Ysgol Werdd
Cafodd ein Grwp Eco syniad da, sef cynnal diwrnod o ffeirio a chyfnewid llyfrau a dillad yn y neuadd gan roi cyfraniad tuag at y Groes Goch, er mwyn cynorthwyo pobl a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd diweddar. Diolch i`r disgyblion a`u teuluoedd am gefnogi`r ymgyrch hon, a diolch am eich cyfraniadau hael. Codwyd £186.08 i`r Groes Goch. Bu`r disgyblion hefyd yn trafod themau yn ystod y diwrnod e.e. cynhesu byd-eang; effaith sbwriel, yn enwedig plastig, ar yr amgylchedd; ailgylchu; arbed ynni; coedwigoedd traofannol; tywydd – corwyntoedd ac ati.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau
![]() |
Dyma lun o'r clwb menter yn cael hwyl ar y plannu. |
Sbarci a Fflic
Llongyfarchiadau i Griw Sbarci a Fflic sydd wedi llwyddo i arbed 12.5% o ynni yn ystod 2013 - 2014
Mae Ysgol Llanllechid wedi derbyn Gwobr Aur Ysgol Werdd ers 2010.
Mae’r ysgol yn hynod falch bod ein disgyblion yn gyfarwydd a’r gwerthoedd sydd yn caniatau iddynt gymryd gofal o’u hardal leol, ac yn ehangach wrth ystyried gwarchod ein daear. Mae ein disgyblion wedi:
• trafod newid hinsawdd ar draws y byd a chanlyniadau hynny.
• cadw cofnod o effaith tywydd yn lleol a dwy ardal arall dros gyfnod o 3 mlynedd.
• torri i lawr ar ddefnydd o fatris a defnyddio offer sy’n rhedeg ar ‘fains’ neu fatris y gellir eu hailwefru.
• canfod ôl troed carbon Gwynedd a’i gymhau ag ardal arall gyfagos dros gyfnod
• addysgu’r gymuned am ffyrdd amgen o deithio.
• trafod dull adnewyddadwy ac anadnewyddadwy o gynhyrchu ynni yn lleol a thu hwnt
• trafod dull o fyw teulu sy’n dibynnu llai ar ynni anadnewyddadwy
• trafod dros gyfnod faint o wastraff a gynhyrchir a sut y gellir ei leihau
• dylanwadu ar eraill i leihau treuliant a gwastraff
• cynnal gardd/llecyn bywyd gwyllt
• astudio lleoliad gwaith lleol a thu hwnt sy’n diogelu’r amgylchedd naturiol
Trwy gydweithio gydag ansiantaethau lleol mae Ysgol Llanllechid y gweithio drwy’r flwyddyn ar sicrhau cynhaliaeth o’r agweddau uchod e.e.
Ailgylchu dillad gydag Antur Waunfawr
Dwr Cymru(Canolfan Alwen) – gweithdai ar sut i arbed dwr
Ymweliad a Choed Meurig a Blaen y Nant
Cyngor Gwynedd – arbed ynni gyda Ms. Marial Edwards