans awyr.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Ymweliad Mr. Dilwyn Pritchard
Croesawyd Mr. Dilwyn Pritchard o Glwb Hanes Rachub i sgwrsio gyda disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 am y gŵr arbennig o Rachub a adeiladodd awyren yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Gan ein bod yn astudio ‘hedfan fry` ar y pryd, cam hollol naturiol oedd cael gwybod mwy am y gŵr o Dyddyn Canol, mab i chwarelwr cyffredin, a dyfodd i fod yn arbenigwr mewn sawl maes, gan gynnwys mathemateg,ffiseg, daeareg ac yn arbennig, gwyddoniaeth yn ymwneud â hedfan! Meddyliwch amdano’n adeiladu rhannau o awyren mewn sied yn yr ardd, ac yn mynd i ben Moel Faban, er mwyn cael gweld os oedd ei greadigaethau yn gweithio! A wyddoch chi beth? Un tro, aeth pethau o chwith yn ystod cyfnod y Rhyfel; cafodd ei arestio gan yr heddlu, am eu bod yn credu mai ysbїwr o’r Almaen oedd o! Beth bynnag am hynny, llwyddodd i hedfan ei awyren dros draeth Llanddona ym Môn! Chwiliwch am y goflech; mae hi yno hyd heddiw, yn gofnod o`r digwyddiad dramatig. Treuliwyd cyfnod gwerth chweil yng nghwmni Mr. Pritchard ac fe ganmolodd safon uchel y cwestiynnu! Da iawn blant, a diolch yn fawr Dilwyn! Mae`n hynod braf fod gan Ysgol Llanllechid berthynas mor fyrlymus gyda`r Clwb Hanes lleol. Diolch i Mrs Marian Jones am drefnu.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Tad Sion Blewyn Coch
Wel dyna hwyl a gawsom yn dysgu am Mic y llwynog, tad Sion Blewyn Coch! Roedd Mic yn byw ar allt Penybryn ac roedd yn anifail anwes i hen daid a nain Robin Llywelyn, ac yn hen, hen daid a nain i Mared Llew ac Elin! Un direidus oedd Mic ac roedd yn swel yn ei got goch a`i wasgod wen a deuai pobl o bell ag agos i`w edmygu! Mae stori am yr hen Mic yn cymryd da da o geg J.O. Williams ac yn dianc o`i gwt a lladd ieir y plismon, oedd yn byw drws nesa! Dyna i chi halibalŵ!
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
01/03/18 Ysgol ar gau
Ysgol ar gau i ddisgyblion. Staff i mewn. Dydd Gwyl Ddewi hapus i bawb!
Ymweliad Tad Mali Fflur
Fel rhan o’n themau Hedfan Fry, rydym wedi bod yn creu pob math o wrthrychau a champweithiau sy`n hedfan! Dydd Iau diwethaf cawsom groesawu tad Mali Fflur sef Mr Terry Williams at ddosbarthiadau bl3 a 4 i siarad am ei waith fel peiriannydd yn RAF, Y Fali. Daeth a llawer o adnoddau i ni eu gweld a chawsom sgwrs ddifyr am yr holl awyrennau cyflym yno. Mae`r ymweliad wedi ynsbrydoli amryw i fod yn beilotiaid y dyfodol! Diolch am ddod draw atom ni i’r ysgol.
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Amgueddfa ‘Byd Awyr’, Dinas Dinlle.
Cafodd dosbarthiadau Blynyddoedd 3 a 4 ddiwrnod gwych pan aethant i Faes Awyr Caernarfon yn ddiweddar! Cafwyd cyfle i fynd i mewn i`r Ambiwlans Awyr a dysgu llawer o ffeithiau diddorol cyn cael cyfweld y peilotiaid. Braf oedd cael astudio`r holl arteffactau yn y maes awyr ac roedd cael mynd o gwmpas i fraslunio’n brofiad hamddenol iawn ar ddiwedd diwrnod llawn cyffro!
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Rocedi!
Daeth tad Harri Hinchcliffe, at y plant i ddangos y casgliad o rocedi ‘go iawn’ mae o ei hun wedi eu hadeiladu! Yn amlwg, doedd o ddim yn cael tanio’r rocedi, ond esboniodd yn eglur sut oedd y rocedi’n gweithio, ac yn fras, yr hyn oedd y tu mewn iddyn nhw. Dyna i chi beth oedd addysg i ni i gyd! Mae o’n aelod o Glwb Rocedi Prydain, ac yn gobeithio torri record byd am adeiladu roced! Pob lwc iddo a diolch am ei gyfraniad!
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Dosbarth Derbyn - Creu Perllan Galennig
“Calennig! Calennig! Blwyddyn Newydd Dda!” Dysgu am y gwahanol draddodiadau o ddathlu’r Hen Galan ynghŷd â dysgu caneuon Y Fari Lwyd a Chalennig oedd y dasg ar ddechrau tymor newydd. Aethpwyd ati i greu perllan trwy fynd am dro ar hyd Lon Fach Odro yn gyntaf i gasglu brigau a dail o`r coed bytholwyrdd. Addurnwyd yr afalau hefyd gyda chlôfs a phawb yn gwirioni ar yr arogleuon bendigedig.
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Cofeb Bethesda
Fel rhan o thema’r dosbarth, aeth disgyblion blwyddyn 6 ar ddechrau’r tymor i ymweld â chofeb Bethesda, sy`n gofnod o hanes tywyll, a sylweddoli fod cymaint o drigolion yr ardal wedi colli eu bywydau yn ystod y ddau ryfel byd. Sylwyd yn fanwl ar yr enwau cymreig. Fe welodd y disgyblion fod rhai o’r un stryd â hwy wedi marw, a llwyddodd eraill i fynd ati wedyn i olrhain hanes aelodau o’u teuluoedd.
Archifdy
Yn dilyn ymweld â`r gofeb, fe ddaeth Gwenda Williams o`r archifdy Caernarfon i drafod effaith yr Ail Ryfel Byd ar Fethesda. Daeth â llawer o arteffactau i’w dangos ac roedd ganddi lawer o hanesion difyr am yr ifaciwis, y milwyr yn hyfforddi yn y mynyddoedd ac effaith dogni. Daeth yr hanes yn fyw i’r disgyblion wrth iddynt ganolbwyntio ar effaith y rhyfeloedd yn eu bro.
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Lerpwl
Lerpwl oedd cyrchfan blwyddyn chwech. Yno buont yn ymweld â’r amgueddfa forwrol, gan weld sut y cafodd brwydr fawr Mor yr Iwerydd ei hennill. Yna aethant i amgueddfa ryfel Lerpwl, gan gerdded o amgylch yr adeilad oedd o dan y ddaear - sef y byncyr. Yno roedd ystafell fawr lle’r oedd y prif waith o fonitro’r gweithgarwch ar fôr yr Iwerydd yn digwydd gyda map enfawr ar y wal a’r holl longau yn cael eu tracio. Roedd y plant wedi rhyfeddu gweld yr hen deipiaduron ac wrth eu boddau yn cael gwisgo siacedi’r milwyr.
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Y Groes Goch Brydeinig
Daeth Mr Dafydd Beech (tad Gruff a Gwenno) a Ms Lucy Allin i ddosbarth blwyddyn 6 i ddangos i’r plant sut i wneud cymorth cyntaf yn gywir petaent erioed mewn sefyllfa o allu helpu eraill. Os oedd y plant yn cydnabod ar ddechrau’r sesiwn eu bod yn ddi-hyder, roeddent yn gwbl unfrydol erbyn y diwedd y buasent yn barod i helpu ac yn gwybod bellach beth oedd angen ei wneud mewn argyfwng. Cafwyd dau sesiwn ddiddorol dros ben a’r plant yn symud mewn cylchdro wrth ymwneud â gwahanol sefyllfaoedd. Diolch i Dafydd a Lucy am gynnal y sesiwn mewn modd mor ddifyr a chynnal brwdfrydedd a diddordeb y plant. (Llun: Stevie a Lois yn ceisio helpu’r claf)
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Elin Taylor
Hyfryd oedd cael croesawu cyn ddisgybl yn ôl i’r dosbarth sef Elin Taylor. Mae Elin bellach yn astudio cwrs ôl radd Meistri yng Nghaerdydd. Cynhaliodd sesiwn cyffrous o gyfansoddi gyda disgyblion blwyddyn 6 ac aeth y pedwar grwp ati i greu cyfansoddiadau byw ar themau amrywiol. Cawsont wledd yn ogystal wrth wrando ar Elin yn chwarae darn ar y sielo yn ogystal a chlywed un o’i chyfansoddiadau. Pob hwyl Elin a tyrd yn ôl yn fuan.
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Sioe Wyddoniaeth
Cafodd disgyblion yr Adran Iau sesiwn gyffrous a bywiog yn gwylio sioe Wyddoniaeth. Bu`r disgyblion yn adeiladu pont gref, gyrru neges ddigidol a chadw’r balwn yn hedfan fyny fry. Roedd y disgyblion wrth eu boddau yn dysgu am ryfeddodau gwyddonol ac wedi dysgu llawer am rymoedd, sain a goleuni.
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
Trip i fwyty Eastern Origin Bangor
Fel rhan o’r gwaith ar ddathlu dydd Calan, cafodd blwyddyn Derbyn i gyd wledd Tsieiniaidd ym mwyty Eastern Origin ym Mangor. Roedd pob un wrth eu boddau yn defnyddio’r ‘gweill’ i fwyta’r nwdls a’r reis! Dangosodd y perchennog wahanol addurniadau sydd yn harddu’r tai a’r bwyty yn ystod y dathliadau blwyddyn newydd gan egluro eu harwyddocad i`r disgyblion.
Cliciwch yma i weld mwy o lluniau
I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma
I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma
07/02/18 Ysgol ar gau
Ysgol ar gau I ddisgyblion yn unig.
I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma
Talent Llechid
Cafwyd diwrnod o hwyl a sbri yn Ysgol Llanllechid ar ddiwedd y tymor pan gafodd pob un o`r disgyblion y cynnig i gymryd rhan yn ein diwrnod:Talent Llechid. Roedd y diwrnod hwn ar ffurf ffon ddwyblyg sef, yn gyntaf, cyfle i ddangos unrhyw dalent o flaen gweddill disgyblion yr ysgol; ac yn ail i godi arian at gynllun Ysgol Fynyddig Fwdlyd yn Ethiopia er mwyn cefnogi disgyblion yn y rhan honno o`r byd. Rydym yn hynod o flach fod Matthew a`i deulu yn mynd yno i weithio ac i gynorthwyo dros wyliau`r Nadolig. Llwyddwyd i godi £200 tuag at yr achos da hwn a diolch i Mr Huw Edward Jones a`r Cyngor Ysgol am drefnu`r cyfan i ni. Diwrnod gwerth chweil, wrth i ni feddwl am ein cyd-ddynion mewn amgylchiadau anodd.
I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma
Yr Iaith Gymraeg
Yn ddiweddar, mae`r disgyblion wedi bod yn astudio hanes yr Iaith Gymraeg ac yn dysgu am yr holl ergydion sydd wedi dod i`w rhan ar hyd y blynyddoedd. Bu cryn drafod y ffaith mai, yn ôl y Cyfrifiad yn 2011; 562,000 o bobl oedd yn siarad Cymraeg, sef 19% o`r boblogaeth. Fel y gwyddom, y nôd erbyn 2050 yw sicrhau fod miliwn o bobl yn siarad Cymraeg! Wrth astudio ein hiaith, dysgwyd fod y Gymraeg yn deillio o`r Frythoneg, ac mae`n perthyn yn agos iawn i`r Gernyweg a`r Llydaweg. Erbyn hyn, rydym yn ymwybodol iawn o`r Ddedf Uno 1536, a`i diben, sef: gwneud Cymru yn rhan o Loegr, gan ddiystyru diwylliant Cymru a`i hiaith yn gyfangwbwl. Wrth reswm, cafodd y ddeddf hon effaith bellgyrhaeddol ar y Cymry. Ond, daeth tro ar fyd yn 1588, pan gyfieithodd yr Esgob William Morgan y Beibl i`r Gymraeg. Er gwaethaf hyn, daeth ergyd arall, a hynny ar ffurf tri bargyfreithiwr: Johnson, Lingen a Symons. Gwnaethant arolwg ar Gymru gan deithio drwy`r wlad a chraffu ar yr ysgolion a`r ysgolion sul. Ymddangosodd eu hadroddiad mewn llyfrau gleision ar ddiwrnod Ffwl Ebrill 1847 ac fe`i hadwaenwyd, fel y gwyddom, yn Frad y Llyfrau Glesion. Un o`r ergydion nesaf? Wel, y Welsh Not, a chafodd y sytem hon ei chyflwyno yn 1850, a gwyddom yn dda am yr hanes hwnnw. Diolch byth am bobl fel Syr Ifan ab Owen Edwards a welodd yr anghyfiawnder ac a sefydlodd Urdd Gobaith Cymru yn 1922. Mae`r dyddiad, 1939 hefyd yn un gwerth i`w gofio, sef, y flwyddyn y sefydlwyd yr ysgol Gymraeg gyntaf yng Nghymru. Dim ond megis codi cwr y llen ydan ni wedi llwyddo i`w wneud hyd yma; mae llawer mwy na hyn i`n hanes wrth gwrs, ond rydym yn cael blas garw yn ymbalfalu a thyrchio i mewn i`n gorffennol. Cyn cloi, rhaid crybwyll yr actor Llion Williams a ddaeth draw i`n hysgol ac a wnaeth argraff ar y plant a`r athrawon fel ei gilydd drwy ei actio medrus a chyflwyno perfformiad a fydd yn aros yn y côf am byth!
Sioeau Nadolig
Cynhaliwyd pum sioe Nadolig i gyd, a phob un yn werth eu gweld! Cafwyd gwledd yn gwrando ar blant bach Cylch Meithrin yn canu eu caneuon. Yna, daeth hi`n dro y dosbarth Meithrin a braf oedd eu gweld yn rhoi hanes y Geni i ni. Yna, daeth tro blynyddoedd 1 a 2, sef dosbarthiadau Mrs Wilson a Mrs Rona Williams. Rroedd hi`n braf gweld Capel Carmel yn orlawn, yn llawn o rieni a ffrindiau`r ysgol, yn cefnogi`r plantos wrth iddyn nhw berfformio i safon mor uchel! Achubwyd ar y cyfle i ddiolch i Mrs Helen Williams am ei haelioni a chafwyd cyfle i dynnu sylw at y cydweithio hapus sy`n bodoli rhwng Capel Carmel ac Ysgol Llanllechid. Diolchwyd hefyd i Mr Dylan Davies, Ysgol Dyffryn Ogwen am gael defnyddio Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen ar gyfer llwyfanu sioe yr Adran Iau. Cafwyd noson fythgofiadwy a`r plantos i gyd ar eu gorau wrth i Sandra Goch ddianc i`r goedwig oherwydd swyn cas dynes ddrwg o`r enw Rhosyn Coch! Yn y man, caiff ei gorfodi i briodi Cuthbert Coch, er ei bod mewn cariad gyda George Huws, peldroediwr gorau Cymru! Er mwyn cael gwared â`r swyn, roedd rhaid darganfod: plu`r barcud coch; minlliw coch; blewyn y llwynog coch a diferyn o waed y Rhosyn Coch ei hun! Sioe a hanner! Diolch i bawb am eu gwaith caled ac i`r disgyblion am roi o`u gorau i sicrhau sioe mor llwyddiannus eto eleni!
Brenhines y Crawia
Gyda balchder yr oeddem yn gwylio disgyblion o Ysgol Llanllechid ac ysgolion eraill, yn perfformio yn frwdfrydig ar lwyfan Neaudd Ogwen yn y sioe Brenhines y Crawiau. Braf oedd cael cyfle i ymuno â nhw yn hwyl a sbri y Nadolig. Rydym yn hynod ffodus a gwerthfawfogol fod sioe Gymraeg fel hon yn cael ei llwyfanu ar ein trothwy, ac rydym mor falch o gael y cyfle i gefnogi! Edrychwn ymlaen at gael gweld perfformiad tebyg y flwyddyn nesaf! Llongyfarchiadau a diolch i chi i gyd!
Sioe Caban Hud - Pontio
“Daeth Nadolig fel arferol, daeth fel yn y dyddiau gynt…” Oeddech chi’n gwybod y gellir postio llythyr at Sion Corn mewn blwch hud a’i yrru ar hyd y blondings i’r caban chwarel? Dyna ddaru Sian! Yno, yn y caban, roedd chwarelwr oedd yn gallu chwythu bargen gyda help gan Robin Glyn. Yna curai gyda’i gun a’i forthwyl i naddu a chreu llyfr o’r graig cyn ei drochi mewn ffynnon hud gyda help Gavin a’i droi yn lyfr hud a lledrith. Pwy well i lapio’r anrheg rhyfeddol hudol yma i Sian na Mared Llew, sydd mae’n rhaid dweud, yn dipyn o giamstar ar lapio anrhegion! Pwy feddyliai fod chwarelwr o’r hen ddyddiau yn helpu Sion Corn i wneud anrhegion Nadolig?! Stori hyfryd a syml am ferch fach a storiau o`r chwarel yn adleisio drwy`r cyfan oll.
Trên Sion Corn Llanberis
Wel dyna i chi gynnwrf fu wrth i’r plantos fynd ar daith trên Sion Corn i gael cyfarfod y dyn ei hun! Dechreuodd yr hwyl pan gafodd y plantos eu cyfarch gan gorachod Sion Corn ac roedd rhaid chwilio`n ddyfal am Carwyn y Corrach, a oedd, yn ôl rhai, yn stelcian yn y gwrychoedd! Llawenydd oedd cael cyfarfod Sion Corn, ac roedd y wen ar wyneb pob un o’r plant, wrth ddod allan o’i ogof gydag anrheg hyfryd, yn dweud cyfrolau!
Peintio Moch!
Mae yna hwyl garw i’w gael wrth beintio mochyn, boed o wedi ei wneud o glai neu beidio! Mae o hyd yn oed yn well pan mae rhywun yn cael peintio mochyn sydd yn digwydd bod yn gadw mi gei hefyd! Y Nadolig hwn, cafodd deugain o foch bach clai eu peintio’n bob lliw dan haul a phob un ohonynt yn sgleinio fel swllt newydd!
Gweithgareddau`r Nadolig
Bu cryn brysurdeb ar ddiwedd y tymor a chafwyd pob math o weithgareddau gan gynnwys partion, ymwelwyr a chinio Nadolig gwerth chweil. Un o`n llwyddiannu, eleni, heb os, oedd y Ffair Nadolig! Penderfynwyd newid dipyn ar y drefn, ac fe gynhaliwd y Ffair ar nos Wener! Roedd hi`n noson llawn hwyl a chorachod Sion Corn yn chwilio am fwy o wobrau yn ystod y noson! Diolch i Anti Gillian a`i thim yn y gegin am y bwyd bendigedig gan gynnwys y twrci a`r mins peis! Braf gweld y gymuned gyfan yn dod at ei gilydd a braf gweld nifer o stondinwyr o`r ardal hefyd mor barod i`n cefnogi! Diolch i bawb am noson hyfryd ac i Owain am fod mor barod i ddod draw i chwarae`r trwmped i ni!
I weld mwy o wybodaeth - click here
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2012
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2013
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2014
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2015
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2015
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2016
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2017
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2018
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2019
Cliciwch yma i weld Newyddion o 2020