News Archive - 2019
Parti Nadolig Adran Iau (Welsh only available)
Cafwyd hwyl a sbri pan ddaeth Sion Corn i ymweld â holl ddisgyblion yr ysgol a chafwyd parti i’w gofio!
Click here to see more photos
Parti Cyfnod Sylfaen (Welsh only available)
Cafodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen barti a hanner! Mwynhewch y lluniau!
Click here to see more photos
Clwb Mentergarwch (Welsh only available)
Dyma griw sy’n llawn brwdfrydedd ac yn greadigol dros ben. Dyma’r syniad diweddaraf! Lapio gyda chwyr gwenyn! Ar werth yn yr ysgol Ionawr 2020.
Click here to see more photos
Apel y Pabi Coch (Welsh only available)
Diolch i bawb am gyfrannu.
Click here to see more photos
Creu Pitsa (Welsh only available)
Bu plant bach dosbarth Meithrin Ms Rhian Haf yn brysur yn gwneud pitsas!
Click here to see more photos
Cinio Nadolig (Welsh only available)
Diolch i Mrs Macdonald a’i thÏm am y cinio Nadolig blasus dros ben!
Click here to see more photos
Sion Corn (Welsh only available)
Daeth Sion Corn i’r dosbarth Meithrin a chafwyd cyffro mawr!
Click here to see more photos
Pantomein Pontio (Welsh only available)
Cafwyd hwyl yn gwylio’r pantomein ‘Y Trol Wnaeth Ddwyn y Dolig’ yn Pontio.
Click here to see more photos
Diolch Anti Jean (Welsh only available)
Diolch Anti Jean
Diolch i Anti Jean am flynyddoedd lawer o wasanaeth clodwiw i Ysgol Llanllechid.
Click here to see more photos
Parc Cenedlaethol Eryri (Welsh only available)
Diolch i Mr Sam Roberts am ddod atom i’n dysgu am Barc Cenedlaethol Eryri.
Click here to see more photos
Cyngerdd Nadolig Ysgol Llanllechid a Chor y Penrhyn (Welsh only available)
Gwellhad Buan (Welsh only available)
Braf yw cael nodi fod Ms Lliwen bellach gartref o`r ysbyty, ar ôl arhosiad byr iawn yno. Cafwyd triniaeth faith, a braf yw cael dweud fod Ms Lliwen yn gwella ac mewn hwyliau da, fel arfer! Daliwch ati i wella Ms Lliwen! Mae pawb yn anfon eu cofion atoch.
Y Ddawns Flodau (Welsh only available)
Toedden nhw`n ddigon o sioe!” meddai pawb, wrth edmygu ein dawnswyr, yn y seremoni gadeirio yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen. Dawnsiodd pob un yn ysgfan droed, gan gofio`r symudiadau i`r dim. A braf oedd gweld rhai o`n cyn-ddisgyblion yn serennu yn y seremoni hefyd! Llongyfarchiadau i Beca Nia ar ennill gwobr Medal yr Ifanc, a braf gweld Gwydion Rhys yn canu`r piano,- fel dewin! Diolch i Mrs Wilson am hyfforddi`r disgyblion i ddawnsio, a diolch arbennig i Nel, Addison, Mali, Nanw, Anna, Catrin, Mili, Awel, Lili, Mared Llew a Mared Elain am fod yn ddigon o sioe!
Click here to see more photos
Gwasanaeth Nadolig Cyfeillion Ysbyty Gwynedd (Welsh only available)
Braint oedd cael y cyfle i rai o`n disgyblion hŷn gymryd rhan yng Nghapel Carmel ar ddydd Sul, Rhagfyr y cyntaf, mewn gwasanaeth Nadolig arbennig. Cafwyd prynhawn i`w gofio, a braf oedd cymryd rhan gyda thrawsdoriad o bobl o`r ardal. Diolch am y croeso cynnes i gapel Carmel, a braf, unwaith yn rhagor, oedd gweld yr holl addurniadau Nadoligaidd chwaethus gan ddisgyblion yr Ysgol Sul a`r Clwb Dwylo Prysur, yn harddu`r capel.
Diolch i Mrs Delyth Humphreys, Ms Gwenlli Haf a Mrs Helen Roberts am eu cymorth.
Click here to see more photos
Ffair Nadolig (Welsh only available)
Cafwyd Ffair a hanner, a chiwiau hir i weld Sion Corn! Noson fyrlymus a phawb yn canmol yr arlwy o`r gegin, sef twrci a stwffin cartref Anti Gillian! Diolch i`r holl stondinwyr ac i bawb a ddaeth ynghyd i gefnogi. A diolch arbennig i`n pwyllgor prysur am yr holl waith ymlaen llaw, ac ar y noson! Llwyddiant ysgubol! Diolch o galon i bawb!
Click here to see more photos
Eisteddfod Dyffryn Ogwen (Welsh only available)
Gyda llawenydd a balchder y clodforwn a llongyfarchwn ddisgyblion Ysgol Llanllechid ar yr holl lwyddiannau yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen. Roedd hi`n fraint anhygoel cael bod yn bresennol, a gweld ein disgyblion yn dod i`r brig ym mhob maes. Diolch o galon i`r holl blant am eu hymroddiad a`u hymddygiad boneddigaidd drwy gydol y dydd, ac i`r rhieni am eu cefnogaeth. Diolch arbennig i staff Ysgol Llanllechid i gyd, am gydweithredu fel tîm llwyddiannus iawn, er lles y disgyblion. Yn ôl ein harfer, diolchwn i Mrs Helen Williams am ei chymorth hithau, ac i Mrs Gres Pritchrad am ddod atom i gyfeilio. Mae llawer un yn dweud mai fel Eisteddfod Calon Lan y byddant yn cofio`r Eisteddfod hon, gan fod y Cor Plant Bach wedi eu gwefreiddio! Wrth gwrs, nawn ni ddim anghofio buddugoloiaeth y Cor Hŷn chwaith! Llongyfarchiadau hefyd i`r enillwyr Celf a Chrefft a`r tasgau ysgrifenedig. Diwrnod i`w gofio! Gweler rhestr lawn o ganlyniadau am fwy o fanylion.
Click here to see more photos
Dawnsio Disgo (Welsh only available)
Llongyfarchiadau i`r criwiau Dawnsio Disgo ar eu llwyddiant hwythau yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen. Diolch o galon i Ms Kathryn am eu hyfforddi. Roeddem hefyd yn ffodus o gael cymorth gan Mia, merch Ms Kathryn i`n rhoi ar ben ffordd, a hefyd Ms Angharad Shone. Llongyfarchiadau gwresog!
Click here to see more photos
Stwnsh Sadwrn (Welsh only available)
Ymddangososdd rai o`n disgyblion ar Stwnsh Sadwrn ar S4C yn ddiweddar – pawb wedi cael modd i fyw!
Eisteddfod Gadeiriol
Dyffryn Ogwen (Welsh only available)
Click here for more information
Eisteddfod Dyffryn Ogwen Results -
Ysgol Llanllechid
Click here for more information
Cyngerdd Nadolig (Welsh only available)
Rhagyfr 16 - 7:00pm, Pontio, Bangor.
Click here for more information
Ffair Nadolig (Welsh only available)
Cofiwch am ein Ffair Nadolig, nos Wener, Tachwedd 29 am 5.30pm. Dewch yn llu!
Click here to see the poster bigger
Un o`n Hathrawon yn Arwain Athrawon Gwynedd sydd ar eu Blwyddyn Gyntaf (Welsh only available)
Llongyfarchiadau i Ms Gwenlli Haf am drosglwyddo arferion da ein hysgol i weddill athrawon Gwynedd, sydd ar eu blwyddyn gyntaf. Cafodd Ms Gwenlli Haf ei dewis gan GwE oherwydd ei gwaith rhagorol.
Click here to see more photos
Iechyd a Lles
Gan fod y maes hwn yn un o flaenoriaethau`r Cynllun Datblygu Ysgol, bu`r criw Iechyd a LLes yn adrodd i`r Llywodraethwyr ar ein datblygiadau diweddaraf. Diolch hefyd i Mr Emlyn.
Click here for more information
Dawnsio Disgo
Llongyfarchiadau i`r criwiau Dawnsio Disgo ar ddod yn fuddugol yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen, a diolch o galon i Ms Kathryn am eu hyfforddi. Roeddem hefyd yn ffodus o gael cymorth gan Mia, merch Ms Kathryn am ein rhoi ar ben ffordd a hefyd Ms Angharad Shone! Llongyfarchiadau a da iawn chi!
Y Ddawns Flodau (Welsh only available)
Bu`r rhai o ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen wrthin ddiwyd yn ymarfer ar gyfer y seremoni gadeirio yn Neuadd Dyffryn Ogwen. A braf oedd gweld rhai o`n cyn-ddisgyblion yn serennu yno! Llongyfarchiadau i Beca Nia am ennill gwobr Medal yr Ifanc, a braf gweld Gwydion Rhys yn canu`r piano, fel dewin! Diolch i Mrs Wilson am hyffroddi`r disgyblion a rhaid canmol y disgyblion am ddawnsio mor ddeheuig. Roeddent yn werth eu gweld.
Click here to see more photos
Diwrnod Plant Mewn Angen (Welsh only available)
Cafwyd diwrnod o ganu a mwynhau a chodwyd £268.01 tuag at yr elusen hon.
Click here to see more photos
Eisteddfod yr Urdd (Welsh only available)
Mae Rhestr Testunau Eisteddfod yr Urdd ar gael ar lein: cliciwch yma
dyma rai o’r llyfrau / cystadlaethau isod, os ydych chi am archebu, rhowch wybod:
UNAWD BL 3 A 4
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
UNAWD BL 5 A 6
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
DEUAWD BL 6 AC IAU
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
COR BL 6-ADRAN AC YSGOLION
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
PARTI UNSAIN BL 6 AC IAU
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
UNAWD BL 6 AC IAU
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
LLEFARU BL 3 A 4
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen - Rhaglen y Dydd (Welsh only available)
Click here for more information
Admission to Primary School * September 2020 *
Click here for more information
Diolch Anti Wendy! (Welsh only available)
Diolch i Anti Wendy am ei gwaith!
Click here to see more photos
Ysgrifennu Barddoniaeth (Welsh only available)
O dan ambarel Dinasyddiaeth Fyd Eang, bu rhai o’n disgyblion hynaf yn cyfansoddi barddoniaeth gyda’r gwr o Jamaica, Yasus Afari!
Click here to see more photos
Cadw’n Heini (Welsh only available)
Diolch i Dr Ross Roberts am ddod atom i gynnal sesiynau ffitrwydd a chadw’n heini.
Click here to see more photos
Diolchgarwch (Welsh only available)
Roedd hi’n braf gweld llond neuadd o bobol wedi dod ynghyd i’n cefnogi! Diolch!
Click here to see more photos
Ms Lliwen (Welsh only available)
Braf gallu dod at ein gilydd i help pobl eraill. A’r tro yma cafwyd diwrnod hwyliog, wedi ei drefnu gan y Cyngor Ysgol i godi arian tuag ar Gronfa Ms Lliwen.
Click here to see more photos
Ms Gwenlli Haf (Welsh only available)
Cafodd Ms Gwenlli Haf ei dewis gan GwE i roi sgwrs ddifyr i athrawon Gwynedd, sy’n dechrau ar eu gyrfa. Llongyfarchiadau Ms Haf!
Click here to see more photos
Iechyd a Lles (Welsh only available)
Dyma’r plant hynaf yn mynd amdani!
Click here to see more photos
Noson Cyri a Cwis (Welsh only available)
Yr un yw ein diolch hefyd i gyfeillion Ysgol Llanllechid am eu gwaith caled yn trefnu’r noson Cyri a Cwis. Diolch o galon am eich holl waith gwych! A diolch arbennig i Anti Wendy am fod yn gwisfeistres mor broffesiynol. Roedd pawb yn canmol y noson hon! Gwych! Cawn wybod maes o law faint o arian a godwyd i Gronfa Ms Lliwen ac Ysgol Llanllechid.
Click here to see more photos
Athletau (Welsh only available)
Llongyfarchiadau Hari, Sion Dafydd, Caleb, Ned, Ceirion, Aron, Erin, Mali a Seren ar eu perfformiadau campus yng nghystadleuaeth Athletau Dan-do ysgolion Gwynedd yn ddiweddar. Daeth y tîm yn ail allan o 12 ysgol, mae hynny'n dipyn o gamp! Bydd y tîm yn cynrychiol'ir ysgol yn y rownd nesaf yng nghanolfan Brailsford, Bangor o fewn yr wythnosau nesaf. Pob lwc i chi!
Click here to see more photos
T4U Bocsys Nadolig (Welsh only available)
Click here to see more photos
Athletau (Welsh only available)
Llongyfarchiadau i'r Ysgolion canlynol am gael trwodd I Rownd Terfynol Sportshall Cynradd 2019.
Maesincla
Glancegin
Llanllechid
Cae Top
Bethel
Maenofferen 1
Bro Idris A
Godre’r Berwyn 1
OM Edwards
Cymerau
Bro Plennydd
Bro Lleu
Eifion Wyn 1
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn y Neuadd fawr yn Ganolfan Brailsford, Bangor ar Ddydd Iau Tachwedd 28. Ysgolion i gyrraedd am 10:45 i gofrestru a chynhesu i fyny - cystadleuaeth yn dechrau am 11:00a.m. gorffen 13:00p.m.
Harvest Festival Meal
Click here for more information
Cynaladwyedd (Welsh only available)
Mae Meleri Davies wedi cael ei enwebu ar gyfer rhestr fer gwobrau Academi Cynaladwyedd 2019 Cymru fel Eiriolydd Cynaladwyedd, a chyrraedd y rhestr fer yng ngwobrau Regen ar lefel Prydain fel 'Green Energy Pioneer`
Ewch ati I bleidleisio!
Yasus Afari (Welsh only available)
Braint oedd gwahodd y bardd Yasus Afari o Jamaica atom i Ysgol Llanllechid – a`i neges oedd:
Un Byd, Un cariad, Un Ddynoliaeth. Cawsom amser difyr yn ei gwmni yn canu, dawnsio ac yn dysgu am Jamaica, ynghyd â dysgu am bwysigrwydd cyfeillgarwch,a`n cydymwneud â`n gilydd fel brodyr a chwiorydd ar draws y byd, gan ddathlu ein gwahaniaethau a dysgu oddi wrth ein gilydd.
Cliciwch yma am fwy o luniau
Cyfarfod Diolchgarwch Capel Carmel (Welsh only available)
Braf iawn oedd cael mynd i Gapel Carmel i`r Gwasnaeth Diolchgarwch, a diolch unwaith eto i Mrs Helen Williams am ei gwaith di-flino yn arwain y cyfan gyda athrawon eraill yr Ysgol Sul.
Cliciwch yma am fwy o luniau
Llosgfynyddoedd (Welsh only available)
Tro dosbarth Mrs Tegid oedd cymryd rhan yn y gweithdy daeareg y tro yma o dan arweiniad
Cliciwch yma am fwy o luniau
Ein Perllan (Welsh only available)
Mae blynyddoedd wedi mynd heibio ers i Mrs Bethan Jones a`r disgyblion blannu ein coed afalau ac erbyn hyn maent yn dwyn ffrwyth – llond bwcedi i ddweud y gwir! Bu`r disgyblion yn brysur yn eu hel ac yn gwneud pentyrau o gacenau afalau blasus!
Cliciwch yma am fwy o luniau
Ysgol Iach (Welsh only available)
Bu cryn brysurdeb yn creu ysgytlaeth iach fel rhan o`n gwaith ar gyfer lles a iechyd.
Cliciwch yma am fwy o luniau
Disgo`r Urdd (Welsh only available)
Diolch am y disgo`r Urdd unwaith eto. Braf gweld ein disgyblion i gyd yn dal at ii siarad Cymraeg tu allan i libart ein hysgol. Da iawn chi!
Cliciwch yma am fwy o luniau
Amgueddfa Owain Glyndwr ac Eglwys Rhug (Welsh only available)
Aeth dosbarth Mrs Tegid draw i Amgueddfa Owain Glyndwr yng Nghorwen i ddysgu mwy am ein harwr. Cyn troi nol, bu cyfle i fynd i Eglwys Rhug i dreulio orig dawel yn sylwi a myfyrio. Diwrnod da!
Cliciwch yma am fwy o luniau
Sialens Ddarllen yr Haf (Welsh only available)
Llongyfarchiadau calonogol i`r disgyblion a fu`n llwyddiannus yn Sialens Ddarllen yr Haf. Cliciwch ar y linc i weld eu lluniau!
Cliciwch yma am fwy o luniau
Diwrnod Hwyl! (Welsh only available)
Click here for information
Fflam Heddwch (Welsh only available)
Diolch i Leisa Mererid a Sheila am ddod draw i Ysgol Llanllechid i rannu negeseuon y Fflam Heddwch ac am ein dysgu ni i gyd i ymwneud â symudiadau`r Goeden Ioga.
Cliciwch yma am fwy o luniau
Curry and Quiz Night!
Click here for information
Taith i Ynys Môn (Welsh only available)
Aeth dosbarth Blwyddyn 3 draw i Sir Fôn yn ddiweddar i gael gwneud gweithgaredd map ym Mhlas Newydd. Gan ein bod yn canolbwyntio ar goedwigoedd, roedd yn brofiad bendigedig cael dilyn y llwybrau hyfryd drwy’r coed, a gweld nifer fawr o wiwerod cochion yn sboncio yma a thraw ar hyd y canghennau uchel. Roedd lliwiau’r dail yn fendigedig, ac roedd y cyfan yn atgoffa’r plant o gerdd ‘Dawns y Dail’ gan T. Llew Jones.
Ar ôl cael cinio yn yr awyr agored, aethom draw i Oriel Môn yn Llangefni, lle cawsom weithdy arbennig. Cawsom ein haddysgu sut i edrych yn fanwl ar wahanol ddarnau o gelfyddyd, gan ganolbwyntio ar liw, siap a chynnwys cefndiroedd y darluniau. Mae’n anhygoel sylweddoli faint o fanylion diddorol sy’n digwydd yng nghefndir pob un o’r lluniau, a’n bod yn colli gweld cymaint ohonynt wrth gerdded heibio’n gyflym! Diwrnod gwerth chweil!
Click here to see more photos
Ysgol Arweiniol Greadigol (Welsh only available)
Bellach mae ein wal Meddylfryd o Dwf wedi ei chwbwlhau a diolch i Mrs Anwen Burgess am gydweithio mor egniol gyda`r ysgol ar y cynllun hwn. Mae`r wal yn werth ei gweld ac wedi newid y gofod tu allan i`r Cyfnod Sylfaen yn syfrdanol. Mae pob disgybl yn yr adran Cyfnod Sylfaen wedi creu llun ar gyfer y murlun ac mae`r sloganau sydd arno yn rhai y byddwn yn cario hefo ni Sul, gwyl a gwaith! Diolch i Mrs Wilson am arwain y cynllun a diolch hefyd i Mr Garem Jackson am ddod draw i Ysgol Llanllechid i gymryd rhan yn y bwrlwm!
Click here to see more photos
Ysgol Llanllechid ar y Newyddion ar S4C (Welsh only available)
Ar Fedi 14eg roedd Ysgol Llanllechid ar y Newyddion Cymraeg! Cymorth cyntaf oedd y pwnc dan sylw, a hynny ar ddiwrnod cenedlaethol Cymorth Cyntaf. Roeddem yn ffodus eto eleni o gael cwmni Mr Dafydd Beech o`r Groes Goch i`n harwain. Cafwyd diwrnod byrlymus a digon o gyfle i ddysgu sgiliau pwysig bywyd. Diolch o galon Mr Beech!
Taith yr Iaith (Welsh only available)
Diolch i Llion Williams, actor amryddawn, am ddod draw unwaith eto i berfformio sioe Taith yr Iaith i`r Adran Iau. Sioe fendigedig yw hon, yn olrhain taith ein hiaith o`i dechreuad i`r presennol. Rhyfeddir at yr holl rwystrau sydd wedi wynebu ein hiaith ar hyd y canrifoedd, a`r rhyfeddod mwyaf yw ei bod yn parhau i ffynnu, yn wyneb yr holl dreialon – ond ni ellir llaesu dwylo, â tharged ein Llywodraethwyr yn filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ymlaen mae Canan! Dyma beth yw addysg bwysig dros ben!
Click here to see more photos
Archifdy (Welsh only available)
Diolch yn fawr i Gwenda am ddod draw at y Cyfnod Sylfaen i son am fywyd ers talwm, pan nad oedd son am drydan yn y cartrefi.
Click here to see more photos
Clwb Codio (Welsh only available)
Diolch i Mr Stephen Jones a Mr Emlyn am arwian y Clwb Codio wythnosol. Mae hwn yn glwb poblogaidd dros ben!
Click here to see more photos
Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Welsh only available)
Aeth ein disgyblion Blwyddyn 6 draw i Lanllyn ar lannau llyn Tegid, i gymryd rhan mewn gweithdai, i ddangos rhai o arferion da Ysgol Llanllechid i 150 o fyfyrwyr o Brifysgol Bangor. Cafwyd amser gwerth chweil a braf cael cyd-wethio a chyd rannu arferion da ein hysgol hefo athrawon y dyfodol. Diolch i Ms Gwenlli Haf ac i Mrs Tegid am eu cymorth parod ac i`n disgyblion Bl 6 am eu hymddygiad boneddigaidd, eu brwdfrydedd a`u haeddfedrwydd. Diolch Hefyd i Gwawr Maelor o Brifysgol Bangor am y gwahoddiad.
"Diolch yn fawr iawn i chi gyd blant Blwyddyn 6 Ysgol Llanllechid a'r athrawon am ddod draw yr holl ffordd i Lan-llyn i ganu ac i ddysgu canu i 150 o ddarpar athrawon ! Waw dyna chi gamp - dysgu cyn gymaint o athrawon! Sut oeddech chi'n gallu canu a symud a gwneud cyflwyniadau am dros awr gyfan a chofio popeth, wel mae'n amlwg eich bod yn cael llawer o hwyl yn perfformio yn yr ysgol.
Diolch hefyd am fod mor gwrtais a llawen hefo pawb! Wir, rydych chi unwaith eto yn rhoi Ysgol Llanllechid ar y map!
Dwi'n siwr y bydd y criw sy'n dysgu bod yn athrawon yn dysgu o leiaf un gân Cymraeg mewn 150 o ysgolion wythnos nesa! Dyna chi dda yntê! A hynny diolch i chi gyd! Mi rydach chi'n athrawon canu ac actio gwerth chweil!"
- Gwawr Williams
Click here to see more photos
Ysgol Llanllechid yn Japan (Welsh only available)
Wrth i ni gyd chwysu chwartiau yn cefnogi ein gwlad, cafodd Mr David Alsop, tad Elsi, y cyfle i fynd i Japan i wylio`r gemau! A chwarae teg iddo – aeth a chrys Ysgol Llanllechid hefo fo, ac mae`r lluniau`n werth eu gweld. Enghraifft arall o Addysg Byd Eang! Diolch Mr Alsop.
Click here to see more photos
School Lunch Menu 2019
Click here for the School lunch menu
Click here for more details about School lunch
Treialon Rygbi (Welsh only available)
Treialon Rygbi Ysgolion Eryri wedi eu gohirio.
Byddant yn cael eu cynnal rwan ar Hydref 7fed a'r 9fed.
Click here for information
Gwasnaeth Tân (Welsh only available)
Diolch i swyddog o`r Gwasanaeth Tân am ddod i Ysgol Llanllechid i drafod ei gwaith a pheryglon tan.
Click here to see more photos
Ysgol Arweiniol Greadigol (Welsh only available)
Bellach mae ein wal Meddylfryd o Dwf wedi ei chwbwlhau a diolch i Mrs Anwen Burgess am gydweithio mor egniol gyda`r ysgol ar y cynllun hwn. Mae`r wal yn werth ei gweld ac wedi newid y gofod tu allan i`r Cyfnod Sylfaen yn syfrdanol. Mae pob disgybl yn yr adran Cyfnod Sylfaen wedi creu llun ar gyfer y murlun ac mae`r sloganau sydd arno yn rhai y byddwn yn cario hefo ni Sul, gwyl a gwaith! Diolch i Mrs Wilson am arwain y cynllun a diolch hefyd i Mr Garem Jackson am ddod draw i Ysgol Llanllechid i gymryd rhan yn y bwrlwm!
"Diolch yn fawr iawn am y cyfle i gydweithio hefo Ysgol Llanllechid. Braf iawn cael gweld y wal arbennig yma pob bore a brwdfryedd y plant tuag ati."
- Anwen Burgess
Click here to see more photos
Rhoddion Cyfeillion (Welsh only available)
Diolch i gyfeillion Ysgol LLanllechid am brynu rhoddion gwerthfawr a defnyddiol i bob dosbarth, sef adnoddau ar gyfer amseroedd chwarae er mwyn sicrhau fod pawb yn cadw`n iach a heini! Hefyd, diolchir am y llyfrau a`r cyfraniad o £1,000 i`w prynu. Llond trol o ddiolch!!
Click here to see more photos
DIWRNOD CYMUNEDOL a SIARTER IAITH
Dear Parents and Guardians,
Ysgol Llanllechid Autumn Fair
Our annual Autumn Fair was once again a roaring success, and even though the weather was unfavourable, you came to support us in droves, parents and friends alike! Greatly appreciated!
Thank you to parents/guardians and school staff for all their efforts. It was a truly wonderful Fair, and the hard work put in by the few committee members, under Angharad Llwyd’s lead, paid off!
Thank you to everyone who helped on the day in any way; to you who manned the stalls, by the main entrance, arranging games, creating hairstyles, making candy floss, face painting and many other events – a sincere thank you to you all.
A special thank you to Hogiau’r Bonc for entertaining us and creating a marvellous ambience. It was great to see an extra member in the group, namely, Gruff (4 years old) singing away with his guitar!
Thank you to the S4C stars, Deian And Loli, for travelling a great distance to be with us. It was a privilege to meet them, and it was a pleasure to see the long queue of pupils waiting for a signed photograph! What a privilege - our pupils love watching Deian and Loli on tv!
One of the highlights, without doubt, was the luscious lunch served by the kitchen! We have never had such tasty chips and curry sauce!! Everyone commented on the standard of the food, and certain foodstuffs ran out and had to be replenished, reflecting the high demand for the lunches!!! Thank you to Anti Gillian and her team for their relentless work in the kitchen.
Thank you to all who donated vouchers and gifts towards the raffle: we will thank them separately for their generosity towards Ysgol LLanllechid.
Also, we are very grateful to everyone who stayed behind after the Fair to clear up and count the money; a great team effort!
To arrange a Fair on this scale takes a great deal of effort, and we appreciate your assistance and support during the day itself. For the future, I implore those of you who are able to attend meetings, and help the committee in any way prior to the fair to do so, please.
All the funds raised will be used to significantly reduce the cost of excursions for our pupils etc.
I wish to take this opportunity to thank the P.T.A. for purchasing resources for all the classes before the summer holiday, - resources for use during playtimes in accordance to the school`s work on fitness and health. Thank you also to the P.T.A for purchasing one thousand pounds worth of reading books too!
Thanks to everyone for all the contributions, be it large or small, for the benefit of all our brilliant pupils here at Ysgol Llanllechid.
Click here to see more photos
Cwpan y Byd (Welsh only available)
Cerdd Dant (Welsh only available)
Click here for more information
Primary School Lunch Questionnaire
Click here for more information
Hanes yn y Cyfnod Sylfaen (Welsh only available)
Dyma beth oedd wedi cael ei adael ar y fainc yn y Neuadd Fwyta!
Click here to see more photos
Dewch i`r Ffair! (Welsh only available)
Dyma neges gan PC Owain Edwards – “Dewch i`r Ffair!”
Click here for more information
Diolchgarwch! (Welsh only available)
Diolch Mari Watcyn am y geiriau teimladwy a charedig.
Click here for more information
Gweithdai Cerdd y Cyfnod Sylfaen (Welsh only available)
Dyma Mrs Delyth Humphreys a Ms Kathryn yn brysur hefo`n plantos yn dysgu rhythmau ac ati.
Click here to see more photos
Amgueddfa Lechi Llanberis (Welsh only available)
Aeth rhai o ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen i Amgueddfa Lechi yn Llanberis i ddysgu am fywyd y chwarelwyr – gwersi pwysig.
Click here to see more photos
Wrth fy Modd Hefo Bwyd Cymreig (Welsh only available)
Click here for more information
Mynediad i Ysgol Gynradd - Medi 2020 (Welsh only available)
Click here for more information
Ffair Hydref (Welsh only available)
Click here for more information
Cystadleuaeth Aldi (Welsh only available)
Click here for more information
Rhodd Arbennig (Welsh only available)
Diolch i Mr Kervegant am ei anrheg arbennig. Byddwn yn brysur iawn yn fuan yn tyfu madarch!
Lon Fach Odro (Welsh only available)
At ymyl llyn Corddi ar Lon Fach Odro yr aeth disgyblion Bl 3, sef disgyblion Mrs Marian Jones, i graffu ar fyd natur yn ystod sesiwn Addysg Awyr Agored.
Click here to see more photos
Stwnsh Sadwrn (Welsh only available)
Daeth Mari ac Owain draw i Ysgol Llanllechid, sef cyflwynwyr Stwnsh Sadwrn, i gael sbort a sbri hefo`n disgyblion. Blantos, cofiwch wylio pob dydd Sadwrn rwan er mwyn gweld eich hunain ar S4C!
Click here to see more photos
Addysg Awyr Agored (Welsh only available)
Aeth ein disgyblion hynaf i Goedwig Eithinog i ddatblygu eu sgiliau gwyddonol yn yr awyr agored. Diolch yn fawr i Mr Ben Stammers am ei arweiniad parod ac am ei gyfraniad gwerthfawr i fywyd a gwaith Ysgol Llanllechid.
Click here to see more photos
Ysgol Llanllechid ar Newyddion S4C (Welsh only available)
Ar Fedi 14eg roedd Ysgol Llanllechid ar y Newyddion Cymraeg. Cymorth cyntaf oedd y pwnc dan sylw a hynny ar ddiwrnod cenedlaethol Cymorth Cyntaf. Roeddem yn ffodus eto eleni o gael cwmni Mr Dafydd Beech o`r Groes Goch i`n harwain. Cafwyd diwrnod byrlymus a digon o gyfle i ddysgu sgiliau pwysig bywyd. Diolch o galon Mr Beech.
Click here to see more photos
Pentre Peryglon (Welsh only available)
Aeth Blwyddyn 6 draw i Bentre Peryglon i ddysgu am sut i gadw eu hunain yn saff a diogel.
Click here to see more photos
Diolch yn fawr (Welsh only available)
Diolch i chi am ddiolch i ni!
Click here to see more photos
COMPETITION - WIN A CHROMEBOOK FOR YOUR SCHOOL!
Click here for more information
Flu Immunisation Session - 15th of October
Click here for more information
Cymorth Cyntaf (Welsh only available)
Diolch i Mr Dafydd Beech o`r Groes Goch am ddod at ein disgyblion hynaf i`w trwytho mewn technegau Cymorth Cyntaf. Cafwyd prynhawn penigamp a phwy ddaeth draw i ffilmio, neb llai na S4C!
Click here to see more photos
Cystadleuaeth Stori Fer Rhaglen Aled Hughes BBC Radio Cymru (Welsh only available)
Rydym yn galw ar ddisgyblion i ysgrifennu stori fer o ddim mwy na 500 gair ar thema "Y Penblwydd", i gyd fynd a dathliadau penblwydd Sali Mali yn 50 oed, un o brif gymeriadau llyfrau plant Cymru.
Mae pedwar categori eleni –
Iaith gyntaf blwyddyn 3 a 4,
Ail iaith blwyddyn 3 a 4,
Iaith gyntaf blwyddyn 5 a 6
Ail Iaith blwyddyn 5 a 6.
Bydd Aled yn darlledu ei raglen o ysgolion y pedwar enillydd yn ystod wythnos 21 i 25 Hydref (gyda chaniatâd yr ysgol / disgybl a’u rhieni/gwarchodwyr), a bydd yr enillwyr eu hunain yn derbyn rhodd gan y Cyngor Llyfrau.
Ifana Saville ac Anni Llyn yw’r beirniaid fydd yn pori drwy'r straeon ac yn dewis y bedair stori orau.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei lansio yn swyddogol ar raglen Aled Hughes, fore Mawrth Medi 24ain .
Os am gystadlu, rhaid i'r ysgol anfon eu straeon byrion (ynghyd a ffurflen gais sydd i’w chael ar wefan Radio Cymru) i Radio Cymru erbyn y dyddiad cau, Hydref 4ydd.
Y cyfeiriad yw:
Stori Fer Aled Hughes
BBC Radio Cymru
Bryn Meirion
Bangor
LL57 2BY
Rhaid nodi'n glir ffugenw’r disgybl, y categori ac enw’r ysgol ar ben pob stori os gwelwch yn dda.
Bydd angen i'r ysgol gadw rhestr o'r enwau sy'n cyd-fynd a'r ffugenwau.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â rhaglen Aled Hughes ar aled@bbc.co.uk
POB LWC!
Click here for more information
Click here for the application form
Tŷ Newydd Writing Squad
If you have budding young writers at your school who have a vivid imagination and are keen to write? If you do, the first session will be held on Sunday 22 September 22 at Tŷ Newydd Writing Centre, Llanystumdwy, Gwynedd from 11.00 am – 2.00 pm. Gruffudd Eifion Owen, the new Bardd Plant Cymru (Welsh-language Children’s Laureate) will lead this inaugural Squad.
The cost of each session is £10, and the registration and payment for each child can be made online via the Tŷ Newydd (alternatively, we can receive cheques).
Click here for more information
Do you want to Learn Welsh?
Click here for more information
New Academic Year
Welcome back. First day of term is September 4th.
Hwyl Fawr! (Welsh only available)
Unwaith eto, daeth hi’n amser ffarwelio hefo`n disgyblion Blwyddyn 6; disgyblion aeddfed, dawnus, rhugl yn y Gymraeg ac arweinwyr y dyfodol!
Click here to see more photos
Ysgol Heddwch (Welsh only available)
Diolch i Sheila o ‘Fflam Heddwch y Byd’ am alw draw i’n gweld!
Taith Gerdded (Welsh only available)
Lle gwell i fynd i gerdded na Nant Ffrancon!
Click here to see more photos
Canu hefo Lisa Jên (Welsh only available)
Profiad a hanner yn Neuadd Ogwen!
Click here to see more photos
Carnifal (Welsh only available)
Rhialtwch diwedd y flwyddyn! A hufen ia Mon ar Lwy am ddim i bawb!
Click here to see more photos
Meddylfryd o Dwf (Welsh only available)
Cyflwyniadau grymus i’r Llywodraethwyr! Diolch i Mrs Wilson am arwain. Hefyd, mae`r murlun tu allan Adran y Cyfnod Sylfaen ar y thema Meddylfryd o Dwf a welodd olau dydd o dan waith yr ysgol fel ysgol arweiniol greadigol yn werth ei weld. Diolch i Anwen Burgess am ein cynorthywo.
Gelli Gyffwrdd (Welsh only available)
Lle bendigedig! Dosbarth Meithrin yn cael modd i fyw!
Click here to see more photos
Avantika Annwyl (Welsh only available)
Proifatharwes yn Delhi yw Avantika a`n ffrind ni oll. Diolch Avantika am agor ein gorwelion mewn cymaint o ffyrdd a diolch arbennig am y gweithdai clapio a’r yoga ysgol gyfan.
Click here to see more photos
Clwb Henoed Rachub (Welsh only available)
Diolch i’n plantos ac i Harry Bale am ddiddanu ein ffrindiau o Glwb yr Henoed yn Rachub.
Click here to see more photos
Addysg Byd (Welsh only available)
A dinasyddiaeth fyd-eang – braint oedd cael cwmni Dr Salama yn ein plith.
Click here to see more photos
Ras am fywyd (Welsh only available)
Diolch i Ysgol Dyffryn Ogwen am drefnu`r weithgaredd flynyddol hon.
Click here to see more photos
Noson o Wledda (Welsh only available)
Cafwyd sbort yn gwledd a chymdeithasu ar ddiwedd y tymor!
Click here to see more photos
Gwobrau’r Cwricwlwm (Welsh only available)
Da iawn Bl 6 ar ennill tystysgrifau nofio.
Click here to see more photos
Y Lamas (Welsh only available)
Mae cymaint o hwyl i’w gael pan fo athrawon mor arbennig yn ymlacio a chael hwyl hefo’n plantos..
Click here to see more photos
Tren Bach Porthmadog (Welsh only available)
Taith hyfryd i’r Cyfnod Sylfaen. Diolch i Anti Wendy am drefnu.
Click here to see more photos
Mabolgampau’r Adran Iau (Welsh only available)
Diolch i Ysgol Dyffryn Ogwen am drefnu`r weithgaredd flynyddol hon.
Click here to see more photos
Patagonia (Welsh only available)
Diolch i Michel Downey am gadw cysylltiad hefo ni yma yn Ysgol Llanllechid o Batagonia bell.
Click here to see more photos
Y Prifardd Ieuan Wyn (Welsh only available)
Diolch diffuant i’r Prifardd Ieuan Wyn am ddod draw i’n gweld ac i rannu ei ddoniau hefo ni.
Click here to see more photos
Llangollen (Welsh only available)
Roedd taith flynyddol y Cyfnod Sylfaen i Langollen yn un i’w chofio!
Click here to see more photos
Cynhadledd Newid Hinsawdd (Welsh only available)
Braint oedd cael cymryd rhan yn y gynhadledd hon ym Mhrifysgol Bangor.
Click here to see more photos
Mabolgampau Cyfnod Sylfaen (Welsh only available)
Pawb wrthi’n trio eu gorau glas a’r wybren yn glir!
Click here to see more photos
Yr Wyddfa (Welsh only available)
Do, cyrhaeddodd disgyblion CA2 y copa. Llongyfarchiadau! A llongyfarchiadau hefyd i Mrs Davies Jones, Mr Stephen Jones, Ms Kathryn New. Diolch i Stephen Jones o Gwmni Anelu.
Click here to see more photos
ABACH (Welsh only available)
Cyflwyniad call a phwysig oedd hwn yn sôn am beryglon cyffuriau ac ati! Diolch!
Click here to see more photos
Croesi’r Ffordd (Welsh only available)
Mae plant y Cyfnod Sylfaen yn cofio neges Carys Ofalus wrth groesi’r ffordd!
Click here to see more photos
Beicio Noddedig (Welsh only available)
Cafwyd noson i’w chofio yn y Clwb Rygbi. Diolch i’r Cyfeillion a diolch i bawb am ddod a’u beics! Lleoliad gwerth chweil ar noson gynnes, braf.
Click here to see more photos
Trawsgwlad (Welsh only available)
Da iawn chi ar eich llwyddiant! Gweler y lluniau!
Click here to see more photos
Cyngerdd Mawreddog Ysgol Llanllechid a Chôr Meibion y Penrhyn
(Welsh only available)
Un o’n uchafbwyntiau y flwyddyn addysgol hon oedd y Cyngerdd a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Côr Meibion y Penrhyn a Chôr Ysgol Llanllechid. Roedd y sain a gafodd ei gynhyrchu yn ystod y noson hon yn anghyffredin ac yn angerddol. Derbyniodd yr ysgol gamoliaeth uchel, a diolchir yn ddi ffuant iawn i Mrs Delyth Humphreys am ei hamser yn arwain ac yn addysgu’r disgyblion i ganu i’r fath safon. Diolch hefyd i Ms Sioned Webb am fod mor barod i gyfeilio i ni. Edrychwn ymlaen at gael cyfle eto i ganu hefo Côr Meibion y Penrhyn! Yn ystod y noson hefyd cafwyd rhaglen lawn o eitemau gan Ysgol Llanllechid. Y Gan Actol – Caellwyngrydd, Gruffydd Beech – Cadw Mi Gei (ail wobr yn yr eisteddfod Sir); Harry Bale – Unawd Corn; Cerddorfa Ysgol Llanllechid – Tango a Cha Cha Cha; Gwenno Beech – Llefaru Unigol; Y Gornel Dywyll (Gwobr Gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd); Parti Llefaru – Parti Llefaru gorau`r Byd; Ensemble Lleisiol – Mil Harddach Wyt; Côr Cerdd Dant: Un Blaned Gron; Adran yr Urdd Dyffryn Ogwen – Can y Sipsi a Cherdd Dant – Eira (gwobr Gyntaf yn y Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd). Wedi hyn perfformiodd côr Ysgol Llanllechid amrywiaeth eang o ganeuon gan gynnwys caneuon traddodiadol Cymreig. Cafwyd caneuon grymus gan Gôr Y Penrhyn, ac ymunodd y ddau gôr ar ddiwedd y noson i ganu Calon Lân a Byd o Heddwch. Daeth y noson i ben gyda`r anthem yn atseinio dros y fro!
Click here to see more photos
Foundation Phase Trip
(Welsh only available)
Aeth disgyblion y Cyfnod Sylfaen ar dren bach Porthmadog ac i gael cyfarfod a chael hwyl hefo’r lamas! Diolch i bawb am y daith lwyddiannus. Dach chi’n seren Mrs Williams!!
Click here to see more photos
"Thank you for choosing to bring the children to us yesterday. We had a fantastic time and it was brilliant to spend time sharing our wonderful llamas with such well behaved, enthusiastic, interested children. They really were a credit to the school! "
Taith y Cestyll
Information coming soon .......
Click here to see more photos
Iolo Williams yn Lansio Canllaw Newydd i Ddysgu yn yr Awyr Agored (Welsh only available)
Bu disgyblion Ysgol Llanllechid yn bresennol pan gafodd canllaw newydd i ddysgu yn yr awyr agored ei lansio ar Dydd Gwener Mehefin 21 yng Nghanolfan Mynydda Plas y Brenin. Mae’r canllaw, sy’n cael ei lansio gan Iolo Williams, yn dod â gwybodaeth a phrofiad arbenigwyr awyr agored ar draws Cymru at ei gilydd.
Yn ôl y llysgennad, Iolo Williams, “Dwi’n falch iawn o fod yn rhan o’r lansiad yma heddiw i annog mwy o blant a phobl ifanc i fwynhau dysgu yn yr awyr agored. Mi yda ni yn clywed gymaint heddiw am broblemau iechyd meddwl, gordewdra a diffyg ymarfer corff yn gyffredinol ac mae gan yr awyr agored ran bwysig iawn i’w chwarae yn taclo’r problemau yma. Doeddwn i ddim yn mwynhau addysg ffurfiol, ac mae na amryw yr un peth a fi, ond mi oeddwn i wrth fy modd yn mynd allan efo taid a fy mam am dro yn dysgu am fyd natur. Dwi’n gweld yr adnodd yma fel hwb i fwy o blant ac oedolion wneud yr un peth, gan ddysgu yn yr awyr agored.”
Click here to see more photos
Cyngerdd Mawreddog Ysgol Llanllechid a Chôr Meibion y Penrhyn (Welsh only available)
Cynhaliwyd cyngerdd arbennig iawn yn neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen ar Fehefin 26. Bu`n gyfle i Ysgol Llanllechid rannu llwyfan hefo Côr Meibion y Penrhyn, a chafwyd gwledd o ganu. Braint ac anrhydedd oedd cael canu hefo Côr y Penrhyn, a bydd ein disgyblion ni yn cofio`r profiad am weddill eu hoes!
Roedd hwn yn gyngerdd oedd wedi cael ei drefnu i godi arian ar gyfer plant yr ysgol sy`n derbyn triniaethau meddygol. Cyfeiriwn yn benodol at Ela Lois, sydd yn ferch fach hynod o ddewr, ac sydd wedi derbyn triniaeth cymhleth yn yr Almaen a dymunwn adferiad iechyd llwyr a buan i Ela.
Yn ystod y noswaith, cafwyd amrywiaeth o eitemau gan gynnwys: Y Gan Actol – Caellwyngrydd, Gruffydd Beech – Cadw Mi Gei (ail wobr yn yr eisteddfod Sir); Harri Bale – Unawd Corn (ennill yr ail wobr yn yr Eisteddfod Sir); Cerddorfa Ysgol Llanllechid – Tango a Cha Cha Cha; Gwenno Beech – Llefaru Unigol; Y Gornel Dywyll (Gwobr Gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd); Parti Llefaru – Parti Llefaru gorau`r Byd; Ensemble Lleisiol – Mil Harddach Wyt; Côr Cerdd Dant: Un Blaned Gron; Adran yr Urdd Dyffryn Ogwen – Can y Sipsi a Cherdd Dant – Eira (gwobr Gyntaf yn y Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd). Wedi hyn perfformiodd côr Ysgol Llanllechid amrywiaeth eang o ganeuon gan gynnwys caneuon traddodiadol Cymreig. Cafwyd caneuon grymus gan Gôr Y Penrhyn, ac ymunodd y ddau gôr ar ddiwedd y noson i ganu Calon Lân a Byd o Heddwch. Daeth y noson i ben gyda`r anthem yn atseinio dros y fro!
Diolch i Mrs Delyth Humphreys am ei holl egni a`i hymroddiad wrth arwain y ddau gôr a diolch i ffrind arbennig Ysgol Llanllechid, sef Sioned Webb, am ddod atom i gyfeilio mor ddawnus. Diolchwn hefyd i Arwel Davies am ei arweinaid a`i gydweithrediad ac i aelodau Côr y Penrhyn am gytuno i rannu llwyfan hefo ni. Diolchwn hefyd i Fran Davies, cyfeilyddes Côr Meibion y Penrhyn.
Diolch i Mr Dylan Davies, prifathro Ysgol Dyffryn Ogwen am gael defnyddio Ysgol Dyffryn Ogwen ar gyfer y noswaith.
Diolch i chi`r rhieni a chyfeillion Ysgol Llanllechid am eich holl gefnogaeth a`ch cymorth parod.
Diolch yn fawr iawn i`r canlynol am y gwobrau raffl:
• Venue Cymru
• Y Llechen
• Ty Golchi
• Garej Ffrydlas
• All Sewn Up
• Clustogau gan Janice Williams
• Taleb Ciwticwls gan Ffion Jones
• Cwrw Ogwen
• Ceri Isac – Hamper
• Ceri Evans - Potel Gin
Click here to see the Mawreddog Concert videos and photos
Sponsored Bike Ride
Friday evening, June 28th,
Meet 5:30pm
A welcome to all!
Click here for more information
Wybrnant (Welsh only available)
Aeth disgyblion dosbaerth Mrs Wilson i`r Wybrnant, a phwy oedd yno yn aros amdanynt ond yr Esgob William Morgan! Mwynhewch y lluniau!
Click here to see more photos
Pontio (Welsh only available)
Aeth disgyblion y cyfnod Sylfaen i Pontio i weld sioe arbennig Rwtch Ratch!
Click here to see more photos
Childhood influenza vaccination programme
In 2019/20, all children from reception class to school year 6 will once more be
offered a nasal spray flu vaccine in school. Click here for more information
Mae Pawb yn Gallu Llwyddo (Welsh only available)
Click here to read more
Caerdydd (Welsh only available)
Dyma nhw ein Blwyddyn 6 yn mwynhau eu hunain yng Nghaerdydd!
Click here to see more photos
Croeso`n ôl (Welsh only available)
Croeso cynnes yn ol i Ela a Lili i Ysgol LLanllechid. Bu`n fraint cael treulio bore hefo`n gilydd yn canu, peintio a rhannu straeon. Merch fach ddewr iawn yw Ela ac mae Lili yn ddigon o sioe!
Click here to see more photos
Llosg Fynydd (Welsh only available)
Mae rhai o blant y Cyfnod Sylfaen wedi bod yn dysgu sut i wneud llosg fynyddoedd, a dyma ymgais E.H. pan aeth ati gartref! Bendigedig!
Click here to see the video
Y Groes Goch Brydeinig (Welsh only available)
Llawer o ddiolch i Mr Dafydd Beech am ddod draw atom at Flwyddyn 6, sef dosbarth Mr Stephen Jones, i ddysgu sgiliau bywyd hanfodol sef: Cymorth Cyntaf. Llawer iawn o ddiolch i Mr Beech am fod mor barod i helpu`r ysgol mewn cymaint o wahanol ffyrdd.
Click here to see more photos
Concert
With Ysgol Llanllechid Pupils and Côr Meibion y Penrhyn.
Wednesday
26th of June
6.30pm
Location: Ysgol Dyffryn Ogwen
Click here for more information
Pencampwriaeth Cyfeiriannu Gwynedd (Welsh only available)
Parc Glynllifon oedd y lleoliad ar y sethfed o Fehein. Da iawn Osian ac Eban am eich ymdrechion.
Click here to see more photos
Sioe Dyffryn Ogwen (Welsh only available)
Llongyfarchiadau i`r holl disgyblion a ddaeth i`r brig yn y cystadlaethau Celf a Chrefft yn Sioe Dyffryn Ogwen.
Click here to see more photos
Gŵyl Rygbi (Welsh only available)
Ar gaeau Dol Ddafydd bu ein disgyblion Blwyddyn 3 a 4 yn cymryd rhan yng Ngwyl Rygbi`r Dalgylch. Da iawn chi!
Click here to see more photos
Neidr Penhesgyn (Welsh only available)
Gwrandewch ar y stori ddiddordol hon!
Click here to see the video
Peldroed (Welsh only available)
Mae disgyblion y Cyfnod Sylfaen wedi bod wrthi`n cyfarfod ar ol ysgol yn wythnosol i chwarae peldroed. Bydd yr Adran Iau wrthi hefyd o`r wythnos nesaf ymlaen!
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd (Welsh only available)
Llongyfarchiadau gwresog i Gwenno Beech ar ennill y wobr gyntaf am lefaru unigol yng nghystadleuaeth Blynyddoedd 3 a 4 yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd; talent a hanner! Llongyfarchwn ein cor cerdd dant ar berfformio ‘Un Blaned Gron’ mor soniarus yn y rhagbrawf yng Nghaerdydd. Roedd ein ensemble lleisiol hefyd yn werth eu clywed wrth i Chenai Chicanza, Mari Watcyn a Mia Williams gyd-ganu ‘Mil Harddach Wyt’ yn hyfryd, a`u lleisiau`n asio i`r dim. Dim llwyfan y tro hwn – ond dalwich ati genod; pwy a wyr beth fyddwch yn ei wneud yn y dyfodol gyda`r doniau hyn?! Diolch i Mrs Delyth Humphreys am eich hyfforddi. Hefyd, rydym yn hynod falch fod Adran Dyffryn Ogwen wedi dod i`r brig drwy ennill y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth partion cerdd dant dan 12 oed. Da iawn chi! Hyfryd gweld ein plantos yn cynrychioli`r ardal fel hyn. Cewch gyfle i fwynhau`r amrywiol eitemau mewn cyngerdd a gynhelir yn Ysgol Dyffryn Ogwen ar y cyd rhwng Ysgol Llanllechid a Chor Meibion y Penrhyn ar Fehefin 26. Manylion i ddilyn!
Click here to view the video
Cyfeiriannu (Welsh only available)
Llongyfarchiadau i Osian Sherlock ac Eban Pritchard ar ddod i`r brig mewn cystadleuaeth gyfeiriannu ym Mharc Padarn, Llanberis. Ymlaen rwan i`r bencampwriaeth yng Nglynllifon. Pob lwc hogie!
Sioe Dyffryn Ogwen (Welsh only available)
Cofiwch am y Sioe a gynhelir dydd Sadwrn. Os ydych awydd cystadlu - amdani!!
Click here for more information
Faenol Cross Country
Races for children from Conwy, Gwynedd and Anglesey County.
Click here for more information
Click here for more information
Ysgol Arweiniol Greadigol (Welsh only available)
Diolch i Anwen Burgess am ein cynorthwyo i ddatblygu gwaith yr ysgol ymhellach fel Ysgol Arweiniol Greadigol wrth i ni baratoi i arddangos campweithiau`r disgyblion wrth fynedfa`r plant bach. Bydd y cyfanwaith yn dathlu gwaith yr ysgol ar ein themau Meddylfryd o Dwf.
Click here to view more photos
Rhieni Newydd (Welsh only available)
Yn ôl ein harfer, croesawyd ein rhieni newydd a`u plant i`r ysgol yn ddiweddar. Cafwyd prynhawn byrlymus lle roedd y bychain wrth eu boddau yn cael cyfleoedd i chwarae gyda`r offer newydd ar gyfer y tu allan, yn enwedig y ceginau mwd newydd – diolch i Antur Waunfawr am eu creu!
Click here to view more photos
Ela a Lili (Welsh only available)
Anfonwn ein cofion cynhesaf at Ela a Lili sydd ar hyn o bryd yn treulio cyfnod yn yr Almaen. Rydym mewn cysylltiad parhaus gyda`r teulu bach, ac yn dymuno pob dymuniad da iddynt, ynghyd â gwellhad llwyr a buan.
Click here to view more photos
Cwricwlwm i Gymru (Welsh only available)
Mae Ysgol Llanllechid wedi bod yn gweithio`n greadigol a byrlymus, gan ymateb i`r cwricwlwm newydd ar draws yr ysgol. Cynhelir gweithdai ymarferol o`r dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6, sydd yn cwmpasu profiadau o ddatrys problemau drwy weithio mewn caffi; sgriptio a chreu sioeau ar gyfer Neuadd Ogwen; cyfansoddi a pherfformio; gweithio mewn syjeri `r meddyg a.y.b Mae`r disgyblion hynaf yn allweddol yn hyn o beth, wrth iddynt arwain a chynorthwyo`r disgyblion iau. Pleser yw gweld y fath gyffro a syniadau`r disgyblion yn flaenllaw yn hyn oll.
Capel Carmel (Welsh only available)
Diolch yn fawr i ffrind arbennig Ysgol Llanllechid, sef Mrs Helen Williams, am ein croesawu i Gapel Carmel unwaith yn rhagor. Bu Mrs Williams yn dysgu disgyblion y Cyfnod Sylfaen am y capel ac yn trafod y gwahanol nodweddion e.e. set fawr, puplud a.y.b. cyn canu cyfres o emynau i gyfeiliant Mrs Delyth Humphreys ar yr organ. Mae`n braf fod Capel Carmel mor agos at yr ysgol a`n bod yn gallu cerdded yno mor ddi-drafferth.
Click here to view more photos
Yr Wyddfa (Welsh only available)
Da iawn Billy, Ffion Jordan, Harry Jones a Mr Ady am gerdded i fyny`r Wyddfa i godi arian at achos da.
Gwyddonwyr o Fri (Welsh only available)
Bu disgyblion Bl 4, 5 a 6 yn gwisgo`u cotiau gwyn ac yn ymddwyn fel gwyddonwyr go iawn wrth ymwneud ag amrediad o weithgareddau ar y themau lliwiau. Roedd hen drafod a chrafu pen!
Click here to view more photos
Glanllyn (Welsh only available)
Unwaith eto, cafwyd taith hwylus dan wenau`r haul a phawb yn mwynhau cymryd rhan yn yr amrywiol weithgareddau. Diolch i Mrs Bethan Jones, Ms Gwenlli Haf a Ms Gwen am eu gofal a`u cymorth yn ystod yr ymweliad.
Click here to view more photos
Plannu (Welsh only available)
Mae disgyblion y Cyfnod Sylfaen wedi bod yn brysur yn plannu pob math o blanhigion a byddant yn barod i`w gwerthu i chi`r rhieni a ffrindiau`r ysgol yn fuan iawn.
Click here to view more photos
Prifeirdd (Welsh only available)
Yn nosbarth Mrs Marian Jones, ar ôl bod yn trafod barddoniaeth, a chael sgwrs am eisteddfodau, daeth dau o’r disgyblion â manylion i’r ysgol am gampau barddonol eu hen, hen deidiau! Dywedodd Carwyn fod ei hen, hen daid, John Ellis Williams wedi cipio cadair Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth ym 1916 am awdl yn dwyn y teitl ‘Ystrad Fflur’. A phwy oedd yn ail yn y gystadleuaeth? Neb llai na Hedd Wyn! Yna, daeth Lili i’r dosbarth gyda manylion am ei hen, hen daid hithau! David Jones oedd ei enw, a’i wobr ef oedd coron Eisteddfod Abergwaun ym 1936 am y bryddest ‘Yr Anialwch’! Dyna i chi beth ydi dawn.
Ysgol Eco (Welsh only available)
Fel rhan o waith yr ysgol fel Ysgol Eco, bu pob dosbarth yn ymwneud â themau oedd yn deillio o`r themau hyn. Bu rhai dosbarthiadau yn ymwneud â hyrwyddo teithiau iach; casglu sbwriel ac ailgylchu; creu modelau 3D allan o sbwriel; fforestydd trofannol; cynhesu byd-eang; gweithio mewn partneriaeth gydag Ynni Ogwen i greu tyrbin dwr; cymharu technegau ail-gylchu o gwmpas y byd a dadansoddi`r data; creu melinau gwynt, a chreu barddoniaeth ar lygredd. Bu disgyblion blwyddyn 3 yn creu sioe Swp a Sap ar gyfer plant bach y Cyfnod Sylfaen a Swp a Sap oedd enwau`r ddau ddihiryn a fu`n taflu`r sbwriel ar hyd y lle! Cyflwynwyd y cyfan i`r ysgol gyfan yn y neuadd. Bore gwerth chweil!
Adnabod Dail a Blodau Gwyllt (Welsh only available)
Aeth plant y Cyfnod Sylfaen am dro ar hyd Lon Bach Odro i ddysgu enwau`r blodau gwyllt a`r deiliach sy’n tyfu yno a sylwi ar ambell i fuwch goch gota hefyd!
Click here to view more photos
Gerddi Newydd yr Ysgol (Welsh only available)
Diolch yn fawr i`r rhieni a ddaeth ynghyd ar brynhawn Sul i greu`r gerddi. Diolch i Peter Jones am ei help. Diolch arbennig i Dafydd Cadwaladr am y coed, i dad Oscar, Dion Thomas am drefnu ac i Robin Williams, tad Elin a Mared Llewelyn am y pridd. Diolch hefyd i fam Catrin Sian, sef Ann Hughes Jones am yr hadau.
Click here to view more photos
Awareness Letter - Additional Learning Needs (ALN)
Click here for more information
By the Seaside
Click here for more information
Dawnsio yn y Galeri (Welsh only available)
Llongyfarchiadau i`r criw heini a fu`n dawnsio yn y Galeri yr wythnos hon. Diolch yn fawr i Ms Kathryn am eu hyfforddi a diolch hefyd i Ms LLiwen.
Click here to view more photos
Llwyddiant Eisteddfod y Sir (Welsh only available)
Dyma nhw y rhai a ddaeth i`r brig. Mwynhewch edrych ar ein lluniau!
Click here to view more photos
Celf a Chrefft yr Urdd (Welsh only available)
Llongyfarchiadau!
Canlyniadau Celf a Chrefft Eisteddfod Sir yr Urdd |
||
Name |
Position |
Competition |
Margiad Morris | 2nd | Gwaith Creadigol 2D Tecstiliau Bl 2 ac iau |
Efa Mai Hardy-Griffith | 1st | Jewellery Yr 3 and 4 |
Margiad Morris | 1st | 2D Artwork Yr 2 |
Margiad Ann Temple Morris | 1st | Printing on Fabric Yr 2 |
Efa Hardy Griffith | 3rd | Ceramig/Crochenwaith Bl 3 a 4 |
Elin Edwards | 3rd | Gwaith Creadigol 2D Tecstiliau Bl 3 a 4 ac iau |
Click here to view more photos
Llwybrau Dysgu (Welsh only available)
Unwaith eto, cafwyd llwybr dysgu llwyddiannus. Diolch i Mr Ieuan Jones GwE a`r Llywodraethwyr am ddod draw. A diolch i bawb am yr holl fwrlwm a chreadigrwydd. Bendigedig!
Click here to view more photos
Barti Ddu (Welsh only available)
Daeth Barti Ddu o Gasnewy` Bach draw i ddosbarth Mrs Rona Williams. Dyna i chi hwyl a gafwyd yn dysgu amdano!
Click here to view more photos
Owian Glyndwr (Welsh only available)
Bu dosbarth Mrs Marian Jones yn dysgu ac yn cyd-actio gyda`r ffigwr arloesol hwn.
Click here to view more photos
Cyfnod Sylfaen (Welsh only available)
Dyma ddisgyblion Ms Haf yn mwynhau`r gweithgareddau yn yr ardal tu allan.
Click here to view more photos
Gwefan Ysgol Llanllechid (Welsh only available)
Roedd bron i 100.000 o hits ar ein gwefan y mis diwethaf! Waw!
Easter Family Activities
Tuesday - 16/04/19
Click here for more information
Cydymdeimlo (Welsh only available)
Cydymdeimlwn â theulu Mrs Nerys Tegid sydd wedi colli `taid` sef Mr Sam Jones yn ddiweddar yn gant a phedwar. Rydym wedi clywed amdano yn ei ieuenctid yn marchogaeth ei geffyl dros y Berwyn i gwrdd a`i gariad. Dyn rhyfeddol. Anfonwn ein cofion cynnes atoch fel teulu.
Deinosoriaid (Welsh only available)
I gloi`r thema, cafodd y disgyblion goblyn o sioc pan gyrhaeddodd Tyranasawrws Rex anferthol iard yr ysgol!!!
Click here to view more photos
Y Gwcw (Welsh only available)
Pwy sy`n cofio`r gerdd Y Gwcw?
Click here to view the video
Plas y Tuduriaid ym Mhenmynydd (Welsh only available)
Braint oedd cael mynd i Benmynydd i gael crwydro o amgylch y Plas y Tuduriaid a dysgu am y cysylltiad Cymreig pwysig yma.
Click here to view more photos
Bingo Pasg (Welsh only available)
Diolch yn fawr i bawb a ddaeth draw i`r Clwb Criced i gefnogi ein Bingo Pasg. Cafwyd noson hwyliog lle roedd llu o wyau Pasg o bob lliw a llun i`w hennill. Diolch i`r pwyllgor gweithgar, o dan gadairyddiaeth Angharad Llwyd Beech am eu holl waith paratoi. Codwyd swm o £474 i gronfa`r ysgol. Diolch i chi i gyd.
Click here to view more photos
Caneuon Cymraeg Poblogaidd a Chreu Ynni (Welsh only available)
Er mwyn cynnal diddordeb y disgyblion mewn cerddoriaeth Gymraeg poblogaidd, cafwyd gweithdy byrlymus i holl ddisgyblion yr ysgol yn y neuadd. Meddai Aled, oedd yn arwian y gweithdy: “Gwefreiddiwch ar egni a staff a disgyblion Ysgol Llanllechid!! Roedd ymateb y disgyblion yn anhygoel, a bwrwlm yr ysgol yn fendigedig!” Cafwyd diwrnod o wrando, pleidleisio a chyd-ganu caneuon Cymraeg gan grwpiau ac unigolion e.e. Maharishi, Dafydd Iwan, Bryn Fôn, Candelas, Celt, Welsh Whisperer, 9Bach ac Yws Gwynedd a mwy. Cafwyd hefyd gyfle i feicio, a thrwy hynny, creuwyd ynni i gynhyrchu`r goleuadau llachar a`r sain! Dyna i chi beth ydi Ysgol Eco, ac ysgol sy`n trwytho`r disgyblion yn ein diwylliant!
Click here to view more photos
Ffilm (Welsh only available)
Mae disgyblion dosbarth Ms Gwenlli Haf wedi bod yn brysur yn creu ffilm ar themau Ysgol Werdd gyda Judith, Llinos a Cynan o Bartneriaeth Ogwen. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld y cyfanwaith hwn!
Dafydd ap Gwilym (Welsh only available)
Braint oedd croesawu Dafydd ap Gwilym i`n hysgol! Dysgwyd llawer amdano, sef mai ef oedd un o feirdd pwysicaf Ewrop yn ei gyfnod. Yn ôl pob tebyg, bu farw o`r pla du yn 1380. Roedd yn fab i Gwilym Gam ap Gwilym ap Einion. Erbyn hyn rydym yn gwybod yn dda am ei gerdd Trafferth Mewn Tafarn.
Click here to view more photos
Canlyniadau Ysgol Llanllechid yn Eisteddfod Sir yr Urdd |
||
Name |
Position |
Competition |
Gwenno Beech | 2nd | Yr 3 & 4 Solo |
Parti Chenai | 2nd | Voice Ensemble |
Gruffydd Beech | 3rd | Yr 3 & 4 Recitation |
Parti Mali Fflur | 3rd | Recitation Group |
Harri Morgan Bale | 2nd | Brass Solo |
Gwenno Beech | 1st | Cerdd Dant Solo Yr 3/4 |
Gruffydd Beech | 2nd | Cerdd Dant Solo Yr 3/4 |
Parti Chenai | 2nd | Cerdd Dant Party |
Gwenno Beech | 1st | Yr 3 & 4 Recitation |
Côr Ysgol Llanllechid | 1st | Côr Cerdd Dant |
Canlyniadau Celf a Chrefft |
||
Name |
Position |
Competition |
Grwp Gwydion Eryri | 1st | Creative 3D Yr 3/4 (Group) |
Harri Hinchliffe | 1st | Creative 3D Yr 3/4 (Individual) |
Tomos Owain Davies | 2nd | Creative 3D Yr 3/4 (Individual) |
Margiad Morris | 1st | Gwaith Creadigol 2D Tecstiliau Bl 2 ac iau |
Cadi Efa Hughes | 1st | Gwaith Creadigol 2D Tecstiliau Bl 3 a 4 |
Lloer Davies | 2nd | Jewellery Yr 2 |
Margiad Morris | 1st | Jewellery Yr 2 |
Lloer Davies | 2nd | 2D Artwork Yr 2 |
Grwp Catrin Sian | 1st | Creative 2D Yr 3/4 (Group) |
Grwp Erin Lois | 3rd | Creative 2D Yr 6 |
Elin Edwards | 2nd | Creative 2D Yr 3/4 |
Margiad Ann Temple Morris | 1st | Printing on Fabric Yr 2 |
Efa Hardy Griffith | 1st | Colour Print Yr 3 and 4 |
Margiad Morris | 1st | Series of Colour Print Yr 2 |
Efa Hardy Griffith | 1st | Ceramig/Crochenwaith Bl 3 a 4 |
Dawnsio Disgo (Welsh only available)
Llongyfarchiadau i’r dawnswyr disgo ar eu perfformiad gwych yn yr Eisteddfod Ddawns yng Nghricieth. Da iawn Mia,Hannah,Ffion,Maya, Sion,Osian,Erin,Hana,Elan,Evie,Chenai, Emily a Chloe.
Diolch i Ms Kathryn am eu hyfforddi ac i Ms Lliwen am ei help!
Click here to view more photos
Gwersi Drymio (Welsh only available)
Diolch i dad Sion am ddod i`r ysgol i roi gwersi drymio i`r plant! Pleser cael taro`r drymiau o dan ein coeden geirios!
Click here to view more photos
Easter Lunch
Click here for more information
Balwniau Aer Poeth (Welsh only available)
Mae Blwyddyn 3 wedi bod yn brysur yn creu darluniau o Falwniau Aer Poeth gyda Ms Anna. Maent yn werth eu gweld.
Click here to view more photos
Taith i`r Ysgwrn a Byd Mari Jones (Welsh only available)
Yma’n Ysgol Llanllechid rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn rhoi’r cyfle i’n disgyblion i ddysgu a gwerthfawrogi hanes Cymru. Yn ystod y tymor hwn mae Blwyddyn 6 yn dysgu am Freuddwydion a phenderfynwyd ac wrth iddynt gasglu syniadau, penderfynwyd ymchwilio i hanes bywyd Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn yn ogsytal a hanes Mari Jones. Cawsom groeso cynnes yn Yr Ysgwrn a mwynhaodd y disgyblion ddysgu am hanes y bardd enwog a chael adrodd barddoniaeth megis Dim ond Lleuad Borffor a’r Rhyfel. Roedd hi`n brofiad cael gweld y Gadair Ddu wreiddiol, sef y gadair enillodd Hedd Wyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw ym 1917.
Ymlaen wedyn i’r Bala i ymweld â Chanolfan Mari Jones. Yno bu’r disgyblion yn dysgu am ei hanes a sut arweiniodd ei hymdrechion at ledaenu argaeledd y Beibl ar draws y byd. Diwrnod penigamp yn dysgu am hanes unigolion a lwyddodd i wireddu eu breuddwydion; unigolion sydd â’u henwau wedi’u gwreiddio’n gadarn yn hanes Cymru.
Click here to view more photos
Gala Nofio (Welsh only available)
Llongyfarchiadau i`n nofwyr yma ar eu llwyddiannau yn y Gala Nofio
Dafydd Jones – 5ed Bechgyn blwyddyn 3 a 4 Dull Rhydd
Catrin Jones – 5ed Genethod blwyddyn 3 a 4 Dull Rhydd
Gwydion – 4ydd Bechgyn blwyddyn 3 a 4 Dull Cefn
Elin Edwrads – 6ed Genethod blwyddyn 3 a 4 Dull Cefn
Dylan Patrick – 4ydd Bechgyn blwyddyn 3 a 4 Dull Broga
Cadi Eirian – 6ed Genethod blwyddyn 3 a 4 Dull Broga
Caleb Mcleod – 3ydd Bechgyn blwyddyn 5 Dull Rhydd
Seren Roberts – 6ed Genethod blwyddyn 5 Dull Rhydd
Llyr Cook – 5ed Bechgyn blwyddyn 5 Dull Cefn
Mali – 3ydd Genethod blwyddyn 5 Dull Cefn
Ned Mcleod – 3ydd Bechgyn blwyddyn 5 Dull Broga
Amelie Drew – 2ail Genethod blwyddyn 5 Dull Broga
Osian McCollins – 1af Bechgyn blwyddyn 6 Dull Rhydd
Ffion Tipton – 4ydd Genethod blwyddyn 6 Dull Rhydd
Sion Edwards – 6ed Bechgyn blwyddyn 6 Dull Cefn
Chloe Davies – 6ed Genethod blwyddyn 6 Dull Cefn
Eban Pritchard – 7fed Bechgyn blwyddyn 6 Dull Broga
Mari Roberts – 5ed Genethod blwyddyn 6 Broga
Bethan – 2ail Genethod blwyddyn 6 Pili Pala
Plas Ffrancon (Welsh only available)
Dyma nhw disgyblion bach Ms Haf y dosbarth Meithrin yn mwynhau eu hymweliad wythnosol â Phlas Ffrancon.
Click here to view more photos
Dawnsio Disgo (Welsh only available)
Llongyfarchiadau i`r criw Dawnsio Disgo ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Symudol a diolch i Ms Katherine am eu dysgu i safon mor uchel. Llongyfarchiadau i grwp Mia ar ddod yn fuddugol ac i grwp Cadi Efa ar ddod yn ail. Rydym yn falch iawn ohonoch!
Click here to view more photos
Can Actol (Welsh only available)
Cafwyd Can Actol wreiddiol, wych! A`r plant ar eu gorau ar lwyfan yr Eisteddfod Symudol yn Ysgol Dyffryn Ogwen! Rydym i gyd yn falch iawn ohonoch. Bydd cyfle i drigolion yr ardal weld y gan actol a llawer mwy mewn Cyngerdd Mawreddog gan Ysgol Llanllechid yn fuan! Croeso i bawb! Manylion i ddiyn! Bydd elw`r cyngerdd hwn yn mynd tuag at gronfa Ela Williams a dymunwn yn dda iawn i Ela fach yn sytod y misoedd sydd i ddod, wrth iddi orfod derbyn trinaieth arbenigol iawn. Diolch i Mrs Marian Jones, i Mrs Llinos Wilson, Mrs Delyth Humphreys, Ms Rhian Haf a Ms Gwen Elin a Ms Angharad Llwyd am eu gwaith. Cafwyd cyfanwaith hwyliog, llawn bwrlwm gyda neges gref, gyfoes ynglŷn â`r angen i ddiogelu ein henwau traddodiadol, cyfoethog.
Click here to view more photos
Chwareli (Welsh only available)
Wrth astudio gwahanol chwareli , penderfynodd disgyblion dosbarth Mrs Marian Jones fynd i Flaenau Ffestiniog i`r Ceudyllau ac i Chwarel y Penrhyn i weld mangre gwaith eu cyn-deidiau, a chael craffu ar y Weiren Wîb.
Click here to view more photos
Ysgol Arweiniol Greadigol (Welsh only available)
Braint yw croesawu Anwen Burgess atom fel ysgol i ddatblygu gwaith yr ysgol ymhellach yn nghyd destun yr Ysgol Arweiniol Greadigol. Mae’r disgyblion yn ymwneud â llu o sgiliau gan ddatblygu eu gallu creadigol ar darws gwahanol feysydd.
Click here to view more photos
Llongyfarchion (Welsh only available)
Llongyfarchiadau i Gwenno ar ennill gwobr arbennig ar y rhaglen Stwnsh Sadwrn! Da iawn ti Gwenno!
Click here to view more photos
Te Bach Cymreig (Welsh only available)
Daeth rhieni disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn eu tro i fwynhau adloniant oedd yn cynnwys, adrodd barddoniaeth, dweud storiau, canu a dawnsio gwerin. Bu’r plantos yn paratoi yn ddyfal gan greu bwydlenni, gwahoddiadau a threfnu’r adloniant. Llawer o ddiolch i bawb ohonoch a ddaeth yma atom i fwynhau’r wledd!
Click here to view more photos
Deinosoriaid (Welsh only available)
Mae caban Mrs Williams yn edrych yn le peryg dros ben gyda’r olion traed yn ymddangos ar y llawr a’r wal yn arwain tuag at gartref y bwystfilod yma! Bu cryn brysurdeb yn y dosbarthiadau Ms Mithan, Ms Evans a Mrs Humphreys yn ddiweddar, gan gynnwys creu ffosiliau! Ac erbyn hyn y mae pob disgybl wedi creu deinasor yn ei ffordd ddi-hafal ei hun!
Click here to view more photos
Diwrnod y Llyfr (Welsh only available)
Braf oedd gweld plant yn gwisgo i fyny mewn cymeriadau o lyfrau Cymraeg eleni. Gwelwyd Blodeuwedd, Owain Glyndŵr a llawer mwy!
Click here to view more photos
Crempogau (Welsh only available)
Da oed y crempogau! Bu hen gymysgu a’r arogl hyfryd yn treiddio i bob twll a chornel.
Click here to view more photos
Llongyfarchion (Welsh only available)
Da iawn Elin Williams ar dy gamp ym maes gymnasteg.
Click here to view more photos
Tuduriaid (Welsh only available)
Cafwyd gweithdai am oes y Tuduriaid a thrafodwyd y cyswllt Penmynydd ac ati. Roedd hwn yn weithdy gwerth chweil!
Click here to view more photos
Eisteddfod yr Urdd (Welsh only available)
Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol Llanllechid ar eu perfformiadau,eu hynawsedd a’u hymddygiad yn Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen dydd Sadwrn diwethaf.
Dyma restr o ddisgyblion a ddaeth i’r brig. Diolch i bawb am gystadlu a llongyfarchion gwresog!
Click here to see the resuts
Eisteddfod Symudol Programme
Click here to read the programme
Diwrnod y Llyfr (Welsh only available)
Cafwyd cyfle euriadd i ddod at ein gilydd i fwynhau gorymdeithio a dawnsio o amgylch y neuadd i gerddoriaeth Candelas, a`r athrawon a`r cymorthyddion yn mwynhau bron yn fyw na`r plant! Tîm y Caban oedd yn disgleirio ac yn ennill y wobr! Braf gweld cymaint o`r plant wedi gwisgo i fyny fel cymeriadau hanesyddol neu gymeriadau o lyfrau Cymraeg. Diolch yn fawr i chi rieni a gwarcheidwaid am yr holl wisgoedd gwerth chweil.
Click here to view more photos
Crempogau Blasus (Welsh only available)
Yn ôl ein harfer, aethpwyd ati i greu crempogau a chawsom i gyd wala o`n gweddill.
Click here to view more photos
Deinosoriaid (Welsh only available)
Bu disgyblion bl 0 ac 1 yn creu deinosoriaid creadigol dros ben o bob lliw a llun, siap a maint. Pob un werth eu gweld!
Click here to view more photos
Machu Pichu (Welsh only available)
Diolch i Mrs Menna Jones am ddod atom i sgwrsio am ei thaith i Machu Pichu. Cafwyd gwledd yn gwrando ar Mrs Jones a dysgodd y disgyblion lawer iawn wrth graffu ar y mapiau a dysgu am nodweddion a`r hanes difyr yma.
Click here to view more photos
Llais y Plentyn - Protest Newid Hinsawdd (Welsh only available)
Bu`r disgyblion i gyd allan ar yr iard er mwyn codi llais yn erbyn newid hinsawdd, ar y diwrnod pan y bu miliynau o blant ar draws Ewrop yn gwneud yr un peth. Diolch i Mrs Meleri Davies, Prif Swyddog Ynni Ogwen am ddod yma i siarad hefo`r disgyblion, a`u hysbrydoli. Diolch hefyd i Beca o Ynni Cymunedol Cymru am eic chyfraniad hithau.
Click here to view more photos
William Elis Williams (Welsh only available)
Diolch yn fawr i Mr Dilwyn Pritchrad am ddod i mewn i ddweud yr hanes ac i egluro am y Mathemategydd a`r Gwyddonydd enwog, William Elis Williams. Roedd yn gymeriad lleol a lwyddodd i adeiladu awyren yn 1909, fel rhan o`i waith ym Mhrifysgol Bangor. Diolch Mr Pritchrad, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu nol atom pan fydd cyfle.
Gwasanaeth Archifdy Gwynedd (Welsh only available)
Cafwyd modd i fyw yn edrych ar gartrefi ers talwm, ac roedd y plant wrth eu boddau yn cael eu cyflwyno i fyd oedd yn hollol ddiarth iddynt.
Click here to view more photos
Traeth Llanddwyn (Welsh only available)
Cafwyd ymweliadau hyfryd gyda thraeth Llanddwyn, a gwelwyd olion yr hen eglwys, y ffynnon, y goleudai, sef Twr Bach a Thwr Mawr, a chraffwyd ar y tirluniau rhyfeddol a`r creigiau hynafol. Pleser oedd gweld ffrind annwyl i Ysgol Llanllechid sef Mrs Hanna Huws, y diwrnod hwn yn Llanddwyn hefyd. Cofiwn am gyfraniad aruthrol Mrs Hanna Huws i fywyd a gwaith Ysgol LLanllechid.
Click here to view more photos
Hyfforddiant Beicio (Welsh only available)
Bu Mr Stephen Jones yn cynnal hyfforddiant beicio i holl balnt yr Adran Iau fel rhan o`n rhaglen Ysgol Iach ac Ysgol Eco.
Click here to view more photos
Amgueddfa Awyr Caernarfon (Welsh only available)
Fel rhan o waith Blwyddyn 3 ar ‘Hedfan’, cafwyd taith wych i Ddinas Dinlle i weld yr ‘Amgueddfa Awyr’. Roedd cael y cyfle i fynd i mewn i rai o’r hofrenyddion a’r awyrenau yn brofiad bendigedig, ac roedd cael mynd dros y ffordd i weld yr Ambiwlans Awyr yn anhygoel. Cafwyd sgyrsiau diddorol gan beilot a meddyg, ac roedd ymatebion y disgyblion yn cael eu canmol yn fawr ganddynt. Roedd y plant i gyd wedi gwirioni ac wedi dysgu llawer.
Click here to view more photos
Ymweliad Mr Bale (Welsh only available)
Daeth Mr Bale, [tad Harri] i’r dosbarth i siarad am ei brofiadau fel peirianydd yn yr RAF. Dangosodd luniau o bob math o awyrenau, a soniodd am rai o’i anturiaethau gyda hofrenydd y Tim Achub. Mae wedi cerdded a dringo nifer o fynyddoedd gan gynnwys Everest, a gwelwyd lluniau diddorol iawn ganddo.
Silver Award
Click here to see the certificate
Half-Term Holiday Clubs Funded by Gwynedd Council
Click here for more information
Veg Power
Background
80% of our kids are not eating enough veg. Veg Power is on a mission to get the UK eating more of it! Our kids are bombarded with advertising all day, but only 1.2% of the food and drink advertising on TV is for veg.
Click here to read more
Addysg Gorfforol gan Stephen Jones, y Cydlynydd (Welsh only available)
Addaswyd ein amserlen yn ddiweddar ac mae’r amserlen wedi ei rannu ymysg yr athrawon. Yn ystod y tymor yma rydym yn cynnig y gweithgareddau â ganlyn:
Meithrin -
Derbyn a Blwyddyn 1 (Mrs Williams) – Sgiliau pêl amrywiol/dawns
Derbyn a Blwyddyn 1 (Miss Mithan) – Sgiliau pêl amrywiol/dawns
Derbyn a Blwyddyn 1 (Miss Elen Evans/Mrs Humphreys) – Sgiliau pêl amrywiol/dawns
Blwyddyn 3 – Sgiliau pêl/gymnasteg
Blwyddyn 4 – Campau a Dawns
Blwyddyn 4 a 5 - Gymnasteg
Blwyddyn 5 – Ffitrwydd/dawns/sgiliau pêl
Blwyddyn 6 – Ffitrwydd
Mae’r cysylltiad hefo Plas Ffrancon ble caiff y disgyblion ddatblygu sgiliau sylfaenol yn parhau. Yn ogystal, amserlenni’r gwersi nofio ym Mhwll Nofio Bangor ar gyfer disgyblion blynyddoedd 2 i 5. Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn derbyn asesiad nofio’r cwricwlwm yn ystod tymor yr Haf. Mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn derbyn hyfforddiant rygbi o dan arweiniad Rhys Jones, Swyddog Rygbi’r Dalgylch. Yn sgil hyn, cynhaliwyd gŵyl rygbi ar gyfer ysgolion y dalgylch yn ystod mis Hydref gyda phwyslais ar gyflwyno’r gêm a datblygu sgiliau sylfaenol. Mae disgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn elwa o glybiau chwaraeon a gynhelir ar ôl ysgol o dan arweiniad Mrs Tegid a Miss Gwenlli Haf. Bydd cyfnod o 6 wythnos o fentora gan Hoci Cymru yn gyfle da i ddatblygu sgiliau arweinyddol athrawon o fewn y maes. Bydd cyfnod o hyfforddiant o dan arweiniad Criced Cymru ystod tymor yr Haf. Yn ogystal, cynigir sesiynau allgyrsiol Kick It (amrywiaeth o chwaraeon) i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen a’r Adran Iau.
Llythrennedd Corfforol:
Cafwyd hyfforddiant Llythrennedd Corfforol buddiol gan Mr Ieuan Jones a Mr Gethin Mon yn ddiweddar. Rhaid sicrhau ein bod yn rhoi’r sylfaen orau i’r holl ddisgyblion er mwyn iddynt ddatblygu’n unigolion iach a hyderus yn ystod eu taith llythrennedd corfforol. Caiff sgiliau corfforol eu cysylltu â'i gilydd i greu cymalau symud er mwyn cyflawni gweithgareddau megis reidio beic, nofio neu wneud y naid hir.
Wrth i blant ddod yn fwy hyderus a phrofiadol wrth berfformio'r sgiliau hyn, byddant yn gallu eu defnyddio mewn gwahanol amgylcheddau ar draws ystod eang o gampau. Bydd y plant hyn yn datblygu'n oedolion sydd â'r sgiliau angenrheidiol i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol a'u mwynhau gydol eu bywyd ar ba lefel bynnag y byddant yn ei dewis, boed yn eu hamser hamdden neu mewn amgylchedd cystadleuol.
Yr hyn sy'n bwysig yw bod angen dysgu a datblygu'r sgiliau sylfaenol hyn o oedran cynnar er mwyn sicrhau bod y plant yn 'gwirioni ar chwaraeon am oes'. Mae gan athrawon yn sicr ran i'w chwarae yn y siwrnai bwysig hon at lythrennedd corfforol.
Cystadlaethau ar y gweill:
- Pêl droed i fechgyn a merched (Ebrill)
- Athletau’r Urdd (Mai)
- Criced (Gorffennaf)
- Cyfeiriannu (Mehefin)
- Traws-gwlad (Mehefin)
I’r dyfodol:
- Cydlynydd i fodelu gwers sgiliau pêl
- Codi niferoedd sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol
- Llais y plentyn: Datblygu Llythrennedd Corfforol
SAINT DAVID'S DAY
Click here for more information
French Pop Video Competition (Welsh only available)
Do you think you could sing or rap in French?
Do you have the skills to make a video clip for
your song? If so, this competition is for you!
Click here for more information
Cyffwrdd Syria (Welsh only available)
Bu disgyblion Blwyddyn 3 yn cymryd rhan yn y digwyddiad Cyffwrdd Syria yn Pontio a Storiel ar Ionawr 19. Bu`r disgyblion yn creu addurniadau yn arddull artistiaid Syria e.e mosaic a teils Syriaidd. Bu`r disgyblion yn dysgu am y wlad rhyfeddol hon fel rhan o`n rhagleni Addysg Byd, gan geisio edrych heibio i erchyllderau`r rhyfel a chraffu ar greadigedd pobl y wlad. Diolch o galon i Angharad Griffiths am ein hysbrydoli ac am ddod atom i`n gwasanaeth broeol.
Click here to view more photos
Gwylio Adar (Welsh only available)
Diolch yn fawr i ddosbarthiadau Bl 0 ac 1 am fynd ati i wylio adar ac i wneud bwyd pwrpasol ar eu cyfer.
Click here to view more photos
Santes Dwynwen (Welsh only available)
Wel am hwyl a gawsom ar y diwrnod arbennig hwn! Anwyldeb plant i`w weld yn glir wrth iddynt rannu cardiau ymhlith ei gilydd ac ati. Atgoffwyd pawb o`r stori a bu morio canu cân Dwynwen yn y neuadd ymysg gweithgareddau eraill. Pen llanw`r cyfan oedd y disgo cymraeg yn y neuadd gan Mr Stephen Jones.
Click here to view more photos
Chinese Menu
Click here for more information
Songs
Parti Cerdd Dant 2019
Cor Cerdd Dant Alto
Cor Cerdd Dant Soprano
Glyndwr Alto cyfeiliant
Glyndwr Soprano
Tymhorau
click here to listen to the songs
Blwyddyn Newydd Dda! (Welsh only available)
Bu disgyblion Bl 0 ac 1 yn brysur yn creu afalau calennig ac yn mynd o amgylch y dosbarthiadau yn canu eu rhigymau! Pob dymuniad da i bawb am flwyddyn newydd hapus a heddychlon.
Click here to view more photos
Diwrnod Ysgol Iach (Welsh only available)
Cafwyd ystod o weithgareddau gwahanol yn ystod ein diwrnod Ysgol Iach er mwyn ail-danio a llenwi bylchau yn ein cynllun. Un o`r uchafbwyntiau oedd sesiwn ioga yn nosbarth Mrs Gwenlli Haf! Bu`r disgyblion yn dysgu am bwysigrwydd strategaethau gwrth-fwlio a hawliau; sgipio ar yr iard; mynd am dro i chwarel Pantdreiniog, mesur ffitrwydd gyda Dr Ross Roberts; cadw`n heini gyda Ms Emma Williams; cyflwyniadau gan yr NSPCC a llawer mwy!
Click here to view more photos
Diwrnod Ysgol Iach (Welsh only available)
Cafwyd ystod o weithgareddau gwahanol yn ystod ein diwrnod Ysgol Iach er mwyn ail-danio a llenwi bylchau yn ein cynllun. Un o`r uchafbwyntiau oedd sesiwn ioga yn nosbarth Mrs Gwenlli Haf! Bu`r disgyblion yn dysgu am bwysigrwydd strategaethau gwrth-fwlio a hawliau; sgipio ar yr iard; mynd am dro i chwarel Pantdreiniog, mesur ffitrwydd gyda Dr Ross Roberts; cadw`n heini gyda Ms Emma Williams; cyflwyniadau gan yr NSPCC a llawer mwy!
Eisteddfodau`r Urdd (Welsh only available)
Eisteddfod Cylch yr Urdd Mawrth 16
Eisteddfod Ddawns Mawrth 20
Eisteddfod Sir yr Urdd Mawrth 30
Celf a Chrefft i Ysgol Garnedd erbyn Ebrill 1af
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwau: Chwefror 18
Cerdd a Llun (Welsh only available)
Diolch yn fawr i Mr Gwynfor Lloyd Griffiths am ddod draw i`n hysgol i drafod ei lyfr Cerdd a Llun. Mae Mr Griffiths yn yn arlunydd heb ei ail ac ame`r darluniau sy`n cyd-fydn â`r cerddi yn werth eu gweld. Diolch i chi Mr Griffiths am rannu eich atgofion hefo ni a diolch am y gyfrol, sy`n werth ei chael.
Llety Lloerig (Welsh only available)
Click here for more information
Brecwast i bawb (Welsh only available)
Cyfle gwych i gefnogi Alzheimers Society Cymru a FCN
Rydym yn eich gwahodd i frecwasta gyda ni unwaith eto yn un o 7 o leoliadau ar draws yr hen Sir Gaernarfon ble fydd teuluoedd fferm yn paratoi brecwast llawn i cyn gymaint o bobl â phosib. Rydym yn parhau i gefnogi elusennau Llywydd Cenedlaethol yr Undeb sef Cymdeithas Alzheimers Cymru a FCN (Farm Community Network) a byddwn hefyd yn codi arian tuag at Cronfa Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 yn Nhŷ’n Hendre, Cefn Cae a Dylasau Uchaf. Mae croeso i chi fynd i unrhyw un o’r brecwastau, achlysur sydd yn cymryd lle am y degfed flwyddyn o’r bron. Rydym eisioes wedi codi dros £50,000 yn ystod yr wythnos hon dros y naw mlynedd diwethaf i gefnogi achosion lleol a chenedlaethol. Mae’n gyfle gwych i chi flasu cynnyrch o’r sir, cyfrannu yn hael tuag at elusennau gwerth chweil, ac hefyd i gymdeithasu gyda phobl na fuasech fel arfer yn rhannu’r bwrdd brecwast gyda nhw!!! Mae hyn i gyd am £10 gyda’r cwbl yn cael ei rannu rhwng yr elusennau. Mae nifer o fusnesau lleol wedi cytuno i roi’r bwyd i gyd am ddim i ni ac rydym yn gwerthfawrogi hynny yn fawr iawn. Bydd rhestrau o’r busnesau yn cael eu harddangos ym mhob lleoliad. Dyma’r lleoliadau a’r dyddiadau i chwi eu hystyried:-
21/01/19 – Tŷ’n Hendre, Tal-y-bont, Bangor trwy garedigrwydd Alun ac Anita Thomas – rhif ffôn 01248 362 871
21/01/19 – Cefn Cae, Rowen, Conwy trwy garedigrwydd Meirion a Gwenan Jones – rhif ffôn 01492 650 011
23/01/19 – Coleg Glynllifon, Coleg Meirion-Dwyfor, Ffordd Clynnog, Caernarfon trwy garedigrwydd Grwp Llandrillo-Menai – rhif ffôn 01286 672 541
24/01/19 – Gwythian, Aberdaron trwy garedigrwydd Alan a Catrin Williams – rhif ffôn 01758 760 343
25/01/19 – Dylasau Uchaf, Padog trwy garedigrwydd Glyn ac Eleri Roberts – rhif ffôn 01690 770 215
25/01/19 – Caffi Anne, Marchnad Bryncir trwy garedigrwydd Anne Franz – rhif ffôn 01286 672 541
26/01/19 – Crugan, Llanbedrog, Pwllheli trwy garedigrwydd Richard a Gwenno Jones – 01758 740 273
Os hoffech fynychu unrhyw un o’r brecwastau, a gobeithiwn yn fawr y byddwch yn gallu ymuno gyda ni, cysylltwch yn uniongyrchol gyda’r lleoliad i gadarnhau eich presenoldeb. Mae’n bosib trefnu amser cynharach os oes angen, ac mae croeso i chi ddod a ffrindiau gyda chi. Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol eich hun gallwch yrru cynrychiloydd ar eich rhan.