Newyddion Ysgol Llanllechid

 

Gwellhad Buan
Anfonwn ein cofion cynhesaf at Anti Carol, a dymunwn wellhad buan iawn i chi.


line

Llywodraethwyr
Yn ôl ein harfer, cynhaliwyd cyfarfod o’r Llywodraethwyr ym mis Medi; dim byd yn rhyfedd yn hynny, medde chi! Nagoes siwr, ond roedd un peth yn ein taro yn rhyfedd iawn; roedd sedd Mr Godfrey Northam yn wag. Rydym ar ddeall nad yw iechyd Mr Northam yn rhy dda ar hyn o bryd. Mae’n ddrwg gennym glywed hyn, ac fel ysgol anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau at Mr Northam am wellhad buan. Mae cyfraniad Mr Northam bob tro yn arbennig iawn i’n Llywodraethwyr, ac roedd hi’n chwith hebddo yn ein cyfarfod diwethaf.

line

Rhodd Arbennig
Daeth profedigaeth fawr arall i ran Anti Gillian pan fu farw ei gwr ym mis Awst eleni. Derbyniodd Ysgol Llanllechid rodd arbennig o £500 gan deulu Mrs Gillian Griffiths, sef Anti Gillian i ni, i gofio am ei ddiweddar wr, Mr Dafydd Griffiths. Fel ysgol, diolchwn i chi o waelod calon am eich haelioni tuag atom. Byddwn yn sicrhau fod yr arian yn cael ei wario yn uniongyrchol ar ein plantos. Diolch o waelod calon. Cydymdeimlwn gyda’r teulu oll yn eu hiraeth a`u colled.

line

Crefftau’r Wennol
Os oes unrhyw un eisiau llun arbennig o olygfa/anifailanwes/portread a.y.b. wedi cael eu greu mewn gwahanol gyfryngau e.e inc, cyfryngau, dyfrlliw, fel anrheg Nadolig, cysylltwch â Chrefftau’r Wennol!

line

Sglodion Y Mabinogion

Cafodd dosbarth Mrs Rona Williams groeso cynnes yn siop Y Mabinogion ar y Stryd Fawr. Llawer iawn o ddiolch i Mrs Eirian Williams a Ms Beca Davies am fod mor arbennig hefo’n disgyblion! Roedd ein plantos wrth eu boddau go iawn yn helpu eu hunain i’r sglodion, ac yn cael gwledda! Gwyn eu byd! Diolch o galon i chi!

line

Tractors

Thema Blwyddyn 1 ar hyn o bryd yw tractors! Does dim byd tebyg i dractors Masey Ferguson, a phan gyrhaeddodd dau ar iard ein hysgol, roedd ein plantos wedi gwirioni! Llawer iawn o ddiolch i Mr Dafydd Corbri Roberts a Mr David Hughes am roi o’u hamser prin, i ddod â nhw i ddangos i’n disgyblion. Mi ydan ni i gyd yn gwybod pa mor brysur ydi ffermwyr! Mi gawson ni fore bendigedig, a’r plant bach yn cael cyfle i eistedd ar y ddau dractor. Diolch yn fawr!

line

Capel Celyn

Dyna brofiad oedd cael mynd eleni i Gwm Tryweryn ar ddechrau’r tymor; profiad ysgwytol, a dweud y lleiaf. Cawsom ymlwybro ar hyd yr hen ffordd oedd ym mhentref Capel Celyn, a sefyll ar safle’r capel Methodistiaid, a dynnwyd i lawr yng Ngorffennaf 1964. Hyn i gyd yn bosibl wrth gwrs, oherwydd yr haf tanbaid. Er i ni chwilio am y bont,- roedd honno’n dal i guddio dan y don, yn anffodus. Daeth y disgyblion o hyd i bob math o ddarnau o arteffactau o’r oes euraidd honno pan oedd cymuned uniaith Gymraeg yn ffynnu yn Nghapel Celyn. Darnau bach gwerthfawr oedd rhain oedd yn golygu llawer i’n disgyblion deng mlwydd oed; darnau bach o lestri, handlen drws haearn a.y.yb a’r cyfan wedi bod ar goll yn y mwd ers y chwedegau. Dyma ymweliad a’n sobrodd i gyd, wrth i’n pobl ifanc geisio deall a dirnad yr hyn a ddigwyddodd yn yr oes â fu. Erbyn hyn, mae’r darnau yma o farddoniaeth gan Aled Lewis Evans ar gôf a chadw’r disgyblion, a diolch i Cai Fôn Davies am ei anfon atom.

"Rhos y Gelli, Penbryn Mawr
Coed y Mynach, Pont Cae Fadog
Garnedd Lwyd, Hafod Fadog a Thyddyn Bychan
Roedd yn rhaid i bobl anghofio eu cartrefi, anghofio iddynt erioed fod."

line

Hel Mwyar Duon
Roedd yna gnwd a hanner o fwyar duon eleni ar y perthi, a be gewch chi well na chacan mwyar duon! Dyma’n union fu dosbarth Mrs Bethan Jones yn ei wneud! Bu’r plant bach yn brysur yn hel mwyar duon ar Lon Bach Odro, a chafwyd gwledd!

line

Tymor y Cynhaeaf
Mae gardd yr ysgol yn werth ei gweld! Pob math o lysiau eleni a`r goeden afalau yn llawn o afalau bochgoch! Braf yw medi yr hyn a heuir!

line

Gwobr Heddwch
Yn ystod ein gwasanaeth heddwch, derbyniwyd gwobr anrhydeddus sef gwobr heddwch. Cafodd y wobr hon ei chyflwyno i’n hysgol ar ddechrau’r tymor fel arwydd o`r holl waith sydd wedi ei gyflawni ar y thema heddwch, a hynny drwy`r ysgol. Braf yw cael cydnabyddiaeth fel hyn! Diolch i Mrs Rhiannon Williams am ysgrifennu ein can heddwch, ac i Mrs Llinos Wilson am ei rôl allweddol gyda’r gwaith.

line

Noson Wobrwyo Ysgol Dyffryn Ogwen
Braint oedd cael bod yn bresennol. Pob dymuniad da i bawb.