Ysgol Rhyngwladol

 

“Mae’r ddarpariaeth ar gyfer hybu dealltwriaeth a phrofiadau’r disgyblion o ddinasyddiaeth fyd-eang yn rhagorol. Mae parchu aml-ddiwylliannau, hybu agweddau gwrth hiliaeth a datblygu tegwch a chyfle cyfartal, yn elfennau cryf o ddiwylliant yr ysgol.”
Adroddiad Arolwg Ysgolion Estyn 2010.

ysgol ryngwladol
ysgol ryngwladol
Bl 3&4 yn dathlu cael
pen-pals yn Jamaica
Ymwelwyr i'r ysgol

Beth all fod yn bwysicach na pharatoi ein plant ar gyfer y byd mawr. Mae’n fyd o gyfleodd gyrfaol, busnes a diwylliannol cyffrous ond hefyd yn fyd o gyfrifoldebau cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae cyd-weithio ag ysgolion dramor yn hwb mawr i ddealltwriaeth a sgiliau iaith, rhifedd, technoleg gwybodaeth, celf, hanes a daearyddiaeth y disgyblion. Yn wir, oherwydd llwyddiant ein partneriaeth hirdymor gydag ysgol yn Jamaica, dewiswyd Ysgol Llanllechid gan y Cyngor Prydeinig fel yr esiampl orau o arfer dda ar gyfer disg hyfforddi fyd-eang.

Brwdfrydedd a mwynhad y disgyblion sy’n gyrru ein cwricwlwm Addysg Byd wrth iddynt fwrw ati i ee:
• Gyfathrebu gyda’u pen-pals o’n hefaill ysgolion yn Jamaica a Thsieina.
• Ddathlu gwyliau diwylliannau eraill.
• Ddysgu am agweddau diddorol o fyw a bwyta mewn gwledydd eraill.
• Groesawu ymwelwyr o wledydd ar draws y byd gan gynnwys Japan, China, India, Y Ffindir, Sierra Leone, Lesotho, Namibia, Zimbabwe a Jamaica.
• Datblygu prosiectau thematig a chyfredol gyda’u partneriaid tramor ee Y Gemau Olympaidd, Pencampwriaeth Rygbi’r Byd, Pencampwriaeth Pêl-droed y Byd, daeargrynfeydd a tsunamis, diddymu caethwasiaeth, hawliau dynol, gwrth-hiliaeth, cyfoeth a thlodi, Masnach Deg, cyd-ddibyniaeth, cynefinoedd a’u creaduriaid, gwarchod ein hamgylchedd, iechyd a ffitrwydd drwy chwarae, celf a cherddoriaeth.

ysgol ryngwladol
draig
Ysgol Rhyngwladol gyda
ysgol partner yn Tsieina
Y Ddraig Tsinaeaidd wedi dod
i ddathlu ar yr iard


Prawf o’r llwyddiant yw, dro ar ôl tro, mae ymwelwyr yn dweud nad oes curo ar ein disgyblion am eu trafodaeth aeddfed o agweddau o bwys yn ein byd na’u brwdfrydedd i roi cefnogaeth a chymorth i eraill mewn argyfwng. Un o’n hoff ymwelwyr erioed yw’r bardd byd-enwog Benjamin Zephaniah a ddywedodd: : “Bydd gennyf bob amser le arbennig i’r ysgol hon yn fy nghalon, a dwi’n meddwl ei fod yn esiampl dda o ysgol a all ar yr wyneb ymddangos yn bell o bobman, ond sydd mewn gwirionedd mewn cyswllt uniongyrchol a’r byd.