Ymwelwyr

Iechyd a Diogelwch yn y Maes Parcio
Hoffem apelio arnoch i gymryd pob gofal wrth ddanfon a nôl eich plant o’r ysgol gan fod cryn brysurdeb tu allan i brif fynedfa’r ysgol wrth y drofan ar ddechrau a therfyn y diwrnod ysgol.

Gyrwyr Ceir
Cofiwch:
Yrru yn araf a gofalus
Barcio yn y llefydd priodol
Ollwng eich plant o’r ceir mewn man diogel

Cerddwyr
Cofiwch gadw at y mannau diogel gan edrych ar ôl eich plant drwy’r amser.
Mae hi’n anodd gweld plant bach tu ôl i’r ceir.
Sylweddolwn fod parcio yn gallu creu problemau, felly apeliwn arnoch i rannu ceir lle bo
hynny’n ymarferol. Cofiwch am apêl ein Cyngor Ysgol a’n Grwp Ysgol Werdd: helpwch ni i
leihau'r nifer o geir sy’n defnyddio ein maes parcio!