Archif Newyddion - 2019

Parti Nadolig Adran Iau

plant

Cafwyd hwyl a sbri pan ddaeth Sion Corn i ymweld â holl ddisgyblion yr ysgol a chafwyd parti i’w gofio!

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

lineParti Cyfnod Sylfaen

plant

Cafodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen barti a hanner! Mwynhewch y lluniau!

 

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

lineClwb Mentergarwch

plant

Dyma griw sy’n llawn brwdfrydedd ac yn greadigol dros ben. Dyma’r syniad diweddaraf! Lapio gyda chwyr gwenyn! Ar werth yn yr ysgol Ionawr 2020.

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

lineApel y Pabi Coch

plant

Diolch i bawb am gyfrannu.

 

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 

 

 

lineCreu Pitsa

plant

Bu plant bach dosbarth Meithrin Ms Rhian Haf yn brysur yn gwneud pitsas!

 

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 

 

 

lineCinio Nadolig

plant

Diolch i Mrs Macdonald a’i thîm am y cinio Nadolig blasus dros ben!

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 

line Sion Corn

plant

Daeth Sion Corn i’r dosbarth Meithrin a chafwyd cyffro mawr!

 

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

linePantomein Pontio

plant

Cafwyd hwyl yn gwylio’r pantomein ‘Y Trol Wnaeth Ddwyn y Dolig’ yn Pontio.

 

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

lineDiolch Anti Jean

plant

Diolch Anti Jean
Diolch i Anti Jean am flynyddoedd lawer o wasanaeth clodwiw i Ysgol Llanllechid.

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 



lineParc Cenedlaethol Eryri

plant

Diolch i Mr Sam Roberts am ddod atom i’n dysgu am Barc Cenedlaethol Eryri.

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 

 

line

Cyngerdd Nadolig Ysgol Llanllechid a Chor y Penrhyn


line

Braf yw cael nodi fod Ms Lliwen bellach gartref o`r ysbyty, ar ôl arhosiad byr iawn yno. Cafwyd triniaeth faith, a braf yw cael dweud fod Ms Lliwen yn gwella ac mewn hwyliau da, fel arfer! Daliwch ati i wella Ms Lliwen! Mae pawb yn anfon eu cofion atoch.


line

Y Ddawns Flodau

plant

Toedden nhw`n ddigon o sioe!” meddai pawb, wrth edmygu ein dawnswyr, yn y seremoni gadeirio yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen. Dawnsiodd pob un yn ysgfan droed, gan gofio`r symudiadau i`r dim. A braf oedd gweld rhai o`n cyn-ddisgyblion yn serennu yn y seremoni hefyd! Llongyfarchiadau i Beca Nia ar ennill gwobr Medal yr Ifanc, a braf gweld Gwydion Rhys yn canu`r piano,- fel dewin! Diolch i Mrs Wilson am hyfforddi`r disgyblion i ddawnsio, a diolch arbennig i Nel, Addison, Mali, Nanw, Anna, Catrin, Mili, Awel, Lili, Mared Llew a Mared Elain am fod yn ddigon o sioe!

Cliciwch yma am fwy o luniau


line

Gwasanaeth Nadolig Cyfeillion Ysbyty Gwynedd

plant

Braint oedd cael y cyfle i rai o`n disgyblion hŷn gymryd rhan yng Nghapel Carmel ar ddydd Sul, Rhagfyr y cyntaf, mewn gwasanaeth Nadolig arbennig. Cafwyd prynhawn i`w gofio, a braf oedd cymryd rhan gyda thrawsdoriad o bobl o`r ardal. Diolch am y croeso cynnes i gapel Carmel, a braf, unwaith yn rhagor, oedd gweld yr holl addurniadau Nadoligaidd chwaethus gan ddisgyblion yr Ysgol Sul a`r Clwb Dwylo Prysur, yn harddu`r capel.

Diolch i Mrs Delyth Humphreys, Ms Gwenlli Haf a Mrs Helen Roberts am eu cymorth.

Cliciwch yma am fwy o luniau


line

Ffair Nadolig

plant

Cafwyd Ffair a hanner, a chiwiau hir i weld Sion Corn! Noson fyrlymus a phawb yn canmol yr arlwy o`r gegin, sef twrci a stwffin cartref Anti Gillian! Diolch i`r holl stondinwyr ac i bawb a ddaeth ynghyd i gefnogi. A diolch arbennig i`n pwyllgor prysur am yr holl waith ymlaen llaw, ac ar y noson! Llwyddiant ysgubol! Diolch o galon i bawb!

Cliciwch yma am fwy o luniau


line

Eisteddfod Dyffryn Ogwen

plant

Gyda llawenydd a balchder y clodforwn a llongyfarchwn ddisgyblion Ysgol Llanllechid ar yr holl lwyddiannau yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen. Roedd hi`n fraint anhygoel cael bod yn bresennol, a gweld ein disgyblion yn dod i`r brig ym mhob maes. Diolch o galon i`r holl blant am eu hymroddiad a`u hymddygiad boneddigaidd drwy gydol y dydd, ac i`r rhieni am eu cefnogaeth. Diolch arbennig i staff Ysgol Llanllechid i gyd, am gydweithredu fel tîm llwyddiannus iawn, er lles y disgyblion. Yn ôl ein harfer, diolchwn i Mrs Helen Williams am ei chymorth hithau, ac i Mrs Gres Pritchrad am ddod atom i gyfeilio. Mae llawer un yn dweud mai fel Eisteddfod Calon Lan y byddant yn cofio`r Eisteddfod hon, gan fod y Cor Plant Bach wedi eu gwefreiddio! Wrth gwrs, nawn ni ddim anghofio buddugoloiaeth y Cor Hŷn chwaith! Llongyfarchiadau hefyd i`r enillwyr Celf a Chrefft a`r tasgau ysgrifenedig. Diwrnod i`w gofio! Gweler rhestr lawn o ganlyniadau am fwy o fanylion.

Cliciwch yma am fwy o luniau


line

Dawnsio Disgo

plant

Llongyfarchiadau i`r criwiau Dawnsio Disgo ar eu llwyddiant hwythau yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen. Diolch o galon i Ms Kathryn am eu hyfforddi. Roeddem hefyd yn ffodus o gael cymorth gan Mia, merch Ms Kathryn i`n rhoi ar ben ffordd, a hefyd Ms Angharad Shone. Llongyfarchiadau gwresog!

Cliciwch yma am fwy o luniau


line

Stwnsh Sadwrn

Ymddangososdd rai o`n disgyblion ar Stwnsh Sadwrn ar S4C yn ddiweddar – pawb wedi cael modd i fyw!

Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen

plant


Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

line

Canlyniadau Eisteddfod Dyffryn Ogwen - Ysgol Llanllechid

plant


Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

line

Cyngerdd Nadolig

plant

Rhagyfr 16 - 7:00pm, Pontio, Bangor.

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 

 

 

line

Ffair Nadolig

plant

 

Cofiwch am ein Ffair Nadolig, nos Wener, Tachwedd 29 am 5.30pm. Dewch yn llu!

Cliciwch yma i weld y poster yn fwy

 

 

 

 

 

 

 

 

 


line

Un o`n Hathrawon yn Arwain Athrawon Gwynedd sydd ar eu Blwyddyn Gyntaf

plant

Llongyfarchiadau i Ms Gwenlli Haf am drosglwyddo arferion da ein hysgol i weddill athrawon Gwynedd, sydd ar eu blwyddyn gyntaf. Cafodd Ms Gwenlli Haf ei dewis gan GwE oherwydd ei gwaith rhagorol.

Cliciwch yma am fwy o luniau





 


line

Iechyd a Lles

plant

Gan fod y maes hwn yn un o flaenoriaethau`r Cynllun Datblygu Ysgol, bu`r criw Iechyd a LLes yn adrodd i`r Llywodraethwyr ar ein datblygiadau diweddaraf. Diolch hefyd i Mr Emlyn.

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 

line

Dawnsio Disgo

Llongyfarchiadau i`r criwiau Dawnsio Disgo ar ddod yn fuddugol yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen, a diolch o galon i Ms Kathryn am eu hyfforddi. Roeddem hefyd yn ffodus o gael cymorth gan Mia, merch Ms Kathryn am ein rhoi ar ben ffordd a hefyd Ms Angharad Shone! Llongyfarchiadau a da iawn chi!

line

Y Ddawns Flodau

plant

Bu`r rhai o ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen wrthin ddiwyd yn ymarfer ar gyfer y seremoni gadeirio yn Neuadd Dyffryn Ogwen. A braf oedd gweld rhai o`n cyn-ddisgyblion yn serennu yno! Llongyfarchiadau i Beca Nia am ennill gwobr Medal yr Ifanc, a braf gweld Gwydion Rhys yn canu`r piano, fel dewin! Diolch i Mrs Wilson am hyffroddi`r disgyblion a rhaid canmol y disgyblion am ddawnsio mor ddeheuig. Roeddent yn werth eu gweld.

Cliciwch yma am fwy o luniau

line

Diwrnod Plant Mewn Angen

plant

Cafwyd diwrnod o ganu a mwynhau a chodwyd £268.01 tuag at yr elusen hon.

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 


line

 

Eisteddfod yr Urdd

Mae Rhestr Testunau Eisteddfod yr Urdd ar gael ar lein: cliciwch yma
dyma rai o’r llyfrau / cystadlaethau isod, os ydych chi am archebu, rhowch wybod:


plant

 

UNAWD BL 3 A 4

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


 

 

 

 

 

 

plant

 

UNAWD BL 5 A 6

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 


plant

 

DEUAWD BL 6 AC IAU

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 


plant

 

COR BL 6-ADRAN AC YSGOLION

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 


plant

 

PARTI UNSAIN BL 6 AC IAU

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 


plant

 

UNAWD BL 6 AC IAU

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 


plant

 

LLEFARU BL 3 A 4

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 

 

line
Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen
- Rhaglen y Dydd

plant


Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 



 

 

 

line

Mynediad i Ysgol Gynradd * Medi 2020 *

plant


Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 



 

 

 

line
Diolch Anti Wendy!

plant

Diolch i Anti Wendy am ei gwaith!

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 



 

line

Ysgrifennu Barddoniaeth

plant

O dan ambarel Dinasyddiaeth Fyd Eang, bu rhai o’n disgyblion hynaf yn cyfansoddi barddoniaeth gyda’r gwr o Jamaica, Yasus Afari!

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 





line

Cadw’n Heini

plant

Diolch i Dr Ross Roberts am ddod atom i gynnal sesiynau ffitrwydd a chadw’n heini.

Cliciwch yma am fwy o luniau

 



 

line

Diolchgarwch

plant

Roedd hi’n braf gweld llond neuadd o bobol wedi dod ynghyd i’n cefnogi! Diolch!

Cliciwch yma am fwy o luniau








line

Ms Lliwen

plant

Braf gallu dod at ein gilydd i help pobl eraill. A’r tro yma cafwyd diwrnod hwyliog, wedi ei drefnu gan y Cyngor Ysgol i godi arian tuag ar Gronfa Ms Lliwen.

Cliciwch yma am fwy o luniau



line

Ms Gwenlli Haf

plant

Cafodd Ms Gwenlli Haf ei dewis gan GwE i roi sgwrs ddifyr i athrawon Gwynedd, sy’n dechrau ar eu gyrfa. Llongyfarchiadau Ms Haf!

Cliciwch yma am fwy o luniau








line

Iechyd a Lles

plant

Dyma’r plant hynaf yn mynd amdani!

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 

 

 

line

Noson Cyri a Cwis

plant

Yr un yw ein diolch hefyd i gyfeillion Ysgol Llanllechid am eu gwaith caled yn trefnu’r noson Cyri a Cwis. Diolch o galon am eich holl waith gwych! A diolch arbennig i Anti Wendy am fod yn gwisfeistres mor broffesiynol. Roedd pawb yn canmol y noson hon! Gwych! Cawn wybod maes o law faint o arian a godwyd i Gronfa Ms Lliwen ac Ysgol Llanllechid.

Cliciwch yma am fwy o luniau

line

Athletau

plant

Llongyfarchiadau Hari, Sion Dafydd, Caleb, Ned, Ceirion, Aron, Erin, Mali a Seren ar eu perfformiadau campus yng nghystadleuaeth Athletau Dan-do ysgolion Gwynedd yn ddiweddar. Daeth y tîm yn ail allan o 12 ysgol, mae hynny'n dipyn o gamp! Bydd y tîm yn cynrychiol'ir ysgol yn y rownd nesaf yng nghanolfan Brailsford, Bangor o fewn yr wythnosau nesaf. Pob lwc i chi!

Cliciwch yma am fwy o luniau

line

T4U Bocsys Nadolig

plant


Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 

 


line

Athletau

Llongyfarchiadau i'r Ysgolion canlynol am gael trwodd I Rownd Terfynol Sportshall Cynradd 2019.

Maesincla

Glancegin

Llanllechid

Cae Top

Bethel

Maenofferen 1

Bro Idris A

Godre’r Berwyn 1

OM Edwards

Cymerau

Bro Plennydd

Bro Lleu

Eifion Wyn 1

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn y Neuadd fawr yn Ganolfan Brailsford, Bangor ar Ddydd Iau Tachwedd 28. Ysgolion i gyrraedd am 10:45 i gofrestru a chynhesu i fyny - cystadleuaeth yn dechrau am 11:00a.m. gorffen 13:00p.m.

line

Cinio Gwyl Cynhaeaf

plant


Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

Cynaladwyedd

Mae Meleri Davies wedi cael ei enwebu ar gyfer rhestr fer gwobrau Academi Cynaladwyedd 2019 Cymru fel Eiriolydd Cynaladwyedd, a chyrraedd y rhestr fer yng ngwobrau Regen ar lefel Prydain fel 'Green Energy Pioneer'

Ewch ati I bleidleisio!

line

Yasus Afari

plant

Braint oedd gwahodd y bardd Yasus Afari o Jamaica atom i Ysgol Llanllechid – a`i neges oedd:

Un Byd, Un cariad, Un Ddynoliaeth. Cawsom amser difyr yn ei gwmni yn canu, dawnsio ac yn dysgu am Jamaica, ynghyd â dysgu am bwysigrwydd cyfeillgarwch,a`n cydymwneud â`n gilydd fel brodyr a chwiorydd ar draws y byd, gan ddathlu ein gwahaniaethau a dysgu oddi wrth ein gilydd.


Cliciwch yma am fwy o luniau


line

Cyfarfod Diolchgarwch Capel Carmel

plant

Braf iawn oedd cael mynd i Gapel Carmel i`r Gwasnaeth Diolchgarwch, a diolch unwaith eto i Mrs Helen Williams am ei gwaith di-flino yn arwain y cyfan gyda athrawon eraill yr Ysgol Sul.


Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 



line

Llosgfynyddoedd

plant

Tro dosbarth Mrs Tegid oedd cymryd rhan yn y gweithdy daeareg y tro yma o dan arweiniad


Cliciwch yma am fwy o luniau

 


 

 


line

Ein Perllan

plant

Mae blynyddoedd wedi mynd heibio ers i Mrs Bethan Jones a`r disgyblion blannu ein coed afalau ac erbyn hyn maent yn dwyn ffrwyth – llond bwcedi i ddweud y gwir! Bu`r disgyblion yn brysur yn eu hel ac yn gwneud pentyrau o gacenau afalau blasus!


Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 

line

Ysgol Iach

plant

Bu cryn brysurdeb yn creu ysgytlaeth iach fel rhan o`n gwaith ar gyfer lles a iechyd.


Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 

line

Disgo`r Urdd

plant

Diolch am y disgo`r Urdd unwaith eto. Braf gweld ein disgyblion i gyd yn dal at ii siarad Cymraeg tu allan i libart ein hysgol. Da iawn chi!


Cliciwch yma am fwy o luniau

 


line

Amgueddfa Owain Glyndwr ac Eglwys Rhug

plant

Aeth dosbarth Mrs Tegid draw i Amgueddfa Owain Glyndwr yng Nghorwen i ddysgu mwy am ein harwr. Cyn troi nol, bu cyfle i fynd i Eglwys Rhug i dreulio orig dawel yn sylwi a myfyrio. Diwrnod da!


Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

line

Sialens Ddarllen yr Haf

plant

Llongyfarchiadau calonogol i`r disgyblion a fu`n llwyddiannus yn Sialens Ddarllen yr Haf. Cliciwch ar y linc i weld eu lluniau!


Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 

 

line

Diwrnod Hwyl!

plant

 


Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 


line

Fflam Heddwch

plant

Diolch i Leisa Mererid a Sheila am ddod draw i Ysgol Llanllechid i rannu negeseuon y Fflam Heddwch ac am ein dysgu ni i gyd i ymwneud â symudiadau`r Goeden Ioga.


Cliciwch yma am fwy o luniau



line

Noson Cyri a Cwis!

plant

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 

line

Taith i Ynys Môn

Bwydlen HafAeth dosbarth Blwyddyn 3 draw i Sir Fôn yn ddiweddar i gael gwneud gweithgaredd map ym Mhlas Newydd. Gan ein bod yn canolbwyntio ar goedwigoedd, roedd yn brofiad bendigedig cael dilyn y llwybrau hyfryd drwy’r coed, a gweld nifer fawr o wiwerod cochion yn sboncio yma a thraw ar hyd y canghennau uchel. Roedd lliwiau’r dail yn fendigedig, ac roedd y cyfan yn atgoffa’r plant o gerdd ‘Dawns y Dail’ gan T. Llew Jones.

Ar ôl cael cinio yn yr awyr agored, aethom draw i Oriel Môn yn Llangefni, lle cawsom weithdy arbennig. Cawsom ein haddysgu sut i edrych yn fanwl ar wahanol ddarnau o gelfyddyd, gan ganolbwyntio ar liw, siap a chynnwys cefndiroedd y darluniau. Mae’n anhygoel sylweddoli faint o fanylion diddorol sy’n digwydd yng nghefndir pob un o’r lluniau, a’n bod yn colli gweld cymaint ohonynt wrth gerdded heibio’n gyflym! Diwrnod gwerth chweil!

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

line

Ysgol Arweiniol Greadigol

plantBellach mae ein wal Meddylfryd o Dwf wedi ei chwbwlhau a diolch i Mrs Anwen Burgess am gydweithio mor egniol gyda`r ysgol ar y cynllun hwn. Mae`r wal yn werth ei gweld ac wedi newid y gofod tu allan i`r Cyfnod Sylfaen yn syfrdanol. Mae pob disgybl yn yr adran Cyfnod Sylfaen wedi creu llun ar gyfer y murlun ac mae`r sloganau sydd arno yn rhai y byddwn yn cario hefo ni Sul, gwyl a gwaith! Diolch i Mrs Wilson am arwain y cynllun a diolch hefyd i Mr Garem Jackson am ddod draw i Ysgol Llanllechid i gymryd rhan yn y bwrlwm!

Cliciwch yma am fwy o luniau

line

Ysgol Llanllechid ar y Newyddion ar S4C

Ar Fedi 14eg roedd Ysgol Llanllechid ar y Newyddion Cymraeg! Cymorth cyntaf oedd y pwnc dan sylw, a hynny ar ddiwrnod cenedlaethol Cymorth Cyntaf. Roeddem yn ffodus eto eleni o gael cwmni Mr Dafydd Beech o`r Groes Goch i`n harwain. Cafwyd diwrnod byrlymus a digon o gyfle i ddysgu sgiliau pwysig bywyd. Diolch o galon Mr Beech!

line

Taith yr Iaith

Bwydlen HafDiolch i Llion Williams, actor amryddawn, am ddod draw unwaith eto i berfformio sioe Taith yr Iaith i`r Adran Iau. Sioe fendigedig yw hon, yn olrhain taith ein hiaith o`i dechreuad i`r presennol. Rhyfeddir at yr holl rwystrau sydd wedi wynebu ein hiaith ar hyd y canrifoedd, a`r rhyfeddod mwyaf yw ei bod yn parhau i ffynnu, yn wyneb yr holl dreialon – ond ni ellir llaesu dwylo, â tharged ein Llywodraethwyr yn filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ymlaen mae Canan! Dyma beth yw addysg bwysig dros ben!

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

line

Archifdy

Bwydlen HafDiolch yn fawr i Gwenda am ddod draw at y Cyfnod Sylfaen i son am fywyd ers talwm, pan nad oedd son am drydan yn y cartrefi.


Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

line

Clwb Codio

Bwydlen HafDiolch i Mr Stephen Jones a Mr Emlyn am arwian y Clwb Codio wythnosol. Mae hwn yn glwb poblogaidd dros ben!

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

line

Myfyrwyr Prifysgol Bangor

Bwydlen HafAeth ein disgyblion Blwyddyn 6 draw i Lanllyn ar lannau llyn Tegid, i gymryd rhan mewn gweithdai, i ddangos rhai o arferion da Ysgol Llanllechid i 150 o fyfyrwyr o Brifysgol Bangor. Cafwyd amser gwerth chweil a braf cael cyd-wethio a chyd rannu arferion da ein hysgol hefo athrawon y dyfodol. Diolch i Ms Gwenlli Haf ac i Mrs Tegid am eu cymorth parod ac i`n disgyblion Bl 6 am eu hymddygiad boneddigaidd, eu brwdfrydedd a`u haeddfedrwydd. Diolch Hefyd i Gwawr Maelor o Brifysgol Bangor am y gwahoddiad.

"Diolch yn fawr iawn i chi gyd blant Blwyddyn 6 Ysgol Llanllechid a'r athrawon am ddod draw yr holl ffordd i Lan-llyn i ganu ac i ddysgu canu i 150 o ddarpar athrawon ! Waw dyna chi gamp - dysgu cyn gymaint o athrawon! Sut oeddech chi'n gallu canu a symud a gwneud cyflwyniadau am dros awr gyfan a chofio popeth, wel mae'n amlwg eich bod yn cael llawer o hwyl yn perfformio yn yr ysgol.

Diolch hefyd am fod mor gwrtais a llawen hefo pawb! Wir, rydych chi unwaith eto yn rhoi Ysgol Llanllechid ar y map!

Dwi'n siwr y bydd y criw sy'n dysgu bod yn athrawon yn dysgu o leiaf un gân Cymraeg mewn 150 o ysgolion wythnos nesa! Dyna chi dda yntê! A hynny diolch i chi gyd! Mi rydach chi'n athrawon canu ac actio gwerth chweil!"

- Gwawr Williams

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

line

Ysgol Llanllechid yn Japan

Bwydlen HafWrth i ni gyd chwysu chwartiau yn cefnogi ein gwlad, cafodd Mr David Alsop, tad Elsi, y cyfle i fynd i Japan i wylio`r gemau! A chwarae teg iddo – aeth a chrys Ysgol Llanllechid hefo fo, ac mae`r lluniau`n werth eu gweld. Enghraifft arall o Addysg Byd Eang! Diolch Mr Alsop.

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

line

Bwydlen Cinio Ysgol

Bwydlen Haf

 

Cliciwch yma am Bwydlen Cinio Ysgol

Cliciwch yma am fwy o fanylion ynglŷn â chinio Ysgol

 

 

line

Treialon Rygbi

plantTreialon Rygbi Ysgolion Eryri wedi eu gohirio.
Byddant yn cael eu cynnal rwan ar Hydref 7fed a'r 9fed.

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

line

Gwasnaeth Tân

plantDiolch i swyddog o`r Gwasanaeth Tân am ddod i Ysgol Llanllechid i drafod ei gwaith a pheryglon tan.

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 

line

Ysgol Arweiniol Greadigol

plantBellach mae ein wal Meddylfryd o Dwf wedi ei chwbwlhau a diolch i Mrs Anwen Burgess am gydweithio mor egniol gyda`r ysgol ar y cynllun hwn. Mae`r wal yn werth ei gweld ac wedi newid y gofod tu allan i`r Cyfnod Sylfaen yn syfrdanol. Mae pob disgybl yn yr adran Cyfnod Sylfaen wedi creu llun ar gyfer y murlun ac mae`r sloganau sydd arno yn rhai y byddwn yn cario hefo ni Sul, gwyl a gwaith! Diolch i Mrs Wilson am arwain y cynllun a diolch hefyd i Mr Garem Jackson am ddod draw i Ysgol Llanllechid i gymryd rhan yn y bwrlwm!

 

"Diolch yn fawr iawn am y cyfle i gydweithio hefo Ysgol Llanllechid. Braf iawn cael gweld y wal arbennig yma pob bore a brwdfryedd y plant tuag ati."

- Anwen Burgess

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

line

Rhoddion Cyfeillion

plantDiolch i gyfeillion Ysgol LLanllechid am brynu rhoddion gwerthfawr a defnyddiol i bob dosbarth, sef adnoddau ar gyfer amseroedd chwarae er mwyn sicrhau fod pawb yn cadw`n iach a heini! Hefyd, diolchir am y llyfrau a`r cyfraniad o £1,000 i`w prynu. Llond trol o ddiolch!!

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

line

DIWRNOD CYMUNEDOL a SIARTER IAITH

Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,

Ffair Hydref Ysgol Llanllechid

plantRoedd ein Ffair Hydref flynyddol eleni yn llwyddiant ysgubol, ac er gwaethaf y tywydd anffafriol, daethoch yn eich lluoedd, yn rieni a chyfeillion i`n cefnogi, a gwerthfawrogir hynny yn fawr.

Diolch arbennig i chi rieni/gwarcheidwaid a staff yr ysgol am eich holl ymdrechion. Roedd hi`n Ffair wirioneddol fendigedig, a`r gwaith caled gan aelodau prin y pwyllgor, o dan gadeiryddiaeth Angharad Llwyd wedi talu ar ei ganfed!

Diolch i bawb a wnaeth gynorthwyo mewn unrhyw ffordd ar y diwrnod; i chi fu`n helpu ar y stondinau, wrth y drws, trefnu`r gemau, trin gwalltau, gwneud `candy fflos`, peintio wynebau a llawer mwy – diolch o waelod calon.

Diolch arbennig iawn i Hogiau`r Bonc am ein diddanu ac am greu awyrgylch wych i`r Ffair, a braf oedd gweld aelod ychwanegol yn eich plith, sef Gruff annwyl (4 oed) yn bwrw iddi ar ei gitar yn eich cynorthwyo!

Diolch hefyd i ser y byd teledu, sef Deian a Loli, am deithio o bellafion y Sir i fod yma gyda ni. Roedd hi`n fraint cael eich cyfarfod, a braf oedd gweld y ciw hir o blant yn aros am lun a llofnod. Yn sicr, mae ein disgyblion wrth eu boddau yn gwylio rhaglenni Deian a Loli ar S4C!

Un o`r uchafbwyntiau oedd y cinio blasus o`r gegin! Dan ni erioed wedi blasu cystal sglodion a cyri sôs yn ein byw! Popeth arall hefyd yn flasus dros ben, a`r ffaith fod rhaid mynd i chwilio am fwy o fwyd i werthu yn tystio i ansawdd y cinio! Diolch o galon i Anti Gillian a`i thîm am yr holl waith di-flino yn y gegin.

Diolch hefyd i`n noddwyr am eu cyfraniadau ar gyfer y raffl; byddwn yn diolch iddynt ar wahan am eu haelioni tuag at Ysgol Llanllechid.

Hefyd, diolch diffuant i`r rhai ohonoch a arhosodd ar ôl y Ffair i glirio ac i gyfri`r arian – gwaith tîm bendigedig!

Nid ar chwarae bach mae trefnu Ffair mor fawr â hyn, a gwerthfawrogwn eich cymorth a`ch cefnogaeth ar y diwrnod yn fawr iawn. Yn yr un modd, diolchir hefyd i bobl yr ardal am eu cefnogaeth. I`r dyfodol, erfyniaf ar y rhai ohonoch sy`n gallu i ddod i helpu ar ein pwyllgor i fynychu cyfarfodydd, er mwyn ysgafnhau`r baich i`r rhai sy`n trefnu. Sylweddolwn beth yw prysurdeb bywyd a bod amser yn brin, ond byddai hyn o gryn gymorth i ni.

Diolch, diolch yw ein cân – a bydd y cyfan o`r arian a godwyd yn mynd yn ôl i`n plant i gynorthwyo i ostwng prisiau ein tripiau dirifedi ac ati.

Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i`r Cyfeillion am brynu adnoddau arbennig i bob dosbarth, sef adnoddau ar gyfer amseroedd chwarae. Mae`n fraint cael dweud fod pob dosbarth drwy`r ysgol wedi derbyn llond bocs o offer ar gyfer cadw`n iach a heini yn ystod amseroedd chwarae! Diolch hefyd i`r Cyfeillion am brynu gwerth mil o bunnau o lyfrau i ni fel ysgol. Rydym yn lwcus iawn ohonoch!

I gloi, felly, diolchwn i bawb am bob cyfraniad i`n helpu, boed yn fach neu fawr, a`r cyfan er budd plant arbennig Ysgol Llanllechid.

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

line

Cwpan y Byd

line

Cerdd Dant

plant

 

 

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

line

Holiadur Cinio Ysgol

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Hanes yn y Cyfnod Sylfaen

plant

Dyma beth oedd wedi cael ei adael ar y fainc yn y Neuadd Fwyta!

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 

 

line

Dewch i`r Ffair!

plant

Dyma neges gan PC Owain Edwards – “Dewch i`r Ffair!”

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 

 

line

Diolchgarwch!

plant

Diolch Mari Watcyn am y geiriau teimladwy a charedig.

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 

 

line

Gweithdai Cerdd y Cyfnod Sylfaen

plant

Dyma Mrs Delyth Humphreys a Ms Kathryn yn brysur hefo`n plantos yn dysgu rhythmau ac ati.

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 

 

line

Amgueddfa Lechi Llanberis

plant

Aeth rhai o ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen i Amgueddfa Lechi yn Llanberis i ddysgu am fywyd y chwarelwyr – gwersi pwysig.

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 

 

 

line

Wrth fy Modd Hefo Bwyd Cymreig

plant

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 

 

line

Mynediad i Ysgol Gynradd - Medi 2020

plant

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 

 

line

Ffair Hydref

plant

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 

 

line

Cystadleuaeth Aldi

plant



 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 



 


line

Rhodd Arbennig

plant

Diolch i Mr Kervegant am ei anrheg arbennig. Byddwn yn brysur iawn yn fuan yn tyfu madarch!

 






 

line

Lon Fach Odro

plant

At ymyl llyn Corddi ar Lon Fach Odro yr aeth disgyblion Bl 3, sef disgyblion Mrs Marian Jones, i graffu ar fyd natur yn ystod sesiwn Addysg Awyr Agored.

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau




 

line

Stwnsh Sadwrn

plant

Daeth Mari ac Owain draw i Ysgol Llanllechid, sef cyflwynwyr Stwnsh Sadwrn, i gael sbort a sbri hefo`n disgyblion. Blantos, cofiwch wylio pob dydd Sadwrn rwan er mwyn gweld eich hunain ar S4C!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 




line

Addysg Awyr Agored

plant

Aeth ein disgyblion hynaf i Goedwig Eithinog i ddatblygu eu sgiliau gwyddonol yn yr awyr agored. Diolch yn fawr i Mr Ben Stammers am ei arweiniad parod ac am ei gyfraniad gwerthfawr i fywyd a gwaith Ysgol Llanllechid.

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


line

Ysgol Llanllechid ar Newyddion S4C

plantAr Fedi 14eg roedd Ysgol Llanllechid ar y Newyddion Cymraeg. Cymorth cyntaf oedd y pwnc dan sylw a hynny ar ddiwrnod cenedlaethol Cymorth Cyntaf. Roeddem yn ffodus eto eleni o gael cwmni Mr Dafydd Beech o`r Groes Goch i`n harwain. Cafwyd diwrnod byrlymus a digon o gyfle i ddysgu sgiliau pwysig bywyd. Diolch o galon Mr Beech.

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

 

 

line

Pentre Peryglon

plant

Aeth Blwyddyn 6 draw i Bentre Peryglon i ddysgu am sut i gadw eu hunain yn saff a diogel.

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 





line

Diolch yn fawr

plant

Diolch i chi am ddiolch i ni!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau





line

CYSTADLEUAETH - ENNILL CROMEBOOK I'CH YSGOL CHI!

Gweithgareddau Pasg i'r teulu

 

 

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 



 

line

Sesiwn Imiwneiddio Ffliw - 15eg o Hydref

Gweithgareddau Pasg i'r teulu

 

 

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

line

Cymorth Cyntaf

plant

Diolch i Mr Dafydd Beech o`r Groes Goch am ddod at ein disgyblion hynaf i`w trwytho mewn technegau Cymorth Cyntaf. Cafwyd prynhawn penigamp a phwy ddaeth draw i ffilmio, neb llai na S4C!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 


line

Cystadleuaeth Stori Fer Rhaglen Aled Hughes BBC Radio Cymru

Gweithgareddau Pasg i'r teulu

Rydym yn galw ar ddisgyblion i ysgrifennu stori fer o ddim mwy na 500 gair ar thema "Y Penblwydd", i gyd fynd a dathliadau penblwydd Sali Mali yn 50 oed, un o brif gymeriadau llyfrau plant Cymru.

Mae pedwar categori eleni –

Iaith gyntaf blwyddyn 3 a 4,

Ail iaith blwyddyn 3 a 4,

Iaith gyntaf blwyddyn 5 a 6

Ail Iaith blwyddyn 5 a 6.

Bydd Aled yn darlledu ei raglen o ysgolion y pedwar enillydd yn ystod wythnos 21 i 25 Hydref (gyda chaniatâd yr ysgol / disgybl a’u rhieni/gwarchodwyr), a bydd yr enillwyr eu hunain yn derbyn rhodd gan y Cyngor Llyfrau.

Ifana Saville ac Anni Llyn yw’r beirniaid fydd yn pori drwy'r straeon ac yn dewis y bedair stori orau.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei lansio yn swyddogol ar raglen Aled Hughes, fore Mawrth Medi 24ain .

Os am gystadlu, rhaid i'r ysgol anfon eu straeon byrion (ynghyd a ffurflen gais sydd i’w chael ar wefan Radio Cymru) i Radio Cymru erbyn y dyddiad cau, Hydref 4ydd.

Y cyfeiriad yw:

Stori Fer Aled Hughes
BBC Radio Cymru
Bryn Meirion
Bangor
LL57 2BY

Rhaid nodi'n glir ffugenw’r disgybl, y categori ac enw’r ysgol ar ben pob stori os gwelwch yn dda.

Bydd angen i'r ysgol gadw rhestr o'r enwau sy'n cyd-fynd a'r ffugenwau.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â rhaglen Aled Hughes ar aled@bbc.co.uk

POB LWC!

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Cliciwch yma am ffurflen gais

 

line

Sgwad 'Sgwennu Tŷ newydd

Gweithgareddau Pasg i'r teulu

Oes gennych ysgrifenwyr ifanc yn eich hysgol sydd â dychymyg byw ac ar dân eisiau ysgrifennu? Os oes, yna fe gynhelir sesiwn gyntaf Sgwad ‘Sgwennu Tŷ Newydd ar ddydd Sul 22 Medi, yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, o 11.00 am – 2.00 pm. Gruffudd Eifion Owen, Bardd Plant Cymru fydd yng ngofal y Sgwad gyntaf hon.

Ffi pob Sgwad unigol yw £10 a gellir cofrestru a thalu ar lein ar wefan Tŷ Newydd (fel arall, gellir talu â siec).

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

line

Ydych chi eisiau dysgu Cymraeg?

Gweithgareddau Pasg i'r teulu

 

 

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

line
Blwyddyn Newydd
Croeso`n ol. Diwrnod Cyntaf y Tymor yw Medi 4ydd.

Hwyl Fawr!

plant

Unwaith eto, daeth hi’n amser ffarwelio hefo`n disgyblion Blwyddyn 6; disgyblion aeddfed, dawnus, rhugl yn y Gymraeg ac arweinwyr y dyfodol!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau



line

Ysgol Heddwch

Diolch i Sheila o ‘Fflam Heddwch y Byd’ am alw draw i’n gweld!


line

Taith Gerdded

plant

Lle gwell i fynd i gerdded na Nant Ffrancon!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

 



line

Canu hefo Lisa Jên

plant

Profiad a hanner yn Neuadd Ogwen!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau






line

Carnifal

plantRhialtwch diwedd y flwyddyn! A hufen ia Mon ar Lwy am ddim i bawb!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

 

 

line

Meddylfryd o Dwf

plant

Cyflwyniadau grymus i’r Llywodraethwyr! Diolch i Mrs Wilson am arwain. Hefyd, mae`r murlun tu allan Adran y Cyfnod Sylfaen ar y thema Meddylfryd o Dwf a welodd olau dydd o dan waith yr ysgol fel ysgol arweiniol greadigol yn werth ei weld. Diolch i Anwen Burgess am ein cynorthywo.

 


line

Gelli Gyffwrdd

plant

Lle bendigedig! Dosbarth Meithrin yn cael modd i fyw!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


 

 

line

Avantika Annwyl

plant

Proifatharwes yn Delhi yw Avantika a`n ffrind ni oll. Diolch Avantika am agor ein gorwelion mewn cymaint o ffyrdd a diolch arbennig am y gweithdai clapio a’r yoga ysgol gyfan.

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

line

Clwb Henoed Rachub

plant

Diolch i’n plantos ac i Harry Bale am ddiddanu ein ffrindiau o Glwb yr Henoed yn Rachub


Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 



line

Addysg Byd

plantA dinasyddiaeth fyd-eang – braint oedd cael cwmni Dr Salama yn ein plith.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


 

 


line

Ras am fywyd

plantDiolch i Ysgol Dyffryn Ogwen am drefnu`r weithgaredd flynyddol hon.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau






line

Noson o Wledda

plantCafwyd sbort yn gwledd a chymdeithasu ar ddiwedd y tymor!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

 

 


line

Gwobrau’r Cwricwlwm

plantDa iawn Bl 6 ar ennill tystysgrifau nofio.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau



 

 

 

line

Y Lamas

plantMae cymaint o hwyl i’w gael pan fo athrawon mor arbennig yn ymlacio a chael hwyl hefo’n plantos..

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 




line

Tren Bach Porthmadog

plantTaith hyfryd i’r Cyfnod Sylfaen. Diolch i Anti Wendy am drefnu.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau



 


line

Mabolgampau’r Adran Iau

plantDiolch i Ysgol Dyffryn Ogwen am drefnu`r weithgaredd flynyddol hon.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau





 

line

Patagonia

plantDiolch i Michel Downey am gadw cysylltiad hefo ni yma yn Ysgol Llanllechid o Batagonia bell.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


 



line

Y Prifardd Ieuan Wyn

plantDiolch diffuant i’r Prifardd Ieuan Wyn am ddod draw i’n gweld ac i rannu ei ddoniau hefo ni.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau





line

Llangollen

plantRoedd taith flynyddol y Cyfnod Sylfaen i Langollen yn un i’w chofio!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


 



line

Cynhadledd Newid Hinsawdd

plantBraint oedd cael cymryd rhan yn y gynhadledd hon ym Mhrifysgol Bangor.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau



 


line

Mabolgampau Cyfnod Sylfaen

plantPawb wrthi’n trio eu gorau glas a’r wybren yn glir!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


 

 

 


line

Yr Wyddfa

plantDo, cyrhaeddodd disgyblion CA2 y copa. Llongyfarchiadau! A llongyfarchiadau hefyd i Mrs Davies Jones, Mr Stephen Jones, Ms Kathryn New. Diolch i Stephen Jones o Gwmni Anelu.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 


line

ABACH

plantCyflwyniad call a phwysig oedd hwn yn sôn am beryglon cyffuriau ac ati! Diolch!


Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

 

 

line

Croesi’r Ffordd

plantMae plant y Cyfnod Sylfaen yn cofio neges Carys Ofalus wrth groesi’r ffordd!


Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 



line

Beicio Noddedig

plantCafwyd noson i’w chofio yn y Clwb Rygbi. Diolch i’r Cyfeillion a diolch i bawb am ddod a’u beics! Lleoliad gwerth chweil ar noson gynnes, braf.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau




line

Trawsgwlad

plantDa iawn chi ar eich llwyddiant! Gweler y lluniau!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau





 


line

Cyngerdd Mawreddog Ysgol Llanllechid a Chôr Meibion y Penrhyn

plantUn o’n uchafbwyntiau y flwyddyn addysgol hon oedd y Cyngerdd a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Côr Meibion y Penrhyn a Chôr Ysgol Llanllechid. Roedd y sain a gafodd ei gynhyrchu yn ystod y noson hon yn anghyffredin ac yn angerddol. Derbyniodd yr ysgol gamoliaeth uchel, a diolchir yn ddi ffuant iawn i Mrs Delyth Humphreys am ei hamser yn arwain ac yn addysgu’r disgyblion i ganu i’r fath safon. Diolch hefyd i Ms Sioned Webb am fod mor barod i gyfeilio i ni. Edrychwn ymlaen at gael cyfle eto i ganu hefo Côr Meibion y Penrhyn! Yn ystod y noson hefyd cafwyd rhaglen lawn o eitemau gan Ysgol Llanllechid. Y Gan Actol – Caellwyngrydd, Gruffydd Beech – Cadw Mi Gei (ail wobr yn yr eisteddfod Sir); Harry Bale – Unawd Corn; Cerddorfa Ysgol Llanllechid – Tango a Cha Cha Cha; Gwenno Beech – Llefaru Unigol; Y Gornel Dywyll (Gwobr Gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd); Parti Llefaru – Parti Llefaru gorau`r Byd; Ensemble Lleisiol – Mil Harddach Wyt; Côr Cerdd Dant: Un Blaned Gron; Adran yr Urdd Dyffryn Ogwen – Can y Sipsi a Cherdd Dant – Eira (gwobr Gyntaf yn y Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd). Wedi hyn perfformiodd côr Ysgol Llanllechid amrywiaeth eang o ganeuon gan gynnwys caneuon traddodiadol Cymreig. Cafwyd caneuon grymus gan Gôr Y Penrhyn, ac ymunodd y ddau gôr ar ddiwedd y noson i ganu Calon Lân a Byd o Heddwch. Daeth y noson i ben gyda`r anthem yn atseinio dros y fro!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line

Taith Cyfnod Sylfaen

plantAeth disgyblion y Cyfnod Sylfaen ar dren bach Porthmadog ac i gael cyfarfod a chael hwyl hefo’r lamas! Diolch i bawb am y daith lwyddiannus. Dach chi’n seren Mrs Williams!!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

"Thank you for choosing to bring the children to us yesterday. We had a fantastic time and it was brilliant to spend time sharing our wonderful llamas with such well behaved, enthusiastic, interested children. They really were a credit to the school! "

Taith y Cestyll

plant

 

Gwybodaeth yn dod yn fuan ......

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

 


line

Iolo Williams yn Lansio Canllaw Newydd i Ddysgu yn yr Awyr Agored

plant

Bu disgyblion Ysgol Llanllechid yn bresennol pan gafodd canllaw newydd i ddysgu yn yr awyr agored ei lansio ar Dydd Gwener Mehefin 21 yng Nghanolfan Mynydda Plas y Brenin. Mae’r canllaw, sy’n cael ei lansio gan Iolo Williams, yn dod â gwybodaeth a phrofiad arbenigwyr awyr agored ar draws Cymru at ei gilydd.
Yn ôl y llysgennad, Iolo Williams, “Dwi’n falch iawn o fod yn rhan o’r lansiad yma heddiw i annog mwy o blant a phobl ifanc i fwynhau dysgu yn yr awyr agored. Mi yda ni yn clywed gymaint heddiw am broblemau iechyd meddwl, gordewdra a diffyg ymarfer corff yn gyffredinol ac mae gan yr awyr agored ran bwysig iawn i’w chwarae yn taclo’r problemau yma. Doeddwn i ddim yn mwynhau addysg ffurfiol, ac mae na amryw yr un peth a fi, ond mi oeddwn i wrth fy modd yn mynd allan efo taid a fy mam am dro yn dysgu am fyd natur. Dwi’n gweld yr adnodd yma fel hwb i fwy o blant ac oedolion wneud yr un peth, gan ddysgu yn yr awyr agored.”

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


line

Cyngerdd Mawreddog Ysgol Llanllechid a Chôr Meibion y Penrhyn

plantCynhaliwyd cyngerdd arbennig iawn yn neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen ar Fehefin 26. Bu`n gyfle i Ysgol Llanllechid rannu llwyfan hefo Côr Meibion y Penrhyn, a chafwyd gwledd o ganu. Braint ac anrhydedd oedd cael canu hefo Côr y Penrhyn, a bydd ein disgyblion ni yn cofio`r profiad am weddill eu hoes!
Roedd hwn yn gyngerdd oedd wedi cael ei drefnu i godi arian ar gyfer plant yr ysgol sy`n derbyn triniaethau meddygol. Cyfeiriwn yn benodol at Ela Lois, sydd yn ferch fach hynod o ddewr, ac sydd wedi derbyn triniaeth cymhleth yn yr Almaen a dymunwn adferiad iechyd llwyr a buan i Ela.
Yn ystod y noswaith, cafwyd amrywiaeth o eitemau gan gynnwys: Y Gan Actol – Caellwyngrydd, Gruffydd Beech – Cadw Mi Gei (ail wobr yn yr eisteddfod Sir); Harri Bale – Unawd Corn (ennill yr ail wobr yn yr Eisteddfod Sir) ; Cerddorfa Ysgol Llanllechid – Tango a Cha Cha Cha; Gwenno Beech – Llefaru Unigol; Y Gornel Dywyll (Gwobr Gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd); Parti Llefaru – Parti Llefaru gorau`r Byd; Ensemble Lleisiol – Mil Harddach Wyt; Côr Cerdd Dant: Un Blaned Gron; Adran yr Urdd Dyffryn Ogwen – Can y Sipsi a Cherdd Dant – Eira (gwobr Gyntaf yn y Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd). Wedi hyn perfformiodd côr Ysgol Llanllechid amrywiaeth eang o ganeuon gan gynnwys caneuon traddodiadol Cymreig. Cafwyd caneuon grymus gan Gôr Y Penrhyn, ac ymunodd y ddau gôr ar ddiwedd y noson i ganu Calon Lân a Byd o Heddwch. Daeth y noson i ben gyda`r anthem yn atseinio dros y fro!
Diolch i Mrs Delyth Humphreys am ei holl egni a`i hymroddiad wrth arwain y ddau gôr a diolch i ffrind arbennig Ysgol Llanllechid, sef Sioned Webb, am ddod atom i gyfeilio mor ddawnus. Diolchwn hefyd i Arwel Davies am ei arweinaid a`i gydweithrediad ac i aelodau Côr y Penrhyn am gytuno i rannu llwyfan hefo ni. Diolchwn hefyd i Fran Davies, cyfeilyddes Côr Meibion y Penrhyn.
Diolch i Mr Dylan Davies, prifathro Ysgol Dyffryn Ogwen am gael defnyddio Ysgol Dyffryn Ogwen ar gyfer y noswaith.
Diolch i chi`r rhieni a chyfeillion Ysgol Llanllechid am eich holl gefnogaeth a`ch cymorth parod.
Diolch yn fawr iawn i`r canlynol am y gwobrau raffl:
• Venue Cymru
• Y Llechen
• Ty Golchi
• Garej Ffrydlas
• All Sewn Up
• Clustogau gan Janice Williams
• Taleb Ciwticwls gan Ffion Jones
• Cwrw Ogwen
• Ceri Isac – Hamper
• Ceri Evans - Potel Gin

 

 

Cliciwch yma i weld fideos a lluniau Cyngerdd Mawreddog

 

line

Beicio Noddedig
poster cyngerddNos Wener, Mehefin 28,
Cyfarfod 5:30hy

Croeso i bawb!

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

line

Wybrnant

plant

 

Aeth disgyblion dosbaerth Mrs Wilson i`r Wybrnant, a phwy oedd yno yn aros amdanynt ond yr Esgob William Morgan! Mwynhewch y lluniau!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 


linePontio

plant

 

Aeth disgyblion y cyfnod Sylfaen i Pontio i weld sioe arbennig Rwtch Ratch!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 


line

Rhaglen brechu rhag y ffliw mewn plant

Yn 2019/20, bydd pob plentyn yn y dosbarth derbyn i flwyddyn ysgol 6 yn cael
cynnig brechiad y ffliw drwy chwistrell trwyn yn yr ysgol unwaith eto. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

line

Mae Pawb yn Gallu Llwyddo

erthygl

 

 

Cliciwch yma i ddarllen mwy

 

 

 

 

 


line

Caerdydd

plant

 

Dyma nhw ein Blwyddyn 6 yn mwynhau eu hunain yng Nghaerdydd!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 


line

Croeso`n ôl

children

 

Croeso cynnes yn ol i Ela a Lili i Ysgol LLanllechid. Bu`n fraint cael treulio bore hefo`n gilydd yn canu, peintio a rhannu straeon. Merch fach ddewr iawn yw Ela ac mae Lili yn ddigon o sioe!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


line

Llosg Fynydd

children

 

Mae rhai o blant y Cyfnod Sylfaen wedi bod yn dysgu sut i wneud llosg fynyddoedd, a dyma ymgais E.H. pan aeth ati gartref! Bendigedig!

 

Cliciwch yma i weld y fideo

 

line

Y Groes Goch Brydeinig

plantLlawer o ddiolch i Mr Dafydd Beech am ddod draw atom at Flwyddyn 6, sef dosbarth Mr Stephen Jones, i ddysgu sgiliau bywyd hanfodol sef: Cymorth Cyntaf. Llawer iawn o ddiolch i Mr Beech am fod mor barod i helpu`r ysgol mewn cymaint o wahanol ffyrdd.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

line

Cyngerdd
poster cyngerdd

Gyda Plant Ysgol Llanllechid a Côr Meibion y Penrhyn.

Nos Fercher
26ain o Fehefin
6.30yh

Lleoliad y Cyngerdd: Ysgol Dyffryn Ogwen

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

line

Pencampwriaeth Cyfeiriannu Gwynedd

children

Parc Glynllifon oedd y lleoliad ar y sethfed o Fehein. Da iawn Osian ac Eban am eich ymdrechion.

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 



line

Sioe Dyffryn Ogwen

gwaith celf

 

Llongyfarchiadau i`r holl disgyblion a ddaeth i`r brig yn y cystadlaethau Celf a Chrefft yn Sioe Dyffryn Ogwen.

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

 

 

 

line

Gŵyl Rygbi

childrenAr gaeau Dol Ddafydd bu ein disgyblion Blwyddyn 3 a 4 yn cymryd rhan yng Ngwyl Rygbi`r Dalgylch. Da iawn chi!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

 

lineNeidr Penhesgyn

plant

 

Gwrandewch ar y stori ddiddordol hon!

Cliciwch yma i weld y fideo

 

 

line

Peldroed

Mae disgyblion y Cyfnod Sylfaen wedi bod wrthi`n cyfarfod ar ol ysgol yn wythnosol i chwarae peldroed. Bydd yr Adran Iau wrthi hefyd o`r wythnos nesaf ymlaen!

line

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Gweithgareddau Pasg i'r teuluLlongyfarchiadau gwresog i Gwenno Beech ar ennill y wobr gyntaf am lefaru unigol yng nghystadleuaeth Blynyddoedd 3 a 4 yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd; talent a hanner! Llongyfarchwn ein cor cerdd dant ar berfformio ‘Un Blaned Gron’ mor soniarus yn y rhagbrawf yng Nghaerdydd. Roedd ein ensemble lleisiol hefyd yn werth eu clywed wrth i Chenai Chicanza, Mari Watcyn a Mia Williams gyd-ganu ‘Mil Harddach Wyt’ yn hyfryd, a`u lleisiau`n asio i`r dim. Dim llwyfan y tro hwn – ond dalwich ati genod; pwy a wyr beth fyddwch yn ei wneud yn y dyfodol gyda`r doniau hyn?! Diolch i Mrs Delyth Humphreys am eich hyfforddi. Hefyd, rydym yn hynod falchfod Adran Dyffryn Ogwen wedi dod i`r brig drwy ennill y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth partion cerdd dant dan 12 oed. Da iawn chi! Hyfryd gweld ein plantos yn cynrychioli`r ardal fel hyn. Cewch gyfle i fwynhau`r amrywiol eitemau mewn cyngerdd a gynhelir yn Ysgol Dyffryn Ogwen ar y cyd rhwng Ysgol Llanllechid a Chor Meibion y Penrhyn ar Fehefin 26. Manylion i ddilyn!
y corCliciwch yma i weld y fideo

line

Cyfeiriannu

Llongyfarchiadau i Osian Sherlock ac Eban Pritchard ar ddod i`r brig mewn cystadleuaeth gyfeiriannu ym Mharc Padarn, Llanberis. Ymlaen rwan i`r bencampwriaeth yng Nglynllifon. Pob lwc hogie!

line

Sioe Dyffryn Ogwen


Gweithgareddau Pasg i'r teuluCofiwch am y Sioe a gynhelir dydd Sadwrn. Os ydych awydd cystadlu - amdani!!

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 

line

Trawsgwlad Y Faenol


Gweithgareddau Pasg i'r teuluDydd Llun, 24.06.2019

Rasys ar gyfer plant o siroedd Conwy, Gwynedd ac Ynys Mon.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

line

Cadw`n Ddiogel yn yr Haul

Gweithgareddau Pasg i'r teulu

 

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 

line

Ysgol Arweiniol Greadigol

Y GwcwDiolch i Anwen Burgess am ein cynorthwyo i ddatblygu gwaith yr ysgol ymhellach fel Ysgol Arweiniol Greadigol wrth i ni baratoi i arddangos campweithiau`r disgyblion wrth fynedfa`r plant bach. Bydd y cyfanwaith yn dathlu gwaith yr ysgol ar ein themau Meddylfryd o Dwf.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

lineRhieni Newydd

Y GwcwYn ôl ein harfer, croesawyd ein rhieni newydd a`u plant i`r ysgol yn ddiweddar. Cafwyd prynhawn byrlymus lle roedd y bychain wrth eu boddau yn cael cyfleoedd i chwarae gyda`r offer newydd ar gyfer y tu allan, yn enwedig y ceginau mwd newydd – diolch i Antur Waunfawr am eu creu!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line

Ela a Lili

childrenAnfonwn ein cofion cynhesaf at Ela a Lili sydd ar hyn o bryd yn treulio cyfnod yn yr Almaen. Rydym mewn cysylltiad parhaus gyda`r teulu bach, ac yn dymuno pob dymuniad da iddynt, ynghyd â gwellhad llwyr a buan.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


line

Cwricwlwm i Gymru

Mae Ysgol Llanllechid wedi bod yn gweithio`n greadigol a byrlymus, gan ymateb i`r cwricwlwm newydd ar draws yr ysgol. Cynhelir gweithdai ymarferol o`r dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6, sydd yn cwmpasu profiadau o ddatrys problemau drwy weithio mewn caffi; sgriptio a chreu sioeau ar gyfer Neuadd Ogwen; cyfansoddi a pherfformio; gweithio mewn syjeri `r meddyg a.y.b Mae`r disgyblion hynaf yn allweddol yn hyn o beth, wrth iddynt arwain a chynorthwyo`r disgyblion iau. Pleser yw gweld y fath gyffro a syniadau`r disgyblion yn flaenllaw yn hyn oll.

line

Capel Carmel

childrenDiolch yn fawr i ffrind arbennig Ysgol Llanllechid, sef Mrs Helen Williams, am ein croesawu i Gapel Carmel unwaith yn rhagor. Bu Mrs Williams yn dysgu disgyblion y Cyfnod Sylfaen am y capel ac yn trafod y gwahanol nodweddion e.e. set fawr, puplud a.y.b. cyn canu cyfres o emynau i gyfeiliant Mrs Delyth Humphreys ar yr organ. Mae`n braf fod Capel Carmel mor agos at yr ysgol a`n bod yn gallu cerdded yno mor ddi-drafferth.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line

Yr Wyddfa

Da iawn Billy, Ffion Jordan, Harry Jones a Mr Ady am gerdded i fyny`r Wyddfa i godi arian at achos da.

lineGwyddonwyr o Fri

Gwyddonwyr o FriBu disgyblion Bl 4, 5 a 6 yn gwisgo`u cotiau gwyn ac yn ymddwyn fel gwyddonwyr go iawn wrth ymwneud ag amrediad o weithgareddau ar y themau lliwiau. Roedd hen drafod a chrafu pen!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 


lineGlanllyn

Y GwcwUnwaith eto, cafwyd taith hwylus dan wenau`r haul a phawb yn mwynhau cymryd rhan yn yr amrywiol weithgareddau. Diolch i Mrs Bethan Jones, Ms Gwenlli Haf a Ms Gwen am eu gofal a`u cymorth yn ystod yr ymweliad.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


line

Plannu

childrenMae disgyblion y Cyfnod Sylfaen wedi bod yn brysur yn plannu pob math o blanhigion a byddant yn barod i`w gwerthu i chi`r rhieni a ffrindiau`r ysgol yn fuan iawn.


Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

line

Prifeirdd

Yn nosbarth Mrs Marian Jones, ar ôl bod yn trafod barddoniaeth, a chael sgwrs am eisteddfodau, daeth dau o’r disgyblion â manylion i’r ysgol am gampau barddonol eu hen, hen deidiau! Dywedodd Carwyn fod ei hen, hen daid, John Ellis Williams wedi cipio cadair Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth ym 1916 am awdl yn dwyn y teitl ‘Ystrad Fflur’. A phwy oedd yn ail yn y gystadleuaeth? Neb llai na Hedd Wyn! Yna, daeth Lili i’r dosbarth gyda manylion am ei hen, hen daid hithau! David Jones oedd ei enw, a’i wobr ef oedd coron Eisteddfod Abergwaun ym 1936 am y bryddest ‘Yr Anialwch’! Dyna i chi beth ydi dawn.

line

Ysgol Eco

Fel rhan o waith yr ysgol fel Ysgol Eco, bu pob dosbarth yn ymwneud â themau oedd yn deillio o`r themau hyn. Bu rhai dosbarthiadau yn ymwneud â hyrwyddo teithiau iach; casglu sbwriel ac ailgylchu; creu modelau 3D allan o sbwriel; fforestydd trofannol; cynhesu byd-eang; gweithio mewn partneriaeth gydag Ynni Ogwen i greu tyrbin dwr; cymharu technegau ail-gylchu o gwmpas y byd a dadansoddi`r data; creu melinau gwynt, a chreu barddoniaeth ar lygredd. Bu disgyblion blwyddyn 3 yn creu sioe Swp a Sap ar gyfer plant bach y Cyfnod Sylfaen a Swp a Sap oedd enwau`r ddau ddihiryn a fu`n taflu`r sbwriel ar hyd y lle! Cyflwynwyd y cyfan i`r ysgol gyfan yn y neuadd. Bore gwerth chweil!

lineAdnabod Dail a Blodau Gwyllt

Y GwcwAeth plant y Cyfnod Sylfaen am dro ar hyd Lon Bach Odro i ddysgu enwau`r blodau gwyllt a`r deiliach sy’n tyfu yno a sylwi ar ambell i fuwch goch gota hefyd!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau



line

Gerddi Newydd yr Ysgol

plannuDiolch yn fawr i`r rhieni a ddaeth ynghyd ar brynhawn Sul i greu`r gerddi. Diolch i Peter Jones am ei help. Diolch arbennig i Dafydd Cadwaladr am y coed, i dad Oscar, Dion Thomas am drefnu ac i Robin Williams, tad Elin a Mared Llewelyn am y pridd. Diolch hefyd i fam Catrin Sian, sef Ann Hughes Jones am yr hadau.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

Llythyr codi ymwybyddiaeth - Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)


Gweithgareddau Pasg i'r teulu

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 


line

Ar Lan y Môr


Ar Lan y Môr

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

Dawnsio yn y Galeri

Dawnsio yn y GaleriLlongyfarchiadau i`r criw heini a fu`n dawnsio yn y Galeri yr wythnos hon. Diolch yn fawr i Ms Kathryn am eu hyfforddi a diolch hefyd i Ms LLiwen.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau



line

Llwyddiant Eisteddfod y Sir

Llwybrau DysguDyma nhw y rhai a ddaeth i`r brig. Mwynhewch edrych ar ein lluniau!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 




line

Celf a Chrefft yr Urdd

Llongyfarchiadau!

Canlyniadau Celf a Chrefft Eisteddfod Sir yr Urdd
Enw
Safle
Cystadleuaeth
Margiad Morris 2ail Gwaith Creadigol 2D Tecstiliau Bl 2 ac iau
Efa Mai Hardy-Griffith 1af Gemwaith Bl 3 a 4
Margiad Morris 1af Gwaith Lluniadu 2D Bl 2 ac iau
Margiad Ann Temple Morris 1af Argraffu/Addurno ar Ffabrig Bl 2 ac Iau
Efa Hardy Griffith 3ydd Ceramig/Crochenwaith Bl 3 a 4
Elin Edwards 3ydd Gwaith Creadigol 2D Tecstiliau Bl 3 a 4 ac iau

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


line

Llwybrau Dysgu

Llwybrau DysguUnwaith eto, cafwyd llwybr dysgu llwyddiannus. Diolch i Mr Ieuan Jones GwE a`r Llywodraethwyr am ddod draw. A diolch i bawb am yr holl fwrlwm a chreadigrwydd. Bendigedig!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau




line

Barti Ddu

Barti DduDaeth Barti Ddu o Gasnewy` Bach draw i ddosbarth Mrs Rona Williams. Dyna i chi hwyl a gafwyd yn dysgu amdano!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau




line

Owian Glyndwr

Owian GlyndwrBu dosbarth Mrs Marian Jones yn dysgu ac yn cyd-actio gyda`r ffigwr arloesol hwn.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau






line

Cyfnod Sylfaen

Cyfnod SylfaenDyma ddisgyblion Ms Haf yn mwynhau`r gweithgareddau yn yr ardal tu allan.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau






line

Gwefan Ysgol Llanllechid

Roedd bron i 100.000 o hits ar ein gwefan y mis diwethaf! Waw!

line
Gweithgareddau Pasg i'r teulu


Gweithgareddau Pasg i'r teulu

Dydd Mawrth - 16/04/29

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 


line

Cydymdeimlo

Cydymdeimlwn â theulu Mrs Nerys Tegid sydd wedi colli `taid` sef Mr Sam Jones yn ddiweddar yn gant a phedwar. Rydym wedi clywed amdano yn ei ieuenctid yn marchogaeth ei geffyl dros y Berwyn i gwrdd a`i gariad. Dyn rhyfeddol. Anfonwn ein cofion cynnes atoch fel teulu.

lineDeinosoriaid

DeinosoriaidI gloi`r thema, cafodd y disgyblion goblyn o sioc pan gyrhaeddodd Tyranasawrws Rex anferthol iard yr ysgol!!!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau




lineY Gwcw

Y GwcwPwy sy`n cofio`r gerdd Y Gwcw?

Cliciwch yma i weld y fideo

 

 

 


linePlas y Tuduriaid ym Mhenmynydd

Plas y Tuduriaid ym MhenmynyddBraint oedd cael mynd i Benmynydd i gael crwydro o amgylch y Plas y Tuduriaid a dysgu am y cysylltiad Cymreig pwysig yma.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau



 

line

Bingo Pasg

childrenDiolch yn fawr i bawb a ddaeth draw i`r Clwb Criced i gefnogi ein Bingo Pasg. Cafwyd noson hwyliog lle roedd llu o wyau Pasg o bob lliw a llun i`w hennill. Diolch i`r pwyllgor gweithgar, o dan gadairyddiaeth Angharad Llwyd Beech am eu holl waith paratoi. Codwyd swm o £474 i gronfa`r ysgol. Diolch i chi i gyd.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line

Caneuon Cymraeg Poblogaidd a Chreu Ynni

childrenEr mwyn cynnal diddordeb y disgyblion mewn cerddoriaeth Gymraeg poblogaidd, cafwyd gweithdy byrlymus i holl ddisgyblion yr ysgol yn y neuadd. Meddai Aled, oedd yn arwian y gweithdy: “Gwefreiddiwch ar egni a staff a disgyblion Ysgol Llanllechid!! Roedd ymateb y disgyblion yn anhygoel, a bwrwlm yr ysgol yn fendigedig!” Cafwyd diwrnod o wrando, pleidleisio a chyd-ganu caneuon Cymraeg gan grwpiau ac unigolion e.e. Maharishi, Dafydd Iwan, Bryn Fôn, Candelas, Celt, Welsh Whisperer, 9Bach ac Yws Gwynedd a mwy. Cafwyd hefyd gyfle i feicio, a thrwy hynny, creuwyd ynni i gynhyrchu`r goleuadau llachar a`r sain! Dyna i chi beth ydi Ysgol Eco, ac ysgol sy`n trwytho`r disgyblion yn ein diwylliant!


Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line

Ffilm

Mae disgyblion dosbarth Ms Gwenlli Haf wedi bod yn brysur yn creu ffilm ar themau Ysgol Werdd gyda Judith, Llinos a Cynan o Bartneriaeth Ogwen. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld y cyfanwaith hwn!

line

Dafydd ap Gwilym

childrenBraint oedd croesawu Dafydd ap Gwilym i`n hysgol! Dysgwyd llawer amdano, sef mai ef oedd un o feirdd pwysicaf Ewrop yn ei gyfnod. Yn ôl pob tebyg, bu farw o`r pla du yn 1380. Roedd yn fab i Gwilym Gam ap Gwilym ap Einion. Erbyn hyn rydym yn gwybod yn dda am ei gerdd Trafferth Mewn Tafarn.


Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line

Canlyniadau Ysgol Llanllechid yn Eisteddfod Sir yr Urdd
Enw
Safle
Cystadleuaeth
Gwenno Beech 2ail Unawd Bl 3 & 4
Parti Chenai 2ail Ensemble Lleisiol
Gruffydd Beech 3ydd Llefaru Bl 3 & 4
Parti Mali Fflur 3ydd Grwp Llefaru
Harri Morgan Bale 2ail Unawd Pres
Gwenno Beech 1af Unawd Cerdd Dant Bl 3/4
Gruffydd Beech 2ail Unawd Cerdd Dant Bl 3/4
Parti Chenai 2ail Parti Cerdd Dant
Gwenno Beech 1af Llefaru Bl 3 & 4
Côr Ysgol Llanllechid 1af Côr Cerdd Dant

line

Canlyniadau Celf a Chrefft
Enw
Safle
Cystadleuaeth
Grwp Gwydion Eryri 1af Gwaith Creadigol 3D Bl 3 a 4 (Grwp)
Harri Hinchliffe 1af Gwaith Creadigol 3D Bl 3 a 4 (Unigol)
Tomos Owain Davies 2ail Gwaith Creadigol 3D Bl 3 a 4 (Unigol)
Margiad Morris 1af Gwaith Creadigol 2D Tecstiliau Bl 2 ac iau
Cadi Efa Hughes 1af Gwaith Creadigol 2D Tecstiliau Bl 3 a 4
Margiad Morris 1af Gemwaith Bl 2 ac iau
Lloer Davies 2ail Gemwaith Bl 2 ac iau
Margiad Morris 1af Gemwaith Bl 2 ac iau
Lloer Davies 2ail Gwaith Lluniadu 2D Bl 2 ac iau
Grwp Catrin Sian 1af Gwaith Creadigol 2D Bl 3 a 4 (Grwp)
Grwp Erin Lois 3ydd Gwaith Creadigol 2D Bl 6 ac iau (Grwp)
Elin Edwards 2il Gwaith Creadigol 2D Bl 3 a 4 (Unigol)
Margiad Ann Temple Morris 1af Argraffu/Addurno ar Ffabrig Bl 2 ac Iau
Efa Hardy Griffith 1af Print Lliw Bl 3 a 4
Margiad Morris 1af Cyfres o Brintiau Lliw Bl 2 ac iau
Efa Hardy Griffith 1af Ceramig/Crochenwaith Bl 3 a 4


line

Dawnsio Disgo

childrenLlongyfarchiadau i’r dawnswyr disgo ar eu perfformiad gwych yn yr Eisteddfod Ddawns yng Nghricieth. Da iawn Mia,Hannah,Ffion,Maya, Sion,Osian,Erin,Hana,Elan,Evie,Chenai, Emily a Chloe.

Diolch i Ms Kathryn am eu hyfforddi ac i Ms Lliwen am ei help!

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

line

Gwersi Drymio

childrenDiolch i dad Sion am ddod i`r ysgol i roi gwersi drymio i`r plant! Pleser cael taro`r drymiau o dan ein coeden geirios!

Cliciwch yma
i weld mwy o luniau




line

Cinio Pasg


Cinio Pasg

 

 

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 


Balwniau Aer Poeth

childrenMae Blwyddyn 3 wedi bod yn brysur yn creu darluniau o Falwniau Aer Poeth gyda Ms Anna. Maent yn werth eu gweld.

Cliciwch yma
i weld mwy o luniau




line

Taith i`r Ysgwrn a Byd Mari Jones

childrenYma’n Ysgol Llanllechid rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn rhoi’r cyfle i’n disgyblion i ddysgu a gwerthfawrogi hanes Cymru. Yn ystod y tymor hwn mae Blwyddyn 6 yn dysgu am Freuddwydion a phenderfynwyd ac wrth iddynt gasglu syniadau, penderfynwyd ymchwilio i hanes bywyd Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn yn ogsytal a hanes Mari Jones. Cawsom groeso cynnes yn Yr Ysgwrn a mwynhaodd y disgyblion ddysgu am hanes y bardd enwog a chael adrodd barddoniaeth megis Dim ond Lleuad Borffor a’r Rhyfel. Roedd hi`n brofiad cael gweld y Gadair Ddu wreiddiol, sef y gadair enillodd Hedd Wyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw ym 1917.

Ymlaen wedyn i’r Bala i ymweld â Chanolfan Mari Jones. Yno bu’r disgyblion yn dysgu am ei hanes a sut arweiniodd ei hymdrechion at ledaenu argaeledd y Beibl ar draws y byd. Diwrnod penigamp yn dysgu am hanes unigolion a lwyddodd i wireddu eu breuddwydion; unigolion sydd â’u henwau wedi’u gwreiddio’n gadarn yn hanes Cymru.

Cliciwch yma
i weld mwy o luniau

line

Gala Nofio

Llongyfarchiadau i`n nofwyr yma ar eu llwyddiannau yn y Gala Nofio

Dafydd Jones – 5ed Bechgyn blwyddyn 3 a 4 Dull Rhydd

Catrin Jones – 5ed Genethod blwyddyn 3 a 4 Dull Rhydd

Gwydion – 4ydd Bechgyn blwyddyn 3 a 4 Dull Cefn

Elin Edwrads – 6ed Genethod blwyddyn 3 a 4 Dull Cefn

Dylan Patrick – 4ydd Bechgyn blwyddyn 3 a 4 Dull Broga

Cadi Eirian – 6ed Genethod blwyddyn 3 a 4 Dull Broga

Caleb Mcleod – 3ydd Bechgyn blwyddyn 5 Dull Rhydd

Seren Roberts – 6ed Genethod blwyddyn 5 Dull Rhydd

Llyr Cook – 5ed Bechgyn blwyddyn 5 Dull Cefn

Mali – 3ydd Genethod blwyddyn 5 Dull Cefn

Ned Mcleod – 3ydd Bechgyn blwyddyn 5 Dull Broga

Amelie Drew – 2ail Genethod blwyddyn 5 Dull Broga

Osian McCollins – 1af Bechgyn blwyddyn 6 Dull Rhydd

Ffion Tipton – 4ydd Genethod blwyddyn 6 Dull Rhydd

Sion Edwards – 6ed Bechgyn blwyddyn 6 Dull Cefn

Chloe Davies – 6ed Genethod blwyddyn 6 Dull Cefn

Eban Pritchard – 7fed Bechgyn blwyddyn 6 Dull Broga

Mari Roberts – 5ed Genethod blwyddyn 6 Broga

Bethan – 2ail Genethod blwyddyn 6 Pili Pala

line

Plas Ffrancon

childrenDyma nhw disgyblion bach Ms Haf y dosbarth Meithrin yn mwynhau eu hymweliad wythnosol â Phlas Ffrancon.


Cliciwch yma
i weld mwy o luniau

 


lineDawnsio Disgo

childrenLlongyfarchiadau i`r criw Dawnsio Disgo ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Symudol a diolch i Ms Katherine am eu dysgu i safon mor uchel. Llongyfarchiadau i grwp Mia ar ddod yn fuddugol ac i grwp Cadi Efa ar ddod yn ail. Rydym yn falch iawn ohonoch!


Cliciwch yma
i weld mwy o luniau


lineCan Actol

childrenCafwyd Can Actol wreiddiol, wych! A`r plant ar eu gorau ar lwyfan yr Eisteddfod Symudol yn Ysgol Dyffryn Ogwen! Rydym i gyd yn falch iawn ohonoch. Bydd cyfle i drigolion yr ardal weld y gan actol a llawer mwy mewn Cyngerdd Mawreddog gan Ysgol Llanllechid yn fuan! Croeso i bawb! Manylion i ddiyn! Bydd elw`r cyngerdd hwn yn mynd tuag at gronfa Ela Williams a dymunwn yn dda iawn i Ela fach yn sytod y misoedd sydd i ddod, wrth iddi orfod derbyn trinaieth arbenigol iawn. Diolch i Mrs Marian Jones, i Mrs Llinos Wilson, Mrs Delyth Humphreys, Ms Rhian Haf a Ms Gwen Elin a Ms Angharad Llwyd am eu gwaith. Cafwyd cyfanwaith hwyliog, llawn bwrlwm gyda neges gref, gyfoes ynglŷn â`r angen i ddiogelu ein henwau traddodiadol, cyfoethog.


Cliciwch yma
i weld mwy o luniau


lineChwareli

childrenWrth astudio gwahanol chwareli , penderfynodd disgyblion dosbarth Mrs Marian Jones fynd i Flaenau Ffestiniog i`r Ceudyllau ac i Chwarel y Penrhyn i weld mangre gwaith eu cyn-deidiau, a chael craffu ar y Weiren Wîb.


Cliciwch yma
i weld mwy o luniau


lineYsgol Arweiniol Greadigol

childrenBraint yw croesawu Anwen Burgess atom fel ysgol i ddatblygu gwaith yr ysgol ymhellach yn nghyd destun yr Ysgol Arweiniol Greadigol. Mae’r disgyblion yn ymwneud â llu o sgiliau gan ddatblygu eu gallu creadigol ar darws gwahanol feysydd.

Cliciwch yma
i weld mwy o luniau


line

Llongyfarchion

childrenLlongyfarchiadau i Gwenno ar ennill gwobr arbennig ar y rhaglen Stwnsh Sadwrn! Da iawn ti Gwenno!


Cliciwch yma
i weld mwy o luniau




line

Te Bach Cymreig

childrenDaeth rhieni disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn eu tro i fwynhau adloniant oedd yn cynnwys, adrodd barddoniaeth, dweud storiau, canu a dawnsio gwerin. Bu’r plantos yn paratoi yn ddyfal gan greu bwydlenni, gwahoddiadau a threfnu’r adloniant. Llawer o ddiolch i bawb ohonoch a ddaeth yma atom i fwynhau’r wledd!

Cliciwch yma
i weld mwy o luniau

line

Deinosoriaid

childrenMae caban Mrs Williams yn edrych yn le peryg dros ben gyda’r olion traed yn ymddangos ar y llawr a’r wal yn arwain tuag at gartref y bwystfilod yma! Bu cryn brysurdeb yn y dosbarthiadau Ms Mithan, Ms Evans a Mrs Humphreys yn ddiweddar, gan gynnwys creu ffosiliau! Ac erbyn hyn y mae pob disgybl wedi creu deinasor yn ei ffordd ddi-hafal ei hun!


Cliciwch yma
i weld mwy o luniau

line

Diwrnod y Llyfr

childrenBraf oedd gweld plant yn gwisgo i fyny mewn cymeriadau o lyfrau Cymraeg eleni. Gwelwyd Blodeuwedd, Owain Glyndŵr a llawer mwy!

Cliciwch yma
i weld mwy o luniau

 



line

Crempogau

childrenDa oed y crempogau! Bu hen gymysgu a’r arogl hyfryd yn treiddio i bob twll a chornel.

Cliciwch yma
i weld mwy o luniau

 

 



line

Llongyfarchion

childrenDa iawn Elin Williams ar dy gamp ym maes gymnasteg.

Cliciwch yma
i weld mwy o luniau

 

 



line

Tuduriaid

childrenCafwyd gweithdai am oes y Tuduriaid a thrafodwyd y cyswllt Penmynydd ac ati. Roedd hwn yn weithdy gwerth chweil!

Cliciwch yma
i weld mwy o luniau


 

line

Eisteddfod yr Urdd

childrenLlongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol Llanllechid ar eu perfformiadau,eu hynawsedd a’u hymddygiad yn Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen dydd Sadwrn diwethaf.

Dyma restr o ddisgyblion a ddaeth i’r brig. Diolch i bawb am gystadlu a llongyfarchion gwresog!

Cliciwch yma i weld y canlyniadau

line

Rhaglen Eisteddfod Symudol

Eisteddfod

Cliciwch yma i ddarllen y rhaglen

line

Diwrnod y Llyfr

childrenCafwyd cyfle euriadd i ddod at ein gilydd i fwynhau gorymdeithio a dawnsio o amgylch y neuadd i gerddoriaeth Candelas, a`r athrawon a`r cymorthyddion yn mwynhau bron yn fyw na`r plant! Tîm y Caban oedd yn disgleirio ac yn ennill y wobr! Braf gweld cymaint o`r plant wedi gwisgo i fyny fel cymeriadau hanesyddol neu gymeriadau o lyfrau Cymraeg. Diolch yn fawr i chi rieni a gwarcheidwaid am yr holl wisgoedd gwerth chweil.

Cliciwch yma
i weld mwy o luniau

line

Crempogau Blasus

childrenYn ôl ein harfer, aethpwyd ati i greu crempogau a chawsom i gyd wala o`n gweddill.


Cliciwch yma
i weld mwy o luniau




Deinosoriaid

childrenBu disgyblion bl 0 ac 1 yn creu deinosoriaid creadigol dros ben o bob lliw a llun, siap a maint. Pob un werth eu gweld!



Cliciwch yma
i weld mwy o luniau


line

Machu Pichu

childrenDiolch i Mrs Menna Jones am ddod atom i sgwrsio am ei thaith i Machu Pichu. Cafwyd gwledd yn gwrando ar Mrs Jones a dysgodd y disgyblion lawer iawn wrth graffu ar y mapiau a dysgu am nodweddion a`r hanes difyr yma.


Cliciwch yma
i weld mwy o luniau


line

Llais y Plentyn - Protest Newid Hinsawdd

childrenBu`r disgyblion i gyd allan ar yr iard er mwyn codi llais yn erbyn newid hinsawdd, ar y diwrnod pan y bu miliynau o blant ar draws Ewrop yn gwneud yr un peth. Diolch i Mrs Meleri Davies, Prif Swyddog Ynni Ogwen am ddod yma i siarad hefo`r disgyblion, a`u hysbrydoli. Diolch hefyd i Beca o Ynni Cymunedol Cymru am eic chyfraniad hithau.


Cliciwch yma
i weld mwy o luniau


line

William Elis Williams

Diolch yn fawr i Mr Dilwyn Pritchrad am ddod i mewn i ddweud yr hanes ac i egluro am y Mathemategydd a`r Gwyddonydd enwog, William Elis Williams. Roedd yn gymeriad lleol a lwyddodd i adeiladu awyren yn 1909, fel rhan o`i waith ym Mhrifysgol Bangor. Diolch Mr Pritchrad, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu nol atom pan fydd cyfle.

line

Gwasanaeth Archifdy Gwynedd

childrenCafwyd modd i fyw yn edrych ar gartrefi ers talwm, ac roedd y plant wrth eu boddau yn cael eu cyflwyno i fyd oedd yn hollol ddiarth iddynt.



Cliciwch yma
i weld mwy o luniau

 


line

Traeth Llanddwyn

childrenCafwyd ymweliadau hyfryd gyda thraeth Llanddwyn, a gwelwyd olion yr hen eglwys, y ffynnon, y goleudai, sef Twr Bach a Thwr Mawr, a chraffwyd ar y tirluniau rhyfeddol a`r creigiau hynafol. Pleser oedd gweld ffrind annwyl i Ysgol Llanllechid sef Mrs Hanna Huws, y diwrnod hwn yn Llanddwyn hefyd. Cofiwn am gyfraniad aruthrol Mrs Hanna Huws i fywyd a gwaith Ysgol LLanllechid.

Cliciwch yma
i weld mwy o luniau


line

Hyfforddiant Beicio

childrenBu Mr Stephen Jones yn cynnal hyfforddiant beicio i holl balnt yr Adran Iau fel rhan o`n rhaglen Ysgol Iach ac Ysgol Eco.



Cliciwch yma
i weld mwy o luniau

 


line

Amgueddfa Awyr Caernarfon

childrenFel rhan o waith Blwyddyn 3 ar ‘Hedfan’, cafwyd taith wych i Ddinas Dinlle i weld yr ‘Amgueddfa Awyr’. Roedd cael y cyfle i fynd i mewn i rai o’r hofrenyddion a’r awyrenau yn brofiad bendigedig, ac roedd cael mynd dros y ffordd i weld yr Ambiwlans Awyr yn anhygoel. Cafwyd sgyrsiau diddorol gan beilot a meddyg, ac roedd ymatebion y disgyblion yn cael eu canmol yn fawr ganddynt. Roedd y plant i gyd wedi gwirioni ac wedi dysgu llawer.

Cliciwch yma
i weld mwy o luniau


line

Ymweliad Mr Bale

Daeth Mr Bale, [tad Harri] i’r dosbarth i siarad am ei brofiadau fel peirianydd yn yr RAF. Dangosodd luniau o bob math o awyrenau, a soniodd am rai o’i anturiaethau gyda hofrenydd y Tim Achub. Mae wedi cerdded a dringo nifer o fynyddoedd gan gynnwys Everest, a gwelwyd lluniau diddorol iawn ganddo.


line

Gwobr Arian


Gwobr Arian

 

 

Cliciwch yma i weld y tystysgrif

 

 


line

Clybiau Gwyliau Hanner Tymor


Llety Lloerig

 

 

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 


line

Bwyta Mwy o Ffrwythau/LLysiau

Cefndir

Nid yw 80% o'n plant yn bwyta digon o lysiau.

Cliciwch yma i ddarllen mwy


line

Addysg Gorfforol gan Stephen Jones, y Cydlynydd

Addaswyd ein amserlen yn ddiweddar ac mae’r amserlen wedi ei rannu ymysg yr athrawon. Yn ystod y tymor yma rydym yn cynnig y gweithgareddau â ganlyn:

Meithrin -
Derbyn a Blwyddyn 1 (Mrs Williams) – Sgiliau pêl amrywiol/dawns
Derbyn a Blwyddyn 1 (Miss Mithan) – Sgiliau pêl amrywiol/dawns
Derbyn a Blwyddyn 1 (Miss Elen Evans/Mrs Humphreys) – Sgiliau pêl amrywiol/dawns
Blwyddyn 3 – Sgiliau pêl/gymnasteg
Blwyddyn 4 – Campau a Dawns
Blwyddyn 4 a 5 - Gymnasteg
Blwyddyn 5 – Ffitrwydd/dawns/sgiliau pêl
Blwyddyn 6 – Ffitrwydd

Mae’r cysylltiad hefo Plas Ffrancon ble caiff y disgyblion ddatblygu sgiliau sylfaenol yn parhau. Yn ogystal, amserlenni’r gwersi nofio ym Mhwll Nofio Bangor ar gyfer disgyblion blynyddoedd 2 i 5. Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn derbyn asesiad nofio’r cwricwlwm yn ystod tymor yr Haf. Mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn derbyn hyfforddiant rygbi o dan arweiniad Rhys Jones, Swyddog Rygbi’r Dalgylch. Yn sgil hyn, cynhaliwyd gŵyl rygbi ar gyfer ysgolion y dalgylch yn ystod mis Hydref gyda phwyslais ar gyflwyno’r gêm a datblygu sgiliau sylfaenol. Mae disgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn elwa o glybiau chwaraeon a gynhelir ar ôl ysgol o dan arweiniad Mrs Tegid a Miss Gwenlli Haf. Bydd cyfnod o 6 wythnos o fentora gan Hoci Cymru yn gyfle da i ddatblygu sgiliau arweinyddol athrawon o fewn y maes. Bydd cyfnod o hyfforddiant o dan arweiniad Criced Cymru ystod tymor yr Haf. Yn ogystal, cynigir sesiynau allgyrsiol Kick It (amrywiaeth o chwaraeon) i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen a’r Adran Iau.

Llythrennedd Corfforol:

Cafwyd hyfforddiant Llythrennedd Corfforol buddiol gan Mr Ieuan Jones a Mr Gethin Mon yn ddiweddar. Rhaid sicrhau ein bod yn rhoi’r sylfaen orau i’r holl ddisgyblion er mwyn iddynt ddatblygu’n unigolion iach a hyderus yn ystod eu taith llythrennedd corfforol. Caiff sgiliau corfforol eu cysylltu â'i gilydd i greu cymalau symud er mwyn cyflawni gweithgareddau megis reidio beic, nofio neu wneud y naid hir.
Wrth i blant ddod yn fwy hyderus a phrofiadol wrth berfformio'r sgiliau hyn, byddant yn gallu eu defnyddio mewn gwahanol amgylcheddau ar draws ystod eang o gampau. Bydd y plant hyn yn datblygu'n oedolion sydd â'r sgiliau angenrheidiol i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol a'u mwynhau gydol eu bywyd ar ba lefel bynnag y byddant yn ei dewis, boed yn eu hamser hamdden neu mewn amgylchedd cystadleuol.
Yr hyn sy'n bwysig yw bod angen dysgu a datblygu'r sgiliau sylfaenol hyn o oedran cynnar er mwyn sicrhau bod y plant yn 'gwirioni ar chwaraeon am oes'. Mae gan athrawon yn sicr ran i'w chwarae yn y siwrnai bwysig hon at lythrennedd corfforol.

Cystadlaethau ar y gweill:

- Pêl droed i fechgyn a merched (Ebrill)
- Athletau’r Urdd (Mai)
- Criced (Gorffennaf)
- Cyfeiriannu (Mehefin)
- Traws-gwlad (Mehefin)

I’r dyfodol:

- Cydlynydd i fodelu gwers sgiliau pêl
- Codi niferoedd sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol
- Llais y plentyn: Datblygu Llythrennedd Corfforol

 

line

DYDD GŴYL DEWI


Llety Lloerig

 

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 


line

French Pop Video Competition (Saesneg yn unig)


Llety Lloerig

Do you think you could sing or rap in French?
Do you have the skills to make a video clip for
your song? If so, this competition is for you!

 

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

Cyffwrdd Syria


Llety Lloerig

Bu disgyblion Blwyddyn 3 yn cymryd rhan yn y digwyddiad Cyffwrdd Syria yn Pontio a Storiel ar Ionawr 19. Bu`r disgyblion yn creu addurniadau yn arddull artistiaid Syria e.e mosaic a teils Syriaidd. Bu`r disgyblion yn dysgu am y wlad rhyfeddol hon fel rhan o`n rhagleni Addysg Byd, gan geisio edrych heibio i erchyllderau`r rhyfel a chraffu ar greadigedd pobl y wlad. Diolch o galon i Angharad Griffiths am ein hysbrydoli ac am ddod atom i`n gwasanaeth broeol.

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


line

Gwylio Adar

childrenDiolch yn fawr i ddosbarthiadau Bl 0 ac 1 am fynd ati i wylio adar ac i wneud bwyd pwrpasol ar eu cyfer.

 



Cliciwch yma
i weld mwy o luniau



line

Santes Dwynwen

childrenWel am hwyl a gawsom ar y diwrnod arbennig hwn! Anwyldeb plant i`w weld yn glir wrth iddynt rannu cardiau ymhlith ei gilydd ac ati. Atgoffwyd pawb o`r stori a bu morio canu cân Dwynwen yn y neuadd ymysg gweithgareddau eraill. Pen llanw`r cyfan oedd y disgo cymraeg yn y neuadd gan Mr Stephen Jones.

 


Cliciwch yma
i weld mwy o luniau

line

Bwydlen Tsieineaidd


Llety Lloerig

 

 

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 




line

Caneuon

Parti Cerdd Dant 2019
Cor Cerdd Dant Alto
Cor Cerdd Dant Soprano
Glyndwr Alto cyfeiliant
Glyndwr Soprano
Tymhorau

cliciwch yma i wrando ar y caneuon

line

Blwyddyn Newydd Dda!

childrenBu disgyblion Bl 0 ac 1 yn brysur yn creu afalau calennig ac yn mynd o amgylch y dosbarthiadau yn canu eu rhigymau! Pob dymuniad da i bawb am flwyddyn newydd hapus a heddychlon.



Cliciwch yma
i weld mwy o luniau

line
Diwrnod Ysgol Iach

childrenCafwyd ystod o weithgareddau gwahanol yn ystod ein diwrnod Ysgol Iach er mwyn ail-danio a llenwi bylchau yn ein cynllun. Un o`r uchafbwyntiau oedd sesiwn ioga yn nosbarth Mrs Gwenlli Haf! Bu`r disgyblion yn dysgu am bwysigrwydd strategaethau gwrth-fwlio a hawliau; sgipio ar yr iard; mynd am dro i chwarel Pantdreiniog, mesur ffitrwydd gyda Dr Ross Roberts; cadw`n heini gyda Ms Emma Williams; cyflwyniadau gan yr NSPCC a llawer mwy!


Cliciwch yma
i weld mwy o luniau

lineEisteddfodau`r Urdd

Eisteddfod Cylch yr Urdd Mawrth 16
Eisteddfod Ddawns Mawrth 20
Eisteddfod Sir yr Urdd Mawrth 30
Celf a Chrefft i Ysgol Garnedd erbyn Ebrill 1af
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwau: Chwefror 18

lineCerdd a Llun

Diolch yn fawr i Mr Gwynfor Lloyd Griffiths am ddod draw i`n hysgol i drafod ei lyfr Cerdd a Llun. Mae Mr Griffiths yn yn arlunydd heb ei ail ac ame`r darluniau sy`n cyd-fydn â`r cerddi yn werth eu gweld. Diolch i chi Mr Griffiths am rannu eich atgofion hefo ni a diolch am y gyfrol, sy`n werth ei chael.

line
Llety Lloerig


Llety Lloerig

 

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 




line

Brecwast i bawb

Cyfle gwych i gefnogi Alzheimers Society Cymru a FCN

Rydym yn eich gwahodd i frecwasta gyda ni unwaith eto yn un o 7 o leoliadau ar draws yr hen Sir Gaernarfon ble fydd teuluoedd fferm yn paratoi brecwast llawn i cyn gymaint o bobl â phosib. Rydym yn parhau i gefnogi elusennau Llywydd Cenedlaethol yr Undeb sef Cymdeithas Alzheimers Cymru a FCN (Farm Community Network) a byddwn hefyd yn codi arian tuag at Cronfa Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 yn Nhŷ’n Hendre, Cefn Cae a Dylasau Uchaf. Mae croeso i chi fynd i unrhyw un o’r brecwastau, achlysur sydd yn cymryd lle am y degfed flwyddyn o’r bron. Rydym eisioes wedi codi dros £50,000 yn ystod yr wythnos hon dros y naw mlynedd diwethaf i gefnogi achosion lleol a chenedlaethol. Mae’n gyfle gwych i chi flasu cynnyrch o’r sir, cyfrannu yn hael tuag at elusennau gwerth chweil, ac hefyd i gymdeithasu gyda phobl na fuasech fel arfer yn rhannu’r bwrdd brecwast gyda nhw!!! Mae hyn i gyd am £10 gyda’r cwbl yn cael ei rannu rhwng yr elusennau. Mae nifer o fusnesau lleol wedi cytuno i roi’r bwyd i gyd am ddim i ni ac rydym yn gwerthfawrogi hynny yn fawr iawn. Bydd rhestrau o’r busnesau yn cael eu harddangos ym mhob lleoliad. Dyma’r lleoliadau a’r dyddiadau i chwi eu hystyried:-

21/01/19 – Tŷ’n Hendre, Tal-y-bont, Bangor trwy garedigrwydd Alun ac Anita Thomas – rhif ffôn 01248 362 871

21/01/19 – Cefn Cae, Rowen, Conwy trwy garedigrwydd Meirion a Gwenan Jones – rhif ffôn 01492 650 011

23/01/19 – Coleg Glynllifon, Coleg Meirion-Dwyfor, Ffordd Clynnog, Caernarfon trwy garedigrwydd Grwp Llandrillo-Menai – rhif ffôn 01286 672 541

24/01/19 – Gwythian, Aberdaron trwy garedigrwydd Alan a Catrin Williams – rhif ffôn 01758 760 343

25/01/19 – Dylasau Uchaf, Padog trwy garedigrwydd Glyn ac Eleri Roberts – rhif ffôn 01690 770 215

25/01/19 – Caffi Anne, Marchnad Bryncir trwy garedigrwydd Anne Franz – rhif ffôn 01286 672 541

26/01/19 – Crugan, Llanbedrog, Pwllheli trwy garedigrwydd Richard a Gwenno Jones – 01758 740 273

Os hoffech fynychu unrhyw un o’r brecwastau, a gobeithiwn yn fawr y byddwch yn gallu ymuno gyda ni, cysylltwch yn uniongyrchol gyda’r lleoliad i gadarnhau eich presenoldeb. Mae’n bosib trefnu amser cynharach os oes angen, ac mae croeso i chi ddod a ffrindiau gyda chi. Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol eich hun gallwch yrru cynrychiloydd ar eich rhan.
children