News Archive - 2017
To view more information - click here
Ysgrifenwyr o Fri (English coming soon ...)
Llongyfarchiadau i`r disgyblion a ddaeth i`r brig gyda chystadlaethau llenyddiaeth Eisteddfod Dyffryn Ogwen - ysgrifennu cerdd a stori. Ysgol Llanllechid gipiodd y gwobrau i gyd! Diolch i`r Prifardd Ieuan Wyn am y beirniadaethau. Mae`n anrhydedd i`n disgyblion gael sylw craff prifardd, s`yn ysgogi ac annog ein disgyblion i ddal ati i ysgrifennu.
Click here to view more photos
Yr Iaith Gymraeg (English coming soon ...)
Yn ddiweddar, mae`r disgyblion wedi bod yn astudio hanes yr Iaith Gymraeg ac yn dysgu am yr holl ergydion sydd wedi dod i`w rhan ar hyd y blynyddoedd. Bu cryn drafod y ffaith mai, yn ôl y Cyfrifiad yn 2011; 562,000 o bobl oedd yn siarad Cymraeg, sef 19% o`r boblogaeth. Fel y gwyddom, y nôd erbyn 2050 yw sicrhau fod miliwn o bobl yn siarad Cymraeg! Wrth astudio ein hiaith, dysgwyd fod y Gymraeg yn deillio o`r Frythoneg, ac mae`n perthyn yn agos iawn i`r Gernyweg a`r Llydaweg.
Erbyn hyn, rydym yn ymwybodol iawn o`r Ddedf Uno 1536, a`i diben, sef: gwneud Cymru yn rhan o Loegr, gan ddiystyru diwylliant Cymru a`i hiaith yn gyfangwbwl. Wrth reswm, cafodd y ddeddf hon effaith bellgyrhaeddol ar y Cymry. Ond, daeth tro ar fyd yn 1588, pan gyfieithodd yr Esgob William Morgan y Beibl i`r Gymraeg. Er gwaethaf hyn, daeth ergyd arall, a hynny ar ffurf tri bargyfreithiwr: Johnson, Lingen a Symons. Gwnaethant arolwg ar Gymru gan deithio drwy`r wlad a chraffu ar yr ysgolion a`r ysgolion sul. Ymddangosodd eu hadroddiad mewn llyfrau gleision ar ddiwrnod Ffwl Ebrill 1847 ac fe`i hadwaenwyd, fel y gwyddom, yn Frad y Llyfrau Glesion. Un o`r ergydion nesaf? Wel, y Welsh Not, a chafodd y sytem hon ei chyflwyno yn 1850, a gwyddom yn dda am yr hanes hwnnw. Diolch byth am bobl fel Syr Ifan ab Owen Edwards a welodd yr anghyfiawnder ac a sefydlodd Urdd Gobaith Cymru yn 1922. Mae`r dyddiad, 1939 hefyd yn un gwerth i`w gofio, sef, y flwyddyn y sefydlwyd yr ysgol Gymraeg gyntaf yng Nghymru. Dim ond megis codi cwr y llen ydan ni wedi llwyddo i`w wneud hyd yma; mae llawer mwy na hyn i`n hanes wrth gwrs, ond rydym yn cael blas garw yn ymbalfalu a thyrchio i mewn i`n gorffennol. Cyn cloi, rhaid crybwyll yr actor Llion Williams a ddaeth draw i`n hysgolion ac a wnaeth argraff ar y plant a`r athrawon fel ei gilydd drwy ei actio medrus a chyflwyno perfformiad a fydd yn aros yn y côf am byth!
Click here to view more photos
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda! (English coming soon ...)
Dymuniadau gorau i un ac oll am Nadolig dedwydd a phob dymuniad da ar gyfer 2018 am flwyddyn newydd hapus a heddychlon.
Ffair Lyfrau (English coming soon ...)
Diolch i bawb am ddod draw i gefnogi`r Ffair a diolch i Siop Ogwen am fod mor barod i ddod draw gyda`u stondin. Chewch chi ddim byd gwell na llyfr Cymraeg o Siop Ogwen yn anrheg Nadolig!
Click here to view more photos
Plant Mewn Angen a Bocsys Nadolig (English coming soon ...)
Diolch yn fawr i bawb am gefnogi Plant Mewn Angen. Codwyd £328.71 at yr achos da hwn. Bu`r disgyblion hefyd yn brysur yn llenwi bocsys Nadolig. Diolch i bawb.
Click here to view more photos
Canolfan Grefftau Rhuthun (English coming soon ...)
Aeth disgyblion blwyddyn 6 i Ganolfan Grefft Rhuthun i weld gwaith celf llawer o grefftwyr, gan gynnwys gwaith brodwaith, crochenwaith, darluniau a thecstiliau. Roedd yr Oriel yn ffau ddifyr, llawn ysbrydoliaeth! Cafwyd cyfle i weithio mewn gwahanol gyfryngau gan gynnwys clai, tecstiliau a phaent a diolch i Kate a Donna am weithio gyda’r plant ar eu campweithiau. Clamp o ddiolch hefyd i Mrs Anna Griffiths, ein hartist am ei doniau!
Click here to view more photos
Blwyddyn Derbyn - Ymweliad Carys Ofalus (English coming soon ...)
Fel rhan o’n thema Pelydru a Thywynnu daeth Carys Ofalus i’r ysgol i ddysgu’r plantos am bwysigrwydd gwrando a gwylio wrth groesi’r lon. Cath ydy Carys a chafodd y plant y stori drist fel y bu i Carys frifo ei chynffon am nad oedd wedi pwyllo a chymryd gofal wrth groesi’r lon. Cafodd y plant hefyd gyfle i weld a gwisgo dillad fflwroleuol sydd yn adlewyrchu ac yn eu helpu i gadw’n ddiogel wrth gerdded gan ei bod yn tywyllu’n fuan.
Click here to view more photos
Eisteddfod Dyffryn Ogwen (English coming soon ...)
Un o brif ddigwyddiadau ar ein calendr yma yn Ysgol Llanllechid yw Eisteddfod Dyffryn Ogwen! Unwaith eto eleni, fe heidiodd plant yr ysgol draw i Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen i gystadlu. Daeth cant a mil o wobrau i`n hysgol a llongyfarchiadau i bob copa walltog fu ar y llwyfan, o`r ieuengaf i`r hynaf. Yr un yw ein llongyfarchion i’r rhai gafodd lwyddiant gyda gwaith celf a chrefft a llenyddiaeth. Diolch i bawb fu’n hyfforddi a diolch arbennig i Mrs Helen Williams, ac i Mrs Menai Williams a ddaeth i gyfeilio i’n côr buddugol! Gweler gwefan Ysgol Llanllechid am fwy o fanylion: ysgolllanllechid.org
Click here to see the results
Click here to view more photos
Actio, Canu a Dawnsio (English coming soon ...)
Cafodd disgyblion Blwyddyn 5 y fraint o gymryd rhan yn yr agoriad swyddogol Llwybr Llechi Eryri yn Neuadd Ogwen yn ddiweddar. Roedd yn ddigwyddiad pwysig iawn, gydag enwogion fel Dafydd Wigley a Rhys Mwyn, ymysg eraill, yn siaradwyr gwadd; cwmni teledu yn recordio’r holl gyffro, a dwy o’n disgyblion, sef Chenai a Mari Watcyn yn cael eu cyfweld gan Gerallt Pennant ar gyfer rhaglen HENO.
Bu’r plant yn gysylltiedig â’r prosiect ers tua blwyddyn, a chafwyd cyd-weithio gwych rhwng yr ysgol â Ms Anita Daimond, y Swyddog Cyswllt Ysgolion. Roedd y cyfan wedi’i glymu’n hwylus gyda thema’r dosbarth ar y pryd, sef hanes lleol, a chyfnod Streic y Penrhyn ac mae`r gwaith wedi cael cydnabyddiaeth gan ESTYN fel arfer Rhagorol yn un o`u cyhoeddiadau diweddar. Roedd y disgyblion wedi bod yn astudio hanes Côr Merched Bethesda yn y cyfnod, - sef y côr a deithiodd ar hyd a lled Prydain yn cynnal cyngherddau i godi arian i deuluoedd y streicwyr. Roeddent yn perfformio sioe gerdd wefreiddiol am yr hanes. Lluniwyd y sgript, gan Mrs Marian Jones, oedd yn seiliedig ar wybodaeth wreiddiol a gafwyd gan Mrs Brenda Wyn Jones, gan mai nain Mrs B.W Jones oedd Mary Ellen Parry, arweinyddes y côr! Wrth gwrs, cafwyd perfformiadau bendigedig gan y plant ar lwyfan Neuadd Ogwen, - canu gwych ac actio ardderchog! Roedd yn brofiad hyfryd i bawb! Diolch i Mrs Marian Jones a Mr Huw Edward Jones. Diolch hefyd i Dilwyn Llwyd am ein cynorthwyo gyda`r trefniadau yn Neuadd Ogwen ac i Gor y Penrhyn am gael benthyg y piano.
Y Brodyr Gregory (English coming soon ...)
Wel! Dyna amser braf a gawsom yn y neuadd yng nghwmni`r Brodyr Gregory a Sian Beca o Rownd a Rownd. Digon o hwyl a sbri a wynebau ein plantos yn werth eu gweld! Cafwyd caneuon doniol ac actio gwych, a hynny hefyd gan aelodau o`r staff! Da iawn Ms Katherine a Ms Anna am ymuno yn yr hwyl! Sioe oedd hon am bwysigrwydd ailgylchu, ac edrych ar ôl ein hamgylchedd, a throsglwyddwyd negeseuon pwysig drwy'r perffromiadau pwerus! Diolch o galon am alw draw yn Ysgol Llanllechid!
Click here to view more photos
Gwobrau Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt Prydain 2017 (English coming soon ...)
Enillydd categori Dan 12: Oliver Teasdale, Ysgol Llanllechid. Ym mis Mai 2017, ymwelodd Ollie ag Ynys Sgogwm, oddi ar Arfordir Sir Benfro, gyda’i Dad am wythnos o wylio adar a ffotograffiaeth. Tra’n eistedd mewn man cudd, sylwodd Ollie ar aderyn pâl yn dod allan o’i wâl, ond roedd wedi ei guddio gan gludlys oedd yn tyfu o amgylch. Gan ymateb yn chwim, llwyddodd Ollie i dynnu lluniau o’r aderyn pâl. Mae’r gystadleuaeth genedlaethol hon yn dathlu pryderthwch ac amrywiaeth bywyd gwyllt Prydain. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo, oedd yn cael ei chyflwyno gan arlywydd yr RSPB a’r cyflwynydd teledu, Miranda Krestovnikoff yn y Mall Galleries, Llundain ar 8fed Tachwedd 2017. Ceir gwybodaeth bellach yn www.bwpawards.org.Ymddangosodd darlun Ollie yn y Sunday Times. Mae pawb ohonom yn Ysgol Llanllechid yn dymunod`n dda ac yn llongyfarch Ollie i`r cymylau ar ei lwyddiant!
Click here to view more photos
Diolch yn Fawr (English coming soon ...)
Diolch yn fawr iawn i`r Dr Elwyn Hughes am adnoddau gwerth chweil ar ein cyfer yn Ysgol Llanllechid. Adnoddau o`r Ganolfan Astudiaethau Iaith ydynt ac mae perlau yn eu mysg. Diolchwn yn fawr am yr holl adnoddau defnyddiol hyn.
Llythyr Dafydd (English coming soon ...)
Un bore ym mis Tachwedd, atebodd Ms Leanne y ffôn, a phwy oedd y pen arall ond Mr John Glyn, ewythr Dafydd a Danial Jones! Ymateb oedd Mr Glyn i lythyr oedd wedi cael ei anfon ato gan Dafydd, yn gofyn iddo ymweld â’r ysgol yn rhinwedd ei swydd fel cyfarwyddwr ar raglen Byd Adar, Iolo Williams. Diolch yn fawr i Daniel am ysgrifennu`r llythyr! O ganlyniad i`r llythyr, cawsom gyflwyniad bendigedig yn neuadd yr ysgol gan Mr Glyn ar arferion ein hadar a’u cynefinoedd. Diolch yn fawr am ddod draw atom, a chofion cynnes at Lowri a`r plantos!
Thank You
Many thanks to Dr Elwyn Hughes for his kind donations of Welsh primary recourses. The rescourses are from the Language Studies Centre and are much appreciated
British Wildlife Photography Awards 2017
Winner Under 12 catergory Oliver Teasdale, Ysgol Llanllechid
In May 2017 Ollie went to the Island of Skokholm, off the Pembrokeshire coast, with his Dad for a week of bird watching and photography. They saw plenty of birds during the week. These included; Storm Petrel, Manx Shearwater, Wheatear, Peregrine Falcon, Guillemot, Razorbill and Puffin.
There were many Puffins out at sea, but it was a little early in the season for them to be ashore getting ready for the nesting season ahead. Some birds, however did come ashore, often popping into their burrows, or standing outside of their burrow for short periods before going back to the rafts of Puffins out at sea.
Whilst sat in one hide, Ollie spotted a Puffin sneaking out of its burrow, but it was well hidden by the Sea Campion that was growing around the burrow entrance. With quick reactions Ollie got his camera ready and caught a few shots of the Puffin as it emerged. Dad was really impressed, a little envious, but really amazed at the moment in time that Ollie had caught on camera.
Ollie`s Dad entered the photograph into the British Wildlife Photography Awards under 12 category competition. This national competition celebrates the beauty and diversity of British wildlife. It was with great delight that we found out about Ollie winning this category.
The presentation ceremony, hosted by RSPB President and TV presenter Miranda Krestovnikoff took place at the Mall Galleries, London on the 8th November 2017.
Ollie mingled with many of Britain`s finest wildlife photographers before collecting his prize. It was a wonderful evening and a great celebration of photographers and wildlife.
More information can be found at www.bwpawards.org
Ollie`s picture appeared in the Sunday Times, who called the picture PEEK-A-BOO in November 5th edition - page 27
Click here to see more pictures
(English coming soon ...)
Y Brodyr Gregory
Wel! Dyna amser braf a gawsom yn y neuadd yng nghwmni`r Brodyr Gregory a Sian Beca o Rownd a Rownd. Digon o hwyl a sbri a wynebau ein plantos yn werth eu gweld! Cafwyd caneuon doniol ac actio gwych, a hynny hefyd gan aelodau o`r staff! Da iawn Ms Katherine a Ms Anna am ymuno yn yr hwyl! Sioe oedd hon am bwysigrwydd ailgylchu, ac edrych ar ôl ein hamgylchedd, a throsglwyddwyd negeseuon pwysig drwy'r perffromiadau pwerus! Diolch o galon am alw draw yn Ysgol Llanllechid!
For more photos click here
Dyma`r rhaglen ar gyfer dathlu agoriad Llwybr Llechi Eryri a dathliadau 50 mlynedd o Gymdeithas Eryri - click here
For the opening - click here
For the programme - click here
Halloween Fun for Families
To see more information - click here
ALN & Inclusion Information Fair
Welcome to Parents, Teachers and Governors of Primary and Secondary Schools
To see more information - click here
(English coming soon ...)
Ffarwelio a Chroesawu
Dymuniadau da a diolch i Ms Holly a Ms Elin Mair. Braf cael dweud fod y ddwy wedi dechrau ar eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi, ar ôl derbyn profiadau lu yn Ysgol Llanllechid dros y blynyddoedd. Pob dymuniad da i chi eich dwy. Mae`r ddwy yn dilyn ôl troed Ms Ceri, sydd erbyn hyn, yn gweithio fel athrawes yn Ysgol Rhiwlas. Cofion atoch Ms Ceri! Dymuniadau da a diolch hefyd i Mrs Rhian Jones, sydd wedi dychwelyd i weithio yn y chwarel – ond y tro hwn i fwyty Blondin ym myd y Weiren Wib! Edrychwn ymlaen at gael dod draw yn fuan am bryd o fwyd blasus Rhian! Gwelwyd y bwyty yn ddiweddar ar raglen Heno ac mae`n edrych yn anhygoel! Croeso cynnes i Ms Lliwen a Ms Thelma, sydd eisioes wedi setlo hefo ni yn arbennig o dda.
Ffair Ysgol Llanllechid
Roedd Ffair Hydref yr ysgol ddiwedd mis Medi yn llwyddiant ysgubol o’r dechrau i’r diwedd, er gwaethaf y gawod drom! Pleser ac anrhydedd mawr oedd cael Deian a Loli i agor y FFair, ac roedd ciw hir o blant yn aros yn amyneddgar ar gyfer derbyn y posteri ac, wrth gwrs, eu llofnodion! Ychwanegodd Sarah Louise a’r Band, a’r Dawnswyr Morus at awyrgylch y prynhawn – hyfryd dros ben!
Cafwyd cefnogaeth aruthrol gan yr ardal gyfan, a diolchwn i chi i gyd am fod mor barod i gefnogi Ysgol Llanllechid, blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae eich caredigrwyd a`ch haelioni fel ardal destun rhyfeddod dro ar ol tro aq gwerthfawrogir y cyfan yn fawr iawn. Diolch arbennig i’r Pwyllgor gweithgar am eu holl waith diflino wrth drefnu a pharatoi ar gyfer y diwrnod mawr ac i bawb a fu’n helpu yn y gegin ac ar y stondinau amrywiol.
Gwnaethpwyd elw o dros £1,800, sy’n swm anrhydeddus i’w ychwanegu at gronfa’r ysgol. Bydd yr arian yn ddefnyddiol iawn ar gyfer cynorthwyo gyda’n teithiau addysgol yn y dyfodol. Diolch yn fawr unwaith eto i bob un ohonoch.
Click here to see the photos
Priodas
Llongyfarchwn Ms Anna a Dewi, ei gŵr ar eu priodas yn ddiweddar. Cafwyd dathliad hyfryd ym Mhortmeirion a`r briodferch a`r briodfab yn edrych yn hynod o hardd. Pob dymuniad da i chi eich dau i`r dyfodol.
Dosbarth Meithrin
Erbyn hyn, mae ein plant Meithrin wedi hen setlo yn yr ysgol a braf eu gweld wrthi`n ddiwyd yn ymwneud â`r gwahanol dasgau ac yn paratoi at y cyflwyniad Diolchgarwch, a gynhelir ar Hydref 27. Croeso cynnes i bawb!
Capel Carmel
Unwaith eto eleni, braint yn wir oedd cael mynd draw i Gapel Carmel i`r Gwasnaeth Diolchgarwch i ryfeddu at ddoniau ein plant bach a gwerthfawrogi cyfranaid y disgyblion sy`n eu harddegau, sef y Clwb Dwylo Prysur. Braf eich gweld pob un a llongyfarchion am eich holl lwyddiannau mewn amrywiol feysydd. Yn ôl yr arfer, roedd capel Carmel wedi ei addurno`n hyfryd ac yn werth ei weld. Braf hefyd gwrando ar y plant yn canu ein hoff emyn diolchgarwch, sydd wedi cael ei ddysgu ar y cyd rhwng yr ysgol sul a`r ysgol sef:
O diolch i`r Iesu,
O diolch i Dduw
Am ffrwythau y ddaear
I`n cadw yn fyw ;
Am fwyd ac am ddillad,
Am deulu a thân,
Am gartref a chapel
Ac adnod a chân.
Am nerth ac am iechyd
I chwarae yn rhydd,
Diolchwn i`r Iesu
Yn ddidwyll bob dydd;
Meddyliwn am eraill
Sy`n arw eu byw,
A chofiwn amdanynt
Wrth ddiolch i Dduw
Diolch arbennig iawn i Mrs Helen Williams a`i thîm: Mrs Wendy Jones, Mrs Helen Roberts, Mr Northam, Mrs Ann Marie Jones a Mrs Magi Bryn am eu holl ymroddiad a`i gwaith caled. Diolch hefyd i Mari Rowlinson am ei chymorth hithau. A chofiwch fod yna Ysgol Sul gref i blant o oedran 3+ yng Nghapel Carmel, sy`n cyfarfod pob dydd Sul o 10.30 – 11.30a.m. lle caiff plant gyfleoedd i ganu, cymryd rhan mewn sioeau, creu gwaith Celf a.y.b. Cofiwch hefyd am Ysgol Sul Capel Jeriwsalem (10 – 11 a.m) lle mae nifer helaeth o`n disgyblion yn mynychu.
Parchedig John Pritchard
Diolch i`r Parchedig John Pritchard am ddod draw i`n hysgol i gynnal gwasnaethau boreol. Cyflwynwyd nifer o straeon, ac roedd y plant yn glustiau i gyd, yn enwedig wrth wrando ar stori Samuel ac Eli.
Coed Eithinog
Fel rhan o'r thema am fwystfilod bychan cafodd disgyblion blwyddyn 6 froe difyr dros ben yng Nghoed Eithinog yng nghwmni Mr Ben Stammers, tad Mabon. Cafwyd hyd i lawer o fwystfilod bychan, a'r plant yn dysgu cymaint, diolch i arbenigedd Mr Stammers.
Moel Wnion
Aeth disgyblion blwyddyn 6 ar daith gerdded fendigedig i gopa Moel Wnion gyda Mr Stephen Jones, tad Dafydd a Daniel o Gwmni Anelu a Mr Cemlyn Jones. Ar ddiwrnod sych a heulog, cafwyd golygfeydd godidog a chyfle i ddysgu llawer am enwau a hanes ein hardal leol. Cyn dychwelyd, achubwyd ar y cyfle i fynd i ben Moel Faban, yn ogystal. Dyma griw o blant egniol a heini fydd yn llwyddo i gerdded yr Wyddfa yn nhymor yr haf y flwyddyn nesaf, yn llawn brwdfrydedd!
Beicio
Mae beicio ar hyd ein lonydd yn un o'r ffyrdd gorau a mwyaf pleserus o gadw'n iach, ond wrth gwrs rhaid bod yn ddiogel. Yn ystod y mis bu disgyblion blwyddyn 6 yn perffeithio eu sgiliau beicio ar hyd y lonydd lleol gan ddysgu am dermau megis safle cynradd a safle eilaidd. Diolch i'r hyfforddeion.
KiVa
Daeth dwy aelod o staff KiVa o'r Ffindir i ymweld ag Ysgol Llanllechid, gan edrych ar y ffordd barchus a bonheddig y mae ein disgyblion yn ymddwyn tuag y naill a`r llall. Gwelwyd hefyd sut ydym yn gweithredu'r cynllun KIVA, gwrth-fwlio yma. Cafwyd prynhawn difyr a`r disgyblion yn llwyddo i drafod yn dreiddgar a sensitif.
Taith Natur
Cafodd dosbarthiadau Mrs Marian Jones, Mrs Bethan Jones a Mrs Nerys Tegid ddiwrnod hyfryd yn astudio coed a ffrwythau’r Hydref mewn dau leoliad ar Ynys Môn. Yn y bore, cawsom grwydro gerddi a choedwig Plas Newydd, gan ddysgu am y coed, yn ogystal â bod ddigon ffodus i weld gwiwerod coch yn crwydro’u cynefin naturiol. Yn y p`nawn cawsom gwmni’r naturiaethwr enwog [a tad Mabon], Mr Ben Stammers. Cawsom ein tywys i goedwig Borthamel, a chael dysgu am bob math o greaduriaid a phlanhigion gwyllt. Rhyfeddwyd pawb gan ei wybodaeth; diolch yn fawr Mr Stammers am ein goleuo i gyd!
Click here to see the photos
Taith Dosbarth Derbyn
I gydfynd gyda`r thema Blasus a‘r gân ‘Tu ôl i’r dorth mae’r blawd’, cafodd blwyddyn Derbyn drip i Melin Llynnon yn Llanddeusant i weld sut mae grawn yn cael ei falu a’i droi yn flawd. Tra roedd Rhys yno yn adrodd hanes y felin a sut roedd y melinydd yn malu grawn wrth un ciwed o blant, aeth y criw arall gyda Sam i ymweld â thai crynion y Celtiaid, er mwyn dysgu sut roedd pobl yn ffermio flynyddoedd yn ôl. Cafwyd cyfle hefyd i ymweld ag adfeilion hen fecws Llynnon. Cafwyd diwrnod arbennig o dda, a diolch i Ms Llinos Parry am fynd i`r safleoedd hyn y dydd Sadwrn blaenorol, i sicrhau llwyddiant y daith.
Cafodd Dosbarth Derbyn hefyd daith i archfarchnad ym Mangor i ddysgu mwy am fwydydd.
Taith Blwyddyn 1
Bu dosbarth Mrs Rona Williams yng Nglynllifon a Chastell Penrhyn yn dysgu am gynefinoedd a`r goedwig. Bu gwrando astud ar chwedl Cimlyn Troed Ddu a chafodd pawb gyfle i adrodd a chofnodi`r stori hon yn ôl yn yr ysgol. Cafwyd cyfle i grwydro o amgylch gerddi Castell Penrhyn.
Nofio a Plas Ffrancon
Ar hyn o bryd, mae dosbarth Mr Stephen Jones yn nofio ac yn cael hwyl dda arni. Mae dosbarth Mrs Marian Jones yn cael hwyl hefyd ym Mhlas Ffrancon yn datblygu sgiliau pel. Diolch i staff Plas Ffrancon am eu cymorth.
Black History Month Launch 2017
Saturday 30 Sept
To see more information - click here
Learn Welsh With Us
![]() |
![]() |
![]() |
Bethesda |
Llanberis |
Bangor |
Bara Caws
Dim Byd Ynni - Date List - click here
Press Release - Dim Byd Ynni - click here
Childhood Influenza Vaccination
To see more information - click here
Admission to Primary School September 2018
To see more information - click here
Happy Summer Holidays!
We wish you all a cheery summer holiday! The pupils will return to school on September 5th.
Dyffryn Ogwen Show
The school was awarded many prizes in the Art and Craft field. Congratulations to all who participated and to all who were fortunate enough to receive a prize!
Saying Goodbye
We said goodbye to 40 Year 6 pupils this term at a special meeting on the last day of term. It was a very special meeting, and the pupils made informed and mature contributions. Best wishes to you all at your new school!
Avantika
It was a privilege to be in the company of Avantika Sherma, a headteacher from India during the final week of term! We experienced enjoyable experiences in her company, and her visit significantly supported our Global Education programmes.
Recipes Book
The Friends of the School are eager to produce a special recipes book for Ysgol Llanllechid. If you have a recipe that you would like to share please e mail us! Thank you.
Glynllifon
Year 4 visited Glynllifon to learn about people who work with animals, and rural life. There was an opportunity to fish, and see birds and hunting dogs being trained. Pupils learnt about animals such as the red squirrel, owls, pheasants, otters and all kinds of creatures. An excellent day!
Rachub History Club
Year 4 were invited by Rachub History Club to give a presentation to members on what has been learnt in their class about their local history. Over 30 pupils were very busy singing and acting out stories based on the lives of special characters from the area, namely Madam Chips, Robat Jôs Gwich, William Morgan, William Griffith Hen Barc and William Ellis Williams. The children were on top form, and the audience were thrilled to bits. Thanks to everybody and thanks to Mrs Marian Jones for her work.
Athletics
Congratulations to the school’s relay race, Efa, Tiah, Madeline and Ella on winning the Eryri competition. Congratulations also to Madeline on winning the cross-country race for year 5 girls held at y Faenol recently. We are very proud of you all!
Film Night
It was pleasing to see the school hall full-up for two screenings of films as part of the programme of the friends of the school. We are always grateful to the friends for their fund-raising efforts for the school and this latest idea proved very popular with the pupils. And judging from rumours, the popcorn was also delicious!
Mrs Helen Williams
![]() |
![]() |
Mrs Helen Williams is held in very high regard at Ysgol Llanllechid; she is a very special person and salt of the earth! But Mrs Williams also holds the pupils in high regard as well, because she recently visited the reception class. And do you know what? She had a basket in her hands, full of teddies that Mrs Williams had knitted for the children. Each teddy had taken around an hour for Mrs Williams to knit – quite an effort and all because she had been charmed by the pupils contributions in concerts held during the year. All the children were grateful to her, and one had gone to a great deal of trouble to write a card expressing special thanks to Mrs Williams. Yes indeed, Ela Lois Williams had written a beautiful card to Mrs Williams with the special handwriting in the colours of a ribbon around the neck of the teddy. Thanks to Mrs Williams for her act of kindness and to Ela for her magnificent effort.
Llangollen Eisteddfod
On a scorching hot summer’s day, years 2 and 3 visited the Llangollen International Eisteddfod to experience a taste of global culture and music. They spent an enjoyable session listening to music from Peru, and were awe-struck by the traditional instruments being played. The lovely bracelets displayed by natives from India also made a huge impression on them. Others were awe-struck by the owls and all the dancing, and meeting children from other schools! But undoubtedly, one of the day’s highlights was enjoying delicious ice cream in the extreme heat!
Llyn Brenig
Years 2 and 3 went on special trip to Llyn Brenig to learn a great deal about the natural world. They went into the pool in search of insects, closely peering through the microscope, as well as walking around the lake. They also received a session learning about re-cycling and the importance of that effort in order to protect our world and the environment.
New Parents
An enjoyable afternoon was spent in early June, as the school welcomed prospective pupils and their parents. The hall was full and an enjoyable afternoon was spent with Mrs Davies Jones providing information about the school as well as stories told by the pupils. The infants were busy playing and painting, and they were a joy to behold! We extend a warm welcome to you all to Ysgol Llanllechid.
Snowdon
It has become an annual tradition that Year 6 pupils climb up Snowdon every year. Yet agin this year they managed this feat. They were led by Cemlyn Jones and Morfudd Thomas and the pupils were excellent. Thanks to Mr Huw Edward Jones and Mr Stephen Jones for providing the pupils with excellent experiences, and congratulations to Mrs Davies Jones and Miss Nicola on their achievement in reaching the summit with the pupils!
Conodelences
It is with huge sadness that the school received the shattering news about the death of Mr Dylan Richard Rowlands, father of Dion, a Year 2 pupil. We offer our condolences to you as a family during this difficult time.
Ysgol Llanllechid Choir at the Galeri, Caernarfon
Ysgol Llanllechid performed at a special concert held at y Galeri, Caernarfon. The concert`s theme was the Mabinogi. Our choir performed alongside other artists including Môn Youth Choir, William Mathias Chamber Choir and Mair Tomos Ifans, story-teller. Thanks to Mr Huw Edward Jones for his work teaching the choir to such a high standard. It was an entertaining evening with the choir giving their all to a rendition of two songs, with excellent accompaniment from Mrs Ann Peters Jones. Thanks to Mrs Sioned Webb and to Mr Arfon Gwilym for their kind donation to Ysgol Llanllechid. Thanks to our loyal parents for their support, and to the children for their best efforts, as usual.
Gwyl Gyfeiriannu Pencampwriaeth Gwynedd (Welsh only available...)
Llongyfarchiadau i Jack Thomas a Gwion Pritchard ar ddod yn ail yn y bencampwriaeth hon, ac i William ac Ursula ar ddod yn bumed. Camp yn wir, a braf gweld ein disgyblion yn serennu!
Llyfr Coginio (Welsh only available...)
Mae cyfeillion yr ysgol yn awyddus i gynhyrchu llyfr ryseitiau arbennig i Ysgol Llanllechid. Os oes gennych rysait yr hoffech ei rhannu a fuasech cystal ag e bostio Angharad Llwyd Beech ar angharadllwyd@hotmail.com cyn gynted a bo modd. Diolch yn fawr.
Canlyniadau Sioe Dyffryn Ogwen (Welsh only available...)
Bu`r ysgol yn brysur yn cefnogi`r Adran Celf a Chrefft Sioe Dyffryn ogwen a diolchir i bawb a fu`n arwain yn enwedig Anna Pritchard, sy`n seren!
Click here to see the results
Mabinogi Ar Gân (Welsh only available...)
To see more information - click here
Menu 2016 - 17
To see more information - click here
Snowdon Junior Race
Snowdon Junior Race Poster - click here
Snowdon Junior Race Distance - click here
Snowdon Junior Race Entry Form - click here
Athletics
Time: 5:30-7pm
Age: 5-12 year olds
Price: £2.50 per session
Location: Treborth Athletics Track
To view more information - click here
Cartref Marbryn Caernarfon (Welsh only available...)
Dydd Iau 25ain fe aeth dosbarth Mrs Rona Williams i ymweld a chartef yr henoed yng Nghaernarfon. Cafwyd croeso cynnes iawn gan y staff a’r trigolion. Bu cyfle i’r plant sgwrsio a chymdeithasu yn opgystal a chanu caneuon traddodiadol o dan arweiniad Mrs Ann Hopcyn, sydd yn ymweld a’r cartref yn wythnosol. Fe baratowyd gwledd ar ein cyfer ac roedd y plant wrth ei bodd yn cael helpu i weini’r bwyd. Braf oedd gweld y plant a’r trigolion yn mwynhau cwmni ei gilydd. Diolch yn fawr am y croeso a diolch i Mr Michael Downey, ein myfyriwr, am drefnu`r daith i ni.
Caerdydd (Welsh only available...)
Y daith orau eto! Bythgofiadwy! Bendigedig! Dyna rai o eiriau disgyblion blwyddyn 6 wrth iddynt drafod eu hamser ar y daith breswyl i Gaerdydd. Unwaith eto, mae gennym achos i fod yn falch iawn o`n disgyblion. Nid ar chwarae bach mae mynd â phlant ar daith i Gaerdydd, yn enwedig yn y dyddiau sydd ohoni, a rhaid eu canmol i`r cymylau am eu hymddygiad boneddigaidd, aeddfed, sy`n glod i`n staff gofalgar ac i chi`r rhieni. Diolch i Anti Wendy a Ms Leanne am drefnu`r daith ac i Mr Huw Jones am arwain gyda chymorth Mr Stephen Jones, Ms Nicola a Ms Angharad. Diolch yn fawr. Gobeithio eich bod i gyd yn cael cyfle i edrych ar ein gwefan.
To see more photos click here
Good Wishes
Thanks and good wishes to Dianne Jones from us all at Ysgol Llanllechid.
All the best!
Best wishes at the Urdd Taf Elai National Eisteddfod to Gwenno Beech, Lois and Efa Jones as well as Chenai Chicanza, Mari Watcyn, Ffion Tipton, Hanna Jones and Seren Mai. We are very proud of you as you represent us all at the Eisteddfod!
Congratulations
Congratulations to Gwenno Llwyd Beech on her feat! Runner up for penillion singing at the National Eisteddfod at Bridgend! We are all very proud of you, Gwenno! It is pleasing to have a national winner at our school! Well done to everybody from the Dyffryn Ogwen Urdd Branch for their performances at the National Eisteddfod.
To see more photos click here
Visit by Mrs Tegid’s class to Gelli Gyffwrdd
Recently, as part of their Science work on Forces, year 5 pupils went on a trip to Gelli Gyffwrdd. The Park owner, Mr Bristow visited us for the first hour to escort us around the park discussing the role of forces in the park’s work. We listened to a presentation on how forces impact on the green Dragon Rollercoaster work. He also talked about the quarryman’s ideas years ago as to moving coal and slate. He also mentioned the park’s method of using clean energy such as rain water and solar energy. The children were awe-struck and wished to ask more questions. The pupils then had an opportunity to go on their favourite attractions. Undoubtedly, the most popular attractions was the new water slide, the solar slide and small carts. A special thanks to Miss Gwen and Adie for their help.
To see more photos click here
The Zip Wire
Isn’t it wonderful that the school is located in a pleasant spot near a wealth of natural resources! It was an excellent experience for the pupils to walk from school to Zip World! Two representatives from the team visited us to discuss the wire. It was discussed that lightweight individuals had to have additional weight placed on them in order to move them along! It was also seen how air friction in the form of a sail assisted to slow down the wire. Under the careful leadership of Lliwen Jones, we had an interesting walk there and back along a section of Lon Las Ogwen. A fantastic way to get to know our locality.
To see more photos click here
Morning Service
Thanks to Rev John Pritchard for regularly visiting the school to hold morning services.
Bangor Ogwen Sports
Congratulations to the following on their success at the Urdd sports:
Individual race 100m Y 5 and 6.
Individual Race Boys 100m Y 5 and 6 - Jac Simone 3rd
Individual Race Girls 100m Y 5 and 6— Ella Bassinger 2nd
Individual Race 600m Y 5 and 6— Madeleine Sinfield 1st
Relay Race Girls (4x 100m) Y 5 and 6— 1st
Long Jump Girls Y 5 and 6—Madeleine Sinfield 3rd
Discus Boys Y 5 and 6—Thomas Baker 3rd
Individual Race 600m Y 3 and 4—Ffion Tipton 3rd
Long Jump Girls Y 3 and 4—Mia Williams 3rd
Don’t Touch Tell!
A very successful session was held on the dangers of drugs and various substances presented by Libby and Stuart in the school hall and important lessons were learnt.
To see more photos click here
Librarian
It was a privilege to welcome Nia Gruffydd from the library at Caernarfon to read and present stories to the various classes at the Foundation Phase. The children were enthralled!
Gig performed by Gwilym Bowen Rhys
Michael Downey is currently a student at Llanllechid, and recently arranged a big surprise for us all! It was a privilege to welcome the talented Gwilym Bowen Rhys to the school to perform for our pupils. It was a fun-filled afternoon and the pupils joining in to sing the old favourites - Defaid William Morgan, Bys Meri Ann etc and it was lovely to hear the national anthem being sung with passion at the end of the afternoon! These were Gwilym Bowen Rhys words to us on leaving:
“It was a pleasure to sing with the children,- they are excellent and passionate singers! I hope that I will have the opportunity to pay a return visit when I will reside a short distance away soon! ”
Thank you Sir! Excellent!
To see more photos click here
Ms Llinos Parry’s class
Anti Wendy could not have organized a better day for the Foundation Phase pupils to visit Pili Palas! As part of our theme, Moving, Reception class have learnt about how various objects, people and animals move. The pupils were in their element observing the various creatures and habitats as they were escorted from the tropical paradise to the butterfly and the exotic birds arena, before wandering through to see all the mini beasts!
To see more photos click here
Mrs Cranham’s class
On Wednesday, 10th May the big day had arrived at last! Alena and Harry’s wedding day! Our friendship service. The children had been preparing for the wedding for some time. They dressed in their best clothes and with the sun shining brightly, everybody walked to Capel Carmel. The doors were wide open and Mrs Helen Williams was there to welcome us! All were shown to their seats by the escorts, and the groom and Wil, his best man, was in the Set Fawr. Mrs Williams quietly sang the march on the organ, accompanied by our group of children on the percussion instruments. Alena was escorted by Cara and Talia, her maids and her friend Charlie! Mrs Cranham then led the service. Two hymns were sung with Mrs Helen Williams on the organ. In the afternoon, we had another feast in the school garden, refreshments baked by Ms Rhian and the pupils!
New Zealand
It was a privilege to welcome two teachers from New Zealand to Ysgol Llanllechid to share our school’s good practices with them. They concentrated mainly on the school ethos and how to establish a positive, supportive ethos. Our visitors spent part of the morning in Mr Huw Edward Jones class observing.
To see more photos click here
A Fun Day to remember the late Raymond Tugwell
Congratulations to everybody from the community who have worked hard for this special day at the Cricket Club.
Half term holiday
The school will close tomorrow afternoon for the week`s half term holiday tomorrow. Here`s hoping for a continued spell of warm weather!
Outstanding Dinner Money
Dinner money debts are unrealistically high yet again. These debts will have to be forwarded to the Authority, unless we are able to resolve the issue.
All the Best
All the best to Gwenno Beech, Lois and Efa Jones in the Urdd National Eisteddfod at Taf Elai. We wish you well. You will be representing our school and we are very proud!
Welsh Assembly Government
Year 6 pupils learnt more about the Welsh Assembly with thanks to Ann Williams from the Assembly Office at Colwyn Bay. It was an extremely interesting session learning about the establishment’s responsibilities, its history and how it operates. At the end of the session, a maniffesto was received from imaginary parties with every pupil reading out a relevant statements
Click here to see more photos
Five Ways to Wellbeing to Improve your Mental Wellbeing
Five Ways to Wellbeing to Improveyour Mental Wellbeing
Click here to see more information
Ras Moel Wnion (Welsh only available...)
Ar ôl y cawodydd diweddar, gwenodd yr haul ar Foel Wnion ar Ebrill 29, a daeth 64 o redwyr i Ysgol Llanllechid i gymryd rhan yn y ras flynyddol hon. Cafwyd diwrnod arbennig iawn, oedd wedi ei drefnu yn fanwl gan Dr Ross Roberts. Diolch arbennig iawn i Dr Roberts am ei holl waith caled. Cychwynodd y rhedwyr o Danybwlch, wrth giat Pont Hwfa gan redeg i gopa Moel Wnion, ac yna yn ôl i`r ysgol.
Llongyfarchwn yr holl redwyr a nodwn rhai o`r cyflymaf: Chris Richards, Becki Law, Sam Orton, Ruth Metcalfe, Russell Owen, Ali Thomas, Derek Weaver, John Morris, Gemma Moore ac Ann-Marie Jones.
Llongyfarchiadau gwresog i Mr Ady Jones, sy`n aelod o staff Ysgol Llanllechid, ar ei gamp yntau. Llwyddodd i redeg Ras Meol Wnion mewn 62 munud a chododd swm sylweddol o arian i gronfa`r ysgol a llongyfarchwn Mr Ady yn fawr.
Diolchwn hefyd i aelodau o`r Pwyllgor, o dan gadeiryddiaeth Mrs Angharad Llwyd Beech, am eu gwaith hwythau yn ymwneud â rhai o`r trefniadau.
Rhaid canmol criw gweithgar y gegin a diolch i Anti Gillian a’i thîm. Roedd y cawl cennin yn hynod flasus!
Nid ydym yn anghofio`r rhieni a fu`n brysur yn gwneud cacennau i ni hefyd! Gwerthwyd y cyfan mewn byr amser. Byddwn yn diolch i chi yn unigol!
I goroni`r cyfan, cafwyd rasus plant ar y cae wedi eu trefnu gan Mr Stephen Jones. Roedd y cae wedi ei osod fel stadiwm athletau a'r plant yn cwblhau cylchdro cyfan cyn cwblhau. Yn ogystal roedd yn wych gweld cynifer o blant wedi ymgasglu i redeg. Y tri uchaf yn y ras i blant blwyddyn 2 ac iau oedd Gruff, Mabon a Cafan; y pedwar uchaf yn y ras blwyddyn 3 a 4 oedd Erin, Bethan a Hari; a'r tri uchaf yn y ras blynyddoedd 5 a 6 oedd Madeleine, Gwion ac Adam. Llongyfarchiadau hefyd i Giorgio a ddaeth yn fuddugol yn y ras i flynyddoedd 7-9.
Diolch i LONDIS, Bethesda am eu cyfraniadau i`r gegin a diolch am eu cefnogaeth ar hyd y flwyddyn. Diolch i SIOP CROCHENDY Bethesda am eu rhoddion caredig ac am greu gwobrau yn bendodol i`r ras.
Diolch hefyd i aelodau o`r gymuned am fod mor barod i helpu hefo`r rhedwyr ar y mynydd. Yn wir, diolch i chi gyd am sicrhau diwrnod mor llwyddiannus.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Noson Talentau Ogwen (Welsh only available...)
Llongyfarchiadau i William Roberts ar ennill gwobr anrhydeddus wrth ennill y brif wobr am ganu Dwy Law yn Erfyn. Gwych William! Edrychwn ymlaen at gael clywed mwy o dy hanes yn fuan William.
Gwobr gan yr Uchel Sirydd (Welsh only available...)
Dyma lun o Mr Huw Edward Jones gyda rhai o`n disgyblion yn derbyn tystysgrif am greu amgylchedd ddysgu ddiogel a chyfeillgar yn yr ysgol.
Click here to see more photos
Llongyfarchiadau (Welsh only available...)
Llongyfarchiadau i Efa Glain ar gael ei dewis i berfformio`r prif gymeriad, mewn ffilm fer gan gynhyrchiadau Ie Ie, a fydd yn ymddangos ar S4C yn fuan. Da iawn chdi Efa Glain!
Diolch Mrs Willimas (Welsh only available...)
Llawer o ddiolch i Mrs Helen Williams am ddod i`r ysgol i gyflwyno rhodd i bob un o ddisgyblion y Dosbarth Meithrin. Mae`r bwnis bach y Pasg yn werth eu gweld a bu Mrs Williams wrthi am oriau yn eu gwau! Dyma i chi beth yw caredigrwydd! A pha ffordd well o ddweud Pasg Hapus wrth ein disgyblion ieuengaf! Diolch o galon Mrs Williams!
Click here to see more photos
Parchedig John Pritchard (Welsh only available...)
Llawer o ddiolch i`r Parchedig John Pritchard am ddod i mewn atom i gynnal gwasnaethau boreol. Diolch i chithau am eich cymwynasgarwch.
Ymweliad yr Archifdy (Welsh only available...)
Yn ddiweddar daeth Dilwyn Williams o Wasanaeth Addysg Archifau a Amgueddfeydd Gwynedd at ddosbarth Mrs Tegid i sôn wrthym am dai Tuduriadd. Cafwyd cyflwyniad diddorol dros ben a sonwyd am dai Tuduraidd lleol fel Cochwillan. Adeiladwyd Cochwillan gan William ap Gruffydd o deulu`r Penrhyn ac roedd y tŷ yn enwog am ei grandrwydd a’i letygarwch. Cafodd y disgyblion gyfle hefyd i edrych ar arteffactau Tuduraidd.
Plas Mawr (Welsh only available...)
Aeth blwyddyn pump yn ddiweddar i Blas Mawr, Conwy i ymweld a Tŷ Tuduraidd sydd wedi ei ail- adeiladau. Cawsom groeso gan actores oedd yn efelychu Dorothy, gwraig Robert Wynn perchennog gwreiddiol Plas Mawr. Cawsom ein harwain o gwmpas y tŷ ganddi a chael ymdeimlad o fywyd Tuduraidd. Roedd y tŷ wedi eu addurno’n grand gyda’r rhosyn Tuduraidd a nenfydau addurniedig a cherfluniau o rownd y byd. Cafodd y disgyblion gyfloen i wisgo mewn gwisgoedd Tuduraidd a chwarae gemau Tuduraidd. Daeth yr ymweliad a chyfnod y Tuduraidd yn fyw yng nghôf y plant.
Glanllyn (Welsh only available...)
Tri diwrnod o hwyl a sbri a gafwyd yn ddiweddar yng Nglanllyn yn heulwen dechrau Ebrill. Cafwyd profiadau lu gan gynnwys, dringo waliau, adeiladau rafftiau, cyfeiriannau, neuadd chwaraeon, canwïo, bowlio deg, saethyddiaeth disgo a nofio. Roedd staff y gweithgareddau yn gyfeillgar dros ben a staff y gegin yn ein bwydo…. Gwledd bob dydd! Roedd y plant yn ymddwyn yn arbennig o dda gyda’i gilydd. Profiad penigamp o gyd-weithio a chymdeithasu. Diolch arbennig i Miss Gwen, Mr Downey a Miss Rachel am ei wneud yn dri diwrnod hwyliog dros ben. Cofiwch edrych ar safwe’r ysgol i weld yr holl luniau!
Click here to see more photos
Bethan Gwanas (Welsh only available...)
Aeth Derek, Chelsey, Ursula a Gwion i Neuadd Ogwen hefo Ms Rachel i gymryd rhan mewn gweithdy creadigol er mwyn creu chwedlau gyda Bethan Gwanas. Cafwyd diwrnod difyr, llawn creadigrwydd.
Click here to see more photos
Reception class – Visit to Storiel in Bangor
Don’t be surprised if you notice Ysgol Llanllechid Reception class going around sprinkling tea leaves around the place whilst helping with the cleaning at home! You will find nothing better to get rid of floor dust! This was one of the incredible facts learnt at a cleaning and purification workshop held at Storiel in Bangor. As part of our theme Llanast yn y Llaid, the class went to see how people used to clean the house and wash clothing in bygone days.
One group of pupils received an introduction to the history of washing clothes and saw old local pictures of people at work cleaning and washing whilst another group were busy as household maids and servant! They dressed up in white aprons and caps and the boys white collars, a waistcoat and stable cap.
Some had to set the fire in the parlour, others had to use a feather brush to lift the dust and cobwebs. Some had the task of shaking the mats; others scoured tables, whilst some cleaned the brasses using lemon and vinegar until they shone like a new shilling. However, the most fun was to be had in the laundry, when the children filled the wash tub with water, before scouring the clothes whiter than white, with green soap on the scouring board, before using the dolly in the tub. They used traditional pegs to hold the whites in place on the clothes line!
Suffice to say that the children were exhausted on the way home, following the hard afternoon`s work that was a reality in bygone days.
Urdd Gobaith Cymru - County
Congratulations to the following:
Canlyniadau Urdd - Sir |
||
Name |
Position |
Competition |
Gwenno Beech |
1st |
Yr 2 Solo |
Efa Glain Jones |
3rd |
Yr 5/6 Solo |
Lois a Efa Glain Jones |
2nd |
Yr 6 Duet |
Celf a Chrefft Urdd - Sir |
||
Idris John Temple Morris |
1st |
Printing on Fabric Yr 5/6 |
Grwp Gruffydd |
1st |
Creative 2D Work Yr 2 |
Hari Vaughan Jones |
3rd |
2D Artwork Yr2 |
Eban Pritchard |
2nd |
2D Artwork Yr 3/4 |
Idris John Temple Morris |
1st |
SD Artwork Yr 3-6 |
Margiad Temple Morris |
2nd |
Creative 2D Work Yr 2 |
Grwp Hana |
3rd |
Creative 2D Work Yr 3/4 |
Idris John Temple Morris |
1st |
Creative 2D Work Yr 3-6 |
Grwp Elan |
2nd |
Creative 3D Work Yr 3/4 |
Idris John Temple Morris |
1st |
Creative 3D Work Yr 3-6 |
High Sheriff of Gwynedd Award
We were privileged to receive an award from Mr Peter Harlech Jones, High Sherriff for Gwynedd for the work done by Ysgol Llanllechid to tackle bullying and generate a safe and friendly learning environment. It was also a recognition of the KiVa programme at the school – our anti-bullying programme, and the school has had numerous opportunities to cascade the good practices with other schools and with teachers throughout Britain at various forums. The programme recognizes that all bullies are weak, and that he/she only gains strength when others listen and support or choose not to do anything! Ysgol Llanllechid has been in close partnership with UNCW Bangor over a five year period on these aspects, and we wish to acknowledge the particular support provided by Dr. Suzy Clarkson and Professor Judy Hutchings.
Appearing in the photo are School Council members Maia, Ellie, Derek and William with the High Sherriff Peter Harlech Jones and Mr Huw Edward Jones, who coordinates the work at the school.
Click here to see more photos
County Eisteddfod Results
Congratulations to Gwenno Beech on winning two first prizes at the County Eisteddfod. Well done! We look forward to having the opportunity to support Gwenno at the National Urdd Eisteddfod in May.
Warm congratulations also to Efa Glain for winning the third prize on the solo for Years 5 and 6. Congratulations also to Lois and Efa for coming second in the duet competition.
The Cerdd Dant party sang sweetly and secured the second place.
Rugby
Congratulations to the Rugby Team: Tomos Baker, Harri Thomas, Jac Roberts, Adam Williams, Harrison Hinds, Cian Davies, Ariel Lichtenstein, Gwion Pritchard and Osian Moore on reaching second place in the Eryri School Rugby Tournament. Our warmest congratulations! Click here to see more photos
Disco Dancing
Congratulations to the Disco Dance group for their fabulous performance at the local Eisteddfod. Congratulations also on their performance at Cricieth. We wish you well at the Dance Evening at the Galeri tomorrow. Click here to see more photos
Easter Bingo
Thanks for the Easter Eggs and fore the selection of different bottles for the raffle. Date: April 5th at the Cricket Club. Warm welcome!
Last Day of Term
The school will close on Friday for the Easter Break. I wish you a Happy Easter and thank you for your help and support throughout the term. The first day of the Summer Term is April 24.
Dymuniadau Da (Welsh only available...)
Dymuniadau da i Mrs Alison Halliday yn ei chylch newydd ar ôl y Pasg - bu`n braf cael cydweithio hefo chi Mrs Halliday a phob dymuniad da i Mrs Lliwen Jones ar ei hantur newydd!
Canlyniadau Celf a Chrefft
Canlyniadau Celf a Chrefft |
||
Name |
Position |
Competition |
Grwp Elan |
1st |
Creative 3D Yr 3/4 (Group) |
Grwp Chenai |
2nd |
Creative 3D Yr 3/4 (Group) |
Mari Roberts |
1st |
Printing on Fabric Yr 3 /4 |
Mari Roberts |
1st |
Printing Yr 3/4 |
Chenai Chicanza |
2nd |
Computer Graphics Yr 3/4 |
Chenai Chicanza |
2nd |
Penwisg Bl 6 ac iau |
Eban Pritchard |
2nd |
2D Artwork Yr 3/4 |
Eban Pritchard |
2nd |
Ffotograffeg/Graffeg Cyfriadurol Bl 6 a iau |
Elan Jones |
3rd |
Computer Graphics Yr 3/4 |
Grwp Hana |
1st |
Creative 2D Yr 3/4 (Group) |
Mali Fflur Burgess |
3rd |
2D Artwork Yr 3/4 |
Catrin Sian Jones |
3rd |
2D Artwork Yr 2 |
Grwp Gruffydd |
1st |
Gwaith Creadigol Tecstiliau Bl 2 ac iau (Grwp) |
Grwp Gwenno |
2nd |
Creative 2D Yr 2 (Group) |
Grwp Nansi |
2nd |
Creative 2D Yr 3/4 (Group) |
Grwp Noa Gwern |
3rd |
Creative 2D Yr 2 |
Tomos Owain |
2nd |
2D Artwork Yr 2 |
Elsie Owen |
1st |
Creative 3D Yr 5/6 |
Ffion Jordan |
2nd |
Creative 2D Yr 3/4 |
Gwen Isaac |
1st |
2D Artwork Yr 5/6 |
Hari Vaughan Jones |
1st |
2D Artwork Yr 2 |
Idris John Temple Morris |
1st |
Creative 3D Yr 3-6 |
Grace Williams |
1st |
Computer Graphics Yr 5/6 |
Margiad Ann Temple Morris |
1st |
Printing on Fabric Yr 2 |
Idris John Temple Morris |
1st |
Creative 2D Yr 3-6 |
Idris John Temple Morris |
1st |
2D Artwork Yr 3-6 |
Margiad Ann Temple Morris |
1st |
Creative 2D Yr 2 |
Idris John Temple Morris |
1st |
Creative 2D Yr 2 |
Disco Dance
Congratulations to the Disco Dance Group for receivig 1st prize! Well Done all!
Click here to see more photos
Easter Half Term Activities
Click here to view the poster
Urdd Results
To view a letter from the headteacher - click here
Urdd Results |
||
Name |
Position |
Competition |
Gwenno Beech |
1st |
Yr 2 Solo |
Mari Roberts |
2nd |
Yr 3/4 Solo |
Lois Jones |
1st |
Yr 5/6 Solo |
Efa Jones |
2nd |
Yr 5/6 Solo |
Lois a Efa Jones |
1dt |
Yr 6 and younger Duet |
Parti Leni |
3rd |
Yr 6 and younger Unison Party |
Parti Chenai |
2nd |
Yr 6 and younger Choir |
Parti Efa Glain |
2nd |
Year 6 and younger Ensemble |
Gwenno Beech |
1st |
Year 2 and younger Cerdd Dant Solo |
Efa Glain Jones |
2nd |
Yr 5/6 Cerdd Dant Solo |
Lois a Efa Glain Jones |
1st |
Yr 6 and younger Cerdd Dant Duet |
Gruffydd Beech |
1st |
Yr 2 Solo Recitation |
Chenai Chicanza |
1st |
Yr 3/4 Solo Recitation |
Parti Cerdd Dant |
1st |
Parti Cerdd Dant |
Dawnsio Disgo |
1st |
Dawnsio Disgo dan 12 |
Ymwchil Hanes Ysgol Llanllechid (Welsh only available...)
Bethesda yn oes y chwarel - cliciwch yma
Y dyddiau cynnar #2 - cliciwch yma
Disgwyliad bywyd chwarelwr #2 - cliciwch yma
Cysylltiad rhwng adre ar chwarel - y tun bwyd fersiwn #2 - cliciwch yma
Canu a diwylliant #2 - cliciwch yma
Canu a chodi arian i gefnogi'r Streic Fawr #2 - cliciwch yma
Congratulations
Congratulations to Ms Elen Evans on the birth of her baby – Erin; a sister to Cain and Abner. We eagerly look forward to meeting baby Erin soon!
Farwell
We bid farewell and thank Ms Nerys Philips for her work as a classroom assistant at Ysgol Llanllechid. Best wishes for the future Ms Philips.
Machu Pichu
On Wednesday, 15 th February, we had the pleasure to welcome Mrs Menna Jones, grandmother of Hari and Hana, to Mrs Nerys Tegid’s class to talk about her recent visit to the incredible site of Machu Pichu in Peru! It is likely that Machu Pichu was built by Pachacuti Inca Yupanqui, the ninth emperor of the Inca tribe! The location, that is 7,970 feet (2,430m), above sea level, is on the eastern side of the Andes, and according to Mrs Menna Jones, is recognized as one of the most famous archaeological sites in the world! The children were amazed at the Incas ability to create a village in such a remote and isolated location. There was an opportunity to discuss an ancient way of life, and to consider life on the high peaks, when thinking about life in a by gone era. Thanks to Mrs Jones for inspiring our pupils! A good teacher’s skills are never forgotten!!
Click here to see more photos
Sea Voyage
Mrs Gwen Hughes presented an excellent Geography lesson about the different sea voyages that she has been on in recent years. Mrs Hughes mentioned many different countries across the world, including Abu Dhabi and the Burj Khalifa. The pyramids and hieroglyphics were discussed, before learning about the Panama canal. Mrs Hughes was amazed at the pupils` general knowledge and searching questions that they had prepared for the visit. Another interesting, educational afternoon! Thanks very much.
Click here to see more photos
Gwynedd Bronze Award Sports Ambassadors Training
On Thursday, 3rd October, two representatives from the school, Boe Celyn Jones and Gethin Owen from year 5 attended a training course for Ambassadors held at Caernarfon Leisure Centre. Both received a presentation that taught them about various games. The Ambassadors already use their new skills through leading groups of pupils to emphasise the importance of space etc. They also had an opportunity to learn about the importance of safety during the fitness activities.
Reception Class
Morus y Gwynt and Ifan y Glaw, not to mention a snow flurry, were not to disrupt the fun experienced on Shrove Tuesday of making pancakes! All the children had an opportunity to measure and mix the ingredients well and then watch Miss Rachel sweating above the frying pan creating plates and plates of golden yellow pancakes for the children to gobble up. A real feast! It provided a good opportunity for the pupils to practice sing Modryb Elin Ennog for our St David’s Day service.
The pupils came to school on March 1st smartly dressed in a combination of traditional Welsh costume, the colours of the Welsh flag and those of the national football and rugby teams to celebrate the day of our patron saint. The pupils gave an excellent performance at the St David’s Day service.
ESTYN Visit
Mr Kevin Davies, ESTYN inspector, recently looked at the school’s excellent practices in Geography and History. These practices will be shared with schools throughout Wales.
Slate Path Trail
Ysgol Llanllechid has been associated with the Eryri Slate Path Trail, that will be opening in October 2017. Search the internet for further information! Mrs Marian Jones class was invited to visit Llanberis Museum to participate in a day of various and engaging activities. This was the last event in a local history project, and it was pleasing to join three other primary schools in the county, - each representing the various slate areas. The highlight for pupils at Llanllechid was to perform an original musical based on the history of the Strike Women Choir. And what a show this is! Thanks to Mrs Marian Jones for rehearsing the pupils and for the original scripting. The audience were thrilled after seeing such a show, - some were even in tears! Very well done, children!
Click here to see more photos
Cwmni’r Fran Wen
Mrs Marian Jones and Mrs Nerys Tegid’s classes watched an excellent theatric performance by ‘Cwmni’r Fran Wen’. The show was called `Sigl di Gwt’ and focussed on the story of families and refugees from different viewpoints. At the end of the performance,a conversation was held between the actors and the pupils, and this added to the experience for all. The pupils excellently responded verbally and in pictures through producing Art work, discussing the performance with the actors! An enjoyable experience!
Karate
Thanks to cwmni Shukokai who visited the school to give the pupils a taste of Karate lessons, as part of our healthy school provision. Thanks to Andy Plumb, Ffion Parry and Emily Hall for their contribution.
Click here to see more photos
Easter Bingo
Diary marker - Easter Bingo held at the Cricket club on April 5th. All welcome!
St David’s Day
It was an eventful day where the pupils had opportunities to cook Welsh foods e.g. leek soup, welsh cakes etc and learn about St David. However, what will remain with us for a long time will be the pupils` mighty performances! First of all it was the turn of the Cylch Meithrin pupils; most of them are only two years old! Each sang at the top of his/her voice and were very smart in their costumes! The standard had been set, and every class from the senior to the most junior gave excellent presentations. A memorable day – thanks to everybody; to the entire staff for their good work, and especially to Mr Huw Jones for providing such gifted accompaniment. Thanks also to parents and friends of the school for the support and assistance.
Click here to see more photos
Internnational Day
On February 15th, an International Day was held that had been organized by the School Council. Each class was allocated a specific country to study and it was pleasing to observe the pupils having gone to such trouble to wear clothing associated with these countries. They enthusiastically discussed the countries and all kinds of activities were held in the classes. In addition, energetic karate sessions were held in the hall and the pupils attentively listened to the Sensei. Thanks to the School Council for organizing and assisting to raise £190 towards Alec Jones Memorial School in Ghana, following Mrs D Jones recent visit to the school.
The Senoritas from Spain a joy to behold!
Click here to see more photos
Athletes
Ysgol Llanllechid have gifted athletes! Ella, Leni – Ceirios, Efa, Tiah, Adam, Harrison, Jac, Leon, Ceirion and Gwion gave excellent performances at the ‘Sportshall UK’ Athletics competition recently held at Arfon Leisure Centre. Well done for your team work and for your extremely enthusiastic competition! The team came third – that was quite a feat! Excellent! Thanks to Mr Stephen Jones for providing leadership in this field to such a high standard.
St David's Parade
Click here to view the poster
Click here to read the letter
Ysgolion Heddwch (Welsh only available...)
Click here to view the poster
Sesiwn Stori yn Neuadd Ogwen - dewch yn llu! (Welsh only)
Click here to view the poster
Llwybr Llechi Eryri (Welsh only)
Bu Ysgol Llanllechid yn cymryd rhan yn y prosiect Llwybr Llechi Eryri yn ddiweddar. Cliciwch yma i weld y poster
Gweithdy Karate (Welsh only)
Cynhaliwyd gweithdy Karate yn yr ysgol fel rhan o`n gwaith cadw`n iach a heini! Click here to see more photos
Family Activities
Click here to view the poster
Pa wlad oedd eich gwald chi? (Welsh only)
Cafwyd hwyl a sbri yn yr ysgol pan glustnodwyd un wald i bob dosbarth gan y Cyngor Ysgol. Cafodd y disgyblion gyfle i astudio eu gwlad arbennig a dysgu pob math o ffeithiau diddorol amdani. Yn y neuadd, cafodd pob dosbarth gyfle i adrodd yn ol i weddill y dosbarthiadau a rhannu yr hyn a ddysgwyd. Yn ddiweddar, daeth Mrs Jones i`r ysgol i drafod Ghana gyda`r disgyblion. Eglurodd sut y bu iddi hi a`i diweddar wr sefydlu ysgol yn Ghana o`r newydd. Roedd y Cyngor Ysgol yn awyddus i godi arian i helpu`r ysgol hon. A dyna a wnaethpwyd! Cafwyd diwrnod llawn bwrlwm a phawb wedi gwisgo mewn dillad oedd yn gysylltiedig a`u gwledydd a phob un yn lliwgar dros ben! Diolch i`r rhieni am fod mor barod i`n cynorthwyo ac i bawb yn yr ysgol am sicrhau diwrnod mor hwyliog! Click here to see more photos
POB PLENTYN YN AELOD LLYFRGELL YN 2017! (Welsh only)
Cliciwch yma i weld y poster
Ysgol Llanllechid yn serennu
Read the report here! - Estyn Report December 2016
Llongyfarchiadau (Welsh only)
Llongyfarchiadau i Anti Gillian a Dafydd Griffiths ar ddod yn hen nain a taid! Ganed merch fach i Liam a Lucy, a`i henw yw Elliw. Mwynhewch y magu!
Anfon cofion (Welsh only)
Anfonwn ein cofion at ferch Ms Sian, Awen, sydd wedi bod mewn damwain car yn ddiweddar. Rydym mor falch o gael dweud ei bod yn gwella ar ôl y llawdrinaieth.
Disgo Santes Dwynwen (Welsh only)
Roedd calonnau coch i`w gweld ar bob cwr o`r neuadd ac roedd y gerddoriaeth yn diasbedain dros bob man yn ystod ein disgo Santes Dwynwen! Cafodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen gyfle i ddangos eu doniau i ddechrau, ac yna daeth disgyblion yr Adran Iau yn ôl i`r ysgol ar gyfer eu disgo hwy! Diolch i`r ddau Mr Jones am fod yn DJs a diolch arbennig i`r Cyfeillion am ein helpu. Hon oedd y weithgaredd gyntaf i`r gadeiryddes newydd, Mrs Angharad Llwyd Beech i ymhel â hi, ac aeth popeth yn ei flaen yn hollol ddidramgwydd. Diolchwn iddi ac i aelodau`r Pwyllgor am eu cymorth a`u cenfogaeth. Cofiwn hefyd am ein cyn-gadeiryddes Mrs Lowri Roberts ac am ei chyfraniad arbennig hithau, ers y cyfnod pan oedd Buddug yma hefo ni yn ddisgybl. Pwy all anghofio am gyfraniad Mrs Iona Robertson hefyd! Ni does modd newi pawn yn fan hyn – ond yr un yw`r diolch i chi i gyd. Bu`r disgo yn llwyddiant ysgubol! Yn ddiau, caiff ei ail-adrodd yn fuan! (Priodol hefyd yw diolch i Anwen Jones a Ceri Isaac am eu gwaith di-flino hwythau yn trefnu`r Bore Coffi.) Braf cael dweud mai Ms Leanne ac Anti Wendy yw`r ysgrifenyddion newydd!
‘State or Slate?’
Art project launch night
15 February 2017 at 6.30pm
Y Bar, Neuadd Ogwen, Bethesda
Artists Walker & Bromwich would like to invite you to find out more about an exciting new art project by joining them at their launch night on the 15 February at Neuadd Ogwen.
'State or Slate' will pay tribute to the Great Strike 1900-03 by giving the story a determined presence within Penrhyn Castle - and they want your help in doing this.
They are looking for people:
• With a knowledge of the Great Strike, who would like to share it
• Who would like to help by researching ideas
• Who would like to take part in an exciting launch parade
• That can sew
Join Zoe, Neil and local artist Rebecca Hardy-Griffith to find out more about the project and how you can get involved.
For more information please contact Rebecca by e-mail: rfhardy@hotmail.co.uk
We look forward to seeing you
Dyddiadau i`ch Dyddiaduron (Welsh only)
Cofiwch am ein Bingo Pasg a gynhelir ar Ebrill 5ed yn y clwb Criced. Diolchir i`r clwb Criced am fod mor barod eu cymwynas. Cofiwch hefyd am ein Ras Moel Wnion ar Ebrill 29. Croeso cynnes i bawb!
Ymweliad dosbarth Mrs Tegid â bwyty Tsieiniadd Fu’s yng Nghaernarfon (Welsh only)
Fel rhan o waith y dosbarth ar ‘Y byd rhyfeddol ‘ ac i gyd-fynd gyda dathliad Blwyddyn Newydd Tsieiniaidd, aethpwyd `am dro` i fwyty Fu`s. Cafodd y disgyblion gyfle i weld y reis a’r cyw iar melys a chwere yn cael ei goginio mewn wok chwilboeth! I ddilyn, cafwyd gwers ar sut i ddefnyddio chop sticks a chyfle i ddal pen y milwyr terracotta a dysgu am eu hanes. Click here to see pictures
Castell Caernarfon a Dolbadarn (Welsh only)
Fel rhan o’n thema Chwedlau’r Ddraig, cychwynodd y dosbarth Derbyn ar fore digon llwm yr olwg, ar antur i Gaernarfon er mwyn cael syniad o sut oedd pobl yn byw mewn castell. Cafwyd cyfle i wylio ffilm am freuddwyd Macsen Wledig a sut y bu i gaer gael ei sefydlu yng Nghaernarfon, cyn mynd i fusnesu ymhob twll a chornel! Roedd angen cryn egni wrth gerdded yr holl risiau troellog a mynd lawr i ddyfnderoedd ambell selar! Cafwyd cinio yno, a chyfle i wisgo coron y brenin Edward y 1af, cyn symud ymlaen am Llanberis ac ymweld â chastell Dolbadarn. Roedd y plant wrth eu boddau yn clywed sut bu i Llywelyn ein Llyw Olaf garcharu ei frawd Owain Goch yn y gorthwr am ugain mlynedd. Cafodd y plant ryddid i ymchwilio i weld lle oedd y neuadd a’r ddau dŵr arall oedd yn rhan o’r castell gwreiddiol, cyn cael tynnu eu lluniau ar risiau y gorthwr! Yr un fu taith disgyblion Mrs Marian Jones, wrth iddynt astudio Oes y Tywysogion mewn manylder. Click here to see pictures
Ymweliad Mr Deri Tomos â dosbarth Blwyddyn 1 (Welsh only)
Yn ddiweddar, fe fu disgyblion Ms Cranham a Ms Jones yn ffodus iawn o gyfarfod ymwelydd arbennig o`r enw Mr Deri Tomos i drafod Deinosoriaid a daeth Mr Tomos a phob math o arteffactau ar gyfer cynnal sgwrs am ffosiliau gyda’r dosbarth! Uchelgeisiol iawn i blant mor ifanc, medde chi! Dim o gwbwl! Llwyddwyd i gyfareddu`r disgyblion drwy ddysgu llawer am sut mae ffosiliau yn cael eu creu cyn mynd ati i greu ffosiliau eu hunain! Hyfryd! Diolch i chi Mr Deri Tomos am fod yn ffrind mor dda i`r ysgol, ac am fod mor barod i`n helpu.
Mr Alun Pritchard a Lesotho (Welsh only)
Braint oedd cael cwmni Mr Alun Pritchard at ddosbarthiadau Mr Huw Jones a Mr Stephen Jones pan ddaeth i gyflwyno ei atgofion am ei gyfnod yn Lesotho. Yn 2003 aeth Mr Pritchard i Lesotho – sef y wlad fechan sydd wedi ei amgylchynu gan ei chymydog De Affrica. Mae Cymru wedi gefeillio gyda Lesotho a dolen arbennig rhwng y ddwy wlad yn dilyn y cyswllt cyntaf nôl ym 1985. Dangosodd lawer o ffotograffau o’i ymweliad ynghyd â nifer o arteffactau ee gwisg draddodiadol, het Basotho ac ysgub. Roedd y plant wrth eu boddau yn gwrando ar ei straeon a’i natur hyfryd o gyflwyno. Gwnaeth argraff fawr arnynt wrth rannu nifer o straeon ee pan soniodd am wraig y tŷ pridd a`r tô gwellt oedd yn rhyfeddu fod dyn gwyn wedi aros yn ei chartref; gwraig oedd yn teimlo`n ansicr os oedd ei chartref yn ddigon da i’r ymwelydd o Gymru fach, a Mr Pritchard yn teimlo`n ddiymhongar yn ei chwmni wrth ryfeddu at ei chroeso twymgalon gyda`i hadnoddau prin. Diolch o galon Mr Pritchard am brynhawn arbennig ac am gael y cyfle i ddysgu cymaint am wlad mor ddiddorol. Click here to see pictures
Mr Eli Lichtenstein a’r Holocaust (Welsh only)
Ar ddiwrnod coffa yr Holocaust daeth Mr Eli Lichtenstein i ddosbarth blwyddyn 6 i drafod hanes ei deulu yn dianc o orthrwm a chreulondeb y Natsiaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cynhaliwyd sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’r plant wedi paratoi nifer o gwestiynau treiddgar rhag blaen. Dysgodd y plant lawer wrth wrando ar ei atebion gan gyflwyno eu barn hwythau ar y cyfnod erchyll hwn mewn hanes, yn ogystal â gwneud cymhariaeth gyda systemau llym apartheid yn Ne Affrica. Diolch i Mr Lichtenstein am fore mor ddiddorol, gan wneud i bawb sylweddoli mor greulon y gall dyn fod at ei gyd-ddyn. Dysgwyd gwersi pwysig ynglŷn â`r angen i gyd-weithio a pharchu ein cyd-ddynion beth bynnag fo eu hîl a`u diwyllaint. Hefyd, cafwyd cyfnod yn trafod effaith y cyfnod erchyll hwn mewn hanes; cyfnod s`yn dangos yn glir beth yw canlyniad creulondeb, amharch a gormes un genedl dros genhedloedd eraill.
Mrs Helen Holland a Môn ar Lwy (Welsh only)
Er mwyn dysgu am entrepeneriaeth, gwahoddwyd Mrs Helen Holland draw i`r ysgol i ddysgu`r disgyblion hyn ynglŷn â sut i sefydlu busnes. Bellach mae llwyddiant Môn ar Lwy ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol ac rydym yn Ysgol Llanllechid yn ymfalchio yn llwyddiant Mrs Holland a’i theulu, a hithau wrth gwrs yn wriag o Fethesda! Ar ddiwedd y cyflwyniad, rhoddodd Mrs Helen Holland rodd i Jess, sydd ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Alder Hey. Diolch am eich caredigrwydd Mrs Holland ac am gael cyfle i flasu eich campweithiau! Click here to see pictures
Mrs Dilys Jones a’r ysgol a sefydlodd yn Ghana (Welsh only)
Fel y gwelwch o ddarllen hanes blwyddyn 6 mae gogwydd rhyngwladol a daearyddol yn perthyn i’r thema y tymor hwn. Ac fe barahaodd y thema hwnnw pan ddaeth Mrs Dilys Jones, gwraig yn wreiddiol o Fethesda, a modryb i Mr Stephen Jones, sef athro blwyddyn 6, i siarad am ei phrofiadau yn byw yn Ghana, Gorllenwin Affrica. Tra’n byw ac yn gweithio yn Ghana sefydlodd Mrs Jones a’i gŵr Mr Alec Jones ysgol i’r plant lleol gan nad oedd y fath adeilad na’r addysg yn bodoli ar eu cyfer. Bellach mae 750 o blant yn mynychu’r ysgol sydd wedi cael ei henwi ar ôl ei diweddar ŵr - Mr Alec Jones. Soniodd am fywyd yn Ghana a’r pwyslais ar ailgylchu er mwyn byw ee creu tegannau allan o boteli coffi a fflip fflops. Yr hyn oedd yn amlwg oedd fod y plant – er nad oes ganddynt hanner yr hyn sydd gennym ni, yn blant mor hapus a dyfeisgar. Diolch i Mrs Jones, am brynhawn mor arbennig ac mae ein hedmygedd ni yn fawr tuag atoch.
Diolch a Ffarwel (Welsh only)
Ar ddiwedd y tymor, cafwyd cyfle i ddiolch i Mrs Angaharad Parry Owen am bum mlynedd a`r hugain o wasanaeth clodwid i Ysgol Llanllechid. Cyflwynwyd llu o anrhegion i Mrs Parry Owen yn neuadd yr ysgol i ddiolch iddi am ei gwaith a`i gwasanaeth i Ysgol Llanllechid. Dymunwn bob dymuniad da i chi yn ystod y bennod newydd yn eich hanes ac i`r dyfodol.
Sioe Nadolig – Cynllwyn Canslo’r Nadolig (Welsh only)
Cafodd y gynulleidfa gref yn Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen eu cludo mewn amser yn ôl i ddechrau’r ganrif ddiwethaf ar y noson hon ym mis Rhagfyr. Dosbarthiadau Mrs Marian Jones, Mrs Nerys Tegid, Mr Stephen Jones a Mr Huw Jones oedd yn perffromio, ac roedd hon yn sioe wreiddiol, wefreiddiol, wedi ei seilio yng nghyfnod Streic Chwarel y Penrhyn yn y flwyddyn 1901.
Dilyn hynt a helynt un teulu penodol oedd yr edau oedd yn gwau drwy`r cyfan, ac roedd hi`n ofynnol i`r teulu bach hwnnw feddwl sut i oresgyn sefyllfaoedd anodd, heriol oedd yn eu hwynebu; sefyllfaoedd real o`r cyfnod – ee y ferch hynaf yn canu yn y côr merched gan deithio ar hyd a lled Prydain er mwyn codi arian; y tad yn symud i dde Cymru er mwyn chwilio am waith yn y pyllau glo; a’r ferch oedd yn cwrdd â ffrindiau newydd mewn ysgol newydd ac yn gorfod symud i`r ysgol honno oherwydd y sefyllfaoedd oedd yn codi. Ac yn gysgod ar y cyfan oll roedd gorchymyn ffug yr Arglwydd Penrhyn i ganslo’r Nadolig.
Cafwyd perffomriadau arbennig gan yr holl blant – yn geirio yn glir ac yn actio a chanu hyd eithaf eu gallu! Gwelwyd disgyblion oedd wedi dechrau yn Ysgol Llanllechid yn dair mlwydd oed, â dim gafael ar yr iaith Gymraeg, yn perfformio yn hollol huawdl yn yr iaith.
Noson wefreiddiol yn wir, a chymaint o bobl yn cysylltu gyda`r ysgol i ganmol y safon. Diolch i’r staff a`r plant am eu gwaith caled ac i`r rhieni am eu cymorth a`u cefnogaeth. Bydd y sioe hon yn aros yn ein côf am amser maith, a pha ffordd well o ddysgu`r disgyblion am eu hanes nag actio`r cymeriadau, a throedio ar hyd eu llwybrau. Wrth gwrs, roedd y sgript a geiriau`r caneuon yn gwbwl wreiddiol! Dyna beth yw dawn!
Cyngerdd Nadolig y Cylch Meithrin (Welsh only)
Roedd y rhieni wedi dotio clywed a gweld y plantos bach yn perfformio, ac roedd pawb yn synnu a rhyfeddu wrth weld plant mor ifanc yn cofio eu geiriau wrth lefaru, ac yn ei morio hi! Diolch i Anti Debbie a`i thîm am fod mor weithgar ac am eu gwaith caled.
Cyngerdd Nadolig Dosbarth Meithrin (Welsh only)
Tro`r Dosbarth Meithrin oedd hi wedyn, llond llwyfan ohonyn nhw, yn trio eu gorau glas, ac yn edrych yn ddigon o ryfeddod yn eu gwisgoedd! Diolch i Ms Hâf a`i thîm am y wledd!
Cyngerdd Nadolig Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 (Welsh only)
Bu dosbarthiadau Ms Elen Evans a Mrs Parry Owen yn torchi llewis er mwyn perfformio o flaen llond neuadd o rieni a chyfeillion yr ysgol. Gwledd arall! Click here to see pictures
Cyflwyniad Drama`r Geni (Welsh only)
I gapel Carmel aeth dosbarthiadau Mrs Wilson, Mrs Williams a Mrs Bethan Jones i actio stori`r Geni, a chanu carolau traddodiadol a llwyddwyd i greu naws Nadoligaidd hyfryd. Diolch i Mrs Helen Williams am ei chefnogaeth ac am ei chymorth parod pob amser.
Gwasanethau Boreol (Welsh only)
Diolch i`r Parchedig John Pritchard am ddod i mewn atom yn rheolaidd ar gyfer cynnal gwasnaethau boreol, a diolch hefyd i Morgan am ddod yma i ddarllen storiau o`r Beibl yn y gwahanol ddosbarthiadau.
Gweithgareddau Amrywiol (Welsh only)
Cafwyd torreth o weithgareddau amrywiol; gormod o lawer i ni eu rhestru yma, ond digon yw dweud i`r disgyblion gael ystod helaeth o wahanol brofiadau yn ystod bwrwlm y Nadolig.
Taith i Ynys Môn (Welsh only)
Cafodd dosbarth Mrs Marian Jones fore hynod greadigol pan aethant i ‘Weithdy Crefftau Nadolig’ yn Oriel Môn, Llangefni. Bu’r disgyblion yn brysur iawn drwy’r bore yn creu pob math o addurniadau lliwgar a deniadol. Yna, yn y p`nawn, aethpwyd ati i ymhél â gweithgareddau map yng ngerddi Plas Newydd. Roedd rhaid dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus a darllen y map yn gywir er mwyn cwblhau’r daith ar hyd y llwybr. Gwelsom ryfeddodau lu, yn ogystal â golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri.
Cyfarfod Sion Corn (Welsh only)
Diwrnod i’w gofio oedd dydd Iau yr 8fed o Ragfyr i blant y dosbarth Derbyn! Dyma’r diwrnod pan aeth y plant ar y trên i weld Sion Corn! Cafwyd taith yn gyntaf ar hyd llyn Padarn yn Llanberis, ac wrth i’r trên nesau at yr Orsaf a oedd wedi haddurno’n Nadoligaidd, dechreuodd y plant gyffroi a chanu “ Pwy sy’n dwad dros y bryn?” ac yno’n wir, roedd Sion Corn yn aros i’w cyfarch. Roedd y plant wedi gwirioni cyfarfod Sion Corn, a oedd yn hynod o glên a charedig!
Yng nghanol yr holl rialtwch, cafodd pob disgybl gyfle i gyfarfod Sion Corn yn yr ysgol, gwledda a dawnsio yn y partion, ac wedi hynny, daeth yn ddiwedd tymor yn chwap, a chyfle i drefnu Nadolig ar ein haelwydydd! Click here to see pictures
Dathlu ein Cymreictod (Welsh only)
Braint oedd croesawu Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn atom ynghyd a`i chymar, Tudur. Cafwyd diwrnod o farddoni, chwarae gemau geiriol a dysgu sut i glocsio! Brwdfrydedd a bwrwlm yn wir! Diolch o galon!
Pantomeim Blodeuwedd (Welsh only)
Pleser pur oedd cael mynd i Pontio i fwynhau pantomeim Blodeuwedd!
Bore Coffi Nadolig (Welsh only)
Diolch yn fawr i`r Pwyllgor ac i bawb a ddaeth i gefnogi`r Bore Coffi yn Neuadd Ogwen. Byddwn yn trefnu Ras Moel Wnion y tymor hwn a`r Bingo Pasg blynyddol ar ddiwedd y tymor. Diolch i bawb sy`n gweithio`n galed i gefnogi`r ysgol mewn cymaint o wahanol ffyrdd er budd ein disgyblion.
How to switch your Energy Supplier
Click here to see the document