Ysgol Masnach Deg
![]() |
Ysgol Gyntaf Masnach Deg Gwynedd! Mrunal Lahankar yn dod i drafod Cotwm Masnach Deg yn yr India |
Y plant o’r cychwyn fu’n gyrru agenda Masnach Deg yr ysgol. Mae’r clod am i Ysgol Llanllechid fod y cyntaf yng Ngwynedd i dderbyn achrediad Ysgol Masnach Deg yn mynd i’r disgyblion brwdfrydig ac egwyddorol. Ar ôl astudio caethwasiaeth mewn hanes yng nghyd-destun eu partneriaeth a Jamaica aeth y disgyblion ati i ymchwilio a oedd unrhyw anghyfiawnder yn bodoli heddiw nad oeddent yn ymwybodol ohono. Wrth ganfod mai plant oedd yn gwneud rhai o’n nwyddau, a bod oedolion hefyd yn medru dioddef wrth fod mewn dyled oes i’w cyflogwyr mewn amodau gwaith annheg, buan iawn y penderfynodd y disgyblion, nifer yn ddisgynyddion i streicwyr undebol Chwarel y Penrhyn, eu bod am ymgyrchu yn yr ysgol a’r ardal dros brynu nwyddau Masnach Deg. Eu dadl yw fod paned o de neu far o siocled yn blasu’n well os ydych yn gwybod nad oes plentyn nac oedolyn wedi dioddef wrth gasglu a pharatoi’r cynnyrch a fod rhan o elw cynnyrch Masnach Deg yn dychwelyd i’r gymuned i dalu am ysgolion neu glinigau yn ôl y gofyn yn lleol.
Disgyblion yn frwd dros Masnach Deg! |
Y disgyblion yn trefnu raffl Masnach Deg |
Mae ymgyrchoedd y disgyblion yn cynnwys gweithgareddau fel cynhyrchu nwyddau Masnach Deg, cynnal raffl gyda phob tocyn yn costio label Masnach Deg, arolwg argaeledd nwyddau Masnach Deg yn siopau’r ardal, sesiwn blasu ‘dall’ siocled i’r disgyblion…a’r rhieni, gwahodd cynhyrchwyr Masnach Deg o dramor i gyflwyno eu profiadau, crefftau Masnach Deg, creu adnoddau i ysgolion eraill, ac amrywiol ddathliadau bywiog Masnach Deg.
Dywedodd Tristan Humphreys, Rheolydd Ymgyrchoedd Masnach Deg Cymru: “Roeddwn efo Mrunal (o India) i drafod cotwm Masnach Deg gyda dosbarthiadau Blynyddoedd 5&6 a roeddwn wrth fy modd gyda’r croeso. Mae’r awyrgylch o amgylch yr ysgol a brwdfrydedd y disgyblion dros Fasnach Deg yn ysbrydoledig!