Themau

Dosbarth Ms Evans/Ms Haf: Hapusrwydd
Dosbarth Mrs Wilson: Blasus
Dosbarth Mrs Williams: Y Goedwig
Dosbarth Mrs Marian Jones: Y Goedwig
Dosbarth Mrs Parry Owen: Teuluoedd
Dosbarth Mrs Bethan Jones: Esgyrn,gwaed a darnau gwaedlyd
Dosbarth Mr Stephen Jones: Mwy na Mods a Rockers
Dosbarth Mr Huw Jones: Mwy na Mods a Rockers
Dosbarth Ms Hanna Huws: Trychfilod
Dosbarth Mrs Tegid/Ms Ellis: Mwy na Mods a Rockers
Blynyddoedd 4 a 5 - Cyfnod y Chwedegau
Tryweryn: Rhai o Ffermydd a Thrigfannau Capel Celyn yn y Pumdegau
• Gwerndelwau
• Brynhyfryd
• Coed Mynach
• Garnedd Lwyd
• Hafod Fadog
• Y Tyrpeg
• Tyddyn Bychan
• Dol Fawr
• Fferm Penbryn Fawr
• Tŷ`n y Bont
• Tŷ Capel
• Glan Celyn a`r Llythyrdy
• Moelfryn
• Y Gelli
• Fferm TanyBont
• Dôl Fawr
• Fferm Gwerngenau
• Fferm Penbryn Mawr
Capel Celyn
Saif Cwm Tryweryn ryw bum milltir i`r gogledd o`r Bala ar y ffordd sy`n arwain i Drawsfynydd. Ym Mhen ucha`r cwm mae Llyn Celyn, ac o dan y dwr saif olion pentref Capel Celyn: tai, ysgol, llythyrdy, capel a mynwent. Yn ogystal, boddwyd deudeg o ffermydd gan achosi i 48 allan o`r 67 o drogolion yr ardal golli eu cartrefi. Amaethyddiaeth oedd y prif ddiwydiant gyda`r mwyafrif o`r ffermwyr yn denantiaid ar stad y Rhiwlas tra gweithiai eriall ar y rheilffordd ney yn chwarel gyfagos Arenig.
Dafydd Roberts, Caefadog yn y Pumdegau:
“Y mae hon yn ardal lle mae pob enaid cant y cant yn siarad Cymraeg..ac wedi gwneud eu rhan i gadw diwylliant a chrefydd. Er nad oes Ann Griffiths na Williams Pantycelyn wedi eu magu yma, gallwn ymffrostio yn ein beirdd, ein hathrawon a`n llenorion, y rhai y bu Cymru ar ei mantais o`u cael.”
Adroddiad olaf Arolygwyr ei Mawrhydi ar Ysgol Celyn ym Mehefin 1958
“This one teacher school serves a remote, scattered, rural area of Cwm Tryweryn and is a thoroughly Welsh speaking area with proud traditions of musical and literacy culture..The teaching of English presents obvious difficulties as the pupils hear very little, if any, English outside the school.”
Tachwedd 16, 1956: Gorymdeithio yn Lerpwl
“Cawsom ein hebrwng drwy`r ddinas gan yr heddlu a`r hyn sy`n glynu yn y cof yw bod rhai o hen wragedd y lle…yn gweiddi ac yn poeri arnom, rhai eraill yn ein diawlio`n ddidrugaredd ac yn ein galw`n bob enw.” Elwyn Edwards
Dafydd Roberts, Caefadog yn 1958:
“Nid ydym yn hoffi o gwbwl fod traftadaeth ein hyafiaid yn cael ei dwyn, gyda`i chapel y llafurwyd yn ddiwyd i`w godi, a`r fynwent, lle y gorwedd eu llwch.”
Gorffennaf 25, 1963 - Disgyblion olaf Ysgol Celyn:
“Adeg boddi`r cwm roedd y plant yn ofnus dros ben gan gredu y byddai`r dwr yn dod yn sydyn ac yn boddi pawb”
Llyn Celyn (Adeg Sychder Mawr 1976)
Olion fy hil a welaf, ac aelwyd
A foddwyd ganfyddaf
Ailagor craith i`r eithaf
A wnaeth Cwm yr hirlwm haf.
Elwyn Edwards
Cliciwch yma i weld mwy o luniau